Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
40 erthygl ar y dudalen hon
GWIRFODDOLWII, ANNHEYRN-GAROL.
GWIRFODDOLWII, ANNHEYRN- GAROL. Hysbysir fod enw yr Isgadben E. A. Mac- donald, Toronto, wedi cael ei ddileu oddiar y rhestr swyddogol, am iddo siarad yn gy- hoeddus o blaid i Ganada uno a'r Unol Dal- aethau, a thori ei chysylltiad a Phrydain Fawr.
ETHOLIAD CIRENCESTER.
ETHOLIAD CIRENCESTER. Cymerai etholiad le yn adran Cirencester, swydd Gaerloyw, ddydd Ia.u, mewn canlyn- iad i farwolaeth Mr Winterbotham. Nid oedd safle y pleidiau wedi cael ei hysbysu pan oeddym yn myned i'r wasg (boreu Gwener). Mwyafrif y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad cyffredinol oedd 153.
CLERIGWR ARALL YN FErH-DALWR.
CLERIGWR ARALL YN FErH- DALWR. Yn Llys Methdaliadol Birkenhead, daeth y Parch W. E. B. Gunn, diweddar ficer St loan, Egremont, i fyny am ei arholiad, yr hwn a ohiriwyd er rhoddi cyfleusdra i chwilio i mewn i gyfrifon y dyledwr. Caf- cafodd yr arholiacl ei derfynu y waith hon.
LLOSGI I FARWOLAETH TRA MEWN…
LLOSGI I FARWOLAETH TRA MEWN LLEWYG Cyfarfyddodd hen wr o'r enw Isaac Mar- tin a marwolaeth ddychrynllyd yn Wolver- hampton. Yr oedd yn byw ar ei ben ei hun, ac un noson cafodd lewyg tra yr elai i fyny y grisiau. Syrthiodd i'r gwaelod, a throdd y lamp oedd ganddo yn ei law, I I I mwydwya ei aaiiiad gan yr olew, a chym- erasant dan. Llosgodd i farwolaeth cyn i neb wybod am ei gyfyngder.
DARGANFYDDIAD DfCHRYN LLYD…
DARGANFYDDIAD DfCHRYN LLYD YN NGHAERLUDD. Mewn trengholiad a gynhaliwyd yn Nghaerludd ddydd Mawrth ar weddillion dynol a godwyd o'r ddaear yn Spitalfields, mynegid fod saith o weddillion cyrph i fyny i'r boreu hwnw wedi cael eu darganfod; fod, yn agos i haner canaif yn ol, letty cyffredin ar y llecyn lie y caed y gweddillion, ac nad oedd arwyddion o orthrech wedi cael ei ddefnyddio at yr esgyrn, y rhai a fuasent yn y ddaear o 75 i 100 mlynedd! Dychwelwyd rbeithfarn agored.
LLITH MERI JOS.
LLITH MERI JOS. Mistar Gol, yr ydw i yn teimlo yn bur euog na baswn i wedi sgwenu yr wsnos ddweutba, ond mi ddoth rhyw anghaffael arna i, fel y collis y post. Ma na rhyw hen air yn rhywle-yn lie deudMtcli ?—tebyg i hyn, "Time and tide wait for no man," ac felly galla ina ddeud na neuth hogyn y post ddim gweitied wrth hen garpan fel ft. Rhai strict iawn ydi pobol y post mewn lie fel y Felin yma. Fyddwch chi yn colli'r post weithiau Mistar Gol ? Mi ddarfu i mi ddarllen yn y IVerin ddweutha hanes y row hono gyda'r Gyng- res Eglwysig yn Folkestone. Mau o wedi pyslio lawar arna i a oedd yno gabana cwrw gynyn nhw yn Folkestone fel oedd yn Rhyl. Fe alia nad oedd yno run, achosmi welis i yn rbywlafody Cbyrcb Congress wedi bod yn golled eleni, tra y gneuthon nhw broffid bach go ddel pan oedd hi yn Rhyl. Yr ydw i wedi clywad fod gan yr Ymneill- duwrs Congress yn ych tre chi yr wsnos nesa. Fydd yna gabana cwrw genyn nhw tybad? Welsoch chi nhw yn dechreu i 0 a?iadd area i feddwl. ir ODOI erui sy'n aond o gwrw. I lie ydw i wedi crwydro, deudwch! 