Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
36 erthygl ar y dudalen hon
DAMW AIN MEWN GLOFA.
DAMW AIN MEWN GLOFA. 22 0 FYWIDAU WEDI COLLI. Golysfeydd Calonrwygol. Dydd Mercher dygwyddodd trychineb dychrynllyl yn y Pemberton Four Feet Mine, pwll Rhif 2, Bamfurlong, perthynol i Mri Cross, Jetley, a'u Cwmni, perchenogion glofa. Pentref glofaol bychan yw Bamfur- long, tua phedair milldir o Wigan. Foreu Mercher aeth yn agos i gant o ddynion i lawr i bwll Rhif 2, er mwyn myned yn mlaen gyda'u gwaith. Tua saith o'r gloch clywyd gwaedd yn y gwaith fod y pwll ar dan. Rhoed y rhybudd allan gan fachgenyn o'r enw Rowley, yr hwn oedd wrth ei waith yn edrych ac ol y com- pressed air engine, ac yn sefyll rhyw 400 o latheni o enau'r pwll, ac yn cael ei claefnr yddio at godi bwcedi o wahanol ranau o' pwll. Y mae yn wybyddus i beirianwyr fod tuedd mewn compressed-air i rewi. Er mwyn rhwystro hyn, a'r ataliad mewn canlyniad ar y peiriant, y mae yr hyn a elwir yn "paramn touch yn cael ei osod o dan y cylinder er mwyn cadw y tymheredd i fyny. Yr oedd y bachgen Rowley wrthi yn gwneyd rhywbeth yn nglyn a'i waith, yn fwyaf tebyg yn glanhau y peiriant, pryd y darfu iddo yn ddamweiniol droi y llusern, ao yr oedd yr hylif tanllyd ar unwaith yn fflamio. Dywedai ei fod wedi ceisio diffodd y Mam drwy daflu rhyw ddillad ami ond iddo fethu yn ei ym- gais. Ax ol gwaeddi i rybuddio y rhai oedd o'i gylch, efe a frysiodd at enau'r pwll. Yn y cyfamser yr oedd gwely y peiriant, ar ba un yr oedd y llusern baraffin wedi cael ei throi, yn fflamio yn ddvchryn- 11yd; ac ymledodd y fflamau at holl waith coecl tY'l- peiriant, yr hwn a losgwyd yn ulw. Darfu i'r dynion anffodus oedd y tu 01 i'r tan daflu eu harfau i lawr, a rhuthr- asant yn mlaen ar hyd y Iefel oedd yn ar- wain i waelod y pwlI. Yr oedd y rhai oedd o fewn cyrhaedd wedi eu rhybuddio gan waedd Rowley; ond prhi yr oedd arnynt eisieu rhybuddion, ohenvydd yinledodd y danchwa gyda'r fath gyflymder i'r holl waith. Teflid offerynau i'r llawr: ac yr oedd pawb yn rlmihi-o «Moa eu bywyd. Ymddengys fod cysylltiad rhwng Rhif 2 a Rhif 1; a phe aethid di-wyddo mown pryd, buas-ii pawb wedi ei waredu. Un ai nid oedd y rhai oedd mewn perygl wedi meddw I, neu ddim yn gwybod, am y cysylltiad: a chan redeg am y ffordd lie yr arferent deithio, hwy a ruthrasant yn llythyrenol i grafanu marwolaeth. Yr oedd ty llosgedig y peir- iant ar eu ffordd; yr oedd y mwg yn llenwi pob man. Myned yn mlaen oedd cael en llosgi yn fyw—myned yn ol oedd eu mygu gan y nwyon sulphuraidd oedd yn llenwi y pwll. Wedi cael eu gwasgu fel hyn i gongl, ymddengys fod y glowyr carchar- eoig wedi penderfynu ymladd yn ddewr am eu bywyd; a chan mai yr anig- ffordd i awyr bur a dyogelwch oedd drwy y tan mawr oedd o'u blaenau, darfu iddynt, heb betrus- der, ymruthro yn mlaen, gan obeithio y gallent ddianc am eu bywyd, neu ynte, beth bynag, o leiaf syrthio yn ddideimlad ar yr ochr arall, lie yr oedd gwaredigaeth yn sicr. jBodd bynag, yr oodd y ftiamau yn rhy ffyrnig a'r nwyon yn rhy gryfion. Pan gafwyd hyd iddynt yr oedd eu cyrph wedi eu llosgi. Anfonwyd rhybudd i'r lan ar unwaith, a daeth cynorthwy mor fuan ag oedd bosibl. Dygwyd y dynion i fyny ar unwaith pan y deuid ar eu traws, ac am bedwar o'r gloch cludwyd y cyrph-pedwar ar ddeg mewn infer—i'r lan, a chredid yn sicr fod pedwar o gyrph ereill yn y gwaith.
