Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
"MERI JOS" A'R CYNGHOR SIROL.
"MERI JOS" A'R CYNGHOR SIROL. [AT OLYGYDD Y WERIN."] SYR,—Gwelaf fod "Meri Jos," wrth ad- olygu gweithrediadau y Cynghor Sirol diweddaf, yn gwneyd y cyfeiriadau a. ganlyn attaf fl:- Mi ddeuda i chi at b <vy i ynsynufwua: at y'n haulod ni yn y Felin yma. Yr ydw i yn methu dallt be sy wedi dod drosto fo. J Meddyliais i a llawer arall y basa yn un o'r aeloda goreu i'r gweithiwr, ond dyma fo yn cynyg rhoi y gallu i gyd yn nwylo y syrfeor; ond fod gan ddyn hawl i apelio at y Comiti os caiff o sac, &c., &c." Pell ydwyf, Syr, o feddwl fod "Meri" yn fwriadol yn camliwio y rhan a gymerais yn y drafodaeth hon, nac ychwaith yn amcatiu camarwain etholwyr y dosbarth y mae genyf yr anrhydedd o'u cynrychioli ar y Cynghor. Ond dyma y ffeithiau ynglyn a'r drafodaeth hon:— Nid myfi, ondjy Surveyor's Committee, oedd yn cynyg rhoddi y gallu afresymol yn nwylaw y Surveyor o droi dyn i ffwrdd heb roddi cyfrif i neb pwy bynag am hyny. Teimlai mwyafrif mawr o'r Cynghor—a minau yn eu plith—yn wrthwynebol i'r eithaf i'r gynygiad gormesol. Cynygiodd fy nghyfaill, y Cynghorwr R. W. Griffith, fod y rheol hon i'w throi yn ol i'r Surveyor's Committee i'r dyben o'i chyfnewid, ac ategwyd hyny gan amryw o aelodau y Cynghor. Cyn i hyn fyned i bleidlais, codais i ddatgan fy marn mai gwell fuasai i'r Cynghor there and then settlo y cwestiwn yn hytrach na gadael i'r committee ei drafod eto. Awgrymais mai yr hyn a fyddai yn briodol fyddai rhoddi hawl i bob gweithiwr yn ngwasanaeth y Cynghor i apelio at y Cynghor yn uniongyrchol, neu drwy y Surveyor's Committee, os byddai yn teimlo ei fod yn cael cam oddiar law y surveyor neu unrhyw swyddog arall a osodid uwch ei ben, a gofynais i'r Cynghorwr Griffith a fuasai yn derbyn hyn yn hytrach na'r hyn oedd ef yn ei gynyg. Cydsyniodd ef yn nghyda'i eilydd, y Cynghorwr Brymer, i fabwysiadu y cynygiad hwn, a phasiwyd ef yn unfrydol, heb un llaw o unrhyw gyfeir- iad yn cael ei chodi yn ei erbyn. Canlyniad fy ngwaith yn ymyryd yn y mater hwn ydyw fod gan bob gweithiwr yn awr, ac o hyn allan, yn ngwasanaeth y Cynghor Sirol, sicrwydd y caiff ei achos a'i amgylchiadau ef, pa beth bynag a fyddent, berffaith chwareu teg, gan y gall ef, neu unrhyw aelod o'r Cynghor ar ei ran, ddyfod a'i achos i'r Cynghor i'w benderfvnu yno, a'i wyntyllio yu "wyncb haul a llygad goleuni" os bydd angep. Gall Meri Jos, neu unrhyw etholwr arall yn y sir, ond galw yn swyddfa clerc y County Council yn Nghaernarfon, weled drostynt eu hunain yn y cofnodion, os mynent, "a ydyw y pethau hyn felly ai nad ydynt. Maddeuwcbi mi, syr, am gymeryd cymaint o'ch gofod gyda mater personol mor hynod ddibwys i'r cyhoedd ag ydyw hwn.—Eich I cywir, JNO. HUGHES. Gwyndre, Porthdinorwig, Tachwedd 23ain, 1892.
[No title]
CAETHDEA, PESWCH, ANWYD, POEN YN Y FREST. -Dyry Pulmonic Wafers Lockock wellhad Ituan a llwyr, nid oes dim arall a rydd noswaith o ewse mwy trwyadl ac adfywiol. Mewn crydcymalau a gwendid gieuol maent yn ddiguro. I ddadganwyr maent yn anmhrisiadwy at glirio a chryfhau y llais. Nid ydynt yn rhoddi bias fel cyffyriau. Gwerthir gan yr holl gyfierwyr am Is 116c a 28 9c y box. z R=UDD.-Y mae enw Dr Locock ar stamp v Llywodraeth, a trade tnark (" Dr Locock" ar v label. 3
Advertising
GOFYN WCH AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH YN FANWL AR BOB BOX A byddwch yn SICR na byddwch yn cael eich twyllo, a GlVEL \rCll Fod y fRADE MARK sef (Llun CALON) ar bob Blwch. Y mae un- rhyw Pills a gynygir yn DdyHwarediad a Thwyll, AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a 11 U7 1G 11 E BLOOD PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu Pills diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu hamddiifyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gallont ochelyd y masiiaohdai hyiiy lie y mae twyll yn cael ei ymarfer. OOFYNWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwch. GwrthocU well bob peth arall. Gwaed drwg. q curvy WAED DRWG. OCURYY ( iROEN GLEFYDAU. |)OEN PEN. V_yROEN GLEFYDAU. 1 OEN PEN. A FU DDRWG. T~\IFFYG TRAUL. r\FU DDRWG UlFFYG TRAUL. XTERVOUSNESb. f i WYNEGON. ERVOUSNESS. IjTWYNEGON, BILIOUSNESS. /1LEFYDAU ARENAU; ILIOUSNESS. l_7LEFYDAU ARENAU, o:T Y maeut yu iichiu p iii b dd pobpeth arall yn methn. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Linn Calon ar y Label. Peidiweh cymeryd dim arall. Ar werth am Is 1 ie, 2s 9c, 4s 6c. Gyda'r Post am Is 3c, 2s lie 4s 9c.. oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MANUFACTURING- CHEMIST, PENARTH.
