Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
45 erthygl ar y dudalen hon
^ LLITH MERI JOS.
LLITH MERI JOS. Mistar GOLYGUDD,-Wel, wir, mi goelia i fod gynoch i ryw down cownsil biwtiful iawn tua Chynarfon yna. Mae o wedi mynd yn enwog am i fydls erbyn hyn. Mae yna rhw hen air yn rhwla yn deyd na bydd hi byth yn glawio ond yn tywallt; a rhiw farddSeisnag ddendodd, hefyd yn te,ua bydd profedigautha byth yn dwad yn unigol ond yn gatroda gyda'u giludd. Wel, os buo hyn yn wir am rywun, mau o'n wir am d<wn cownsul Cynarfon. Ddyliwn i nad ydyn nhw ddim yn cael i gwynt atyn ar ol i un scol fynd heibio nad oes yna un arall yn dwad ar i gwartha. Ma'n ymddangos fod y browes y mae'ii nhw yni rwan yn un anifyr iawn. Ma'r hospitol clefydon heintus a fildiwyd ar ffordd Waun- fawr wedi i rhoi nhw rhwng dau dan. Ar un law mae y Giardians yn tynu yn groes hefo nhw, ac ar y Haw arall ma y Local Gyfarnment Bord wedi dod i lawr ar i cefna fel Jlwyth o fries, ac ar lawr y ma'r corpor- asiwn druan eto. Ma hyny yn ddigon drwg, ond dydi hyny ddim byd i'r helynt y ma nhw yno fo hefo'u cyfrifon. Dwn i yn y byd mawr ma But y mau gimint o busnes men"—fel y mau nhw yn leicio caul i galw—sydd yn auloda yno wedi gadal i betha fyn'd mor fler. Dydi o fawr iws iddyn nhw rwan feio hwn a-'r Ilall o'r rhai sydd yn i gwasanaeth. Ddon nhw ddim allan ohoni hi ffordd yna, achos y meistr sydd yn gyfrifol sut y mae y gwas yn gwneyd i waith. Mi fuom' yn y dre nos Fawrth, ac wrth dynu sgwrs ag un o'r cownslars am y bord. „ mi gefis alllan un peth doniol iawn i dd^^r^ sut y budd y cownsul °. gwmpas i fusnas. dweutha mi gafodd 11 sydd yn nvsio gas fod y. fet'Xau am rent y mitars yeii codi j-ii ddychrynllyd. Yn lie talu dau swllt y chwarter o rent am y mitar fel arfer, dyma'r Corporasiwn yn mynd i godi saith a chwech ar unwaith heb ddim notis. Wrth gwrs, dydi hyna ddim ond un engrapht, er mwyn gneyd y mater yn blaun, fel y bydda i yn leicio gneyd. Ond yr oudd hyn yn gwyn gyffredinol, ac mi loddodd yr Express gynghor i rai felly i beidip toln y bil am nad oeddan nhw wedi -,caiff n'otis y bydda raid talu mwy. Ac mi ddyliwn fod lot wedi cario allan y cynghor, a thriniwyd eu hachos yn y cownsul dweutha. Yn mhlith y rhain yr oudd Mr M. T. Morris, a'i reswm o oudd nid gymaint yn erbyn talu y swm a ofynid, ond yn erbyn gwaith y cownsul yn i godi o heb roi notis am hyny. Ond at y sylw a wnaeth y maer yr ouddwn i am son fwya. Dyma ddeudodd o, y dyla y rhenti fod wedi caul i codi er's dwy neu dair blynadd yn ol, ac y dyla pob 1 fod yn ddiolchgar nad oudd dim rhaid iddyn nhw dalu yr arers. Os felly, y mae dau beth yn sicr, sef na ddylid codi rhent y mitars heb roi notis am hyny; ac os ydi yn gyfiawn i'w codi yn awr, fod y dre. wedi bod ar i cholled na fasa hyny wedi cael i wneyd er's blynyddoedd. Yroudd un sydd yn gwbod yn dda am weithrediada cownsullCynaIion yn fy sicr- hau nad ydi hon ond cnghrapht fechan i ddangos y steil sydd gynyn nhw o dendio busnas y dre. Nid felly y mau nhw yn edrach ar ol i busnas i hunain. Mau eisio rhyw feddyginiath atyn nhw, a svnwn i ddim na fydd yr mau Mr R. Ll. Jones am gynyg yn cyfarfod nesaf yn rhwbeth yn y cyfeiriad hwnw. Mau gan y tretbdahvyr hawl i fynd i gyfarfodydd y cownsal, yn ol y gyfraith. Dous dim dowt am hyny. Ond y mau Cownsul Cynarfon wedi bod yn ddigon ciwt i fynd i gadw eu cyfarfodydd i rwm mor I fychan fel nad oes yno pr:n ddigon o le iddyn nhw i hunan, ac felly wrth gwrs, nis gall y cyhoedd gaul mynd i fewn o gwbl. Mau Mr R. Ll. Jones am i cyfarfod nhw drwy gynyg fod y town cownsul o hyn allan i gaul ei gynlial yn. y rwm fawr yn y Gild Hoi, ey bydd yno ddigon o le cyfleus i bwy bynag leicith fynd yno i weled drostynt i hunan pa fod i y bydd y gwaith yn caul ei ddwyn ymlaen.
