Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
34 erthygl ar y dudalen hon
I'R AMERICA MEWN 28 AWR.
I'R AMERICA MEWN 28 AWR. 7IYr wythnos ddiweddaf bu Rwsiad yn Odessa yn dangos cynlluniau o longau sydd wedi eu parotoi ganddo, nid oes screw na paddle ar y llongau, ond rhed ger trydanol o gwmpas y Hong, a gall fyned o Lerpwl i New York mewn wyth awr ar hugain." Gall hefyd suddo y llong yn is nag arwyn- ebedd y dwfr, fel ag y ceir mordaith dawel, ddiystormus. Gwneir arddangosiad ey- hoeddus o'r ddyfais yn Ffair y Byd yn Chicago.
[No title]
Yn Manchester y mae cyhoeddiad Mr Balfour yr wythnos hon. Yno y gwran- dewir y ddeiseb i'w ddiseddu. Cymerir dyddordeb mawr yn y ddeiseb hon, a di- amheu y codir ewr y lien ar y modd y dygir etholiad yn inlaen gan blaid y "Beibl a'r ewrw." Yn Nhrefaldwyn, Rhagfyr 5ed, y gwrandewir y ddeiseb yn erbyn Syr Pryce Pryce Jones. Dyma gred Esgob Rochester Ni 0 amheuir gan neb," meddai, "fod poblog- rwydd y cri am Ddadgysylltiad yn pry- gur fachludo." Druan ohono, os ydyw yn credu yn wirioneddol y fath ffiloreg. Gofyned am farn Esgob Llanelwy a Deon Llandaf, a rfiaiff glywed rhywbeth a d-dymchwel ei gastell awyrawl i'r llawr. y maent hwy, beth bynag, yn credu-ac yn crynu. Cymdeithas ragorol yw yr un er atal creulondeb at blant, a mawryw y gwaith a wneir ganddi. Yn ei chyfarfod blyn- vddol yn Llundain dywedai yr ysgrifen- dd fod y gymdeithas yn ystod y deu- ddeng nus diweddaf wedi gwneyd ym- /.bwiliad i 9401 ° achosion, yn mha rai! yr effeithid ar 22,727 o blant, a bod 1104 o bersonau wedi cael eu cosbi am d yn greulawn tuagat blant. Er fod yr adroddiad yn bruddglwyfus yn her- wvdd Y dadleniadau a wnaed ynddo, eto Y7 d y mae jn gysur med(lwl fod y1 o-vmdeithas hon yn gwneyd llawer i| rwystro i'r Jea?™d b^chain diam~ dd&yn hyn ddyoddel llawer o gamwm. | ==-
LLITH ltIERI JOS.I
LLITH ltIERI JOS. I MISTAR GrOLYGUDD,—Mi gafodd Eobin mina blesar mawr nos Fawrth yn /larllan yr kanas yn y Genodl am Gymanfa Wleidyddol Cymru yn y Khyl. "RuBort da iawn ydx o, yn siwr i chi. Mi ouddwn i wrth wrando ar Robin yn dar- llan-yn teimlo fel taswn, i yn y cyfarfod ty hunan. Mi glywis i fod yna lond tren am wn i 0 bobl Lloegar yna wedi tori eu ond todd dim o(Ir, o gwbl, cyhoeddiad; ond todd dim ods o gwbl, mi gafwyd cyfarfodydd iawn hebddyn nhw. RydW 1 yn methu dallt be ydi'r ysfa a am nol rhyw Saeson bob amser i siarad yn ein demonstreshions. Cyrchu I dwr dros afo.n ydi hyny yn reit siwr. Mae gyno ni yn Nghymru ddigon o spowtars ffyrst^clas/heb yru am fforeign gwds, a rheini yn rhai digon sal yn ami. Dydi'r Gwyddelod byth yn gneud mistec fel hyn. Mi oudd gynun nhwtha eu cymanfa fawr yn Dublin y diwrnod o'r blaun. Ond nid oudd yno res o lythyrau apoloji yn caul eu darllen fel yn Rhyl. Yr ouddan nhw yn bwriadu byw ar eu bwyd eu hunain, heb ddisgwylwrth swyddogion y Llywodraeth. Dyna fel ma nhw wedi dod i'r safle y maent ynddi yn awr. Byw ar eu hadnoddau eu hunain, ac nid myn'd a'u capyn eu llaw i fegio ar rai o big guns y Saeson ddodyno i'w difyru. Ma'n rhaid i nina fel Cymry gymeryd gwers oddiwrth hyn, a