0 ia, son oeddwn i am y row yn y Chyrch Congress. Welis i ffashiwn beth rioed; yr eglwys sydd yn un pwrpas i fod i sefull yn erbyn Pabyddiaeth yn ymhel a chroesa, a llunia'r Forwyn Fair a seintia erill. I lie ma'r byd yn mynd deudwch ? Y personiaid yma yn caul arian mawr gan y Llywod- rath am rwystro Pabyddiaeth i ddod i'r wlad, a nhwtha yn gneyd i gorau o blaid yr hen wraig wedi ei gwisgo a. phorphor." Mi glywis i stori fach ddel iawn am helynt yn un o eglwysi Cymru efengylaidd. Mi ddaru'r bobol sudd yn gofalu am yr eglwys yma rigio y lie i fyny gyda trappings yr hen nain, ac y mae yno groes fawr splendid, a rhyw lamp od iawn, a chnwylla, a'r holl ger fydd gin y Papistiad. Ond nid oedd gynin nhw ddigon o nyrf i ola'r^cnwylla yn y dudd, ac fellu mi fuon heb i gola am heth amser. Doudd rhai pobol selog ddim yn foddlon ar hynu, ac felly mi aethon at y ficer, ac mi ddarun fedru perswadio hwnw i gadael nhw i'w gola yn y dudd. Mi ouddan yn falch iawn am hyn, ac un bora Sul dyma'r omvylla'n ffwl bles, a nhwtha wrth i bodd. Ond todd pawb ddim felly, ac mi aeth yn racsions gwyllt yno. Mi ddeudodd y cor -na buasa nhw ddim yn canu os oedd y cnwylla i gael i gola, ond yr oedd y lleill yn -stiff o blaid i gola nhw. Ond i dori y stori yn fyr, mi ath y cor ar streic, ac ni ddoth y dynion ddim yno Sul wedyn. Felly ma'n rhaid i'r ficer gymryd i ddewis rhwng gola'r •cnwylla a'r cor.
ETHOLIAD CYNGHOR TREFOL CAERNARFON.
ETHOLIAD CYNGHOR TREFOL CAERNARFON. Deallwn y bydd i gyfarfod o weithwyr y dref gael ei gynal am chwech o'r Fgloch nos Sadwrn, yn Ysgoldy Mark Lane, er dewis yn ffurfiol ddau neu dri o'u mhysgeu bunain i ymladd yr etholiad agoshaol ar linellau Ilaf tir. Dywedir fod teimlad cryf yn mysg y gweithwyr dros wrthwynebu a dinoethi yr aelodau byny sydd wedi pleidleisio yn erbyn eu buddianau.
UNDEB YR ANNIBYNWYR.
UNDEB YR ANNIBYNWYR. Golygfa gyda Mr Keir Hardie. Cynhaliwyd eisteddiad hydrefel Undeb yr Annibynwyr yn Bradford yr wythnos hon dan lywyddiaeth Dr Herber Evans, Caer- narfon, yr hwn a draddododd araeth beni- gamp ar Eglwys Fyw." Pasiwyd pleid- lais yn datgan gofid yr Undeb yn marwol- aeth Dr Conder a Dr Thomas, Lerpwl. Darllenwyd papyr gan y Parch J. Mac- dougall, Manchester, ar "Yr Eglwys a Chwestiynau Llafur." Cafodd Mr Keir Hardie, A.S., ganiatad i fyned ar J llwyfan i wneyd ychydig sylwadau. Dywedodd fod plaid Llafur wedi troi ei chefn ar Gristion- ogaeth, am fod yr eglwys yn gyntaf wedi cefnu ar Lafur {lleisiau, 2STa, na") Yr oedd ganddynt gynulleidfaoedd parchus ar y Sabbath, ac i foddbau pobl barchus yr oeddynt yn pregethu ( N age, nage") o ie, dyna wnaent ("Nage, nage," a Ilais "Mae hyny yn anwiredd"). Anghofient am y nifer fawr oeddynt yn dihoeni y tu allan i furiau eu heglwysi ("Nag ydynt"). Gwyddai ef (Mr Keir Hardie) beth oeddynt yn ei wneyd. Bu yn gwrando ar yr hyn a ddysgent. Yn slums y trefydd mawrion yr oedd dynion a gwragedd a phlant a wnaed ar lun a delw Duw yn cael eu gyru i uffern heb i neb estyn llaw i'w cynorthwyo (llais, "Mae hyny yn anwiredd" i. Yr oedd hyn yn warth i weinidogion Cristionogol Lloegr. Ar hyn cymerodd peth cynhwrf le, a chod- odd Dr Leach i fyny i alw sylw at bwynt o drefn. Y cadeirydd a sylwodd mai y peth -goreu oedd gadael i Mr Keir Hardie gael myned yn ei flaen, ond aeth y gwr hwnw i lawr oddiar y llwyfan.