" YR HEN GRYD PREN." .--
YR HEN GRYD PREN." Mae'r fam yn siglo'r baban Sy'n gorwedd yn ei gryd Mae'n ceisio ganddo gysgu, A chana hi o hyd Ganeuon gwlad ei thadau, I'r bychan'ddydd 'rol dydd; Digymar yw ei gofal, A phleser iddi rydd. Bu saith o blant yn gorwedd Yn nghol yr hen gryd pren Ac un 'rol un gadd ynddo Le da i roi y pen I lawr i gysgu'n dawel, 0 gyraedd twrf y byd, A'r fam yn dyfal wylio, Pob un tra yn ei gryd. Mae'r fam yn gorwedd heddvw Yn mynweut oer y Llan; Ac angel gwyn ofala Yn ffyddlon am y fan: Mae'r plant yn awr yn ddynion, A inerched hardd eu Hun Bu'r hen gryd pren yn wely Ardderchog i bob un. Mewn 'stafell na wneir defnydd Ohoni yn y byd, I ddim ond cadw taclau Sydd ddiwerth, dyna'i gyd: Mae'r hen gryd pren yn gorphwys 'Rol oes o lafur drud: Ond cofier ei wasanaeth, A'r fam, tra yn y byd. MoRrEif Mox HUGHES.
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…
CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL DEAF- ) NESS. A NEW HOME TREATMENT, i offerers ar¡. not yezierally aware th it these oeases are contagious, or tiiat they are due to the prese-'iog of living parasites in the lining membrane of the nut! and eustachian fcub?s. :viiCi0?copic research, h,wever, has proved thin to be a fact, aad the result is that a simple r medy has bean formulated whereby these distressing diseases are rapidly and permanently cured by a few simple applica- tions made at ho La hy the patient once in two weeks. A pamphlet explaining t-iis new treatment is saut on receipt of 21d stamn h» A HuTToy T)nc>y, 43 and ft, Ea.t BlodJ otreeL, Toro- to, Canada. Argraphwyd a chyhoedd^-d ^n^"l^El enogion, Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig Cyf., yn eu swyddfeydd, Bala- clava Road, Caernarfon. j
GYWSOCH CHWI \
GYWSOCH CHWI Mai gan faban yr Archdduc Stephen, o Awstria, y mae mwyaf o enwau o bawb yn y byd ? y byd ? Mai wrth yr enw canlynol y bcdydd- iwyd hi :-Maria Immaculata Caroline Margarathe Blanca Leopoleine Beatrix Anna Josefino Rafaola Michelia Stanislaus Ignas Hieronymus Camiro Katharina Petra Ccecilsa ? Fod ambell i Gymro yn meddu enw digon hirwyntog, ond fod yr eneth hon yn eu curo i gyd ? Mai tro trwstan oedd i'r ddau saer hyny syrthio i lawr oddiar y stags yn Ng-n? Nad gwir yw eu bod wedi derbyn niweidiau trymion ? Eu bod yn awr yn gweithio lawn mor brysur a chynt, ond eu bod yn llawer mwy gofalus? Fod yn arferiad gan rai llanciau fydd yn arfer dyfod adref gyda'r Narrow Gauge, ac aros ar ol o gwmpas gorsaf Dinas nes byddo y third class wedi llenwi? Mai eu liamcan fydd cael myned i'r second class ? Fod tri o gwplau ieuainc o ardal C s a, wedi gwneyd y trie hwn un nos Sadwrn, ac fod hyny wedi bod yn foddion i ysgafnhau eu pocedau ? Y bu yn rhaid iddynt dalu o leiaf da ir ceiniog bob un ynychwaneg? Fod y merched wedi gorfod talu eu rhan eu hunain ? Mai' y llanciau ddylasai dalu drostynt gan mai hwy ddarfu eulhuclo yno ? Fod un o'r llanciau yn dywedyd, pe buasai ganddo ddigon o Saesoneg, y buasai yn myned at y prii-oruchwyliwr i ymofyn ynghylch y mater ? Ei fod wedi penderfynu cael ysgol bob wythnos yn ystod y gauaf presenol, rhag ofn i ryw amgylchiad cyffelyb dd'od i'w gyfarfod eto ? Y defnyddir deng miliwn o ddanedd gosod yn y wlad hon bob blwyddyn Y gwneir danedd o bapyryn Germani ? Y dywedir eu bod llawn mor ddef- nyddiol a rhai naturiol ? Y dangosir set o rai yno sydd wedi bod ar waith am dair blynedd ar ddeg? Eu bod yn awr cystal a newydd ? Am y croesaw gafodd y dyn ieuanc hwnw mewn ty Ilaath yn n-hymyd o-aeth yr Eifl y dydd o'r blaen ? 0 0 Y dylasai y teulu barotoi gwell He i'r ferch dderbyn ei hymwelwyr na'rystafell oeraidd hon ? Ei bod yn ddigon a rhynu y dyn iac haf i fod ar y llawr ceryg am oriau lawer ? Y caiff ddyoddei oddiwrth hyn mewn blynyddoedd i ddod yn y ffurf o gryd- cymalau ? Mai fel y canlyn yr ymfflamychodd Homo Goch, Nebo, wedi darllen hanes rhyfel y degwm 'yn y Werin:- I fyny?a'r faner, chwi Gymry gwladgarol, I ymladd yn erbyn pob gorthrwm a thrais; Mae ysbryd ein tadau yn llefain yn uchel, Na phlygwch eich gliniau i 'Sgotyn na Sais." 0 Mae gorthrwm arglwyddi, a thrachwant y person, Yn llosgi yn eirias fel tan yn fy nghnawd, A'm gwaed sydd yn myned fel crochan ber- wedig, Pan welwyf y Cymro i rheiny yn wawd. Mae'r ddraig- fu'n cyhwfan am ganoedd o flwyddi Ar greigiau a chestyll uchelgrib ein gwlad,— A gorthrwm canrifoedd sy'n crymu ein cefnaa, Yn galw pob Cymro i ymuno a'r gad. 0 deuwch i'r frwydr yn Iluoedd urddasol, Mae tynged ein cenedl yn sefyll ar hon Ymladdwn yn unol, a chawn fuddugoliaeth, Ac yna fe ganwn yn llawen Llwyn on." Am y ddwy wraig hyny yn ardal B-- a fu yn ymladd a'u gilydd ? Fod y naill yn tynu gwallt y llall yn ddidrugaredd ? Fod hono drachefn yn talu adref trwy geisio gwneyd map a'i hewinedd o wyneb ei chymydoges ? Fod y naill a'r llall wedi bod yn bur lwydciianus ? Fod yr iaith a ddefnyddient yn hollol anheilwng o famau yn magu plant ? Fod eu rhegfeydd yn ddigon a chodi arswyd ar ddyn! Mai barn yr ardalwyr yn gyffredinol am danynt yw y gellir rhoddi synwyr y ddwj mewn plisgyn wy ? Mai o Lerpwl y bydd un o feddygon yn cael ei de, sebon, &c ? Ei fod yn ymffrostio ei fod yn eu cael am brisiau is nag y mae y masnachwyr lleol yn gallu eu gwerthu ? Mai ar arian y masnachwyr hyn a'u cymydogion y mae efe yn byw ? Y gall ami un o bonynt hwythau gwyno fod ei brisiau ynte yn bur uchel? ^Y buasai raid iddo wneyd gostyngiad ynddynt pe deuai meddyg arall i'r ardal? Nad oes hen ferched yn Japan ? Y byddyr awdurdodau gwladoi yno yn darparu gwr i bob merch fyddo wedi cyr- haedd oedran neillduol, os y bydd wedi methu sicrhau un tiwy ryw foddion ereill? Y buasaiynldda i aml'unyny wlad hon pe buasai ein Llywodraeth yn gwneyd darpariaeth gyffelyb ? Ein bod yn awgrymu i Dames y Prim- rose League faswysiadu y plane angen- rheidiol yn eu platfform godidog ?
