Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
.---DYFODIAD Y GAUAF.
DYFODIAD Y GAUAF. Adeg berygl us, ac un sydd yn peri lla wer o bryder i luoedd yn ein gwlad, yw y tymhor hwn o'r flwyddyn. Mae edrych yn mlaen at ei ddy- fediad yn achosi prydor ac ofn nid bychan i laweroedd or rhai hyny ydynt yn dioddef oddi- wrth wahiirtol anhwylderau. Gydag ychydig ofal, a thrwy gymeryd y feddyginiaeth briuJol mewn pryd, gellir osgoi llawer o boenau corpli- orol yn gystal a phryder meddwl. Mae adeg cwympiad y dail yn dwyn rhyw gymaint o ddioddef i bob un sydd yn natu"iol o gyfansoddiad gwanaidd. Efallai mai y rhai sydd yn dioddef oddiwrth Ddiffyg Treuliad a flinir fwyaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynghor y meddyg i'r claf yr adeg yma yw cymeryd meddyginiaeth tuag at gryfhau. Prin y rhaid dweyd wrth neb yn Isghymru pa un yw y feddyginiaeth oreu at y dolur hwn, na pha le i'w chael. Mae tystiolaethau y miloedd a dderbyi-iasant les oddiwrth Quinine Bitters Gwilym Evans yn bronon diymwad a digrmol o werth a rhagoroldeb y feddyginiaeth fyd-cnwog' hon. Mae lluaws o dystiolaethau hefyd i eifeith- iolrwydd y Quinine Bitters mewn gwrthsefyll ymosodiadau pob math o anhwylderau gauafol. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r Cyfansoddiad, y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 28 9c a 4s 60 yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing I Company, Limited, Llanelli, South Wales.
GWASGU'R GWEITHWYR.
GWASGU'R GWEITHWYR. Cyhiuldiad Difritol. Yn heddlys Westminster ymddangosodd saith neu wyth fel dirprwyaeth dros tua haner cant o ferched ereill i ofyn am wys yn erbyn ysgrifenydd Cymdeithas Gwniadwaith. Dywedai un ohonynt eu bod yn arfer gwneyd llodrau milwyr am S|c y par, ac ni chaent, ond swllt am wneyd 13 o beltiau gwlan gyda thapiau a thyllau botymau. Bu Iarll Brownlow mewn cysylltiad a'r sefydliad am beth amser, ond wedi iddo ef fyned o'r wlad yr oedd pethau wedi newid. Ddydd Sad- I wrn diweddaf nis gallai y merched gael yr I un ddimai o gyflog. Awgrymodd yr ynad mai y peth goreu oedd iddynt fyned i lys y manddyledion, ond dywedai y merched nas gallant ddyoddef cyhyd a hyny am yr ychydig arian oeddynt wedi eu henill mor galed. Dangosodd un wraig ei bil am 8s 7 Jc, am yr hwn y gwnaed*14 par o lodrau. Bu yn gweithio ddydd a nos i droi allan gy- maint a hyny o waith mewn wythnos Rhoddodd yr ynad orchymyn i'r heddgeid- waid wneyd ymchwiliad llwyr i'r mater.
YR YMCHWILIAD IN MON.
YR YMCHWILIAD IN MON. Dydd Mercher bu Mr D. Lleufer Thomas, un o'r is-ddirprwywyr ar Lafur, yn cynhal ymchwiliad yn Llanerchymedd i sefyllfa y gweithwyr amaethyddol yn Mon. Cyn- haliwyd dau gyfarfod,— uti y prydnawn i'r amaethwyr, a'r llall yn yr hwyr i'r gweith- wyr. Daeth nifer pur dda o amaethwyr yn nghyd yn y prydnawn. Dywedai rhai o'r tystion fod llai o ddynion yn cael eu cyflogi yn awr nag mewn blynyddoedd a basiodd; lie yr arferid cyflogi chwech o ddynion, nid oedd ond pedwar yno yn awr. Yr oedd cyflogau porthwyr o 9s i 10s yr wythnos, yn nghyda bwyd a llety. Daeth cynulliad pur luosog yn nghyd i gyfarfod y nos, a rhoddwyd tystiolaethau gan amryw o'r gweithwyr. Ymddengys adroddiad llawn o'r llysoedd hyn yn y Genedl nesaf.
COF DA.
COF DA. Yroedd athrawes yn yr ysgol ddyddiol newydd fod yn adrodd i'r plant yr hanes am Dafydd, a dywedodd fel y canlyn:—"Di- gwyddodd hyn oil er's dros 3,000 o flynydd- oedd yn ol." Edrychodd geneth fechan brydferth yn svn yn ei llygaid; ac wedi munyd o feddwl, dywedodd:—"O! 'r an- wyl, m'am, y mae'n rhaid fod genych g6f da iawn!
