Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
19 erthygl ar y dudalen hon
Bhamant Genadol.
Bhamant Genadol. Tua'r flwyddyn 1850, cychwynodd cwmni o deithwyr, cynwysedig o nifer o ddynion ieuainc, o Damascus gyda'r bwriad o gyfeirio eu ffordd at Jerusalem. Nid oeddynt wedi myned ya mhell pan yr ataliwyd hwy gan gwmni o wyr arfog ar fgeffylau, y rhai a hawlient un o honynt—Cymro ieuanc o'r enw Randall. Dywedent y gallai y gweddill fyned yn mlaen os rhoddid ef i fyny iddynt, ac addawent na wneid un niwaid iddo. Caniatawyd eu cais, a dodwyd Randall ar geffyl hardd, a chymerwyd ef i babell y penaeth (Dedhouin Skeik). Yno yr oedd gwledd ardderchog yn ei ddisgwyl, ac eglurhad ar yr hyn oedd o'r blaen yn ddirgelwch iddo. Yr oedd merch y penaeth wedi gweled Randall, ac wedi syrthio mewn cariad kg ef, a hon oedd y wledd briodas. Nid oedd dim iddo i'w wneyd ond cydsynio a'r trefniadau, oblegyd yr oedd dianc allan o'r cwestiwn. Am flynyddau gwylid ef ddydd a nos. Ymddangosai, modd bynag, yn hapus a llwyddianus yn ei gysylltiadau teuluaidd, a bendithiwyd ef a nifer o blant. Yn fuan dysgodd iaith yr Arabiaid, a dysgodd ei wraig Saesneg, a gallai y plant siarad y ddwy. Yr oedd Randall er yn ieuanc wedi mab- wysiadu crefydd ei fam, yr hon a berthynai i'r Bedyddwyr, ac yr oedd ef ei hunan wedi ei fedyddio cyn gadael Cymru i fyned am daith i'r dwyrain. Pan y gorfodwyd ef i briodi merch y penaeth, gwna.eth hi yn amod fod i'r penaeth a'i deulu dderbyn ei grefydd ef. Yn fuan daeth ei wraig yn Gristion, a dygwyd y plant i fyny yn y ffydd Gristion- ogol. Ar farwolaeth ei dad-yn-nghyfraith daeth un o'i feibion ef yn benaeth y Ilwyth, a daeth yr holl lwythau cylchynol yn ffafriol i'r grefydd newydd, ac ymunasant i'w ham- ddiffyn. Mae y plant wedi eu haddysgu yn egwyddorion y grefydd Gristionogol, ac y mae amryw wedi arwyddo eu crediniaeth ynddi trwy gymeryd eu bedyddio. Mae y MahometanMid wedi erlid y Cristionogion, ond nid ydynt eto wedi gallu atal cynydd y givaith. -Newyddion Da.
HELWYE ANFFODUS.
HELWYE ANFFODUS. Alaw,—" Up in the morning." Tra'r grug yn eu blodau, a'r gwair ar y llawr, Aeth bechgyn. i hela ar doriad y wawr, Drwy'r rhosydd a'r mwswg, a glynoedd a phant, Ond buan codasant iar ddwr yn y nant. Y cynghor doeth cu A gawsant yn hy' Wrth gychwyn y borau o balas y Waen Oedd dal pob helwriaeth gyfodai o'u blaen. Hwy ddringent y mynydd heb groesder na dig, A'r awel chwareuai holl glychau y grug Hwy lament y corsydd yn fanwl a mwyn, Gan 'sgubo y gwlithos o'r rhedyn a'r brwyn Y c?j*nghor doeth cu, &c. a Cyn hir cododd ceinach yn sydyn o'u blaen, A'i saethu a wnaethant ar wastad y Waen Ond erbyn myn'd ati, er siomiant tra mawr, Nid ydoedd yn amgen na chath welw'i gwawr. Y cynghor doeth cu, &c. Pan welsant hwy gysgod yr haul ar y don, Hwyliasant am gartref yn isel eu bron, 'Roi ymdaith flinderus, trafferthus a throm, Heb ddim byd i'w gario ond pryder a siom. Y cynghor doeth cu A gawsant yn hy' Wrth gychwyn y borau o balas y Waen Oedd dal pob helwriaeth gyfodai o'u blaen. BURNS CYMREIG.
DYFODIAD Y GAUAF.
DYFODIAD Y GAUAF. Adeg beryglus, ac un sydd yij. peri llawer n bryder i luoedd yn ein gwlad, yW y tymhor hwy o'r flwyddyn. Mae edrych yn mlaen at ei ddy- fodiad yn achosi pryder ac ofn nid bychan i laweroedd o'r rhai hyny ydynt yn dioddef oddi- wrth wahanol anhwylderau. Gydag ychydig ofal, a thrwy gymeryd y feddyginiaeth briodol mewn pryd, gellir osgoi llawer o boenau corph- orol yn gystal a phryder meddwl. Mae adeg cwympiad y dail yn dwyn rhyw I' gymaint o ddioddef i bob un sydd yn naturiol o gyfansoddiad gwanaidd. Efallai mai y rhai sydd/ yn dioddef oddiwrth Ddiffyg Treuliad a j flinir fwyaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Cynghor I' y meddyg i'r claf yr adeg yma yw cymeryd meddyginiaeth tuag at gryfhau. Prin y rhaid dweyd wrth neb yn Nghymrupa un yw y feddyginiaeth oreu at y dolur hwn, na pha le i'w chael. Mae tystiolaethau y miloedd a dderby-iasant les oddiwrth Quinine Bitters Gwilym Evans yn brofion diymwad a digonol o werth a rhagoroldeb y feddyginiaeth fyd-enwog hon. Mae lluaws o dystiolaethau hefyd i effeith- iolrwydd y Quinine Bitters mewn gwrthsefyll ymosodiadau pob math o anhwylderau gauafol. Mae y Quinine Bitters yn nerthu a chadarnhau y rhanau gweiniaid o'r cyfansoddiad, y rhai ydynt oherwydd eu gwendid y mwyaf agored i I anwyd a'i ganlyniadau. Gochelwch gael eich twyllo i gymeryd dim arall dan enw cyffelyb. Gwerthir Quinine Bitters Gwilym Evans gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un. Neu anfonir ef am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddi wrth y perchenogion: Quinine Bitters Manufacturing Com Dan v Limited, Llanelli, South Wales.
Advertising
I w "SAFE" CURE At holl A NB.VfYLDERA U'R ELWLOD A'K AFU. WARXER.'S "SAFE" CURE AT WEDID CYFFREDINOL A BRIGHT 7 7 DISEASE. MILOEDD 0 DESTIMONIALS yndatgan ei linweddau wedi eu filio a gellir eu ha-chwiiio. iAlae ei hawliau ya anwaiadwy. < Gwerthir gan bob fferyllydd a gwerthwr pliys gwr iaeth. Danfonir bamphledyu yn ) rhad oad ysgrif&nw at H. H. WARNER A' l Ciry, Ltd., 86, Cla'keawelload, London E.C A.