byw ychydig yn fwy anibynol ar y Saeson. Ddaw dim daioni o fod yn rhu wasaidd iddyn nhw. Ond dyna ddigon ar y pen yna. Mi oudd ton cyfarfod y Rhyl yn fy mhlesio i yn iawn. Mi rodd y rhai oudd^yno fel pe yn gwybod beth oedd ar y wlad eisio, ac yn benderfynol o'i gaul. Dydi Cymru ddim yn cysgu 'rwan. Fel y deudodd Mr Gee, os oes gan Loegarei Grand Old Man," mae gan Gymru ei Grand Young Men,"—bendith ar eu pena nhw. Mi fydd xhain yn sicr o fod yn gweithio yn y Senedd nesa. Chymith rhein mo'u troi yn ol ar chwara bach,ipeth yn siwr ydi o. Does dim dowt am hyny. Gin Gymru mau y balans o powar; ac os nad ydi y Iilvwodraeth am roi Dadgysylltiad i ni, does dim i'w wneyd ond eu troi nhwallan ar unwaith. Mi ddywedwjTd amryw o hanesion yno sy'n ddigon a pheri i wallt un sefyll ar ei ben. Dyna hono ddeudodd Herber am y person eglwys hwnw ddeudodd wrth riw wraig fod John Wesley yn I llffarn. Glywsoch chi y fath beth rioed? I Un o'r dynion gora droediodd y ddaiar I yma rioed yn uffarn, medda rhiw ysbrig- I yn sydd yn pregethu yn Eglwys Loegar. I 0 gulni! I Hanas difrifol iawn oedd y Hall gafodd I ei ddeud yno, sef fod person eglwys I wedi bod yn pwyso ar i Fedyddiwr I fynd a'i blentyn i'r eglwys i gael ei fed- I yddio, a bod hwnw wedi gwrthod, wrth I gwrs. Ond y diwadd fu i'r Ymneill- I duwr gaul notis ben t) illor i madal o'i I ffarm. 0 giwad felldigedig! Pa I ryfedd fod y wlad wedi laru ar I y set yma, ac wedi .troi eu cefna arnyn nhw! I Ma diwrnod setlo y personiaid a'r I landlords jyst yn ymyl. Idea reit dda I oudd gin Dr Pan, sef mai edrach i mewn I a ddylid talu rhent o gwbl i'r landlords I yma ddyla'r comisiwn sydd i gael ei I phenodi, ac nid edrach pa faint a ddylid I dalu. Os na wna y comisiwn nesa y I gwaith hwn, ma'r diwrnod yn siwr o I ddwad pan fydd ywlad yn edrach i mewn I i bacia y landlords yma. Ddaw hyny I fymryn rhy faan chwaith i neb—ond i'r I landlords.
IYSGELEIIVVAITH CARNLADRON.
I YSGELEIIVVAITH CARNLADRON. I Rhostio Heddgeidwad i Farwolaeth. I Yn ngogledd Groeg daliwyd heddgeidwad, I 7chydig ddyddiau yn 01, gan y desbarth ■ ellyllig-brigandiaid, y rhai ydynt yn byw ■ ar ysbeilio. iYmddengys fod y swyddog ■ hwix yn adnabyddus iddynt fel un oedd wedi H achwyn cryn Iawer arnynt hwy wrth yr ■ awdurdodau. Wedi ei gael i'w dwylaw, I penderfynasant dalu yr echwyn adref iddo ■ gyda 116g yn eu dull dieflig eu hunain. ■ Cyneuasant dan; ac yna%dodasant ef yn ■ nghrog wrth ysgiwer uwch ei ben, gan ei ■ rostio yn arafaidd i farwolaeth, a dolefau y truan yn peri chwerthin iddynt.
Advertising
■ DR. LOCOCK'S PTXLMONIC WAFEES give instant ■ relief and rapidly cure Asthma, Consumption, Coughs, Colds, Bronchitis, and all disorders of the throat, breath, and lungs. In hysterical, nervous and heart complaints, they are unfailing. In Rheumatic and Nervous complaints they act ■ like a charm. Nothing else gives such a sound, refreshing night's rest. To singers and speakers Dr Locock's Wafers are invaluable for clearing and strengthening the voice. They ■ taste pleasantly. Sold by all druggists at Is lid ■ and 28 9d per box. a (.