[No title]
Un diwrnod yn ddiweddar yn Dunmow' swydd Essex, priodwyd dwy chwaer gan ddau frawd, ac yn mhen ychydig ddyddiau priododd tad y merched gyda mam y gwyr ieianc.
-------------.DEFNYDDIO DYNAMEIT.
DEFNYDDIO DYNAMEIT. Gwnaed cais i chwythu i fyny un o felinau Carnegie, yn Homestead, gyda dynamnt. Taflwyd rban o un mur i lawr, ac anafwyd dauoddynion. Mae y gweithwyr gwrth- undebol wedi gwrthod gweithio er hyny, I. gan eu bod yn ofni colli eu bywydau.
PLENTYN AR DAN.
PLENTYN AR DAN. Dyna cngbraipht ycbwanegol o'r perygl o adael plant bychain yn y ty eu bunain. Aeth mam yn Camberwell allan i weithio, gan adael ei phlentyn adref ei hunan. Aeth y byeban i chwareu gyda matches, a'r canlyn- iad fu i'w ddillad fyned ar dan, a llosgwyd ef gymaint fel y bu farw.
CWPANAID 0 DE YN ACHOSI MARWOLAETH.
CWPANAID 0 DE YN ACHOSI MARWOLAETH. Bu plentyn o'r enw Elizabeth Rouers farw yn Llundain oherwydd i gwpanaid o de poeth droi ar ei phen. Llosgwyd ei breich- iau, ac aed a hi i'r ysbytty, end ymosodwyd arni gan convulsions, a bu farw.
ANFON C VFREIT illWR I GARCHAR.
ANFON C VFREIT illWR I GARCHAR. Cyhuddwyd cyfreithiwr o'r enw George Thomas Llewellyn, yn Llundain, o esgeuluso ei wraig a'i bum' plentyn, fel y bu raid i Undeb Wandsworth eu cynhal. Dywedai y diffynydd ei fod yn hollol dlawd, ac nad oedd ganddo le i roddi ei ben i lawr. Gallai tlodi fod yn beth pur angbyfleus, ond nid oedd yn drosedd. Anfonwyd y cyfreithiwr i garcbar am dri mis, gyda llafur caled.
DYODDEF TLODI.
DYODDEF TLODI. Gwelwyd gwraig barchus yr olwg arni yn gwerthu matches yn Newington Butts, Llun- dain, ac yn ymyl yr oedd ei dau blentyn yn canu. Cymerodd yr heddgeidwaid y tri i'r ddalfa, a dygwyd hwy o flaen yr ynad. Yr amddiffyniad oedd fod y gwr yn methu gweithio oherwydd afiechyd, a bod y wraig wedi myned allan i geisio enill ychydig o bres drwy werthu matches. Tystiodd per- chenog y ty fod y teulu yn un sobr a pharchus, a bod y ty yn lanwaith. Yr oedd yn ymdrech galed arnynt gael deupen y llmyn yn nghycl. Gollyngodd yr ynad hwy yn rhydd.
PROFEDIGAETHAU BEFRNIAID.
PROFEDIGAETHAU BEFRNIAID. Bydd beirniaid eisteddfodol yn cael eu trin yn enbyd weithiau, ond yr oedd yn nefoedd ar y rhai mwyaf anhapus ohonynt mewn cydmariaeth i feirniaid mewn cystadleuaeth plant yn Pottsdown, Pa. Yr oedd yno yn cystadlu bump a deugain o fabanod, a phob un ohonynt y tlysaf y tywynodd haul erioed arno: ac ar ol y dyfarniad, yr oedd yno bedair a deugain o famau yn teimlo—nid oes geiriau digon cryf i'w cael i ddesgrifio eu teimladau-ac yn unfryd unfarn mai y dyn- ion dylaf, burtaf, gwaelaf, &c., oedd y dyn- ion fu mor ynfyd a rhoi gwobr i blentyn mam arall. Tebyg nad oedd y beirniaid, druain, ddim wedi dysgu y gamp o ranu y wobr.-Drych.
GWYLWYR YN MYGU.
GWYLWYR YN MYGU. Gosodwyd dau ddyn i wylio drwy y nos y carthffosydd newyddion a wneir yn Queen's Ferry road, Edinburgh. Rhoddwyd adeilad pren byeban iddynt lochesu ynddo. Ym- ddengys iddynt wneyd tan yn hwn, a chau y drws. Yn y boreu cafwyd y ddau wedi mygu i farwolaeth.
