Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
45 erthygl ar y dudalen hon
ISGrRIFElNYDD HEWN HELBUL-J
ISGrRIFElNYDD HEWN HELBUL- J Cyhuddwyd Henry Stytes, cyn-ysgrifen- ydd Undeb y Docwyr, o dwyllo yr Undeb i'r swm o dair punt. Dywedid ei fod wedi cy- meryd yr arian er y flwyddyn 1890. Gohiriwyd ei brawf am bythefnos.
OLYNYDD Mil SPURGEON.
OLYNYDD Mil SPURGEON. Penderfynwyd o'r diwedd y cwestiwn dyrys pwy fydd olynydd y diweddar Mr Spurgeon. Pellebrodd Dr Pierson o New York yn addaw dyfod yn weinidog ar y Tabernacl. Gobeithir y bydd iddo ddechreu ar ei ddyledswyddau yn gynar yn Y flwyddyn newydd.
O'R BRIFYSGOL IR DAFAttN.
O'R BRIFYSGOL IR DAFAttN. ^TnBownpatrick, ~hutfdwycl PatrickMc Hewry o ymosod ar John Lowndes. Dy-: wedodd yr erlynydd mai Sais ydoedd, a'i fod wedi graddio yn Mhrifysgol Caergrawnt. Yn bresenol enillai ei damaid fel labiwr 1 dafarnwr. Dedfrydwyd y diffynydd 1 ddau fis o lafur caled.
0ES Y eWYBTHUII -
0ES Y eWYBTHUII Y dyddiau hyn aiff .cannoedd lawer ar bererindod i Louies, yn Ffrainc, gan y dy- wedir fod gwy*tliiau yn cael cu cyflawni yno, a cbleifion Kwer yn cael eu hiachau. Fodd byna1111 eneth farw pan yn myned ar yr or/radaith heibio i lun y Forwyn Fair.
LLX-DD Ff RUN YN 17eg OED.…
LLX-DD Ff RUN YN 17eg OED. Cynhalhvyd trengholiad ar gorph geneth 17eg oed yn Birmingham. Bu yn "earn" gyda bachgen o'r un oedran, ond clywodd ei fod yn canlyn genethod ereill. Pan glywodd am hyn taflodd yr eneth ei hunan i'r gamlas, a. bu foclcli. Cafwyd fod llun ei chariad yn gorwedd y peth ne3af at ei mynwes. GA YN ARDD.
DAEL JBABAN YN ARDD.
Pan aeth bachgen bychan at dy yn Hamp- stead tua haner awr wedi wyth, gwelodd faban yn gorwedd yn yr ardd. Bachgen ydoedd, tua haner blwydd oed. Aed ag ef i'r tlotty. Ni wyddys pwy a'i gadawodd o flaeny ty. 49 '■ '■■■
GWENYN YN NHWR YR EGLWYS.
GWENYN YN NHWR YR EGLWYS. Tra yr oedd nifer o weithwyr yn gwneyd cyfnewidiadau mewn eglwys yn agos i Melton Mowbray, daethant ar draws swm o fel yn y twr, lie yr oedd haid o wenyn wedi gwneyd eu cartref. Rhaid eu bod wedi arfer bod yno er's blynyddoedd. Er's chwarter canrif yr oedd yr addolwyr yn ddigon cynefin a gweled gwenyn yn hedeg o gwmpas yr eglwys yn ystod y gwasanaeth.
ASTUDIO IAITH Y If WNCI.
ASTUDIO IAITH Y If WNCI. Ymn,dawodd y Proffeswr Garner o Lerpwl ddydd Mercher, gyda'r bwriad o dreiddio i goedwigoedd A ffrica, er astudio "iaith" y mwnciod. Cymerodd gydag ef y seiniadur y c ac offerynau eraill, a hyderai y bydd iddo sicrhau gwybodaeth werthfawr am arferion y creaduriaid hyn. Nid oes neb yn myned I allan gydag ef. Credai y bydd iddo ddar- ganfod ffordd i ddal cymundeb a'r rhai I mwyaf deallgar o'r mwnciod.
CASHAU TEULU MAWR.
CASHAU TEULU MAWR. Teimlai clerc yn Kennington yn chwerw ~ldly lythyr ati i ddyweyd os y byddai iddi barhau 1 fyw gydag ef na welai ond tlodi yn hyll- dremu yn ei wyneb, oblegid teulu mawr. Dro arall cipiodd blentyn oddiarni, a chic- iodd hi yn ei nochr. Dy^wyd ef o flaen yr ynad, a rhwymwyd ef i gadw yr heddwch am chwe mis, ac i dalu pedwar swilt o gostau.