- GLYWSOCft CHWI j
GLYWSOCft CHWI j Foci rhyw un o ardal Carmel wedi ceisio | defnyddio eolofnau'r Werin fel cyfrwng i waithr-actdo gwraig barcir.is yn yr ardal ¡ hono ? Mai creadur dideimlad ac anynol iawn ydoedd cyn y buasai yn gwneyd gwawd o gystudd trwm ? Fod cryn lawer o gydymdeimlad wedi cael ei ddangos a'r wraig, a'i bod yn debygol mai y cnaf ysgrifenodd y nodiadau gaiff ddi- oddef fwyaf yn y diwedd ? Y darfu iddo hvyddo i raddau i dwyllo t golygydd y Werin yn y mater ? Mai y ffordd a gymerodd i wneyd hyny oedd ffugio enw dyn arall wrth ei lythyr ? Fod golygydd y Werin wedi drwgdybio'r cnaf, a'i fod yn cymeryd mesurau i ddysgu gwers effeithiol iddo ? Fod golygydd y Werin yn cynyg Dwy BXTNT 0 WOBg i bwy bynag all roi tystiol- aeth ddigonol i euogbrofi y gwirysgrifenydd mewn llys barn ? Fod mwy nag un yn ardal Carmel all sicrhau y wobr heb berygl iddynt eu hunain? Ei bod yn debyg y bydd gan y Werin rywbeth pellach ar y mater yn fuan ? Fod beirdd, fel meidrolion ereill, yn agored i gael anwyd tra yn rhodio y ddaear hon ? Mai mal hyn y cyfarchodd un ei frawd- fardd dyoddefus y dydd o'r blaen:— Mae'r bardd o dan yr anwyd—a'i beswch Yn bwysig ddychrynllyd, Yn glwyfus gan ei glefyd Hawdded i'r bardd ado'r byd. Am y torwr beddargraphiadau hwnw mewn tref neillduol yn Ngogledd Cymru? Ei fod yn tori ar gareg fedd gwraig yn ddiweddar ? Mai yr hyn a ddymunai y gwr gweddw ei roddi ar y gareg oedd y geiriau adna- byddus hyny, Gwraig rinweddol sydd goron i'w gwr "? Fod lie y torwr wedi myned yn brin, a'i fod, er cael y cyfan i mewn, wedi eu talfyru fel hyn Gwraig rinweddol sydd 5s i'w gwr"? Fod Herber wedi traddodi araeth ragorol yn N ghynhadledd yr Eglwysi Rhyddion yn Manchester y dydd o'r blaen ? Mai gorthrwm y tirfeddianwyr oedd ei destyn ? Ei fod wedi dwyn rhesymau cryfion yn mlaen i bron y dylai mesurau gael eu pasio er galluogi i ychwaneg o bersonau dd'od i feddiant o'r tir? Ei fod yn dyweyd fod tair rhan o bump o dir y deyrnas yn meddiant dynion sydd yn perchenogi mwy na mil o aceri yr un ? Fod un dyn yn ddiweddar yn Ysgotland wedi troi tri chant o filldiroedd ysgwar o dir i fod yn goedwig i gadw ceirw ? Ei fod wedi gyru ugeiniau o deuluoedd o'u cartrefi er gwneyd lie i geirw ? Fod y fath ymddygiad a hwn yn gwaeddi yn uchel iawn am ddiwygio deddfau y wlad ? Mai yr America jpiau hi am roddi eu hiawnderau i'r merched ? Eu bod mewn rhai o'r talaethau yno yn cael pleidleisio yn etholiad yr arlywydd ? Fod brair,t arall wedi disgyn i un o'r chwioryclrl yn Buffalo, Wyoming,]y dydd o'r blaen ? 11 Ei bod wedi cael ei phenodi yn ustus heddwch ? Mai cadw yr .heddwcb ar yr aelwyd gartref yw gwaith gwragedd y wlad hon ? Mai ustus' pur wael wnai llawer gwraig adwaenom, gan ei bod yn methu cadw gwas- trodaeth ar ei thylwyth ei hun yn ami ? Na raid i neb betruso am heddwch y wlad, gan nad yw yn debygol y dyrchefir yr un ferch i'r fainc ynadol gan arglwydd-raglaw- iaid Cymru ? Nad oes dim newydd eto wedi cyraedd Caernarfon o barthed i benodiad ynadon newyddion ? Fod cryn ddisgwyl am gael clywed pwy fydd yr etholedigion ? Na chaffai yr Arglwydd Ganghellydd ond ycbydig iawn o drafferth i wneyd Mr J. R. Pritchard yn ynad heddwch ? Nad oes eisieu iddo ond tynu ymaith yr R o'i enw na byddai yn J.P." ? Fod yr hyn a eilw y Sais yn snobbishness yn perthyn i raddau anarferol i lawer o aw- durdodau ein sefydliadau addysgol ? Fod hyn yn dia amlwg mewn cysylltiad a neuadd y boneddigesau sydd yn efrydu yn Mangor ? Fod rheolau y sefydliad yn gwahardd i'r genethod ymweled a genethod ereill perth- ynol i'r Coleg ond yn lletya yn y dref ? Fod y proffeswyr wedi ac yn dal i brotestio yn erbyn y rheolau fFol ag ydynt yn cyfyngu yn ormodol ac afresymol ar ryddid pobl ieuainc ? Fod ymgais wedi ei wneyd i wella pethau mewn cyfarfod o gyfranddalwyr y Coleg yr wythnos ddiweddaf, lie y llefarwyd rhai brawddegau cryfion ? Mai y Philistiaid, wedi'r cyfan, a garias- ant y dydd ? Y gallai Mr Coleman yn hawdd wneyd ei ffortiwn gyda'r holl starch a geir yn ein colegau cenedlaethol? Am yr arwerthiad hwnw mewn rheithor- dy yn sir Fon P Fod yn argraphedig ar yr hysbysleni y cynygid ar werth 9 bottles of Prime Old Whiskey; 12 bottles Claret; 18 bottles Fine Old Port ?" Fod siarad mawr wedi cymeryd lie ar bwys yr hysbyslen uchod? I ?Iai. cynllun ciprddion i brynu I aaifeiliaid am brisiau isel gan yr amaethwyr ■ yw yr un a ganlyn ? I Fod dau ohonynt yn cytuno a'u gilydd i I CI weithio y ffermydd ? I Fod un. ohonynt yn talu ymweliad a'r H ffermydd yn gyntaf, ac yn cynyg prisiau ■ afresymol o isel am yr anifeiliaid ? ■ Fod y ffcrm wyr yn edrych yn bur ddi- ■ galon pan y sicrhai marchog y gyllell nas ■ gellid cynyg prisiau uwch ? I Fod y cigydd arall-yn hollol annibynol, I fel pe tase- yn talu ymweliad a'r un ■ ffermydd yn mhen rhyW awr neu ddwy ? ■ Fod hwn yn cynyg prisiau ychydig yn ■ uwch na'i ragflaenydd ? Fod hyn yn ccdi calon y ffermwyr rhyw H gymaint ? ■ Eu bob yn taro bargen ag ef yn eb- ■ rwydd? I Fod y ddau gynllwynwr yn cyfarfod eu gilydd ar ddiwedd y dydd, ac yn rhanu yr H ysbail" rhyngddynt ? ■ Eu bod trwy y moddion liyn yn llwyddo ■ i gael anifeiliaid am bris llawer is nag a ■ gawsai y ffermwyT: yn y farchnad a-ored ? ■ Fod rhai o'r ffermwyr wedi dod i ■ wybod am y trie, a'u bod am waed y ddau ■ gigydd ? Mai nid cot a throwsus llwyd sydd yn gwneyd dyn ? H Ein bod yn cyhoeddi hyn er budd y llanc hwnw o Lan- ? Fod amryw or cymydogion yn tybio fod ■ y llanc ci-ybwylledig wedi syrthio i'r am- ■ ryfusedd o gredu y fath ffiloreg? ■ Mai goreu po gyntaf iddo garthu allan v fath lefain ?