CYDVYBODOLRWYnD.'n_.
CYDVYBODOLRWYnD. 'n_. Dirwywyd Mr W. B. T. Patterson, Y.H., cadeirydd pwyllgor presenoldeb Tenterden, am roddi gwaith i fachgen ddylasai o ran oedran fyned i'r ysgol. Ymddengys i Mr Pattison ddarg-anfod fod y bachgen oedd yn ei wasanaeth dan oed, ac iddo, fel cadeirydd y pwyllgor presenoldeb, godi gwys yn ei erbyn ei hun.
MYNWENT WEDI EI OOLCHIj 4YMAITH.I
MYNWENT WEDI EI OOLCHI j 4 YMAITH. Yn ystod yr ystorm brydnawn Llun, darfu i'r gwlaw ryddbau sylfeini mur ter- fynol mynwent eglwys plwyf Harwich. Ehoes y mur ffordd, a chwympwyd ti-i o geryg beddau ac arch i gae cyfagos. Caf- [ odd 40 llath o fur ei olchi i lawr, a gwnaed j y beddau yn noeth i ddyfnder o chwech) troedfedd. Bernir fod y niwaid tua 70p. )
HELYNT GYDA PHYSGOTWYR.
HELYNT GYDA PHYSGOTWYR. Yn Spital-on-Tweed, ddydd Mawrth, darfu i ddau gwch bysgota yn agored am eogiaid, er ei bod yn adeg waharddedig. Pan aeth ceidwaid yr afon i'r lan hwy a amgylchwyd gan rai canoedd o ddynion wedi ymarfogi a ffyn, taa yi oedd y pysgot- wyr yn glanio yr hyn a ddaliasant, yr hwn a gariwyd ymaith ar unwaith gan y gwrag- 11 edd.
Y DIRWASGIAD AHAETH-YDDOL.
Y DIRWASGIAD AHAETH- YDDOL. Dywed y Mark Lane Express fod nifer anarferol o arwerthiadau i gymeryd lie ar stociau ffermydd yn Essex. Nid oes braidd bentref drwy yr holl sir He nad oes ar- werthiadau yn cymeryd lie ar dda byw a marw. Mae lluaws mawr o ffermwyr yn gadael y tir, tra y mae lluaws ereill wedi myned yn fethdalwyr, ac yn cael eu gwerthu i fyny. Cymerwyd ychydig o'r ffermydd gan amaethwyr o Lancashire, y rhai a dyb- ient fod gwell gobaith iddynt enill eu tamaid yn Essex nog yn eu sir eu hunain. Er hyny bydd nifer mawr o'r ffermydd yn weigion.
TERFYSG YN CRETE.
TERFYSG YN CRETE. Y mae ymladd caled wedi bod yn Crete rhwng y milwyr a'r gwrthryfelwyr, o gymaint ag fod yr olaf yn dal meddiaht o lawer o ffyrdd yn y berfeddwlad. Y mae trafnidiaeth wedi cael ei atal, ac y mae'r terfysg wedi achosi cyffro mawr.
TROSEDD AN FAD.
TROSEDD AN FAD. Tri o'r gloch y boreu un diwrnod cym- erodd damwain ddifrifol le ar Eeilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe, oddeutu tair milldir i'r gorllewin i Osage City, trwy i ys- beilwyr daflu y gerbydres oddiar y rheiliau i ddibyn ger Haw. Lladdwyd pedwar ar un- waith;ac anafwyd pump ar hugain. Yn mhlith y clwyfedigion yr oedd Mrs M. Jones a dau blentyn, o Wichita, ac M. A. Roberts o Emporia, Kan. Achoswyd y gyflafan trwy fod rhywrai wedi rhyddhau a chamgyfleu y rheiliau yn bwrpasol er mwyn liadrat miliwn o ddoleri oedd yn un o'r ceir. Ni sicrhaodd y lladron ddim o'r ysbail.
TORI EI 1, GARIAD". YNI DDARNAU.
