Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
34 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH ARGLWYDD TENNYSON.j…
MARWOLAETH ARGLWYDD TENNYSON. Bu Arglwydd Tennyson, y bardd bren- hinol, farw am haner awr wedi un boreu Iau. Dyma'r desgrifiad a rydd Syr Andrew Clarke, y meddyg, o'i farwolaeth:—" Bu'r bardd farw yn ogoneddus. Yn ystod fy holl brofiad ni welais neb yn marw yn fwy ardderchog. Nid oedd yr un goleu celfyddydol yn yr ys- tafell; yr oedd y lie yn hollol dywyll, oddi- gerth am oleuni arianaidd y lloer. Disgynai y goleuni hwn ar y gwely, a chwareuent ar I wynebpryd y bardd, nes harela-a holllinellau ei wyneb yn y mcdd prydferthaf. Pan j ddaeth. y diwedd, ymddangosai fel pe yn ( huno." Nid oes ol cystudd i'w weled ar el 'gorph, wedi i'r enaid ymadael (ilono. Dy- oddefodd ei holl waeledd yn hollol dawel. Tuag wythnos yn ol yr oedd yn ei gynefin iechyd, ond cafodd ymosodiad o'r anwydwst, ac aeth mor wael fel y bu raid gyru am Syr Andrew Clarke i weini arno. Yr oedd y gwr enwog yn 83ain mlwydd ,oed Awst y 6ed. Penodwyd ef yn fardd Uawryfol yn 1850, ac yn 1884 dyrchafwyd ef i Dy yr Arglwyddi dan y teitl Barwn Tennyson. Cyhoeddodd lawer o weithian barddonol yn' ystod ei oes.
PRAIRIE AR DAN.
PRAIRIE AR DAN. Torodd tan allan ar y prairie yn y Bea River Valley, Idaho. Gallodd amryw o <ddynion ddiane, ond llosgwyd tri i farwol- aeth. Cafodd dros fil o wartheg hefyd eu llosgi, a dinystiiwyd amryw o dai.
....METHDALWR PENDEFIGAIDD.
METHDALWR PENDEFIGAIDD. Hysbysir fod Mr Cecil Drummond Wolff, mab Syr Henry Drummond Wolff, wedi myned yn fethdalwr. Bu Mr Wolff yn ys- grifenydd cyfrinachol i Arglwydd Randolph Churchill. Mae ei ddyledion yn 8,000p, a dywedir nad oes ganddo ddim i dalu.
YSBEILIO YMHERAWDWR GERMANI.
YSBEILIO YMHERAWDWR GERMANI. Pan arolygai Ymherawdwr Germani' y milwyr y dydd o'r blaen, lladratawyd nodyn gwerth cant o farciau, modrwy aur, ac agoriadau o'i boced, gan un o ladron y brif- -ddinas. J
FLEIDJ-EISIO CYFARTAL.
FLEIDJ-EISIO CYFARTAL. Cymerodd etholiad cynrychiolydd dros adran Farringdon street, i Gynghor Cyffredin Dmas Llundain, pryd yr hysbysodd yr Arglwydd Faer fod y ddau ymgeisydd wedi derbyn nifer cyfartal o bleidleisiau, sef 199 bob un. Yr henaduriaid sydd i roddi barn derfynol ar y mater.
LLADRATA CEFFYL.
LLADRATA CEFFYL. Ni byddant yn gwenwyno ceffylau rhedeg yn Awstralia. Na choeliai fawr! Lladrata y ceffyl wnant yno, ac felly ceirpob sicrwydd na fydd iddo redeg yn yr ymysonfa. Yr oedd dyn un diwrnod yn machogaeth ceffyl poblogaidd, pryd y daeth dyn heibio, a gofynodd iddo am fatsen. Pan safodd y ceffyl, aeth y dyn i fyny ato, a thynodd y marchogwr i lawr, ac aeth i'r cyfrwy yn ei san_ ddiane ymaith gyda'r ceffyl. Par- odd bjtry i"i nfcmi "i "•'f" » ar droed y ceffyl hwnw.
AMLirCH A'R COLERA
AMLirCH A'R COLERA- Y Sa.bboth diweddaf daeth y schooner Pearl i Amlwch o le yn agos iawn i Antwerp a'r trefydd lie y mae y cholera yn ffynu. Pan y gwnaeth ei hymddangosiad anfonwyd ar unwaith am Dr Evans, Llanerchymedd, meddyg swyddogol yr Undeb, i'w harchwilio. Daeth yntau yno ar unwaith, ac wedi gwneyd ymchwiliad manwl ar y dwylaw cafwyd eu bod yn gwbl lan o bob argoel o'r anhwyldeb. Rhoddodd iddi "clean bill of health," a dadlwythwyd hi.