'93.
'93. [Cyfaddaaiad y lyw y Nofel hon o "Quatre Vingt Treize," uno weitiuau goreu y lIenor a'r bardd enwog, VICTOR HUGO. Cyfansoddodd lawer yn ystod ei oes faith a hel- bulus, ond efallai mai dyma'r gwaith sydd yn meddu y dyddordeb mwyaf i ddarllenwyr Cym- reig, gan ei fod yn cynwys portreadau byw o gymenadau ein brodyr Llydewig. Mae y plot yn sylfaenedig ar y rhyfel waedlyd a gymerodd le yn y fiwyddyn 1793 rhwng y Ffraneod a'r Llydawiaid yn amser blin sefydliad y Werin- iaeth yn Ffrainc.] CRYNODEB. PENNOD I.—Yn Mai, 1793, vr oedd Catrawd y Cad Coch yn nghoedwig Sandraie. yn Llydaw. Pan yn ofni perygl, daethant o hyd i wraig—Michelle Flechara—yn rhoddijsugn i'w baban, a dau blentyn arall yn cysgu yn ei hymyl. P ENNOD II.—Lloiig ryfel—y Claymore-yn h ylo o Jersey, lanio hen wr ar arfordir Ff inc I)ir,yelwch mawr pwy allasai fod. PKIRVOD III.—Un o'r gynau mawr yn tori yn rhydd', ac yn gwneyd niwed i'r llong; y gwladwr (sef un o'r Cadfridogion Brenhinol) yn gorchymyn saethu y dyn oedd yn gyfrifol am y ddamwain. Llongau rhyfel y Weriniaeth yn dod i'r golwg ar donad y wawr. PENNOD IV.—Y "Gwladwr" yn dianc mewn eweh 'yn nghwmni morwr. Y morwr yn hys- bysu mai efe oedd brawd y dyn a saethwyd ar y llong yn bygwth lladd yr hen wr. PENNOD V.—Y morwr yn ymheddychu, a'r ddau yn lglanio yn ddyogel Yr hen wr yn anfon y morwr drwy y wlad i gymhell y bobl i ryfel yn erbyn y Weriniaeth. PENNOD YI—Y gwladwr yn cael ei adnabod fel Ardalydd Llandenac, a gwobr yn cael ei chynyg am ei gymeryd i'r ddalfa. PENYOD VII.—Ymladdfa yn cymeryd lie rhwng y Gwerinwyr a phleidwyr y Brenhin; Ardalydd Llandenac yn cael ei adnabod gan yr olaf, ac wyth mil o ddynion yn rhoddi eu hunain at ei wasanaeth. PENNOD VIII. Daeth Ardalydd Llandenac a'r milwyr i lawr y bryn. Yn y gwaelod y cyflwynodd eu harweinydd ei farch i'r Ardalydd, yr hwn a eisteddodd arno yn ddiymdroi. Pa le fydd eich pencadlys, gadfridog ? Yn nghoedwig Fougeres." Un o'ch coedwigoedd chwi, fy arglwydd, yw hono." "Rhaid i ni gael offeiriad hefyd." Mae genym un. Dyma fo." '"O'r goreu. Mi a'i hadwaenaf. Bu drosodd yn Jersey ddwywaith." Trodd Llandenac at yr offeiriad. Boreu da, eich parchedigaeth," meddai. "Bydd angen eich gwasanaeth yn bur fuan." Trodd yr Ardalydd yn awr at arweinydd y milwyr, a rhoddodd orchymyn i ,r dynion chwalu oddiwrth eu gilydd, a myned yn lleehwraidd tu *a'r goedwig a nododd. A ddywedasoch wrthyf fod y pentref wyr wedi derbyn milwyr y Weriniaethyn groesaw- gar P gofynai'r cadlywydd. Do, syr." A ydych wedi llosgi y ffermdy ? "Do, syr." A losgasoch y pentref heiyd ? Naddo." Llosger ef ynte." O'r goreu, syr. Ymladdodd milwyr y Werinyddiaeth yn ddewr yn ein herbyn; ond nid oeddynt yn rhifo cant a haner, tra yr oedd yno saith mil o honom ni." 0 ba le yr oeddynt wedi dod P" Perthyn i gorphlu Santerre yr oeddynt." Y dyn hwnw roddodd ochymyn i guro y tabyrddau pan dorid pen y brenhin ? 0 Paris felly yr oedd y gatrawd yn dod ? Dau gwmni oedd yno." "Beth oedd eu henw?" Ar ei baner yr oedd yn argraphedig Catrawd y Cap Coch.' Anifeiliaid anwaraidd." "Pa beth a wnawn a'r clwyfedigion y maent wedi adael ar ol ? Gorphener hwy." Beth -eu liadd ? le, debyg iawn." Beth am y carcharorion ? Saether hwynt." "Y mae yna tua phedwar ugain o honynt." Y mae yna ddwy wraig gyda hwynt." Saether y rhai hyny hefyd." A thri phlentyn." Dowch a rheini gyda ni. Gallwn ben- derfynu eto beth i wneyd a nhw." A chyda'r geiriau hyn marchogodd yr Ardalydd i gyfeiriad coedwig Fougeres. ■ • ♦ Tra y cymerai y digwyddiadau hyn le yr oedd y cardotyn y bu y cadfridog yn cysgu noswaith gydag ef yn ymlwybro ol a blaen drwy'r goedwig. Gofalai gadw o'r golwg, m 9 fel na welwyd ef gan neb, Yr oedd yn swn yr ymladdfa, er nad oedd yn gweled y gyf- lafan. Clywai dwrf dynion, ond ar fi wsig yr adar y gwrandawai. t5 Yn min yr hwyr daeth o'r goedwig i