Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
EiHOllAD Y PARCH. J. D. JONES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EiHOllAD Y PARCH. J. D. JONES, M.A., B.D., BOURNEMOUTH, YN GADEIRYDD UNDEB CYNULL- EIDFAOL LLOEGR A CHYMRU. Diau yr una Cymry yn mhob man i lon- fj^arF. y gweinidog poblogaidd hwn ar ei "dewisiad i'r Gadair bwysig hon. Nifer y pleidleisiau a r-oddwyd oedd 1,557, ac ohon- yiit cafodd efe 1,003, mwy 0 dros ddau cant nag oedd yn hanfodol i'w etholiad. Saif yn Uehel iawn yn marn ei Enwad yn Lloegr a Chymru, a chyflawn haedda hyny. Cawsom yn ddiweddar gyfle i weled y gwaith da a gyflawna yn Bournemouth, a darllenasom gyda bias Adroddiad blynyddol ei eglwys, a chyfrol y Jubili. Dengys y ddau iyfr yn eglur, tra yr oedd ereill, ac yn enwedig ein cydwladwr enwog, Ossian Davies, wedi gWneyd yno waith ardderchog, ei fod yntau Jf11 ei barhau yn rhagorol, ac yn peri iddo yned ar gynydd o hyd. Glwyddis yn dda am y gwaith mavvr a gyflawna y tu- ian i'w gylch ei hun, a'r llyfrau a gyhoedd- pd eisoes. Boed iddo gael blwyddyn o f ^yd a llwyddiant mawr yn y Gadair uchaf edr ei Enwad roi iddo.
YR ETHOLIADAU DIWEDDAF.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR ETHOLIADAU DIWEDDAF. WOLVERHAMPTON. >Cymerodd yr Etholiad hwn le ddydd x a.Wrth, Mai 5ed, pryd y pleidleisiw3'd *fel y eanlyn — Mr G. Thorne (R) 4,514 Mr L. S. Amery (C) 4,506 M wyafrif 8 v ^-yfrifwyd y pleidleisiau ddwy waith, ond £ Rhyddfrydwr oedd uchaf bob tro. arganfYddwYd fod nifer o weithwyr yn I^ysaght yn Nghasnewydd* & Rv. j u ganddynt yn Wolverhampton, gaoddodd Mr D. A. Thomas, A.S., fenthyg iioT1\°~r~car i gymeryd pedwar ohonynt yr dro rc^ Wolverhampton, i bleidleisio Cy*Mr Thorne, yr hwn sydd o haniad
-----ETHOLIAD DUNDEE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIAD DUNDEE. SUDDUGOUAETH MR CHURCHILL. ^^aethpwyd canlyniad yr etholiad lyo- yn hysbys nos Sadwrn, fel y can- Churchill (R) 7,079 Baxter (T) 4,370 Stuart (Elafur) 4,014 Scrymgeour (Llwyr-Ataliwr) 655 Mwyafrif Rhyddfrydol 2,709 rha? art' yr ymgeisydd Llafur, oedd un o'r furi\cyntaf i longyfarch Mr Churchill ar ei Caul U^.°^a.etb. Priodolai Mr Churchill y yniad i Fasnach Rydd a Dirwest. hpj^^rodd Mr Churchill ei le yn y Senedd ,'e(%w (dydd Llun).