AT AMAETHWYR MON AC ARFON.
AT AMAETHWYR MON AC ARFON. [AT OLYGYDD Y "WERIN."] MR GOL.A fyddwch cbwi mor garedig a chaniatau gofod fechan o'r Werin i alw sylw fy nghydamaethwyr at y dirwasgiad presenol yn nglyn ag amaethyddiaeth. Y mae llawer o gynghorion da gan hwn a'r llall yn cael eu rhoddi i ni, a theimlwn yn dra diolchgar i chwithau, Mr Gol., am y lie helaeth ac amlwg y mae ein hachos yn ei gael yn eich newyddiaduron, y Werin, y Genedl, a'r Express. Eto, nid wyf wedi gweled neb ohononi ri fel amaethwyr yn cymeryd sylw cyhoeddus o'r boneddigion hyn sydd wedi ac yn parhau i weithio trosom— dylanwad pa rai sydd gymaint, yn nghyda'r llwyddiant mawr ac amlwg sydd yn cyd- I fyned^a'.u hymdrechion. Da genyf fod Mr Samuel Hughes, Bodednyfed, yn cymeryd ein hachos i fyny mor aiddgar yn Mon. Mae cael boneddwr o safle a dylanwad Mr Hughes yn gael mawr; mae ei safle fel cadeirydd Cynghor Mon, yn nghyd a'i allu I a'i ymroddiad diflino, yn sicrhau i ni amser gwell. Dyma foneddwr arall ag y* dylem fel amaethwyr ymorfoleddu ynddo fel un wedi cymeryd ein hachos mewn Haw, ac ni chymerodd ef achos neb erioed ¡ mewn llaw na byddai yn achos gwell yn dyfod o'i ddwy law. Cyfeiriaf at Mr W. J. Parry, Y.H., Coetmor Hall, Bethesda. Mae yntau yn bresenol yn gadeirydd Cynghor Sirol sir Gaernarfon. Sicr genyf fod amaethwyr Mon ac Arfon, fel fy hunan, wedi darllen cynygiad ac araeth Mr Parry o'r gadair,—ie, o'r GADAIR cofier,—yn y Cynghor diweddaf. Fu erioed y ffasiwn beth. Dylid cofio yn y lie cyntaf am ansawdd Cynghor Arfon, pwy sydd yn ei wneyd i fynu. Onid tirfeddian- wyr a'u goruchwylwyr, &c.P Acyr oodd y cyfryw yn gwrandaw Mr Parry yn traddodi ei anerchiad. Ni ddaeth i glustiau boneddigion Arfon erioed y fath beth. Ac mor wir a bod Mr Parry wedi cymeryd ein hachos mewn llaw, y dwg efe farn i fuddugoliaeth. Mae y ehwarter canrif diweddaf yn hanes Mr Parry yn gyfnod o ymladd dros y gweithwyr, ac yn neillduol y chwarelwyr, ac y mae wedi bod yn hynod o lwyddianus; ac ni fu ei lwyddiant a'r gwelliant a ddygodd i'r chwarelwyr a'r I gweithwyr heb fod yr amaethwyr yn well amo hefyd, gan mor uniongyrchol y dibyna amaethwyr Mon ac Arfon ar y chwarelwyr. Yn bresenol, da genyf weled y chwarelwyr ar ol chwartereanrif o lafur diflino, a gonest, a diorphwys, yn benderfynol o gyd- nabod Mr Parry mewn tysteb deilwng. Da genyf fod y cyfryw yn rhydd i bawb o garedigion a chyfeillion Mr Parry i gael bwrw eu rhoddion i'r drysorfa ac yn ben- difaddeu, peidiwn ni fel amaethwyr a gadael i'r cyfle fyned heibio, heb ini ggfl rhoddi pe dim ond swllt i'r drysorfa. Yn bersonol yr ydwyf wedi rhoi, ac mae genyf lyfr casglu er rhoddi cyfle i errfill fel y deuaf ar eu traws—Yr eiddocb> &c., AMWR o FoN.
GWERS DDA. -
GWERS DDA. Byddai hen gadfridog oedd rhengau ei hunan bob amser y**A Daeth i mewn un diwruod fel arfer, a gofynodd a oed<JJp ryn gwyn i'w wneyd. Cwynod* un 0 rdyt«on, a gafaelodd yr hen swydd^ me^ ff«fch a pWodd ef. "Na v ? Fa dd.a wwn," ebai, a ehvinerod<* damai<3 eilwaith, a bwytaodd y cyfan 00*1 gailmol ar 01 bob tamaid. Yn y wed(I ej-hfLedclodd y Ilestr gwag i'r mi1 cwynfanllyd gan ddyweyd na fu yo tnvyta gtvell bwyd erioed.
[No title]
Ba-rnai gwyddonydd Ffrengig tua dechreu y dtfeuiiawfed ganrif fod Adda yn 123 troedfedd a 9 modfedd o daldra, ond nad Oedd ond rhyw 118 troedfedd o wadn ei throed i goryn ei phen. Fe wneir achwyniad cyffredinol fod y rhai fwyaf o cocoas yn anrheuliadwy; ogymaint an fod y broffeswriaeth feddygol wedi dangos yg ddiweddar fod yr alkalies a ddefnyddir yn rhy ami gan wneuthurwyr tramor, yn nghy-I a'r mater bras, yn ffurfio sylwedd sebond aidd sydd yn hynod o beryglus i iecliyd. Gyda golwg ar cocoas a wneir gyda goi'al, megis eiddo Mr Cadbury, nid yw y gwrth- wynebiadau hyn 311 bodoli. — Whitehall Review* Review*
Advertising
I GOFYNWCH AM HUGHES'S BLOOD PILLS EDRYCHWCH YN FANWL AE BOB BOX A. byddweh yn SICE na byddweh ya cael eich twyllo, a GWELWCH Fod y TRADE MAEK sef (Llun CALON) ar bob **5 Blwch. Y mae un- mm rhyw Pills a gynygir JTIl Ddynwarediad a Thwyll AC NID YDYNT YR IAWN BELENAU, ac ni chynwysant yr un rhinweddau a HUGHES'S BLOOD PILLS. GOCHELWCH Bersonau anonest y rhai a ymostyngent mor isel nes ymgeisio twyllo trwy werthu PiUs diwerth yn lie y rhai Pur. Y mae y RHYBUDD hwn yn ddyledus i'r Cyhoedd er eu ham ddiffyniad, er mwyn iddynt sicrhau y Pills gwirioneddol, ac fel y gaUoat ochelyd y masnachdai hyny lie y mae twyll yn cael ei ymarfer. GOFYSWCH am HUGHES'S BLOOD PILLS a Llun Calon ar bob blwch. Gwrthod. weh bob peth arall. GWAED DRWG. SCURVY WA-ED DRWG. CURVY ( GKLEFYDATJ. T"iOEN PEN V^ROEiN GLEFYDAU. JL OEN PEN! FU DDEWG. pvIFFYG THAX7ll AFU DDEWG UlFFYG TRAUL. Nervousness. wynegon. ERVOUSNESS. IJT WYNEGON. Biliousness, /^lefydau aeenal ILIOUSNESS. V^LEFYDAU AEENAU, 01, Y maent yti iashaa pin b dd pobpeth arall yn methu. Heb oedi danfoner am Box o "Hughes's Blood Pills" gyda Llun Calon ar y Label. Peidiwch cymeryd dim arall. Ar werth am Is lie, 2s 9e, 4s 60. Gyda'r Post am Is 3c, 2s lie, 4s 9c oddiwrth y Perchenog, JACOB HUGHES, MAN UFACTURING CHEMIST, PENARTH.