CODIAD YN NGHYFLOGAU' ! Y…
CODIAD YN NGHYFLOGAU' Y CHWARELWYR. Newydd Da o Ffestiniog, i Da genym ddeall fod chwarelwyr Ffes- tiniog wedi cael addewid am godiad yr wythnos hon. Fe gofir fod chwarelwyr Gogledd Cymru ychydig fisoedd yn ol wedi gwneyd cais ar fod safon cyflog i fod yn bum' swllt y dydd. Gwrthodwyd hyn gan y gwahanol berchenogion. Fodd bynag, y mae yr erthyglau galluog a dyddorol o eiddo Mr W. J. Parry (diweddar lywydd Undeb y Chwarelwyr), a Mr W. J. Williams (ysgrifenydd cyffredinol yr Undeb), y rhai a ymddangosant yn yr Observer and Express a'r Genedl Gymreig, wedi rhoddi gwybodaeth ar gwestiwn y cyflogau nad oedd yn medd- iant y perchenogion yn flaenorol, neu ynte a anwybyddid ganddynt. Y canlyniad yw fod y meistradoedd yn ardal Ffestiniog, ddechreu'r wythnos, wedi cytuno i gyfarfod cynrychiolwyr y gweithwyr mewn ymgyng- horiad. Yn y gynhadledd hono gwnaed yn hysbys fod safon cyflog yn Ffestiniog i gael ei godi ddau swllt yn yr wythnos. Fe ddaw hyn o fewn chwe' cheiniog i'r hyn a ofynid ar y cyntaf gan y dynion. Mae y pender- fyniad hwn yn effeithio ar rhwng 2000 a 3000 o ddynion, a diameu y par i'r perchen- ogion yn Methesda, Llanberis, a Nantlle, ail ystyried eu safle. Ceir manylion pellach yn y Genedl nesaf.
I MR THOSASLSW!^A.S. I#~
MR THOSASLSW!^A.S. # Mae'n dda iawn genym allu hysbysu fod Mr Thomas Lewis, yr aelod Seneddol dros Fon, gryn lawer yn well. Ddydd Mercher yr oedd yn ddigon da i gael ei symud o'r Rhyl i Fangor. Daliodd yn dda ar hyd y ffordd, a chredir fod y eyfnewidiad wedi bod er lies iddo. Dr Summerhill, Rhyl, fu yn gweini arno tra yn y dref hono, ond wedi ei symud adref y mae dan ofal Dr E. O. Price. Gobeithia y meddyg y bydd y boneddwr anrhydeddus yn alluog yn mhen y pythefnos i fyn'd a d'od fel cynt. Gobeithio mai felly y bydd.
CROGI NEILL.
CROGI NEILL. Boreu Mawrth, am naw o'r gloch, crog- wyd y llofrudd Neill yn yr Old Bailey, Llundain. Billington oedd enw y crogwr. Ni wnaeth Neill unrhyw gyfaddefiad yn nghylch yr un o'r pedair llofruddiaeth y cafwyd ef yn euog ohonynt.
BYGWTH OHWYTHU I FYNY SYR…
BYGWTH OHWYTHU I FYNY SYR HORATIO LLOYD. Wrth gymeryd ei sedd yn Nghaernarfon, ynLlysy Sir, ddydd Mercher, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Syr Horatio Lloyd :-Feallaf grybwyll fy mod y boreu yma wedi derbyn llythyr dienw yn mha un yr hysbysir fi y caf fy chwythu i fyny yn ddarnau man hefo dynameit am ddyfarn- iadau gorthrechol, a dichell gwarthus hefo'r clerigwyr, ac ymddygiad anynol at ddegwm- dalwyr tlodion a gorlwythog;" ac yr oedd y llythyr yn diweddu gyda'r gobaith duwiol —"Bydded i'r Hollalkiog eich parlysu chwi." Nid oes arnaf eisieu dim ond dyweyd wrth y llwfryn ffol ag sydd wedi gwario ei amser a'i lythyrnod ceiniog ar y truth yma, os yw yn meddwl yr edrychwn arno fel o ddifrif, neu os gwnawn, y byddwn yn debyg o gael fy effeithio ganddo mewn unrhyw ffordd, y mae yn camgymeryd yn fawr; ac yr wyf yn ei gynghori i arbed iddo ei hunan y fath drafferth ohyn allan. t
DIXLEDI) CREULAWN.
DIXLEDI) CREULAWN. Tra y cerddai dyn a dynes ieuanc gyda'u gilydd o'r eglwys mewn pentref yn agos i Tavistock saethwyd y ddau gan fachgen 19eg oed, o'r enw Williams. Bu y ferch farw yn y fan, a'r dyn foreu dranoeth. Ceisiodd Williams saethu ei hun, ond methodd, a chpnerwyd ef i'r ddalfa. Tybir mai dialedd oedd wrth wraidd yr aufad- waith.