ETHOLIADAU EREILL-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ETHOLIADAU EREILL- y go1 Ule Rhyddfrydwyr Sir Benfro wedi ^tr Vtr 'nf Walter F. Roch, nai y diweddar ydd •/ 1', •^owe^f A.S., i sefyll fel yrngeis- sy'u yn ^e. Mr Wynford Phillips, yr hwn °ddloni SW-yC*C*0' aC mae yntau we^i -<O_
.MERTHYR TYDFIL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MERTHYR TYDFIL. G flylled,l d DezZwng, --Ycbydig dros ddwy °^' daeth y Parch D. Eurof ymddvfri 0 eglwys Salem, Llan- ^in> 1 r dref hon, i weinidogaethu i eglwys Seisonig yr Annibynwyr yn Market Square. Teimlodd pawb oedd yn ei adwaen y buasai ei ddyfodiad yma yn gaffaeliad nid yn unig i'r eglwys yn Market Square, ond hefyd i AnghydfFurfiaeth yn gyffredinol. Mae'r dysgwyliad wedi profi yn gywir. Cvmer Mr Walters ddyddordeb yn mhob symudiad sydd ar droed er llesoli cym- deithas, ac y mae yn amlwg iawn yn yr holl symudiadau Cymreig. Credwn fod ei safle fel gweinidog Seisonig wedi ychwan- egu ei sel a'i gariad atsefydliadau Cymreig ac at yr iaith Gymraeg. Ond nid ydyw wedi esgeuluso ei ddyledswyddau fel gweinidog ei eglwys serch hyny. Y mae holl adranau hono yn llawn gweithgarwch, gyda'r gweinidog yn blaenori, a bywyd newydd wedi cymeryd meddiant ohoni oddiar ei ddyfodiad. Ac i ddangos ei gwerthfawrogiad o'i lafur, penderfynasant yn unfrydol y Sabbath diweddaf, yn ddiar- wybod iddo ef, i gydnabod hyny trwy roddi iddo ychwanegiad sylweddol yn ei gyflog. Yn ddiau, bydd hyn, nid yn unig yn dderbyniol gan Mr Walters, fel help i gynal y bywyd hwn, ond credwn y bydd yn fwy gwerthfawr yn ei olwg oherwydd yr ysbryd a'i cynhyrfodd, sef calonogi dyn da yn ei ymdrech onest dros lwyddiant eglwys a Theyrnas y Gwaredwr a buddianau goreu ac uchaf dynoliaeth.
MYNYDDBACH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MYNYDDBACH. C,gt? yei-dd.Cynaliwyd cyngerdd o radd uchel yn y lie uchod, nos Sadwrn, Ebrill 25ain, pryd y rhoddwyd datganiad o'r gantawd gysegredig 4 Daniel' (Root) gan gor y Gobeithlu. Cy- northwyid y cor gan y datganwyr canlynol, pa rai a gymerasant ran hefyd yn yr amrywiaeth —Sopranos, Miss Edith Jones, Glandwr, a Miss Miriam Morgans, Pentre; Contralto, Miss Katie Phillips, Gowerton; Tenor, Mr Glyn Walters, Gowerton; Baritone, Mr Llew. R. Bowen Bass, Mr A. M. James, Treboeth. Cyfeiliwyd eleni, fel arfer, gan Mrs A. M. James, G. <& L. (Megan Glantawe). Mae y cor hwn wedi enill enwogrwydd iddo ei hun drwy ymgymeryd a gweithiau o'r natur uchod. Prawf o hyn oedd y dorf anferth oedd yno yn mhell cyn amser dechreu. Arweinydd y cor yw y gwr ieuanc talentog, y Cynghorwr Tom Lloyd, yr hwn sydd a'i holl fryd yn nghaniadaeth y cysegr. Y mae yn haeddu clod a chanmoliaeth am ei ymdrech dillino gyda'r plant. Canwyd unawdau gan aelodau o'r cor, gan Mri D. Lewis, John Lewis, a'r Cynghorwr W. P. Lewis. Y Cynghorwr Morgan R. Jones oedd yn y gadair, ac yr oedd yn ddoeth a phwrpasol yn ei sylwadau, ac ni fu yn ol heb ddangos ei foddlonrwydd o'r wledd mewn modd sylweddol. Cafwyd datganiad da gan y cor a'r unawdwyr, ac yr oedd pawb yn foddhaus iawn ar y diwedd. Terfynwyd drwy ganu I Hen Wlad fy Nhadau.' Melus, moes eto. UN OEDD YNO. V. ~V