GOLYGFA DDYDDOROL MEWN LLYS…
GOLYGFA DDYDDOROL MEWN LLYS COFRESTRIADOL. Yn llys cofrestriadol Lerpwl rhoddwyd gwrthwynebiad i Nathan Moss gan y Rhyddfrydwyr, ar y tir nad ydoedd yn Brydeiniwr. Gofynodd Mr Lynskey iddo, I ba genedl y perthynwch ?" "I Eglwys Loegr." Mr Lynskey "Nid yw hono yn genedl beth bynag. Eto, i ba genedl yr ydych yn perthyn?" I'r Toriaid." Mr Thompson (goruchwyliwr y Toriaid): "Dyna well." Mr Lynskey (wedi myned i anobaith): Yn mha le y cawsoch eich geni ?" Yn Eglwys Sefton Yn y diwedd, taflwyd y gwrthwynebiad allan.
CAMGYMERYD Y NEWID.
CAMGYMERYD Y NEWID. Aeth Edward Pearse i fewn i dafarn, a galwodd am lasiad o gwrw, gan roddi dwy geiniog i lawr i dalu am dano. Galwodd tin arall am yr un !peth, a rhoddodd pisyn deu- ewllt i'r tafarnwr. Rhoddodd hwnw y Is 10c newid i Pearse, ond darganfyddodd ei gam- gymeriad ar unwaith. Gofynodd am danynt yn ol. Ond ni roddid hwynt iddo, ac am hyny galwodd ar heddgeidwad i mewn. Boreu dranoeth anfonwyd Pearse i garchar am saith niwrnod am beidio rhoddi y newid yn ol.
Y COLERA YN NEW YORK.
Y COLERA YN NEW YORK. Golygfeydd Cythryblns. Penderfynwyd glanio teithwyr yr ager- long Normannia, ar fwrdd yr hon yr oedd colera. wedi tori allan, ar y lan yn Jolip, tref o fewn ychydig bellder i New York. I'r amcah o noddi y teithwyr yr oedd y Surf Hotel wedi cael ei chymeryd. Pan ddaeth yr agerlong Cepheus at y lanfa, yr oedd tua thri chant o bysgotwyr, wedi eu harfogi a gynau a chleddyfau, yno i rwystro i'r bobl gael eu rhoddi ar y lan. Eiriolwyd dros- tynt gan swyddogion y Hong ac un o Seneddwyr y dalaeth, ond i ddim pwrpas. Bygy thiai y dorf daflu i'r dwfr pwy bynag feiddiai roddi ei droed ar y tir. Ni oddefid i'r hen wragedd na phlant gael glanio, gan mor lawr oedd ofn y trigolion rhag i'r colera dori allan yn eu mysg, a bu raid i'r cwbl fyned yn ol i'r llong.
YR arglwyivd FAER YN methesba.
YR arglwyivd FAER YN methesba. Araeth Hynod. Brydnawn Mawrth talodd yr Arglwydd Faer a'i bnod ymweliad a Ohwarel Cae- braichycafn, dan arweiniad. Arglwydd Penrhyn. Wedi iddynt fod drwy y chwarel, bu cor yn canu tonau Cymreig. Ar eu dychweliad i'r pentref cyfarfyddwj'd hwy gan orymdaith, cynwysedig o aelodau y bwrdd lleol a'r cymdeithasau cyfeillgar. Cyflwynwyd anerchiad i Syr David Evans gan Mr Brymer, cadeirydd y bwrdd lleol. Wrth gydnabod, dywedodd yr Arglwydd Faer ei fod yn llawenhau yn ngwyneb y ffaith fod adfywiad wedi cymeryd lie yn y fasnach lechi, a hyderai y byddai i lwyddiant "barhau i wenu ar chwarelwyr Cymru. Cynghorai hwy i osgoi sefyll allan, gan ddangos y canlyniadau anffodus a ddilyna hyny fel rheol. Llongyfarchai hwy ar y ffaith mai perchenog y chwarel yn mha un y gwoithient ydoedd Arglwydd Penrhyn, rhwng yr hwn a'i weithwyr y bodolai y 1. y teimladau goreu oedd bosibl. Yn yr hwyr ciniawodd gydag Arglwydd Penrh yn.
[No title]
Beth maa'r Methodistiaid Jyn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythaoa nesaf.
