Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
.£ C £ N0RAIR RRYDDFRYDOL…
£ C £ N0RAIR RRYDDFRYDOL I CYMREIG. DADLEUON BRWDFRYDIG.- AMRYWIOL FARNAU. I Am ddeuddeg o'r glooh cododd M R. A. I Griffith i gyayg ei bsnderfyuUi gydi golwg »r ffurfio Cyograir Canedlaethol Cymreig. Cymarwyd dyddordab neillduol yn y pwngc I hwn, fel arwyddocad o gynydd yn y Rhaglen i Geaedlaethol Gymreig. Yr ceid y pender- fyniad fel y cnlyn CYNGRAIR CENEDLAETHOL i CYMRU. I Fod y cyfarfod hwn o'r farn y dylid troi Cyngor Cenedlaethol Cymreig a Chyngreiria" Rhyddfrydol Cymru yn sefydliad gweithredo* a grytnus, yn dwyn yr enw Cyngrair Cened" laethol Cymru, o'r hwn y dylid ffurfi) cang henau yn mhob man cyfleus drwy y wlad, ac fod cyfarwyddyd i gael ei roi i'r ddau Gyngrair Rhyddfrydol i ffurfio pwyllgorau er cario yr amcan hwn i weithrediad." Air R. A. Griffith a ddywedodd y byddai j iddo ef ddweyd yn y lie cyataf fod y Cyngor | neu y Cyngrair Cened'aethol Cymreig wedi troi allanlyn fetbiaot mewn un yt.ty<: yn aii,yn ol cyfansoddiad presenol y Cyngor neu y j Cyngrair mae yn anmhosibl iddo fod yn llwyddiant ymarferol yn drydydd, sylwodd Ifod y Cyngof CWQlaethol Cymreig yn dy wedi ymranu yn ei erbya ei hun, ac os 1M ddiwvgid ef byddai iddo ddiny.,trio ei hun yn bedwerydd, mae y Cyngor Cenedlaethol Cymreig, yn arbenig adran y Gogledd o hono, yn fethiant, am nad ysv wedi eniil pirch y wlad, ac wedi tynu arno ei hun wawdiaeth y wasg a phobl Cymru. Mae yn Nghymru liaws o gwestiynau cenedlaethol eisieu eu penderfynu. Yr un pwysicaf iddynt hwy oedd yr un o ardrefniant, y ditfyg o ba un am flynyddoedd fu eu prif anhawsder yn Nghymru. Dylent ardretnu yn y fath fodd fel ag i ganologi eu hym- drechion a'u galluoedd i un canolbwynt,ac os nawoaent hyny ni byddent bytifynfuddugQl iaethus. Rhaid iddynt gael ardrefniant cen- edla ;thoi.Nis^gallent gael gan Dyy Cyffredin gredu yn y teimlad cenedlaethol yn Nghym ru os na byddai ganddynt blaid genedlaeth- 01 yn y Ty, ac mewn trefn i gael y blaid genedlaethol hon rhaid iddynt yn y lie cyntaf gael ardrefniant. Yr oedd amryw gwestiynau cenedlaethol wedi bod o flaen pwyligor y cyngrair, ond ni ddeilliodd un- rhyw ddaioni o hyny. Un o'r rhai hyny oeddynt y dadgysylltiad, ond nid oedd y dadgysylltiad wedi gwneyd rnirhyw gynydd er pan ffurfiwyd y cyugrair 'ImID' mlynedd yn ol (" Na, na.") Yr oedd y cyngrair wedi methu cyflawni ei ddyledswydd i roddi ar- graff fod y wlad yn bleidiol i'r dadgysylit- iad, ac wedi methu anfon cynnifer ac un I aelod i'r Senedd oedd yn bleidiol i genedl- aetboldeb yn Nghymru. Hefyd yr oedd mewn anhawsder arianoL Dygodd luaws mawr o gyhnddiadau eraill yn erbyn y cyngrair. Yr hyn a fwriedid ei wneyd yd- oedd ei wneyd yn sefydliad gweithiol, ac i'r dyben hwnw bwriadent sefydlu canghen- au yn mhob cwr o'r wlad, y rhai a etholent gynrychiolwyr i'r prif bwyll- gor, yr hwn a gariai y gwaith allan. I Pe byddai i unrhyw aelod Cymreig absenoli ei hun o'r Senedd (cymeradwyaeth uchol a pharhaol), ae i'r Cynghor Cenedlaethol gondemnio hynyna, fel ag y gwnaed yn Llandrindod, fe fyddai yn ddyledswydd ar y canghenau i wneyd i ffwrdd ag aelod o'r fath. Pan y byddai trysorfa y Cynghor Cenedlaethol yn ddiffygiol, dyledswydd y canghenau fyddai darparu ar gyfer hyny. Byddai i'r cangbenau benodi cynrychiolwyr ar y Pwyllgor Arianol, a byddai i'r rhai hyn eilwaith ethol aelodau ar y prif Gyngbor. Credwn mai y cynllun goren fyddai i bob pwyllgor ethol un aelcd, fel y gallai air fawr fel Morganwg gael, dyweder, wyth o gynrychiolwyr, a sir fechan fel Mon un neu ddau. Pe cai ef ei ffordd ei hun, fe dalai dreuliau teithio y cynrychiolwyr i fyn'd i gyfarfodydd y Cynghor o le i le. Yr oedd rhai yn gwrthwynebu i'r enw Cynghrair, ond yr oedd ef yn ei ystyried yn enw anrhydeddus (eymeradwyaeth); a thrwy foddion cynghrair-eynghrair diddymiad treth yr d-y symudwyd y doll oddiar yr yd; a beth oedd y sefyll allan diweddar ond cynghrair, ac yr oeddjrnt yn myned yn mlaen am Gynghrair Cenedlaethol, fel y byddai pawb yn alluog i symud yn mlaen hefo'u gilydd. Dywedodd y Parch D. Adams, B.A., Bethesda, wrth eilio y penderfyniad, na ddilynai Mr R. A. Griffith i feio y eyfeillion a fuont yn weithwyr ffyddlon dros yr achos Rhyddfrydol am lawer o flynyddoedd, er y credai y dylasent, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diweddaf, fyned yn mlaen yn gyflymach. Yr oedd ychydig wahaniaeth rhwng cynghrair y Gogledd a'r De; a dylent fod yn fwy unol a'u gilydd: os na fyddant felly, nis gallant argyhoeddi ^deddfwriaeth- wyr Lloegr o'u hawliau. Dymunai weled y cynghrair yn rhoi mwy o sylw i lea y chwarelwyr, a'r doebarthiadau gweithiol yn gyffredinol. Dywedodd Mr Frank Edwards, B.A., Aberdar, mai ei ddyledswydd oedd codi i fyny i ddyweyd fod Cynghrair Deheudir Cymru yn drwyadl wrthwynebol i'r pender- fyniad a gynygiwyd, oherwydd byddai iddynt ei ystyried yn slap ar y wyneb i'r Cynghrair yn gyfangwbl. Yr oeddynt yn awr yn newid ceffylau wrth groesi yr heol (clywch, elywah)-a phaham yr oeddynt byth a hefyd yn cynllunio pa beth i'w wneyd ? Yr oedd yn meddwl mai ei ddyledswydd oedd gadael i'r gynadledd wybod fod Cyng- rhair Deheudir Cymru yn foddion i weithio ar y llinellau yr oeddynt yn myned yn mlaen yn awr, ac yr oedd yn credu eu bod yn gwneyd gwaith 11 