Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
41 erthygl ar y dudalen hon
Boddi wrth Ymdrochi.
Boddi wrth Ymdrochi. Nos Lun, bu yii ieuanc o'r enw A. Price foddi tra yn ymdrochi yn Aldford Brook, yn ymyl Caer. Gwnaeth un o'i gyfeillion ym- drech ddewr i'w achub, ond methodd yn ei gais. Ni ddeuwyd o hyd i'r corff hyd yn hyn.
Gyflogau Morwynion.
Gyflogau Morwynion. Mae y "Standard" yn credu fod ganddo sail gref dros gyhoeddi fod Adran Llafur perthynol i Fwrdd Masnach, er's cryn amser bellach, yn casglu gwybodaeth mewn llawer o gylchoedd gyda golwg ar y cyflogau a roddir i forwynion gweini. Gobeithio y gwneir ymchwiliad trwyadl i'r mater yn Nghymrn. Os gwneir, diau y rhyfeddir lawer at y dadleniadau.
Llatur a Chyflog,
Llatur a Chyflog, Dydd Sadwrn, darfu i seiri yn Newcastle a'r gymydogaeth, yn rhifo tua saith gant sefyll allan am godiad yn eu cyflogau o 91-C i 2 10c yr awr. Gwrthyd y dynion roddi'r mat- 10c yr awr. Gwrthyd y dynion roddi'r mat- er i gvflafareddiad. Y mae streic y plastrwyr ar ben. El y dynion at eu gwaith yn yprif adeiladau ar Yanwaith. Dywedir fod galw am gyflenwad mawr o wlanen Cymreig yn Llundain a threfi mawr- ion ereill; ond nad yw y gwehyddion yn mal- io dim am y peth.
Dirwyon jTrymion yn Mettwsycoej.
Dirwyon jTrymion yn Mettws- ycoej. Yn Ilys yr heddgeidwaid yn Mhettwsy- coed, ddydd Sadwrn, gerbron y Milwriad Johnson ac ynadon ereill.—Am dori a llad- ata celyn, gwerth 5s, oddiar ystad y Milwr- iad Higson, uchel 'sirydd i-ir Ddinbych, di- rwywyd George Edwards, Scotland street, Llanrwst, i 5p a'r ccstau, neu fis o garchar- iad. Derbyniodd yr olaf.-Am yru ei motor car yn orwyllt drwy blwvf Maenan ar yr 8fed o Fai, dirwywyd Robin-son Kay, land- lord y Washington Hotel, Llandudno, i op a'r costau.
CYfLAFAN EGHRYDUS IN ABERTAWE.
CYfLAFAN EGHRYDUS IN ABERTAWE. Yn lied gynar foreu Gwener, cymerodd llofruddiaeth orchyll le yn Heol Fawr, Aber- tawe. Aeth morwr Germanaidd o'r enw Henry Pelican gyda, dynes a'i benw Ellen Waltham i dy, ac yno cwerylodd y ddau yn nghylch newid o sofren. Ymgeisiodd y ddynes redeg i fyny'r grisiau, pan y tynodd Pelican gyllell allan a thrywanodd hi yn ei mynwes. Da:h William ivmgdon, llafurwr yn y doc, yn nny yr hwn yr oeddynt, i geisio gwaredu y ddynes; ond ymosododd y Ger- manwr ar Kingdon gyda'i gyllell, a thrywan- odd ef islaw ei galon, gan ei ladd bron yn y fen.
CHWAREL Y PENREYN.
CHWAREL Y PENREYN. ATAL ARWEINWYR Y STREIC I WEITHIO. Y mae cryn anfoddlonrwydd wedi cael ei achosi yn mysg gweithwyr chwarelau y Penrhyn am fod rhai o'r arweinwyr amlycaf yn v sefyll allan diweddar wedi cael eu hatal i weithio. Yr olaf o honynt yw Mr Robert Davies, yr hwn ydoedd gadeirydd y ddir- prwyaeth enwog a anfonwyd at Arglwydd Penrhyn ar adeg y streic. Pan aeth i'r chwarel fel arferol ar ddechreu mis "gosod" y chwarel, fe'i hysbyswyd gan y "gosodwr" nas gallai "osod" iddo ef yn y chwarel y mis hwn. Gofynodd Mr Davies, yn naturiol, y rheswm paham na chai weithio fel arfer. Atebodd y "gosodwr" nas gallai roi yr un rheswm, ac nad oedd ond yn cario allan y gorchymynion a'r cyfarwyddiadau a rodd- asid iddo. Pan ofynodd Mr Davies iddo a oedd wedi gwneyd rhywbeth o'i le, atebodd y "gosodwr" nad oedd yn gwybod ei fod, ond mai ei gyfarwyddiadau ef oedd peidio "gosod" bargen iddo. Creodd y newydd gryn gyffro yn yr ardal, yn enwedig gan fod Mr Davies yn cael ei ystyried yn un o'r gweithwyr mwyaf gofalus oedd yn chwarel y Penrhyn. Fe gofir mai Mr Davies oedd yr unig ddyn a gyduabyddid fel cynrychiolydd y dynion gan ei arglwyddiaeth ar adeg y streic, gan fod yr holl onebiaeth oedd yn myned yn mlaen rhwng y llywodraethwyr a'r dynion ar yr adeg yna yn cael ei chyfeirio i "Robert Davies a chwech ereill." Edrychir ar waith y llywodraethwyr yn yr achos hwn gyda braw, oherwydd yma y tryydd o arweinwyr y dynion a gawsant eu hatal i weithio er adeg y cytundeb neu y dealltwr- iaeth rhwng y ddwy ochr. Y cyntaf oedd Mr P. Roberts, yr hwn oedd yn un o'r 71 dynion a ataliwyd i weithio pan gychwynodd y streic; yr ail oedd Mr W. R. Evans, y Pant, yr hwn! oeddcadeirydid y pwyllgor gweithiol. Nis gwyddys eto pa beth a wneir; ond y mae yn deihvng o sylw fod Undeb y Chwarelwyr wedi galw cyfarfod mawr o'r dynion, yr hwn a gynhelir nos Wener nesaf. Llywydd y cyfarfod fydd Mr W. R. Evans, un o'r ynion a ataliwyd i weithio; ac yn mysg y siaradwyr bydd Mr D. R. Daniel, ysgrifenydd trefniadol Undeb y Chwarelwyr; Mr W. H. Williams, "Glad- stcue y chwarohryr." ac crcili.