GADAEL PABYDDIAETH.
GADAEL PABYDDIAETH. Bu Miss Cusach yn darlithio yn Llundain ar-11 Paham y gadewir Pabyddiaeth." Yr oedd_cryn nifer o Babyddion yn bresenol, a gwnaent eu goreu i dori y cyfarfod i fyny, ond daliai y ddarlithyddes at ei gwaith. Gadawodd Eglwys Rufain, meddai, am dri rheswm; yn gyntaf, nid oedd yn eglwys Gristionogol,—yr oedd yn gwrthod y Beibl; yn ail, yr oedd ganddi gyfryngwr amgen na Christ,—y Forwyn Fair; yn drydydd, yr oedd y Babaeth yn dysgu ei fod yn iawn llosgi hereticiaid.
I CYFLAFAN YN Y DEHEUDIR.
CYFLAFAN YN Y DEHEUDIR. Ddydd Llun, yn yr Ystrad, traddodwyd glowr ieuanc o'r enw William Williams, a drigai yn Nhreorci, i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o geisio llofruddio ei wraig. Ryw ddeuddeng mis sydd er pan briododd y ddau, ond yn mis Awst ymwahanasant, gan eu bod yn cweryla. Nos Wener, aeth Williams i edrych am ei wraig, i ofyn a ddeuai adref gydag ef, ond gwrthododd. Yn mhen yr awr aeth Mrs Williams i ddrws y cefn, a rhuthrwyd ati gan ei gwr. Ceisiodd ei thagu; a phan glywyd ei gwaeddiadau, daeth ei mam a dau o'r lletywyr yno. Tynodd Williams gyllell allan, trywanodd ei wraig, a diangodd ymaith i'r mynyddoedd. Erlidiwyd ar ei ol, ac yn ystod y nos daliwyd ef. Gorwedda y wraig mewn oyflwr per- yglus iawn.
CY51DELTH\S RHYDDHAD CREFYDD.
CY51DELTH\S RHYDDHAD CREFYDD. Cynhaliwyd cyfarfod hydrefol cynghor y gymdeithas uchod yr wythnos hon, dan lywyddiaeth Mr Perks, A.S. Pasiwyd pen- derfyniadau yn amlygu boddhad yn nghan- lyniadau yretholiad cyffredinol, acyn edrych yn mlaen gyda hyder y bydd i'r weinydd- iaeth Ryddfrydig gario allan ymrwym- iadau y blaid i ddwyn yn mlaen fesurau Dadgysylltiad i Gymru ac Ysgotland. Hefyd fod mesur i ddiwygio Deddfau y Claddu yn cael ei basio. Dadganwyd barn hefyd y dylai mwy o Ymneillduwyr gael eu penodi ar y fainc ynadol. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod i ryddymddiddan ar bwnc mawr y gymdeithas, dan lywydd- iaeth Mr Spicer, yr aelod seneddol dros Fwrdeisdrefi Mynwy, yr hwn a sylwodd mai camgymeriad mawr fyddai i'r gymdeithas roddi ei hunan yn gyfangwbl yn nwylaw yr arweinwyr Rhydd- frydig. Yr oedd rhai pobl na feiddient wrthwynebu Dadgysylltiad adeg etholiad, eto yn ddigon parod i'w esgeuluso pan ddelai'r adeg i'w gario allan (cymeradwy- aeth).
[No title]
Dywed peirianydd Awstriaidd ei fod wedi dyfeiso pciriant trydanol, yr hwn a deithiai 123 milldir yr awr. Aeth milwr yn Ffrainc at un o'i swyddog- ion, a tharawodd ef, gan ddyweyd, I lawr a'r fyddin a'i swyddogion." Cymerwyd y milwr i'r ddalfa, ac yn ol y gyfraith y mae yn agored i gael ei roddi i farwolaeth am daro swyddog.
TAFLU TAN GWYLLT.
TAFLU TAN GWYLLT. Nos Sadwrn taflwyd tan gwyllt i wyneb bachgen yn St Helen's gan fachgen arall yr oedd wedi cweryla ag ef. Anafwyd ei wyneb yn ddychrynllyd, a chredir y bydd wedi ei anffurfio am ei oes.
CLERC TWYLLODRUS.
CLERC TWYLLODRUS. Yn Westminster cyhuddwyd Harry Herse o gael lOp drwy dwyll oddiar ei feistradoedd. Er cyrhaedd ei amcan, yr oedd wedi I defnyddio enw cashier y ffirm, ac felly wedi peri i hwnw fod mewn perygl o golli ei le. Dedfrydwyd ef i chwe mis o garchariad.