le agored. Yna gwelodd y colofnau nwy yn dyrchafu. Cythruddwyd ef yn fawr gan yr olygfa. Yr oedd y tan yn nghyfeiriad y ffermdy y bu y milwyr yn lletya. Hwyliodd y cardotyn tuag yno. CyrhaeddodI y bryn y gorweddai y ffermdy a'r pentref wrth ei droed. Ond nid oedd yno na ffermdy na phentref-pentwr o weddillion llosgedig yn unig oedd yn y lie. Rhywbeth pur ddifrifol yw edrych ar balasdy yn llosgi, ond llawer mwy difrifol yw bwthyn wedi myned ar dan. Yma mae dinystr yn d'od i'r fan y mae caledi yn barod, a cholled yn d'od i'r lie y mae tlodi eisoes. Safai y cardotyn yn fud i edrych ar y Ilecyn yr arferai y pentref sefyll arno; yn awr nid oedd yma amgen na charnedd losg- edig. Aeth yn araf tua'r adfeilion i gael allan a oedd yno rywun wedi cael ei adael yn fyw. Clustfeixdai ei oreu, ond ni chlywai yr un griddfaniad na gwaedd am gymhorth. Teyrnasai distawrwydd ar bob llaw. Daeth ar draws amryw o gyrph, ac archwiliodd hwy bob un. Yn muarth y ffermdy y gorweddai pentwr mawr o gyrph. Eiddo milwyr y Weriniaeth oeddynt, y rhai a saethwyd amryw weithiau, fel ag y gallai y gelynion fod yn sicr eu bod wedi cael eu lladd. Yr oedd pob un ohonynt yn droed- noeth, canys yr oedd (canlynwyr yr Ardal- ydd wedi gofalu cyiweryd en hesgidiau ymaith. Yn y man gwelodd y cardotyn bedwar o draed llai ac esgidiau am danynt yn gorwedd y tu draw i fur isel. Aeth atynt, a chan- fyddodd mai dwy ddynes a orweddai yno. Yr oedd math o ddillad milwrol am un ohonynt, ac wrth ei hochr yr oedd costrel, ond heb ddiferyn o ddiod ynddi. Hon oedd y wraig a ganlynai Gatrawd y Cap Coch. Yr oedd pedair ergyd wedi myned drwy ei phen, ac felly yr oedd yn hollol farw. Trodd y cardotyn at y Ilall. Yr oedd ei gwyneb yn ddu-las, a'i genau yn agored. y 11 Nid oedd hon wedi cael ei saethu yn ei phen.' Yr oedd ei gwisg yn agored, a'i mynwes yn amlwg. Trodd y cardotyn y wisg yn ol, a gwelodd fod ei hysgwydd wedi cael ei dryllio gan ergyd. "Mam ydoedd," mecldai, vr hon a roddai sugn i'w baban." Cyffyrddodd hi yn ysgafn, a chafodd nad oedd wedi cwbl oeri. Neidiodd i fyny yn sydyn, a gwaeddodd, Oes rhywun yma ?" Y chi, Tellmarch y cardotyn, sydd yna?" atebai llais mewn ton mor isel ae ofnus fel mai prin y gallesid ei glywed. Ar hyny daeth dyn allan o'i ymguddfa, a daeth un arall hefyd oddiyno. Y ddau wladwr hyn yn unig a adawyd yn fyw yn y gyflafan ddyehrynilyd. Gofynasant i Tellmarch a oedd y merched yn fyw, ac atebodd yntau fod un ohonynt. Dywedodd y gwladwr cyntaf, "Y mae y lleill i gyd wedi marw ynte ?" Gwelaisy cwbl. Yr oeddwn yn fy seler. Teimlwn yn ddiolchgar nad oedd genyf blant. Yr oedd fy nhy ar dan Lladdasant bob un a allasent gael gafael arno. Yr oedd gan y wraig dri o blant bychain. Fel y gwaeddent, "Mam, mam." A llefai'r fam, "Fy mhlallt! fy mhlant I" Llofrudd- iasant y fam, a chariasant ymaith y plant. Gwela is y cwbl. Mae y mwrddwyr wed mynd i ffwrdd. Aethant a'r plant i ffwrdd, a lladdasant y fam. Ond nid ydyw wedi marw, ydyw hi ? A ydyw wedi marw ? Siarad, gardotyn; a allwn ni ei hachub hi ? A gawn ni fynd a hi i'th loches di ? 1, Gellwch," atebai'r cardotyn. Cariwyd y wraig gan y ddau wladwr, y rhai a siaradent gyda'u gilydd yn awr ac yn y man:— Lladd pob un!" "Llosgi pobpeth!" "O'rnefoedd! a yw pethau i fyned yn mlaen fel hyn bellaeh ?" "Yr hen wr tal hwnw a roddodd or- chymyn i wneyd yr anfadwaith." "Ie, y fo roddodd orchymyn." Ni welais ef pan oeddynt yn lladd. A oedd o yno ?" "Nag oedd; aeth i ffwrdd. Ond daw i'r un peth yn y diwedd; ar ei archiad ef y gwnaed y cwbl." Felly, y fo wnaeth y cwbl ?" "Y fo ddywedodd, Lladder, llosger; dim trugaredd." Y mae yn ardalydd, onid yw ?" "Ydyw. Efe biau bobpeth ffordd yma." Beth ydyw ei enw ?" "Arglwydd Llandenac." Ar hyn cododd y cardotyn ei olygon tua'r nefoedd, a sibrydodd yn ddistaw, "0 na buaswn yn gwybod hyn (Pw barhau).
SEDD MR BALFO U R.