Y PELLSEINYDD.
Y PELLSEINYDD. Dywedir mai y pellseinydd rhwng New York a Chicago yw yr hiraf yn y byd; y mae yn 950 o filldiroedd o hyd. Er hyny gellir siarad trwyddo yn hollol ddi-drafferth \ond rhaid talu 9 dollars am gael ei ddefnyddio Nn bum' munyd. Bydd i'r teclyn hwnw rNjsgu pobl i geisio crynhoi llawer o feddwl ^Ntfig eiriau.
pDi CRH E' GWAITH¡
pDi CRH E' GWAITH ¡ Trwy y chweched waith, daeth un Cali°onVNorwich, Pa, yn llysfam i Ijump a deugafcT b]ant> yr oedd ei gwr cyntaf yn TSrda'phump o blant, yr ail gyda chwech, gydjfphumpj y ped- ?^|^||ed saith, a'r chweched driarddeg. Go ^fitfawr, meddir, na4 oedd ond trx o r l i ddyiod dan ei gofaJ. Ni chafodd y un plentyn ei hun, ond magodd ddeg arjt^^ q,. blant. Daefch i feddi int o da phob gwr, felly nid am ddim y llaiaj^|^ r
ETHOLl1\.D A.Bri.1<'U 1
ETHOLl1\.D A.Bri.1<'U 1 Cymer etholiad le heddyw (ddydcl wrn) oherwydd ymddiswyddiad P. mont (R), yr aelod Seaeddol dros ddwyi einbarth Aberdeen. Ddydd Llun cafodd Mr T. Ryburn Buchanan (R) a'r Milwriad F. S. Russell (R.U.) eu henwi. Yr oedd mwyafrif y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad cyffredinol yn 1,624,
Mygu 80 o bersonau.
Mygu 80 o bersonau. Adroddir am ddygwyddiad echrydus a gymerodd le yn ages i Quang Huyea, yn Tonquin. Yr oedd ysbeilwyr wedi cipio tua pliedwar ugain o ferched a phlant ac wedi eu feludo i'r mynyddoedd., Rhoddasant hwy mewn ogof er eu eadw yn ddyogel hyd nes y derbyniai y lladron arian am eu gollwng yn rhyrtd. Pfurfiwyd ymgyrch filwrol i fyned yn eu herbyn gan yr awdur- dodau. Pan glywodd yr ysbeilwyr hyny, cauasant yr ogof i fyny yn dyn, a goleuas- ant danau charcoal ynddi, fel y cafodd y pedwar ugain eu mygu.
tori Tmoo PRIODAS.
tori Tmoo PRIODAS. Dyfarnwyd i Sophia Hethena, merch i fasnachwr yn byw yn Port Said, yn Mrawd- lys Manceinion, ddydd Mawrth, l,350p o iawn mewn cynghaws o dori amod priodas a ddygod 1 yn erbyn Eliahoo Joseph, mas- nachwr yn Manceinion. Y mae'r ddau yn Iuddewon ac yn frodorion o Bagdad. Yn ol defod yr. Iuddewon gwnaed y dy- weddiad yn Port Said, a gwrthodai y di- ffynydd fyned trwy unrhyw ddefod arall: dyna barodd y cynghaws.