TORIAID HEB DALU AM EU LLEFRITH.
TORIAID HEB DALU AM EU LLEFRITH. Erlynid un o glybiau Toriaidd West End, Llundain, am lefrith a gyflenwyd i'r aelodau. Miss Annie Draper, cymunweinyddes ei thad, a erlynai larll Manvers, un o ymddiriedolwyr Clwb Salisbury, St James Square. Yr oedd gwerth y llefrith a gyflenwyd yn 141 p, ond yr oedd 66p 12s wedi eu talu, gan adael gweddill o 75p. Taflwyd yr achos allan, gan nad oedd yn aelod o'r pwyllgor roddodd archeb am y llefrith. I
PIGO LLOGELLAU.J
PIGO LLOGELLAU. J Yn yr arddangosiadau gynhelid y Sabboth yn Travalgar Square, Llundain, yr oedd amryw heddgeiclwaid wedi ymwisgoyndebyg i rai allan o waith, ac wedi ymgymysgu a'r dorf. Chwilio am waith yr oeddynt, a chafodd dau o honynt y gorchwyl i gymeryd dyn i'r ddalfa. Wedi lladrata blwch arian o bo'.v-d rhyw uchgadben yr ydoedd. Anfon- wyd d i garchar am dri mis, lie y caiff ddiS" a o lafur, a hwnw yn un caled.
}:11 TOM MANN AC ORIAUI LLAFUR.
}:11 TOM MANN AC ORIAU I LLAFUR. Bu Mr Tom Mann yn rhoddi ei dystiol- aeth o flaen y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Lafur. Dywedai y dylai oriau llafur gael eu lleihau i'r graddau hyny y byddo i bob dyn gael gwaith. Er ei fod ef ei hun o'r farn y dylid dwyn hyn oddiamgylch drwy ddeddf Seneddol, eto gan fod cymaint yn erbyn hyny, byddai yn eithaf boddlawn ei wneyd yn fater o ddewisiad lleol. Felly, byddai i'r mwyafrif o'r gweithwyr o'r un alwedigaeth yn mhob tref neu gymydogaeth gael pender- fynu nifer yr oriau a weithid yn y ganghen hono o waith.
GOLYGFA GYFFROUS MEWN EGLWYS.
GOLYGFA GYFFROUS MEWN EGLWYS. Ddydd Sul, y 30ain cynfisol, cymerodd golygfa gyffrous le yn Eglwys St Luc, r Torquay, yn ystod y gwasanaeth boreuol. Tra yr oedd y curad cynorthwyol (y Parch E. H. Hay) yn pregethu ei bregeth ym- adawol, gwnaeth rai sylwadau ar y lly- gredigaeth Brotestanaidd sydd yn anurddo y Llyfr Gweddi Gyffredin, ac anogai hwynt i gyffesu eu pechodau a'u holl ofidiau i'r offeiriad," er mwyn iddynt gael gollyngdod. Yr oedd y fleer (y Parch W. T. Boyle) wedi ei gythruddo gymaint, nes y cyfododd i fyny yn sydyn, i roddi terfyn ar y bregeth, drwy roddi emyn allan. Yn y gwasanaeth hwyrol, dywedodd Mr Boyle ei fod wedi ei gythruddo gymaint gan yr hyn a gymerasai le yn y boreu fel na allai bregethu y bregeth a fwriadasai, ac ni wnaeth ond ychydig o sylwadau yn fyr i gondemnio yr athraW- iaethau dychrynllyd a bregethai ei gurad.
EI LLADD GAN BIN GWALLT.
EI LLADD GAN BIN GWALLT. Crafodd geneth fechan yn Llundain ei choes a phin gwallt. Dechreuodd ei choes o'r ffer i'r penlin chwyddo. Gan ei bod yn gwaethygu aed hi i'r ysbytty, ond bu farw yno ymhen ychydig ddyddiau.
DIRWYO'R FORWYN A'R FEISTRES.
DIRWYO'R FORWYN A'R FEISTRES. Dirwywyd priod Mr H. T. Parnell, East- bourne, brawd y diweddar Mr Charles S. Parnell, i bunt am guro ei morwyn, a dir- wywyd y forwyn dracihefn i ddeg swllt am guro ei meistres.
MORWR BEIDDGAR.