SEDD MR BALFO U R. Gwrando'r Ddeiseb- Ddydd Mawrth eisteddodd y Barnwyr Cave a Vaughan Williams, yn Manchester, i wrandaw y ddeiseb a gyflwynodd y Pro- ffeswr Munro, yr ymgeisydd Rhyddfrydoj, i ddiseddu Mr Balfour o'i sedd yn Nwyrein- barth Manchester. Mr Murphy, wrth agor yr achos, a ddywedodd mai Mr Chesters Thompson, cadeirydd Mr Balfour, oedd cadeirydd cwmni darllawdy mawr, a bod yr holl ddynion yno wedi cael gwyl ddydd yr etholiad-gan dderbyn eu cyflog yn llawn- fel y gallent fyned i weithio dros Mr Balfour. Byddai iddo alw tystiolaeth yn mlaen i brofi fod barber o'r enw Green wedi derbyn 22p i dalu i etholwyr am bleidleisio, a'i fod wedi rhoddi yr holl arian. Un I diwrnod cyn yr etholiad galwodd dyn yn ei siop, a gofynodd iddo a ddymunai wneyd J arian. Rhoddodd gardiau iddo a lop yn nghyda llythyr o gyfarwyddiadau oddiwrth ddyn neillduol—Mr Maltby, goruchwyliwr Mr Balfour, mae'n debygol. Yn ddilynol cafodd Green 5p arall. Gwnaeth gais lawer gwaith ar i'r barber ddychwelyd y tocynau a'r llythyr, ond ni wnaeth. Buasai y rhai hyn yn dystiolaeth bwysig yn yr achos. Pa fodd bynag, ar y 24ain o Hydref torwyd i mewn i'w dy, a lladratawyd hwy o flwch, er na chyffyrddwyd a'r arian a'r gemau oedd ynddo. Pwy oedd y Iladroin ? Dyn o'r enw Dodd fu dro ar ol tro gyda Green yn ceisio eu cael yn ol. Yn nghymydogaeth darllawdy Mr Chesters Thompson yr oedd amryw dafarnau yn rhoddi cwrw am ddim, neu ynte am geiniog y peint. Yr oedd ganddo dystiolaeth hefyd fod Mr Tunstall, un o is-gadeirwyr Mr Bal- four, wedi bod yn sefyll diod mewn amryw dafarnau y dyddiau cyn yr etholiad. Llyw- yddai Mr Whitaker-is-lywydd arall—mewn gwledd a roddid ar yr ystryd, pryd y rhan- wyd digon o gig a chwrw. Dywedodd fod cynifer a 25 o gerbydau wedi cael eu rhoddi yn rhad gan fasnachvdd cerbydau i Mr Chesters Thompson i'w defnyddio ddiwrnod yr etholiad. Byddai raid iddynt wybod a oedd yna ddim dealltwriaeth cyfrinachol rhwng y ddau wr hyn. Galwyd nifer o dystion yn mlaen i brofi gosodiadau y bar- gyfreithiwr. Gwrandawyd yr achos yn mhellach ddydd Mercher. Aeth John Francis Green, eilliwr, ar ei lw ei fod wedi derbyn lop oddiwrth un Mr Dodd, a 7p oddiwrth ddyn a ddysgrifid wrtho fel Maltby, goruchwyliwr etholiadol Mr Balfour, i'w rhoi i bleidleiswyr ar ddydd y pleidleisio yn gyfnewid am docynau, yn ol telerau llythyr cyfarwyddiadau gan Mr Dodd. Efe a roddodd yr arian hyn rhwng saith o ddynion. Gan ei fod yn ofni cael ei erlyn, efe a ddatguddiodd hyn; ond yr oedd y tocynau a'r llythyr cyfarwyddyd a fuasent yn cefnogi ei dystiolaeth wedi cael eu lladrata o'i dy. Gan fod yn debyg y niweidid ei fasnach gan y dadguddiadau hyn, efe hawliai 200p o iawn; ond nid oedd wedi ei gael etc. Tystiodd amryw dystion eu bod wedi derbyn diod am ddim ar a chyn dydd yr etholiad yn nhafarndai Ardwick.
KHIN WEDDAU IACHAOL ' < QUININE…
KHIN WEDDAU IACHAOL < QUININE BITTERS" GWILYM EVANS. Gran GWILYM EVANS, dyna'r gwir, Mae Bitters pur rhagorol, Y goreu i leddfu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maith yn wael fy llun, Yn nychu gan afiechyd. A rhoddaf yma'm teimlad blin l'an dan arteithiau adfyd. Rhyw boenau dig a deimlwn i Bob dydd a nos yn gyson, Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon; A mi heb wybod b'le i droi, Gan drymed oedd. fy alaeth, A m holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddyginiaeth- Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Ymeflais yn ddamweiniol, Acynddo gwelais hanes llawn Y Bitters pur rhag-orol; Mi brynais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai drachtio wnawn nes dod yn gawr, A chaffael llwyr adferiad. Fy holl obeithion droes yn ffydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A minau'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddilyn ar y moddion; Gwybydded pawb mai'r Bitters hyn Effeithiodd fy adferiad Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn yjnen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A phlygu'r fellten fflamgoch wnawn Yn eirias dan lyth'renau, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgorn mawr y daran gref Yr uchel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm lief I'w chlywed drwy'r holl wledydd Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GrWiLTst EVANS byth gaiff fod Yn anwyl gan y bobloedd. Derbyniodd yr ysgrifenydd les mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. THOMAS GBIFFITHS. Llanfihangel Rhosycorn, Chwef. lleg, 1890. I
Advertising
Quinine Bitters Gwilym Evans yw'r feddygin- iaeth oreu i adfer ieckvd, a'i ddyogelu trwy adfer nerth ac J egni; i'r rhanau hyny fyddant wedi gwanychu trwy afiechyd hirbarhaoL Ø" Mynwch weled enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a tPhptel. Gwerthir gan bob fferyllydd mew a poteli 2s 9c yr un. Dwbl maint, 4s 6ch. Goruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Gellir hefyd ei gael yn ddidraul am y prisiau uchod, oddiwrth y perchenogion:— Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelly, South Wales.- Ataliwyd cerbybres gyflym ar linell y London and North Western rhwng Man- chester a Leeds, pan ydoedd mewn twnel, drwy i echel y peiriant droi. Dychrynwyd y teithwyr yn fawr, ond ni anafwyd neb. Anfona Switzerland werth 500,000p lefrith wedi ei gondensio bob blwyddyn Brydain Fawr. COCOA CADBITRY.—Dyma'r Cocoa syddyn feddianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac yn trosglwyddo nerth a grymusder arosol. -Health,
CYNGHUR TREFOL CAER-t NARFON.