LLONHrAll it .
LLONHrAll it Mae awdurdodau llinell yr Inrnan wedi penderfynu rhedeg eu hagerlongau o Soiith- ampton i New York yn lie o Lerpwl Bydd yr agerlong gyntaf yn gadael Southampton yn mis Mawrth.
! 'MRS 31 AY BRICK.
MRS 31 AY BRICK. Yn ddlweddar anfonwyd deiseb at ei Mawrhydi y Frenhines yn erfyn am rydd- had y garchares Mrs Maybrick. Derbyniwyd llythyr yn hysbysu fod y ddeiseb wedi cael ystyriaeth ddyladwy, ond nas gallai yr Ysgrifenydd Cartrefol gynghori ei Mawrhydi i ryddhau Mrs Maybrick.
GOLYGFA YN MHAVILION RHYL.
GOLYGFA YN MHAVILION RHYL. Cymerodd golygfa angliyffredin le yn Mhavilion y Rhyl, boreu dydd Sadwrn. Daeth cynulliad mawr yn nghyd, ond dywedir fod y rhan fwyaf o aelodau cerddorfa Mr De Jong wedi gwrthod chwareu yn y cvngherdd. Fodd bynag, nid oedd ond ychydig nifer o honynt ar y llwyfan, a chwareuasant am chwarter awr, yn nghanol chwerthin mawr.
DYClIRYN GWLABWYR.
DYClIRYN GWLABWYR. Dywedir fod trigolion pentref heb fod yn mhell o Berlin wedi cael eu dychryn yn fawr wrth weled awyren yn dyfod atynt o gyfeir- iad y brif ddinas. Syrthiasant ar eu gliniau gan lefain, Mae y colera yn dyfod." Mewn manau ereill tybiodd y gwladwyr diniwed mai angeu a'i gryman oedd yn marchogaeth ar y cymylau, a rhedasant am eu bywyd i'w tai i ymguddio rhagddo
Y CNYDAU YN YR IWERBDON.
Y CNYDAU YN YR IWERBDON. Ofnir yn awr mai methiant llwyr fydd y pnydau yn yr Iwerddon eleni. Yehydig wythnosau yn ol yr oedd pob gobaith am gnydau anarferol o dda, ond y mae y gwlawogydd trymion yr wythnosau di- weddaf wedi eu dyfetha. Mae y pytatws. hefyd wedi eu drygu yn fawr gan y gwlyb- aniaeth. Ar bob Raw edrycha pethau yn ddigalon iawn.
KILSBY A'R "AMEN."
KILSBY A'R "AMEN." Yr oedd y diweddar Kilsby Jones unwaith yn pregethu yn sir Gaerfyrddin ar y testyn, "A dyweded yr holl bobl, Amen." "Yn awr," meddai, dywedwch Amen gyda'ch gilydd;" yna dechreuodd yr adnoi drachefn, A dyweded yr holl bobl,neb yn dweyd Amen." Dyma fo yn edrych i lawr o'r pwlpud i'r set fawr, ac yr oedd yno un blaenor tew. (ond fel y mae yn digwydd weithiau gyda llais bachgenaidd a main), ac meddai y pregethwr, Beth ydych chwi dda, y blaenoriaid yma, os na ellwch ddweyd 'Amen' i arwain y bobl." "Rhofuncynyg i chwi eto," meddai, a darllenai, A dyweded yr holl bobl," Amen," meddai y blaenor tew mewn llais main wrtho ei hun nes peri i Kilsby waeddi, Beth yw rhyw flute o Amen ydych yn ddweyd, y dyn; dywedwch Amen yn deilwng o flaenor." Ar hyn chwarddodd pawb, ac aeth yntau yn mlaen a'i bregeth | fel pe buasai dim neillduol wedi cymeryd lie.
[No title]
Beth mae'r Bedyddwyr yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf.
tLOSGliYGYDA THAN GWYLLT ---.---,
tLOSGliYGYDA THAN GWYLLT Torodd tan allan nos Fawrth mewn mas- nachdy dodrefn yn Preston, a gwnaed niwed mawr. Bemir mai tan gwyllt a ddisgynodd drwy y ffene^tr yn y to a ddechreuodd y goelcerth.
"OFN Y COLERA."