YR ARGYFWNG YN Y TPANS, VAAL.
YR ARGYFWNG YN Y TPANS, VAAL. Y Gynhadledd yn Fethiant. C'YNYGION NEWYDD IvRUGER. PAROTOI AM RYFEL. CWESTIYNAU YN HYJR CYFFREDIN. Y mae cymylau duon, yn llawn o elfenau ystorm ddinystriol, yn hofran uwchben y Transvaal. Nis gwyr neb pa bryd y tyr yr ys torm allan ac os tyr allan, nid oes ddewin all ddiriiiid na rhagddyweyd y canlyniadau. Y mae y Wasg yn y wlad hon, perthynol i bob plaid, yn cydnabod fod golwg flin, frochus ar y ffurfafen wleidyddol. Ar cwestiwn a ofynir yn amlyw, Beth sydd \n myned yn mlaen? Fel y gwyddis cynrychiolir y wlad hon yn Neheudir Affrica gan Syr Alfred Milner, a phenaeth v Boeriaid yw Arlywydd Kruger. Beth amser yn ol, fe drefnwyd ar fod i'r ddau foneddwr gyfarfod i drafod xuaterion oedd vii ichos; o flinder, gan hyderu y liwydd- id i ddyfod i gyd-ddealltwriaeth. Fe gy- mercdd y cyfarfyddiad le. Un o'r prif bync- iau fu an sylw oedd yr etholfraint. Ond wedi rhai oyddiau o drafodaeth, gofidus I meddwl i'r CYFAN DROI'N AFLWYDDIANT. Trodd y ddau foneddwvr eu cefnau ar eu gilydd, a gadawyd y materion heb eu pen- derfynu. Pan whaeddodd Syr A. Milner gartref derbyniodd ddirprwyaeth oddiwrth fasnnch- wyr Cape Town, a dvwedli aelodau ohoni eu bod yn gwerthfawrogi ei ymdrechion i ddyfod i gytundeb a'r Arlywydd Kruger. Hefyd yr oeddynt yn hoffi y modd cadarn a ddangosodd yn y gynhadledd. Mewn at-ebiad, dywedodd Syr A. ^Iilner rad oedd cwestiwn yr etholfraint ond modd- ion i gyrhaedd yr amcan o gael chwareu teg i'r ritlanders. Pe buasid yn pwyso ar yr Arlywydd Kruger i symud ymaith y gwa- hanol gwynion, ni fuasai hyny ond yn Cwnevd pethau YN WAETH. Bunsai hyny yn myned yn erbyn yr amcan mewn golwg, ac yn rhwystro iddynt fyned 9 at wraidd y gwahaniaethau. Yn y cr nhad- ly ledd gwnaeth ei oreu i roddi yr argraff fel pe baent yn rhoddi pwys ar feddyginiaethu un peth, a rhoddai ar ddeall fod yn rhaid i'r hyn a ganiat-eid fodl yn drwyadl. Nid oedd ef (Syr A. lilnr) yn ofni y byddai i'w gynygion ddifodi yr hen fwrdeiswyr, y rhai a gadwent reolaeth, am hir amser. Eto rhaid cael meddyginiaetb i gwynion yr rit- landers. Nid oedd yn gyson a SAFLE PRYDAIN yn Neheudir Affrica, ac ag urddas y bobl wynion, fel poblogaeth fawr, gyfoethog, ddeallus, a diwyd yn parhau mewn sefyllfa o ddarostyngiad. Rhaid cael yr Uitlanders allan o'u-sefyllfa bresenol, drwy foddion graddol a heddychol os yn bosibl. Nid polisi o ymosodiad oedd eiddo Prydain yn y Trans- vaal ond bu yn un hynod o amyneddgar. Gallai yr ymddygiad amyneddgar yma bar- hau, ond ni ddarfyddai mewn mi.1th o "hitio dim byd." Yr oedd efe eto yn obeithlawn am lwybr i ddyfod allan o'r anhawsder. Hy- derai y byddai i Lywodraeth y Transvaal fabwysiadu mesur mwy Rhyddfrydol nag a gynygiwvd yn y gynhadledd yn Bloemfon- tein. Os nad e, yr oedd ffordd arall i gyr- haedd yr hyn a. ddymunid. Yr oedd y rhai a ymladdant o blaid diwygiad yn y Trans- vaal yn cael cydymdeimlad calonog ac un- frydol Prydeinwyr drwy'r boll fvd. CWESTIYNAU YN NHY'R CYFFREDIN. Yr oedd gan Mr Ellis Griffith (yr aelod dros Fon) gwestiwn i'w ofyn i Mr Chamber- lain, a dyna oedd, paham yr ydoedd y pell- ebron o Ddeheudir Affrica mor hwyr yn cyr- haedd y wlad hon ? Mr Scott a ddymunai gael gwybodaeth yn nghylch rhyddfreiniad estroniaid yn y wlad hon, er mwyn eu cydmaru a chynygion yr Arlywydd Kruger. Ond yr oedd MR CHAMBERLAIN YN ABSENOL, A gofynodd Mr Galloway y cwestiwn a. gan- lyn -Dymunwn ofyn i Brif Arglwydd y Trysorlys a ydyw Llywodraeth ei Mawrhydi wedi dyfod i benderfyniad gyda golwg ar y stfvllfa newydd a gododd yn y Transvaal mewn canlyniad i waith yr Arlywydd Kruger yn gwrthod y cynygion i benderfynu pwnc yr etholfraint, fel y cynygiwyd hwy gan Syr Alfred Milner yn Nghynhadledd Bloemfon- tein. MR BALFOUR a atebodd fel hyn:—Nid' oes genyf ddim i'w ddweyd ar gwestiwn y Transvaal yn ychwan- egol at yr hyn a ddywedodd fy nghyfaill gwir anrhydeddus Ysgrifenydd y Trefedig- aethau ddydd Gwener diweddaf. Ö CYNYGION NEWYDD KRUGER. Dodwyd o flaen y Raad-—Senedd y Trans- vaal—v cynygion newydd a wnaed gan yr Arlywydd Kruger, a'r rhai y bu yn cyndyu ddadleu arnynt yn y gynhadledd. Wele rai ohonyiit 1. Fod cymhwysder gwerth eiddo i fod yn gan' punt yn lie clau gant o bunnau. 2. Fod adran gwadu cenedlaetholdeb pan yn cymeryd llw yn cael ei ddiddymu. 