Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Family Notices

Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu

GENI, PRIODI, A MARW. DALIER SYLW.—Ein telerau am gyhoeddi Barddoniaeth Ya gysylltiedig â hanes Genedigaeth, Priodas, neu Farwol- aeth, yw tair ceinlog y llinell. Y tal i'w anfon gyda'r Fardd- oniaeth. MARWOLAETHAU. EVANS.—Ar y 29ain cynfisol, yn y Gernos, yn rnhlwyf Llandudoch, yn nhy ei fab-yn-nghyfraith a'i ferch, Mr Stephen Evans, gynt o'r Rhyd, yn mhlwyf yr Eglwys wen, sir Benfro, yn yr oedran patriarch- aidd 85, yr hwn a gyrhaeddodd y God o Ionawr diweddaf. Yr oedd yr ymadawodig yn hanu 0 hil. iogaeth o fendigaid goffadwriaeth gydag achos yr leau. Ei ewythr oedd y Parch John Evans, Pen. ygroes, yr hwn a aeth ymaith yn annysgwyliadwy, ac a gladdwyd Hydref 6ed, 1849. Ei gefnderwyr oedd y Parchn Simon Evans, Hebron; J. Morgan Evans, Caerdydd a Mr David Tudor Evans, yr hwn yn ei linell ei hun a ystyrid y galluocaf o'r meibion—hen gydweithiwr a chyfaill y bytholwyrdd leuan Gwynedd. Gwr gweithgar oedd Mr Stephen Evans fel diacon ac athraw sylweddol a ffyddlon yn eglwys Penygroes, Penfro. Uadwodd aelwyd lan, a breintiwyd of yn fwy na'r cyffredin, gan iddo gael ei orfoleddu yn nyrchafiad ei blant. Tystiolaeth y patriarch Job yw, Ei feibion ef a ddaw i anrhyd- edd, ac nis gwybydd efe.' Ond cafodd ef y wybydd- iaeth ddyrchafol a llawenychol hon, a hyny flynyddau cyn i'r beddrod gau arno yn Mynwent gysegredig Penygroes, lle yr buna y duwiuydd mawr Caleb Morris, a lluaws ereill, prydnawn y Sadwrn cyntaf yn mis eirian Mai, 1908. Er fod y dydd a'r awr yn anghyfleus, gellir ysgrifenu am ei gynhebrwng yn ngeiriau y cofnodydd ysbrydoledig am ei gyfenw, I A gwkr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu.' Yn y ty, gweinyddwyd gan y Parch Job Evans, bugail eglwysi Bethel, Trewyddel, a Brynsalem. Pfurfiai rhes hir o gerbydan yr orymdaith, pan gyrhaeddwyd y Croft ychwanegwyd atynt amryw, ac wedi d'od i Benygroes yr oedd lluaws o bobl-ei hen gymydogion a'i gyfeillion-yn amyneddgar ddysgwyl yr angladdj Yn y capel Ilywyddid y gwasanaeth gan y Parch E. D. Evans, gweinidog gweithgar yr eglwys, yr bwn, er mewn gwendid mawr, oedd wedi dyfod allan o barch i'r gwr anwyl a gleddid. Darllenwyd a gweddiwyd ganddo ef. Oafwyd anerchiadau tyner a tharawiadol gan y Parchn J T Phillips, Hebron H T Jacob, Peniel; a J Stephens, Llwynyrhwrdd. 