MORWR BEIDDGAR. Mae Cadben W. Andrews newydd gyr- haedd Llundain ar ol croesi y Werydd am y bedwaredd waith mewn cwch 14 troedfedd o hyd. Ymddengys y cyfryw fordaith yn "Y fwy gorchestol wrth gofio y llongddryll- iadau niferus sydd wedi digwydd yn ystod y dyddiau diweddaf. Cychwynodd ytro hwn o Boston a mordeithiodd i Palos yn Portugal, pellder o 4000 o filldiroedd. Bwriada groesi y Werydd unwaith eto y tro nesaf mewn ewch wedi ei wneyd o "aluminium". Am y deg diwrnod ar hugain cyntaf wedi gadaei Boston moriodd 100 milldir bob dydd. Yr oedd yn byw yn benaf ar meat essence a theisenau; a chysgodd ychydig yn awr ac eilwaith yn nghornel y cwch, gan adael iddo lywio ei hunan wedi iddo dacluso ei hwyliau.
Y SEDD WAG AR GYNGHOR SIROL…
Y SEDD WAG AR GYNGHOR SIROL MON. Cyfarfu trethdalwyr rhanbarth Cemaes a'r Gareglefn i ddewis cynrychiolydd ar y Cynghor Sirol yn He y diweddar Thomas Jones, Bodewryd; y Parch T. Pritchard, ficar y plwyf, yn y gadair. Pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad diffuant y cyfarfod a theulu Bodewryd yn eu profedigaeth. Siaradodd amryw o'r rhai oedd yn bresenol am y diweddar Mr Jones, gan ddatgan eu galar ar ol colli un ag oedd wedi gwasan- aethumor ffyddlon, ac un pe eawsai fyw a fuasai yn dyfod fwy fwy i'r amlwg, gan fod ynddo adnoddau oedd yn dangos dynol- iaeth ardderchog, llawn hoenusrwydd meddwl, wit, a barn aeddfed, a gwyddai pa fodd i ddefnyddio y naill a'r llall pan fyddai amgylchiadau yn galw. Yna aethbwyd yn mlaen i ddewis cynrych- iolydd. Cynygiodd Mr G. P. Griffith, Nantyfran, ac eiliodd Mr John Williams, Tregof, fod Mr John Edmunds, Cemaes Fawr, yn cael ei ddewis fel eu cynrychiolydd. Pasiwyd y penderfyniad gyda'r unfrydedd mwyaf.
[No title]
Llwyddwyd i godi un talp o lo, yr hwn a bwysai bum tunell, o fwnglawdd yn yr America. Bwriedir gwneyd cerflun o'r Ar lywydd Cleveland o hono. Wrth gwrs, bydd yn cael ei arddangos yn Ffair y Byd yn Chicago.
Advertising
i I W 3SE 33 t ))t"i!) & "W J!t B it it Dt MAZAWATTEE a GEYLON TEA COMPANY Wish to be distinctly understood that they Mob om a m pl- DO NOT TRAFFIC .;1¡;1P,16 IN COMMON TEAS ttn X t! a which are dear at any price, and a fruitful cause of diseases of the nervous and digestive organs, N m n min THEY WARN THE P u Mimi", L against being tempted into buying rubbish, even at the low prices now advertised. Bear in mind that the MAZAWATTEE blends recall the delicious China Teas of Thirty Years Ago, and are to be I obtained from specially appointed Agents amongst the leading Family Grocers in the United Kingdom. Agents—Thomas Lewis & Co., 315, High Street, and Rathbone Street, Bangor. ,L If
Y DDAU O'R UN FEDDWL. -
Y DDAU O'R UN FEDDWL. Y mae gwr dedwydd yn adrodd ei fod wedi priodi er's ugain mlynedd; ac na bu ei wraig ac yntau, yn ystod yr holl amser hwnw, ond yn unig unwaith o'r un feddwl a'u gilydd, a'r adeg hono oedd pan ydoedd y ty ar dan, a'u bod ill dau wedi gwneyd eu goreu y pryd hwnw er gweled pa un ohon- ynt a allai redeg allan o'r ty gyntaf!
DADGUDDIADAU DYCHRYNLLYD YN…
DADGUDDIADAU DYCHRYN- LLYD YN NEW SOUTH WALES- Y mae dadguddiadau dychrynllyd mewn cysylltiad ag achos magu babanod yn New South Wales, newydd gael eu gwneyd. Y mae tua 15 o gyrph babanod i gyd wedi cael eu cloddio i fyny; ac y mae tystiolaeth wedi ei chael gyda golwg ar achos tybiedig eu marwolaeth.
HIRHOEDLEOD.