3. Fod cydsyniad dwy ran o dair o fwyaf- rif yn cael gwneyd i ffwrdd ag ef. 4. Fod dynion ieuainc na anwyd yn y Dalaeth, a thadau y rhai a ryddfreiniwyd, i fod ar yr un tir a'u tadau, a rhaid iddynt gofrestru eu hunain gyda'r Field Camet pan yu un ar bymtheg mlwydd oed. 5. Nis gall yr un nad yw yn cael ei ystyr- ied fel yn perthyn i'r bobl wynion yn y Wer- iniaeth, gael pleidlais yn ol telerau Erthygl 9 yn y Cyfansoddiad. TRAUL RHUTHR, DR "Jill." Fe gynwyaai y Lyfr Glas a hoeddd nos Lun fanylion y swm) a ofynir gan Wer- iniaeth Affrica fel iawn am y rhuthr a wnaed dro yn ol gan Dr Jameson a'i fagad. Y mae y swm a hawlir dros fildwn o bunnau. PAROTOI AM RYFEL. Dywed y "Pall Mall Gazette," newyddiad- ur sydd fel rheol yn meddu gwybodaeth gywir, ddarfod i Arglwydd Wolseley dreulio amryw o ddyddiau a nosweithiau prysur yn y Swvddfa Rhyfel, a thybir fod parotoadau am ryfel yn myned yn mlaen ar raddfa eang. Y WEINYDDIAETTH YN CYFARFOD. Fe gvnhaliwyd cyfarfod o aelodau o'r Weinyddiaeth yn y Swyddfa Dramor ddydd Mawrth, a'r mater o dan sylw oedd yr helynt yn y Transvaal. Bernir mai y rheswm dros absenoldeb Mr Chamberlain o Dy r Cyffred- in nos Lun oedd, am ei fod yn awyddus i gael ymddiddan a'i gymrodwyr, a chlywed eu syniadau, cyn at-eb y gofyniadau a rodd- wyd iddo gan Mr Ellis Griffith ac ereill. SIBRYDICTN YN Y GWYNT- Dvwedir fod sibrydion mewn cylchoedd politicaidd yn Llsndain, pan ddeallwyd nad oedd Mr Chamberlain yn Nhy r Cyffredin nos Ldn ei fod am ymddiswyddo. Sibrydid hefyd fod Syr Alfred Milner am roddi ei le i finy; ac fod aelodau y Weinyddiaeth yn rhiinedig ar yr argvfwng yn y Transvaal. BETH 1,Y BARN SYR ALFRED MILNER? Mawr yw yr holibethyw barn Syr Alfred Milner ar yr argyfwng presenol.Pan anfon- wvd ef allan srvntaf i'r Transvaal, nid oedd 0 ball ar ei glodfori gan bob plaid. Ond wedi ei fyned yno, ac iddo gael amser i edrych o'i gwmpas ac i sylwi arbethau, disgwylir am ei farn. Cwynir ei bod yn hir yn cael ei rhoddi, neu fod y Llvwodraeth yn ei chadw rhag y cyhoedd. ATEBIAD MR CHAMBERLAIN I MR ELLIS GRIFFITH. Yn Nhy'r Cyffredin, nos Fawrth, mewn atebiad i gwestiwn o eiddo Mr Ellis Grif- fith partiied oediad gohebiaeth Syr A. Milner Mr Chamberlain a ddywedodd fod vr cheb- iaeth wedi ei rhoddi yn gyntaf i fteuter's Agency, a rhoddwyd hi fel eelladwri. i'r wasg. Y mae yr oediad yn y trosglwyddiad i'w bri- odoli i'r ffaith fed y gwifrau vn caeJ eu had- gyweirio. Nid oedd ef (Mr Chamberlain) yn meddwl fed rheswm dros grectu fod yr oediad wedi cymeryd lie yn fwriadol. Yr oedd y genadwri a anfonodd ef i'r Transvaal yn cael ei hanfon fel cenadwri y Llvwodraeth, ac felly yn cael y flaenoriaeth. Wedi deaJL fed cenadwri Reuter wedi ei hoedi, rhoddodd ef pir Chamberlain) crchymyn i Syr Alfred Milner i anfon cenadwriaethau vchwanegol fel cenadwriaethau y Llvwodraeth.
Y "Plwm Gwenwynilyd."
Y "Plwm Gwenwynilyd." NID YR UNIG BERYGL. SIARAD YN NGWLAD Y LI.ESTRI. Mae sylw y wlad yn gyffredinol wedi ei dynu gan y Llvwodraeth, siaradwyr cvhoedd- us, a'r wasg i ganlyniadau difrifol defnydd- iad plwm i glazio llestri china, a phridd. Mae 4n A cymaint wedi ei ddweyd a'i siarad fel v byddai i ddieitlirddyn pan y cyfarfyddai a geneth neu ddynes wel w a gwanllvd dynu cas- gliad fod y cyfryw yn ddicddefydd c-ddiwrth yr afiechyd peryglus hwnw. Ond v tebvgol- .9 rwydd fyddai fod y dieithrddyn wedi gwneyd camgymeriad. Mae achosioa eraill a af- iechyd heblaw y plwm gwenwynilyd, m-eddai y "Staffordshire Sentinel," un o'r newvdd- iaduron mwyaf dylanwadol yn y sir, yr hwn a gyhoedda hanesyn am eneth o'r gymydog- aeth. Yr oedd yr eneth hon—Miss Marv Underhill, 26, Peel street, Dresden, swvdd Stafford—wedi byw mewn cymydogaeth am- aethyddol hyd wyth mis yn ol," filldiroedd o weithydd y llestri, a chan nad oedd wedi bod yn gyflogedig mewn un gwaith llestri nis gell- id cysyllt-u y plwm gwmwvnllyd a'i haf- iechyd hi. Eto, yr oedd Miss Underhill, hyd ychydig amser yn ol yn ddioddefvdd oddiwrth afiechyd llawn mor ofnadwy a pher- yglus. Tua dwy flynedd yn ol," meddai Miss Un- derhill, "y prentisiwyd fi gyda gwniadyddes, ond ymddangosai fod fy nerth yn pallu, ac nid oeddwn yn gallu cymeryd dim dvddordeb yn fy ngwaith. Bydd yn ami wedi fy Ilethu gan boen yn fy mhen; yr oedd fy archwaeth yn ddrwg iawn, weithiau gallwn" fwvta ych- ydig; yr oeddwn mor wanliyd fel y cawn yn ti-I lewygon. Ymadawodd 34 lliw iach o fy ngwynebpryd ac awn 0 gwmpas oreu gallwn, yn edrych yn debycach i gerflun o farble nag i berson byw. Aeth fy mam a fi at amryw 0 feddygon, y rhai a dystient mai gwendid gwaed oedd yr achos o'r holl drwbwl. Gob- aith gwan oedd gan