YSGOLFEISTR A'I AMOD PRIODAS.
YSGOLFEISTR A'I AMOD PRIODAS. Yn. Mrawdlys Leeds erlynid ysgolfeistr o'r enw Robert Arthur Ellis gan Miss Frances Row am dori amod priodas. Hawliai yr erlynes 250p o iawn. Bu y ddau yn canlyn eu gilydd am bum' mlyn- edd. Unig esgusawd y diffynydd oedd iddo fod yn fachgen gwyllt." Dyfarnwyd 75p o iawn i'r erlynes.
MR BRYCR A 'fHY'R AKGLWYDDI.
MR BRYCR A 'fHY'R AKGLWYDDI. Bu Mr Bryce, A.S., Canghellydd Duciaeth Lancaster, yn siarad yn Manchester nos Lun. Dywedodd na byddai i'r Llywodraeth gymeryd ei dychrynu os y byddai i Dy'r Arglwyddi daflu allan ei mesurau. Byddai i'r gweinidogion yru eu mesurau i fyny fel pe na byddai Ty yr Arglwyddi mewn bod, a phan ddeuai yr adeg i ymdrech derfynoll gymeryd lie, byddai i'r Llywodraeth ofyn ir wlad ddyweyd ei barn ar y mater. Yna ceid gweled gan bwy y byddai mwyaf o achos ofni,—pa un ai gan Dy'r Arglwyddi ai ynte gan Werin y Deyrnas.
LLOFRUDDIAETIl BLACKBURN-
LLOFRUDDIAETIl BLACKBURN- Dedfryd o Farwolaeth. Yn Mrawdlys Lerpwl cyhuddwyd Evan Duckworth, 32 mlwydd oed, o lofruddio I, geneth. fechan o'r enw Alice Barnes, yn aros yn Blackburn. Merch i ffermwr oedd y drancedig, ac anfonwyd hi i yru gwartheg i gae. Yn ddilynol caf-,vyd, bycl i'w chorph, a chadach boced wedi ei wthio i'w genau. Ty°tiodd amryw eu bod wedi gweled y carcharor yn ymyl y lie tua'r adeg yr ym- osodwyd ar yr eneth. Yr oedd ol troed yn y clai gerllaw vn ateh i'r es^id carcnaror.^J-'j'-j' VHV uTuIr. a dedfryd-
CYMDEITHAS Y LIBERATOR.
CYMDEITHAS Y LIBERATOR. Cymeryd dau i'r ddalfa. Dechreuwyd gwedd newydd ar hanes hynod Cymdeithas anffodus y Liberator ddydd Llun, pan ddygwyd dau oedd mewn cysvlltiad a hi o flaen llys bam yn Bow Street. Llundain. Y ddau garcharor oedd- ynt Henry Granville Wright, cyfreithiwr y Gymdeitbas, a James William Hobbs, o Gwmni Hobb a'i Gyfeillion. Cyhuddid y ddau o ffugio bil arianol am 136p 8s 7c, a chyhuddir Hobbs yn mhellach o ladrata 29p 9s, arian Hobbs a'i gyfeillion, i'r hwn gwmni y byddai y Liberator yn ei gyflenwi ag arian i gario yn mlaen ei fusnes. Rhoddwyd tystiolaeth gan G. C. Kentish, yr hwn a fu yn ngwasanaeth Hobbs fel cashier. Yn 1885 ffurfiwyd Cwmni cyfyng- edig i gymeryd busnes Hobbs, a phenod- wyd Hobbs yn gyfarwyddwr ac arolygwr am gyflog o lOOOp yn y flwyddyn, yn' nghyda bonuses. Cyn hyny y Liberator fyddai yn rhoddi arian iddo i'w gario yn mlaen. Yn 1883 yr oedd ar Hobbs o 3,000p i 4,000p i Wright. Gwnaethant filiau drwy ba rai yr oedd Hobbs i gael arian Gymdeithas, ac yr oedd ef alu i Wright. Ffurfiwyd Armjad^^yTjondon and General gan as y Liberator. Mewn ejv^-cyfreithiwr y Liberator a'r Apetioyoedd Wright, ondmewn gwirionedd ^ife oedd y prif ysgogydd mwn cysylltiad a hwynt. Cymdeithas y Liberator fyddai yn arfer rhoddi arian i dalu cyflogau i weithwyr Hobbs, a byddai ef (y tyst) yn arfer dywedyd wrth awdurdodau y gymdeithas fod angen mwy o arian i dalu cyflogau nag oedd mewn gwirionedd. Hobbs fyddai yn arfer cael y gweddill, er y byddai y tyst weithiau yn arfer cadw yovydig ei hunan. Yn ddi- weddarach, daeth ysgrifenydd y cwmni --(Benjamin Bailey) i wybod am y ddichell, pryd y rhoddodd y tyst y bai ar Hobbs. Yn ddilynol diswyddwyd y tyst gan Hobbs, a dodwyd Mr Currie yn ei le. Bu yn derbyn tua phum punt yr wythnos oddiwrth y twyll hwnw, neu tua 200p o gwbl. Benjamin Bailey, yr hwn oedd yn ysgrif- enydd cwmni Hobbs pan ataliwyd gweith- WY rediadau y cwrani, a roddodd dystiolaeth yn mhellach. Darganfyddodd y twyll a wneid gyda'r tafleni cyflogau, a siaradodd gyda Kentish a Hobbs. Addefodd Kentish hyny, ond gwadai Hobbs. Gohiriwyd y prawf hyd ddydd Gwener. Gwrthodwyd caniatau meichiafaeth i'r careharorion.