DYFODIAD Y GAUAF. .F. ..-
DYFODIAD Y GAUAF. .F. Adeg beryglus, ac un sydd yn peri llawer bryder i luoedd yn ein gwlad, yw j tymhor hwn o'r flwyddyn. Mae edrych yn mlaen at ei ddy- fodiad yn achosi pryder ac ofn nid byc18n i laweroedd o'r rhai hyny ydynt yn dioddef oddi- wrth wahanol anhwylderau. Gydag ychydig ofal, a thrwy gymeryd y feddyginiaeth briodol mewn pryd, gellir osgoi llawer o boenau corph- orol yn gystal a phryder ineddwl. Mae adeg cwympiad y dail yn dwyn rhyw gymaint o ddioddef i bob un sydd yn naturiol o gyfansoddiad gwanaidd. Efallai mai y rhai sydd yn dioddef oddiwrth Bdiffyg Treuliad a flinir fwyaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynghor y meddyg i'r claf yr adeg yma yw cymeryd meddvginiaeth tuag at gryfhau. Prin y rhaid dweyd wrth neb yn Nghymru pa un yw y feddyginiaeth eu at y dolur hwn, na Dha le i'w chael. Mae tystiolaethau y miloedd a dderbjaiasant les oddiwrth Quinine Bitters Gwilym Evans yn bronon diymwad a digonol o werth a rhagoroldeb y feddyginiaeth fyd-enwog hon. ° Mae lluaws o dystiolaethau hefyd i effeith- iolrwydd y Quinine Bitters mewn gwrthsefyll ymosodiadau pob math o anhwylderau gauafol. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad, y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth v perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing ComDanv Limited, Llanelli, South Wales.
[No title]
Terfynwyd anghydwelediad rhwng seiri llongau, Hartlepool a'u meistradoedd yn ffafr y dynion. COCOA CADBURY.-Dyma'r Cocoa syddyn feddianol ar adnoddau cnawd-gynyrchiol ac yn 1 trosglwyddo nerth a grymusder arosol. -Hea IIA 1 s
-'93.
'93. [CYFADDASIAD 0 QUATRE VINGT TREIZE," UN 0 NOFELAU VICTOR HUGO]. PENNOD IX. Tuag awr cyn machludiad haul un diwr- nod braf yn mis Gorphenaf, disgynodd marchog wrth ddrws gwesty a safai gerllaw un o goedwigoedd Llydaw. Yr oedd y diwmod wedi bod yn un poeth iawn, ond gyda min yr hwyr cododd awel adfywiol. Gwisgai r teithiwr husran laes, ae ar ei het yr oedd ysnoden drilliw y Weriniaeth, yr hyn a ddangosai fod y marchog yn fedd- ianol ar raddau helaeth o ddewrder pan feiddiai fyned i goedwigoedd Llydaw, gan ddangos mor eglur ei fod yn elyn i Ardal- ydd Llandenac. Pan glywodd swn carnau y march daeth gwr y gwesty i'r drws. Sylwodd ar yr ysnoden oedd yn het y teithiwr: ac wedi cyfarch gwell i'w gilydd, gofynodd gwr y ty,— A ydych am aros yma, ddinesydd ?" "Nac ydwyf," atebai'r teithiwr. Pa ffordd yr ydych yn myned, vnte ?" I Dol." O! y peth goreu i chwi wneyd yw myned yn ol, neu ynte aros yma." Paham?" li Am fod ymladd yn myned yn mlaen yn Dol." 0, felly, atebai'r marchog. Ac yna ychwanegodd, "Rhoddwch geirch i'r ceffyl." Rhoddwyd ceirch i'r inarch, ac wedi hyny cariwyd yr ymddiddan yn mlaen. 0 ba le y daethoch, pe bawn mor hyf a gofyn ?" ebai'r tafarnwr. 0 Paris," Nid ar eich union P" "Nage." "Gwyddwn hyny o'r goreu, gan fod tramwyaeth wedi cael ei hatal. Ond mae'r post yn myn'd o hyd, onid yw ?" "Ydyw, ran o'r:ffordd. l Ni fydd yr un post na cheffyl i'w gario 1 yn Ffrainc cyn pen ycbydig amser, os aiff pethau yn mlaen fel yn awr. A fuo chwi yn marchogaeth drwy y dydd ?" Do, er pen boreu." A ddoe hefyd ?" V le, a'r diwmod cynt." Wel, gwrandewch ar fy nghyngor i, ddinesydd. Cymerwch ychydig orphwysdra. Rhaid eich bod yn lluddedig; ac y mae'n hawdd gweled fod eich ceffyl wedi blino." Mae gan geffylau hawl i flino ond nid oes gan ddynion." Aeth y gwestywr allan i roddi dwfri'r ceffyl, a sibrydodd wrtho ei hun, "Mae yn beth rhyfedd; ond yn wir y mae o yn edrych yn debyg iawn i offeiriad." Aeth yn ol i'r ty, a gofynodd i'r gwr dieithr, "A ydych yn teithio ar eich pen eich hun ?" Na, mae genyf rai i'm hamddiffyn." Yn mha le maent ?" Yna," meddai, a dangosodd bar o law- ddrylliau a'i gleddyf. A oeddych yn dweyd eu bod yn ymladd yn Dol ?" gofynai y gwr dieithr yn mhen enyd. Y maent wrthi, neu o leiaf dylasent fod wedi dechreu bellach." Pwy sy'n ymladd ?" Un cyn-bendefig yn erbyn un arall." Sut yr ydych yn dweyd ?" Dweyd yr oeddwn fod un a fu yn ben- defig unwaith, ond sydd yn awr yn ngwas- anaeth y Weriniaeth, yn ymladd yn erbyn un arall sydd ar ochr y Brenhin." Ond nid oes brenhin yn awr yn Ffrainc." 