"OFN Y COLERA." Cyhuddwyd dyn yn Llundain o feddwi. Ei esgusawd oedd eifod wedi meddwl fod y colera arno, ac felly wedi cymeryd ychydig frandi i fendio, yn ol cyfarwyddyd y meddyg." Nid oedd yn ymddangos yn dyoddef oddiwrth y colera yn y doc, a dirwywyd ef i ddeg swllt, a chafodd gyng- hor caredig gan yr ynad i beidio cyffwrdd a brandi os y bydd yn barnu fod y colera arno. Gwnaiff y cynghor y tro i ereill, er na raid iddynt dalu chweigien am dano.
CYNGHOR SIROL FFLINT A'R ARGLWYDD…
CYNGHOR SIROL FFLINT A'R ARGLWYDD RAGLAW. Yn nghyfarfod chwarterol Cynghor Sirol Fflint, a gynhaliwyd ddydd Mercher, cynygiodd Mr Wheldon nifer o benderfyn- iadau yn condemnio y modd y penodir ynadon gan yr arglwydd raglaw, ac yn galw syhv yr Arglwydd Ganghellydd a'r Ysgrif- enydd Cartrefol at yr anghyfiawnder a wneir a'r Ymneillduwyr, gan eu bod yn cael eu cau allan o'r fainc ynadol. Er mai Ymneilldu- wyr oedd dwy ran o dair o'r boblogaeth, eto ni phenodwyd yr un ohonynt yn ynad hedd- wch e"r's haner can' mlynedd. Mr Hall, wrth eilio y cynygiadau, a ddywedodd y dylai penodiad ynaaon fod yn llaw j Cyngor Sirol. Yr Henadur Howard a gondeinmai ymddygiad yr arglwydd raglaw fol un an- nheg a chul i'.L eitliaf. Gofynodd Mr Scott Bankes (cadeirydd y brawdlys chwarterol) i Mr Wheldon enwi un boneddwr o Ymneill- duwr a feddai y cymhwysderau angenrheid- iol nad oedd yn ynad heddwch. Mr Whel- don: Dyma ein cadeirydd (cymeradwyaeth uchel). Mr Scott Bankes a ddywedodd nad oedd neb yn gofidio mwy nag ef oblegid hyny, a sicr ydoedd y dylai fod rhywun gyda'r arglwydd raglaw pan yn gwneyd y penodiadau. Mr Herbert Lewis, A.S a ddywedodd mai yr unig reswm paham na ddewiswyd personau neillduol ar y fainc ynadol oedd mai Ymneillduwyr ydynt, er eu bod yn meddu pob cymhwysder angenrheid- iol. Nid oedd raid iddo ond enwi yr aelod diweddar dros y bwrdeisdrefi (clywch, clywch). Nid oedd yr arglwydd raglaw yn cynrychioli y bobl, ac felly dylai yr awdur- dod fod yn llaw y Cyngor Sirol. Cydsyniai Mr Herbert Gladstone, A.S., a hyn, a phas- iwyd y cynygion heb i neb bleidleisio yn eu herbyn.
[No title]
Beth mae'r Wesleyaid yn wneyd ? Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf. Rhoddwyd pellebyr yn llaw chwaer M. Daubrey, chwareuydd Ffrengig enwog, yn hysbysufod ei brawd wedi maw. Syrthiodd i lawr yn farw yn y fan.
---LLONG NELSON.
LLONG NELSON. Gorwedda y Foudroyant, hen flagship Arglwydd Nelson, yn nwylaw masnachwyr llongau Germanaidd. Gwnaeth yr Ym- herawdwr ymchwiliad am ei phris, a bernir ei fod yn bwriadu ei phrynu a'i rhoddi yn anrheg i'r genedl Seisnig.
« ER GWELL AC ER GWAETH";…
« ER GWELL AC ER GWAETH"; Teimlai un dyn oedd mewn penyd- wasanaeth ar ynys perthynol i Ffrainc awydd priodi, ac aeth gyda'i ddarparwraig at y prif-swyddog yn y lie i ofyn am ganiatad, "Ai ni fuoch yn briod yn Ffrainc ?" meddai hwnw wrtho. "Do." "Ac y mae eich gwraig wedi marw ?" Ydyw." "Ond y mae arnaf eisieu prawf boddhaol o hyny." Aeth y dyn yn fud,' ac edrychai ei ddyweddi yn bryderus arno. Gallaf eich boddloni ar hyny," meddai o'r diwedd. "Pa fodd?" Cefais fy ngyru yma am ei lladd." Priododd y ddynes ef er hyny.
OFN I'R BANC DORI.