TORI EI 1, GARIAD". YN I DDARNAU. Yr oedd Pollokshields, Glasgow, ddydd Mawrth, yn olygfa cyflafan ddychrynllyd, o gymaint ag fod corph dynes wedi cael ei diaelodi wedi cael ei ddarganfod mewn gardd yno. Mewn un twll darganfyddwyd pen abraich dde y ddynes anffodus, mewn un arall ran arall o'r corph a'r fraich arall, yn y trydydd y coesau wedi eu tori i ffwrdd, tra y dodwyd yr ymysgaroedd yn y pedwer- ydd. Credir mai y llofrudd yw dyn a'i enw M'Ewan; a'r lofruddiedig, dynes ieuanc yr oedd wedi bod yn cadw cwmni hefo hi. Y mae M'Ewan wedi ffoi o'r gymydogaeth, ond y mae yr heddgeidwad wrthi gymaint fyth yn ceisio ei olrhain. Y mee y gyflafan wedi peri cyffro enbyd, ac ofnir fod y llofrudd wedi cyflawni hunanladdiad.
[ MR GLADSTONE A LERPWL.
MR GLADSTONE A LERPWL. Ysgrifenodd Mr Gladstone at Faer Lerpwl i hysbysu y bydd iddo dderbyn dinasfraint ei dref enedigol.
AGOR LLYFRGELLOEDD AR Y SUL…
AGOR LLYFRGELLOEDD AR Y SUL YN FETHIANT. Profodd agor y llyfrgell ar y Sabboth yn Coventry yn fethiant. Wedi rhoddi prawf ar y peth am ddeuddeng mis penderfynodd y cynghor trefol ei chau fel o'r blaen.
TAD MEDDW YN LLADD 1]I ENETH.
TAD MEDDW YN LLADD 1]I ENETH. Cynhaliwyd trengholiad ddydd Mercher ar gorph Emily Littlewood, geneth 16 mlwydd oed, yn Hanley, yr hon a laddwyd I gan ei thad nos Lun. Aeth y tad adref yn feddw, a churodd yr eneth i farwolaeth. Dychwelwyd rheithfarn o Lofruddiaeth wirfoddol" yn erbyn y tad.
DRYLLIO'I GORFF YN DDARNAU…
DRYLLIO'I GORFF YN DDARNAU MAN. [ Y mae damwain ddychrynllyd newydd j ddygwydd yn Nghwm y Rhondda. Fel yr oedd dyn ieuanc a'i enw Thomas Jones wrth I ei waith fel banksman yn Nghlofa Tylors- i town, y Rhondda Fach, efe a lithrodd ac a gwympodd ar ei ben i'r pwll, dyfnder o 620 i o latheni; a chafodd ei gorff ei ddryllio yn ddarnau man.
Y FONEDDIGES A'R CAWRFIL.'
Y FONEDDIGES A'R CAWRFIL. Eisteddai boneddiges yn ngerddi milod- faol Llundain, pryd y pasiodd cawrfil heibio j iddi. Gwelodd yr anifail bwrs tywyll ar ei 1 glin, a chan dybio mai wigsen ydoedd, glin, a chan dybio mai wigsen ydoedd, gafaelodd ynddo a'i drwnc, a Uyncodd ef. I Yn y pwrs yr oedd chwe' phunt mewn aur, I a rhoddwyd cyffeiriau i'r cawrfil, ond ni chafwyd ond dwysofrenyn ol. Yn awr mae y foneddiges am wysio y Gymdeithas Filof- c yddol am y pedair punt arall, gan mai hwy bia y cawrfil, a bod yr arian yn meddiant yr anifail.
DRAIN A BLODAU.
DRAIN A BLODAU. Cymdeithas boneddigesau ydyw ysgol mop,sgarweh. -Montfort. 0 Am yr oil ag ydwyf, a'r oil a allaf fod, i fy nain angylaidd yr wyf yn ddyledus.— Abraham Lincoln. Yr adeg y mae gwraig yn fwyaf perffaith ydyw pan y mae yn fwyaf benywaidd.— Gladstone. Nid oes gan y ddaear ddim yn fwy tyner na chalon gwraig dduwiol.—Luther. I'r un a fyno wir gyfeillion, gofaled am I wraig bur.—Ben Johnson. Yr adeg y mae nerth gwraig yn fwyaf galluog ydyw, pan wedi ei gwisgo mewn addfwynder.—Lamartine. Y mae olew a dwfr—gwraig a chyfrinach -yn gyneddfau gelynol.-Bulwer Lytton. Nis gall un dyn fyw yn fywiol na marw yn gyfiawn heb wraig.-Richter. Hyd yn nod yn awr dywallaf profedig- aethau, y mae serch gwraig yn twymwrido. -Sand. Caredigrwydd mewn gwragedd, ac nid prydferthwch, a ennilla fy serch.-Sha- peare. Cyn i ddyn ddechreu meddwl y mae merch wedi dechreu siarad. Y mae merch gyda dannedd prydferth yn dyfod o hyd i liaws o bethau yn nyJTryn galar i chwerthin amynt.