[No title]
CADWEN AUR AM GEINIOG. Gwel eolofn y Nadolig yn ein hyebysebau'r wythnos hon. YsTOEiAtr NADOLIG C-AJT ATOWR CYM- REIG. Gweiy enedl ymreig yr wythnos nesaf.
IGWAITH DWFR LERPWL.
I GWAITH DWFR LERPWL. Deallir fod gwaith dwfr Lerpwl o'r diwedd I' bron a chael ei gwblhau. Yr anhawsder mwyaf a gyfarfyddwyd ag ef oedd gwneyd twnel i gario y pibellau dan y Mersey, ond credir y bydd hyny wedi ei gwblhau yn niwedd y mis hwn. Derbynir yn awr ddwy filiwn o alwyni o ddwfr y Fyrnwy bob dydd yn Lerpwl drwy y pibellau a roddwyd dros yr afon i aros i'r twnel gael ei wneyd.
BRADWRIAETH ERCHtLL.[
BRADWRIAETH ERCHtLL. [ Dejigain wedi eu lladd. J Darganfyddwyd bradwriaeth erchyll i I wenwyno y gweithwyr gwrth- undebol yn I Homestead, America, ddydd Llun. Y mae deugain wedi marw yn barod, a thros dri < ugain yn wael ar ol cael eu gwenwyno. Er pan mae yr anghydwelediad wedi tori allan ( yn y parthau hyn, y mae y gweithwyr I sydd yn cymeryd lie y rhai aeth ar streic yn bwyta ac yn cysgTi yn y gwaith, a bernir fod arweinwyr y streicwyr wedi cytuno a'r prif gogydd i roddi gwenwyn yn eu bwyd, fel nas gallai y dynion fyned yn mlaen gyda'u gWaith. O leiaf dyna ddywed un o gynorth- wywyr y cogydd. Cymerwyd naw i'r ddalfa ar yr amheuaeth fod gancldynt law yn y fradwriaeth.
[No title]
YSTORIAU NADOLIG GAN AWDWYR CYM- REIG. Gwel y Genedl Gymreig yr wythnos nesaf. '.<IIII-
GWAITH DWFR YR ABERMAW.
GWAITH DWFR YR ABERMAW. Fel y mae yn wybyddus bellach yr oedd gofynion y cyfreithwyr, &c., am eu gwasan- aeth i basio mesur gwaith dwfr yr Abermaw yn 3890p. Protestiodd y Bwrdd Lleol yn erbyn hyn, gyda'r canlyniad i'r taxing officer yn Nhy'r Cyffredin groesi tua 400p allan o'r bill.
DRYLLIAD YSGWNER GER BANGOR.
DRYLLIAD YSGWNER GER BANGOR. Aeth yr ysgwner Anne, o Gaer, yn ddryll- iau ar graig ger Penmon foreu Sul. Ceis- iodd y dwylaw redeg i Gulfor Menai am loches rhag yr ystorm, ond rywfodd aethant ar y- graig. Gallodd y pedwar dyn oedd arni achub eu bywyd drwy fyned i'w cwch 1 eu hunain, a glaniasant yn Mhenmon. Derbyniasant bob caredigrwydd gan y pilots yno, a dydd Llun anfonodd Mr R. Hughes, Bangor, goruchwyliwr Lloyd yn y gymydogaeth, y dynion adref i Cornwall, ar draul Cymdeithas y Morwyr Llongddryll- iedig. Dyma'r trydydd llongddrylliad yn y gymydogaeth hon yn ystod yr wythnos ddiweddaf*
TEETHGASGLYBD COLWYN |BAY.
