Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

"MERI JOS" A'R CYNGHOR SIROL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"MERI JOS" A'R CYNGHOR SIROL. [AT OLYGYDD Y WERIN."] SYR,—Gwelaf fod "Meri Jos," wrth ad- olygu gweithrediadau y Cynghor Sirol diweddaf, yn gwneyd y cyfeiriadau a. ganlyn attaf fl:- Mi ddeuda i chi at b <vy i ynsynufwua: at y'n haulod ni yn y Felin yma. Yr ydw i yn methu dallt be sy wedi dod drosto fo. J Meddyliais i a llawer arall y basa yn un o'r aeloda goreu i'r gweithiwr, ond dyma fo yn cynyg rhoi y gallu i gyd yn nwylo y syrfeor; ond fod gan ddyn hawl i apelio at y Comiti os caiff o sac, &c., &c." Pell ydwyf, Syr, o feddwl fod "Meri" yn fwriadol yn camliwio y rhan a gymerais yn y drafodaeth hon, nac ychwaith yn amcatiu camarwain etholwyr y dosbarth y mae genyf yr anrhydedd o'u cynrychioli ar y Cynghor. Ond dyma y ffeithiau ynglyn a'r drafodaeth hon:— Nid myfi, ondjy Surveyor's Committee, oedd yn cynyg rhoddi y gallu afresymol yn nwylaw y Surveyor o droi dyn i ffwrdd heb roddi cyfrif i neb pwy bynag am hyny. Teimlai mwyafrif mawr o'r Cynghor—a minau yn eu plith—yn wrthwynebol i'r eithaf i'r gynygiad gormesol. Cynygiodd fy nghyfaill, y Cynghorwr R. W. Griffith, fod y rheol hon i'w throi yn ol i'r Surveyor's Committee i'r dyben o'i chyfnewid, ac ategwyd hyny gan amryw o aelodau y Cynghor. Cyn i hyn fyned i bleidlais, codais i ddatgan fy marn mai gwell fuasai i'r Cynghor there and then settlo y cwestiwn yn hytrach na gadael i'r committee ei drafod eto. Awgrymais mai yr hyn a fyddai yn briodol fyddai rhoddi hawl i bob gweithiwr yn ngwasanaeth y Cynghor i apelio at y Cynghor yn uniongyrchol, neu drwy y Surveyor's Committee, os byddai yn teimlo ei fod yn cael cam oddiar law y surveyor neu unrhyw swyddog arall a osodid uwch ei ben, a gofynais i'r Cynghorwr Griffith a fuasai yn derbyn hyn yn hytrach na'r hyn oedd ef yn ei gynyg. Cydsyniodd ef yn nghyda'i eilydd, y Cynghorwr Brymer, i fabwysiadu y cynygiad hwn, a phasiwyd ef yn unfrydol, heb un llaw o unrhyw gyfeir- iad yn cael ei chodi yn ei erbyn. Canlyniad fy ngwaith yn ymyryd yn y mater hwn ydyw fod gan bob gweithiwr yn awr, ac o hyn allan, yn ngwasanaeth y Cynghor Sirol, sicrwydd y caiff ei achos a'i amgylchiadau ef, pa beth bynag a fyddent, berffaith chwareu teg, gan y gall ef, neu unrhyw aelod o'r Cynghor ar ei ran, ddyfod a'i achos i'r Cynghor i'w benderfvnu yno, a'i wyntyllio yu "wyncb haul a llygad goleuni" os bydd angep. Gall Meri Jos, neu unrhyw etholwr arall yn y sir, ond galw yn swyddfa clerc y County Council yn Nghaernarfon, weled drostynt eu hunain yn y cofnodion, os mynent, "a ydyw y pethau hyn felly ai nad ydynt. Maddeuwcbi mi, syr, am gymeryd cymaint o'ch gofod gyda mater personol mor hynod ddibwys i'r cyhoedd ag ydyw hwn.—Eich I cywir, JNO. HUGHES. Gwyndre, Porthdinorwig, Tachwedd 23ain, 1892.

[No title]

Advertising

" YR HEN GRYD PREN." .--

CATARRH, HAY FEVER, CATARRHAL…

GYWSOCH CHWI \

DYFODIAD Y GAUAF. .F. ..-

[No title]

-'93.

CYNGOR SIROL ARFON A'R GWEiTHWYR.

RHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…

[No title]

LINEN LASTS LONGER,

MEUSIDD AUR Y WLADFAI GYMREIG.I

Y FRECH WEN y WARRING TON.

Advertising

EGOB LLANELWY A'R METHODISTIAID.

[No title]

[No title]

YMGVRCH I BEGYVN Y GOGLEDD