Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
GWARENTIR y bydd i uu biychaid o CLARKE'S B 41 PILLS i wella pob dyferlif o'r Peirianau Troethol yn.UD.gt dd.au ryw, wedi ei eniil lieu yn gyfansoddiadol, Gr'iJan?(jj poenau yn y cefn. Gwarentir ei fod yn hollol rydd 0 wrth Mercury. Ar werth mewn blychau 4s 6c yr un J -10II rferyllwvr a Gwerthwyr MeddyginiaotH Breintlythy' D neu anfonir ef i unrhyw gyfeiriad am 60 o lytliyrnodau g y Lincoln aud MMlauJi Counties Drug Company, Lincoip
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR wythnos o'r blaen, bu rhanu ar fedalau Miss Gee i aelodau hynaf yr Ysgolion Sab- bathol. Yr hynaf ohonynt oil oedd Miss Catherine Jones, Celyn, Beddgelert, yr hon sydd yn 98 mlwydd oed. Y mae yn aelod o'r Ysgol Sul er's 95 mlynedd. Sicr genym fod gan yr hen chwaer adgolion dyddorol.
PESWCH BYR, HIRBARHAOL,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PESWCH BYR, HIRBARHAOL, A BRONCHITIS WEDI EU HIACHAU GAN Veno's Lightning Cough Cure. Mrs M. Chalmers. Rose Vale, 6, Esslemont Avenue, Aberdeen, a ysgrifena :—1 Am amser maith dyoddefais yu fawr oddiwrth bronchitis a pheswch byr, hir. barbaol, yr hwn oedd bob amser yn waeth yn y gauaf, ao at yr hwn y cymerais ddigon o foddion eytIredin y meddyg, ond heb dderbyn un budd. Un diwrnod, pa fodd bynag, treiais Veno's Lightning Cough Cure, a chefais ryddhad uniongyrcho), ac yn awr yr wyf wedi fy llwyr ichau. Yr wyf yn cael allan fod cymeryd dognaid yn achlysurol o Veno's Lightning Cough Cure yn rhwyetro neu yn rhyddhau bob amser unrhyw anhwylder o eiddo y gwddf ueu y frest.' Mae Veno's Lightning Cough Cure yn feddyginiaeth ddyogel a sier at y peswch, auwyd. anwydwst, bron- chitis, diffyg aoadj, dyferwst, ac holl anbwylderau y gwddf a'r frest. Pris 9|o., ljo., 4 2s. 9c.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EGLWYSI ANNIBYNOL TREFORIS A'R CYLCH. Dydd Llun, Ebrill 27ain, cynaliwyd y nawfed Gymanfa Ganu flynyddol gan Eglwysi y cylch hwn, ac o'r holl gyfres, addefir yn gyffredinol mai y Gym- anfa hon oedd yr oreu. Mr Caiadog Roberts, Mus Bac, (Oxon.) F.R.C O., Rhos, oedd yr Arweinydd. Dyeithr hollol oedd Mr Roberts i Dreforis, ond ar unwaith llwyddodd drwy ei ddull hawddgar a'i alluoedd dysglaer i wneyd ei hun yn ffafryn gan y torfeydd lanwent gapel eang y Tabernacl deirgwaith dcjydd y Gymanfa. Mae chwech o eglwysi wedi ymuno i gynal y Gymanfa, sef Carmel, Horeb, a'r Tabernacl, Tre- foris Hermon, Plasmarl; Nebo, Felindre; a Her- mon, Pantlasse. Yn y boreu am 10 30, cafwyd cyfarfod y plant. Yn absenoldeb y Parch D. Davies, Felindre, llyw- yddwyd gan y Parch Emlyn Jones, Erioed ni chan- odd y plant yn fwy swynol. Yr oedd yn amlwg eu bod wedi dysgu nid yn unig y penill cyntaf, a'r ail, o'r gwahanol emynau, ond yr emynau yn gyfain. Heblaw hyn, dangosent eu bod yn gwybod pob un o'r tonau mor dda, fel y caed yn rhwydd ganddynt y mynegiant priodol. Nid rhyfedd felly i'r Arweinydd eu canmol gymaint. Yn ychwanegol at y tdnau ganwyd, cafwyd Hohvyddoreg brydferth mewn odl ar eiriau y dôu, Clyw ni, fwyn Waredwr.' Mr John Phillips (Treforfab), dynodd allan yr Holwydd oreg, a gwnaeth ei waith gyda'i ddeheurwydd arferol. Dechreuwyd cyfarfod y prydnawn am 2.30. Llyw- ydd, Treforfab. Cynwysai y rhaglen nifer o ddnau a'r anthem, Mor Weddaidd ar y