TEETHGASGLYBD COLWYN BAY. Yn nghyfarfod y bwrdd lleol, ddydd Mawrth, dan lywyddiaeth y Parch W. Venables Williams, darllenodd y cadeirydd benderfyniad o eiddo y pwyllgor arianol yn argymhell fod cais yn cael ei wneyd fod Bwrdd y Llywodraeth Leol i wneyd ym- chwiliad i gyfrifon y trethgasglydd, gan eu bod wedi darganfod fod ei gyfrifon yn fyr o tua lOOp. Argymhellent hefyd fod y swyddog hwnw i gael ei atal yn y cyfamser. Wedi peth siarad, pasiwyd fod argymhellion, y pwyllgor i gael eu mabwysiadu, ac apwyntiwyd y clerc i dderbyn y trethi ar hyn o bryd, a'i fod i fyned a'r arian i'r ariandy bob dydd. Cyn i'r cyfarfod der- fynu hysbysodd y clerc ei fod wedi derbyn .nodyn oddiwrth y trethgasglydd yn hys- bysu fod 109p wedi cael eu talu i'r ariandy yn nghyfiif y bwrdd.
PROFIXD DU JPAN JONES.
PROFIXD DU JPAN JONES. Mae y Celt" wedi bod drwy ei oes yn ffyddlon i'w egwyddorion, yr Iaith Gymraeg, ,-UOW3.0 ar CDdaear i'r Bobl, os yw dydd ei ymddatodiad yn yr ymyl, fel yr awgrymir, mae'n gysur i mi feddwl ei. fod wedi ym- drech yn deg ac wedi cadw y ffydd yn wyneb llawer o anfanteision. Mae iddo lawer o ddisgyblion yn y. wlad, ond ofnaf mai disgyblion hanerog ydynt pe amgen ni throisent eu cefn arno yn nydd ei drallod. Pa un gwell iddo fyw lai marw nis gwn i, ond hyn a wn i na ddymunwn iddo fyw os nad yw y bobl yn teimlo fod ganddo eto swyddogaeth i'w chyflawni. Ni chafodd y gohebwyr geiniog erioed am eu liafur, Ilafur cariad oedd y cwbl, ac ni fu y cylchrediad y fath ag i roddi brasder i'r cyhoeddwr. Mae y "Celt" yr hyn ydyw yn rhinwedd yr egwyddorion a broffesa. Yr ydym wedi cael amryw awgrymiadau am y rheswm nad yw mor boblogaidd ag y bu. Yr ydym yn eu credu. Wel, os na chwrddwn eto ar faes y Celt." Nos da. Tybed nad oes modd codi y cylchrediad ?-O'r Celt."
[No title]
CADWEN A TJB, A GEINIOG. Gwel colofn y Nadolig yn ein hysbysebau'r wythnos hon. YSTORIAU NADOLIG GAN AWDWYR CYM- REIG. Gwel y Genedl Gymreig yr wythnos nesaf.
fcORWYR YN GADAEL LLONG.
fcORWYR YN GADAEL LLONG. Dygwyd yr ysgwner Ocean Belle i Southampton gan yr agerlong Broomsgrove. Cafwyd hyd iddi yn gorwedd ar ei hochr y tuallan i Beachy Head, a chydag anhawsder y gallwyd ei dwyn i ddiogelwch. Bernir fod ei dwylaw wedi cael eu pigo i fyny gan agerlong a basiai, a'u cymeryd i Antwerp. Mr R. Williams, Borth, Aberystwyth, yw perchenog y llong.
DAL LLEIDR IEIR.
DAL LLEIDR IEIR. Cafodd Edward Walsh ei ddal yn Warring- ton yn y weithred o ladrata ieir o dy ieir John Williams, Dongford-street. Tua haner awr wedi deg nos Sul, gwelodd hedd- geidwaid y carcha-ror yn gadael buarth Williams, ac aeth ar ei ol. Yr oedd ganddo ddwy iar, un yn fyw, a'r llall wedi ei lladd, o dan ei freichiau. Add efodd y carcharor ei eUogrwydd, ac anfonwyd ef i ysgol ei Mawrhydi am ddau fis.
.CAMDDEFNYDDIO LLVYFBR TROED-
CAMDDEFNYDDIO LLVYFBR TROED- Yn heddlys Runcorn, cyhuddwyd un o wasanaethyddion y llythyrdy o gttm- ddefnyddio llwybr troed yn y dref hono drwy lusgo truck ar hyd-ddo. Cafodd ei ddirwyo i 9s 6c, yn cynwys y costau. Bydded hyn yn rhybndd i beehaduriaid cyflfelyb mewn trefydcl ereill.
