Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

19 erthygl ar y dudalen hon

Bhamant Genadol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bhamant Genadol. Tua'r flwyddyn 1850, cychwynodd cwmni o deithwyr, cynwysedig o nifer o ddynion ieuainc, o Damascus gyda'r bwriad o gyfeirio eu ffordd at Jerusalem. Nid oeddynt wedi myned ya mhell pan yr ataliwyd hwy gan gwmni o wyr arfog ar fgeffylau, y rhai a hawlient un o honynt—Cymro ieuanc o'r enw Randall. Dywedent y gallai y gweddill fyned yn mlaen os rhoddid ef i fyny iddynt, ac addawent na wneid un niwaid iddo. Caniatawyd eu cais, a dodwyd Randall ar geffyl hardd, a chymerwyd ef i babell y penaeth (Dedhouin Skeik). Yno yr oedd gwledd ardderchog yn ei ddisgwyl, ac eglurhad ar yr hyn oedd o'r blaen yn ddirgelwch iddo. Yr oedd merch y penaeth wedi gweled Randall, ac wedi syrthio mewn cariad kg ef, a hon oedd y wledd briodas. Nid oedd dim iddo i'w wneyd ond cydsynio a'r trefniadau, oblegyd yr oedd dianc allan o'r cwestiwn. Am flynyddau gwylid ef ddydd a nos. Ymddangosai, modd bynag, yn hapus a llwyddianus yn ei gysylltiadau teuluaidd, a bendithiwyd ef a nifer o blant. Yn fuan dysgodd iaith yr Arabiaid, a dysgodd ei wraig Saesneg, a gallai y plant siarad y ddwy. Yr oedd Randall er yn ieuanc wedi mab- wysiadu crefydd ei fam, yr hon a berthynai i'r Bedyddwyr, ac yr oedd ef ei hunan wedi ei fedyddio cyn gadael Cymru i fyned am daith i'r dwyrain. Pan y gorfodwyd ef i briodi merch y penaeth, gwna.eth hi yn amod fod i'r penaeth a'i deulu dderbyn ei grefydd ef. Yn fuan daeth ei wraig yn Gristion, a dygwyd y plant i fyny yn y ffydd Gristion- ogol. Ar farwolaeth ei dad-yn-nghyfraith daeth un o'i feibion ef yn benaeth y Ilwyth, a daeth yr holl lwythau cylchynol yn ffafriol i'r grefydd newydd, ac ymunasant i'w ham- ddiffyn. Mae y plant wedi eu haddysgu yn egwyddorion y grefydd Gristionogol, ac y mae amryw wedi arwyddo eu crediniaeth ynddi trwy gymeryd eu bedyddio. Mae y MahometanMid wedi erlid y Cristionogion, ond nid ydynt eto wedi gallu atal cynydd y givaith. -Newyddion Da.

HELWYE ANFFODUS.

DYFODIAD Y GAUAF.

Advertising

AT AMAETHWYR MON AC ARFON.

GWERS DDA. -

[No title]

Advertising

Cyfoeth Jay Gould.

Dlangla Gyfyng i LUwyr.

- -GYW80CH CHWI

EHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…

[No title]

_.-----.>93.1 -.1

[No title]

----__..,.---SEDD SYR PRYCE-JONES,I

Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer-…

Baal y Bel Droed. ---.-

Advertising