Cyfoeth Jay Gould.
Cyfoeth Jay Gould. Gwnaed y cyfrifiadau canlynol yn nglyn a chyfoeth Mr Jay Gould, y miliwnydd Americanaidd, yr hwn a fu farw yr wythnos ddiweddaf. Pe y cyfnewidid ei filiynau i bapyrau pum' punt, a'u rhoddi yn ymyl eu gilydd, cyrhaeddent yn un llinyn o Lundain i Moscow. Pe y newidid hwy i sofrins y wlad hon, a'u good y naill ar ben y llall, gwnaent golofn l,f rnil Idir o uchder.
Dlangla Gyfyng i LUwyr.
Dlangla Gyfyng i LUwyr. Cafodd saith o lowyr ddiangfa gyfyng ya mhwll y Prince of Wales, Pontefract, ddydd LL-LM. Gollyngwyd y cawell a gynwysai y dynion i lawr y pwll-yr hwn sydd yn 600 troedfedd o ddyfnder —yn rhy gyflym, fel y dae:h i wrthdarawiad ofnadwy a rhai o'r trawstiau yn y gwaelod. Torwyd coes un o'r dynion mewn dau le, ac anafwyd yr oil o'r gweddill i raddau m- Y-y neu lai. Synid yn. fawr eu bod yn fyw.
- -GYW80CH CHWI
GYW80CH CHWI Fod y Werin fach am fynd yn Werin fawr ? Mai wrth wneud gweithredoedd da y mae hi ar fedr cynyddu ? Mai y dull y bwriada wneud hyny yw rhoi anrheg Nadolig i bob darllenydd ? Mai ystoriau Nadclig fydd yr anrheg hono ? Fod y Werin fach er mwyn gwneyd lIe i'r ystoriau rhemy yn bwriadu helaethu lie ei phabell, ac estyn cortynau ei phre3wyl- f eydd, yr wythnos bono ? Fod rhai o'r awduron Seisnig goreu yn danfon eu cynyrchion i'r Werin Nadolig ? Gan fod addysg foreuol yr awduron hyny wedi cael ei hesgeuluso,' fod ysgolheigion Cymreig medrus yn cyfieithu yr ystoriau hyny i'r Werin ? Mai y Werin bach fydd yr unig bapur Cymraeg yn yr hwnyr ymddeugysyr ystoriau hyny ? Mai dimai fydd pris y Werin Nadolig fel rhyw Werin arall ? Fod y Genedl hefyd am wneyd yr un peth? Fod yr ystoriau fydd ynddi hi yn cynwys rhai o eiddo'r awduron Cymreig a Seisnig mwyaf adnabyddus ? Fod y Genedl yn myn'd i roi anrheg o Almanac hardd gyda'r rhifyn cyntaf o'r flwyddyn newydd ? N a.. welwyd erioed o'r blaen gystal Almanac yn Gymraeg ? Na welir ei fath eto—ond fel anrheg gyda'r Genedl ? Fod manylion pellach am hyn i'w cael yn y Genedl yr wythnos nesaf ? Mai yn y Werin am ddydd Sadwrn, Rhag- fyr 24, y bydd yrystoriau Nadolig ? Fod y fath alw eisoes am y rhifyn hwnw fel mae'r golygydd yn son am gael special train i gludo'r sypynau ? t, Fod rhaid i chwithau, os am fod yn sicr o gael copi o'r Iferin Nadolig, neu o'r Genedl a'r Almanac, roi rhybudd i'r llyfr werthwr agosaf yn brydlon ? Fod llawer 3-n debyg o gael eu siomi am fod yn rhy hwyr ? Mai goreu po gyntaf y bydd i chwi roi eich orders i'r llyfrwerthwyr ? Fod y Toriaid yn son am wneyd tysteb i Syr John Puleston, am fethu enill bwrdeis- drefi Arfon ? Os yw hyn yn v/ir, eu bod yn llawer mwy prysur i gysuro Syr John nag y buont i godi ychydig ar galon Mr Ellis Nanney ? In C, t, Y bu raid i'r gwr o'r Gwynfryn golli deirgwaith cyn cael ohono dysteb ? Fod symudiad ar droed i ffurfio cym- deithas i wneyd i ffwrdd a'r arferiad o gusanu y Beibl wrth gymeryd y llw F I Fod amryw yma ac acw ar hyd y wlad yn gwrthod cydymffuifio a'r arferiad ? Fod un trengholydd wedi cael allan fod cyfraith ar ddeddflyfrau y wlad yn caniatau i bawb ewyllysio gymeryd ei lw trwy godi ei ddeheulaw yn unig ? Fod y meddygon yn gyffredinol yn cym- eryd y dull olaf fel yn tra rhagori ar y blaenaf ar dir iechydol ? Fod y gymdeithas yn debyg iawn o fod I yn un llwyddianus ? Na ddymunem weled neb o arweinwyr y Methodistiaid Cymreig—ar hyn o bryd-yn ymuno a hi ? Mai ein rheswm dros hyny yw ofn i Esgob Llanelwy, drwy edrych ar hyny gyda'i wydrau lliwiedig, dybio ei fod yn caniod cryfach rheswm na'r un ddaeth yn mlaen hyd yn hyn dros waeddi fod y Methodistiaid yn gwyro oddiwrth yr athrawiaeth." Fod Maer Caernarfon wedi myned i'r Eglwys yn ei gymeriad swyddogol y Sabboth diweddaf ? Mai gresyn oedd iddo adfer hen arferiad oedd wedi disgyn i'r llawr mewn blynydd- oedd a basiodd ? Fod amryw o aelodau y gorphoraeth wedi amlygu barn gyffelyb i hyn drwy eugwaith yn peidio ymuno a'r orymdaith ? Fod y ddau seindorf a chwareuai yn ýr orymdaith yn tori ar lonyddwch boreu Sab- both? Fod yn anhawdd credu fod y rhan fwyaf o'r rhai a gerddent i'r eglwys wedi gallu mwynhau y gwasanaeth, gan eu bod wedi rhynu gymaint wrth sefyllian yn yr oerni cyn cychwyn ? Mai tro digrifol oedd i Ddadgysylltiad" dd'od ar warthaf yr orymdaith tua'r Pen- dist ? Fed un rhan ohono wedi myned i gyf- eiriad y maes a'r rhan arall trwy Eastgate- I street ? Fod y maer ar ei gyfyng gynghor gyda golwg ar ba adran a ddilynai ? Ei fod o"r diwedd wedi penderfynu myned y ffordd feraf i'r neuadd drefol ? Fod y rhan fwyaf yn teimlo yn ddiolchgar oael myned adref i ymdwymno ?
EHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…
EHINWEDDAU IACHAOL QUININE BITTERS" G-WILYM EVANS. Gan GWILYM EVANS, dyna r gwir, Mae Bitters pur rhag-orol, Y goreu i leddfu poen a chur A fedd yr oes bresenol; Bum flwyddi maitli yn wael fy Hun, Yn nychu gan aflechyd. A rhoddaf yma'm teimlad b'L-i fan dan arteithiah adfyd. Rhyw boenau dig a deimlwn i Bob dydd a nos yn gyson, c Ac fel pe bai gofidiau lu Yn gwasgu ar fy nghalon A mi heb wybod b'le i droi, Gan drymed oedd fy alaeth, Am holl obeithion wedi ffoi Am gaffael meddyginiaeth- Mewn papyr newydd ar ryw nawn, Ymeflais yn ddamweiniol, Acyaddo gwelais hanes llawn Y Bitters pur rhagorol; Mi brynais un botelaid fawr, A gwnaethum benderfyniad, Mai drachtio wnawn nes dod yn gawr, A chaffael llwyr adferiad. Fy holl obc-ithion droes yOi ffydd Wrth ddrachtio'r Bitters maethlon, A mm an'n gwella o ddydd i ddydd Wrth ddilyn ar y moddion; Gwybydded pawb mai'r Bitters hyn Effeiihiodd fy adferiad; Bydd dydd eu prawf yn 'smotyn gwyn Ar ddalen fyw fy nheimlad. Pe gallwn, hongiwn yn y nen Y Bitters a'u holl glodydd, Yn gynffon wrth bob seren wen Dramwya drwy'r wybrenydd; A ey,n,i'r fellten fflamgoch wnawn Yn eirias dan lyth'renau, Rhoi Quinine Bitters amlwg iawn Ar belmynt y cymylau. Yn udgorn mawr y daran gref Yr uehel floeddiwn beunydd, Y Quinine Bitters, nes bai'm Ilef I'w chlywed drwy'r holl wledydd Y Quinine Bitters uchel glod Fo'n hysbys i genhedloedd, A GWILYH EVANS byth gaiff fod Yn anwyl gany bobloedd. Derbyniodd yr t'ysgrifenydd les mawr drwy ddefnyddio Quinine Bitters, ac nis gall ddyweyd s'ormod am eu rhinweddau. THOJIAS GEIFFITHS. Llanfihangel Rhosycorn, lt ,l.,j" Chwef. lleg, 1890. Quinine Bitters Gwilym EVaiia yw'r feddy gin- iaeth oreu i adfer iechyd, a'i ddyogelu trwy adfer nerth ac egni; i'r rhanau hyny fyddant wedi gwanychu trwy afiechyd hirbarhaol. Mynwch weled enw Gwilym Evans ar bob label, stamp, a photel. Gwerthir gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c yr un. Dwbl maint. 4s 6ch. Goruchwyhvyr yn mhob parth o'r byd. Gellir heiyd ei gael yn ddidraul am y risiau uehod, oddiwrth y perchenogion:- puinine Bitters Manufacturing. Company, Qmited, Llanelly, South Wales
[No title]
Rhoddodd un o'r teithwyr g-yda'r ger- bydres o Dover i Lundain ei ben allan cil-w-x.-Ir ffenestr yn ymyl twnel ger Folke- I stone. Daeth ei ben i gyffyrddiad a mur y I twnel, a derbyniodd y fath niweidiau fel y r mae yn awryn gorwedd iiieAvn cyflv.rr per- ygius. I
_.-----.>93.1 -.1
>93. 1 1 [CYFADDASIAD 0 QUATRE VINGT; TREIZE," UN 0 NOFELAU ¡ VICTOR HUGO]. PENNOD X. Oni buasai i'r teithiwr daflu ei hun rhwng y ddau, buasai Gauvain yn ddyn marw. Saethwyd y ceffyl, a tharawyd y dyn a'r cleddy,f syrthiodd y ddau. Cymerodd yr holl bethau hyn le gyda'r sydynrwydd mwyaf, ac yna syrthiodd yr ymosodydd yn wysg ei gefn. Yn ei wyneb y tarawyd y teithiwr gan y cleddyf. a syrthiodd yn anymwybodol. Yr oedd y ceffyl wedi ei ladd Aeth Gauvain i ymyl y dyn archolledig, a gofynodd i'r rhai oedd o'i ddeutu, Pwy yw y dyn hwn ?" Gwnaethant archwiliad arno; yr oedd y gwaed wedi llifo dros ei wyneb, fel ag yr oedd yn amhosibi ei adnabod. Yn unig gwelent fod ei wallt wedi britho. "Y mae'r dyn hwn wedi arbed fy mywyd," ebe Gauvain. Onid oes yma II neb yn ei adnabod ?" Gadfridog," ebai un o'r milwyr, gwelais y dyn yn dod i'r dref. Newydd gyrhaedd y mae." I Daeth meddyg heibio, a gorchymynwyd iddo drin yr archoll. Wedi gweinyddu arno, dywedodd y meddyg, "Máe yr archoll yn un glir, ac y mae yn sicr o wella yn fuan. Bydd y dyn yn myned oddiamgylch cyn pen y naw diwrnod." Onid oes yna bapyrau yn ei logellau yn hysbysu pwy ydyw-" gofynai Gauvain. Chwiliwyd ei logellau, a chafwyd llyfryn un ohonynt, ac ynddo bapyr, ac arno'n ys- grifenedig, Pwyllgor Dyogelwch y Cy- hoedd. Y mae y Dinesydd Cimwrda Ehoddodd Gauvain waedd mewn syndod, "Cimwrda!" Parodd y cri hwn i'r dyn archolledig agor ei lygaid. "Beth, Cimwrda, ai chwi sydd yma Dyma yr ail waith i chwi achub fy mywyd." Edrychodd Cimwrda yn graff arno, a gwelid gwen yn ymdaenu dros ei wyneb- pryd rhuddgoch. Syrthiodd Gauvain ar ei ddeulin wrth ei ochr, gan lefain, "Fy meistr." Dywedwch yn hytrach, Fy nbad, cbai'r Hall yn wanaidd. Nid oeddynt wedi cyfarfod a'u '-ilydd er's llawer blwyddyn; eto yr oedd eu calonau wedi bod yn ymglymeclig yn barhaus, ac adnabyddasant eu gilydd ar unwaith fel pe buasent wedi bod yn nghwmni eu gilydd y noson gynt. Erbyn hyn yr oedd neuadd drefol Dol wedi cael ei throi yn ysbytty ar gyfer y clwyfedigion, ac yma y cludwyd Cimwrda. Dodwyd ef mewn ystafell fechan, ar wahan i'r brif ystafell yn mha un y gorweddai y dioddefwyr ereill. Gadawyd ef yna mewn tawehvch, gan fod y meddyg yn gwahardd i Gauvain ymddiddan ag ei y pryd hyny. Er hyny, nis gallai Cimwrda