Mynyddoedd Crewyd ysbryd dwys ac addolgar ar gychwyniad y cyfarfod, wrth ganu y d6n I Farrant,' a ffynodd yr ysbryd hwn drwy y cyfarfod. Cafwyd anerchiad gwerthfawr yn y cyfarfod hwn gan yr Henadur William Williams, Glandwr, ar g'Ganiadaeth y Cysegr.' Cychwynwyd cyfarfod yr hwyr am 6.30, o dan lywyddiaeth y Parch Emlyn Jones. Yr oedd y Tabernacl yn orlawn, a gorfu i lawer droi ymaith oddiwrth y drysau, wedi methu a chael lie. Dwys a gweddigar oedd cyfarfod y prydnawn. Gorfoleddus a nerthol oedd cyfarfod yr hwyr ac yn ychwan- egol at y tonau, canwyd yr anthem, Yr Amser a Gyflawnwyd.' Canwyd hefyd Tawe,' tdn Mr Penfro Rowlands, buddugol yn Nghymanfa 1907, er emyn buddugol yn Nghymanfa 1906, o waith y Parch M. G. Dawkins. Datganodd yr arweinydd galluog ei fwynhad droion wrth glywed y canu mor effeithiol a chyfan. Cynorthwywyd mewn modd sylweddol gan gerddorfa. Yn ystod y cyfarfod caw- soin hanes hynod o ddyddorol gan y llywydd am Dafydd Shenkin Morgan, Aberteifi, oesai o 1751 i 1846, tad 'canu y pedwar llais' yn Nghymru. Gresyn na chodasid cofgolofn i'r pioneer hwn. Dyfarnodd y Parch M. G. Dawkins, mai eiddo Tart Newydd' oedd y buddugol, allan o 25 o gyfansoddiadau ar yr emyn goreu ar y Mesur 10.4.10. Hysbyswyd mai Treforfab, oedd 'Tant Newydd Swyddogion Pwyllgor y Gymanfaeleni oeddynt cadeirydd, Parch M. G. Dawkins; trysorydd, Mr Oakley Walters, Y.H. ysgrifenydd, Mr Wm. Davies (ysgolfeistr); organwyr, Mrs T. J. Davies (Tabernacl), a Mr D. J. Lloyd, A.T.C.L. (Horeb). TAWE.
--'------TREHERBERT.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREHERBERT. Cynaliwyd cymanfa ganu flynyddol Annibynwyr Rhanbarth Uchaf y Rhondda, o dan nawdd yr eglwysi canlynol: Tabernacl, Blaenrhondda Ebenezer, Tynewydd a Carmel, Treherbert ar ddydd Gwener y Groglith. Arweinydd y dydd oedd Mr Caradog Roberts, Mus. Bac., F.R.C.O. Rhos- Uanerchrugog. Cyfarfod y boreu i'r plant yn Eben- ezer, Tynewydd. Llywyddwyd yn ddeheuig iawn gan Mr John Evans, Tabernacl. Cyfeiliwyd gan Miss Sophia Evans, o'r Tabernacl, yr hon a wnaeth ei gwaith yn dda iawn. Canwyd tdnau o Gan- iedydd yr Ysgol Sul,' yn nghyda dwy ddn leol, sef, Ymsom Plant' (T. Roderick, L.T.S.C.), a Ffyddlon Filwyr Iesu' (J. Evans, A.C.) ac anthem, 'Oes mae canu yj y nefoedd' (G. James, A.C., Ferndale). Adroddwyd hefyd y benod gyntaf o Gatecism y Parch J. T. Davies, Cymer, Rhondda, ar Ddirwest Beth ydyw ?' Teimlem ei fod yn gam yn yr iawn gyfeiriad wrth ddethol y testyn hwn, a gwnaeth y plant eu rban yn ganmoladwy iawn. Cafwyd deuawd gan frawd a chwaer o'r Tabernacl, ae unawd gan Miss Nellie Rees, Ebenezer. Cafwyd cyfarfod bendigedig, y plant a'r arweinydd ar eu goreu, a theimlad pawb with ymadael oedd eu bod wedi cael gwledd nad anghofiant yn fuan mohoni. Cyfarfod dau o'r gloch yn Carmel, Treherbert. Llywydd, Mr W. Thomas, Ebenezer, Treherbert, llywydd pwyllgor y gymanfa. Organyddes, Miss 11. M. Thomas. Gyda'r tonau a ganwyd cafwyd corgan 'BattishiJi,' o'r I Caniedydd,' a'r anthemau Ceisiwch yr Arglwydd' (Isalaw) Bydd melus gofio y cyfamod (Isalaw) a'r cydgan Y Nefoedd sydd yn datgan' (Haydn). Canwyd unawd yn swynol iawn gan Miss Katie Francis. Cyfarfod chwech o'r gloch. Llywydd, Mr Robert Thomas, Carmel. Organyddes, Miss H, M. Thomas, Carmel. Wedi darllen a gweddio, cafwyd araeth bwrpasol, frwdfrydig, gan