y meddygon ohonwvf L>ywedai y cymydogion na welsent erioed eneth yn edrych mor ddrwg. Pan yr awn i fyny y grisiau byddai raid i mi eistedd i or- phwys cyn ymwisgo. Aethum i'r heol un- waith, a syrthia,s mewn llewyg. Aeth fy yU -Wa<?th'ac y1" oedd y camdreul- v„ g *'ho" ••"nser y \T' nird^u S3'11 y niwralgia." ,?e Underhill yn awr yn edrych yn 0 ymddan £ <*i<id atdvniadol, ac yn gynorthwy medrus i'w mham. • u Cawsoch y fath gyfnewidiad yn eich iechyd ? gofynodd y gohebydd. ? meddai Underhill, "un diwr- nod darllenodd fy mam yn y 'Sheffield Sen- S rilyfeddo1 y Dr Williams' W » Pale Pe°PIe- Yr ~oeddym hefyd wedi clywed gan em cyfeilliom am danynt; cymeradwywyd y pelenau i mi, dy- wedodd cymydog eu bod wedi gwneyd daioni mawr jV mberch. Yr oeddwl wedi myned mor ddigalon, ac nid oedd arnaf eisieu gweled ychwaneg o fedd'ygon, ac un diwrnod anfon- ais am flwch o Dr Williams' Pink Pills; ac i fod yn sicr o gael y rhai gwirioneddol anfon- ais yn syth at Dr Williams' Medicine Com- pany, London. Wedi i mi gymeryd hyd at haner cynwysiad yr ail flwch daeth fy Iliw yn ol, yr oedd fy archwaeth yn well, ac ymadaw- odd y niwralgia, pen-syfrdandod, a'r cur lion',eais' ac yr oedd fy ysbr>ydoedd y11 fwy "A ganlynasoch yn mlaen ?" "O, do; cefais chwe' blwch. Byddaf yn IA ^7^ 1113111 7 fath Weir ydyw bod fel yr wyf yn hytrach na'r cyflwr oeddwn ynddb cyn eu cymeryd. Mae pobl yn methu credu mai yr un person ydwyf. Gallaf yn awr gynorthwyo yn ngwaith y ty a chymeryd dyddordeb ynddo; yr wyf i dda fel yr wyf yn bwriadu myn'd yn ol at fy ngwaith i wnio, ac yr wyf wedi cael machine newydd i'r pwrpas." Nid ydyw hwn ond un achos yn mhlith mil- oedd y mae Dr Williams' Pink Pills wedi eu hadferyd, y rhai a gynvrysant achosion o'r parlys, diffyg treuliad, diffyg gwaed, cryd- cymalau, scrofula, taniddwf, ac adfera liw i'r gwyneb. Y maent hefyd yn gweithredu fel nerve a spinal tonic, ac felly y gwellhant y parlys, locomotor ataxy, neuralgia, St. ltus diance, a chur yn y pen. Gellir eu cael yn awr gan yr holl fferyllwyr, ac oddiwrth Dr Williams Medicine Company, 46, Holborn Viaduct, London, am 2s 9c y bocs, neu chwe' bocs am 13s 9c ond nid ydynt yn gywir heb yr enw llawn Dr Williams' Pink lUS for Pale People. Nis gall pelenau pine a. werth- ir yn rhydd mewn llestri gwydr fod yn rhai Dr Williams, ac nis gwellhant chwi. Ni wna pethau is-raddol byth wella neb.
IRONING
IRONING is not one of the most delightful occupa- tions which falls to the lot of the busv housewife. Anything, therefore, which tends to lessen the labour and to impart pleasure to the work should be hailed with delight. An article which has
MADE
MADE ROSP?rDeSJ^ PublJC favour l-atelv is ROSGA (Regd.), the new self-glazing starch. It is easy to use, imparts a brilliant polish to the linen, and makes it white and stiff. It is cheap and greatly lessens the labour of ironing. In boxes, Id, 3d, and 5^d, of all grocers, &c. Sent for a free sample to WALTER LOWNDES and Co., Limited, SMETHWICK, BIRMINGHAM. It only costs you a postcard, so to do this is very EASY. Wholesale Agents for Liverpool and North Wales, David Jones and Co., 31, 33, Redcross street, Liverpool.
YMYLON Y FFORDD.
YMYLON Y FFORDD.
ARGLWYDD ROSEHERY AR SERE-MONIAT.
ARGLWYDD ROSEHERY AR SERE- MONIAT. Nid yw Arglwydd Roseberv yn ddim ond lleygVvT syml, eto mentrodd draethu tipyn o bregetb synhwyrol ar fat-or dadleugar y sere- moniau, ddydd Ian diweddaf, tra gyda'r gor- chwyl o agor ystafell Eglwys yn nhref Ep- som pencadlys rhedegfeydd y devrnas. Methivi ei arglwyddiaeth a dyfalu pa beth a. gymerasai le pe y dychwelasai yr Apostol Paul i'r ddaear a gweled Eglwys Loegr yn y cyflwr rhanedig a dadlengar y mae ynddo \n bresenol. Eto, ant-aria ddweyd mai yr a-ng- hof o'r tri gras—Ffydd, Gobaith. Cariad—ac yn arbenig Cariad—a bjrai iddc y syndod penaf. "Ai tybed." ebe Arglwydd Rosebcry, "nad oes gan yr Eglwys waith y tuallan i'r ymeiriach difudd yn ngnylch canhwyllau ac arcgldarth. I'w dyb ef, yr oedd gosgordd cl.iddarfod o gloffion nioesol y gonedl a nrferai ddvlifo i redegfeydd Epsom yn llawer mwy haeddol o svlw yr Eglwys a'i swvddogion na'r seremoniau oedd yn darnio undeb a cllyd- weithrediad crefyddol. "Os na fedr yr Eg- lwys Gristionogol" — nid Eglwys Lorgr mwy- ach — "gvfreit-hloni ei liawl i fod yn wir Eg- lwys sylfaenedig gan ein Harglwydd ar y ddaear drwy dylino a lefeinio y genedl, uis gall na ehyhceddir y ddedfryd o fethiant ar ei gwaith." Yn hollol felly.