0 BWfS I FFERMWYR.
0 BWfS I FFERMWYR. Yn llys ynadol Rhiwabon cyhuddwyd Thomas Rees, ffermwr, Drefnewydd, a Charles Jones, un o wasanaethyddion Cwmni Rheilffordd y Cambrian yn y dref hono, o arfer creulondeb at ddefaid. Ymddengys fod 71 o ddefaid wedi cael eu gyru mewn un 1 truck o'r Drefnewydd, a phan gyr- haeddasant Rhiwabon yr oedd tair wedi mygu. Dirwywyd y ddau ddiffynydd i 15s bob un.
LLON'D TROL 0 NWIDDAU LLADRAB.
LLON'D TROL 0 NWIDDAU LLADRAB. Cyhuddwyd dyn yn Llundain o ladrata nwyddau oddiar ei feistr. Tystiodd hedd- geidwad iddo archwilio ty y carcharor a chael yno lond trol o nwyddau y dywedai y 3neistr eu bod yn perthyn iddo ef. Yr oeddynt yn gynwysedig o cruet stands, cyllill a ffyrc, trynciau, heiyrn tan, coleri own, cloiau, cadwyni, basgedi, brackets, sisyrnau, brwshis, meginau, morthwylion, lampau, &c. Addefai y wraig mai ei gwr oedd wedi dod a hwynt adref o'r shop lie y gwasanaethai. Gohiriwyd y prawf.
GEFEILLIAID RHYFEDD.
GEFEILLIAID RHYFEDD. Arddangosir yn yr Aquarium, Llundain, efeiUiaid tebyg i'r rhai hyny a arddangosid flynyddau yn ol, ac a adnabyddid fel y Siamese Twins." Dwy eneth ydynt, tair a hanner mlwydd oed, a chysylltir hwynt a'u gilydd gyda chyswllt gieuog, frest wrth frest. 0 Orissa, yn India, y deuant, ac ymaent yn blant prydferth iawn. Un peth I hynod arall yn nglyn a hwynt yw, pan y dechreuir brawddeg gan un ohonynt y gorphenir hi gan y Hall, I
CARTREF DR JOSEPH ARCH, A.S.
CARTREF DR JOSEPH ARCH, A.S. Nid yw ty Mr Joseph Arch, A.S., ond bwthyn tebyg i eiddo llafurwr amaethyddol, ac ni chynwysa ond dwy ystafell— un ar lawr a'r 11*11 i fyny y grisiau. Y tu ol y mae adeilad bychan, lIe y bydd yr aelod anrhydeddus yn cario yn mlaen waith saer. Mae ganddo ardd dda, yr hon fydd yn cael ei thrin ganddo ef ei hun.. Gan fod Sand- ringham yn etholaeth Mr Arch, y mae felly yn meddu yr anrhydedd o gynrychioli Ty- wysog Cymru yn y Senedd.
TORIAID AFLREOLUS. -p>
TORIAID AFLREOLUS. p> Golygfeydd Gwarthus. Cynhaliwyd gwyl yn Ramsey i ddathlu dychweliad yr Anrhydeddus Allwyn Fellones, yr ymgeisydd Toriaidd dros Ogleddbarth t sir Huntingdon. Daeth tua phedair mil o bobl i'r lie, a threfnwyd eu bod i gael te ar bedair gwaith-mil ar unwaith. Pan ddis- gynodd cawod o wlaw, rhuthrodd yr boll bobl ar unwaith i'r babell lie y darperid ( bwyd. Gorlenwyd y He, ac aeth yn an- rhefn hollol yno. Rhuthrwyd am y bwyd, a chipiwyd y cwbl oedd ar y byrddau, a j thorwyd llawer o lestri. Baeddwyd amryw o'r gwasanaethyddion a geisiai amddiffyn yr eiddo. Galwyd ar yr heddgeidwaid i'r Ue, ond cawsant drafferth fawr i glirio y 'bobl oddiyno. Yr oedd yr Arglwydd a'r Arglwyddes De Ramsey yn llygaid-dystion o'r difrod.
[No title]
Bn Mr Labouchere unwaith yn crwydro ar --hycl prairies y Gorllewin Pell, gyda llwyth o Jndiaid Chippewa fel ei gymdeithion.
ATAL CLADDEDIGAETH.I
ATAL CLADDEDIGAETH. I Fel yr oedd cynhebrwng yn myned o'r capel at lan y bedd yn Wolverhampton, daeth dau heddgeidwad yno, ac ataliasant yr orymdaith. Yr oedd y crwner, ar ol i'r cynhebrwng gychwyn o'r ty, yn dyweyd I ddarfod i'r trancedig gyfarfod a'i farwolaeth trwy gael ei wenwyno, ao felly anfonodd yr heddgeidwaid i atal i'r gladdedigaeth gy- meryd lie cyn i drengholiad gael ei gynhal. Parodd y digwyddiad gyffro mawr.