yddiannus. Yr oedd ef yn gwasgu ar y Cynghor i basio y cynygiad blaetiorol. Yna esgynodd Mr J. E. Powed i'rllwyfan, a dywedodd y dymunai gynyg penderfyniad i'r gwrthwyneb. A oeddynt yn myned i wahaniaeehu mewn cyfarfod fel hwn ? Beth a olygai hyny? Dlm ond yr ben wendid Cymreig (clywch, clywcb, a chym ). Nid oedd ef yn cydweled a'r penderfyniad, ac yr oedd yn gobeithio y gadawent bethau fel yr oeddynt. Os nad oedd Mr R. A. Griffith yn foddlawn ar bethau fel yr oeddynt, aed i weithio a gwneyd yn well (clywch, clywch). Yr oedd y Cyngrair wedi dilyn cyngbor a roddwyd ar y cychwyn, i beidio amcanu at lywodraethu y cynryehiolaethau; a dyna'r ffordd yr oeddynt yn disgwyl sicrhau eu hiachawdwriaeth. Yr oedd y Cynghrair wedi gwneyd gwaith da yn barod, pe na bai ond cael gweinidogion y Weinyddiaeth i ymwe'ed & Chymru, yr hyn ydoedd dipyn yn ddyeithr ychydig flynyddoedd yn ol (clywch, clJ wch). Dywedodd Mr Thomas Gee nad oeddynt yn myn'd i anghytuno. Yr oeddynt yn myned i roi attodiad at eu had-drefniant. Nid oeddynt yn bresenol am ymosod ar eu gwrthwynebwyr fel un gwr ond ar yr un pryd yr oedd yn cymeradwyo y syniadau a draethid gan Mr Griffith. Yr oeddynt yn cymeradwyo yr oil a ddywedodd, ac yn ben- derfynol o symud yn mlaen. Nid oeddynt am ymranu, ond gorymdeithio yn mlaen fel un corph o bobl, ac edrych ar yr ychydig wahaniaeth a ddangoswyd fel arwydd o iechyd. Ond nid oedd ef yn foddlawn i newid enw y cyngrair hyd nes y caent ganiatad y wlad i wneyd hyny, gan eu bod yn gyfrifol i'r wlad am eu gweithrediadau. Mr W. Jones, Llundain, a ddywedodd mai amcan y penderfyniad ydoedd creu ar- drefniant a lyncai yr holl rai presenol iddo ei hun. Cynygiai ef atodiad i'r perwyl Y dylai Ymreolaeth i Gymru fod yn brif nod y Cynghor hwn." Y Parch Ellis Edwards, M.A., a ddywed- odd ei fod ef yo hollol barod i dderbyn egwyddorion y Cyngrair, os y gellid dangos y byddai i'r blaid dderbyn llesiant drwy hyny. Ond ofnai y byddai i'r cyngrair gau allan Ryddfrydwyr gweithgar ac egwydd- orol. Dywedodd Mr G. W. Taylor, yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol dros Orllewinbarth sir Ddinbych, fod y cyfleusderau a gafodd yc ystod y chwe' mis diweddaf yn ei aliuogi i ffurfio barn am waith y gorphenol,ac yr oedd yr hyn a welodd y bore hwnw yn brawf o'r gwaith a wnaed, ac' nid oedd yn gyfartod wedi ymranu yn ei erbyn ei hun. Yr oedd yn barnu mai gwell iddynt fyn'd yn mlaen ar yr un llinellau ag o'r blaen, a pheidio peryglu eu dycgelwoh. Cododd y Dr Herber Evans i eilio cyoyg- iad y Parch Ellis Edwards, ac hefyd i gynyg fod y boneddigion canlynol i gael eu penodi ar y pwyllgor gweithiol i ystyried y pwnc :— Mri R. A. Griffith, Morgan Richards, y Pirch D. Adams, a Mr Morgan, Wyddgrug. Yr oedd yo cydymdeimlo a Mr R. A. Grif- fith, yr hwn oedd yn fab i un o'r Rhydd- frydwyr garaf a gafodd sir Gaernarfon er- ioed (cymeradwyaeth); ac fe ddelai ef yn aelod defnyddiol o'r pwyllgor. Yr oedd y cyogbrair wedi gwneyd gwaith da yr amser a aeth hei bio, ond nid oedd ei wrandawyr ac eraill wedi gwneyd yr hyn a ddylascnt. Nid oeddynt wedi rhoi digon o arian i gefn- ogi y cyngllrair. Gofynai iddynt roi mwy o amser, mwy o arian, a mwy o gydvmdeim- I lad, ac fe lwyddent. Os oedd arnynt hwy yn Nghaernarfon eisieu gwneyd rhywbeth fel gwaith gwirioneddol, pa'm na throent S *et2nham allan ? (cymeradwyaeth uchel). Boed iddynt i gyd fod yn wrol, a dangos hyny yn y Babell wrth wrando Syr William Harcourt (cymeradwyaeth mawr). Ya nghanol banllefau o pleidleiswch a "gohiriwch," eiliddd y Spinther benderfyn- iad y Dr Herber Evans, gyda'i ychwanegiad fod i'r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad ar y pwnc erbyn y cyfarfod nesaf. Yna darfu i Mr D. Lloyd George, ar ol cael ei alw drosodd a throsodd drachefn, anerch y cyfarfod, gan ddechreu drwy ddweyd na ddylai y pwnc hwn gael ei droi o'r neilldu gan unrhyw benderfyniad arall (cymeradwyaeth). Paham y dylent fod yn rhanol gyda golwg ar y moddion goreu i ddwyn oddiamgylch amcanion y Cynghrair? Rhaid gwreiddio egwyddorion y Cyngrair hwn yn nghalonau y bobl gyffredin, y rhai ydynt aswrn cefn Rhyddfrydiaeth yn y wlad. Un awgrymiad cynwysedig yn y penderfyniad ydoedd fod i'r ddau gyngor gael eu huno fel un cyngor, canys nid oedd rheswm mewn rhanu parthau gogleddol a deheuol Cymru. Nid oedd y cyngreiriau, fel yr oeddynt yn awr, yn gweithredn yn unol. (Lleisiau, "Ydynt," a clywch, clywch)." Nac oeddynt, canys yr oedd y ddau gyngrair yn condemnio gweithrediadau eu gilydd. Condemniai y dull Uac o ethol cynrychiolwyr i'r Cyngrair. Cefnogai well trefniadau, a sefydliad canghenau o'r Cyngrair yn mhob ardal, fel y caent well cynrychiolaeth o'r bobl gyffredin. (Clywch, clywch). Mr Herbert Lewis a amddiffynai y Cyngrair, a gobeithiai na byddai iddynt ddwyn anghydfod i mewn i'w weithred- iadau. Mr Arthur Williams, A.S., a apeliodd ar i Mr Griffith dynu ei benderfyniad yn ol ar hyn o bryd. Mr R. A. Griffith a ddywedodd nas gallai ef dderbyn y gwelliant. Gwadai fod ganddo ef amcan i greu ihwygiaddrwyy penderfyniad. Ond ar y llaw arall, dy- munai i'r Cyngrair gael ei wneyd yn un gallu cryf, gan gynwys o'i fewn holl gymdeithasau Rhyddfrydol Cymru. Pan godwyd dwylaw i fyny datganodd y cadeirydd ddarfod i welliant y Dr Herber Evans gael ei gario.