gysgu, oblegid poenid ef gan ddwy ddwymyn, un yn codi oddiar ei archoll, a'r llall oddiar ei fawr lawenydd o gyfarfod a Gauvain. A oedd ei freuddwyd a ffurfiwyd ganddo flynyddau yn ol, wedi cael ei sylweddoli ? Yr oedd wedi cael hyd i'w hen ddysgybl. Plentyn ydoedd pan welodd ef ddiweddaf ynawr yr oedd yn ddyn yn anterth ei nerth. Pan gafodd hyd iddo yr oedd yn goncwerwr ar ochr y bobl. Gauvain oedd asgwrn cefn y Werin- iaeth yn Llydaw, a Cimwrda oedd mn o'r prif golofnau yn Paris. Trown ein sylw yn awr at y fam a gafodd ei gwaredu gan Tellenarch y cardotyn. Yr oedd yr archollion a dderbyniodd yn llawer mwy difrifol nag yr oedd ei hamddiffynydd J wedi dychmygu. Ond bu yn ofalus iawn am dani, a chan ei fod wedi arfer byw yn y j goedwig yr oedd yn deall rhywbeth am rinweddau gwahauol lysiau. Un boreu cafodd y "meddyg" y pleser o'i gweled wedi codi ar ei thraed, ac yn gallu siarad rhyw ychydig. Nid oedd y cardotyn wedi dod i ddeall dim o hanes y wraig, gan eibod yn rhy wan i siarad llawer. Heddyw mentrodd ddweyd wrthi,— Wel, yr ydym wedi bod yn alluog i godi o'r diwedd; ac y mae'r briw wedi gwella." I "Nid yr un sydd yn fy nghalon," ebai hithau; wyddoch chi p'le mae nhw ?" "Pwy ydyw y 'nhw' ?" gofynai'r car- dotyn. Fy mhlant." Ni wyddai Tellmarch ar y dechreu beth i'w ddweyd, a'r gwir am dani yw nad oedd ganddo y dychymyg lleiaf yn mha le yr oeddynt. Yr unig beth wyddai oedd fod y fam wedi cael ei saethu, a'i fod yntau wedi cael hyd iddi yn haner marw, a bod Ardal- ydd Llandenac, ar ol gorchymyn ei saethu j hi, wedi myned a'i phlant gydag ef. Dyma derfynau ei wybodaeth ef. Beth oedd wedi dod o'r plant ? A oeddynt eto yn fyw ? Yr oedd cefnllif y rhyfel wedi myned i gyfeiriad arall, a'r ymladd yn myned yn mlaen gryn bellder oddiwrthynt. Tra y myfyriai y cardotyn fel hyn, yr oedd y wraig wedi syrthio i ddistawrwydd, yr hwn a dorid yn awr ac yn y man gan y d'.lolef, Fy mhlant!" Brethid calon Tellmarch gan y geiriau hyn, a gwyrai ei ben fel pe buasai ef yn gyfrifol am eu cymeryd ymaith. Aeth i feddwl am Ardalydd Llandenac, a theimlai yn sicr n a oedd hwnw yn meddwl dim am dano ef. Bydd pendefig pan fyddo mewn perygl yn eich adnabod; ond pan fyddo allan ohono nid yw yn meddwl dim am danoch wedyn," oedd ei gasgliad, ac yna gofynai iddo ei hun, Paham yr aethum mor ffol ag achub ei fywyd ?" Yn mhen ychydig ddyddiau gwnaeth y wraig ei meddwl i fyny i adael lloohes y cardotyn—i fyned i chwilio am ei thri phlentyn. Uanwodd y god oedd ganddi a'r fath luniaeth ag oedd gan ei lletywrihebgor iddi. "'Rwy'n myn'd," ebe un boreu. I ba le ? gofynai Tellemarch. I chwilio am fy mhlant," atebai hithau. "Buaswnyn d'od gyda chwi oni bai fy mod mor hen, a'm cam mor fyr," ebai'r hen wr mewn ton llawn cydymdeimlad. Bydd- wn yn fwy o rwystr nag o les i chwi." Ffarweliodd y ddau a'u gilydd. Cerddodd y fam yn syth yn ei blaen. Ychydig iawn fyddai hi yn ei orphwys na nos na dydd,— yr oedd ei hawydd gymaint am weled yr hyn oedd agosaf at ei chalon fel nas gallai roddi hun i'w hamrantau. Mam yn chwilio am ei phlant Pwy all ddesgrifio ei theiml- adau ? Byddai weithiau yn cardota, bryd arall yn byw ar y llysiau allasai gasglu; gor- weddai yn yr awyr agored, weithiau dan gysgod llwyn o goed, dro arall heb ddim rhyngddi a ser y ffurfafen; yn ami curid hi gan y gwynt a'r gwlaw. Ond nid oedd a'i j lluddiai ar ei thaith. Crwydrai o bentref i bentref, gan holi pawb a ddeuai yn ei ffordd, "A .welsoch chwi 'mhlant i ? Ac os safai rhywun i siarad a hi, elai yn mlaeu i'w henwi, gan ychwanegu, "1: mae yr hynaf yn bedair mlwydd a haner oed, a'r ieuangaf yn ugain mis. A wyddoch chwi p'le maent P Y maent wedi eu cymeryd oddiarnaf." Wrth gwrs, md oedd gan y rhan fwyaf o'r rhai y siaradai a hwynt y dychymyg lleiaf yn mha le y gallasent fod, a byddent yn arfer myned yn eu blaenau heb gyfranu unrhyw gysur iddi. Ond un diwrnod tarawodd ar ddyn a roddodd wrandawiad mwy astud iddi nag ereill. Dechreuodd fyfyrio ar yr hyn actroddid wrtho. "Doweh weled," ebai, tri o blant "Ie." Dau faehgèn P Ie, a geneth hefyd." Mi glywais am ryw bendeng sydd wedi cyineryd tri phlentvn ymaith gydag ef." "Pa le mae'r ::1;1. gvraeddai'r fam; pa le y mae nhw ? t; Yn La Tourge," atebai'r dyn. Beth yw La Tourge ? "Lie." Pentref, castell, ynte fferm? Fum i erioed yno." A ydyw yn mheli?" Nid yw yn agos." Yn mha gyfeiriad y mae? Y ffordd acw," gan daflu ei law i bwynt neillduol. "Eweh yn eich blaen tua chyf- eiriad machlud haul." Cyn iddo dynu ei law i lawr yr oedd y wraig wedi cychwyn ar ei thaith. Gwaedd- odd y dyn ar ei hoi, Cymerwch ofal o honoch eich hun: y maent yn ymladd yno." Ni wnaeth gymaint a throi ei gwyneb yn ol i ddiolch iddo, ond cerddodd yn union yn ei blaen, pa berygl bynag allasai fod yn ei I chyfarfod. | fPVJ barhauJ.