4r y fynwent, gwnaeth y Parch E J Lloyd, Llandudoch, sylwadau prydferth, ac wedi gweddi ddwys gan y Parch J T Gregory, Brynberian, canwyd emyn adfywiol y claddfeydd, Bydd myrdd o ryfeddodau.' Y prif alarwyr oeddynt Parch D TyssH Evans, M.A. B Sc, Caerdydd (mab); Mr a Mrs Melchior Evans, eu mab, a'u merch (mab-yn-nghyfraith, merch, wyr, ac *yres); Mr Forrester, M.A., a Mrs Forrester, B.A (mab-yn-nghyfraith a merch), Drefnewydd, Gogledd Cymru Miss Florence C Jones (ftyres), Penarth Mr Levi Evans a'i fab (brawd a nai), Maesteg j Miss Ann Evans, Voel; Mr a Mrs Llewelyn Ladd, Maensaeson; Parch H T Jacob, Peniel; Mr E R Gronow, Caerdydd; Mr J M Evans, Aberdar Mr a Mrs Blethyn, Fynache; Mr a Mrs Rees, Pont- ardulais-oll yn berthynasau. Yr oadd hefyd yn bresenol Mr D Ladd Davies; Parch W Williams, ficer Eglwysnewydd Mr a Mrs Sandbrook, Ty- gwyn; Mr Richard Rees, Alltygoed; a Mri D Havard a William Phillips, Crymych. Derbyniwyd o gydymdeimlad oddiwrth y Parch T D Evans (Gwernogle), Sciwen; J G Morris, Tref- draeth a T J Morris, Aberteifi. -D. L. D. DAVIEs.-Mai 2il, 1908, Mrs Mary Davies, anwyl briod Mr W. P. Davies, 6, Kingsbury-place, Llwyd- coed. Bu yn dyoddef dygn boenau a chystudd trwm tua phedwar mis ar ddeg. Gwnaeth ei hanwyl briod, ei hanwyl rieni, a'i hunig chwaer, a gwnaeth hithau ei hun, bob ymdrech dichonadwy i frwydro a, r gelyn di-ildio oedd wedi ymaflyd ynddi yn gynar J flwyddyn o'r blaen. Cafodd amryw o feddygon tnedrus i weini arni, a bu hefyd droion yn newid aWyr mewn gwahanol fanau. Tybiai ei hun ei bod ya gwella yn barhaus, ond enill y dydd yr oedd y dolur, a gwreiddio yn ei chyfansoddiad- Ni chyf- yogwyd hi i'w gwely ond yn unig am y diwrnod y bu byw. Byddai yn myn'd allan ac yn wynbau yr oedfaon yn ei haddoldy hoff, Horeb, y gallai. Galwodd ei gweinidog i'w gweled ooreu y diwrnod cyn ei marwolaeth, a chafodd hi yn Siriol a hawddgar fel arfer, ac yn gwbl ymostyngol i'r Ewyllys Ddwyfol, ac yr oedd ei ffydd yn ei Oheldwad mawr a'i chariad tuag ato yn ei gwneyd n berflaith addfed i fyned ato. Hunodd yn dawel y yr lesu boreu Sadwrn fel un a syrthiai i gwsg. Mr a Mrs Davies a'r teulu wedi cyd fyw »yda i rhieni er pan oeddynt yn briod yn Kingsbury. oaf06' a° a^na^yddus iawn i gryn nifer o weinid- ea °?.sy^d wedi bod yno o dro i dro yn mwynhau eu redigrwydd, Claddwyd gweddillion marwol Mrs >J*vies Lawn y 6ed o Fai. Daeth tyrfa luosog iawn a 11. nghyd i ddangos eu parch a'u hanwyldeb ohoni or teulu yn eu galar. Darllenwyd a gweddiwyd 8 n ,cyn oychwyn gan ci gweinidog, y Parch W. rVnTay^e8' ac canu emyn aed tua'r gladdfa. D^rwyd rhan wrth y bedd gan y Parchn W. S. jg I les» Grawys Jones, Ebenezer; a J. D. Rees, 'Wedf1'• Jr oe< pedwar o blant anwyl Mrs Davies briddel blaenori i'r bedd. Mae wedi gadaeljj anwyl 14iod, un mab, a dwy ar ol, a'i hanwyl rieni a'i chwaer mewn galar mawr. Yr oedd Mrs Mary Davies yn un o'r gwragedd mwyaf rhinweddol a phus. Derbyniwyd hi yn aelod crefyddol pan yn ieuanc iawn gan y Parch W. S. Davies, a