OYPANSODDIAD" CYNYGIEDIG CYNGHRAIR…
OYPANSODDIAD" CYNYGIEDIG CYNGHRAIR CENEDL- AETHOL CYMRU. Amcanion y Cynghrair ydynt:— 1. Dadgysylitiad a Dadwaddoliad yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru. 2. Cenedlaetbeliad y Degwm. 3. Diwygiad Deddfau y Tir. 4. Dewisiad Lleol. 5. Ymreolaeth i Gymru. 6. Hyrwyddo Rhyddfrydiaeth yn Nghymru. 7. Sicrhau dychweliad aelodau Seneddol ymrwymedig i gefnogi amcanion y Cynghrair. Cynghrair. SWYDDOGION. Bydd y swyddogion yn gynwysedig o gadeirydd, chwe' is-gadeirydd, yn nghydag ysgrifenydd a thrysorydd. Y PRIF GYNGHOR. r Bydd y Prif Gynghor yn gynwysedig o 39 o aelodau, y rhai fyddant i'w hethol yn flynyddol gan y Pwyllgorau Dosbarthiadol, tri dros bob sir, a chwech i'w hethol gan yr aelodau Seneddol Cymreig. Bydd i ddar- pariaath gael ei gwneyd hefyd i sicrhau cynrychiolaeth ar y Cynghor i ganghenau a ddichon gael eu sefydlu o'r tu allan i Gymru. Ni bydd aelodau Seneddol yn gymhwys i eistedd ar y Cynghor, oddieithr y rhai a etholir gan y blaid Seneddol Gymreig. PWYLLGOR ADRANOL. Bydd i bwyllgor gael ei ffurfio yn mhob rbaribarthseneddolyn Nghymr!.i,yfansodd- edig o gynrychiolwyr a etholir yn flynyddol gan y Canghenau, y rhai hefyd a fyddant yn gynrychiolwyr i gyfarfodydd blynyddnl y Cyngrhair. Prif waith y Pwyllgor Adranol fydd ethol aelodau ar y Prif Gynghor, hys- bysu y Cynghor o sefyllfa pethau yn mhob rhanbartb, a sicrhau cydweithrediad yn mysg y canghenau mewn cario allan amcan- ion y Cyngbor. Bydd i bob pwyllgor ei gadeirydd a'i ysgrifenydd ei hun. CANGHENAU. Bydd i Ganghenau o'r Cynghrair gael eu sefydlu mewn plwyfi, dinasoedd, a threfi, gwaith y rhai fydd ethol cynrychiolwyr i'r Pwyllgor Adranol, cario allan amcan y Prif Gynghor,hysbysu sefyllfa pob cangen i'r Cynghor, a chodi trysorfa i'r Cynghrair. Lie y sefydlir canghenau y tuallan i Gymra, bydd gan y lleoedd hyny hawl i anfon cyn- rychiolwyr i'r cyfarfod blynyddol, a bydd i gynrychiolwyr yr oil o'r cyfryw ganghenau gy far fod ynghyd i ethol cydgynrychioiwyr ar y Prif Gynghor, y rhif i gael ei bender- fynu o bryd i bryd gan y cyfarfod blyn- yddol. Bydd i'r canghenau gael eu ffurfio a'r rheolau eu trefnu gan Bwyllgor Trefniadol o 30 o aelodau, i'w dewis am y flwyddyn gyntaf gin bwyllgor gweithiol Cynghreiriau Rhyddfrydol Gogledd a Deheudir Cymru, ac ar ol hyny gan y Prif Gyughor. Bydd gan y Pwyllgor Trefniadol yr un gallu a'r Prif Gynghor hyd nes yr etholir y Cynghor. Y CYFARFOD BLYNYDDOL. Byddi gyfarfod blynyddol y Cynghrair gae ei gynhal yn y lie ac ar yr adeg a nodir'gan y Cynghor. AELODAETH. Bydd yn ofynol i bersonau a ddymunana fod yn aelodau e'r Cynghrair wneyd dat- ganiad o'u cydsyniad &'i amcan, a thanys- grifio Is neu fwy yn flynyddol "^tuagat ei drysorfa. RHEOLAU I GA.NGHENAU. 1. Gellir ffurfio Canghenau mewn plwyfydd yn y wlad ac mewn dinasoedd a threfi, ond bydd gan y Pwyllor Trefniadol hawl i gyIuno neu rana plwyfydd, dinasoedd, a tbryfi o fewn i'r un Rhanbarth Seneddol er ffavfio Canghen. II. Bydd i bob Canghen gael ei llywodraethu gan bwyligor, a etholir yn flynyddol, ac a fydd yn gynwysedig o lywydd, trysorydd, ytgvifenydd, a chwech o aelodau ereill. III. Bydd i bersonau a ymunant & Changhen 'restiu eu henwau yn llyfr y Ganghen, a thaiu eu tanysgrifiadau i'w thrysorydd. IV. Bydd yn ofynol i drysorvdd pob Canghen drosglwyddo 75 y cant o'r holl danysgrif- iadau a dderbynir, ac i'r ysgr.fenydd anfon- adroddiad chwarterol o sefyllfa y Ganghen yn nghydag unrhyw hysbysrwydd arall a ofynir gan y Cynghor. V. ) Bydd i'r Canghenau ethol cynrychiolwyr i'r Pwyllgor Adranol a'r Cyiarfod Blyn- yddol fel y canlyn :— Canghenau o gant o aelodau r.eu dan hyuy, un cynrychiolydd, ac un am bub cant ychwanegol. VI. Bydd i'r bo!l etholiadau gael en dwyn oddi amgylch .irwy y tugei.
CYNGRAIR RHYDDFRYDOL CI,GLEuD…
CYNGRAIR RHYDDFRYDOL CI,GLEuD CIMRU. E'sceddoad cyngor y cyngrair uchod o ddan hyd haner awr wedi tri, pryd yr oedd Ilua..s mawr o gyurychiulwyr yn bresenol. Liywydd, Mr Stuart Rendel, A.S. ADRODDIAD BLYNYDDOL. Cyflwyowyd adroddiad y pwyllgor ger- bron. Dywedodd Mr R. A. Jones, B.A., fod y Cyngrair mewn sefyllfa flodeuog a boddhaol, ond yr oedd yn ofynol wrth lOOp yn rhagor i gario y gwaith yn mlaen yo Jlwyddianus, ac yr oedd yn ofynol wrth gef. nogaeth yr holl Ryddfrydwyr. Mr Herbert Lewis a ddywedodd fod y Cyngrair wedi gorfod peidio cyhoeddi rhai pamphledau er mwyn lleihan y costau. Mr T. Gee a gynygiodd fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn, yr hyn a eilissyd gan y Parch J. M. Jones, Caergwrle, a phasiwyd yn unfrydol. Yn ddilynol cynygiwydychydigwelliantau ar nifer o'r rheolau, a phasiwyd hwynt. ETHOL LLYWYDD. Mr T. Gee a gynygiodd fod Mr Stuait Rendel, A.S.,i gael ei ail ethol yn llywydd y Cyngrair.—Eiliwyd ef gan Mr John Price, Bangor, a chariwyd ef gyda'r unfrydedd ar brwdfrydedd mwyaf.