[No title]
Bu Mr George Dunn farw ddydd Sul yn agos i Alfreton, swydd Derby, ar ol colli o hono ei ffordd yn yr eirs a threulio y noson gynt yn y measydd. Mewn perthynas i farwolaeth ddrwg- dybus yn South Shields foreu Sul, ar 011 trengholiad manwl ar gorff y trancedig, ] William Southeron, caed fod ei farwolaeth wedi cael ei beri gan wahanol afiechydon, ae yn benaf gan yr oerni mawr. Cynhaliwyd cyfarfod mawr yn Nghaer- loyw nos Lun yn erbyn hap-chwareuon. Cymerwyd y gadair gan y Deon Spencer, a'r prif siaradwr oedd Archddiacon Llundain. Gwer.thodd Mr Labouchere, A.S., ei gyf- ranau- yn y Daily News am 90,000p. Nid oedd wedi rhoddi ond ll,000p am danynt.
----__..,.---SEDD SYR PRYCE-JONES,I
SEDD SYR PRYCE-JONES, I GRÅNDO DDEISEB. I Tystiolaethau Dyddorol. Brydnawn Llun cyrhaeddodd y Barwn Pollock a'r Barnwr Wills i Drefaldwyn. Disgynai eira ar y pryd, ond ymgasglodd lluaws mawr i weled yr olygfa anghyffredin o ddau o farnwyr yr Uchel Lys yn talu ym- weliad a'r dref dawel ar achlysur mor neill- duol a gwrando deiseb i ddiseddu yr aelod Seneddol. Lletya y Barnwyr gyda rheithor y plwyf. Boreu Mawrth agorwyd y llys. Ym- I ddangosai y Mri Fletcher Moulton, Q.C., I Mr Mathews, a Mr Ellis Jones Griffith dros y rhai oedd wedi arwyddo v ddeiseb. sef tri Õ weithwyr, y rhai sydd yn etholwyr yn y I bwrdeisdrefi; Mr Jelf, Q.C., Mr E. Graham, a Mr J. M. Lloyd, dros yr amddiffynydd; MrYates dros yr Erlynydd Cyhoeddus, a Mr Young ar ran tyst neillduol. Wedi i Mr MOULTOV agor yr achos, galwyd ar John Evans, butler yn y Cross Keys, Llanfyllin, i roddi tystiolaeth. Dywedai I iddo ef fyned yn nghwmni dyn o'r enw Evan Morgan ychydig ddyddiau cyn yr etholiad i'r Eagles, yn Llanfyllin. Yr oedd I Mr Thomas Jones, cyfreithiwr, yno, a gofynodd iddynt gymeryd diod. Cawsant lasiad o gwrw bob un, ac yna gofynodd Jones i'r tyst ddal ei law allan, yr hyn a wnaeth. Rhoddodd y cyfreithiwr chwe' cheiniog ynddi. Gofynodd iddo ddal ei law allan eilwaith, a rhoddodd chwe cheiniog arall ynddi, gan ddyweyd y gallai gadw y iddau os oedd ganddo bleidlais. Dywedodd y tyst wrtho nad oedd arno eisieu ei arian, a rhoddodd hwynt ar y bwrdd, ac aeth allan o'r ystafell. Mewn atebiad i Mr JELF, dywedodd y tyst ifod Mr Thomas Jones mewn tipyn o ddiod. Y Barwn POLLOCK A oedd ef yn feddw?—Y Tyst (ar ol oedi ychydig): Wel, yr oeddwn yn meddwl ei fod. Pur araf oedd y tyst hwn yn ateb y gwa- hanol gwestiynau, ac yr oedd ei don yn isel iawn. Dywedodd y Barwn POLLOCK, Pan ddaw dyn i'r Ilys, a siarad mor isel fel nas gellir ei glywed, ni byddaf byth yn coelio gair o'r hyn a ddywed." Mr MATHEWS a eglurodd nas gallai y tyst feddwl ond yn araf iawn pan yn rhoddi ei j dystiolaeth yn Saesneg, gan mai yn Gymraeg yr arferai siarad. 0 Y Barnwr POLLOCK a sylwodd pa mor anmherffaith bynag y dealiai Saesneg y j dylasai siarad yn hyglyw. Mewn atebiad i'r Barnwr WILLS dywedodd y tyst mai yn Gymraeg yr oedd y sgwrs a. Mr Thomas Jones yn cael ei chario yn nilaen. GEORGE EDWARDS, llarurwr, Llanfyllin, a dystiai ei fod yn yr Eagles pan oedd Jones yn talu am ddiod i John Evans. Ar achlysur arall gwelodd Mr Thomas Jones yn y Sun, a chlywodd ef yn dyweyd, Y mae genyf ddigon o arian ac aur," a daliodd ei law allan, yn yr hon yr oedd swm o arian. Cymerodd Evan Priee swllt o honynt, a galwodd am haner galwyn o gwrw, ac yfwyd ef gan y tyst a phump neu chwech arall. Cafwyd chwaneg o gwrw, a chymer- odd amryw ddau swllt neu dri bob un o law Mr Jones. Cymerodd y tyst haner sofren, a thalodd am round o gwrw allan o honi. Fe dalodd pawb a gymerodd arian oddiar Jones am ddiod. Rhoddodd y tyst naw swllt yn ol i Jones. Pan ddaeth Syr Pryce- Jones a'i briod i Lanfyllin, aethant i bleid- geisio yn nghwmni Thomas Jones. Mewn atebiad i Mr Jelf dywedai y tyst ei fod yn gwybod y byddai Jones yn hel diod" weithiau, ac yr oedd wedi cael gryn dipyn pan oedd yn yr Eagles. EVAN MORGAN, ffermwr, Pontyscowred, a dystiodd iddo weled Thomas Jones yn rhoddi dau chwe'cheiniog i John Evans. EVAN JONES, Llanfyllin, a dystiai ei fod ef yn y Sun ddeuddydd neu dri cyn yr etholiad, ac iddo weled Thomas Jones yn dangos arian. Dywedai fod ganddo arian ac aur, ond ni welodd y tyst ddim ond arian gwynion a phres ganddo (chwerthin). Dywedodd Thomas Jones am i'r rhai oedd yn yr ystafell helpu eu hunain gyda'r arian. Ar yr un pryd dywedodd mai nid arian lecsiwn oeddynt, ond