GWRES MAWIl.
GWRES MAWIl. Y mae tymhor gwros mawr wedi dechreu eleni yn gynt nag y gwelwyd ef odid un am- ser. Ganol yr wythnos yr oedd yn 90 o raddau. Edrydd y gwyr hysbys fod tymhor hir o wres a sychde-r o'n blaen. Llethwyd degau gan y gwres yn y dinasoedd. lladdwyd eraill gan belydrau yr haul. Cyffelvb yw y newyddion o America, gyda'r eithriad fod lleithder annyoddefol yn y gwres. Llanwyd ysbyttai amryw o'r dina^^dd gan deithwyr wedi eu hamddifrdu < • rym.
MARWOLAE'l ' '
MARWOLAE'l Brawvchwyd 1 i Cytfredin gan farwol- aeth sydyn Dr Robert Wallace, A.S. Rhydd- frydig dros adran ddwyreiniol Edinburgh. Tra yn cymeryd rhan yn nadl diraddiad corff v Gau Broffwyd, tarawyd ef gan ergyd o'r parlys yn yr ymenydd, ac aeth yn swp o ddi- ffrwythdra yn y fan. Bu farw tranoeth yn yr ysbytty. Herr Johann Stranss, cerddor godidog Awstria, a fu farw nos Sadwrn, ac efe yn 73 mlwydd oed. Cofnodir marwol- aeth Mr John Nixon, prif berchenog gweith- iau glo Nixon, y Deheudir. Dringodd o'r pwll glo i uchelderau cyfoeth. Aeth sedd yr Undebwyr yn wag yn adran ddeheuol Edin- burgh drwy farwolaeth Robert Cox, A.S., — aelod nad agorodd ei enau yn y Senecld er- ioed. Hunodd Mi Cusack (Nun Kenmare), darlithyddes Brote.stanaidd tra adnabyddus, yn 70; cafodd y Rhyddfrydwyr golled fawr drwy farwolaeth yr Arglwyddes Alice Kear- ney. Yr oedd yn un o brif areithwyr yr etholaethau er's blynyddau bellach.
HELYXT CANWYLLAF AC AROGL-DARTH.
HELYXT CANWYLLAF AC AROGL- DARTH. Y mae dau archesgob ac amryw gyfreithwyr a clilerigwyr dysgedig wedi bod yn hir wrandawar eu gilydd yn dadleu o blaid ac yn erbyn yr arfer o arcgldarthu a rhodiana wrth oleuisi canhwyllau yn yr Eglwys Sefydl- edig. Pwnc pwysig gosgordd rodio wrth oleu felly ccdd rrat-er yr ymchwiliad dydd Mawrth. Nid addurniadnti, megis blodau, mohonynt, ebe Mr Hansell. Mr Dibden hefyd a ddadleuai hefvd nad mater o addurn diweddar mohonynt,eithr hen gysturn tradd- odiadol o ddifrifwch hanesiol. Dadl yr er- lynwyr yw fod y ddefod yn tcri ar symlrwydd gwasanaeth Eglwys Loegr. Gyda mawr ddifrifwch dywedodd Archesgpb Canterbury y byddai iddo ef a'i frawd o York roddi ys- tyriaeth ofalus a phwyllog i'r mater, ac y cy- hoeddid eu dedfryd ar y naill bwnc a'r llall yr un pryd yn y dyfodol agos. Fel mater o gywreinrwydd, dymunol fuasai gwybod pa beth fuasai dedfryd Sant Pedr a Salit Paul ar bwnc Iuddewig baganaidd o'r fath yma.
MASNACH YR HAIARN.
MASNACH YR HAIARN. Gwedi bod yn benaduriaid masnach y byd am dymhor hir, y mae marsiandwyr Prydain wedi eu dwyn i sylweddoli fod haul eu llwydd- iant yn prysur gilio tua'r gornel, a gallu mas- nachol newydd yn dringo yn gyflym er cym- eryd y lie blaenaf. America yw y gallu hwnw. Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Bryd- einig Masnach Haiarn, a gynhalivyd yr wythnos hon, cydnebydd Syr John Jenkins, y llywydd am y flwyddvn, fod yn ngallu y Talaetiiau i gynyrchu Bessemer neu haiarn gwaedfaen am ddeuddeg swllt y dunell yn llai nag y cynyrchir ef yn y wlad hon. Heblaw hyny, y mae haiarn-fasnachwyr y Talaethau yn gallu dodi dur o'r natur oreu ar farchnad Prydain am brisiau is nag y gall masnachwyr Seisnig ei werthu yn eu gwlad eu hunain; er fod ganddi 500 miiklir o dir a 3000 milldir o for i'w gludo. Lie bynag y cymer cydym- gais le rhwng y dd'wy wlad am gontract hai- arn, America sydd yn enill y dydd. Gall yr Americaniaid droi gwaith allan wvthnosau yn gvnt, ei werthu yn is, ac, ar yr un pryd, rhaid cydnabod fod y cyfryw nwydd yn rhagcrach fel cynyrch celfydd. Un o brif ddiwydwaith Prydain yw ma.snach haiarn; ond wrth weled cwmniau anferth eu cyfoeth o fath y Rockfeller yn crynhoi y maesydd glo it'r haiarn i'w dwylaw: yn lleihau treul- iau; yn mabwysiadu pob rhvw gynlluniau newydd ac vn defnyddio yr arfau diweddaraf ac effeithiolaf at en gwaith, naturiol yr ar- swyd sydd wedi cymeryd gafael yn marsiand- wyr haiarn Prydeinig. I-
"Chwlbanogl aur nwcbban Gwlith."
"Chwlbanogl aur nwcbban Gwlith." Dywed gohebydd fod plwyfolion Llaneng- an, ger Pwllheli, yn cael y fraint o wrando ar yr eos bob nos. Ymdyrant i fangre'r ad- eryn mwyn, a melus odiaethol yw cathlau yr eos vn nghlustiau yr hwyr. Yn nghoed •y rheithordy y,ear lechu.
iYMA AC ACW.