YMOSODIAD CIAIDD YN Y RHYL.
YMOSODIAD CIAIDD YN Y RHYL. Gerbron ynadon y Rhyl, ddydd Llun, cyhuddwyd dyn ieuanc o'r enw Joseph Hughes o ymosod ar ddynes briod o'r enw Ellen Ellis. Yr oedd y ddau mewn gwesty yn y dref hono, a chan fod yr erlynes yn gwrthod cario yn mlaen ymddiddan ag ef, ciciodd y diffynydd hi yn ei hystumog, ac y mae hi byth er hyny dan law meddyg. Anfonwyd ef i garchar am dair wythnos.
* YGAIR COLL.
YGAIR COLL. Yn ddiweddar daeth ffurf neillduol o gystadleuaeth" i fri mawr yn mysg y Saeson. Argrephid paragraph mewn cylch- grawn, a gadewid un gair allan o hwnw. Yna gwahoddid y darllenwyr i geisio dyfalu beth allai fod. Yr oeddynt i dori allan ffurf o'r papyr, ac ysgrifenu y gair ar hwnw, ac yna ei yru gyda swllt i'r swyddfa. Rhenid y sylltau rhwng y rhai fyddo wedi dyfalm yn gywir, ac weithiau disgynai o 70p i 80p i ran bob un fyddai wedi taro ar y gair fyddai dan sSl gan y golygydd. Ymledodd y eystadleliaethau gymaint fel y galwyd sylw yr awdurdodau at y mater, ac erlynwyd un o'r papyrau yn heddlys Bow-street ddydd Mawrth. Cafwyd y golygydd yn euog o chwareu damwain, a dirwywyd ef i 10s ar chwech o gyhuddiadau. Diau y bydd i hyn roddi terfyn ar yr arferiad, ac y mae rhai papyrau yn barod wedi hysbysu. eu bod am roi y goreu iddynt. Yn nglyn a hyn gellir nodi un ffaith alaethus, o blith amryw cyffelyb. Bu un o aelodau seindorf yr Aquarium yn Llundain yn ddigon ffodus i ddyfalu yn iawn, a chafodd wobr. Effeithiodd hyn gymaintarno fel y dyryswyd ei synwyrau, a chydag anhawsder mawr y llwyddwyd i fyned ag ef adref.
[No title]
CADWEN AUR AM: GEINIOG. Gwel colofn y Nadolig yn ein hysbysebau'r wythnos ton.
MILWR YN TORI EI WDDF.
MILWR YN TORI EI WDDF. Fel yr oedd nifer o'r life guards yn cym- eryd eu boreuf wyd yn Thorncliffe, brawych- wyd hwy gan waith un ohonynt yn cymeryd cyllell i dori ei wddf. Gwnaeth ddau archoll dwfn, a syrthiodd i lawr mewn cyflwr an- ymwybodol, a'i waed yn llifo. Cymerwyd ef i'r ysbytty, lie y gorwedda yn awr mewn perygl mawr. Bernir ei fod wedi myned yn orphwyllog, gan fod arwyddion felly arno yn ystod y nos.
I.CYFLAFAN MEWN GWALL GOFDY.
CYFLAFAN MEWN GWALL GOFDY. Nos Sadwrn cymerodd cyrfafan le yn ngwallgofdy Birmingham, pryd y lladdwyd un dyn ac y niweidiwyd un arall. Per- fformid drama yno, ac yr oedd y gwylwyr a nifer o'r gwallgofiaid yn yr ystafell hono. Rhoddwyd gofal y gwallgofiaid ereill ar un dyn, yr hwn a gerddai 01 a blaen heibio y gwahanol ystafelloedd. Torodd un dyn allan yn afreolus, ac' ymosododd ar dri o'i gyd-ddioddefwyr. Cafwyd ei fod wedi agor pen un ohonynt, tra yr oedd wedi lladd un arall, drwy gura ei ben yn chwilfriw. Nid oedd y trydydd wedi derbyn niweidiau trymion. Cafwyd hyd i'r ymosodydd yn gorwedd dan wely un o'r dynion.
Y LL\S()EI)D l'U FrYRDD TROELLOG.