- Diolchodd y llywydd yn gynes am yr anrhydedd a osodwyd arno. ETHOLIAD IS-LYWYDD. Cynygiodd Mr R. A. Jones fod yr un rheol i gael ei harfer ag oedd wedi bod mewn grym hyd yn hyn, sef, penodi aelodau Seneddol, a Ilywyddion Cymdeithasau hhyddfrydol y siroedd ag ydynt yn dyfod o fewn cylch y Cyngrair hwn. Cymeradwy- 1 wyd hyn yn unfrydol. ETHOLIAD TRYSORYDD. Cynygiodd Mr Thomas Gee, Dinbych, ac eiliodd Mr Bryan, Treffynon, a phenderfyn- wyd yn unfrydol, fod Mri Herbert Lewis ac R. A. Jones i gael en hail- ethol. j ETHOLIAD YSGRIFENYDD. Cynygiwyd gan yr Henadnr W. Davies, Caergwrle, ac eiliwyd gan Mr W. R. Wil- liams, Rhyl, fod Mr Tilston i gael ei ethol yn ysgrifenydd; a chytunwyd ar byn yn unfrydol. PWYLLGOR GWEITHIOL. Yna aeth y cyfarfod yn mlaen i ethol, hefo'r tugel, 16 boneddwr allan o'r 47 a enwyd i weithredn ar y pwyllgor gweithiol. Etholwyd y rhai canlynol:— Parchn T. Gee Ellis Edwards, M,A.; E. Herber Evans, D.D. G. Ellis, M.A.; E. Jones, Caernarfon T. J. Wheldon, B.A. Cadben E. H. Verney, A.S.; Dr E. Jones, Dolgellau; Mri R. A. Griffith J. Parry, Llanarmon; W. J. Parry, Bethesda; J. E. Powell; Henry Lewis; T. C. Lewis; Herbert Roberts a Howell Gee. ARIANOL. ( Siaradodd y Parch Ellis Edwards a Mr Gee, ar sefyllfa arianol y Cyngrair. Hysbyswyd, yn nghanol cymeradwyaeth mawr, fod y llywydd wedi addaw tanysgrif- iad o 50p i'r drysorfa; a darfu i Mr Samuel Smith, hefyd, gyfranu 20p. Hysbyswyd y tanysgrifiadau canlynol hefyd — Mr Osborne MorgaD, A.S., 5p 5s; G. W. Taylor, 25p; dienw, lOp. Cynygiodd Mr Samuel Smith, A.S., ac eiliodd Mr Thomas Lewis, A.S., ddiolch- garwch i'r llywydd, a chadeiryJd y pwyllgor gweithiol; a phasiwyd yn unfrydol. Hysbysodd yr ysgrifenydd fod yr holl dderbyniadau yn yatod y dydd yn 186p, yt hyn oedd yn welliant ar y llynedd. I Terfynodd cyfarfod y Cyngrair ar hyn. Yna ymffurfiodd y cyfarfod yn gyfarfod o'r CYNGHOR CENEDLAETHOL, a dewiswyd Mr Osborne Morgan, A.S., yn llywydd. Cynygiodd Mr Frank Edwards, fod Mr Stuart Rendel i gael ei ail-ethol yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol. Eiliwyd y cynygiad gan Myfyr Emlyn, a chefnogwyd ef gan Mr T. Gee. Hysbysodd Mr Tilston iddo dderbyn pen- derfyniad a basiwyd gan Gymdeithas Rydd- frydol Bethesda, yn gwasgu ar yr aelodau Seneddol Cymreig y pwysigrwydd o basio mesurau yn ymwneyd a rhyddfreiniad pryd- lesoedd, byrddau o gyflafareddiad, a gweithio wyth awr. Nis cyflwynwyd y penderfyniad i'r cyfarfod oherwydd prinder amser. Y DADGYSYLLTIAD. CERYDDU MR GLADSTONE. Cynygiwyd y penderfyniad canlynol gan Myfyr Emlyn Fod y Cynghor yn calonog gadarnhau y penderfyniadau canlynol a basiwyd yn y Pwyllgor Gweithiol yn Llandrindod y 3ydd o Fecti diweddaf:— Fod y Cynghor yn awyddus am ailgyfeirio sylw y Cyngrair Rhyddfrydig Cenedlaethol, a thrwy hyny Arweinydd y blaid Ryddfrydig at hawliau Cymru i'r flaenoriaeth yn mhwnc y Dadgyeylltu a Dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig, Mae y Cynghor yn sylwi gyda boddhad ar y cynydd sydd wedi ei wneyd gan gyfeillion. y Dadgysylltiad yn yr Ysgotland a Lloegr, ac yn hyderu y rhydd yr Aelodau Cymreig gynorthwy unol a pharod i'r gangen hon er lies mawr cyffredinol. Gwna y Cynghor, fodd bynag yn ngwyneb y mynegiad diweddar a wnaed gan Mr W. E. Gladstone, adgoffa y Cyngrair Rhyddfrydig Cenedlaethol yn y modd cryfaf y mynegiadau a ddatganwyd gan arweinwyr Rhyddfrydol y byddai i Ddadgys- ylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys yn Nghymru fod y mater blaenaf i gael sylw wedi pasio Mesur yr Ymreolaeth i'r Iwerddon. Y mae y cynghor yn dal y blaid Ryddfrydig yn dyn at yr addewid yna, ac eto yn barchus am wasgu arnynt y byddai gwyro oddiar y safle yna yn niwaid i lwyddiant eymdeithasol Cymru, a byddai hefyd yn ddifrifol a gweith- redol beryglu teyrngarwch Cymry i'r blaid wleidyddol y mae mewn undeb a hi." Fod dirprwyaeth, yn cynwys cynifer o aelodau y Pwyllgor a fydd yn alluog i fod yn bresenol, i gael ei phenodi i fyned i Gyfarfod Blynyddol y Cyngrair Rhyddfrydig Cenedl- aethol i ddatgan y golygiadau a nodwyd yn y penderfyniad uchod, ac fod y llefarwyr i gael eu dewis o blith a chan y boneddigion canlyn- ol -i Llywydd, Parch E. Herber Evans, D.D., Mr Thomas Gee, Mr R. D. Burnie, Mr J. Lloyd Morgan, A.S., a Mr W. Abraham, A.S. Dywedodd y cynygydd mai Dadgysylitiad oedd prif bwnc y dydd yn Nghymru. Dyma ben cyntaf, ail, a thrydydd pregeth wleid- yddol y wlad fechan hon, ond yr oedd iddi ragymadrodd o'renw Ymreolaeth(chwerthin a chymeradwyaeth). Dadleuai y gellid Dadgysylltu yr Eglwys yn Nghymru ar wahan oddiwrth Loegr. Y mae yn rhaid ei bod yn bur dlawd ar y Gymanta Eglwysig yn Ngbaerdydd cyn y buasai un o'i siarad- wyr yn beiddo hawlio tadau Metbodistaidd fel Rowlands o Langeitho, Howel Harris, a Charles o'r Bala, fel plant yr Eglwys Sefyd- ledig os oeddynt felly, rhaid eu bod yn 1 anhebyg iawn i'w mam (chwerthin). Yr oedd yn bur anhebyg y byddai i brophwydol- iaeth Esgob Llandaf—y deuai y gwenyn yn t iaeth Esgob Llandaf-y deuai y gwenyn yn 01 i'w hen gychod—byth ddyfod i ben, oherwydd r.i chlywsent erioed am wenyn yn dyiod yn ol tV hen gartref ar ol byw mewn un gwell (chwerthin mawr). Eiliwyd y cynygiad gan Mr G. W. Taylor, yr hwn