GOGLEDD CEREDIGION. ----
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GOGLEDD CEREDIGION. Llanbadarn.—Y gweision fu yn gwasanaethu yn nghyfarfod y Pasg yma eleni oeddynt y Parchn E. J. Edwards, Brynrhiwgaled; H. T. Jacob, Peniel ac R. T. Williams, Ynysgau, Merthyr. Cafwyd gwemidogaeth fyw, gref, ac adeiladol. Drwg genym fod Mr Parry wedi bod yn wael ei iechyd, ac wedi methu cyflawni ei ddyledswyddau gweinidogaethol am rai Suliau, ond y mae yn dda genym ddeall ei fod yn well, ac yn graddol enill ei nerth. Dymunir ei lwyr adferiad buan, fel y gallo eto ymallyd yn y gwaith sydd mor anwyl ganddo. Mae'r eglwysi mewn gwedd lewyrchus o dan ei weinidogaeth felus ac efengylaidd. Talybont.-Y mae cyfarfod y Pasg yma yn dal yn ei fn a'i ogoniant drwy y blynyddoedd, ac ni bu yn eithriad eleni ychwaith, canys yr oedd i bob ym- ddangosiad i ni mor boblogaidd ag erioed, pryd y cafwyd gwasanaeth gwerthfawr y Parch Gwilym S. Rees B.D., Llandysul; Ben Davies, Pant-teg a Ben Evans, Barry Dock. Teimlem fod yr Efengyl yn eglurhad yr Ysbryd a chyda nerth mawr. Aúerystwyth.- Y mae yn chwith genym gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mrs Williams, sef hawddgar briod Mr John Williams, Siop y Bont, o'r dref hon, yr hyn a gyrnerodd le yr wythnos cyn y diweddaf. Yr oedd Mr Williams a hithau wedi myned am dro yn eu cerbyd i Talybont, ac wrth ddychwelyd cafodd ergyd o'r parlys ar y ffordd gar- tref, yr hyn a brofodd yn angeuol iddi yn mhen ychydig ddyddiau, er colled, galar, a siomedigaeth i'w phriod a'i phlant, a chylch eang o gyfeillion. Ganwyd yr ymadawedig mewn amaethdy o'r enw Abernant, ger llaw Crugybar, yu y flwyddyn 1846, ac yn Ebtill, 1879, ymunwyd hi mewn glan briodas a Mr John Williams, yr h«pn oedd ar y pryd yn byw yn Aberaeron, ond yn mhen blynyddoedd ar ol hyny symudwyd ganddynt fel teulu i fyw i Aber- ystwyth, lie y maent ar hyn o bryd, ac yn cario yn mlaen yno fasnach eang a llwyddianus. Hanai Mrs Williams o deulu parchus ac enwog am eu set a'u ffyddlondeb crefyddol, fel y cafodd y fraint o gael ei dwyn i fyny yn ffordd rhinwedd a daioni. Treul- iodd oes o wasanaeth i'r Meistr mewn llawer gwedd, fel y tsimlir gwagle mewn byd ac eglwys ar ei hoi, yn enwedig yn eglwys Baker-street, lie yr oedd yn aelod ffyddlon a dysglaer, a lie y mae ei phriod yn ddiacon gweithgar. Cafodd gladdedigaeth barchus, ac yn un o'r rhai lluosocaf a welwyd yn Aberyst- wyth er's tro pryd y gwasanaethwyd gan y Parch T. A. Penry. Methodd Mr Miles a bod yn bres- enol oherwydd ymrwymiad mewn cyfarfod yr un dydd yn Llanfyllin, ac yr oedd hyny yn wir flin ganddo, gan eu bod fel teulu yn dwyn mawr sO dros yr achos, ac yn rhai y tybir eu bod yn golofnau. Nawdd y Nef fyddo dros ei phriod a'i phlant. Yr Undeb Dirwestol. Cynaliodd yr undeb hwn ei wyl flynyddol yn Aberystwyth nos Fawrth a dydd Mercher wythnos i'r diweddaf. Nos Fawrth, traddodwyd pregethau Dirwestol yn nghapel Baker- street, gan y Parchn Rowland Hughes, B.D., Tylorstown, a Dr Egryn Jones, Melbourne (cyn- rychiolydd yr Alliance). Yr un amser yn nghapel y Bedyddwyr cafwyd cyfarfod i'r plant o dan lywydd- iaeth Plenydd, a