Y LL\S()EI)D l'U FrYRDD TROELLOG. Adroddir yr hanesyn trist a ganlyn mewn cysylltiad a'r canghell-lys. Priododd mar- siandwr yn Llundain a. merch ieuanc oedd mor anffodus a bod dan warchodaeth y llys. Yr oedd ganddi bedwar cant o bunau, ond aeth gweithrediadau y llys a lOOp ohonynt ymaith, neu y bedwaredd ran o'r ystad. Yn bur fuan wedi iddynt briodi cymerwyd y wraig yn glaf, a dywedai y meddygon mai yr unig obaith i achub ei bywyd oedd ei symud i hinsawdd dynerach. Nid oedd gan y gwr druan ddim i'w wneyd ond apelio at y llys am ran o arian y wraig, er mwyn gallu cydymffurfio a gorchymyn y meddyg. Cadwyd y mater yn agored gan y llys am haner blwyddyn, ac yn y diwedd gwrthod- wyd y cais. Ond yn y cyfamser yr oedd y wraig wedi marw, yn unig am na fuasai yn cael defnyddio ei harian ei hun i symud i hinsawdd arall. Yn goron ar eu holl fwn- glerwch,cododd yr awdurdodau 80p felcosta u am eu gwaith yn ystyried yr achos.
SUT I DRIN ORIAWR
SUT I DRIN ORIAWR Dirwynwch eich oriawr mor agos ag y gellwch yr un awr bob dydd. Dylid cy- meryd gofal i beidio rhoddi iddiysgytia d sydyn. Gofalwch ar fod eich agoriad mewn cyflwr da, yn gwbl rydd oddiwrth lwch a chraciau. Cedwch eich oriawr yn dyn yn eich llaw tra y byddwch yn ei dirwyn, fel ag i osgoi pob symudiad cylchynol. Dylai yr oriawr, pan fyddoch yn ei hongian, gael rhywbeth i bwyso arno, a phan fyddwch yn ei gosod ar y bwrdd ar ei chefn, dylid gofalu fod rhyw sylwedd esmwyth odditani. Ni ddylid agor y gwydr ar un adeg, os bydd yr oriawr wedi ei gwneyd i agor o'r tu ol. Cedwch boced yr oriawr yn lan oddiwrth lwch neu ysgarthion ag ydynt yn dueddol o gasglu yn y boced.
[No title]
Hawlir mai y Cymry a'r Saeson ydyw y cyfreithwyr-garwyr mwyaf yn y byd. Y mae yn Mhrydain un am bob 650 o'rboblog- aeth. Nid oes gan yr Americaniaid ond un i bob 950, y Ffrancod un i bob 2000, a'r Belgiaid un i bob 2700.
Advertising
i.o. "I t If :i t< •" V" *v'' J' • • "• '• i V:. r.- ■j/ryiiti.irrfw • I W 3EX 33 ———- f MAZAWATTEE CEYLON TEA COMPANY Wish to be distinctly understood that they ¡, m n Agoh,, mm AER-IM DO NOT TRAFFIC '{ 1 B N tt M B "'I IN COMMON TEAS which are dear at any price, and a fruitful cause of diseases of the nervous and digestive organs, mom= THEY WARN THE PUBLIC against being tempted into buying rubbish, even at the low prices now advertised. -1- Bear in mind that the MAZAWATTEE blends recall the delicious China Teas of Thirty Years Ago, and are to be obtained from specially appointed Agents amongst the leading Family Grocers in the United Kingdom. i AGENTS.—THOMAS LEWIS & Co., 315 HIGH STREE, and RATHBONEIPLACE, BANGOR. v t 1
----TORI, AM 250,000p.
TORI, AM 250,000p. Anfonodd y Mri Lepmann a'u Cwmni, marsiandwyr, Dundee, gylchlythyr allan yn hysbysu nas gallent gyfarfod a'u gofynion, oblegid colledion trymion i gawsant, a bod gwerth eu stoc wedi myned i lawr. Y mae eu dyledion yn 250,000p.
CAMLAJS MANCEINION.
CAMLAJS MANCEINION. Mae adran arall o'r gamlas uchod wedi cael ei chwblhau, sef o Latchford Loch hyd Islam. Prysurir yn inlaen gyda'r rhanau ereill, er fod cryn lawer o waith heb ei gwbl- hau hyd yn hyn.
JFFORTIWN I DLOTTYN.
JFFORTIWN I DLOTTYN. Hysbysir fod hen wr o'r enw Sheridan, yr hwn oedd yn nhlotty Lambeth, wedi dod i feddiant o stad werth 300,000p. Yn 1883, bu chwaer i dad Sheridan farw heb wneyd ei hewyllys, a chafwyd allan mai y tlottyn hwn oedd ei pherthynas agosaf. Daeth yr eti- fedd i'r tlotty tua'r un adeg ag y bu farw ei fodryb.