y llywydd. Yna aed yn mlaen gyda'r tûnau-corgan Mornington,' a anthemau Cyfraith yr Arglwydd (D. W. Lewis) Bydd melys gofio y cyfamod (Isalaw), a'r cydgan Y Nefoedd sydd yn datgan' (Haydn). Ail-ganwyd dwy o ddnau y plant, sef, Ymson Plant' (T. Rodeiick), a Ffyddlon filwyr lesa (J. Evans), a chafwyd hwyl neillduol wrth eu canu. Datganwyd dwy unawd gan Miss Nellie Davies, Ebenezer, a Mr Thos. Roberts, Carmel. Darfu i'r arweinydd, Mr Roberts, roddi detholiad (selection) i ni ar yr organ, sef, darn o'i waith ei hun, ar yr hen don Diniweid- rwydd,'a gwnaeth hyny yn ardderchog, a dangos- odd yn eglur ei fod yn feistr ar ei waith. Arweinwyr y rehearsals oeddent Mr W. J. Davies, Blaenrhondda (plant), a'r rhai mewn oed gan yr hen arwr Mr M. O. Jones. Gwnaethant eu gwaith yn rhagorol, ac hefyd Miss Thomas wrth yr organ. Dyma y tro cyntaf i Mr Roberts, yr arweinydd, fod yn ein plith, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd perffaith Credwn fod iddo ddyfodol dysglaer iawn. Yr oedd wedi ei lwyr foddloni yn y canu, er cymaint oedd ei ddysgwyliadau. Cyflawnwyd rhan yr ysgrifenydd gan y brawd diymhongar Mr W. D. Morgan, Carmel, a'r trysorydd ydoedd Mr John Jones, grocer, Blaenrhondda. Heb yr un petrusder yn ein meddwl, dyma un o'r cymanfaoedd goreu a gynaliwyd yn y rhanbarth hwn erioed. Teimlem fod yr eneiniad Dwyfol yn ein mysg trwy y dydd, a gobeithio y pery y dy- lanwad da yn hir, er gwneyd caniadaeth y cysegr yn fwy o allu yn ein plith. Bendith Duw fyddo ar y cyfan er lies yr eglwysi a'r gymydogaeth yn gyffredinol. UN OEDD YNO.
PONTARDULAIS A LLANGENECH.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PONTARDULAIS A LLANGENECH. mM ——— Llun y Pasg, yn nghapel Hope, Pontardulais, cynaliwyd Cymanfa Ganu flynyddol Annibyn- wyr y cylch uchod. Cynwysa, yr undeb bump o eglwysi-Hope, Siloh, a Chapel Newydd, Pontardulais; Tynewydd, Llanedi; a Bethesda, Llangenech. Yr arweinydd am y dydd oedd Mr J. D. Thomas, Ebenezer, Abertawe, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb. Llywydd cyfarfod y boreu oedd Mr John White, un o ddiaconiaid Hope. Dechreuwyd gan Mr Thomas Thomas, Siloh. Cyfarfod y plant oedd hwn, a chanasant yn swynol dros ben. Holwyd y plant gan y Parch D. DavieS, Bethesda. Cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr Joseph Thomas, Capel Newydd. Diweddwyd gan Mr Alfred Thomas, Hope. Llywydd y prydnawn oedd yr Henadur Joseph Joseph, Llangenech, un o ddiaconiaid Bethesda. Dechreuwyd gan y Parch D. DavieS, Llangenech Cafwyd anerchiadau gan Mr G- C. Thomas, Siloh, a'r Parch D. Lloyd Morgan, Hope. Canwyd nifer o donau, a'r anthemau Yr amser a gyflawnwyd' (E. Stephen) aC Arglwydd, par i mi wybod fy niwedd (W D. Thomas, Ystalyfera). Diweddwyd gan Mr D. Richards, Llangenech. Canu neillduol o dda, a'r capel eang yn llawn Llywydd yr hwyr oedd y Parch D. Lloyd Morgan. Dechreuwyd gan Miss Rogers Cwmaman. Gyda'r tonau a ganwyd, cafwyd yr anthem Teyrnasoedd y ddaear (J. A. Lloyd)- Rhoddwyd anerchiad yn ystod y cyfarfod gan Mr J. Vernon Lewis, B.A., Mansfield Collegc9 Rhydychain. Cafwyd Cymanfa hynod o lwyddianus— na'r dysgwyliadau. Yr organydd oedd Mr David Treharne, Hope, a'r gerddorfa yn northwyo ar hyd y dydd. Esgyned gwei* moliant i'r nef o eglwysi y cylch, fel un o te>n' dithion y Gymanfa. OANWR.