YMA AC ACW. Penodwyd Arglwydd Tredegar yn arglwydd raglaw sir Fynwy. Cynhyrfus a brochus yw v ffurfafen wleid- yddol uwchben y Transvaal. Rhoddwyd derbyniad gwresog i Arlywydd Ffrainc yn y rasus ceffyiau yn Longchamps ddydd Sul. Dewiswyd Mr Dewar yn ymgeisydd Rhydd- frydol a.'r Cadrridog Wauchopa yn ymgeis- ydd Toriaidd dros Ddeheu Edinburgh. Dydd Sadwrn. bu farw y Prcffeswr Dr Wil- 11 liam Garden Blaikie, proffeswr duwinvddol yn y Coieg Newydd, Edinburgh. Y ma.ey "Daily Mail" yn dweyd fod yn hen bryd i Syr Alfred Milner ddatgan. barn groew ar sefyllfa pethau yn y Transvaal. Dywed yr rchgadben Marchand,pe cawsai ef ei ddymuniad, y buasai wedi trechu y mil- wyr Prydeinig yn Fashoda. Tybed! Traddodo<ld Mr Lloyd fieorge ei araeth feraf yn Nhy'r Cyffredin dydd Mercher yr wythnos o'r blaen. Ni fu ar ei draed ond dros fynyd o amser. Cafodd H. M. Stanley ei wneyd yn K.C.B. yr wythncs o'r blaen. Ni wyddis am ba beth y poenir ef a'r teitl hwn, ond ni waeth gan Stanley na neb arall. Y mae gobaith eto i'r merched! Dydd Mawrth diweddaf peiiderfynodd Ty'r Cy- fFredin roddi hawl iddynt oistedd ar fvrddau cyhocddus newydd Llundain. Bwriada Caernarfon am-bydeddu rhai o'i henwogion. Enwir y perOlall canlynol fel rhai cymwys i'w gosod ar restr y dref, sef W. H. Preece, Dr Isambard Owen, a Syr Hugh Rowlands. Bwriedir cynhal cynhadledd o Gynghor Rhyddfrydig Cenedlaethol Cymru y Aber- tawe yn mis Awst. Gofvnir am i'r cym- deithasau Rliyddfrydig benodi eu cynrychiol- wyr, ac i anfon rhybudd o benderfyniadau i'r ysgrifenydd. Yn Bury St. Edmunds, ddydd Sadwrn, traddodwyd morwynig a'i lienw Ada Brown, 20,mlwydd oed, i gollfarniad marwolaeth am lofruddio ei phlentyn. Erfyniai y rheith- wyr am drugaredd iddi. Digwyddodd amgylchiad pur ryfedd mewn -i n,, angladd yn Llanvblodwel, Croesoswallt, ddydd Sadwrn. Y mae'r eglwys er marwol- aeth y Parch Elias Owen, heb yr un bugail, ac ejgeulusodd y wardeniaid wneyd trefn- iadau am glerigwr amll. Disgwyliodd yr angladd wrth y fynwent dros haner awr am rywtIl1 i ddyfod yno i gynal y gwasanaeth. O'r diwedd dechreuodd Maer Croesoswallt a'r clerc trefol y gwasanaeth, pryd y cofiodd rhywun iddo weled clerigwr yn pysgota mewn afon gerllaw. Cyrchwyd ef, a gwnaeth ei ymddangosiad yn ei lodrau pysgota gan weinyddu'r seremoni. Yn awr, pan y mae y pwlpud- umi ddiffyg digon o elw yn nglyn a'r a.nturi.>th—wedi rhoi terfyn ar y papyr Dyddl Sul, y mae gof- yniad rhesymol iawn yn cael ei wneyd gan y el "pobwyr" i beidio gweithio ar y Sul. Dy- wedant eu bod yn awr yn gorfod llafurio ar y seithfed dydd fel diwrnoctarall, i baratoi hot rolls i'r West End, Llundain. Gobeithio, hefyd, y gwnaiff Huw Prys Huws ymdrech i wneyd i ffwrdcl a'r papyr dydd LIun-sydd yn gorfodi cymaint o lafur ar y Sul i'w barotoi. Y sgrifenodd gwraig i porter lythyr pwrpasol iawn yr wythnos o'r blaen i'r "Methodist Times" i alw sylw at y ffaith pan oedd cy- maint dwrdio yn nglyn a'r papyrau Sul, na chlywid gair yn erbyn y tren dydd Sul, nifer pa rai sydd ar gynydd bob blwyddyn.
Damwain Angenol Ger Rhyddda.
Damwain Angenol Ger Rhyddda. Prydnawn dydd 14iu diweddaf, aeth Mr Evan Roberts, Penmaen House, Penygroes, mab hynaf y diweddar Mr Peter Roberts, glo fasnachydd, gydag ereill, i farchogaeth y deurodwr. Pan ar y ffordd rhwng Beddgel- ert a Rhyd-ddu syrthiodd Mr Evan Roberts ar ei ben ond or mor ddifrifol y niweidiau a gafodd, bu yn alluog i farchogaeth adref. Wedi cyrhaedd gartref, gwelwyd ei fod wedi anafu ei ben, ac nad oedd obaith am ei ad- feriad. Bu farw prydnawn dydd Mawrth. Yr oedd cddeutu 27 mlwydd oed.
Mursendod y Cymry.
Mursendod y Cymry. Gwendid (a pheth hynod iawn yn y Cymro a'r Gymraes) yw yr arferiad sydd ganddynt o ysgrifenu at eu cydwladwyr yn Saesneg. Yn fynych iawn y ceir Cymry (a Chymryesau hefyd) ar ol blynyddau o Ysgol Sul yn ys- grifenu at eu cyfeillion mewn iaith estronol. Dyeithr, onide, yw dau Gymro neu ddwy Gymraes, fedrant y Gymraeg yn well na'r Saesneg, bob amser, wrth ymohebu, yn defn- yddio yr olaf! Beth mewn gwirionedd all fod yn cyfrif am hyny ? Anystyriaeth? Rhodres ? Beth ? Nis gallwn lai nag ym- resymu na wnaethai yr Ysgol Sul ynNghym- ru lawer fwy o ymdrech i ddysgu iawn ysgrif- eniad yr iaith i'w dysgyblion, fel y byddai yn hawddach i bob Cymro a Chymraes ys- grifenu yn iaith eu mamau nag mewn ieith- oedd eraill.
