Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

I -————————————————————————…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-———————————————————————— CYNGRES YMNEILLDUWYR CYMRU. I Yr wythnos nesaf, yn Nghaernarfon, cynhelir ail gyngres Ymneillduwyr Cymru. Yn y boreu cynhelir cynhadledd dan lywyddiaeth y £ >r Herber Evans, llywydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru; ac un arall y prydnawn dan lywyddiaeth y Parch Owen Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaernar- fon; a chynhelir cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Yn mysg y materion yr ym- drinir a hwynt, ceir y rhai a ganlyn:— Neges Ymneillduaeth Cymru ar adeg deffroadygenecll;" "Dyledswydd Ym- neillduwyr Cymru yn ngwyneb cwes- tiynau moesol a. chymdelthasol;" An. hawsderau presenol Ymneillduwyr Cymru;" "Defcdaeth a Phabyddiaeth;" £ Safle Ymneillduwyr mewn gwleidydd- iaeth; Rhwystrau ar ffordd cydradd- oldeb crefyddol; "Y sefydliad gwladol o grefydd yn ngoleuni yr Ysgrythyrau." Yn mhlith enwau y siaradwyr ceir eiddo y Parchn D. Adams, B.A., Bethesda; John Griffith, Aberdar; H Jones, Bootle; Josiah Jones, Machynlleth; J. Morgan- Jones, Caerdydd; J. Puleston JoneS, M.A. Bangor; Abel J. Parry, Cefn Mawr; a Mr D. Lloyd George, A.S. Gwelir oddiwrth hyn fod y testynau yn bwysig ac yn ddyddorol, a'r siaradwyr yn rhai galluog. Feallai mai nid an- mhriodol fyddai egluro fod Cymru, i ddybenion yr Undeb Ymneillduol, wedi cael; ei rhanu i ehwech o wahanol ddos- barthiadau, ac y cynhelir y Gyngres flyn- yddol yn. ei thro yn mhob un o honynt. vxan mai yn JNghaernarion y cynhelir hi eleni, fe gyfyngir y cynrychiolwyr am y tro hwn i siroedd Mon ac Arfon, a Dy'ffryn Conwy, a deallwn fod enwau cynifer a dau gant wedi cael eu hanfon yn barod gan y gwahanol eglwysi i ddwylaw yr ysgrifenydd cyffredinol- Mr Owen Owen, Ysgol U wchraddol Croesoswailt. Mae yr undeb hwn wedi gwreiddio yn serchiadau y gwahanol enwadau crefyddol, fel nad oes angen i ni ddadleu ei hawliau. Diamheu fod gwaith mawr yn ei aros, ac y deillia daioni cyffredinol o'i weithrediadau, Dymunwn lwyddiant y cyfarfodydd yn Nghaernarfon, a gallwn sicrhau y cyn- rychiolwyr fod y cyfeillion yn yr hen dref yn effro iawn gyda'r trefniadau rhagbarotoawl.

Advertising

[No title]