YR YSGOL SABBATHOL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn erioed.' Yr oedd gardd. loan yn unig sydd yn nodi y ffaith hon Beddjiewjidd Joseph oedd perchen y bedd. Yr oedd wedi ei naddu o'r graig. Yr oedd yn newydd, ac ni ddodasid neb ynddi o'r blaen. Adnod 42.-1 Ac yno, rhag nesed oedd darpar- wyl yr luddewon, am fod y bedd bwnw yn agos, y rhoddasant yr lesn.' Ac yno Yn y bedd newydd. Am fod gofal y claddu ar Joseph, a'r galw am frys yn y trefniadau, oherwydd agosrwydd y Sabbath pwysig, awgrymai hyn iddo roddi y corff yn ei fedd ei hunan oedd ger Haw, gan fwriadu, mae yn dra thebyg, ei gymeryd oddiyno drachefn ar ol y Sabbath, pan y ceid hamdden i ddangos parch iddo ar gynllun eangach.' GWERSI. I. Gorphenwyd.' 0 holl eiriau yr lesu ar y groes, hwn ydoedd y mwyaf cynwysfawr. Cynwysa bob peth ynddo ei hun mewn cread- igaeth, rhagluniaeth, ac iacliawd wriaeth. Trwy farwolaeth Crist y crynhowyd y cyfan i ddy- ogelwch a pherffeithrwydd gogoneddus II. Wrth y groes y ceir golwg ar fawredd drwg a gallu pechod—haerllugrwydd a chalon- galedwch dyn. III. Yma hefyd y daw mawredd dyn i'r golwg, er ei fod yn bechadur. Er mwyn dyn, boddlonodd Mab Duw dalu y fath bridwerth drosto. IV. Gwelwn hefyd alia ewyllys dyn. Yr oedd yno ddwy groes arall. Oddiar un, aeth un i drueni; oddiar y Hall, aeth un i ogoniant. V. Daw selfsltrtess-h-Linatigariad dyn—i'r golwg. Cawn fod y milwyr yn gamblo am ei wisg o dan gysgod y groes. VI. Gwelir ysbryd anhunanol Crist. Hyd yn nod ar y groes, meddwl am ereill yr oedd. VII. Gwirionedd Gair Duw. Mor sicr ydyw cyflawniad pob proffwydoliaeth hyd yn nod yn y manylion. Y mae addewidion y Gair yr un mor sicr. I VIII. Gan i Grist ddyoddef a marw, y mae gobaith iachawdwriaeth wedi ei ddwyn i fyd euog. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Paham yr oedd yn rhaid i'r lesu gario y groes ? 2. Pa le y croeshoeliwyd Ef ? Beth ydyw ystyr yr enw ? 3. Beth ydyw ystyr y teitl a roddodd Pilat ar y groes ? 4. Paham yr oedd yr archoffeiriaid am ei newid, a phaham y gwrthododd Pilat ? 5. Beth a olygir wrth ei I bais Ef ? Pa beth wnaeth y milwyr a hi, a pha brofEwydoliaetlx a gyflawnwyd ? 6. Pwy o gyfeillion yr Iesu oedd yn sefyll wrth y groes ? 7. I bwy y neillduodd ofal Ei fam ? 8. Pa fodd y rhoddasant ddiod iddo pan lefodd y mae syched arnaf ? 9. Pa beth a wnaeth ar ol cymeryd y finegr ? 10. Pwy claddodd Ef, ac yn mha le ?