.GWYLIAU HAF.
GWYLIAU HAF. "I lan y mor yr awn ar hynt, I gwmni'r gwynt a'r tonau Ac yno yn ei ddyfroedd glan Y dyddan nofiwn ninnau." Ymwelir a glanau y mor, ac a'r ffynonau a manau ereill gan filoedd o'n cenedl yn ystod misoedd yr haf. Mae llawer yn myn'd i geisio pleser ac adloniant yn unig yn ystod eu gwvliau, ond mae y mwyafrif mawr yn myned er mwyn cael adfywind ys- bryd ac adferiad iechyd a nerth, y rhai sydd wedi eu hamharu gan lafur, gofalon a phryder, yn cael eu hachosi gan helbulon bywyd neu gan ystormydd y tymhorau blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd eu hamcan i sicrhau adfer- iad iechyd a nerth yw newid awyr a golyg- feydd Ð, chwmpeini, ymdrochi yn y mor, ac yfed dyfroedd meddygol y ffynonau, gan fod y pethau hyn oil yn effeithio yn llesol ar y 'cyfansoddiad. Ond mewn trefn i sicrhau y daioni a'r lies mwyaf oddiwrth y cyfnewid- iad, dylai yr ymwelwyr a'r glanau, ac a'r ffynonau wneyd defnydd o feddyglyn ad- gryfbaol ac effeithiol fel Quinine Bitters Gwilym Evans,-v meddygIyn enwocaf a mwyaf effeithiol er cydweithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ymryddhau oddiwrth nychdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau y gewynau a'r holl gyfansoddiad, a bwrw allan bob amhuredd o'r cyfansoddiad. Dyblir y lies a geir o'r gwyliau os gwneir defnydd priodol o Bitters Gwilym Evans pan yn newid awyr. Gwerthir gan fferyllwyr yn mhob man mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu anfonir ef drwy y post am y prisiau hyn yn union- gyrchol oddiwrth y perchenogion Quinine Bitters Manufacturing Co., Limited, Llan- dly, South Wales.
- RBEITHOR FFLINT A'R DIWEDDARj…
RBEITHOR FFLINT A'R DIWEDDAR MR T. E. ELLIS. ATEBIAD SYR JOHN BRU-N-NER, A.S. Ysgrifena Syr John Brunner, A.S., i'r "Times" fel y canlyn — Y mae cymeriad ein gwyr cyhoeddus, ar wahan i ystyriaethau gwleidyctdol yn fater o. gymaint pvrysigrwydd cenedlaethol fel y cvf- iawnheir fi ar y tir hwnw, yn ogystal ag fel mater o ddyledswvdd i goffadwriaeth fy ni- weddar gvfaill, Mr Ellis, i ofyn i chwi gy- hoeddi y llytbyr hwn. Rai Suliau yn ol darfu i re-ithor Faint ddarllen i'w gynulleid- fa ran o lythyr a anfonwyd iddo gan un yn byw yn Meirionydd fel y canlyn "Credaf y bydd i ewyllys Tom Ellis agor llygaid am- aethwyr tylawd sir Feirionydld, y rhai fuont yn cyfranu tuagat ei gadw yn ystod yr holl flynyddau hyn." Ylla cyfeiriodd y rheithor at y "swm mawr o arian a adawyd gan Mr Ellis," ac aeth yn mlaen i ddesgrifio ei fywyd fel darluniad o un o ddrygau bywyd cym- deithasol Cymru ca.nlyniad dylanwad Calfin- iaeth ddiweddar sef "ffyniant twyll." Nid wyf yn gwybod pa faint o drafferth, os rhywfaint, a gymerCKld y bonecklwr parched- ig er cael allan ffeithiau yr achos cyn gwneuthur yr ymosodiad creulawn hwn ar gymeriad gwr ymadawedig, yr hwn a gerid mor gyffredinol. Ar y llaw arall, darfu r mi ei theimlo yn ddyledswvdd i wneyd ym- chwiliad ma-nwl, ac y mae genyf awdurdod Mr John Parry, trysoiydd Cymdeithas Rvddfrydol Meirionydd ac ereill o arwein- wyr yn y sir, dros a ganlyn: "Darfu i Ryddfrydwyr Meirionydd dalu treuliau etholiad Mr Ellis yn 1886, a rhai o dreuliau yr ymgeisiaeth yn 1892, teyrnged sydd wedi ei dalu ar lawer achlvsur i berchen cyfoeth. Darfu i Mr Ellis dderbyn rhodd o HOOp yn 1890, dangosiad o barch eyff redinol ei wlad enedigol, ar ei adferiad o grafangati y typhoid fever oddiwrth ba un y dioddefai tra yn aros yn yr Aipht gyda mi yn ystod 0- a gauaf 1889-90. Fe rodidwyd iddo blat arian gwerth 80p gan Ryddfrydwyr y sir ar yr ach- lysur o'i briodas, a dyma'r oil a wnaed. Yn ol hyn fe welir fod y dywediad fod 'amaeth- wyr tylawd Meirionydd wedi bod yn tanys- grifio at ei gadw yn ystod yr holl flynyddau hyn' yn hollol anwireddus. Fe ddeallir ar unwaith fy mod mewn safle i ddweyd, gyda. Hawn wybodaeth, fod ca>gl- iad yr hyn a ddesgrifiai rheithor Fflint fel "swm mawr o arian" yn anrhydedd o'r mwy- af i Mr Ellis tbeg yw ychwnegu na ddar- fu i Mr Ellis hyd 1890, pan y cyflwynwyd iddo rodd genedlaethol, dderbyn cymaint a hyny yn ystod ei holl fvwyd, ac mai budd- soddiad yr arian yma, dan fy nghyfarwyddyd i galluogodd i arbed o hyny yn mliven ac yn mheUach mae yr anrhegion a dderbyniodd ar achlysur ei briodas yn sefyll dros ran helaetli o werth ei eiddo.
Druan o Ffrainc!