a gyfeiriodd at y cydraddoldeb cre- fyddol sydd yn Awstralia, y wlad He y buasai fyw 27 mlynedd, a'r rhyddid mawr a fwynheid yuo oddiwrth ormes crefydd sef- ydledig ragor yn y wlad hon. Yna cododd Mr Gilbert, a dywedodd y beiàdiai ddatgan ei farn ei hun ar y pwnc hwn, pa -on bynag agondemnid ei waith ai peidio gan y cyfarfod. Yr oedd y genedl Gymreig wedi cael ei siomi yn enbyd ac yn ddifrifol (clywcb, clywch) at ymddygiad prif arweinydd y blaid Ryddfrydoi ar bwnc Dadgysylitiad i Gymru (cymeradwyaeth uchel). Pan y cymerodd y ddadl fawr ar y Dadgysylitiad Je- yn Nhy y Cyffredin, yr 1ofdd yr a^loaau Cymreig yn bresenol, aelod- au Radicals.idd Lloegr a'r Alban, ond yr arweinydd mawr yn absenol (llefau e "Cywilydd"). Yr oedd yn gobsithio y byddai y boneddwr anrhydeddus ar y llwyf- an yn alluog i ddyweyd wrth Mr Gladstone nad oedd ei ymddygiad wedi rhoi boddlon- rwydd (cymeradwyaeth uchel). Rhaid rhoi ar ddeal! iddo fod y Cymry yn dysgwyl am fynegiad pendant o'i eiddo, ac am iddo gynorthwyo a chefnogi, a pheidio sefyll draw (cymeradwyaeth uchel a hirfaith). Dywedodd Mr Fred Jones, B.A., Rhuthyn, fod cryn siomedigaeth ya N ghymru am nad oedd Mr Gladstone ya breseDol yn y rhaniad ar bwnc y Dad- gysylltiad; ac os oedd unrhyw berygl o golli etholaeth yn Nghymru, byddai o achos byny. Nis rhoddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, am fod gwelliant Mr Powell wedi enill heb ddim ond pedwar yn ei erbyp. Ar ol yebydig drafodaeth pasiwyd y pen- dat fyniad canlynol ar Y DEGWM. Fod y pwyllgor gweithiol wedi mabwysiada y penderfyniadau canlynol, h.y.— Fod y cyfarfod hwn o'r farn fod defnyd^o y degwm at ei amcanion presenol yn wrth A- adwy i'r eithaf, yn ogystal a'i fod yn anghjK i^wn, ac y dylid arfer pob gwrthwynebiad cy»- ansoddiadol yn er oyn ei gasgliad, ac fod y gym- deithas hon yn ymrwymo i ddefnyddio pob moddion cyfreiihlon yn ei gallu er cyraedd yr amcan hwnw." "Pod y Llywydd, Cadeiryddion, Pwyllgor- au Gweithiol y ddau Gyngrair, ynghyda Mr Thomas Gee, Dr Enoch Davies, Llaadyssul Mr R. A. Jones, Mr D. Lloyd George, a'r Ys grifenyddion, i gael eu penodi yn Bwyllgor i dynu allan y cyfryw benderfyniadau a rheolan ag a fydd yn angenrheidiol i effeithioli y pen- derfyniad uchod, ac fod copi o'r cyfryw i gael ei anfon i bob aelod o'r Pwyllgor Gweithiol i'w hystyried, ac wedi hyny i'w dwyn o flaen cyf- arfod naillduol o'r Pwyllgor er eu cadarnhau." Fod y Pwyligor hwn yn cadarnhau y cyf- ryw; ac i'r amcan o sicrhau unoliaeth yn y gweithrediadau, yn ail benodi y Pwyllgor, gyda chyfarwyddiadau i gwblhau y rheolau, ac yna i gyflwyno y cyfryw i Bwyllgorau Gweith- iol y ddau Gyngrair mor fuan ag y mae modd, ac yn deisyf ar i'r ddau Gyngrair eu cyflwyno i'r etholiadaeth a'r Pwyllgorau LIeoI cyn en derbyn yn derfynol." Gan fod yn rhaid i luaws o'r cynrychiol- wyr fyned ymaith, penderfynwyd gohirio y penderfyniad yn cg! £ n a chwestiwn y til.
IDEBBYNIAD SYR WILLIAM ,HARCOURT…
DEBBYNIAD SYR WILLIAM HARCOURT I'R DREF. Cyrhaeddodd Syr William i'r dref hefo'r tren 4 40 o Fangor. Gryn amser cyn hyny yr oedd tyrfa fawr yn barod i'w groesawu yn yrnyl yr orsaf; a Seindorf Bres Llanrug yn barod a'u gwasanaeth. Daeth Syr Wil- liam, a'i briod, a'i fab, allan n'r cerbyd yn nghanol cymeradwyreth fawr y dorf. Der- byniwyd hwy gan Mr George Osborne Morgan, A.S., Mr A. J. Williams, A.S., Mr A. D. Vvilliaras, Mr David Thomas, Bryn- gwyn; y Cyughcrwr Thomas Williams, all y Dr Herber Evans, y rhai a'u harweiniasant i gcrbyd oedd yn eu dysgwyl y tn allan i'r orsaf. Yea ymffurfiwyd yn orymdaith fawr yn cael ei blaenori gan y Seindorf Bres. Gwasanaeth id hefyd gan Seindorf Bres Amlwch. Wedi gorymdeithio drwy y prif heolydd, aeth Syr William Harcourt a'i briod i gyfarfod y Cynghor yn y Guild Hall, le y derbyniwyd hwy gyda chymer- adwyaeth fyddarol. Rhoes anerchiad byr yn y cyfarfod, yn nghwrs pa; un y syl- wodd v dywedid fod y blaid Ryddfrydol yn un orchfygedig ond yr oedd yr wythnos neu y deng niwrnod diweddaf wedi agor Hygaid yr Undebwyr ar y pwnc, ac yr oedd y man etholiadau wedi cynyg at agor Ilygad Pharoah ac yr oedd y blaid Undebol yn dechreu dyfod i weled nad oedd y Rhydd- fiydwyr, os oeddynt rywbeth arall, yn blaid orchfygedig (cym). Y peth rhyfedd yn nglyn a hyn oedd ei bod yn cvnyddu bob blwyddyn, bob mis, a phob wythnos, gyda chyflymder rhyfeddol. Enillasant rai seddau yn 1887, enillasant fwy yn 1888, ac yn 1889 enillasant fwy nag a wnaethant erioed o'r blaen (cym). Ddydd Linn di- weddaf darfu i hyd yn nod y papyr tylciog The 1 imss ysgrifenu "nad yw ond ofer honi nad yw yr wythnos ddiweddaf wedi bod dipyn yn anobeithiol i Undebwyr" (chwerthin mawr) AGORIAD Y CLWB RHYDDFRYDOL. Yn v Clwb Rhyddfrydol, ag oedd i gael ei agor yn ffurfiol gan Syr William Harcourt, derbyniwyd y boneddvr env og gyda chym- eradwyaeth daranol. Uymerwyd y gadair gan Mr Thomas Williams, Cadeirydd y Clwb Rhyddfrydol. Wedi cael ychydig eiriau gan y cadeirydd, agorodd Syr William y clwb yn nghanol cymeradwyaeth iddo ef ac Argiwyddes Harcourt.