0 y mae yna un y dywedir y dylasai fod yn frenhin. Ond dyna sydd yn chwithig, fod y ddau gadfridog hyn yn berthynasau." Cynyddai dyddordeb y teithiwr fel yr elai y tafarnwr yn mlaen gyda'i stori. Y mae un yn ieuanc, a'r Hall yn hen. Mae'r nai yn ymladd yn erbyn yr ewythr. Ar ochr y Brenhin y mae yr ewythr, tra y mae y nai o blaid y weriniaeth. Nid ydynt yn dangos yr un drugaredd tuag at eu gilydd. Ceisia y naill ddifodi y Hall." "Ymladd hyd angeu sydd i fod felly," sylwai y teithiwr. Ie, ddyliwn. A ddymunech chwi weled un neu ddau o'r cyfarchiadau moesgar a anfonasant i'w gilydd. Dyma broclamasiwn a roddodd yr ewythr i fyny ar y parwydydd a'r coed yn y gymydogaeth hon, a gwelwch ei fod wedi cael ei roddi ar ddrws fy nhy i." Symudodd y gwr dieithr yn mlaen, a dar- llenodd yr hysbyslen garlynol "Medda Arclalycld Llanclenae y pleser o hys- bysu ei nai, yr Is-iarll Gauvain, y bydd iddo ef, Ardalydd Llandenac, os mor ffodua a chymeryd yr Is-iarll yn garcharor, orchymyn ei saetlra ar unwaith." A dyma'r atebiad," ychwanegai'r ta- famwr, gan gyfeirio at bapyr arall oedd ar y drws, yr hwn a ddarllenai fel hyn:- Y mae Gouvain, drwy hyn, ya rhoddi rhy- byclcld Llanddenac y bydd iddo, os y cymerir ef yn garcharor, gael ei saethu yn y fan." Ddoe," ebe'r tafarnwr, y rhoddwyd y rhybudd cyntaf i fyny, a boreu heddyw yr oedd yr ail oddi tano." Pa un ohonynt sydd yn debyg o enill ?" gofynai y gwr dieithr. "Hyd yn hyn y nai sydd wedi cael y goreu; ond cneuen anhawdd i'w thori yw yr hen wr. Fe ddaeth yr hen fachgen yma o Jersey, a chafodd: wyth mil o filwyr ar unwaith, a chyn pen yr wythnos yr oedd miloedd lawer ereill wedi vmrestru o dan ei faner. Edrychai y bobl arno fel ea gwir dywysog. Fe laddodd lawer o gar- charorion, a saethodd ddwy wraig, un o honynt yn fam i dri o blant a fabwysiadwyd gan filwyr o Paris,—Catrawd y Cap Coch. Er nad oes lawer o filwyr y gatrawd hon yn aros, eto y maent yn rhai ffyrnig iawn, ac wedi iddynt gael eu cyaylltu a chorphlu Gauvain y maent wedi ymdynghedu y mynent ddial cam y wraig ac ackub y plant. Dyn dewr yw Gauvain, ond y mae Llandenac yn ddyn ofnadwy o beryglus. Dywed rhai o bobl y wlad ei fod unwaith wedi gorch- fygu y diafol, ac wedi ei gladdu o dan fynydd mawr." 0 ie, mi wn am hyny," ebai y teithiwr; ond dywedwch beth sydd yn myned yn Y mae Llandenac wedi ymsefydlu yn nghoedwig Fougeres, a'i amcan yw codi gwrthryfel cyffredinol ac agor y "drws i'r Saeson ddod i'r wlad i ymladd oblaidy frenhiniaeth. Gauvain sydd yn llywod- raethu byddin y Weriniaeth yn y rhan hon o'r wlad, a'r hyn y mae ef yn ei geisio wneyd yn awr yw gyru Llandenac a'i luoedd i'r canolbarth, a chadw y Saeson yn y mor, fel nas gallent lanio. Fe fu Llandenac yn gwersyllu yn y fan yr ydym ni ynddo yn awr, ond daeth Gauvain yma, a chiliodd Llandenac i Dol. Yno y mae y ddau Lydawr hyn yn myned i daro eu penau yn erbyn eu gilydd, a gellwch gymeryd fy ngair i y bydd yno ysgydwad ofnadwy. Mae'n debyg eu bod wrthi yn awr." Pa faint o ffordd sydd yno ?" "Fe gymerai i gatrawd gyda'i gwageni a'i chelfi ryw dair awr i fyned." "Mi dybiaf fy mod yn clywed swn y cyflegrau yn awr," ebe'r teithiwr, wedi iddo glustfeinio am ychydig eiliadau. Gwrandawodd y tafamwr drachefn, ac ebai,—"Oes, y mae, a swn ergydion llaw- ddrylliau hefyd. Maent wedi codi'r lien ac wedi dechreu ar eu gwaith. Byddai yn well i chwi aros yma dros nos. Byddwch mewn perygl os ewch oddiyma." "Nis gallaf aros; rhaid i mi fyned yn fy mlaen." Yr ydych yn sicr o fod yn gwneyd cam- gymeriad. Nis gwn beth yw eich busines, ond mae y perygl yn fawr. Os nad yw yn dal perthynas a'r hyn sydd anwylaf genych I "Ie, am hynyyrwyfynmeddwl," atebai'r teithiwr. Yn nghylch eich mab, efallai Bron iawn." Hwyliodd y marchog i gychwyn i'w daith, a thalodd yr hyn oedd yn ddyledus arno. Gan eich bod yn benderfynol o fyned," ebe'r tafamwr, gwrandewch ar fy nghyng- hor i. Mae yn amlwg i mi mai am fyned i Sant Malo yr ydych. Wei, peidiweh a myn'd trwy Dol; mae yna ddwy ffordd, sef yr un trwy Dol, a'r llall ar hyd glan y mor. Pan ewch ychydig oddiyma, gwelwch y ffordd yn fforchio,-yr un i Dol ar y chwith, a'r un trwy lan y mor ar y dde. Bydded i chwi gadw ar y dde." Diolch yn fawr i chwi," ebe'r teithiwr, a chychwynodd ymaith. Pan ddaeth at y fan y fforchiai y ffyrdd, clywai lais y tafamwr yn gwaeddi ar ei ol, "Daliwch ar y dde! Daliwch ar y dde;" ond troi ar y chwith a ddarfu iddo wcdi'r cwbl. (I'w barhau.)