CYNGHUR TREFOL CAER- t NARFON. GALW SYLW AT FATER PWYSIG. Galwodd Mr M. T. Morris sylw at y cynydd aruthrol sydd wedi cymeryd lie er's chwarter neu ddau yn ardrethi y meters. Yr oedd y cynydd mewn rhaiamgylchiadau, meddai Mr Morris, o 25 i 200 neu 300 y cant. Yn naturiol yr oedd hyn wedi creu llawer o anfoddlonrwydd yn mhlith y rhai a ddefnyddient nwy, a dylai pwyllgor y nwy gymeryd y mater i ystyriaeth yn ddioed. Yroedd y Maer (y Cynghorydd Bugbird) yn hollol gytuno a Mr Morris y dylai y peth gael sylw. Addefai mai y rheswin am y cynydd ydoedd fod peth dyryswch wedi cymeryd lie. Yn hytraeh na thrafod ychwaneg ar y mater yn y cyngor, doeth- ach fyddai ei drosgiwyddo i ofal y pwyllgor. Cydsyniwyd i gymeryd y cwrs hwn. YSBYTTY Y CLEFYDON HEINTUS.. Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd y Lly- wodraeth Leol yn datgan eu hanallu i roddi cariatad i'r cyngor i fenthyca y SWPl ych- wanegol o 600p tuagat ysbytty y clefydon heintus. Eglurwyd gan yr Henadur Rees mai un rheswm dros wrthodiad y Bwrdd ydoedd nadoeddyntyn foddlawn arleoliad ty y meirw ag oedd yn gysylltiedig a'r ysbytty. Cynyg- iodd fod cynlluniau newyddion yn cael eu parotoi, ac fod cais arall yn cael ei anfon at Fwrdd y Llywodraeth Leol am gais i fenthyca y swm ychwanegol. Wedi i hyn gael ei eilio gan y Cyngorydd Edward H. Owen pasiwyd ef. Gyda golwg ar gymeryd tlodion (pcmpers) i mewn i'r ysbytty, yr oedd y pwyllgor iechydol yn anog y cyngor i dderbyn rhai o'r tufewn i'r dref os y talai y gwarcheidwaid 10s yr wythnos at eu cynhal- iaeth a darparu meddygon, &c. Gyda golwg ar pa un a oedd person yn dlawd ai peidio, barn y pwyllgor ydoedd y dylai hyny gael ei benderfynu gan swyddog cyn i'r cyfryw berson gael ei ollwng i mewn i'r ysbytty. Yr oedd Dr John WilMams yn erbya i'r gwarcheidwaid ddarparu eumeddyg eu hunain. Gwell fuasai ganddo ef i un swyddog weitbredu dros y gwarcheidwaid a'r cyngor. Awgrymodd Dr R. Parry fod i'r mater y cyfeiriodd y siaradwr olaf ato gael ei drosglwyddo i gynhadledd o gyn- rycbiolwyr y ddau fwrdd. Yn ddilynol, mabwysiadwyd cynygiad y pwyllgor, a chytunwyd i drefnu cynhacnedd yn ol awgrymiad Dr Parry. SEFYLLFA ARIANOL Y CYNGOR TREFOL. Yn ol adroddiad a ddygwyd yn mlaen, ymddengys nad yw Mr R. R. Stythe eto wedi gorphen ei waith o fyned trwy gyf rifon y Gorphoraeth. Telir i Mr Stythe a'i glerc y swm o 4p yr wythnos, a disgwylir y bydd mewn sefyllfa i ddwjn adroddiad i me" -1 yn mhen oddeutu wythnos. Gofynodd y Cyngorydd J. R. Pritchard pa beth oedd yn dyfod o'r ymrwymiadau (bonds) a fwr- iedid eu tynu allan am y swm o 3000p oeddynt am ei fenthyca. Atebodd yr tien- adur Rees eu bod eisoes wedi cael benthyg 1600p. Cynygiodd felly fod sel y cyngor yn cael ei gosod ar 16 o ymrwymiadau am lOOp yr un. Eiliwyd hyn gan Mr Pritchard, a chytunwyd ag ef. PENODIAD PWYLLGORAU Y GORPHORAETH. Gan mai nos Fercher y cynhaliwyd cyfarfod eyita-f y Cynghor newydd, dyma yr adeg i benodi pwyllgorau am y flwyddyn ddyfodol. Yn absenoldeb unrhyw wybodaoth o barthed i'r modd y rhoddodd yr hen aelodau eu presenoldeb, cynygiodd y Cynghorydd J. R. Pritchard fod i'r gwaith o ethol pwyllgorau gael ei ohirio. Gan nad oedd neb newydd wedi ei ethol ar y cyhoedd cynygiodd yr Henadur Rees, ac eiliodd y Cynghorydd Edward H. Owen, fod i'r holl bwyllgorau gael eu hail- ethol. Fel gwelliant cynygiodd y Cyng- horydd Dr Parry, ac eiliodd y Cynghorydd R. Lloyd Jones, fod pob pwyllgor yn cael ei ethol ar wahan; ond pan y daethpwyd i ym- raniad, y cynygiad gwreiddiol a gariwyd. Y rhai a bleidiasant y gwelliant heblaw y cynygydd a'r eilydd oeddynt y Cynghorwyr C, Richard Thomas, Owen Evans, W. J. Wil- liams, ac Edward Hughes. Yna cynygiodd Mr Pritchard welliant arall, sef fod y Cyng- horwyr O. Evans, R. Parry, a Morris, yn cael eu hyohwanegu at y Pwyllgor Arianol. Eiliwyd hyn gan y Cynghorwr Issard Da- vies. Gwrthododd y ddau olaf gymeryd eu henwi, ac yn ddilynol cydsyniwyd fod i Mri O. Evans a J. Davies gael eu hychwanegu.- Ar Bwyllgor y Llyfrgell Rydd cynygiodd y Cynghorydd Pritchard roddi ei le i fyny i'r Parch Evan Jones, yr hwn oedd yn cymeryd llawer o ddyddordeb yn y sefydliad. Dywedodd y Cynghorydd J. Davies mai gresyn fuasai i'r Pwyllgor golli aelod mor ffyddlon a Mr Pritchard. Cytunwyd i ychwanegu y Parch Evan Jones at y Pwyllgor heb yr un cyfnewidiad arall. Pherwydd y gwaith ychwanegol a ddisg) a ar geidwad y Llyfrgell (Mrs Thomas) mewn canlyniad i sefydliad yr adran fenthyciol y mae y Pwyllgor wedi codi y cyflog i 50p y flwyddyn.-Cafodd Mr Richard' Thomas ei ychwanegu at y pwyll- gor arbenig ag sydd yn edrych ar ol swydd- 0 ogion a'u dyledswyddau. CYNYG YNADON NEWYDDION. Yr oedd gan y Cynghorydd Issard Davies gynygiad yndwyncysylltiadag yehwaneg a at ynadon y fwrdeisdref. Gofynodd y Maer (y Cynghorydd Bugbird) pa un ai mewn cyfarfod agored o'r Cyngor ynte yn breifat y byddai goreu dadleu y pwnc. Crybwyllai hyn am mai yn breifat y gwnaed peth cyffelyb amser yn ol. Ar gynygiad y Cynghorydd J. R. Pritchard, yn cael ei eilio gan y Cynghorydd J. P. Gregory, cytunwyd i drafod y mater mewn cyfarfod agored. Yna cyfododd y Cynghorydd Issard Davies, a chynygiodd fod yr enwau a ganlyn yn cael eu hanfon i'r Ar- glwydd Ganghellydd fel rhai cymhwys i weithredu fel ynadon, sef y Cyngorwyr M. T. Morris, J. R. Pritchard, Edward Hughes, a Dr G. R. Griffith. Cafodd y cynygiad ei eilio gan y Cyngorydd Evan H. Owen, a phasiwyd ef. Credwn mai yr Henadur Rees oedd yr unig aelod a ymgadwodd rhag pleidleisio. Rhyddfrydwyr yw y tri cyntaf o'r boneddigion a enwyd, tra mai Tori yw y Hall.