Advertising
I I HIGHEST Diplomas, Gold Medals, I Special Certificates of Merits f BRI D; —— 11- HONORS A t all the Great I Exhibitions of the World. I | PROFESSOR Sir Erasmus Wilson Late President ef ike Royal College of Surgeons, England. "The use of a good soap is certainly calculated to pre- serve the skin in health, to maintain its complexion- and tone, and prevent it falling into wrinkles. PEARS' is a name.engravedon the memory of the oldest inhabitant; and PEARS' SOAP is an article of the nicest and most careful manufacture, and one of the most refreshing and agreeable of balms for the E A R S Ppl mmmmmmmmamammmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmammmsmmggaammmmmmmmmmmmammBsatB 1 SOAP MAKERS By Special Appointment TO HER MAJESTY The Queen vPl"' Mr. John L. Milton Senior Surgeon St. John's Hospital/or the Skin,London. "From time to time I have trie*l verymany different soaps and after five-and-twenty years careful observation in many < thousands of cases, both in hospital and private practice, have no hesitation in stating that none have answered so well or proved so beneficial to the skin as PEARS' SOAP. Time and more extended trials have only served to ratify this opinion which I first expressed upwards of ten years ago, and j to increase my confidence in j this admirable preparation. i t——————————i ¡ i I AND i. I HIS ROYAL HIGHNESS THE I *Wf ¡ I Prince Of Wales. I v' Hiiwnrinnwi 11 I ¡ r tj j j I I tff) ——" j »■ 4 •
fARTH YN LLADD DYN.
f ARTH YN LLADD DYN. —— Yn ngerddi milodfaol Lisbon esgeulusodd un o'r ceidwaid gau drws ffau yn mha un yr oedd dwy arth yn cael eu cadw. Lladdwyd y dyn, a diangodd y ddwy arth i'r gerddi. Ymlidiwyd ar eu holau gan amryw bersonau, a gallwyd cael un ohonynt yn ol i'r ffau, ond bu raid saethu y llall. Wrth archwilio corph y dyn a laddwyd, cafwyd fod ei fraich dde wedi cael ei thori ymrith yn Ilwyr, a'i chario i ben draw y ffau.
GWNEYD ARIAN.
GWNEYD ARIAN. Traddodwyd dyn yn Greenwich i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o dwyllo. Tystiodd amryw eu bod wedi gweled hysbysiad o eiddo y diffynydd mewn amryw newydd- iaduron yn addaw gwaith gwerth punt yr ("wythnos, i bersonau o bob rhyw ac oed, os yn abl i ysgrifenu. Wedi iddo gael 2s lc gan y sawl anfonai ato, hysbysai y diffynydd y gellid enill yr arian drwy werthu stamps Indiarubber.
CYNGHOR TREFOL SOUTHPORT A…
CYNGHOR TREFOL SOUTHPORT A CHYFLOGAU TEG. Yn Nghynghor Trefol Southport cynyg- iodd Mr T. R. Threlfall fod yn rhaid i bawb a gymer waith gan y Cynghor Trefol o hyn allan ymrwymo i dalu y cyflogau cyd- nabyddedig yn y gwahanol alwedigaethau i'w gweithwyr. Sylwodd fod penderfyniad cyfifelyb wedi cael ei fabwysiadu gyda chan- lymadau benditbiol gan dros haner cant o wahanol fyrddau cyhoeddas. Cafodd y cynygiad ei basio gan 16 yn erbyn 7.
ARCHWAETH HYNOD.
ARCHWAETH HYNOD. Gwnaed archwiliad ar gorph dyn a fu farw mewn gwallgofdy yn Melbourne, a chafwyd yn ei ystumog dair o lwyau, y rhai a gollwyd er's dros fis cyn iddo farw, yn ogystal a darn o haiarn, a dau ddarn pur fawr o wydr. Fel mae'n rhyfedd dyweyd nid y pethau hyn a fu yn achos o'i farwol- aeth, eithr enyniad yr ymenydd. Ychydig amser yn ol bu meddyg yn tynu darn o ddur, pum modffedd o hyd a modfedd o led, o gom ei wddf.
TALU MIL 0 BUNAU MEWN PRES.