LLYTHYRDOLL GEINIOG DRWY YR…
LLYTHYRDOLL GEINIOG DRWY YR YMIIERODRAETH. Hysbysa y Daily Chronicle fod y Llywodr- aeth wedi penderfynu sefydlu llythyrdoll geiniog drwy yr oil o'r Ymherodraeth Bryd- einig. Gwedir gan swyddogion y llythyrdy fod gwirionedd yn hyn, ond efallai na ddylid rhoddi gormod pwys ar hyny.
DEISE-B FINSBURY.
DEISE-B FINSBURY. Yr wythnos hon gwrandawyd deiseb yn erbyn Mr Dadabhai Naoroji, yr aelod Sen- eddol Ehyddfrydig dros Ganolbarth Fins- bury. Y barnwyr Cave a Vaughan Wil- liams wr an da went yr achos. Tynwyd yn ol y cyhuddiadau personol yn erbyn yr aelod. Gan hyny troai y cyfan ar nifer y rhai oedd wedi pleidleisio ac heb fod ganddynt hawl i wneyd hyny. Buwyd am ddeuddydd yn gwrando gwrthwynebiadau i hwn a'r llall, ac yn tynu eu pleidleisiau oddiwrth y ddwy ochr, fel y digwyddent fod. O'r diwedd cynygiodd cyfreithwyr y Toriaid y bnasent yn tynu y ddeiseb yn ol ar yr amod fod y Rhyddfrydwyr yn talu eu costau eu. hunain. Cydsyniwyd a hyn, a chadarnhaodd y barn- wyr hyny. Felly Mr Naoroji, yr hwn a alwai Arglwydd Salisbury unwaith y Dyn Du," yw yr aelod dros y ddosran hon o Lundain.
GWEITHWYR SEGUR LLUNDAIN.
GWEITHWYR SEGUR LLUN- DAIN. Iaith Fygythiol. ly Mewn cyfarfod o'r'rhai sydd" allan o waith," a gyniialiwyd gerllaw Twr Llun- dain, brydnawn LIun, dywedodd Mr Old- ham, yr hwn a ddesgriBd fel y trefniedydd apwyntiedig newydd," fod yno gynifer a 16,000 o ddrylliau yn y Twr gerllaw, a phe buasai y bobl wedi (ael eu disgyblu a'u trefnu yn briodol, y gallesid eu cael yn hawdd. Yna gallent arfogi eu hunain a gorfodi y cyfalafwyr i ganiatau eu gofynion. Ond cyn iddynt ddysgyblu eu hunain yn briodol nis gallai efeymgymeryd a'u b arwain i wneuthur y cyfryw ymosodiad. Diau na chymerant eu dysq-yblu i'r graddau hyny, fel ag i ganiatau i Mr Oldham y pleser ou harwain ar y fath an tlriaeth ehud.
ESIAMPL 0 BRYDLONDEB.
ESIAMPL 0 BRYDLONDEB. Gwahoddodd yr Ymherawdwr Napoleon I. ei swyddogion milwraidd i giniaAva gydag ef un prydnawngwaith am ddau o'r gloch. Yr oedd y swyddogion ychydig amser yn rhy ddiweddar. Eisteddodd yr Ymherawdwr wrth fwrdd y wledd cyn gynted ag y taraw- odd yr awrlais ddau. Yr oedd yn fwytawr buan, ac anaml yr eisteddai wrth y bwrdd uwchlaw deng mynud, Yn niwedd yr amser hwn ei gyd-flaenoriaid a wnaethant eu hymddangosiad, yntau a gyfododd i'w derbyn gan cidywedyd, Foneddwyr, mae y ciniaw yn awr drosodd, ac ni awn yn mlaen at ein gorchwyl yn ddioed." Felly bu raid i'r cyd-flaenoriaid eistedd i ystyried rhyw ryfelgyrch oedd mewn golwg gyda chylla gwag.
NEWIB DAU FYD.
NEWIB DAU FYD. 1 Ar noswaith ocr yn ddiweddar, tra yr oedd nifer o lowyr yn gwneyd eu ffordd t drwy eira trwchus i fyned i weithio stem i'r pwll glo, tynwyd eu sylw at ryw greadur oedd wedi rhoi i lawr i gysgn" ar ochr y ffordd. Aethant ato a cheisiasant ei ddeffro, ond yn hollol ofer. Cysgu yn drwm yr oedd o hyd; a chan yr ofnent ei adael, rbag ofn y buasai farw gan yr oerfel, penderfynasant fyned ag ef i lawr y shaft, ac felly gwnaed. Cysgu yr oedd ar ol myn'd i lawr. Yna dodasant ef i orwedd ar ryw fath o wely, a chysgodd am oriau lawer. O'r diwedd ym- ddihunodd, a mawr oedd ei ddychryn. Nis gwyddai o bethau'r byd pa fodd y daethai i'r fath le, a thybiai yn sicr ei fod yn uffern. Daeth un o'r glowyr ato, a gofynodd iddo pa beth oedd ei alwedigaeth. "Wel, yn wir, Mr C 1, clochydd oeddwn i yn y byd arall, ond wn i yn y byd beth fydda i yraa."