CiFARFOD MAWR A BRWDFRYDIG…
CiFARFOD MAWR A BRWD- FRYDIG YN Y PAVILlOfl. Oddentu awr cyn i'r cyfarfod ddechreu ymdywalltai y gwlaw yn genllifoedd, ac ofnid y buasai hyny i raddau yn diffodd sel y rhai oedd wedi dyfod i'r dref, ond yn mhell cyn i'r amser ddechreu yr oedd yr adeilad eofawr yo orlawn. A pha ryfedd, onid oedd Ul1 o flaenoriaid ecwocaf y blaid Ryddfryd: 1, yn ngbydag arweinwyr Democ- rataidd y Rhyddfrydwyr Cymieig, yQ0 i anerch y d rf anferth ydoedd wedi dyfod iIrile. Bsmid fod yu yr adeilad oddeutu wyth mil o bersonau, a hawdd ydoedd canfod oddiwrth eu hwynebau eu bod ya edrych yn mlaen yn awekus at y'wledd wleid- yddol ydoedd i gael ei harlwy iddynt. Ar brydiau mynai eu teimladau brwdfrydig a chenedlgarol gael ymdori allan. wetthiarx yn nodau r hen alaw boblogaidd, "Haa wlad iy nhadau," brydiau ereill mewn llongyfarch i'r gwahanol bersonau enwog a wnaent eu hymddangosiad ar y Uwyfaa. Nodweddid y cyoulli -d aruthrol gan y dym- her oreu, er, drwy ryw ddiffyg feddwl, nad oedd y pwyl!gorv wedi trefnu fad mwy o gerddor aeth wedi ei darparu ar gyfer treulio yr amser yn ddifyr a dyddan. 0 ran brwd!rydedd, uid oedd yn bosibl cael cynulliad wedi <:i ysbrydoliyn fwy drwyddo. Pan wnaid cyfeiriad at euw y ''Grand Old Man." angherlld01 ydoedd y derbyniad a roddid iddo ac uid llai brwdfrydig ydoedd yr atebiad a roddwyd i ofvniad y cadeirydd, pan ofynodd beth oedd prif gwestiwn y dydd yn Nghymru, pryd yr atebodd y miloeddmai y Dadgysylitiad." Pan wnaeth Syr William Harcourt, yn cael ei ddilyn gan f rgIwyddes Harcourt, eu hymdàang-üsiarj, a chyda hwy ar y llwyfan yr oedd Mr Stuart Rei-del, A.@., ae ereill, rhoddwyd y derbyniad mwyaf cynhea iddynt. Cyfododd Mr Stuart Rendel, A.S., yn nghanol cymeradwyaeth fyddarol, a dy- wedai nas gaUai unrhyw ddyn, pwy bynag allai fod, sefvll o flaen y fath gynuliiad heb fod mewn yspryd uchel-heb gael hyd yn nod ei ysprydoli, ac yr oedd yn gyfartal i sefyll o flaen y Grand Old Man ei hunan. (Parhad yn tudakn 8)
y CYNiOR CENEDLAETHOL CYMREIG.
ddiheuro oherwydd absenoldeb o'r cyfarfod yr oedd un oddiwrth Mr J. Jones, Y.H.,Llan- fyilirt. vr a gyfeiriodd at Radicaliaeth y "North LV:ies Observer and Express." Ysgrifenai Mr Jones :—"Syr,—Y mae yn ddrwg gecyf ca fedraf fod yn Nghaernar- fon vfory. G/da golwg ar ganlyniad y cyf- arfod vr wvf braidd yn bryderus. Yr wyf yn gobeithio y gwrendy y gynadledd ar gynghor;ou doeth dyoion fel Mr Stuart Rendel a Mr Osborne Morgan. Os ydyw Radicaliaeth cyich "Observer," Caernar- fon i ffynn yn eich cynadledd, gellwch fod yn siwr na wna y wlad mo') ddilyn, a bydd y canlyniad yn ddicystriol. Gyda phynciau y Dadgysyilt:ad a'r Degwm i'w penderfyou, bydd g^oym ddigoa i'w wneyd. Ge!lid ymd liti â L.of.1" gwleidyddol Mr Gee a Mr R. A. Griffith ar ryw adeg ddyfodol a ilai pwysig na aim." MR C. R. J anes, Y.H., LLANFYLLIN. Y mae rhybuddion o gynyafiad a rocldir gan Mr Gee a Mr R. A. Griffith yn gofyo ystyriaeth ac ymdriniaeth bur ddifrifol cyo y mae yn bosibl eu cym eradwyo. Yrnddetigys y blaenaf mor ao- addfed, cymysg, ac eitbafol, fel ag i wanbau undeb y ac y mae yr olaf yn drwyadl, anymarfeii I. Y mae yn dda genyf y bydd Mr Rendei, Mr Osborne Morgan, Mr Bryn Roberts, ac A.S.iaid eraill, yn bresenol ac yr wyf yn gobeithio yr arweinir y cyfarfcd- ydd gan eu cynghor." ODDIWRTH Y PARCH GRIFFITH ELLIS, M.A. Yr wyf yn bollol wrthwynebol i'r ymgais a wneir i gycbwyn yn bresenol ryfel y degwm yn gyffredinol neu, hyd yn nod yn rhanol. Byddai rhyfel ('r fath yn iater difrifol i bawb a ddaliant berthynas a hi, a'r unig ffordd y gellid ei chyfiawnhau fyddai, am nas gellid sicrhau Dadgysylitiad a Dadwaddoliad hebdd. Nis fud yn ddyben, a rhaid ei hystyried yn unig fel moddion i gyrhaedd y dyben hwuw. Ni byddai i ryfel y degwm llwyddianiius dueddn y blaid Doriaidd neu Undebol i roi Dadgysylitiad i ni; ac fe fydd i'r blaid Ryddfrydoi ei roi i ni gynted ag y deuant i awdurdod, heb ryfei y degwm. Pe byddai i Lywodraeth Ryddfrydol betrnso ar y pwnc, yna fe fyddwn i yn gryf dros gychwyn rhyfel y degwm. Ond yn bresenol nis gwnai ond rhoi esgus i'r Llywodraeth dros basio Ysgrif y Deg\vm a fyddai yn hynod o ddinystriol yn ei heffeithiau. Pa fodd bynag, nis gallaf godi un gwrthwyneb- iad i'r cynygiad i gyflwyno y gyfundrefn i'r Cymdeithasau Rbyddfrydol cyn iddi gael ei chymeradwyo yn derfynol. Os ydyw y rhai hyn o'i phiaid, ac yn barod i ymrwymo i'w chefnogi, bydd y Cynghor mewn sefyllfa i wneyd myneeiad awd urdodedig ar y pwne. Yr yn wyf edrych mewn goleuni hollol wahanol ar yr ymgais i ddwyn atafaelwyr i afaei cyfiawnder, ac yr wyf yn cefnogi o galon yr hawliad am ostyngiad cyfiawn o'r degwm, a'r gwrthodiad i dalu heb hyny oddigerth o dan atafaehad. Anfonodd Mr Rathbone, A.S., a'r Parch T. J. Wheldon, lythyr bob un i ddatgan eu gofid na fedrent fod yn bresenol yn y cyfarfodydd. Y llywydd, wrth agor y gweithrediadau, a ddywedodd :—Gobeithiaf y bydd i'r cy- farfod hwn brofi yn amgylchiad pwysig yn hyrwyddiad cynydd gwleidyddiaeth yn Nghymru (clywch, clywch). Credaf pe byddai i ni daflu ein golygon ond pur ychydig yn ol y teimham fod llawer o gynydd wedi ei wneyd i obeithio liawer yn y dyfodol (clywch, clywch). Prin y gallaf fi eefyil yma heb gofio am yr adeg pan y cefais yr anrhyd- edd o sefyll wrth ochr Mr Henry Richard— (clywch, clywch a chymeradwyaeth)—gwlad- garwr Cymreig o'r iawn ryw, dyn a barc-dd i'r achos Cymreig gael ei wybod a'i ddeall i ryw raddau yn Lloegr. Ar yr achlysur hwnw y gwnaed y datganiad cyntaf fod yn rhaid i Ddadgysylltiad yr Eglwys Seisnig yn Nghymru (uchel