demonstration gwerthfawr ar niw- eidiau y diodydd meddwol, gan Mr R. Prys Jones, Pontypridd. Am 10 30, boreu Mercher, caed cynadledd yn nghapel St. Paul's (W), cadeirydd, Parch D. Caron Jones, Borth, lly wydd yr undeb am y flwyddyn. Swyddogion am y flwyddyn ddyfodol -Llywydd, Parch Job Miles, Aberystwyth; is- lywydd, Parch D. Egwys Jones, Borth trysorydd, Mr Daniel Thomas, Aberystwyth; ysgrifenydd, Parch J. Llewelyn, Borth; y pwyllgor gweithiol, i aros yr UD, oddigerth ychydig o gyfnewidiadau. Darllenwyd papyr cryf ar Rwymedigaeth Dirwest. wyr i fod yn ffyddlon i'w hegwyddorion proffes- edig, gan y Parch D. Egwys Jones, Borth. Siarad* wyd gan amryw ar gynwys y papyr, sef y Parchn T. D. Thomas, Llanon J. Cad van Davies T. E. Roberts, Aberystwyth; a T. J. Morgan, Bond- street. Diolchwyd yn gynes i Mr Jones am ei bapyr gwerthfawr, a chyflwynwyd ef i sylw y pwyllgor gweithiol er ei argraffu a'i wasgaru yn yr eglwysi, a bod Mr Cadvan Uavies i ysgrifenu rhagdraeth iddo. Yna pasiwyd penderfyniad cryf o blaid y Mesur Trwyddedol, a bod copi ohono yn cael ei anfon i Mr Lloyd George, Mr Asquith, a Mr Vaughan Davies. Pasiwyd hefyd bleidluis o gydymdeimlad a theulu y diweddar Brifweinidog, ac amlygiad o'u gwerthfawrogiad o'i lafur a'i wasanaeth i Wleidydd- laeth, ac i'r achos Dirwestol yn gyffredinol. Yr oedd y pwyllgor eleni wedi eangu y cylch arferol, acwedi estyn gwahoddiad i ranau o Meirion, Trefaldwyn, a De Aberteili, i anfon cynrychiolydd i'r gynadledd er ymdrin a'r Mesur Trwyddedol sydd yn awr ger brou y Ty yn ogystal a gweddau pwysig ereill yn nglyn a. Dirwest, ac mewn atebiad i'r gwahoddiad, daeth llu mawr i'r gynadledd o'r gwahanol ranau, ac yn eu plith gwelsom y Parchn J. R Evans, Pennal R. Davies, Corris; H. W. Parry, Aberllefeni T. D. Thomas, Llanon, ac ereill. Cafwyd cynadledd ddy- munol a brwdfrydig, er nad oedd hwyrach y peth y dymunid iddi fod yn yr argyfwng presenol, pryd y dylai holi garedigion yr achos fod ar eu goreu yn dangos ar bwy ochr y maent. Am dri o'r gloch ya nghapel Siloh, cynaliwyd cyfarfod i'r plant o dan lywyddiaeth y Parch D. Morgan, Penllwyn. Hol- wyd y plant yn yr Arholydd Dirwestol gaa Miss Owen,'Aberystwyth Rhoddwyd demonstration eto gan Mr Prys Jones. Arweiniwyd y canu gan Mr J. E. Harries, Aberystwyth. Yr oedd y capel eang yn orlawn, a hyfryd oedd yr olygfa. Yn festri yr un capel, caed cyfarfod i rai mewn oed o dan lywydd iaeth y Parch D. Caron Jones. Anerchvvyd y cyf- arfod gan Plenydd, Dr Egryn Jones, a Mr Rowland Hughes. Am bedwar o r gloch cafwyd gorymdaith drwy y dref yn cael ei blaenori gan yr Aberllefenni Brass band, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf welwyd yn Aberstwyth erioed, a'r heolydd yn orlawn o bobl o wahanol ranau o'r wlad. Yn yr hwyr cafwyd cyf- arfod cyhoeddus eto yn nghapel Siloh, o dan lyw- yddiaeth y Parch Job Miles, a chafwyd anerchiad gan Mr Rowland Hughes, Plenydd, Dr Egryn Jones, ac ereill. Yr oedd y cynulliad yn lluosog, yr areithiau yn frwdfrydig ac argyhoeddiadol, a phawb yn ymadael gan ddiolch i Dduw am yr wyl, ac am iddi droi allan mor llwyddianus mewn adeg mor bwygig yn hanes ein gwlad. MOCHNO.