ESGIDXAU INDIA RUBBER I'R…
ESGIDXAU INDIA RUBBER I'R HEDDGEIDWAID. Byddai yr Iieddgeidwaid yn arfer bod dan itnialitais fawr i ymwneyd a lladron, gan y clywid swn eu cerddedia.d o gryn bellder yn nhawelwch y nos. I osgoi hyn, darperir sgidiau a gwadnau a sodlau india rubber i heddgeidwaid y brif-ddinas fydd ar ddyled- swydd yn ystod y nos. Teimla pawb, ond yr ysbeilwyr, yn falch o'r cyfnewidiad.
PRIODI ER MWYN ARIAN.
PRIODI ER MWYN ARIAN. Ga-llodd dyn oedd a'i lygaid ar arian ei gariadferch ei pherswadio i ddianc ymaith i briodi. Wedi i'r mis mel fyned drosodd, dy- wedodd wrthi: Arweiniasoch fi i gredu y byddai i chwi etifeddu ugain mil o bunau." "Naddo, wir," ebe hithau, "yrunigbeth ddywedais oedd fod fy nhad yn werth ugain mil." Ond ni ddywedasoch fod genych bedwar-ar-ddeg o frodyr a chwiorydd?" "Naddo," ebe hithau, "ni feddyliais eich bod am briodi yr holl deulu."
YNADON YN METHU PENDERFYNU.
YNADON YN METHU PENDER- FYNU. Dydd Iau diweddaf, gerbron Mr A. Osmond Williams a, phump o ynadon ereill, daeth mater trwydded y Penlan Inn, Ffes- tiniog, yn mlaen unwaith drachefn o flaen ynadon Penrhyndeudraeth. Yr ydoedd wedi bod o flaen y llys y tro diweddaf, ond yr oedd y fainc yn rhanedig (tri yn erbyn tri) y tro hwnw, ac felly gohiriwyd y cais. Yn awr gwnaeth Mr A. J. David (bar- gyfreithiwr) y cais dros Mr Owen Roberts megis cvnt, a gwrthwynebwyd drachefn gan Mr William George. Galwodd Mr George ar yr Henadur John Hughes a'r Parch D. D. Williams i brofi nad oedd angen y ty yn Ffestiniog. Gwnaeth Mr David rai syl- wadau celyd ar dystiolaeth Mr Williams. Dywedai i Mr Williams ddyweyd nad oedd stablau mewn cysylltiad a'r He o gwbl.—Mr George: Yr hyn ddywedodd Mr Williams yaoedd nad oedd yno stablau yn perthyn yn briodol i'r ty. Addefai iddo glywed fod gan y tenant le yn mha un y cadwai fochyn a mul o fewn ychydig bellder o'r ty, a'i fod yn galw y lie hwn yn stabl.- Mr David: Dylasai ddyweyd ychwaneg.—Y Cadeirydd: Nid oes angen i drst ddyweyd mwy na ofynir iddo. Yn y diwedd ymneillduodd y fainc, ac wedi iddynt dd'od yn ol dywedodd y cadeirydd nas gallasent gytuno. Yr oedd- ynt yn dri yn mhen tri eto, a chan nas gall- esid gohirio'r mater yn mhellach syrthiodd y drwydded i'r llawr. Dywedodd y cadeirydd drachefn ei fod yn ystyried sylwadau Mr David yn nghylch Mr Williams yn hollol an- mhriodol a dialw am danynt. Deallwn mai'r tri ydoedd yn erbyn adnewyddu y drwydded oeddynt y Cadeirydd (Mr A. Osmond Williams) a'r Mri J. Parry Jones ac E. Parry Jones, a'r rhai oedd dros ei had- '"tfijwyddn oeddynt Mri William Davies, Andrew Priestley, a Colonel Egerton.
TAI-DORWYR EON.
TAI-DORWYR EON. Dangosir eondra mawr gan dorwyr tai yn ami. Y dydd o'r blaen aed a van faw.: at ddrws ty yn Kensington, Llundain, pre- swylwyr pa un oeddynt wedi myned ar eu gwyliau i lan y mor. Agorasant y drws, a chariasant ymaith yr holl ddodrefn yn ddigon hamddenol. Bu dau neu dri o heddgeidwaid yn edrych arnynt. Ddiwrnod arall bu dau leidr yn gwylio hen lane a drigai ei hunan,yn myned am dro. Y munyd y gw'elsant ef yn myned o'r ty aethant i mewn trwy y ffrynt, a lladratasant werth amryw bunoedd.
!LLADRON CYWRAIN.