.; YMOSODIAD PENFFORDD AR…
YMOSODIAD PENFFORDD AR I FANCER. I Cafodd yr heddgeidwaid hysbysrwydd am ladrad penffordd beiddgar a gymerodd le ¡ rhwng Stonehouse a Larkall, yn Ysgotland, brydnawn Sadwrn. Dychwelai Mr Cunning- ham, goruchwyliwr Ariandy Undebol Ysgot- land, adref o Stonehouse, yn mha le y b dd yn arier al hn1" 1 11 i n »— uiixflil Ji" gaughen yno. Tra yr oedd yn gyru yn araf i fyny allt, rhuthrodd dau ddyn o'r gwrych, ac ymosodasant arno ef a'i glerc. Yr oedd mwgwd ar wyneb y ddau leidr, ac yr oedd ganddynt lawddrvlliau. Gafaelodd un yn mhen y ceffyl, ac aeth y llall i fyny i'r cerbyd. Gan ddal llawddryll yn wyneb Mr Cunningham, dywedodd, "Rhoddwch yr aur i mi, neu ynte fe fyddwch yn gorph marw mewn munyd." Gwrthwynebai y bancer, a gallodd dynu y mwgwd oddiar wyneb y lleidr, ond daeth y Hall i fyny, a chymerodd feddiant o'r god a gynwysai yr arian a'r papyrau, a diangodd y ddau ymaith. Dychwelodd Mr Cunningham i Stonehouse, ac aeth lluaws o heddgeidwaid i chwilio y wlad am y lladron. Yn ddilynol cytnerwyd y ddau i fyny ar amheuaeth, a dygwyd hwy o flaen, yr ynadon. Gohiriwyd y prawf.
[No title]
Hysbysir yn swyddogol fod Mr J. T. Balfour, A.S., un o gyfarwyddwyr Cym- deithas y Liberator, wedi ymddiswyddo fel cyfarwyddwr Cwmniau Rheilffordd y ¡ Merswy. 4 AI
BARNWR YN MARW YN Y LLYS-I…
BARNWR YN MARW YN Y LLYS- BoreuJIau,pan ar fin agor Ilys y manddyled- ion yn Bristol, syrthiodd y bamwr Metcalfe yn wysg ei gefn i gadair, a bu farw yn y fan, cyn i feddyg ailu cyrhaedd yno. Yr oedd yn wael ei iechyd er's amryw wythnosau, a bernir iddo farw o glefyd y galon. Yr oedd yn 74fmlwydd oed, ac wedi ei benodi yn farnwryn 1879..
OFN TLODI. j
OFN TLODI. j Cyrhaeddodd Ffrancwr ieuanc New York gyda 15,000 o ffranciau yn ei feddiant, oncl gwrthodwyd iddo lanio am nad oedd yn dda ei iechyd, rhag iddo fyned yn faich ar y wlad." Rhaid fod y "wlad" yn bur; wan. I
fMENIS AMHUK.
fMENIS AMHUK. Yn Wigan cyhuddwyd masrachwr o werthuymenyn wediei gymysgu a margarine. Cafodd ei ddirwyo i ugain punt.
RHYNU I FARWOLAETH.
RHYNU I FARWOLAETH. Bu Mr Floyd, peirianydd adnabyddus, farw yn ngorsaf Croydon, tra yn aros y o gerbydres i mewn. Yr a-chos o'i farwolaeth oedd gerwinder yr bin yn effeithio ar ei galon, yr hon oedd yn wan.
YSMOU DMiUD
YSMOU DMiUD Yn heddlys Rugby cyhuddid Hubert Baker, teithiwr inasnachol, o ysmocio mewn cerbyd rheilffordd nad ydoedd wedi cael ei neillduo i hyny, er fod cyd-deithiwr iddo yn protestio yn erbyn iddo wneyd hyny. Gor- chymynwyd iddo dalu op 14s, yn cynwys y 3m costau.
Y BDIRPIlWi AETH ~ LAFUR.
Y BDIRPIlWi AETH LAFUR. Mae yr oil o'r tystion y bwriedir gwrando eu tvstiolaethau gan y Ddirprwyaeth Lafur wedi cael eu holi, oddigerth Mr Giffer, yr hwn a rydd ei dystiolaeth ar y 24ain o lon- awr. Er pan ei hapwyntiwyd yn 1891 y mae rhif holl eisteddiadau y gwahanol adranau yn 152, trayr holwyd 566 o dystion.
Dili W1 0 500 GINI.
Dili W1 0 500 GINI. Wrth agor y brawdlys yn Winchester, galwodd y Bamwr Collins sylw at y ffaith fod Syr H. Tiehborne, yr uchel sirydd, yn absenol. Cafodd a,llan ei fod wedi myned i Affrica, pryd y dylasai fod yn y brawdlys yn cydawni ei ddylcclswyddau swyddogol. Gan hyny, yr oedd er, ar ol ymgynghori a'r barnwyr ereill, wedi penderfynu ei ddirwyo i bu,n' can' gini am esgeulusdra.