OFN I'R BANC DORI. Aeth pobl i ofni fod Ariandy Birbeck yn Llundain ar dori, a phrysurodd canoedd lawer o bobl tuag yno i godi eu harian. Cymerodd golygfeydd cynhyrfus le yn y gymydogaeth, ac ymladdai y bobl a'u gilydd er cael myned i mewn. Caffai bob un a Iwyddai i fyned yno eu harian yn hollol ddidrafferth. Er hyny i gyd parhau i ddylifo yr oedd y cwsmeriaid. Cadwyd yr ariandy yn agored hyd ddeg o'r gloch nos Lun, ac agorwyd am naw foreu dranoeth, ond dechreuodd pobl ymgasglu cyn chwech o'r gloch. Yn ystod y dydd rhoddwyd hysbysrwydd i fyny fod Ariandy Lloegr wedi rhoddi haner miliwn o bunau i gyn- orthwyo y Birbeck. Yr oedd y pigwyr llogellan ar lawn gwaith yn mhlith y dyrfa, a chollodd un dyn 1,1 OOp oedd newydd eu codi o'r banc, a chollodd dau arall 250p a loOp bob un.
LLEWOD YN PATAGONIA.
LLEWOD YN PATAGONIA. R. J. Berwyn a ysgrifenai i'r Dravod fel y canlyn:—Mae yn hysbys i berchenogion anifeiliaid fod llewod yn lladd niferoedd lluosog o lydnod a lloi yn nghyffiniau y dyffryn bob tymhor. Gwn am un a gollodd ugain o ebolion y tymor diweddaf; ac mae mwy na haner y llydnod ar y tu deheuol yn cael eu lladd bob blwyddyn. Yr wyf yn cynyg fod helfa fawr yn cael ei threfnu yn ystod yr wythnosau nesaf, gan fod y llewod wedi paru, a'r llewesau yn gyfebion, ac wedi sefydlu eu ffauau i raddau pell am y gauaf. Ni wiw cychwyn yn ychydig nifer. Mae dau pen y llinell yn waeth na'r canol, a dylid eu cyniwair yn drwyadl. Yn nghreigiau gwaelod y Dyffryn Uchaf y mae ogofeydd enfawr-llochesau a ffaeau dirgel a diddos. Yr un fath oddeutu Pen Delfin a Moel Dimol-wmbreth ffosydd dyfnion ac ynddynt lochesau clyd, lie y megir nifer- oedd o genawon bob blwyddyn.
[No title]
Beth mae'r Annibynwyr vn wneyd P Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf. Bu nifer o chwarelwyr yn Morley, ger Leeds,yn sefyll allan am ddenddeg wythnos, Yr wythnos hon terfynodd, gan i'r dynion fyned i weithio ar yr hen delerau. Rhoddodd Ymherodres Germani enedig- aeth i eneth ddydd Mawrth. w-- p>-r
\;YMLADD AN ARIAN YN I I.NGHYMRU.:
YMLADD AN ARIAN YN I. NGHYMRU. Cymerodd ymladdfa greulawn am arian le I yn Nghastellnedd ddydd Llun. Yr oedd un 1 o'r ymladdwyr yn bur adnabyddus, sef Bil Samuels; enw y llall oedd Perkins. Yr oedd yn bresenol nifer mawr o edrychwyr. Torodd Samuels ei fraich dde, ond er hyny parhaodd i ymladd, a bu raid ei gario oddi- yno aty meddygon.
TRETHU BARFAU.
TRETHU BARFAU. Un adeg codid treth yn Mhrydain Fawr ar bob dyn a wisgai farf. Ceir cofnodiad fod sirydd Caergaint unwaith wedi talu 3s 4c am y fraint hono. Yn y flwyddyn gyn- taf o deyrnasiad Elizabeth gwnaed cyfraith i godi treth o 3s 6c ar bob barf fyddo wedi ei gadael i dyfu am bythefnos, ond ni oddefid iddi gael ei rhoddi mewn grym. Gwnaeth Pedr Fawr hefyd dreth ar farfau, ond diddymwyd hono yn bur fuan.
YMNEILLDUAETH YN Y GANRIF…
YMNEILLDUAETH YN Y GANRIF DDIWEDDAF. Yn INgorphenai, 1793, cyhuddwyd taid Mr Winterbotham, yr aelod Seneddol a fu farw'yr wythnos ddiweddaf, yn Mrawdlys Exeter o aflonyddu yn faleisus ar heddwch y deyrnas drwy draddodi pregeth ar y oed o Dachwedd, yn yr hon y dadleuai am ychwaneg o ryddid crefyddol. Anfonwyd ef i garchar am bedwar mis, a dirwywyd ef i 200p yn ychwanegol at hyny.
