Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

MANION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MANION. Ni bydd atal dyweyd byth ar anwariaid. 0 Algeria y ceir y rhan fwyaf o gore. Dywedir fod dau o bob tri o ddynion Prydain yn defnyddio tybaco. Gellir gwneyd 170 cwpanaid ag un pwys 0 de. Bydd Cyngrair Presbyteraidd y Byd yn cyfarfod yn Toronto, Canada, Medi 21. Etholir merched i eistedd yn Senedd Ynys yr la. ''j Yehydig o bobl a llygaid gleision gan- ddynt geir na allant wahaniaethu lliwiau. Y mis diweddaf allforiodd Japan werth 3S,232p o matches. Un dda am drwsio sanau yw Madame Patti. 0 grwyn bleiddiaid y gwneir memrwn y banjos goreu. Gall Ymherawdwr Germani ymffrostio fod ganddo fil o siwtiau dillad. Yn bur fuan caiffYsgotyn ei ordeinio yn offeiriad Budhaidd yn Ceylon. Y mae agos i gymaint arall o bersonau ar bob milldir ysgwar yn Ewrop ag sydd yn Asia. Gwahardda cyfreithiau Norway a Sweden i fynachdai a lleiandai gael eu sefydlu yn y gwledydd hyny., Mae cyflogau mor isel yn India fel y gellir cael dyn i wneyd gwaith ty am 8s y mis. Ni ofynant ond am un pryd y dydd. Fe ddelir mwy o eogiaid yn afonydd yr twerddon nag yn holl afonydd Prydain Fawr. Yn y dull y darperir ef yn unig y gwahan- iaetha te du a the gwyrdd. Gellir cael y ddau fath o ddail ar yr un planhigyn. Y sgrienodd Mr Ruskin 64 o lyfrau, a 0 derbynia tua 4000p y flwyddyn oddiwrth ei gyhoeddwyr. Bu 800 o bersonau farw yn y Punjaub yn ystod y flwyddyn ddiweddaf drwy gael eu brathu gan nadroedd. C, Bwriada Byddin Iachawdwriaeth gario yn mlaen eu gweithrediadau ar raddfa eang yn yr America. Pan y syrthia pont neu adeilad yn Bul- garia tefiir yr archadeiladydd i garchar, a chedwir ef yno hyd nes y gall brofi mai nid arno ef yr oedd y bai am y trychineb. Dywedir fod Beibl Cromwel yn meddiant Miss Ninj, Cromwell, o Detroit, un o linach yr hen amddiffynydd. Argraphwyd y llyfr yn 1591, a chynwysa y Salmau mydryddol gyda nodiant cerddorol. Mae yn ffaith fod mwy o bobl yn marw trwy hunan-laddiadau yn y wlad hon. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd 24 o bob cant yn fenywod. Fel y cynydda gwareiddiad mae y dull hwn o farw yn cynyddu. Rhoddodd boneddwr gusan i foneddiges ar yr ystryd yn Valparaiso, ac am hyny dedfrydwyd of i 60 niwrnod o garchariad. Apeliodd yn erbyn y ddedfryd, ond cafodd 30 niwrnod arall atynt. j Mae Ja-oau yn parotoi yn helaeth ar gyier aaeiladu llcngau rhyfel dur o'r fath oreu, ac yn adeiladu gweithfeydd cyffelyb i'r rhai perffeithiaf yn Ewrop. Mae yn y wlad hefyd adnoddau at wneuthuriad llestri o'r fath. Gan fod y genedl yn un ryfelgar a chyfosthog, bydd yn debyg o feddu llynges nerthol yn y dyfodol. Pan fydd plentyn farw yn Greenland rhoddir ci byw yn y bedd gydag ef, fel ar- weinydd i baradwys, am y credir y gall ci wneyd ei ffordd i unlle. Bydd brodorion rhanau o Awstralia yn tynu ewinedd y marw rhag iddo grafu ei ffordd o'rbedd a myned yn ellyll gwaedlyd. Mewn parthau o Rwsia rhoddir tystlythyr o gymeriad da yn llaw y marw i'w gyflwyno i St Pedr wrth borth y nefoedd. Dywed cylchgrawn meddygol fod bechgyn yn tyfu fwyaf yn yr ail flwydd ar byiytheg; merched yn y bedwaredd ar ddeg. Mae bechgyn yn gryfach na merched hyd yr unfed flwydd ar ddeg; merched sydd gryfaf hyd yr ail flwydd ar bymtheg; o hyny allan y bechgyn sydd gryfaf. Yehydig fydd plant yn enill o ran corph o Tachwedd i Ebrill, o Ebrill i Gorphenaf enillant mewn taldra ond collant mewn pwysau, o Gorphenaf hyd TachvVedd enillant yn gyflym mewn pwysau ond nid mewn taldra.

'-b..GLYWSOCH CHWI

YN EISIEU.

TREIALONBYWYD.

[No title]

MR. GLADSTONE YN' NGHWMLLAJS.

DAtfWAIN AXlxEUOL YN RHIWABON.

DAM WAIN ANGEUOL YN BETHESDA.

TRYCHINEB AKIANOL YN LLUNDAIN.…

GWBTHDAKAWIAD GER BOSTON.

[No title]

LLYS TRWYDDEDU CAERNARFON.

[No title]

rhoddi^offeiriad pabaidd IN…

[No title]

GWENDID.

[No title]

Advertising

LLITH 0 BIVLLHELI.