LLADRON CYWRAIN. Yn Rowbray ceir rhai o'r lladron cyf- rwysaf y gellid meddwl am danynt. Prynant botelau neillduol o wirodydd, ac yna cymerant y gwirodydd ohonynt, heb dynu y corcyn na thori y sel. Yna llanwant hwy a gwirodydd gwaelach, a gwerthant ef am bris y gwirodydd goreu. Pa fodd y gwnant? Trwy dori twll yn y gwydr yn ngwaelod y botel, a'i lenwi a chwyr wedi rhoddi y gwirod sal i mewn.
GWYR AMLWCH YN GWRTHOD YMREOLAETH.
GWYR AMLWCH YN GWRTHOD YMREOLAETH. Yn unol a rhybudd cyhoeddus a roddwyd gan Mr Lewis Hughes ar ran is-bwyllgor iechydol y gwarcheidwaid, cynhaliwyd cy- farfod lluosog iawn yn y Scientific Hall am 7 o'r gloch nos Fawrth. Cymerwyd y gadair gan Mr Owen Roberts, fferyllydd. Wedi i Mr Hughes osod amcan cytdial- iad y cyfarfod gerbron, cynygiodd Mr Thomas Pritchard (Yr hen Graswr) fod y cyfarfod o'r fam nad oes angen am Fwrdd Lleol i'r dref, ac oblegid hyny mai anmhri- odol fyddai gwneyd cais am dano. Ceisiodd roddi amryw resymau drosto. Eiliwyd ef gan Mr Josiah Griffith. Wedi cwrs o ym- ddiddan pellach cynygiodd Mr Hughes fod Bwrdd Lleol yn cael ei ffurfio, a gwnaeth araeth hyawdl gan osod allan gyfiwr truenus y dref o ddiffyg cael yr awdurdod i'w gwella yn ei dwylaw ei hunan. Eiliwyd ef gan Cadben Lewis Thomas, a chefnogwyd gan Cadben Parry, Maendriw. Wedi cryn lawer o siarad a dadleu brwd iawn rhoddwyd y ddau gynygiad i'r cyfarfod, a phasiwyd y gwreiddiol gyda mwyafrif. Yna dygwyd y cyfarfod i'w derfyniad.
---------"YR HWSHON A I FEISTR."
"YR HWSHON A I FEISTR." MR GOL.Yn y Werin am yr wythnos ddiweddaf, dan y penawd uchod, ceir ad- roddiad o'r cynghaws fu rhwng Mr H. J. Hughes, Cafnan Farm, a'i ddiweddar was, Mr Evan Jones (ac nid D. Hughes), a chan fod eich gohebydd wedi bod dipyn yn un- ochrog, a dyweyd y lleiaf. Pan welais yr adroddiad nis gallwn ei gredu am foment, ac nis gallai neb arall fuasai yn ad- nabod Mr Hughes. Y mae bob amser wedi gwneyd ei oreu i fod yn gysur a dyrchafiad y dosbarth gweithiol, a chlywais heddyw yn y ffair yma gan ffermwyr o'i gymydogaeth fod ei fwrdd yn rhagori ar y cyffredin o'r ffermydd: ac am "lecysurusigysgu," os nad ydyw yn Cafnan, ffarwel, ynte, am weddill ffermydd Mon. Mae yr adeiladau oil o gynllun a gwneuthuriad diweddar, a chymeriad Mr Hughes mor wybyddus fel bardd, lienor, a Christion, ac wedi llafurio Ilawer yn mhlaid y canghenau hyn ar hyd y blynyddau, fel y byddai yn anmhosibl iddo fod yn llai i ddyn na dyngarwr mewn gair a gweithred.—Yr eiddoch, Llanerchymedd. H. S. PARRY.
ILLOFRUDDIO CADBEN PRYD-EINIQ.
I LLOFRUDDIO CADBEN PRYD- EINIQ. Cafodd y Cadben Adams, perthynol i'r llong Brydeinig Arthur Howe, ei niweidio yn angeuol nos Sul gan nifer o'i ddwylaw, y rhai a fuasent yn yfed yn drwm. Dychwel- asant i'r Hong yn hwyr, ac aethant i ymladd. Ceisiodd y cadben a'r is-swyddog atal y cweryl, ond ymosodwyd arnynt, a thrywan- wyd y Cadben Adams yn angeuol.
DAMWAIN I GEFFYL YN MANGOR.
DAMWAIN I GEFFYL YN MANGOR. Brydnawn ddydd Mawrth, wrth bori ar ochr y tir uchel sydd yn ymgodi rai can- noedd o latheni uwchlaw y fynedfa o'r orsaf i'r Heol Fawr, Bangor, darfu i geffyl perthynol i Mr William Ellis, perchenog cerbyd, lithro a syrthio drosodd; ac felly niweidiodd ei hunan yn enbyd iawn. Llwyddodd nifer o bobl yn mhen tipyn i'w gael allan o'i gyflwr peryglus; ac yr oedd canoedd o bobl wedi ymgasglu yno i wylio y gweithrediadau.