DULL HYNOD I DDEWIS MAER.
DULL HYNOD I DDEWIS MAER. Yn yr hen amser gynt yr oedd gan fwr- deisdrefi Grimbsy ddull hynod iawn i ben- derfynu pa un o honynt gai fod yn faer. Wedi dewis tri a fyddai yn deilwng o'r an- rhydedd, byddent yn rhoddi mwgwd ar eu llygaid. Cylyment dusw o wair y tu cefn i bob un o honynt, ac arweinid hwy i war- chae y dref, lie yr oedd 110 yn eu disgwyl. Yr hwn y bwytai y 110 ei dusw gwair gyntaf fyddai yr un a ddewisid yn faer am y flwyddyn hono, ac fel rheol byddai yr urddasolion lleol yn eithaf boddlon ar ddyfarniad y 110.
MR A MRS GLADSTONE. -I
MR A MRS GLADSTONE. Dywed Syr Andrew Clark fod gan Mrs Gladstone gystal hawl i gael ei galw yn Hen Wraig Ardderchog ag sydd gan Mr i C, Gladstone gael ei adnabod fel yr "Hen Wr Ardderchog." Ar y deuddegfed o Ionawr diweddaf dathlodd ei phedwar ugeinfed ddydd pen blwydd, a threuliodd y boreu i ysgrifenu at ei chyfeillion. Gwnaeth hyn heb gymhorth gwydrau, ac y mae ei llygaid lawn mor gryf ag oedd yn mlynydd- oedd ei hieuenctyd. Bydd Mr a Mrs Glad- stone yn myned i'r eglwys, pellder tri chwarter milldir o'r:Castell, bob boreu y byddant yn Mhenarlag. Beth bynag fydd stad y tywydd, cerdded yno ac yn ol y bydd y Prif W pinidog, hyd yn nod pan fyddo yr eira vn tiisgyn
[No title]
Beth mae'r Methodistiaid yn wneyd Gwel y Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos nesaf. Bwriedir gwneyd rheilffyrdd uwchben yr ystrydoedd yn Berlin, tebyg i'r un sydd yn New York.
Advertising
:-=:=- # I!. < I HIGHEST Diplomas, Gold Medals, Special Certificates of Merit,' .-tyimmm -13R[TT:RE(;F:D HONORS A t all the Great Exhibitions of the World. I PROFESSOR Sir Erasmus Wiison Late President of the Royal College of Surgeons, England. The use of a good soap is certainly calculated to pre- serve the skri in health, to maintain its complexion and tone, and prevent it falling into wrinkles. PEARS' is a name engraved on the memory of the oldest inhabitant; and m 1 PEARS' SOAP is an article v I of the nicest and most careful manufacture, and one of the niost refreshing and agreeable of balms for tilC skin." Lmost refreshing and agreeable t Su'Oq A P MAKERS PEARS By Special Appointment TO HER MAJESTY The Queen a. 17 ï 11 AAirV I Mr. John L. Milton Senior Surgeon St. John's Hospitaljor the Skin,London. "From time to time I have trie.4 very many different soaps and after five-and-twenty years careful observation in many thousands of cases, both in hospital and private practice, have no hesitation in stating that none have answered so well or proved so beneficial to the skin as PEARS' SOAP. Time and more extended trials have only served to ratify this opinion which I first expressed upwards of ten years ago, and j to increase my confidence in 1 this admirable nreraction." | — i t t :'Y- HIS HOYAL HIGHNESS THE Prince of Wales. 1 ——————— ——————— I j if ft ) i!L D I Li I i l 4k
j Y COLERA. I