HIRHOEDLEOD. Mewn lleiandy yn nghymydogaeth Jeru- salem, dywedir fod hen leianes newydd farw yn gant a phymtheng mlwydd oed. Yn ol yr hanes, ni fu yr hen batriarches dros drothwy y lleiandy er y dydd y daethai hi yno, yn eneth ddwy ar bymtheg oed, ddeu- naw mlynedd a phedwar ugain yn ol. Mewn tlotty yn Ffrainc, hefyd, ychydig ddyddiau yn ol bu farw hen wreigan arall, yn gant a phedair mlwydd ar ddeg.
i Y SABBOTH DIRWESTOL.
Y SABBOTH DIRWESTOL. Dymuna Pwyllgor Gweithiol Cymanfa Ddirwestol Gwynedd alw sylw arbenig pregethwyr a chynulleidfaoedd Gogledd Cymru at y Sabboth Dirwestol, sef y 27ain o'r mis hwn. Na fydded unrhyw le o addoliad heb i'r achos gael ei ddwyn yn wresog i sylw y gynulleidfa, yn y dull a farner yn oreu, ac os yn bosibl trwy bre- gethu ar y mater. A bydded i'r achlysur fod yn ddechreuad ymdrech arbenig i enill yr holl gynulleidfa, a'r rhai o'r tu allan i hyny, yn ddirwestwyr. Dymunir ar i'r pregethwyr oil baratoi ar gyfer y Sabboth, ac ar i'r swyddogion ymhob lie roddi ar ddeall iddynt yr hyn a ddisgwylir oddiwrth- ynt. Y mae angen mawr am adnewyddiad gyda'r achos hwn drwy yr holl wlad, a ffordd briodol i gael hyny yw gwneyd y defnydd goreu o'r cyfleustra hwn. Y mae y casgliad at yr achos i fyned i Drysorydd y Gymanfa Sirol ymhob lie. J. HERBERT ROBERTS, Llywydd y Gymanfa. D. ADAMS, Cad-sirydd y Pwyllgor Gweithiol. J. EIDDON JONES, Ysgrfenydd.
CENADON CYMREIG YN CHINA.
CENADON CYMREIG YN CHINA. Y Terfysgoedd Diweddar. Wrth son am y driniaeth ag y mae cenadon Prydeinig wedi ei gael yn China yn ystod y flwyddyn bresenol, ceir yn y Cambria Daily Leader rai dyfyniadau o lythyrau a dderbyniwyd yn Abertawe oddi wrth Miss Frances Marler, merch i Mr Marler, Wind street, ac oddiwrth y Parch Griffith John, D.D. Mewn llytryr o Shae- ki-tien, Hunan, dyddiedig Medi laf, dywed Miss Marler: "Yn fy Ilythyr diweddaf 1 dywedais fod y bobl yn y ddinas hon wedi eu cyffroi yn fawr, a diameu eich bod mewn ychydig bryder; ond nid oes dim wedi digwydd. Bu llawer iawn o gynllunio, oherwydd clywsom eu bod am ein troi allan, a chymeryd ein haelodau eglwysig yn garcharorion. Dranoeth wedi i ni glywed hyn, yr oedd yn gwlawio yn drwm, nes oedd pob man yn ddiluw; a chan ei bod yn Sabboth nis gallai y bobl ymgynull. Gwlaw- iodd yn drwm drachefn ddydd Mawrth a dydd Mercher. Yr oedd yr aelodau bro- dorol eu hunain yn dyweyd fod y gwlaw wedi bod yn atalfa ar lawer o siarad a chwedleua: a chan na allai y bobl ymgynull, aeth pobpeth drosodd. Y mae llawer o ddrwgdybiaeth amlwg, ac nid ydyw y merched o'r tuallan yn dyfod yn awr, ond yr ydym yn meddwl nad oes achos ofni." Yn ei lythyr at y Parch W. James, capel Ebenezer, Abertawe, dyry y Parch Griffith John ddesgrifiad dyddorol a gobeithiol o hono ei hun a'r achos cenadol yn Hankow. "Hyd yn hyn (meddai) nid yw ein hym- drechion wedi llwyddo ond i godi gwrth- wynebiadau mwyaf arwydus yn Hunan; eto, gwell ydyw gwrthwynebiad na difater- wch. Nid ydym wedi llwyddo i wneyd llawer dros Dalaeth Hunan o'i gydmaru a Thalaeth Hupeh, lie yr ydym yn aros; ond y mae yr hyn a wnaed wedi gadael argraph dwfn ar y meddwl yn Hunan."