bu yn ffyddlon iawn i'w chyfamod eglwysig. Yr oedd yn wraig ofalus, yn Gristion pur, ac yn fam anwyl iawn. Yr oedd ei chymeriad crefyddol yn dysgleirio yn mhob peth a wnai. Taniwyd hi yn fawr yn amser y Diwygiad, a cbymerai ran yn fynych yn y gwasanaeth, Gweddiai yn afaelger iawn. Huned mewn hedd, Derbyniodd y teulu lawer 0 lythyrau cydymdeimlad ag sydd wedi bod yn help iddynt. Oawsant lythyravi caredig oddiwrth y Parchn Peter Price, B A., Dr Owen Evans, Lerpwl, ac ereill. HUGHES.—Bor#u I&u, y dydd olaf o Ebrill, yn ei 73 mlwydd oed, y chwaer rinweddol Mrs M. Hughes, Post Office, Cemmes Road. Yr oedd yn weddw y diweddar Mr John Hughes, Machynlleth, ac yn chwaer i'r Parch J. C. Jones, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin. Cafodd bir nycbdod, a. phrofodd fynych wendid yn lied am] eto cyflawnai ei dyledswyddau yn y siop ac yn y Llythyrdy gyda'r gofal a'r manylder mwyaf. Dichon iddi wneyd cam il hi ei hun yn y cyfeiriad hwn drwy wneyd gormod, pan nad ydoedd ei nerth corfforol yn caniatau hyny ond ei gonestrwydd a'i ffyddlondeb oedd yn peri y cyfryw. Yr oedd iddi gymeriad difrycheulyd, a meddai awdurdodau y Llywodraeth yr ymddiried- aeth lwyraf ynddi bob amser, oblegid yr oedd yn cyflawni ei dyledswyddau gyda'r cywirdeb mwyaf, a hyny am lawer 0 flynyddoedd. Gwraig siriol a charedig ydoedd, parod ei chymwynas a pharod i amlygu ei chydymdeimlad a phawb yn mhrofedig- aethau bywyd. Mown gair, yr oedd yn foneddigaidd yn ei ffordd, yn dirion yn ei chyflawniadau, ac yn Gristionogol yn ei gweithredoedd. Profodd ranau helaeth 0 brofedigaethau y byd hwn, ond gwynebodd hwy oil yn deilwng 0 I fam yn Israel,'a chafodd brofiad helaeth yn ei chalon fod yr Arglwydd yn Farnwr y weddw. Bydd ei marwolaeth yn golled yn yr ardal ac i eglwys Annibynol Nebo, lie y bu yn aelod crefyddol am flynyddoedd lawer. Y dydd Llun dilynol, hebryngwyd ei gweddillion i Fynwent Sammab, Cwmllune. Daeth torf barchus o bobl yn ngbyd mewn cerbydau ac ar draed i dalu y gymwynas olaf o barch iddi, pryd y gweinyddwyd with y ty ac yn y capel a'r fynwent gan y Parchn R. C. Evans, Sammah: Josiah Jones, Machynlleth; E. Wnion Evans, Derwenlas ac Emlyn H. Davies, B.A, B.D., Machynlleth. Gadawodd yr ymadawedig chwaer a brawd a pherthynasau i alaru ar ei hot. Nawdd y Nefoedd fyddo drostynt oil, a llanwer eglwys Nebo a. chwiorydd tebyg i'r chwaer hon oblegid yr oedd y ffaith iddi' ddewis y rhan dda mor ieuanc yn ei bywyd yn rhoddi hyder cryf iddi yn ei dyddiau olaf am y gobaith bywiol trwy adgyf- odiad lesu Grist oddiwrth y meirw, fel ag i sicrhau yr etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a di- ddiflanedig sydd yn nghadw yn y nefoedd i'r saint.

Advertising