CI HITS>DIAD 0 "iWGRWOBR-I…
CI HITS>DIAD 0 "iWGRWOBR- WYO YN NGWREOAM- Yn heddlys Gwreesam cyhuddwyd Thos. Ward o fod wedi eeisio llwgrwobrwyo ethol- wyr yn ystodetholiad y cynghor trefol yn y dref hono. Codwyd gwrthwynebiad i'r modd yr oedd y wys wedi cael ei geirio, ond wedi dadl faitn, aed yn mlaen gyda'r achos. Rhoddwyd tystiolaeth fod y diffynydd wedi rhoddi chwe cheiniog yr un i aniryw ethol- wyr y diwrnod y cymerodd y pleidleisiad le. Gohiriwyd yr achos am wythnos.
0 GYFOETH I DLODI.
0 GYFOETH I DLODI. Yn llys manddyledion Llanelwy gwys- iwyd hen wr o'r enw Mahoney am beidio talu 4p dyledus arno. Cafwyd allan fod yr hen wr unwaith wedi bod yn uchel sirydd Kerry, yn yr Iwerddon, a'i fod yn 1874 yn werth 20,000p. Erbyn hyn yr oedd wedi colli ei eiddo, ac nid oedd ganddo yn awr ddim i'w wneyd ond byw ar garedigrwydd ei gyfeillion. Rhoddwyd tri mis iddo i dalu y 4p.
TELYN CYMRUFU.,
TELYN CYMRUFU. Pa lamae telyn Cymru fu Yn lloni meibion unol, I wisgo arfau dros eu gwlad Rhag rhuthr brad estronol ? Gorchfygu'n llwyr neu farw'n llu, Oedd arwydd-air hen Gymru Fu. Daeth llengoedd Csesar dros y mor, 0 fwriad i ysbeilio, Ond bu'r Prydeiniaid iddynt hwy Yn ddwfn glwy' i'w gofio; Y derwydd law mewn derw lwyn A daniai faws a'i delyn fwyn. Pan gofiwn hen wroniaid gynt, I Y dewrion filwyr beiddiol 0 dan Llewelyn, lywydd doeth A'i finiog gledd arswydol; Y delyn ber a'i thanau byw, A eiliai Iwydd ein holaf Ly w. Mae telyn Cymru eto'n fyw, A thynion yw ei thanau; A gall ymffrostio yn ei hiaith Drwy ysol daith yr oesau; Er brwydro'n hir a bradwyr hon, Mae'n wych o bryd a iach ei bron. Fe gochwyd llawer maes a g-,vaecl, Sef gwaed ein tadau gwrol; Ymladdent dros eu gwlad a'u hiaith Rhag anrhaith Uu gormesol; Tra lloer y nos ac haul y dydd, Cymraeg fo'n fyw i Gymru Fydd. LLA WDDOG.
Advertising
COCOA CADBURY.-Dyma'r Coosa syddyn eddianol ar adnoddixu cnawd-gynyrchiol ac yn rosglwyddo nerth a gryiaueder arosol.—Health
LINEN LASTS LONGER,
LINEN LASTS LONGER, Radiant in its whiteness! Delightful in its sweetness! And will keep much longer clean when soaked and hashed in a foaming lather of HUDSON'S DRY SOAP. Hudson's preserves the most delicate lawns, laces, muslins and fine underwear from injury, and it will not fray cuffs or jag collars. "Try a packet, you'll never lack it'
[No title]
Gwariodd dau araaethwr dri chant o ddo- yn cyfreithio am fochyn gwerth dwy "dolar, ac y mae rheilffordd wedi dechreu cynghaws am 15c yn erbyn dyn wrthododd dalu am na chafodd le i eistedd yn y cerbyd
! NEWYN ARALL YN RWSSIA-
NEWYN ARALL YN RWSSIA- Yn herwydd methiant y cnydau, mae y trigolion mewn amryw barthau o Rwssia eto yn y drws agosaf i ddyo idef eisiau; a gwneir apeliadauvat y Llywodraeth am arian i ddarparu bwyd i'r bobl.
YSTORMYDDMAWIUON 0 EIRA. I.
YSTORMYDDMAWIUON 0 EIRA. I Cafwyd cafodydd mawrion o eira mewn amrywiol barthau o'r deyrnas ddydd Llun. Bu gweithiwr farw yn Bolton o achos y tywydd. oer. Aeth gof a'i enw Samuel Haslam, 46 mlwydd oed, drwy yr ystorm i weithdy Mri Wonds, ac yn fuan ar ol cyahaedd yno tua chwech o'r gloch syrthiodd i lawr a bu farw. Bernir. mai yr oerni yn effeithio ar galon wan a achosodd ei farwolaeth.
Y FICER A'I DDARLUNIAU.