j Y COLERA. I PRYDAIN FAWR. Ni thorodd yr un achos newydd o'r colera yn Mhrydain Fawr yn nghorph yr wythnos ddiweddaf, ac y mae y rhai oedd yn wael yn fliaenorol i gyd yn gwella. Cedwir gwyliad- wriaeth fanwl yn yr holl borthladdoedd, yn arbenig ar longau ddaw o Hamburg. MORDAITH DDYCHRYNLLYD. Cyrhaeddodd yr agerlong Germanaidd Scandia o Hamburg i New York nos Wener, a nifer mawr o rai yn wael o'r colera ar ei bwrdd. Bu 32 farw o'r haint ar y fordaith. Torodd allan yn uniongyrcliol wedi i'r Hong adael Hamburg, ac aeth yn waeth bob dydd, a chymerwyd 39 yn wael cyn cyrhaedd New York. Yn y porthladd hwnw drachefn bu dau farw, a chymerwyd lluaws ereill yn wael. Dywedir fod y rhan fwyaf o'r 981 teithwyr yn dyoddef i raddau mwy neu lai o'r colera. HAMBURG. Y mae y colera yn y ddinas hon yn graddol gilio, er i 310 gael eu cymeryd yn wael ddydd Sadwrn, ac i 163 farw yr un diwrnod. Cyneuir tan ar yr ystrydoedd i ferwi dwfr, a rhenir ef yn rhad. Cyfrenir hefyd fwyd a dillad a glo i'r tlodion. HAVRE. Cilia yr haint yn raddol o Havre. Ddydd Sadwrn ni chymerwyd- ond wyth yn wael, a bu pump farw. Codwyd cronfa yn barod, a chyrhaedda y swm o 100,000 ffranc. Parhau i ymledu y mae yr haint yn Rwsia. Gwnaed y cyfrifon am ddydd Gwener i fyny, a chaed allan fod 2,937 wedi eu taraw ganddo drwy yr oil o Rwsia, a 1869 wedi marw. Yn St Petersburg ei hun digwyddodd 81 o achosion, a bu farw 30.
Y FRECH WEN YN WARRING-TON.
Y FRECH WEN YN WARRING- TON. Mae y frech wen yn parhau i ymledu yn Warrington. 0 foreu Sul Ly;!l ddydd Mawrth cymerwyd deg yn wael, ac y mae nifer y rhai a darawyd a'r haint er yr 28ain o Orphenaf yn 58, ac o'r rhai hyn bu ped- war farw. Adeiladwyd ysbyty arbenig ar gyfer y cleifion, a chan fod hono wedi profi yn rhy fychan trowyd adeilad eang arall fel lie i dderbyn y cleifion. Yr oedd pob un gymerwyd yn wael wedi cael ei fuchfrechu.
Y "SERTIA" MEWN GWRTH.DARAWIAD.
Y "SERTIA" MEWN GWRTH- DARAWIAD. Bu'r agerlong Servia mewn gwrthdaraw- iad a. llong hwyliau fawr ar ei mordaith ddiweddaf o New York. Yr oedd niwl tywyll ar y pryd. Tua haner awr wedi dau o'r gloch y boreu y cymerodd y ddamwain le. Cafodd amryw o'r teithwyr eu taflu o'u gwelyau. Ni anafwyd neb, ac ni dderbyn- iodd y llongau ond niweidiau cymharol ysgafn, ac aethant yn mlaen ar eu mor- deithiau.
CARDOTYN CYFOETHOG. <
CARDOTYN CYFOETHOG. < Yn heddlys Edinburgh, cyhuddwyd Wm. Paterson o gardota. Euogfarnwyd ef ddeu- naw gwaith o'r blaen, y tro diweddaf yn mis Mai, pryd yr anfonwyd ef i garchar am 6 niwrnod. Yr oedd ganddo dros chwe' phunt yn ei feddiant pan gymerwyd ef i fyny. Dywedodd ei fod yn eithaf parod i dalu dirwy. Yr Ynad: Pum' punt, neu ddeg diwrnod ar hugain. Dewisodd y car- dotyn fyned i garchar yn hytrach nag ym- adael a'i bum' punt.
SUT I ENILL CVFOETH. t
SUT I ENILL CVFOETH. t Ar furiau ariandy y Barwn Rothschild cyntaf gwelid papyrau ac arnynt yn argraph- edig y cynghorion canlynol:— Byddwch yn ofalus i chwilio i mewn i holl fanylion eich busnes. Byddwch brydlawn gyda phob peth. Cymerwchamseri ystyriedacyna gwnewch eich meddwl i fyny. yn ddiymdroi. Beiddiwch fyned yn mlaen. Dyoddefwch eich profedigaethau yn dawel. Byddwch wrol yn nhreialon eich bywyd. Ystyriwch uniondeb fel peth cysegredig. Na ddywedwch anwiredd gyda'ch mas- nach. Peidiwch flPurfio cyfeillgarwoh diangen- rhaid. Peidiwch ceisio ymddangos yn rhywbeth amgenach nag ydych mewn gwirionedd. Telwch eich dyledion yn brydlon. Dysgwch pa fodd i roddi eich arian allan ar yr adeg briodol. Nae yfwch ddiod gadarn. Defnyddiwch eich amser yn briodol. Peidiwch ymddiried mewn ffawd. Byddwch foesgar tuag at bawb. Na chymerwch eich digaloni. Gweithiwch yn galed, a byddwch yn sicr o lwyddo.