TALU MIL 0 BUNAU MEWN PRES. Yn ystod teyrnasiad Sior III. anfonwyd William Cobbett i garchar Newgate am ddeuddeng mis, a gosodwyd dirwy o fil o bunau arno am gyhoeddi yn ei bapyr newydd sylwadau yn condemnio fflangellu yn y fyddin. Gwnaeth ei gyfeillion Radicalaidd gasgliad i dalu y ddirwy, a phan darawai awrlais St. Paul ddeuddeg, y diwrood olaf i dalu, cyrhaeddodd tair men i ddrws Cang- hellydd y Trysorlys. Yn y meni hyn yr oedd chwe' tunell o geiniogau a dimeiau budr yr olwg, a gorfui'r Canghellydd druan dderbyn yr holl bres hyn. Gan eu bod yn ormod i'w rhoddi yn ei boced, bu raid iddo eu dymchwel i'w selerydd. Wedi hyny [ pasiwyd cyfraith nas gellid talu swm mwy na dwy bunt mewn pres.
CLADDEDIGAETH TENNYSON.
CLADDEDIGAETH TENNYSON. Claddwyd yr hyn oedd farwol o'r Bardd Llawryfol yn Mynachlog Westminster brydnawn Mercher. Dygwyd y corph o gartre'r bardd yn Aldworth nos Fawrth i Lundain, a dygwyd ef i Fynachlog West- minster i orphwys dros nos. Y mgynullodd torf fawr i'r eglwys brydnawn Mercher, a dechreuwyd y gwasanaeth am haner awr wedi deuddeg. Gweinyddwyd gan y Canon Duckworth a'r Deon Bradley. Nis gallodd Mr Gladstone fod yn bresenol, ond anfonodd flodeuglwm hardd.
CARU EI WRAIG.
CARU EI WRAIG. Paham yr ydych yn wylo, Mrs Wil- liams gofynai gwraig i un o'i chymydog- ion. A gawsoch cbwi newycjpi drwg oddi- wrth eich gwr ?'i O! gwaeth na hyny! ysgrifenodd John ataf i ddweyd ei fod bron marw o hiraeth am danaf, a'i fod yn syllu yn barhaus ar fy narlun, ac yn ei gusanu filoedd o weithiau bob dydd." Peth neis iawn yw hyny, ond nid ydych yn crio am beth felly 'does bosibl ?" Nid ydych yngwybodycwbl,Mrs Jones. Er mwyn ei dreio, rhoddais lun fy mam yn ei fag pan yn myned i ffwrdd, ac nid yw y creadur wedi ffeindio hyny eto, a throd Mrs Williams i wylo drechefn.
CYFRIFON CORPHORAETH CAERNARFON.
CYFRIFON CORPHORAETH CAERNARFON. CYFARFOD ()'R CYNGHOR. Penodi Archwilydd Nos Fercher, galwyd yn nghyd gyfarfod o'r Cynghor Trefol, ac oddiwsth natur y rhybuddion a anfonwyd allan yr oedd yn amlwg fod y gweithrediadau yn debyg o fod yn bwysig. Galwodd un o'r cynrych- iolwyr yn yr ystafell cyn i'r gweithrediadau ddechreu, ond gan mai pwyllgor o'r holl Gynghor ydoedd nis gellid caniatau iddo fod yn bresenol. Yr ydym. fodd bynag, wedi dyfod i wybodaeth o sylwedd yr hyn a fu dan ystyriaeth. Yn gyntaf ymddengys Maer (Mr John Davies) adgofio y Cynghor o'i benodiad ef a'r Henadur G. R. Rees rai wythnosau yn 01 i wneyd ymchwiliad i gyfrifon y Gorph- oraeth. Gwnaethant hyny ond nid oedd- ynt eto mewn sefyllfa i ddwyn allan adrodd- iad yn nglyn ft chyfrifon y nwy, er fod yr arolygydd (Mr R. O. Wynne Roberts), yn cael ei gynorthwyo gan ddau arall, wedi gweithio ddydd a nos. Yn ngwyneb hyn penderfynwyd galw am was- anaeth Mr R. R. Stythe, cyfrifydd. Dech- reuodd ef ar ei ddyledswyddau boreu Llun, a'i adroddiad ef ydoedd y cymerai rai wyth- nosau i roddi y Nyfrau mewn trefn briodol. Yr oedd Mr Stythe yn foddlawn i roddi haner bob dydd i'r gwaith. Eglurodd yr Henadur Rees hefyd nad oeddynt wedi llwyddo i ddwyn allan adrodd- iad am 1891; a chwynodd nad oedd rhai yn dwyn cysylltiad &'r gorphoraeth