YR HEN AMSER DA GYNT.
YR HEN AMSER DA GYNT. Pris Liafur yn nghanol y Bedwaredd ganrif ar ddeg. Cyflog gweithiwr cyffredin am ddiwrnod 2c. Pris chwarter o wenith, 3s 6c i 4s; canolisr 3s 8c. b Rhoddid chwarter o wenith, gwerth 3s 6c, yn dal am waith 22 o ddyddiau. Am waith 20 diwmod, mochyn tow, dwy flwydd oed. Am waith 20 diwrnod, dillad i was cyflog am flwyddyn. Am waith 6 diwraod, chwarter o bys neu ffa. Am waith 5 diwrnod, chwarter o haidd. Am waith 2 ddiwrnod, par o esgidiau. t' Am waith un di-.vimo(l. au alwyii o gwrw. Hanoi y Bymthegfed Ganrif. Cyflog gweithiwr cyffredin am ddiwrnod, 3c. Pris chwarter o wenith, 5s i 5s 6c. Am waith 20 i 22 diwrnod, chwarter o wenith. Am waith 16 diwrnod, chwarter o frag. Am waith 17 diwmud, dillad gwas am flwyddyn. Am waith 8 diwrncd, chwarter o geirch. Am waith 7 diwrnod, ystlys mochyn. Am waith 4 diwmod, llathen o frethyn bras. Am waith 1 diwmod, tri galwyn o gwrw. Dechreu yr Unfed ganrif ar bymtheg. Cyflog gweithiwr cyffredin am ddiwrnod, 3^c, Pris chwarter o wenith, oddeutu 7s 6c. Am waith 26 diwmod, chwarter o wenith. Am waith 14 diwrnod, chwarter o frag. Am waith 7 diwmod, chwarter o geirch. Am waith 1 diwrnod, naw pwys o biff, pore, neu veal. Am waith 1 diwmod, saith bwys o gaws. Am waith 1 diwrnod, pedwar bwys o ytnenyn. Canol yr Ail ganrif ar bymtheg. Cyflog gweithiwr cyfRedin am ddiwrnod' Is 6o. Pris y gwenith, 40s y chwarter Pris y br? g, 20ft y chwarter. Am waith 37 o ddyddiau, chwarter o wenith. Am waith 22 o ddyddiau, chwarter o frag. Am waith 7 diwrnod, chwarter o geirch. Am waith 4i diwmod, dau grys wedi ea o wntfd.
C Y FLC G UL AC ORUU SEFVDLOG.
yn ddiameu a fabwy«iedir gan y Cynghor, yn cynwys cynllun i sicrhau i weithwyr gyflogau teg. Yn ol y cyiillun hwn y mae tailen o gyflogau ac orian i gael eu cadw yn Neuadd y Sir, y ihai hyn yn seiliedig ar gyflogau ac oriau Undeb Gweithwyr Llundain. Y mae pob contractor fydd yn gweithio i'r Cynghor i ymrwymo y bydd iddo dalu i'w weithwyr y cyflogau hyp, a chadw at yr oriau penodedig. Os bydd iddo dori ei ymiwymiad y maeyn agored i ddirwyon trymion. Pe byddai i'n holl Fyrddau a Chyrsghorau Cyhoeddus gyd- nabod hawliau liafur yn y modd hwn, buan y dilynai cwmniau a meistri yr esiampl. Trwy ymdrech galed y llwydd- odd y gweithwyr i gael gan y SLlywodr- aeth ryddid i ffurfio andebau. Y flwyddyn hon y daeth Undebiaeth i oed, canys un mlynedd ar hugain yn ol (yn 1871) y pasiodd y Rhyddfrydwyr Ddeddf Un- debau y Gweithwyr." Yn America y meistri sydd yn ymuno a'u gilydd dan amddiffyniad y Llywodraeth i godi prisiau nwyddau i'r swm uchaf y gall y prynwr dalu, a gostwng cyflogau i'r ewm isaf y gall gweithiwr fyw arno.