LLYS MAlVDDYLEDION CAERNARFON.
LLYS MAlVDDYLEDION CAERNARFON. ACHOS 0 BENYGROES- Yn y llys uchod ddydd Mercher, gerbron y Barnwr Horatio Lloyd, hawliai Evans a Lake, Caernarfon, 26p 12s oddiar Herbert Jones, a'i dad, W. Herbert Jones, Penygroes, am doriad cytundeb Ym- ddangosodd Mr J. T. Roberts dros yr erlynwyr a Mr Mostyn Roberts dros y diffymvyr. Oddiwrth dystiolaeth Mr Lake ymddengys ddarfod i'r diffynwyr, neu yr ieuengaf ohonynt, roddi archeb am 79 o sacheidiau o flawd yn Nhachwedd diweddaf ond ni chariodd allan y contract, Cwestiwn mawr yn yr achos hwn ydoedd, a oedd a wnelo y tad rywbeth &'r busnes. Amddi- ffyniad y mab dros beidio talu ydoedd ei fod o dan oed. Yn ystod ei dystiolaeth dy- wedodd W. Herbert Jones iddo brynu masnachdy a stoc yn Mhenygroes i'w fab ond nid oedd ef (y tyst) yn ymyryd dim ag ef yn mhellach na helpu pan y byddai yn brysur. Agorodd gyfrif yn yr ariandy yn ei enw ei hun, oblegid fod ei fab o dan oed. Nid oedd ganddo y gwrthwynebiad lleiaf i'w fab fyned i'r box.-Y ]Bariikvr: Gwelaf yn awr mai arddangosiid gwael a wna ohono ei hun yn y box. Un o'r pethau mwyaf anonest yw ceisio osgoi cyfrifoldeb o'r fath hyn. Dyma chwi gyda'r fath gyfrif yn y bane ar eich ysgwyddau, ac eto dywed- weh nad oes genych ddim i'w wneyd a'r busnes. Ar un adeg yr oedd y cyfrif yn eich erbyn yn 600p. Y mae hyn yn hollol anonest, a dangosaf finau fy anghymerad- wyaeth cryfaf ohono pan y daw yr amser priodol. Pe y buasech yma hyd yforu nis gallwn eich credu.—Y Tyst: Nid oes genyf help i hynv, syr.—Y Barnwr: Nid oes genyf finax.-Sylwodd Mr Mostyn Roberts nad oeddy cyfrif yn erbyn y diffynwyr ond 200p ar hyn o bryd.—Y Barnwr: Ond y mae wedi bod yn 500p neu 600p.-Ar ol y datganiad hwn o eiddo ei anrhydedd gofynodd Mr J. L T. Roberts i'r tyst a fuasai yn talu, ac atebodd yntau ei fod yn foddlawn talu am ugain sachaid.—Cafwyd tystiolaeth bellach gan y mab, yr hwn a ddywedai mai ei reswm ef dros beidio talu ydoedd i'r erlynydd dori cytundeb a wnaethant i beidio gwerthu blawd y "Silver Star" ya y gymydogaeth. —Dyfamodd y bamwr yn erbyn y diffynydd hynaf am yr holl hawl a'r costau, ac o blaid ei fab oherwydd ei fod o dan oed. _n'"
[No title]
Beth mae'r Methodistiaid yn wneyd ? Gwel y. Byd Crefyddol yn y Genedl yr wythnos. nesaf ? Ddydd Sul cafwyd hyd i gorph gwraig ieuanc yn gorwedd wrth draed clogwyn 300 troedfedd o uchder, yn Itaithes, swydd. York.
Y COLERA AR MEDDWON.
Y COLERA AR MEDDWON. Ysgrifena Dr Guibert i un o bapyrau Havre—lie y bu y colera yn bur ddrwg— ma,i ffrwyth ei brofiad ef oedd mai ychydig iawn o obaith oedd i feddwon allu gwella o'r haint. 0 bob deg o'r cyfryw bersonau, ni wellai ond un, tra o bob deg o rai na fyddai yn arfer yfed i ormodedd y byddai o saith i naw ar gyfartaledd yn cael adferiad.