---CAMGYMERIAD XORGI.
CAMGYMERIAD XORGI. Cymerodd digwyddiad hynod le i'r ager- long Tanrtil tra ar ei mordaith o Rio Janeiro i Gasnewydd. Talodd morgi sylw mawr i'r sgriw oedd yn ei gyru, gan gadw yn bur agos ato. O'r diwedd, rhuthrodd iddo, gan geisio ei lyncu, ond darniwyd ef yn ddryll- iau. Bu raid atal y llong i glirio y sgriw.
CYFLAFAN YNYS MANAW.
CYFLAFAN YNYS MANAW. Prawf Cooper. Yn Douglas, ddydd Llun, dechreuwyd prawf George J. B. Cooper, yr hwn a gy- huddir o lofruddio ei wraig drwy ei thry- wanu mnwn gwesty yn Douglas. Yr ydym wedi cyhoeddi manylion yr achas yn flaen- orol. Buwyd am awr a hanner yn tyngu y rheithwyr, gan fod cyfreithwyr y carcharor wedi gwrthwynebu i 19 o bersonau wcith- redu. Dywedodd y carcharor mewn ton gadarn nad oedd yn euog. Ddydd Mawrth rhoddwyd tystiolaeth gan Miss Cooper, chwaery drancodig. Dywedai ei bod wedi gweled y carcharor yn ymddwyn yn greu- lawn lawer gwaith tuag at ei wraig.
M 4RW0LAETH 81U V N AMAE TH…
M 4RW0LAETH 81U V N AMAE TH WB 0 FON. Dydd Sadwrn brawychwyd ardal Llan- gristiolus gan bellebyr a dderbyniwyd o Benrhyndeudraeth yn hysbysu am farwol- aeth Mr J. Jones, Carog. Y dydd blaen- orol yr oedd wedi gadael cartref yn ei gyn- efin iechyd. Cafwyd hyd iddo yn gorwedd yn farw ar y ffordd rhwng Llanfrothen a Phenrhyndeudraeth. Yn ei logell yr oedd tua chan punt mewn aur. Cynhaliwyd trengnoliac1 yn Nghriccieth, pryd y rhodd- wyd tystiolaeth ei fod yn agored i glefyd y galon. D^chwelwyd rheithfarn o Farw- olaeth trwy achosion naturiol." Yr oedd Mr Jones yn adnabyddus i gylch eang fel amaethwr a phorthmon parchus a llwydd- ianus. Gadawodd wraig a saith o blant i alaru ar ei ol.
A FYDD Y GvYYDDELOD YN FFYDDLAWN…
A FYDD Y GvYYDDELOD YN FFYDDLAWN I GYMRU ? Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyngrair Cenedl- aethol Gwyddelig yn Dublin, ddydd Mawrth, pryd y daeth ynghyd gynrychiol- wyr o bob parth o'r Iwerddon. Yn mhlith y penderfyniadau a basiwyd yr oedd yr un canlynol, yr hwn a gynygid gan Mr Michael Davitt:—" Fod y gynhadledd hon, sydd yn cynrychioli gweithwyr yr Iwerddon, yn cydnabod y gefnogaeth ffyddlon y mae dos- barthiadau gweithiol Lloegr, Ysgotland, a Chymru wedi ei roddi hyd yn hyn i'r Iwerddon, drwy yr hyn y rhoddwyd mewn awdurdod Lywodraeth sydd wedi ymrwymo i roddi iddi fesur llawn a boddhaol o Ym- reolaeth; mae y gynhadledd yn ymddiried y bydd i'r aelodau Cenedlaethol Gwyddelig fod yn bresenol yn y Senedd 3 n gyson y tymhor nesaf, nid yn unig pan yr ymdrinir a Mesur Ymreolaeth, ond hefyd pan y byddo unrhyw fesur a effeithia ar weithwyr Pry- dain dan ystyriaeth." Pasiwyd y pender- fyniad gyda brwdfrydedd.
MR SAMUEL SMITH A'R BLAID…
MR SAMUEL SMITH A'R BLAID GYMREIG. Mr Samuel Smith, A.S., wrth agor y cy- 71 farfod mawr yn y Rhyl nos Iau, a ddywed- odd eu bod fel Cymry yn eithaf boddlawn i 1 Ymreolaeth gael y lie blaenaf yn y Senedd- dyinhor nesaf; ond ar yr un pryd yr oedd yn disgwyl mai Dadgysylltiad fyddai yr ail beth. Os na ellid ymdrin a'r mater y tym- hor nesaf, fe ddylid ar bob cyfrif ddwyn I mesur Dadgysylltiad i mewn, fel y caffai y wlad gyfleustra i ystyried ei ddarpariadau. Yroedd y blaid Gymreig wedi gwneyd ei meddwl i fyny ar hya nis gallent roddi eu cefnogaeth i'r Llywodraeth ond yn unig ar y dealltwriaeth y cymerid Dadgysylltiad yr Eglwys mewn llaw. y cyfleustra cyntaf. Heb gynorthwy y blaid Gymreig nis gallai y Llywodrabth fod mown swydd am wythnos. Wrth gwrs, ir'd oeddynt am dafiu y Wein- yddiaeth i helbul yn ddiangenrhaid; ,ond, yn sicr, nid oeddynt am gymeryd eu troi ymaith gyda'r cais rhesymol oedd ganddynt i'w gyflwyno ar ran pobl Cymru (cymerad- wyaeth).