gymeradwyaeth)—fod o hyn allan yn rhyw ran arbenig o wleid- yddiaeth Cymru,ac os yr ystyriwn y cynydd a wnaed er y pryd hyny, credaf y gall y Cymry gymeryd calon gyda golwg ar y dy- fodol, a pheidio digaloni yn ngwyneb hunllef y sefydliad gwladol (clywch, clywch). Nid oes llawer o amser er's pan oeddwn yn bresenol mewn cyfarfod arall, yn mha un y cefais i yr anrhydedd o gynyg penderfyniad yn ffafr a deddfwriaethu ar gyfer angen- rheidiau addysgawlCymru (cymeradwyaeth) Y pryd hwnw nid oedd yr un gam wedi ei chymeryd i wneyd cyfiawnder a Chymru yn y cyfeiriad hwn. Ond erbyn hyn yr ydym wedi sicrhan amryw golegau, ac nid hyny yn unig, ond hefyd Mesur Addysg Ganol- raddol (clywch, clywch). Mae y rhai hyn yn gamrau nas gellir eu bychanu, ac yn rhai a roddant sylfaen dda ar gyfer y dyfodol. Hefyd, mae Cymru wedi gwneyd cynydd boddhaol mewn cyfeiriadau ereill, ac wedi manteisio ar Ddeddf y Llywodraeth Leol mewn dull a synodd blaid yr hen oruchwyliaeth yn Nghymru (cymeradwy- aeth). Heblaw hyny, mae Cymru Rydd frydol wedi ymgyngreirio, ac wedi magu nerth dirfawr drwy y cyngreiriau hyn, a diau eu bod yn prysur gyfnewid boll ar- weddiad llywodraethol Cymru (clywch, clywch). Rhaid cael Cymru yn unol cyn y llwydda i aicrhau ei hiawnderau, a phob ardal i roddi eu holl egni ar waith i gyf- nerthu breichiau y cynrychiolwyr Seneddol. Gallaf anturio datgan fel ffrwyth sylwadaeth fod Cymru ar y blaen t'r gweddill or deyrnas mewn gweithio drosti ei huo. Mae ei haelodau Seneddol wedi ymffurfio yn blaid Gymreig, a gorfodi Ty y Cyffredin i'w chydnabod (clywch, clywch). Gobeithiaf y bydd i ni bwyso a mesur yn ofalus bob cwestiwn a roddir ger ein bron yma heddyw, a ehofio fod y rhai sydd yn eu cynyg yn gwneyd hyny yn gydwybodol. Parthed gwladlywiaeth Cymru, Dyddaf bob amser yn rhoddi y lie blaenaf i'r Dadgysylitiad (cymeradwyaeth uchel). Yr ydym fel plaid Ryddfrydol Gymreig wedi ym- ladd y degwm, t a wedi cael budd- ugoliaeth ardderchog (cymeradwyaeth). Yr wyf yo meddwl eich bod yn dysgwyl fod gan y Llywodraath, ar bwnc y degwm, ffon yn y bied" i Gymru, a'i fod yn unig yn fesur gorfodol ar egwyddor yr no Qwydd- elig, ac in brawycbn f. i ydoedd yn Nghyai ru. Pa gwrs bynat a dybia y Cynghor hwn yn ddoeth i'w gymeradwyo fel un ymarferol, ein dyledswydd ni yw ei ystyried yn llawn gyda golwg ar Ddadgysylltiad, nid wyf am eiliad wedi petruso ni wasgu ar yr holl blaid Ryddfrydoi fel pwnc ddylai gael ei dderbyn fel rhan o'n rhwymedigð i Gymru. Gyda golwg ar Ddadgysylltiad, dylent i gyd fod o un feddwl, a'r meddwl hwnw yn gorphwys ar un aucau-sef ysgaru y pedair esgobaeth Gymraeg oddiwrth y sefydliad Seisnig (cymeradwyaeth uchel). ADDYSG ELFENOL A CHANOL- RADDOL. Cynygiodd Mr A. D. Ackland y pender- fyniad canlynol 1. Fod y Cynghor yn llongyfarch y Blaid Soneddol Gymreig ar ei llwyddiant yn pasio y Mesur Addysg Ganolraddol i Gymru, yr hwn sydd nid yn unig yn cyfarfod i gymedrol anghenion neillduol y Dywysogaeth, ond sydd hefyd yn cynwys symudiad pwysig yn y Senedd Brydeinig yn ei gydnabyddiaeth o hawl Cymru i gyfreithiau arbenigol a gwahan- iaethol, ac hefyd sydd yn ffurfiol yn cynwys Sir Fynwy yn Nghymru, fel canlyniad i heriad bywiog a dadl benderfynol yn y Senedd. 2. Fod y Cynghor o'r farn fod y Mesur, pa mor rhanol ac aumherffaith bynag, yn cynwys darpariadau er creu a chynal, o dan awdurdod cynrychiolaeth boblogaidd, Addysg Ganolradd anenwadol a Senedd Gynorthwyol, ac yn y tIDodd mwyaf difrifol yn apelio at Ryddfrydwyr Cymru ac YmDeillduwyr i gymeryd manlais helaeth ac eofn o hono. 3. Fod y Cynghor yn gwasgu ar y cynrych- iolwyr Cymreig i arfer eu holl ymdrechion i oeod y Dywysogaeth mewn perthynas ;'g Addysg Elfenol Rydd ar safon heb fbd yn is un a fwynheir yn yr Alban, ac ar iddynt ymunoa'r mwyafrif Albanaidd a Radicaliaid Lloegr i'r amcan o ddwyn yn mlaen yn gyffredinol achos Addysg Rydd yr Ysgolion Celfyddydol o dan ofal cynrychiolaeth boblog- aidd. Yr oedd yn gwawdio yr hyn a ddywed- wyd gaa yr Arglwydd Rmdolph Churchill yn y Drefnewydd, fod Cymru yn ddyledu3 am y meaur ar Addysg Qiuolraddol i'r Llywodraeth Doriaidd. Y ff,iith oedd fod Cymru yn ddyledus am dano i ddeheu- i wyd i aelodau Cymry fei Mr Stuart Rendet, Mr T. E. Ellis, a Mr A. J. Williams. Gobeith- iai y byddai i'r pwyligorau sefydlu yscoi- ion da ar hyd a lied y wlad, ac y byddai cydweithrediad gyda golwg ar wella addy?g yn y Dywysgogaeth. Dylent gael arian at yr aieiladau yn yr un tfjrdd ag y maent wedi ciel at y capaUu (clywch, clywch). Wrth siarad ar y pwoc o Addysg Rydd, cyf^irioJd Mr Ackland at fynegiad y Canon Gregory, yr hwn a dderbyniwyd gyda chryn chwerthin, ac ychwanegodd maiuu bai mawr a gafodd y Canon Gregory yna ar y Cymry ydoedd pan y daethant, amryw flynydd- oedd yn ol, yn bechaduriaid dychrynllyd drv. v gymeryd eu crefydd a'u hysgclion 1'w dwyiaw eu hunain. Rhaid i'r Cymry, er mwyn cyrhaedd yr amcan mawr yna, fyned yn mlaen heb eiddigedd cymdeithasol ac eiddigedd crefyddol, a pbenderfynu cael ysgolion i blant y gweithiwr mor effeithiol fel ag y:byddant o flaen yr holl ysgolion ereill drwy Brydain Fawr. Darfu i Mr J. Bryn Roberts, wrth eilio y penderfyniad, roi gair uchel i wasanaeth Mr Mundella. Yr oedd y Toriaid am gael y clod am yr ysgrif; ond pe bnasai yr ysgrif wedi cae ei pha6io neu ei chycllunio ganddynt hwy, buasai yn beth tlawd mewn gwirionedd. Yr oedd yr ael- odan Cymreig wedi rhoi i mewn ar rai pwyntiau, fel na theflid yr ysgrif allan yn gyfangwbl. Ymladdwyd yn ddewr dios bob pwynt anbebgorol, ac euillwyd hwynt; ac yn eu plith fod Mynwy i fod o