Y FICER A'I DDARLUNIAU. Gwysiwyd y Parch Andrew M'Laghen, ficer Eglwys St Andrew, Clapton Park, yn Llys Ynadcl Bow street, am wrthod talu ¡ lp 18s, gwerth darluniau yr oedd wedi eu herchi. Yn un o'r darluniau yr oedd y gwr parchedig yn sefyll o flaen ei gynulleidfa, I tra yr oedd darlun arall wedi ei dynu o an- erchiad a gyflwynwyd iddo. Gorchymyn- odd y llys ei fod i dalu yr hawl a'r costau yn I ol lp y mis:
---_------------MR GLADSTONE.
MR GLADSTONE. Er fod cnwd o eira wedi disgyn, a'r tywydd yn anffafriol ac oer, aeth Mr Gladstone i'r eglwys foreu Llun fel arfer.
STANLEY AM FYNED I'R SENEDD.
STANLEY AM FYNED I'R SENEDD. Ar ol cael curfa yn North Lambeth, Llun- dain, yn yr etholiad diweddaf, y mae Mr H. M. Stanley wedi cydsynio i ymladd eto dros yr achos Undebol yn yr un etholaeth pan ddaw etholiad arall.
DIANGFFoYFYNU I AGERLONG FAWR.
DIANGFFoYFYNU I AGERLONG FAWR. Cafodd yr agerlong fawr lythyr-gludawl Spree ei harwain i Queenstown yn hwyr brydnawn Sadwrn ar ol cyfarfod a. damwain ar y 26ain cynfisol. Yr oedd y Hestr yn rhwym o Southampton a Bremen am New York gyda 506 o deithwyr, 247 o ddwylaw, a 405 o lythyr-godau; ac ar y dyddiad a nod- wyd, pan oddeutu wyth gant o filldiroedd allan o Queenstown, torodd y prif shaft mewn canlyniad i waith un o'r peiriannau yn tori twll yn ngwaelod y llong,rhanau o'r hon wedi hyn a lanwyd o ddwfr. Wedi llawer o ymdrechion llwyddwyd i dynu sylw ager- long fawr arall, gan yr hon y cymerwyd y Spree i Queenstown. Parodd yr amgylchiad ddychryn anarferol yn mhlith y teithwyr. Aeth dwy ddynes yn wallgof, a chyflawnodd un dyn hunanladdiad trwy neidio dros y bwrdd. Yn mysg y teithwyr yr oedd Mr Moody, yr efengylwr enwog.
CYHUDDIAD HYNOU YN ERBYN TAFARNWRAIG.
CYHUDDIAD HYNOU YN ERBYN TAFARNWRAIG. Bu ynadon Bangor am rai oriau ddydd Mawrth yn gwrando achos tra hynod, yn yr hwn y cyhuddid Mary Jane OLley, diweddar o'r Manchester Arms, Bangor Uchaf, o werthu gwirodydd heb drwydded. Erlynid gan Mr R. A. Griffith ar ran Mr William Jones, cynrychiolydd cymdeithas ddirwestol leol. Mr H. Lloyd Carter a amddiffynai. Aeth Mr Griffith yn inlaen i egluro fod y drwydded yn cael ei dal ar y dechreu gan fam y diffynydd, ond bu hi farw yn Mehefin diweddaf. Cariwyd y fasnach yn mlaen gan y ferch, ond yn mis Awst adnewyddwyd y drwydded yn enw y fam. Yn Medi rhoddodd y diffynydd rybudd y byddai yn _Um_lbi "■» j J' "j ilrtr'T efthr yny llys dang- osodd arolygydd yr heddgeidwaid ei bod eisoes wedi ei hadnewyddu yn enw y fam, ac felly ni wnaed dim pellaeh gan yr ynadon. Erbyn hyn, sylwai Mr Griffith, yr oedd enw Mrs Otley wedi ei groesi allan o'r certificate a ganiatawyd yn Awst, ac enw y diffynydd wedi ei roddi yn ei le, a dadleuai nad oedd y papyr yn ddim amgen na thwyll. Ar y Haw arall, dadleuai Mr Carter mai anwiredd ydoedd hyn, a chyfeiriodd at y ffaith na thybiodd yr heddgeidwaid yn werth i erlyn yn yr achos. Heb ddatgan barn ar deilyng- dod yr achos, penderfynodd y fainc y dylasai yr erlynydd fod wedi cymeryd gwys o natur arall allan.
[No title]
Cynygid pin dur neu gwilsyn i Mr Glad- stone i arwyddo y rheetr yn Lerpwl gydag ef. Y cwilsyn a ddewisodd. m •• 'hrf Ni bydd y Chineaid byth yn rhoddi llaeth yn eu te. Gwaherddir Ymherodres China gan y gyfraith i fyned y tu allan i erddi y palas brenhinol.