SYR CHARLES DILKE A DADGYSYLLTIAD.
SYR CHARLES DILKE A DADGYSYLLTIAD. Nos Iau cynhaliwyd ciniaw i ddathlu dychweliad Syr Charles Dilke fel yr aelod dros y Forest of Dean. Yn ei araeth cyfeir- iodd Syr Charles at Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghvmru, a dywedodd ei fod yn barnu mai DadgysyHtiad Cymreig oedd yr ail fesur mawr o natur ddadleuol y dylai y Llyw- odraeth ei gymeryd mewn Raw. Daliai ef y byddai yn fwy manteisiol ei ddwyn yn mlaen y peth cyntaf yn yr ail dymhor, nag yn ail fesur yn y Senedd-dymhor cyntaf. Byddai yno ddadleu ar bob pwynt perthynol i'r sef." Iliad eglwysigae yn ei hanes, a chodai y teim dau mwyaf brwd yn ystod y ddadl, fel na 1 rddal yn bosibl cymhwyso y cloadur i'r fatli raddau ag i allu pasio y mesur yn y Senedu-dymhor cyntaf. Ofer oedd ym- gynghori a'r hyn a ewyllysid dan yr amgylch- iadau; rhaid oedd ystyried yr hyn oedd yn bosibl a'r hyn oedd yn anmhosibl; ac nid oedd yn bosibl cario Dadgysylltiad yn yr un tymhor ag Ymreolaeth. Er hyny feallai y byddai yn ddichonadwy gwneyd rhywbeth llai na darllen y mesur yr ail waith er rhoddi prawf o'r unfrydedd sydd yn bodoli yn mysg y blaid Ryddfrydig ar y cwestiwn hwn.
TROI YSGOLFEISTR RHYDD-i FRYDOL…
TROI YSGOLFEISTR RHYDD- FRYDOL I FFWRDD. Cof gan ein darHenwyr i ni dro yn ol roddi hanes am waith Bwrdd Ysgol Wim- blington yn rhoddi rhybudd i'w hysgol- feistr ymadael o'u gwasanaeth am ei fod wedi gweitbio o blaid yr ymgeisydd Rhydd- frydol. Yr wythnos hon cynhaliwyd cyf- arfod cyhoeddus Huosog i brotestio yn erbyn ymddygiad y bwrdd ysgol, ac yn mhlith penderfyniadau ereill pasiwyd yr un canlyn- ol:—"Fod y cyfarfod hwn o etholwyr Bwrdd Ysgol Wimblington drwy hyn yn datgan eu condemniad Hwyraf i waith mwyafrif y bwrdd ysgol (tri allan o bump) yn diswyddo Mr B. Tuanicliffe, yr hwn a roddodd foddlonrwydd i'r plwyfolion yn gyffredinol fel athraw llwyddianus, am ei waith yn cymeryd rhan yn yr etholiad diweddar yn mhlaid yr ymgeisydd Rhydd- frydol." Yr oedd teimlad y plwyfolion wedi cael ei ddangos yn flaenorol drwy i 130 allan o'r 200 etholwyr arwyddo protest yn erbyn ymddygiad erKdgar y bwrdd.
rFFRWYDRIAD BERWEDYDD.
r FFRWYDRIAD BERWEDYDD. Ffrwydrodd berwedydd agerbeiriant a ddefnyddid ar y rheilffordd sydd mewn cysylltiad a Chamlas Manchester. Cafodd un dyn ei falurio yn edrydus, a Hosgwyd dau arall i'r fath raddau fel yr ofnir am eu hadferiad.
CARDOTYN CtFOETHOG.
CARDOTYN CtFOETHOG. Bu hen wr o'r enw Michael Kanna, farw yn sydyn mewn capel Pabyddol yn Bray. Yr oedd ei dy yn arddangos tlodi mawr, ond cafodd yr heddgeidwaid hyd i aur ac arian, a gweithredoedd, yn werth saith mil o bunnau. Byw ei hun a wnai yr hen wr, a byddai yn cardota yn barhaus. Daeth amryw yn mlaen i honi perthynas ag ef wedi iddo farw, er nad oedd yr un ohonynt yn ei arddel eyn hyny.
RHESWM NEWYDD DROS FEDDWDOD.
RHESWM NEWYDD DROS FEDDWDOD. Amrywiol ydyw y rhesymau a ddygir yn mlaen dros fod yn feddw. Weithiau diffyg treuliad fydd, dro arall ysmocio, bryd arall wedi eu cynhyrfu gan rywbeth fyddant. Cafwyd rheswm gwreiddiol iawn gan Ellen -Baker, yn Llundain, y dydd o'r blaen, dros y ffaith ei bod yn feddw. Bu yn casglu hops am fis yn Kent, ac yr oedd ysgydwad y tren wrth dd'od adref, meddai, wedi ei gwneyd yn feddw. Coeliodd yr ynad ei stori, a gollyngwyd hi yn rhydd.