ei arian ef ei hun. Cymerodd y tyst swllt, a galwodd am haner galwyn o gwrw. Yr oedd y tyst wedi gweled Jones ychydig ddyddiau yn flaenorol yn y Sun. Gwelodd ef hefyd yn canfasio gyda Syr Pryce Jones a'i wraig, a chafodd y tyst ei gyflwyno gan Thomas Jones i'r ym- geisydd a'i briod. Dywedodd Thomas Jones wrth Syr Piyce mai billposter i'r ochr arall oedd y tyst, ac yna gofynodd Syr Pryce iddo wneyd ei oreu drosto ef (chwerthin). Mewn atebiad i Mr Jelf, dywedodd y tyst nad oedd Thomas Jones pan yn y Sun yn feddw, ond ei fod yn drwm mewn diod (chwerthin). Thomas Evan Jones, saer, Llanllyfni, a ddywedodd ei fod wedi cyfarfod Thomas Jones ar y 5ed o Orphenaf. Gwyddai fod Jones yn pleidgeisio dros Syr Pryce, a chafodd ymgom ag ef. Mr Mathews Am beth ? —Am rywbeth yn yr Ysgrythyrau, ond yn ddilynol aeth- om i'r Eagles, lie y cefais lasiad o gwrw gyda Thomas Jones. Gofynodd Jones iddo unwaith a wnai ef bleidleisio dros Syr Pryce, gan ma Cymro ydoedd fel y tyst. Joseph Jones, llifiwr, Llanfyllin, a alwyd yn nesaf, ond pan ddechreuodd Mr Mathews ei holi, ni wnai ddim ond ysgwyd ei ben. Awgrymodd Mr Moulton y priodoldeb o gael eyfleithydd. Y Barnwr Pollock: Byddai hyny yn debyg iawn i dynu yr agerbeiriant oddiwrth y gerbydres a rhoddi mul yn ei lie. Ond fo<M bynnag, os yw hyny yn anghenrheidiol, rhaid i ni gael y mul. Gorchymynwyd i'r tyst sefyll o'r naill-du. David Rogers, llafurwr, Llanfyllin, a dystiodd ei fod yn siarad a chigydd o'r enw George Roberts ddydd yr etholiad, a'i fod wedi cael glasiad o gin ganddo. Yn ddi- weddarach gwelodd ddyn o'r enw John Roberts, gan yr hwn drachefn y cafodd lasiad o gin. Gofynodd George a John Roberts iddo bleidleisio dros Syr Pryce. David Ellis, crydd, Llanfyllin, a dystiodd ei fod yn breaenol pan gafodd Rogers lasiad o gin gan Roberts, a bod y rhoddwr wedi gofyn i Rogers bleidleisio dros Syr Pryce, ac wedi rhoddi y cyfarwyddiadau angen- rheidiol iddo pa fodd i wneyd. Galwyd ar Edward David Jones, ysgrif- enydd Clwb Ceidwadol Llanfyllin, yr hwn a brofodd fod Thomas Jones, George Roberts, a John Roberts yn aelodau o'r clwb, a bod y tri yn aelodau o'r pwyllgor etholiadol. John Owen, Llanidloes, a ddywedodd iddo gyfarfod Abel Goldsworthy, dyn yn ngwas- anaeth Syr Pryce, yn y Boot Inn, Llanidloes, pryd y gofynodd Goldsworthv i'r tyst, Wnewch chwi fotio dros Syr Pryce Jones ? Os bydd i chwi bleidleisio drosto, a gwneyd eich goreu, bydd i mi rod<H pum punt i chwi." Edrychodd y tyst yn toyw ei lygaid, a gofynodd, Pum punt ?" ac atebodd Goldsworthy, "Rhoddaf bunt i chwi heno, a chewch y pedair arall cyn d wmod yr ethol- iad." Atebodd y tyst ef yn ol, gan ddy- wevd, Pe rhoddech ugain punt, ni byddai i mi byth bleidleisio dros eich bath chwi." Mewn atebiad i Mr Jelf, Jdywedodd y tyst na buasai miloedd o "bunau yn gallu prynu el bieidlais ef. Mr Jelf: Yr oeddwn ar fin dyweyj^_ Aiasai waeth cynyg pum [punt *i Mr! stone ei hun am ei bieidlais mwy vnevd (chwerthin). Yna ceisiodd Mr h„ allan mai cellwairyr oedd Gold^Lg^ ni1 gynyg pum punt am bleidlaisutL pv" hwnw. Yr oed; Pryce teedi cynyg enw ei eneth ef ar ol i'r etholiad fyned heibio, er nad oedd y tyst wedi pleidleisio drosto (chwerthin). Yna gohiriwyd yr ymchwiliad hyd dranoeth. DYDD MERCHER. Ar ymgynulliad y llys heddyw, galwyd ar Thomas Mountford, un o swyddogion y tolldy yn Leith, yr hwn oedd ar restr yr etholwyr fel lletywr yn y Drefnewydd. Addefai ei fod wedi derbyn llythyr oddiwrth Mr A. W. Barrett, yn gofyn iddo dd'od i bleidleisio i'r Drefnewydd. Addefodd hefyd ei fod wedi derbyn tair punt a chweigien gan gyfaill iddo yn y Drefnewydd, sef Mr Her- bert Jones. Yr oedd subpoena wedi ei gweinyddu arno i'w erfodi i dd'od i'r llys i roddi ei dystiolaeth. Bu yn siarad a Mr Herbert Jones, a chyda Mr Pugh, y sgrif en- ydd y Toriaid. 