CYNGOR SIROL ARFON A'R GWEiTHWYR.
CYNGOR SIROL ARFON A'R GWEiTHWYR. MR GOL.Caniatewch i ni ychydig o'ch gofod i ddyweyd gair ar waith y Cyngor yn yr eisteddiad diweddaf yn nglyn a gweithwyr ffyrdd y sir, a chredwn mai dyledswydd arnom fel gweithwyr yn gyff- redinol ydyw gwylio yn fanwl waith y Cyngor, yn enwedig yn nglyn a ni fel gweithwyr. Y cwestiwn i ni ydyw sylwi pwy sydd yn ein cynrychioli ar y Cyngor. Yr oeddynt oil yn dyweyd adeg yr etholiad eu bod am ein cynrychioli, ac yr ydym yn ofni fod rhai ohonynt wedi newid eu calonau ar ol cael "C. S. ar ol eu henwau. Rhy- fedd fel y mae dynion wedi cael ychydig anrhydedd yn newid ac yn diystyru y sawl a roddodd yr anrhydedd iddynt. Nid oes genym i'w ddyweyd wrthynt ond fod dydd pen tymor i fod iddynt hwythau fel pob gwas arall, ac mai yr ufudd a'r gwasanaeth- gar sydd yn cadw ei le ac yn ail-gyflogi. Ond, syr, rhag i mi eich blino a gormod o ragymadrodd, y mater ydyw, Gweithwyr ffyrdd y sir." Gwnaed cynygiad am godiad yn eu cyflogau, ond collwyd y cynygiad, a cholli y mae pobpeth hyd yma sydd wedi ei gynyg at godi safon y cyflogau. Rheswm gwan iawn oedd eiddo y cynghorwr hwnw a ddywedodd y daliai sir Gaernarfon i'w chymharu a. siroedd ereill yn y mater hwn, Nid yw hyn yn profi o gwbl fod y cyflog yr hyn ddylai fod, a beth fyddai i sir Gaernar- fon ragori yn hyn. Ond yr ail symudiad yn nglyn a'r gweithwyr oedd, fod iddynt fod o dan reolaeth .hollol yr arolygydd yn unig. Wel, wel, dyma'r Cyngor Sirol wedi myned i gadw ciwrad. Da y dywedodd y Parch R. W. Griffith fod hyn yn ffafrio yn ormodol awdurdod unbenaethol," yr ydym ninau yn credu yr un modd. Fel y dywedodd y Cynghorydd Brymer, mae y pwyllgor wedi myned yn ol gan' mlynedd. Yr ydym yn synu yn fawr at y Cynghorydd John Hughes yn cynyg fod penderfyniad y pwyllgor i sefyll. O bawb y gwyddom am dano, y fo ddylasai fod yr olaf i gynyg y fath beth. Dylasai gondemnio i'r pen draw yr ysgogiad lleiaf yn y cyfeiriad yma ar y Cyngor, a dyma ydyw ei chwanegiad at benderfyniad y pwyllgor, sef "Fod gan weithiwr hawl i apelio at y pwyllgor pan yn teimlo ei fod yn cael cam." Druan o hono. Haner dwsin o un a chwech o'r llall. Un o gwynion y cynghorau sirol ydyw na chaent yr heddgeidwaid yn hollol o dan eu rheol- aeth. Wel, os y caent hwy ryw dro, ac iddynt ddilyn yr egwyddor ag a wnaethant gyda gweithwyr ffyrdd y sir, ni wnaent ond eu gosod o dan awdurdod rhyw hen filwr, a rhoddi yr awdurdod oddiar eu llaw. A waeth yr heddgeidwaid fel y maent mwy na felly. Wrth derfynu dymunWn arnom.fel gweithwyr yn Arfon sylwi yn fanwl ar weithrediadau y Cyngor Sirol. Ofnwn nad ydyw y sylw priodol yn cael ei dalu genym, ac y byddwn adeg yr etholiad yn cael ein llywodraethu gan fwy o sel nago wybod- aeth. Dylem yn arbenig sylwi pwy sydd yn gwylio ein buddianau ar y Cyngor. Llawenydd genym weled rhai cyflogwyr llafur yn dadleu dros godi safon cyflog. Gobeithiwn y byddwn wedi d'od i ddeall- twriaeth a'n gilydd fel gweithwyr erbyn yr 1 etholiad nesaf i gael gweithwyr ar y Cyngor i gynorthwyo y rhai sydd yno yn barod yn ymladd drosom. Y mae yn ein plith ddigon o rai cymwys-llawn mor gymwys a rhai sydd—ie, a mwy cymwys hefyd ar lawer ystyr.—Yr eiddoch, &c., UN 0 WEITHWYB LLANDDEINIOLEN.
RHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…
RHINWEDDAU IACHAOL QUININE BITTERS" GWILYM EVANS. Gan GWILYM EVANS, dyna r gwir, Mae Bitters pur rhagorol, Y goreu i leddfu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maith yn wael fy llun, Yn nychu gan aflechyd. A rhoddaf yma'm teimlad blin ean dan arteithiau adfyd. Rhyw boenau dig a deimlwn i Bob dydd a nos yn gyson, Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon; A mi heb wybod b'le i droi, Gan drymed oedd fy alaeth, A m holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddyginiaeth— gin Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Ymeflais yn ddamweiniol, Acynddo gwelais hanes llawn Y Bitters pur rhagorol; Mi brynais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai orachtio wnawn nes dod yn gawr, A chafEael llwyr adferiad. Fy holl obeithion droes yn ffydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A minau'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddilyn ar y moddion; Gwybydded pawb mai'r Bitters hyn Effeithiodd fy adferiad; Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn y nen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A phlygu'r fellten fiQamgoch wnawn Yn eiriaa dan lyth'renau, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgom mawr y daran gref Yr uchel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm lief I'w chlywed drwy'r holl wledydd; Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GWILYK EVARS byth gaiff fod Yn anwyl gan y bobloedd. Derbyniodd yr 'ysgrifenydd les mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd gormod am eu rhinweddau. THOMAS GBHTIJHS. Llanfihangel Rhosycorn, Chwef. lleg, 1890. I Quinine Bitters Gwilym Evans yw'r feddygin- iaeth oreu i adfer iechyd, a'i ddyogelu trwy I adfer nerth ac egni i'r rhanau hyny fyddant wedi gwanychu trwy afiechyd hirbarhaol. tW Mynwch weled enw Gwilym Evans ar bob; label, stamp, a photel. Gwerthir gan bob ) fferyllydd mewn poteli 2s 9c yr un. Dwbl maint, 4s 6ch. Gtoruchwylwyr yn mhob parth o'r byd. Gellir hefyd ei gael yn ddidraul am y prisiau uchod, oddiwrth y perchenogion:- Quinine Bitters Manufacturing Company, Limited, Llanelly, South Wales.
[No title]
Cafwyd hyd i gorph dynes a'i phlentyn anghyfreithlawn mewn llyn melin yn Ashton Keyner ddydd Mawrth.
LINEN LASTS LONGER,
LINEN LASTS LONGER, Radiant in its whiteness! Deligtful in its sweetness! And will keep much longer clean when soaked and washed in a foaming lather of HUDSON'S DRY SoAP, Hudson's preserves the most delicate lawns, laces, muslins and fine underwear from injury, and it will not fray cuffs or jag collars. "Try a packet, you'll never lack it'
MEUSIDD AUR Y WLADFAI GYMREIG.I
MEUSIDD AUR Y WLADFA I GYMREIG. I FMtMau !);, ddorol. I [GAN CADBEN D. RICHARDS, HARLECH.] Mae'n hysbys i luaws erbyn hyn fod meusydd aur cyfoethog wedi eu darganfod yn Neheudir America, y rhai, yn ol pob tebyg, a egyr ffordd i ymfudiaeth Gymreig ar raddfa eang, ac a grea effaith ddaionus ar y fasnach lafur yn Nghymru, yr hyn a gymer le yn naturiol drwy ostvngiad rhif y dosbarth gweithiol. gi LLEOLIAD YR AUR. Saif y meusydd hyn yn nhiriogaethau Talaeth y Gamwy, meusydd y Teca a'r Mica ar lechweddau Dwyreiniol cad wen allanol yr Andes, yr hon a elwir yn Pre- Gordilleras. Islaw i'r rhai hyn saif dyffryn porfaog a elwir Teca (neu Sagmatta), yr hwn sy'n ymestyn am filldlroedd lawer o Dde i Ogledd, ac yn fan hynod ddymunol i godi cnydau ac i fagu anifeiliaid. Nid oes coed yn tyfu arno, ond ceir cyflawnder- ohonynt yn y fforestydd prydferth sydd yn addurno bronau euraidd y gad wen a enwyd. Mae yn gwlawio yn fynych arno, ac hysbyswyd fi gan y brodorion na welsant hwy erioed fwy na dwrndrwch (dyweder pedair modfedd) o eira arno yn nhrymder y gauaf. Mae yr afon sydd yn ymddolenu drwyddo yn gar- tref i bysg lawer, a'i gnwd yn ymborth i ganoedd o wanacod, estrysod, gwyddau, a hwyaid. Saif maes y Corcovado rhwng y Pre- Cordilleras a'r Andes, oddeutu tair milldir i'r gogledd-ddwyrain oddiwrth y Ilyn pryd- ferth sydd yn llechu yn nghesail y brif gadwen yn lledred 44. Maes gwerydol cyfoethog yw hwn eto (ond nid cystal a'r Teea), a PHRYDEERTHWCII ANTANYDDOL y fro yn gyfryw ag a bar i unrhyw un myf- yrgar ryfeddu fod y fath dlysni yn perthyn i natur yn ei ffurf gynhenid. Mae yr ardal sy'n gorwedd rhwng y maes hwn a Cwm Hyfryd, yn Mro Hydref, yn goediog a rhamantns, er hyny yn cynwys llanerohau o dir rhagorol, black volcanic soil, gwell, 'rwy'n credu, na dim a welais yn nnman arall ar fy nheithiau drwy y dalaeth, a chystal a dim fu erioed o dan groen Dyffryn Clwyd. Mae y lie a