DIRPRWYAETH Y TEJtANTIAID…
DIRPRWYAETH Y TEJtANTIAID GWYDDEUe. Cafodd y Ddirprwyaeth hon, ar ddiwedd eisteddiad dydd Mawrth, ei gohirio am am- ser anmhenodol. Gwneir y dyddiad yn hysbys eto.
MARWOJJAETH YR ESGOB. WORDSWORTH.
MARWOJJAETH YR ESGOB. WORDSWORTH. Bu'r Esgob Wordsworth, St. Andrew's, farw nos Lun, yn 87 mlwydd oed. Yr oedd yn nai i'r bardd enwog Wordsworth. Pan yn athraw yn Ngholeg Eglwys Crist, Rhyd- ychain, bu Mr Gladstone yn un o'i ddisgybl- ion. Cymerai ran amlwg yn ngweithred- iadau yr Eglwys Ysgotig, ac yr oedd yn un o'r rhai fu yn gwneyd y eyfleithiad diwyg- iedig o'r Testament Newydd.
LLEIDk CYFRWYS.
LLEIDk CYFRWYS. Cafodd lleidr yn Paris helfa dda un pryd- nawn yn ddiweddar drwy gymorth y pell- seinydd. Galwyd ar geidwad gwesty at y telephone, pryd yrhysbyswyd ef gan ddyn a gymerai arno ei fodyn siarad o swyddfapen- aeth yr heddgeidwaid, y byddai i leidr oedd yn 'cael ei wylio gan yr heddgeidwaid alw gydag ef yn mhen ychydig funydau, gan hawlio ugain punt o iawn am rywbeth neu gilydd. Cyfarwyddwyd y gwestywr i dalu yr arian, ac yna y byddai i'r heddgeidwaid gymeryd y dyn i'r ddalfa can gynted ag yr elai i'r ystryd. Daeth y dyn ato, a chariwyd cyfarwyddiadau y "swyddogion heddgeid- wadol" allan i'r llythyren, ac yr oedd y lleidr ugain punt yn gyfoethocach yn myned J allan na phan y daeth i mewn, ond ni chymerwyd ef i'r ddalfa. Bernir mai y lleidr ei hun a siaradai drwy'r pellseinydd, a'i fod yn perthyn i'r eddlu.
.C Y FERB YNIAD. ---
C Y FERB YNIAD. Y MARCHW AS FFO»US. Y mneillduodd Mr W. Morton, yr hwn a fu am 32 mlynedd yn gofalu am feirch ei Mawrhydi yn Buckingham Palace,' o'i wasanaeth. Bydd iddo dderbyn y swm taclus o 300p y flwyddyn i fyw ar- nynt. Anrhegwyd ef hefyd a chan, punt a Hestri arian gan aelodau y teulu bren- hinol. Dyna'r modd y gwneir i weision teuluaidd ei Mawr- hydi. Y GWRON AN- FFODUS. Dyma'r modd yr ymddygir at y gwr- oniaid gollasant eu. gwaed dros eu gwlad -Yn mhentref Hol- beach, trig William Slator, yr hwn a fu yn ymladd yn mr wy dr Navarino, ac a glwyf- wyd yno. Y mae bron yn 95 mlwydd oed. Pan drowyd ef o wasanaetheiMawr- hydi eaniatawyd iddo y swm mawr o chwe' cheiniog y dydd am un flwyddyn. Y mae ef a'i wraig yn awr yn byw ar ychydig gein- iogau a gant gan y plwyf. l" A
DYRCHAFIAD I MR T. ELLIS,…
DYRCHAFIAD I MR T. ELLIS, A.S. Hysbysir yn y London Gazette-newydd- iadur swyddogol y Llywodraeth—am bryd- nawn Mawrth, fod ei Mawrhydi wedi apwyntio Mr T. E. Ellis, A.S., ynbedwerydd aelod o Ddirprwyaeth yr Elusenau, dros Loegr a Chyrnru. Mae yr apwyntiad yn un dros oes. Ni bydd y pedwerydd aelod yn derbyn cyflog, ond yr arferiad ydyw mai efe gaiff ei benodi pan y cymer gwagle Ie yn y swyddauy mae cyflog yn perthyn iddynt. Telir i'r trydydd dirprwywr 1200p y flwydd- yn; i'r ail, 1,500p; tra y derbynia y prif j aelod 2,000p, a chan punt at dalu cyflog ys- grifenydd cyfrinachol.