AMAETITW \ R TRAWSFYNYDD A'R…
AMAETITW R TRAWSFYNYDD A'R DIRWASGIAD PRESENOL. Mewn cyfarfod cyffredinol o amaethwyr plwyf Trawsfynydd, a gynhaliwyd y 5ed cyfisol, yn gyntaf penderfynwyd ein bod yn apelio at y meistriaid tir am iddynt droi swm sylweddol yn ol yn yr ardreth nesaf, ac i ofyn yn mhellach am ostyngiad parhaol yn y dyfodol; yn ail, fod teimlad y cyfarfod o blaid ffurfio undeb amaethyddol; yn dry- dydd, penderfynwyd ein bod yn anfon un cynrychiolydd i'r cyfarfod yn Harlech at y lOfed cyfisol. Da genym weled fod yr amaethwyr yn y plwyf uchod yn dechreu bod yn fwy byw i'w hamgylchiadau. Y maent yn teimlo nad oes ganddynt yr un ddinas noddfa i ddianc iddi rhag trais a gormes y tirfeddianwyr. Teimlad cyffred- inol y cyfarfod oedd mai gostyng- iad parhaol ydyw yr unig feddyg- iniaeth yn wyneb y dirwasgiad presenol. Rhaid i'r amaethwyr gael rhywbeth i ddal enaid a chorph wrth eu gilydd, fel y dywedir, heb son am gyflog am eu llafur a llog am eu harian. Dylai yr amaethwr gael o leiaf bum punt ar hugain yn y flwyddyn o gyflog am ei lafur, ac fe ddylai gael pum' punt y cant o log ar ei arian i gyfarfod a'r colledion y mae yn agored iddynt. Byddai felly mewn sefyllfa weddol dda, wedi iddo gael sicrwydd am ddaliadaeth ei dir. Nid oes dim yn fwy amlwg i ni na fod ffurfio undeb amaethyddol yn sicr o fod y fendith fwyaf i'r amaethwyr ea hunain, oblegid rhaid i bob fferm sydd yn rhy uchel i fyw ynddi, fel y nodwyd uchod, gael eigadael i'r tirfeddianwr i wneyd fel y myno a hi, ac yna bydd yr ardreth yn sicr o ddyfod i lawr. Nid oes dim yn creu mwy o benderfyniad yn y meistr rhag gostwng na bod dwsin yn cynyg am fferm ar draws eu gilydd. CiRUS.
SIRYDDION GOGLEDD CYMRU.
SIRYDDION GOGLEDD CYMRU. Cymerodd y seremoni ddyddorol o enwi siryddion le yn llys y Prif Farnwr Coleridge yn Llundain ddydd Sadwrn. Isod wele restr o'r rhai a enwyd dros siroedd Gogledd Cymru. Fel rheol, y cyntaf ar y rhestr a etholir gan y Frenhines:— Mox. C;dben Owen Thomas, Brynddu, Rhosgoch; George Robert Cox, Min y Garth Samuel Taylor Chadwick, Ha.ulfre. ARFOK.—Charles Frost, Minydon, Col-f wyn; yr Anrhydeddus Fredeisfcfc George Wynn, Glynllifon Park, Caernarvon; Syr Owen Roberts, Caernarfon. I DINBYCII. Cadfridog Edward Lloyd Wynn, Coed Coch, Abergele; Edward Evans, Bronwylfa, Wrexham; Edward Owen ( Vaughan Lloyd, Berth, Rhuthyn. I FLINT.-Syr Pyers WiBism Mostyn, Tal- aore; Walter Howman Buddicom, Pen- bedw; Edward Hunter Wain, Fron Hall. I MEIRION. Edward Robert Jenkins, I Bodweni, Llandderfel, Corwen; William I Ansell), Gorsygedol, Dyffryn; Syr Herbert Lloyd Watkin Williams Wynn, Wynn- stay. TREFALBWITS'.—Edward Stiked Mostyn Pryce, Gunby; Charles Watkin Williams Wynn, Coedymaen; Charles John Morris, Dol-llys.
Y STREIC YN SWYDD LANCASTER.
allan yn y gwaitb cotwm, yn herwydd y dealltwriaeth sydd yn bodoli cydrhwng y meistriaid a'r gweithwyr. Os Uafur sydd yn cynyrchu eyfalaf, llafur hefyd ddylai reoli y farchnad. Y mae liafurwyr Prydain yn dechreu canfod mai hwy sydd yn cynyrclm cyfoeth; ac nad oes ond eisiau eyfnewidiad yn neddfau ein gwlad ac yn ein trefriaadau cymdeithasol i beri fod i'r cyfoeth a gynyrchir ganddynt aros gyda hwy, yn bytrach na myned oddi- wrthynt i logellau ychydig bersonau unigol.