fewn cyleh yr ysgrif. Pwnc arall na roddent i fewn aroo oedd, y dylai y cyaghorsLU sirol gael mwyafrif ar y bwrdd addysgol cynrych- ioliadol. Dywedodd Mr W. Griffith, o Gaerludd, ei fod ef, fel cynrychiolydd Cymdeithas Cymry Fydd Caerludd, yn cynrychioli barn fwy Radicalaidd na'r un a ddatgenir yn y pen- derfyniad. Yr oedd yn hen bryd y dylem gael yn Ngbymru fwrdd addysg canolog befo gallu gweinyddol fel ag i diwytho ein haddysg S. nodweddion cenedlaethol a moesol y bobl. Yr oedd cyfundrefn wreidd- iol o addysg yn hanfodol angenrheidiol; ond beiddiai ddyweyd yn gryf nas gallai un llywodraeth o Loegr wneyd hyn byth i ni. Nid oedd neb ond y Cymry eu Iranain a fedrent wneyd cyfundrefn o addysg a gyfar- fyddai ddymuniadau y genedl. Dylai Cymru gael ei llywodraethu ya ol dymuniadau y Cymry. Ond nis gwneyd hyn byth o Westminster (clywch, clywch). Rhaid i hyn gael ei wneyd yn Nghymru a chan Gymry. Felly, fe gynyg- iai fel gwelliant, Fod y cyfarfod hwn o'r farn y ceid y diwygiadau ucbod oreu drwy sefydlu cynghor addysg canolog i Gymrn hefo gallu deddfwrol a gweinyddol" (cym eradwyaeth). Gofynodd Mr J. E. Powell i gynygydd yr atodiad pa un a oedd yn golygu cynghor i gario allan addysg elfenol, neu beth ? Yna darllenodd y cadeirydd eilwaith yr "atodiad." Dywedodd y Parch Ellis Edwards, M.A., ei fod yn codi i wrthwynebu y gwelliant, yn enwedig y geiriau digonol" ac anen- wadol." Gofynid iddynt ddyweyd fod yr ysgrif wedi rhoi i ni gyfundrefn addysg anenwadol hollol ddigonol ac anenwadol. Drwy basio y penderfyniad ymddangosent fel yn cymeradwyo y mesur a gefnogwyd gan yr Eglwys Esgobol. Yr oedd arnynt oil eisiau Ymreolaeth, ac Ymreolaoth mewn perthynas i addysg. Ond yr oedd Ymreol- aeth eisoes wedi cael ei rhoi i gryn raddau, ogymaint ag fod yr Ysgrif wedi rhoi gallu i'r siroedd i uno. Yr oedd yn anhebgor. ol beth bynag i siroedd Gogledd Cymru a Debeudir Cymru uno â'a gilydd. Yr oedd llawer o arwyddion nad oedd y Charity CommisBioners yn ei hoffi; ond pe buasai chwe' sir Gogledd Cymru, byddai hyny yn llais y bobl o Ogledd Cymru: a byddai yn bur anhebyg y beiddiai y Charity Commis- sioners ei wrthwynebu (cymeradwyaeth). Mr J. E. Powell, Gwrecsam, a ddywedodd ei fod ef yn cydolygu yn hollol a mesar Mr Stuart Rendel. Yr oedd ynddo gydna- byddiaeth eu bod ar gwestiwn addysg yn dymuno llywodraethu eu hunain. Yr oeddynt oil yn cytano fod amgylchiadau yn rhoddi y Dirprwywyr Elusenol yn safle Cyngor Addysg Cymru. Dylent ymdrechu rhoddi addysg i'r dosbartb goreu o fechgyn. Bydded iddynt gael ysgolion uv* chraddol yn mhob lie poblog, fel y gallo bechgyn a genethod tlodion Cymru gael yr unrhyw fauteision ag eiddo plant yr Alban. Gobeith- iai ef y byddai i'w gyfaill Llundeinig dynu ei benderfyniad yn ol. Mr T. Ellis, A.S., yr hwn a dderbyniwyd yn frwdfrydig, a ddywedodd ei fod ef yn credu yn gryf fod y penderfyniad a roddwyd o'r gadair yn myned fodfedd tu draw i'r syniad a goleddid er's amser maith gan Ryddfrydwyr Cymru. Dadleoai ef eu bod wedi datgan yn ddigon eglur ac effeithiol yn fftofr mesur addysg i Gymru, fel ag i brofi fod Cymru o ddifrif ar y cwestiwn hwa, ac yn gwirioneddol ddymuno cyfundrefn dda o addysg genedlaethol. Gobeithiai ef y bydd- ai.i Gymru cyn hir fod yn feddianol ar nifer o ysgolion uwchraddol, fel na byddai raid i blant gerdded milldiroedd i ranau anbygyrch o'r wlad i gael yr anrhydedd o gael eu hadd- ysgu gan barsoniaid gwledig (chwerthin). Edrychai ef yn mlaen at yr adeg pan y gallai Cymru gystadlu yn ei manteision addysg ag Ysgotlard, ac y gwelid ei bechgyn yn dringo grisiau dyrchafiad yn hafal i eiddo bechgyn y wlad uchaf ei breintiau addysg- awl. Yr oedd yn rhaid iddltweithredu yn unol a phenderfynol yn hynol,eth,adodi eu hawliau gerbron y Llywodraeth â'n boll nerth drwy eu haelodau Cymreig (clywch, clywch). Byddai iddo ef gefnogi y gwell- iant os byddai i Mr Wm. Griffith ganiatau y cyfnewidiad isod i gael ei wneyd yn ei eii iad. Mr W. Griffith a ddatganodd ei barod- rwydd i dderbyn y geiriad awgrymedig. Yna rhod,odd y llywydd £ atodiad Mr Griffith ger bron, gyda'r ychwanegid can- lynol o eiddo Mr Ellis Fod y cyfarfod hwn o'r farn fod i gyngor canolog addysg gael ei sefydlu, gyda rheolaeth lawn ar bob cangen o acdysg genedlaethol." Rhoddwyd yr atodiad gyda gwelliant Mr Ellis arno,jo flaen y cyfarfod, a chymeradwy- wyd hwynt yn unfrydol. DIRWEST. Mr Thomas Lewis, A.S., mewn araeth gref ac argyhceddiadol, a gyrygiodd y pen- derfyniad canlynol Fod y Cynghor hwn yn awyddus i ddatgan ei foddhad am gyffredinolrwydd y dystiolaeth a roddwyd o flaen y Ddirprwyaeth Freiniol a benodwyd i ystyried gweithrediadau Mesur Can y Tafarnau ar y Sabboth, (y mae diolch- garwch Cymru yn ddyledus i'r rhai hyny trwy eu tystiolaeth a amddiffynasant ei defnydd- ioldeb) a disgwyliasant gyda phob hyder am Fynegiad y Dirprwywyr. Y mae y Cynghor yn gryf o'r farn fod Mesur Cau y Tafarnau wedi bod yn fendithiol iawn i'r Dywysogaeth, er fod galwad neillduol am wellhad ar y diffyniad a roddir yn y gyfraith o'r teithiwr gwirioneddol (bonafide travellr,a llawenhant wrth ystyried fod y pwnc dirwestol wedi sicr- hau cymaint o sylw y cyhoedd: ac y mae y Cynghor, am y creda fod dedwyddwch y bobl I yn dibynu i raddau mawr ar eu sobreiddiwch, yn ail gadarnhau ei argyhoeddiad y dylid rhoddi i'r bobl yr awdurdod o lywodraethu y fasnach feddwol yn eu hardaloeJd eu hunain. Parch E. Herber Evans, D.D., a eiliodd y cynygiad mewn araeth ddoniol ac byawdl. Mr W. J. Parry a gynygiodd welliant yn ffafr llwyr ddiddymiad adran y dya ar daith; yr byn a gariwyd.