PUM' CENHEDLAETH MEW NI TEULU.
PUM' CENHEDLAETH MEW N I TEULU. Hysbysir am deulu o Blackburn yn mha un y mae pum' cenhedlaeth yn fyw. Dyma eu henwau a'u hoedran:—Mrs Ann Walker, 97; Mrs Ann Gelder, 66; Mrs Mary Black- burn, 46; Mrs Susannah Ellison, 23; Miss Susannah Ellison, 2.
PREGETRWYR YR AMERICA.
PREGETRWYR YR AMERICA. Gyda phob parch i dalentau disglaer yr efengylwvr fu yma o'r Hen Wlad yr haf diweddaf, ni raid i Gyiury America gywil- yddio arddel eu pobl eu hunain. Y mae yn y pwlpud Cymreig yma gystal pregethwyr a neb ddaeth o Gyinru; a ehredwn fod safle gyfartal y weinidogaeth yma yn Hawn mor anrhydeddus ag yw yn ngwlad ein tadau, er cydnabod ei bod yno mor uchel ag erioed. -Drych.
Y PABYDDI0N FEL YMNEILLDUWYR.
Y PABYDDI0N FEL YMNEILL- DUWYR. Mae y Tyst yn synu at yr ysbryd erlid- gar sydd wedi ei ddangos at Knill, ( Arglwydd Faer newydd Llundain, ac^ yn j dweyd ybydd i'r "ymdrcch ddiddi-wedd a wneir i gymell Ymneillduwyr i fod yn bresenol yn ngwasanaeth yr Eglwys Sefyd- ledig yn sicr, o ddiweddu yn nghwymp y Sefydliad." FeHy rhestrir y Pabyddion yn mysg yr YnineiHduwyr. Ni arferid gwneyd yn yr hen amser.—Drych.
Y DDAMWAIN YN THIRSK.
Y DDAMWAIN YN THIRSK. Prawf y Signalman. Yn Mrawdlys sir Gaerefrog, ddydd Llun, cyhuddwyd James Holmes, signalman, o ddynladaiad, drwy ei esgeulusdra yn nglyn a'r ddamwain yn Thirsk. Galwyd tystiol- aethau yn nilaen i brofi fod y carcharor wedi cysgu tra wrth ei waith. Gwnaeth ei gyfreithwyr gyfeiriad effeithiol at y ffaith fod Holmes wedi gwneyd cais i gael ei es- gusodi rhag myned at ei waith, gan fod ei blentyn bach wedi marw ac yntau wedi colli ei gysgu. Cafodd y rheithwyr ef yn euog o ddynladdiad, ond gollyngwyd ef yn rhydd ar yr amod ei fod i dd'od yn mlaen i dder- byn ei ddedfryd os y gelwir arno.
Advertising
-T- I (- tr *v -w 'w *w Tr ? .HIGHEST HONORS H. Colci Medals, A t all the Great Special Certificates of hhltt Exhibitions of the World. a Wm WW i\ r PROFESSOR i SOAP MAKERS & Liiiton I Sir Erasmys Wifson t v r Late President of the p 1 A i I RoyalCuligc of i>uri;czns, England. |-c -r y yA /-v /->I 4~ t~ From time to time I have ,rrfasoo?r special appointment sssiss ,s certainly ca.cma.ea to pre- J 1 « • 1 1 careful observation in' many serve the skm m health, to TO thousands of cases, both in maintain its complexion and hospital and private practice, Ir^rp^ir! vv:. ;■ her majesty j Of th« 0. xn.b.,a«t, FTBiTI Mr Time and more extended tr?;ds PEARS'SOAP an article 9 B| M have only served to ratify this | J I of the niccsi anc! most careful I |H ET "W AhQ flH WB'JB 8| ji*eeiSB ra opinion which 1 first expressed | 'I manufacture, and or.e of the j Wk M M & Jb JSff M M jl J M f upwards of ten years ago, and j [ of°babns fo^'Svs^iSn." j A A A | thlsadSfebie pre'?-1 | | | his koyal highness the { I Prince Of Wales. I ¡ r: a-, r: i Waal== '1 C I -u" ( j f J II ¡ I J I. t t I ii J, 1 i I' '¡ I I it. I nit, JW ll.llllll, I. ■ .11 II II Millll .Ml -M|| J w: —- I-11.1 ,L f 4 YO .a 0. • r ki i
DYN 0 G-TERNARFON AR (OLL.…
DYN 0 G-TERNARFON AR (OLL. ( Teimlir pryder mawr yn nghylch dyog- elwch John Davies, hen lane 45 mlwydd oed, a drigai yn y Belan, ger Caernarfon. Yr oedd yn y dref tua naw o'r gloch nos Sad- wrn, a bu yn prynu nwyddau mewn gwa- hanol fasnachdai, a bernir iddo gychwyn tuag adref mevm cwch ei hunan. Ni wel- wyd y dyn bytli ar ol hyny, as ofnir ei fod wedi cyfarfod a dyfrllyd fedd. Cafwyd hyd i'r rhwyfau, y llyw, yr hwyl a'r hwylbren a berthynai ifr eweh oedd ganddo, ond ni chafwyd y cwch ei hun yn unman.
