Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

BYRDDAU CYFLAFAREDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BYRDDAU CYFLAFAREDDOL. Un o'r pynciau dyrys sydd i'w trafod yn fuan yn y dyfodol yw cysylltiad Oyfalaf a Llafur. Pa beth yw hawliau y naill a'r llall, a pha fodd y gellir pender- fynu pa faint o elw y mae pob un o honynt i'w gael oddiwrth yr hyn a gyn- yrchir? Dyma gwestiynau ag y mae cysur miloedd yn dibynu ar allu eu hateb yn foddhaol; er hyny bodola anhawsderau mawrion yn nglyn a hyny. Mae cysyll- tiad llafur a chyfalaf yn y wlad hon mor .dywyll fel ag y gwelodd y Llywodmeth yn anghenrheidiol benodi Dirprwyaeth Frenhinol i edrych i mewn iddo, ac i gasglu tystiolaethau ar y mater. Nid yw y ddirprwyaeth wedi gorphen ei hym- chwiliad, ac hyd nes y bydd iddi gyflwyno ei hadroddiad ieallai mai ofer yw disgwyl i'r Senedd ddeddf wriaethu yn y cyleiriad hwn. Er hyny nid ofer yw trafod materion sydd o ddyddordeb mawr i weithwyr ein gwlad. Yn nghynadledd Bethesda cyffyrddwyd ag un o'r materion hyn, sef y priodoldeb o sefydlu byrddau cyfiafareddol i bender- fynu anghydwelediadau a gymerant le rhwng gweithwyr a meistri. Ar hyn o bryd, os y bydd y meistr yn dal yn ben- derfynol yn erbyn ceisiadau ei weithwyr, yr unig ffordd sydd gan y dynion i gyr- haedd eu hamcan yw sefyll allan. Y mae hwn yn ddull barbaraidd, ac yn rhwym o beri colled i'r meistr yn gystal ag i'r gweithiwr, ac yn achlysuro caledi mawr i wragedd a phlant diniwed. Ac os bydd nifer y gweithwyr yn fawr, a'r sefyll allan yn. parhau yn hir, bydd yn rhwym o bori anhwylusdod i fasnach a cholled fawr i ddosbarthiadau ereill nad oeddynt o gwbl yn gyfrifol am yr anghyd- welediad, ond a oeddynt o angenrheid- rwydd yn dyoddef oddiwrth ganlyniadau y sefyll allan. Cafwyd enghraipht o hyn yn ddiweddar yn nglyn a'r sefyll allan yn mhlith y mwnwyr yn Durham. Bu chwarelwyr Gogledd Oymru yn defnyddio pob moddion yn eu gallu, oddigerth seiyll allan, i dd'od i well dealltwriaeth gyda'u moistradoedd, ond i ddim pwrpas. Eu cais yn awr yw ar fod i fyrddau cyflafar- eddol gael eu sefydlu fel y gallont roddi eu cwynion gerbron y rhai hyny. Byddai y cyfryw yn foddion llawer iawn doethach i benderfynu yr anghyd- welediad na sefyll allan. Onlt yr anhawsder yw cael gan y meistradoedd i gytuno i ffurfio y byrddau hyn yn wir- foddol. Hyd yn hyn y maent wedi gwrthod rhoddi yr achos i gyflafaredd- wyr,gannafynant i neb ond hwy eu hunain gael llais yn rheoliad cyflogau. Gwelir felly mai ofer yw i'r gweithwyr ddisgwyl i'r meistradoedd benodi y byrddau hyn. Gan hyny mae y chwarelwyr am droi at y Senedd, ac y jnaent wedi erfyn ar Mr Lloyd George i ddwyn yn mlaen fesur i sefydlu byrddau cyflafareddol. j Mae rhai wedi cael eu sefydlu mewn gwledydd ereill, ac yn gweithio yn rhagorol yno. Os felly, nis gallant beidio bod o ddefnydd yn y wlad hon hefyd. Yn sicr mae yn ddyledswydd ar ein seneddwyr i wneyd i ffwrdd a'r angenrheidrwydd i'r gweithwyr orfod sefyll allan i sicrhau eu hiawnderau.

[No title]

LLITH MERR JOS.

YN EISIEU.

Advertising

Advertising

HIE I) I) rGmAETli " KAD."…

[No title]