Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

GLYWSOCH CHWI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLYWSOCH CHWI Fod annealltwriaeth wedi tori allan eto cydrhwng degwm-dalwyr plwyf Llannor ZD a'r ficer ? Fod y Parch John Jones am eu dwyn i ymosfcwng trwy eu gwysio yn Ilys y man ddyledion ? Fod y Parch E. T. Davies, rheithor Pwllheli, wedi dyfod i benderfyniad cyffelyb gyda'r rhai gwrthryfel-ar yn ei blwyf yntau 1 Fod disgwyliad mawr am i'r achosion gael eu gwrandaw yn y lly3 ddydd Mawrth ? Eu bod yn rhy bail ar y thestr i'i Barnwr Beresford- allu eu cyrhaedd y diwrnod hwnw ? Nad yw y barnwr hwn yn deall yr un gair o Gymraeg, er mai Cymry unieithog yw y mwyafrif o'r bobl y mae yn ymwneyd a hwy yn ei lysoedd ? Fod Pwllheli newydd gael ei breintio a dau o ynadou newydd ? Mai un o'r rhai hyny ydyw Y Maer," sef Mr Edward Jones a'r llall, Dr Samuel Griffith 1 Ei bod yn llawn bryd i'r Arglwydd- Raglaw dalu sylw i'r angen sydd am ynadon mewn ardaloedd gwledig yn Lleyn ? Mai anghyfiawnder a'r cyhoedd yn gyffredinol ydyw fod rhaid i drigolion yr ardaloedd hyn deithio chw >ch, ie, deng milldir, cyn y gallant gael ynad i arwyddo gwys neu bapyr o'r fath ? Fod un o ddefaid Mr Jones, Llech- ylched, Mon, wedi dod i gryn enwog- rwydd ? Mai y gwrhydri a wnaeth oedd bwrw dau cen yr wythnos hon 1 Fod yn beth anarferol iawn gweled wyn yn cael eu geni mor gynar, neu ynte feallai mai mor ddiweddar ddylem ddweyd ? Mai gotygfa ddoniol iawn oedd gweled y dyn tal hwnw yn cario. par o glocsiau dros ei ysgwyddau drwy ystrydoedd Caernarfon ddiwrnod ffair y gauaf ? Fod tuedd mewn amryw i'w gymeryd yn ysgafn, ond nad oedd dim yn menu arno? Fod rhy-wun wjdi eu cuddio tra yr ydoedd yn y gerbydres yn myned adref 1 Mai helynt tlin In hi tua gorsaf P- pan y gwelodd eu colli ? Eu bod erbyn hyn wedi cael eu had- feryd yn ddyogel iddo 1 — Am y liane o fardd o gymydogaeth Bethesda wedi myned i "gynyg" ei hunan i foneddiges yn ddiweddar ? Mai dyma ei brofiad ar gan:- Mi es i gynyg dan fy mhwn, Can's gwyddwn lle'r oedd gweddw, Ond er i mi ymbilio'n daer, Fe droes y chwaer yn chwerw. Am hen fardd arall, gafodd ei wrthod. gan foneddiges arall, ac mai dyma brofiad hwnw:— Gwarth yw dy iaith, gwrthod weithian brydydd, 0 briodol amcan: A mawr loes roes Men Ian—trwy r gwawdio, i 9 A dyn a'm helpo-dyna i mi halpan. Am y gofyniad hwnw yn y Gwalia, Pa le y ceir digon o bobl i lenwi capel newydd Wesley aid Giasinfryn ? Mai Eglwyswr, with gwr, oedd y gofynwr? Na raid ond myned yno na wenr hen E,wyswyr weli troi i ofyn am faeth o y spry dol ? JSad oeseisieu dadgysyljtiad yn gan fod y cloohydd Nvzdi rhoidi ei le i fyny ac amryw o'r aelodau wedi myned, ar ddisperod ? Amyperchenog chwareudy hwnw yn Manchester a anfonodd at luaws o wyr enwog am eu barn am p intomimes? Mai atebiad Mr W. S. Caine, A.S., ydoedd fod bywyd yn rhy fyr i dalu sylw i bethau o'r fath ? Nad yw Dr Parker, Archesgob YOIK, Esgob Caerloyw, nac Esgob Manchester erioed wedi gweled pintomime ? Ei fod yn debyg nad oedd yr un o'r urddasolion hyn yn bresenol ya y pan- tomime bythgofiadwy a gynhaliwyd yn y Rhyl rhyw flwyddyn a haner yn ol Fod gofaint yn cymeryd cwrs gorfodol at ofleiriadon yn ddiweddar yn ? Fod yn debyg y troir y byrddau ar y brodyr hyn yn fuan 1 Y bydd raid iddynt ymddangos yn y cwrt bach yn fuan, ond nid fel erlynwyr dn gyfraith newydd y degwn ? Mai dal i gael eu poeni y mae goreu- gwyr pentref Llanfechell gan y bechgyn hyny sydd yn ymdyru at eu gilydd bryd nawn Sabboth ? Fod llawer yn rhyw led obeithio y buasent yn diwygio ar ol gweleJ cyfeiriad atynt yn y Werin 1 Mai dal yn wargaled y maent hyd yn hyn ? Mai yr oruchwyliaeth nesaf a gym- hwysir atynt fydd cyhoeddi eu henwau a'u cyfeiriadau yn llawn yn un o'r rhifynau nasaf ? I Fod rhestr gyflawn wedi cael ei gyru i 0 fewn yn barod ? Y gadewir hi "llan yr wythoos hon yn y gobaith y bydd diwygiad wedi cymeryd lie y Sabboth nesaf ?

DYFODIAD Y GAUAF.

[No title]

'93.-,

[No title]

SEDD. SYE PRYCE JONES.1

MARWOLAETH 4 WILL PANT Y MWDA."

RHINWEDDAU IACHAOL "QUININE…

Y DDIOD ETO.

[No title]

Advertising

RHAI OFERGOELION POBLOG-AIDD.