I':-1 LLANRIJG. ,
LLANRIJG. Marwolaetii Mr Eicrard OWEN. TYDD". -U-iwr,Bhn genym ddeall fod y boneddwr uchod, adnabyddus drwy'r holl gylch. wedi marw ddydd Mawrth, ar 01 cystudd byr o dricliau dan y pleurisy. Cymer y gladdedigaeth Ie 2 o'r glocb, pryd- nawn Sadwrn, yn mynwent Bethel, o'r hon eglwys yr oedd yn ddiacon ffyddlawn.
TAN YN SOMERSErr HOUSE.
TAN YN SOMERSErr HOUSE. Tuag un ar ddeg boreu Mawrth torodd tan allan yn un o ystafelloedd Somerset House, Llundain, He y cedwid nifer fawr o bapyrau yn dwyn pei-thynas a threth yr incwm.
| ANHAWSDER C1FRE1THI0L.
ANHAWSDER C1FRE1THI0L. Yn un o ddinasoedd yr America y mae anhawsder cyfreithiol pur hynod. Cweryl- odd sirydd a dyn yn ddiweddar, ac yn y diwedd lladdodd ef, ac yn awr y mae yr awdurdodau yn awyddus i'w roddi ar ei brawf. Gwrthoda roddi ei swydd i fyny, fel os ceir ef yn euog y bydd raid iddo ddi- enyddio ei hunan. Nid yw yn debyg y bydd iddo roddi y boddlonrwydd hwnw i'r gyfraith.
LLADRATA OWNS 0 DYBACCO.
LLADRATA OWNS 0 DYBACCO. Yn Llys Ynadol Bangor ddydd Mawrth, gwrandawyd achos anghyffredin. Cyhudd- wyd Elias Davies, cyfrifydd, Bethesda., o ladrata owns o fyglys o fasnachdy Robert Evans, eillydd o'r un lie. Hysbysid ddar- fod i'r diffynydd gymeryd y myglys o gwphwrdd yn y masnachdy, ac aeth yno wedi hyny i gael ei eillio, pryd y cyhudd- wyd ef o'r lladrad. Gwadodd y diffynydd y cyhuddiad, ond yn ddilynol dywedid ddar- fod iddo fyned i'r masnachdy a gosod y myglys o dan fainc yn nghanol pentwr o bapyrau. Ar ran y diffynydd, ceisiodd Mr Twigge Ellis ddangos yr anhebygolrwydd o fod person o safle y diffynydd yn euog o ladrad mor eithafoi ddibwys. Gofidiai y fainc nas gallent ond ystyried fod yr achos wedi ei brofi. Rhaid fvddai i'r diffynydd s ymddangos o flaen y Ifys pan elwid arno, a gorfodid ef hefyl i dalu y costau.
[No title]
hyd mis Mawrth, ac os parha y clirwasgia-I rhoddant hwythau ostyngiad cyffelyb. # Darfu i'r Bamwr Charles dymherucyfiawn- der gyda thrugaredd pan y gadawodd i Holmes, y signalman a fu yn achos.1 o'r ddamwain ddifrifol yn Thirsk, fyned o'r llys yn ddigosb. Yn unol a'r gyfraith nis gallai yrheithwyrwneyd yn amgen na dwyn yn mlaen reithfarn o Euog yn ei erbyn, "h ond yr oedd o fewn gallu y Barnwr i gym- eryd i'r cyfrif yr amgylchiadau a arweiniodd .Yl i hyny. Er hyny i gyd, bydd y syniad iddo fod yn achlysur i ddeg o bersonau goili eu bywydau yn gosb drom i'r dyn ei dwyn' weddill ei oes. Diau y bydd i'r ffeithiau a ddaeth i'r golwg yn nglyn a'r ddamwain hon, beri i gwmniau y rheilffyrdd berffeithio eu trefniadau fel na fyddo rhaid i ddynion tra yn anghymwys i gyflawni eu dyled- swyddau pwysig yn y signal boxes fyned at eu gwaith yn groes i'w dymuniad.