fedyddiasom a'r enw Hirgwm, yn gorwedd tu cefn i Fynydd Edwyn (rhan o'r Pre-Cordilleras tucefn i faes y Teca) a Dyffryn Corcovado. Cwm porfaog yw hwn eto, ond ychydig yn gorsiog mewn rhai manau. Nant gref a gloew yn rhedeg hyd-ddo i lawr i'r dyffryn a enwyd, a Nant y Fendith yn tarddu yn ei gyrion isaf. Er fod y brodorion yn sicrhau fod ei gnu gauafol yn chwe' modfedd o drwch, man hynod gyfleus a dymunol ydyw i fagu anifeiliaid. Mae cyflawnder o goed priodol at unrhyw adeiladwaith, a thoraeth o danwydd yn mhobman drwy yr ardal hon, Ychydig bellder i'r gogledd, ar ffin y Dyffryn Oer, saif y mwnglawdd alian-blwm, (galena), a ddarganfyddodd y Bonwr barddol Glyn, o Gwm Hyfryd, oddeutu dwy flynedd yn 01. Mae y ddaearen o lledred 42 yn Patagonia, hyd i eithafbwynt Deheuol GWLAD-Y-TAN (Tierra del Fuego) yn orlawn o drysorau mwnawl. Gresyn na byddai mwy o ysbryd anturiaethus ynom fel cenedl, yn lie byw fel carcharorion trais a gormes, a landlordiaeth yn swmbwl yn ein cnawd, a'r clychau sydd wedi eu crogi wrth wddf y Llywodraeth yn flinder i'n hysbrydoedd. Derbyniais y Buenos Ayres Standard am y 14eg o Hydref boreu heddyw, yn yr hwn y gwelaf fod Deheubarth America yn cael mwy o sylw nag arferol. Dywed Y mae llythyr dyddorol (yr hwn sydd wedi ei gy- hoeddi mewn newyddiadur Argentaidd, a'r hwn y bwriadwn ei gyfieithu er budd ein darllenwyr), o'r bell Wlad-y-Tan, yn dyweyd fod pum' cant o fwnwyr Awstriaidd wedi cyraedd yno. Mae'n ymddangos nad oes dim Uai na THAIR TUX ELL O AUR wedi ei gael ar Ynys Lennox a'r Ynys Newydd, ac fod y clefyd melyn yn ym- ledu yn gyflym. Boddodd cwmni o fwnwyr a chanddynt gydau llawnion o lwch aur, drwy i'r cwch ddymchwelyd. Gallasai amryw ohonynt gael eu hachub pe buasent wedi gollwng gafael o'u haur-gydau." Ond i'r darllenydd ymaflyd yn ei barthlen (map), fe wel mai yn agos i Gulfor Magellan y saif yr ynysoedd hyn, ac nad yw eu har- wynebedd ond hynod o fychan. Cofus genyf, ysywaeth, nad oes ond oddeutu pedwar mis er pan oedd golygydd galluog a pharchus y Buenos Ayres Standard yn erfyn ar rywun neu rywrai egluro iddo yn mha le yr oedd yr ynysoedd hyn Di- chon ei fod yn gwybod yn awr. Cofus genyf hefyd i erthygl alluog gael ei chy- hoeddi yn un o'r newyddiaduron Cymreig (tybed mai y Celt ydoedd ?) oddeutu deunaw mis yn ol, yn darlunio yr aurgloddiwr llewys-dorchedig, yn suddo, gyda'i drysor, ar ei lwybr llaith wrth groesi'n ol i'w fro enedigol. Tybed yr ymhyfryda yprophwyd Ilen-eurol yn nhynged dorcalonus y truein- iaid uchod ? Gwyr y cenhadwr Thomas Bridges, yr hwn y gwneir cymaint defnydd o'i enw y dydd- iau hyn yn Nghymru, yn eithaf da am gyfoeth mwnawl y parthau hyn. Rhyfedd fod yr anfarwol Darwin ac eraill o'r prif awduron wedi GORLIWIO "CANIBALIAETH" trigolion y parthau hyn, yn enwedig y Fuegians. Dywed Bridges mai cangen o'r llwyth Tiweltsaidd (brodorion Deheubarth Patagonia) yw yr Onaiaid sy'n preswylio ar un tu i Wlad-y-Tan. Os cywir ei osodiad, milwria hyny o dan sylfaeni gosodiadau dychymyg Darwin ac eraill. Bodau tawel, dsdwrf, hynod o garedig yw y Tiweltsiaid melynddu hyn, ac addfwynder yn sirioli can- wyllau eu llygaid. Ond, hwyrach fod eu chwe' troedfedd taldra yn ddychryn i fodau y byd a elwir yn fyd gwareiddiedig," a'u noethni yn creu braw yn mynwes yr hwn sydd wedi ei ddilladu a'i arfogi! Mae eu hiaith, yr hon sydd yn orlawn o'r ll, yr yr a, a'r w, yn taro'n swynol ar glust y Cymro, ac ynddi eiriau Cymreig, megys "cawell" am geffyl, etc,
Y FRECH WEN y WARRING TON.
Y FRECH WEN y WARRING TON. Ymleda y frech wen yn Wariington yn barhaus, er nad mor gyflym y dyddiau diweddaf. Penderfynwyd adeiladu dau ysbytty newydd, ond methir taro ar safle- oedd cyfaddas. Fel engraipht o'r anhaws- der y mae yr awdurdodau yn llafurio dano, gellir nodi yr engraipht ganlynol. Tarawyd hen wraig yn wael yr wythnos ddiweddaf, a phan sylweddodd natur ei hafiechyd, datgan- odd ei dymuniad am i rai o'i chymydogion dd'od yno fel y gallai ffarwelio a hwynt cyn gadael y byd. A phan ddaeth y swyddog- ion meddygol yno, cawsant fod dwy wraig yn eistedd yn gymfforddus yn yinyl y gwely, ac yn mwynhau owpanaicl o de yn hamddenol. Dengys hyn y modd yr ymleda yr haint.
Advertising
WARNER'S "SAFS" CURE At holl A NHWYLDERAU'l-. A'R AFU w ARNEP.'S "SAFE" CURE aT WENDID CYFFREDINOi. A BRIGHT' DISEASE. MILOEDD O DESTUVTOMALS! yn datgf>n ei liaweddau wedi eu tilio a gellir eu harchwilio. Mae ei hawiiau yn auwadadwy. Gwerrhir gan bob fferyLydci a gwerchwr phys;gwriaetli. Danion r Joampblodyu yu rhad ond ysgrifenu a H. H. WARNER A' CfF, Ltd., 86, Clarkeuw :lIoad, London, E.C
EGOB LLANELWY A'R METHODISTIAID.