CLADDEDIGAETH MR ELIAS JONES.…
CLADDEDIGAETH MR ELIAS JONES. GWREDOG. Cymerodd claddedigaeth y diweddar Mr Elias Jones, Y.H., Gwredog, le ddydd Mer- cher. Nid gormod yw dyweyd fod rhai miloedd wedi d'od yn nghyd i ddangos eu parch i'r boneddwr ymadawedig. Cychwyn- odd y cynhebrwng o Gwredog, a gweinydd- wyd wrth y ty gan y Parchn James Donne ac Ebenezer Evans, Bodedern, ac Owen Hughes. Gweinyddwyd yn y gladdfa gan MY y Parchn John Williams, Amlwch; John Roberts, Taihen; Hugh Jones, D.D., Ler- pwl; a Griffith Roberts, Carneddi, Yn yr hwyr traddodwyd pregeth angladdol yn Nghapel Bethesda, Amlwch, gan Dr Hughes, Caernarfon.
!CLERIGWR ARALL YN FETH |DALWR.…
CLERIGWR ARALL YN FETH DALWR. COLLI ARIAN AR REDEGFEYDD CEFFYLAU. Bu'r Parch C. M. J. Mules yn ficer Curry Rivel, Gwlad yr Haf, am 28 mlynedd. Dechreu'r mis diweddaf ymddiswyddodd, ac yn awr y mae yn tori ffigiwr yn y Llys Methdaliadol. Mae ei ddyledion yn 622lp, ac nid oes ganddo ddim i'w cyfarfod. Priod- ola ei fethdaliad i'r ffaith iddo fyw yn uwch na'i foddion, talu Hogau uchel ar arian a fenthyciodd, a cholledion a gafodd ar redeg- feydd ceffylau. Cynhaliwyd cyfarfod o'i ofynwyr, a dywedodd y Cadeirydd y byddai raid i'r clcrigwr egluro pa fodd yr aeth i gamblo ar redegfeydd. Gohiriwyd yr ym- chwiliad.
[No title]
Fel yr oedd merch i fferyUydd yn Hackney yn ffrio ham, cymerodd y saim dan, ac aeth dillad yr eneth ar dan. Llosgwyd hi gymaint fel y bu farw dranoeth. Sonir am Mr Moody fel un cymhwys i gymeryd gofal eglwys y Tabernacl, Llun- ain. d
Advertising
MAZAWAHEE COFFEE SOMETHING NEW IN THE COFFEE POTI AN ABSOLUTELY PURE COFFEE I Why has English Coffee become so undrinkable In recent years? For the simple reason that what i 4j(C is mostly sold as Coffee in England is a mixture in pA which genuine Coffee has very little part. The result is that probably not one person in fifty really knows the taste of Pure Fine Coffee. Those who once taste iW Em MAZAWATTEE COFFEE iffilm which is the highest grade of Coffee obtainable, fllli 111 acknowledge its superiority, and as it is now rapidly making its way into every part of the country, j f JillII £ England's reputation for Good, Pure and Fragrant Coffee will soon become as great as its notoriety for bad Coffee has been. JB o The Want of the Day-a Pure Fine Coffee 0 is supplied in the Mim mmatm mm.' MAlA W A TTEE COFFEE which is admitted by connoisseurs to be MP ALL THAT CAN BE desired. ,q,q,f W of Coffee and Chicory 1/4 I THigh'Ciass Pure Coffee 1/8 The Coffee "of CofFee for Connoisseurs 2/- N\Nb" MAZAWATTEE COFFEE REAL COFFEE THIS TIME, SAH! Like Mazawattee Tea, is sure to become aJhousehoId True Aroma Fragrant, Refreshing. ""I Vhe land' t „ • n^iiw & fyQ obtained in every city, town, or village of and and and importance throughout the United Kingdom, from Fine Flavour. Digestive. Exhilarating, specially appointed agents, local family grocers. I 4 i
IDWFR CAERNARFON.'