0 0 Herbert Jones, Drefnewydd, a dystiodd nad oedd ef wedi cymeryd rhan o gwbl yn yr etholiad yn mis Gorphenaf. Derbyniodd lythyr oddiwrth Mouxtford cyn i'r etholiad gymeryd lie, yn ei hysbysu ei fod yn cy- meryd ei wyliau yn ystod wythnos yr ethol- iad, ond nas gallai dd'od adref os na fyddai i rywun estyn cymhorth iddo; a therfynai drwy ofyn am fenthyg 3p 10s gan y tyst. Atebodd y llythyr, ac anfonodd yr arian mewn postal order, Galwyd ar Mr a -MFs Morgan, gyda pha rai y lletyai y tyst Mountford yn Leith, i roddi tystiolaeth fod llythyrau ac archebion arianol wedi cael eu derbyn gan Mountford, adeg yr etholiad. Thomas Edwards, Llanidloes, a dystiodd iddo glywed yr ymddiddan rhwng Golds- worthy a John Owen. Daeth y blaenaf allan ar ei ol, gan erfyn ar i'r tyst beidio yngan gair o'r hyn oedd wedi glywed. Yn yr Unicorn, drachefn, gwelold Goldsworthy yn galw am ddiod i'r rhai oedd yn bresenol, ond ni welodd ef yn talu am dano. Tystiodd iddo weled Goldsworthy ac ereill wedi cau eu hunain i mewn mewn parlwr yno, ac fod dyn wedi cael ei rwystro i fyned i fewn atynt. Pan oedd y drws yn gil-agored, gwelai fod papyrau a photel inc ar y bwrdd. Pan ddaethant allan galwodd Goldsworthy am ddiod iddynt oil. Cynygiedd y tyst dalu am "round," a thynodd swllt allan. Dywedodd Goldsworthy wrtho, "Rhoddwch yr arian yn eich poced; mi dalaf fi." Gal- wodd am ddwy "round" arall, ond nid oedd yn talu am danynt, yn unig gwnai amnaid ar y forwyn. Mewn croesholiad, dywedai y tyst ei fod yn credu yn gryf fod Goldssworthy o dclifiif yn ceisio prynu pleidlais John Owen yn y Boot. John Jones, cludydd glo, Llanidloes, a dystiodd iddo weled y Cynghorydd John Williams, yn y Trewythen Inn, ddi wmod yr etholiad. Gofynodd Williams iddo a oedd wedi pleidleisio, ac atebodd y tyst ei fod. "Dros y dyn iawn gobeithic," ebai Wil- liams, "Ie," atebai y tyst, ac yna cafodd ddau swllt ganddo. Yr oedd Mr Williams y noson gynt wedi gofyn iddo bleidleisio dros Syr Pryce Jones, ac wedi rhoddi dau swllt iddo, yr hyn oedd yr oil oedd ganddo ar y pryd, ond addawai ei weled ar ol hyny. Wrth ei groesholi dywedai y tyst fod y Cynghorydd Williams yn ddyn o gryn safle, a bu y tyst yn gweithio gyda'i dad. Gohiriwyd y llys hyd dranoeth.
Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer-…
Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer- narfon. Hysbysa Arglwydd Penrhyn ei fod yn bwriadu gostwng 26 y cant yn ardrethoedd ei denantiaid am yr haner blwyddyn di- weddaf. Bwriada Mr Assheton Smith wneyd gostyngiad cyffelyb. Bydd i'r An- rhydeddus Frederick Wynn a Mr Owen Evans, Broom Hall ohirio di vrnod talu y rhent hyd fis Mawrth, ac os bydd i'r dir- wasgiad barhau bydd iddynt hwythau gan- iatau 25 y cant o ostyngiad.
Baal y Bel Droed. ---.-
Baal y Bel Droed. Un o wrolgampau yr Hen Oymry oedd y bel droed; er mai gyda rbyw gihvg an ffafriol yr edrychid ami gaIJ. bobl dda am y tybid ei bod yn rhoi i'r anClau ddangos mwy o'u djr^1 n*? ? n daioni. Ond y mae pethajV^1 cyft^^d, ac yn j wlad hon o droed wedi cyraedd sa^»»%deddus, nes yw amheus yn ftl astucl10 ai troeaio sydd fwyaf cJQieradwy yn ein colegau. Dydd Diol^garwch cyiarfu tua deugain mil 0 bobl if»refry^yr o Goleno-au Yale a prioceton yo troedio r bel yn erbyn eu gilydd }71 ^nhattan Park, N. Y. Yroedd yx>° ac athrawon, dysgedigion ac e^r}r(I\vyr» P0^. 0 gradd a sefyllfa, yn g"Vylxo symudiadau ycampwyr gyda dyddor- de)? »nSer<idol; ac ni bu braidd gynulliad y r^°n hono, nac am ddyddiau yn olynol, lie eyfarfyddai colegwyr a'u gilydd, na byddai y gamp fawr yn destyn siarad ac ymffrost, a cnaredigion Yale yn gorfoleddu yn ei budd- ugoliaeth. Nid oes amheuaeth am y C5 priodoldeb o ymarfer cofforol er mwyn iechyd a dadblygiad efrydwyr sydd yn gorfod treulio llawer o'u hamser mewn llonyddwch dan do. Nis gall fod amheuaeth ychwaith fod y peth yn cael ei gario i eithafedd, a bod gormod o duedd gwneyd gwrolgampau corfforol yn bwysicach na. rhai meddyliol; a gormod o duedd gadael i ddymuniadau yr efrydwyr lywodraethu y colegau yn hytrach na barn addfed yr ath- rawon. Y mae y castiau direidus a gyfiawn- ir yn feunyddiol gan efrydwyr yn warth i ddysgyblaeth golegol ac yn ddiraddiad ar addysg uwchraddgj.—Drych.
Advertising
PESWCH, ANWYD, POENAU YN Y FEEST, Bya EA ANADL, A PHOERI.-Rhydd Pulmonic Wafers- Dr. Locock ryddhad uniongychol, a gwelliad baan; does dkn arall sydd yn rhoddi noswaith o gwsg mor llwyr ac adnewyddol. Mewn Crydcymalau ac Anhwylderau Grieuol effeithiant fel swya. Maent yn anmhrisiadwy i gantorion a siaradwyr cyhoeddus er clirio a chryfhau y llais. Y mae iddynt flas da Is lie, 2s 9d, 4s 6c, ac lis y blwch. Gwerthir hwy gan holl fasnachwyr physig. Rhybudd.—Mae gan wir fecldyginiaeth Dr. Locock yr enw ar stamp y Llywodraeth, a'r Trade Maxk 11 DR. Lococir 11 ar y Label. Argraphwyd a chyhooddwyd gan y perch- [ enogion, Cwnmi'r Wasg Genedlaethol 13 Gyuweig Cyf., yn eu swyddfeydd, Bala- k clava Road, Caernarfon,