EGOB LLANELWY A'R METH- ODISTIAID. Llythyr oddiwrth y Parch W. James. Ymddangosodd y llythyr canlyriol yn y Times am ddydd lau SYR, -Ddydd LIun diweddaf buoch hy- nawsed a chaniatau i mi ofod i ofyn i Esgob Llanelvy egluro a ehadarnhau y cyhuddiad a rodjlodd yn erbyn y Methodistiaid Calfin- aidd Cymreig pan yn pregethu yn Nghaer- gaint y mis diweddaf; ac y mae eich dar- Uenwyr yn gwybod erbyn hyn am y modd y gwelodd ei Arglwyddiaeth yn dda wynebu yr her a roddwyd iddo, sef drwy wneyd rheol iddo ei hun fod i'r holl achos gael ei ohirio hyd amser mwy cyfleus, yr hyn sydd yr un ystyr a gadael i'r ddedfryd fyned yn ei erbyn ei hun drwy esgeulusdra. Ond y mae yn anhawdd i mi beidio tybied mai ys- grifenu ar ormod o frys a wnaeth yr Esgob ar y 7fed cyfisol. Yr oedd y geiriavi a ddefn- yddiodd, ef Yll ei bwlpud archesgobol, pa ddyben bynag allasai fod iddynt, wedi eu cyfaddasu i orchuddio llu mawr o'i gymyd- ogion a'i gydgenedl a dianrhydedd a gwarth n Z, yn ngolwg ei wrandawyr ac y mae yn debyg iddo ddechre u ystyi-iod boreu dranoeth fod ei ddywediadau wedi cael cyhoeddus- rwydd mawr. Yr oedd y pregethwr, gan hyny, er mwyn cyflawnder ac anrhydedd, yn rhwym, os gelwid arno, o gymeryd y eyflousdr i cyntaf i egluro ei feddwl, a dyfod a'i dystiolaeth yn mlaen. Yn lie hvny, y mae yn rhedeg i ffwrdd yn bendraimvmv'^I, gan wneyd ymgais aflwyddianus i guddio ei enciliad drwy wneyd esgus "nad oedd egwyddorion na seiliau ei fam ef, oher- wydd eu nodwedd a'u helaethrwyad, yn gyfaddas i golofnau papyr newydd dyddiol;" ond "pan fyddai yn angen- rheidiol, gellid eu mynegu yn llawn." Ond, ai onid oedd yr angenrheidrwydd hwnw yn cyfodi ar unwaith o'r cyhuddiad a wnaeth a chyn belled ag y mae y cwestiwn o gyfaddasrwydd yn myn'd, i chwi fel gol- ygydd y dylid ymddiried y cwestiwn hwnw. Ond esgus gwag a disylwedd yw'r ewbt oil. Gellir enwi unrhyw athrawiaeth Gristion- ogol," pa un bynag ai "canolog" neu beidio, mewn un linell o unrhyw bapyr newydd; a phan ofynwyd iddo ddweyd ar ba sail yr oedd ef yn dwyn y cyhuddiad, nid oedd neb yn disgwyl i'w arglwyddiaeth fyned i'r drafferth o ysgrifenu traethawd. Gall yr Esgob, pa fodd bynag, ddewis ei gyfrwng ei hun. Os dewisa, gall anfon ei "seiliau" i'm dwylaw i, gan mai prin y gellid eu hystyried yn rhai anghyfaddas. Byddent felly mewn lie cyfaddas i fod yn barod i'w cymeryd o dan ystyriaeth ar unrhyw adeg, a byddent hefyd yn sicr o weithio eu ffordd allan i wahanol gylchoedd o gyhoeddusrwydd. 0 leiaf, yr ydwyf unwaith eto yn rhoddi her i'w arglwydd- iaethi ddefnyddio rhyw foddion igyfiawnmiu ei ddywediadau, os gall, o flaen y wlad; tra nad wyf fi fy hunan yn petruso, gan ystyr- ied fy nghyfrifoldeb, i alw y cyhuddiad yn enllib hollol ddisail.—Eich ufudd wasan- aethydd, WILLIAM JAMES. Manchester, Tach. 12, 1892.
[No title]
Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaintan fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yg ddiweCklar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy- a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond j aidd sydd yn hynod o beryglus i iechyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda gofal, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn yn bodoK — Whitehall Review.
[No title]
Torodd y frech wen allan yn Leeds. Eisoes y mae yr ysbytty yn llawn o gleifion. Cri baban am y fron a ddeffrodd fain yn New York pan oedd y ty yn dechreu myned ar dan. Er fod ugeiniau o bobl yn byw yn yr anedd-dy, diolch i'r bychan, ni chollodd neb ei fywyd. ^CDyfeisiodd Ianci hirben gryd nodedig o hwylus mewn tai ffermydd. Gellir suo'r baban i gysgu, a chorddi gydag ef yr un pryd.
YMGVRCH I BEGYVN Y GOGLEDD
YMGVRCH I BEGYVN Y GOGLEDD Nos Lun diweddaf, bu Dr Nansen yn traddodi darlith o flaen y Gymdeithas Ddaearyddol Freiniol ar archwilio yn Mheg- wn y Gogledd. Efe a ddywedodd nas gall- ant dreiddio drwy y rhew. Yr oedd bron mor anmhosibl cerdded ar hyd-ddo; ac ym- ddangosai nad oedd ond un ffordd i gyrhaedd Fogwn y Gogledd; sef, gydag awyren. Ond gan fod pob archwiliad yn Mhegwn y Gog- ledd wedi eu hatal gan geryntoedd o'r gogledd dieithr, efe a gasglai fod yn rhaid fod ceryntoedd yn rhedeg iddynt o rywle. Erbyn hyn, yr oedd digon o brawf fod ync gerynt morawl. Efe a sylwodd fod yno swm mawr o goed Siberiaidd, ac Ameri- canaidd hefyd o bosibl, wedi drifftio gyda'r cerynt. Efe a gredai fod yr ia pegynol ar y dwyrain i Greenland yn dyfod ar y dechreu o'r mor ar ogledd Siberia; a'r cwrs goreu ydoedd cymeryd y cwrs yn y mor lle'r oedd yn rhedeg i'r gogledd, yn rhywle o gwmpas yr ynysoedd Siberiaidd newydd. Ei fwriad ef ydoedd adeiladu llong gref, digon o faint i ddal digon o ymborth i ddwsin o ddynion am bump neu chwe' blynedd. Pan elent mor bell ag y gallent mewn dwfr agored, yna, byddai iddynt redeg i'r rhew, ac ymddiried yn y ceryntoedd ar draws y fro begynol, gan obeithio y caent, yn nghwrs rhai blyn- yddoedd, eu Leario ar draws y pegwn, neu yn agos i'r mor rhwng Spitzbergen a Green- land, yn yr hwn le y byddai iddynt gyr- haedd dwfr agored drachefn, a chyrhaedd adref.