I DWFR CAERNARFON. PWY SVDI) I DALU AM DANO? [GAN ELN" GOHEBYDD ARBENIG.] I'r rhai sydd yn gwybod cyfrinion Cyngor Trefol Caernarfon mae yn hysbys bellach er's cryn amser fod tipyn o anghyd- fod yn bodoli yn mhbtb yr aelodau ynghylch y dwfr i'r dref a phwy sydd i dalu am dano. Wedi cael ar ddeall y buasai y cwestiwn yn d'od gerbron y Cyngor Trefol ddydd Mawrth ddiweddaf, aethum yno er cael gweled a chlywed droswyf fy hun. Yr oedd yno gynulliad llawn, yr unig aelodau absenol oeddynt yr Henadur De Winton, y Cynghorwyr Hamer, a Dr Parry. Daeth Mr T. D. Lloyd i fewn ar ol gorphen yr ymdrafodaeth. Cynygiodd Mr G. R. Rees, cadeirydd y Pwyllgor Arianol, a manager yr Old Bank, fod adroddeb y Pwyllgor Arianol yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor. Cynwysai yr adroddeb y frawddeg ganlynol:— Rhenti dwfr ar dai bychain.—Yn gymaint a bod perchenogion nifer fawr o dai bychain yn gwrthod talu y rhenti dwfr yn ol ycynllun pres- enol, cyfarwyddir yftrethgasglwr i gasglu*y cyf- ryw renti am y flwyddyn hon oddiar y rhai sydd yn byw yn y tai hyny. Ar hyn wele Mr Richard Thomas ar ei draed, ac mewn araeth gref ac argyhoedd- iadol cododd y lleni, gan ddatguddio beth oedd y tu cefn i Adroddeb y Pwyllgor Ar- ianol. Dywedodd fod y Cynghor ddechreu y flwyddyn wedi* gwneyd cytundeb i godi 5s 4c o rent dwfr ar bob ty drethid yn 6p ac isod; ac os ymfymerai y landlord a thalu y rhent dwfr am yr holl dai berchenogid ganddo, pa un a fyddai pobl yn byw yn- ddynt ai peidio, yna y gostyngid 40 y cant ar y swm uchod, gan ofyn felly 3s 4c ar bob ty yn lie 5s 4c. Yr oedd hyn, debygai ef, yn hollol deg, ond yr oedd yn ddrwg gan- ddo gael ar ddeall fod rhai o'i gydaelodau yn awr yn tori ar draws y cytundeb hwnw, ac yn gwrthod talu am y tai bqrehenogid ganddynt. Hyderai, er hyny, y glynent wrth y penderfyniad cyntaf. Byddai yn afresymol gyru'r trethgasglwr i'r 1,400 o dai bychain oedd yn y dref i gasglu rhent dwfr o ljc yr wythnos. Hyderai na fyddai i neb o'i gyd-drefwyr, ac yn arbenig neb o'i gydaelodau ar y Cynghor Trefol, wrth- wynebu ar ddiwedd blwyddyn benderfyniad oedd wedi cael ei gario trwy fwyafrif dde- chreu'r flwyddyn. Eisteddent yno fel aelodau o'r Cynghor Trefol i wylio dros fuddianau y trethdalwyr a'r dref yn gyff- redinol, ac nid i gynrychioli na phlaid, na dosbarth, na chwmpeini. Am y rheswm hwnw hyderai y tynid yn ol bellach y gwrth- wynebiad i'r trefniadau fabwysiadwyd gan- ddynt ddechreu'r flwyddyn, ac na fyddai i unrhyw aelod o'r cynghor eu gorfodi i yru'r trethgasglwyr o gwmpas tai y gweithwyr i ofyn am y rhent dwfr. Pe gwneid hyny byddai raid iddynt alw am y rhent dwfr mewn tai lie yr oedd y preswylwyr yn derbyn cymorth plwyfol, ac mewn tai lie nad obdd y penteulu yn enill 5s 4c mewn mis. Apeliai yn daer at ei gyd-aelodau i fod yn ffyddlon i'r ddealltwriaeth y daethpwyd iddi yn y Cynghor ddechreu'r flwyddyn, ac y cytunid i gasglu'r rent dwfr oddiar y landlord ac nid oddiar y rhai oedd yn y tai. Cynygiai felly eu bod yn gadael allan y frawddeg ddyfyn- wyd uchod o adroddeb y pwyllgor arianol. Eiliwyd ef gan Mr J. R. Pritchard, yrhwn a ddangosai fod y landlords yn gofyn mwy a mwy o ostyngiad yn barhaus. Ar y cyntaf yr oedd y cynghor wedi trefnu i'r rhent dwfr fod yn ddwy geiniog yr wyth- nos ar y tai bychain. Byddai hyn yn 8s 8c y flwyddyn. Boddlonai y Cyngor y pryd hwnw dynu y swm yma i lawr i 6s, gan ganiatau felly 2s 8c i'r landlord am eu talu. Gweithiodd y cynllun yma yn hwylus hyd y flwyddyn ddiweddaf, pan y pender- fynwyd gostwng y rhent i 5s 4e, gostyngiad 0 8c ar bob ty. Ond ni foddlonai