LINEN LASTS LONGER,
LINEN LASTS LONGER, Radiant in its whiteness! Deligtful in its sweetness! And will keep much longer clean when soakel and washed in a foaming lather of HUDSON'S DRY SOAP. Hudson's preserves the most delicate lawns, laces, muslins and fine underwear from injury, and it will not fray cuffs or jag collars. Try a packet, yoiC 11 never lack PRIODAS CYMRO GYDA MERCII I AR- QLWYDD NoRTH.—Yn Nghapel Pabyddol Brompton, Llundain, ddydd Sadwrn, priodwyd Mr A.. Phillips-Roberts, mab hynaf Mr A. Houghton Roberts, un o is- raglawiaid Mon, ac yn byw yn Coed-du, sir Fflint, gyda'r Anrhydeddus Marie Theresa I North, ail ferch Arglwydd North.
Advertising
W A KNEE'S "SAFE" CURE At holl A NH" YLDFRAU'Pt.ELWLODA'RAFU. w ARNEri'S "SAFE" CURE AT WENTDID CYVFREDINOT- A BRIGHT' tT DISEASE. ]yr iLOEDD O DESTIMON1&LS yn datgan 1-TjL ei linweddau wadi eu filio a go1 Sir eu ha'cbwiiio. Mae ei haw'iau yn auwa Jadwy. Gwer hir gan bob iIeryllydd a trwarthwr phys gwriaeth. Danion r jbamphlodyu yn rhad ond ysgrifenu a ff. H. W AmIR A' I CYF, Ltd., 86, Clarkenwfilload, Londcn, E.O GOFYiNWCIi AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH: YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn Ddyuwarediad a Thwyll, AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a 5 cli ilUGIIES'S BLOOD PILLS. -J GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masnachdai hyny He y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOFYINWCII am HUGHES'S BLOOD PILLS a LIun Calon ar bob blwch. Gwrthod* wch bob peth arall. GWAED DRWG. OCURYr WAED DRWG. O CURVY 1ROEN GLEFYDAU. l)OEN PEN. OROEN GLEFYDAU. X OEN PEN. A FU DDRWG. T^vIFFYG TRAUL. t\.FU DDRWG. UlFFYG TRAUL. NERVOUSNESS. R* WYNEGON. ERVOUSNESS. VJTWYNEGON BILIOUSNESS, /GLEFYDAU ARENAI ILIOUSNESS. "ULEFYDAU ARENAU, Y maent ya i'lcliiu pin bll pobpeth arall yn methn. Heb oecli danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is I-le, 2s 9c, 4s 6c. Gyda'r Post am Is 3e, 2s- lie, 4s 9c oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH.
PWY YW CYFAILL Y GWEITHIWR?
PWY YW CYFAILL Y GWEITH- IWR? MR GOL., Darllenais gyda bias hanes Cyngor Sirol Arfon, ac yn neillduol araeth a chynygiad y cadeirydd, ac hefyd gynygiad Mr Moses Evans ynghylch y Byrddau I Cyflafareddol," ac yr oeddym yn falch fel I gweithwyr o'r Cyngor. Ond wrth graffu, I pan y mae cynygiadau er llcsau y dosbarth I gweithiol yn dyfod gerbron, y syndod yw cyn lleied sydd yn ei bleidio. Wele gynyg- iad Dr Lloyd Williams, Llanberis, er eng- raipht: Cynygiodd fod 3s 6c yn y dydd yn cael ei roddi i'r rhai oedd yn gweithio ar y ffordd fawr, yn lie 3s fel y mae yn bres 3nol. Cynygiad hynod o resymol ac amserol, pan gofiom eu bod yn prynu eu harfau a'u sharpio, ac hefyd yn colli diwrnodau gwlawog. O ld pa faint a bleidleisiodd drosto ? Wele eu henwau, mor gywir ag y cawsom hwynt: Mr W. J. Parry, Mr D. P. Williams, Dr Williams (Penmachuo), Dr Lloyd Williams, Mr George Brymer, Mr J. R. Pritchard, Mr Moses Evans, Mr Spinther James, Mr T. C. Lewis, Mr Issard Davies, Mr Lloyd George, A.S., Mr Bryn Roberts, A.S., Parch R. W. Griffith, Mr W. Jones (Clwtybont), Mr Thomas R. Jones. Dim ond pymtheg, allan o driugain, dros y cynygiad Amser yr etholiad y maent oil yn gyfeillion i'r gweithwyr, ond pan fo angen y bleidlais er lies y gweithiwr, ni bydd i'w chael. Derbynied y boneddigion hyn oil ein diolchgarwch gwresocaf, a chadwn ninau mewn cof yn ofalus waith y Cyngor, a chawn weled pwy yw gwirgyfaill y gweithiwr.—Yr eiddoch yn siomedig, GWEITHIWR,
[No title]
Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mj; Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoli.— Whitehall Review.
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL DEAF- NESS. A NEW HOME, TREATMENT. Sufferers are not generally aware that these dieeaaes Are contagious, or that they aredueto the preseica of living parasites in the lining membrane of the nuse and eustachiau tub s. Micoscopii: research, h wsver, has proved this to be a fact, and the result ia that a simple remedy has be-.n formulated whereby these distressing diseases are rapid«y and permanently cured by a few -simple applica- tions made at hosne by the patient once in two weeks. A pamphlet explaining this new treatment is ?«nt on receipt of 2d stamp by A. HUTTON nIXON, 43 and 45, East Bloor Street, Toronto, Canada. Argraphwyd a chyhoeddwyd gan y perch- enogion, Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig Cyf., yn eu swyddfeydd, BaJ&J clava Road, Caernarfon.