wedi cyf- lawni eu gwaith mor foddhaol ag y dis- gwylid iddynt. Dilynwyd hyn gan ymdrafodaeth faith. Awgrymwyd gan Mr Issard Davies fod i chartered accountant gael ei sicrhau i wneyd ymchwiliad manwl i'r llyfrau. Rhoddodd Mr Richard Thomas hyn mewn ffurf o gynygiad, yr hwn a eiliwyd gan Mr J. R. Pritchard. Barnai Mr Edward Hughes y buasai swyddogion presenol y gorphoraefh yn deall y gpraith yn well na neb dieithr a allai ym- afael ynddo. Mr M. T. Morris a gredai mai gwell fyddai cael chartered accountant ar ol i'r llyfrau gael eu gosod mewn trefn. Cefnog- wyd y syniad hwn gan yr Henadur John Williams. Penderfynwyd yn unfrydol awdurdodi Mr Stythe i barhau i archwilio y cyfrifcn, ac i chwilio am gynorthwy os yn angelrheidiol, Hefyd ychwanegwyd Mr Issard Davies a Mr W. J. Williams at y Maer a Mr Rees fel pwyllgor i ymgynghori a Mr Stythe, ac i ddwyn adroddiad i'r Cynghor mor fuan ag y byddo yn bosibl, gan y teirnbd ei bod yn llawn bryd rhoddi pob adran o'r cyfrifon mewn trefn briodol. Deallwn i'r Pwyllgor gyfarfod foreu dydd Iau, pryd y cadarnhasant benodiad Mr Stythe, gan ei awdurdodi i wneyd ymchwil- iad trwyadl i holl gyfrifon y Gorphoraeth.
[No title]
Y mae colliant mawr ar fywydau, yn gystal a dinystriad amryw o dai, wedi cae ei beri yn Venezuela drwy i ranau dirfawr o'r tir ymollwng yn ystod yr ystorm.. Dy- wedir fod yr ystorm yr un fwyaf dinystriol a ddygwyddodd yn y wlad hono er's deugain mlynedd.
[No title]
:=- .ffeswrol irocldi y gwahanollyfrau mewntrefn Gwelir felly mai nid dychmygu yr oedd gohebydd arbenig yr Observer and Express pan yn ysgrifenu ei erthyglau ar y mater hwn. # # # Y chydig ddyddordeb a ddangosir hyd yn hyn yn yr etholiadau bwrdeisiol yn ngwalianol drefi Gogledd Cymru. Addefa llawer fod angen gwaed newydd mewn ami i Gynghor, ond nid oes yr un symudiad cyffredinol ar droed i gario yr argyhoedd- iad hwnw i weithredlad. # Yn Lerpwl bydd y frwydr fwrdeisiol ar y cyntaf o Dachwedd yn un boeth iawn. Saif y pleidiau fel hyn yn awr:—Mae nifer y Cyngborwyr Rhyddfrydol yn 28, tra na rifa y Cynghorwyr Toriaidd ond 20. Y mae yn perthyn i'r cynghor 16 o henaduriaid, a gofalodd y Ceidwadwyr, pan oeddynt hwy mewn mwyafrif yn yr amser a basiodd, fod pob un o'r henaduriaid yn Doriaidd. Aiff wyth o'r henaduriaid allan o swydd y mis nesaf, a gwna y Rhyddfrydwyr ymdrecb i neillduol i enill yn yr etholiad fel ag y gallont gael Rhyddfrydwyr i eistedd ar y fainc henadurol. Cvmerodd gobobiaeth le rhwng Mr G. H. M. Owen, Caernarfon, a Mr Gladstone, yn nghylch araeth node dig Cwmllan. Amlwg yw fod gwersyll y landlordiaid wedi cael ei daflu i gryn belbul gan fynegiad clir Mr Gladstone ar hawliau y ffermwyr yn Nghymru. # # Llawer a siaredir yn byawdl o blaid Dirwest, a'r benclithion a ddilyna llwyr- ymwrthodiad a diodydd meddwol. Ond yr anhawsder a deimlir yn gyffredin yw dar- paru atdyniadau priodol ar gyfer hudol- iaethau y tafarnau. Da genym weled fod yr Arglwyddes Reade wedi cymeryd cam ymarferol yn y cyfeiriad hwn drwy sefydlu Ty Dirwestol yn Llanfaethlu. Mae eyfeillion sobrwydd o dan rwymedigaeth neillduol i'r Arglwyddes Reade am ei sel gyda'r achos Dirwestol.