y land- lords ar hyn, eithr mynent ostyngiad pell- ach o 50 y cant ar hyn, gan dalu felly 2s 8c yn lie yr 8s 8c cyntaf, neu y 6s ofynid -gan- ddynt y flwyddyn flaenorol. Y canlyniad o hyn oedd i'r dref golli yn 1891 ddim llai na 200p. Mr G. R. jEees ddaeth a'r cynygiad yn mlaen, a phasiwyd ef gan y Cynghor heb iddynt gael amser i'w ddeall. Felly tra na thalai y landlords mawrion ond 2s 8c ar y tai berchenogid ganddynt, byddai raid i weithiwr, os yn berchen ei dy ei hun, dalu 8s 8c. Gwnaed y cyfnewidiad hefyd ar ganol y flwyddyn, pan nad oedd ganddynt [ hawl i wneud hyny. Ni thalai y landlords felly ond ryw ddimai yr wythnos o rent dwfr am eu tai! Ddechreu'r flwyddyn hon codwyd y swm oedd y landlord i dalu o 2s 8c i 3s 6c. Bygythiai un o aelodau'r Cyngor y pryd hwnw os codid ar y landlords y gwrthodent dalu. Ond fel mater o ffaith yr oedd pawb wedi talu ond y Mri Williams a'u Cyf. yr Old Bank. Byddai yn ofnadwy o beth yn awr ar ddiwedd y flwyddyn i or- fodi'r Cynghor i ddanfon y trethgasglwr i bob un o'r 1400 tai i gasglu'r rhent dwfr ddylasai y landlords eu talu. Atebodd Mr G. R. Rees trwy ddweyd fod y pwyllgor wedi cymeradwyo codi Is 6c y bunt ar bob ty rhwng 6p ac 8p o dretMad, a 5s 4c y flwyddyn ar bob ty o dan 6p. Yr oedd ef wedi cynyg cynllun arall wedi ei raddoli fel ag i geisio gwneud y rhent dwfr i godi neu i ostwng yn ol rhent y ty os o dan 6p. Y gwahaniaeth rhwng y ddau fyddai am bob Ip Is yn ol un y byddai yn lp Is 4c yn ol y llall. Dywedodd Mr W. J. Williams ei bod yn hen bryd bellach i gael goleuni ar y mater yma.. Yr oedd ef wedi dweyd y llynedd eu bod yn gweithredu yn afreolaidd wrth ym- yryd a'r rhenti dwfr ar ganol blwyddyn. Nid oedd yn gyfreithlawn iddynt wneud hyny. Heblaw hyny yr oeddynt yn gweithredu yn anghyfreithlawn wrth gania- tau cymaint o ostyngiad i'r landlords. Nid oedd y gyfraith yn caniatau iddynt ostwng mwy. na 50 y cant i'r landlord felly y swm isaf ddylid godi ar y landlord yn ol y gyf- raith oedd 4s 4c ar bob ty. Ond yn lie hyny ni chodent y llynedd ond 2s 8c, sef gostyng- iad o dros 69 y cant, ac eleni, wrth godi 3s 6c caniataent ostyngiad i'r landlord o 63 y cant. Yr oeddent wedi colli zC200 y flwyddyn ddi- weddaf, a chollent fwy eleni pe gorfodid hwy i fyned o dy i dy i gasglu'r rhent dwfr. Yna cododd Mr Issard Davies ar ei draed; ac ar ol croesdynu ar eiriau gyda Mr BSchard Thomas, ymosododd ar yr Old Bank. Gofynodd i'r trethgasglwr os oedd rhyw landlord heblaw'r Old Bank yn gwrthod talu. Nac oes," ebe Mr Price Hughes, neb ond yr Old Bank." Dywedodd Mr M. T. Morris ei fod yn hollol gytuno a'r hyn oedd wedi cael ei ddweyd gan eilydd a chefnogydd y gwelliant. Yr oedd yn beth anheg iawn i godi cwestiwn fel hwn ar ganol blwyddyn, pan oedd y landlords wedi cytuno a'u deiliaid am y rhent, &c. Ar ol peth siarad pellach, rhanwyd y ty, pan y cafwyd fel a ganlyn:— DBOS WEIXIAOT XB RIOHABD THOMAS. Mr Richard Thomas J. R. Pritchard R. R. Williams T. Bugbird „ J. P. Gregory Ed. Hughes W. J. Williams Owen Evans M. T. Morris Evan H. Owen R. Ll. Jones W. P. Williams 12 1 DBOS GYNTCOID MR G. Ro EJSH8. Mr G. RTRMB Dr John Williams MrJohn Edward H. Owen Isbard I)avies 5 Heb Bteidleisio o gwbl, Y Maer Mr John Owen Dr Griffith 3
[No title]
Y PLBSEB 0 FwnA. AO limn.-GOchwah les tri brecwast, cmio, a the gyda Hudson's Extract of Soap. Gwna i saim hedeg! Ni bydd bytfe yn casglu! Nid yw yn gadael arogl. Mae ya' gwne yd cyllill, ffyrc, llwyau, a pha beth bynag olchir gydag ef, yn neillduol o lan a phur, a thrwy hyny y mae y plesera'r dyogelwoh o fwyt. ao yied yn llawer mwy.