Druan o Ffrainc! Cw iMP Y WELNYDDIAETBL A Gweiyddiaeth M. Dupuy a gwympodd. Achoswyd hyn gan ganlyniad dadl ar ym- ddygiad yr heddgeidwaid ddydd Sul pan yr ymosodwyd ar yr Arlywydd yn y rasus ceff- ylau. Gwnaed ymosodiad llym ar yr hedd- geidwaid, a chyhuddid hwy o arfer crenlon- deb tuagat y gwerinwvr, ac o ganiatau i ysgubion cymdeithas ryddid i wneyd fel y mynont. Cododd M. Dupuy, y Prif Wein- idog, i amddiffyn yr heddgeidwaid, a gwn- aeth hyny mewn araeth danllyd. Dywedodd na fyddai y Gweinidogion yn foddlon ar lai na bod y Siamber-neu y Seneddyn cy- meradwyo datganiad y Llvwodraeth, ac yn myned yn mlaen gyda gwaith y dydd. Gwrthododd y Siamber y cynyi hwn o eiddo M. Dupuy. Cynygiodid M. Ruau, "Fedi y Siamber, yn benderfynol o gefnogi yn unig Lywodr- aeth a addawai i wneyd ei goreu i am- ddiffyn sefydliadau Gwerinol, ac i sicrhau trefn cyhoeddus, yn myned yn mlaen gyda gwaith y dydd." Pleidleiswyd dros hyn gan 321, ac yn er- byn gan 173. Yr oedd hyn yn gyfystyr a phleidlais o ddiffvg ymddiriedaeth yny Lly- wodraeth. Rhoddodd y Gweinidogion eu hymddiswyddiad yn nwylaw yr Arlywydd. Tybir mai M. Waldeck-Rousseau fydd y Prif Weinidog newydd. ac y bydd ei Wein- yddiaeth yn dra chefnogol i achos Dreyfus. Credir hefyd mewn rhai lleoedd nad oeddi M. Dupuy a'r Arlywydd ar delerau cyfeill- gar a'u gilydd, ac fod bywvd y cvn-Brif Weinidog ar ben fel swyddog jichel yn y Weriniaeth.
Corwynt Ofnadwy yn America.
Corwynt Ofnadwy yn America. CANT A HANER 0 BERSONAIJ WEDI EU LLADD. Derbyniwyd hysbysrwydd yn New York, ddydd Mawrth, fod corwynt ofnadwy wedi ysgubo dros dalaethau Wisconsin a Minne- sota, gan wneyd difrod dychrynllyd ar fy- wydau ac eiddo. Nifer y rhai a laddwyd yn New Richmond oedd cant a haner. Lladd- wyd amryw bersonau tra mewn chwareufa. Ar ol yr ystorm, fe losgwyd amryw dai. Heblaw New Richmond fe niweidiwyd Hast- ings, Minnesota, a Hudson. Aeth meddyg- on a maethesau o'r cylch i fangre y dinystr gynted ag yr oedd modd. Y mae pob cv- mundeb a'r trefi wedi ei dori.
CRYFHEWCH Y CYFANSODDIAD.
CRYFHEWCH Y CYFANSODDIAD. Mae pawb yn barod i werthfawrogi a chroesawu yr awelon tyner a balmaidd ddis- gwyliwn yn naturiol eu mwynhau yr wyth- nosau dyfodol, ar ol lleithder ac afiachus- rwydd y tymhor sydd wedi myned heibio. Yn ystod misoedd diweddaf mae lluaws wedi bod yn dyoddef dan yr anwydwst ac anhwylderau ereill, ac eto yn dihoeni mewit gwendid a llesgedd tra yn ymdrechu adenill y nerth a'r iechyd a gollwyd. I alluogi y cyfryw i gael adferiad i'w hiechyd cynefin ac i fwynhau iechyd da y tymhor dyfodol, dy- lent gj'meryd rhyw feddyginiaeth adgryfhaol a symuda ymaith effeithiau niweidiol yr afiechyd ac a gryfha y cyfansoddiad i wrth- sefyll yn llwyddianus ymosodiadau dyfodol. Meddyglyn o'r fath, a'r goreu sydd eto wedi ei ddarganfod, yw Bitters Gwilym Evans. Gwelir hyn ar unwaith;os ystyriwn am foment yr effeithiau y mae yn gael ar y cyfansoddiad. Dyma rai o honynt:—Mae Bitters Gwilym Evans yn cynorthwyo, a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gyn- orthwyo bwyd dreuliad, a chryfhau y cyfan- soddiad a thrwy hyn wella a hwylusu cvlch- rediad y gwaed, &c. Mae v Quinine Bitters hyn hefyd yn cryfhau y rriau a'r cyhyrau, yn puro a ffrwythloni y gwaed, yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl, ac yn symud ymaith rwystrau ac atalfeydd yn yr ermigau bywydol. rawf o effeithiolrwvdd Bitters Gwilym Evans yw fod pawb sydd wedi ei ddefnyddio unwaith yn ei gymeradwyo i'w cyfeillion. fel y mae yr alwad am dano yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, a lluaws o efelychiadau gwael o hono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Gocheler y rhai hyn trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r botel. Pris Poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. I'w cael "an bob fferyllydd, neu trwy y post yn union- gyrchol, oddiwrth y perchenogion —Quin- ine Bitters Manufacturing Co., Limited, Uanelley, South Wales
[No title]
Am ymosod ar Arlywydd Ffrainc yn rasus Auteuil, wythnos i'r Sul diweddaf, anfonwyd y Barwn Christiani i garchar am bedair blynedd. Ymddengys fod "if carcharor wedi ymosod yn ffyrnig ar yr Arlywydd.
- Mrs Maybrick.
Mrs Maybrick. Unwaith eto ceir rhyw newydd am Mrs Maybrick. Ychydig amser yn ol cyhoedd- wyd ei bod i gael ei gollwng yn rhydd ar fyrder. Ond erbyn hyn nid oes sail o gwbl i'r adroddiad.
Tori Gwddf ei Wrafg.
Tori Gwddf ei Wrafg. Yu Mradford, nos Wener, darfu i labrwr a'i enw Henry Middlesborough, dori gwddf ei wraig gyda chyllell fara; ac yna amcanodd dori ei wddf ei hun. Canfyddwyd ef yn penlinio ar ei wraig fel y gorweddai ar y llawr, ae wedi ymdrech galed y caed ef yn rhydd. Y mae y gwr a'r wraig' yn awr yn yr ysbytty.
Y Gwres yn Lladd
Y Gwres yn Lladd DWY FARWOLAETH YN LLANRWST. Dydd Llun claddwyd gweddillion Mr Wil- liam Parry, swyddog cynorthwyol, Llanrwst (yr hwn a fu farw yn sydyn oddiwrth y syn- cope, yn cael ei achosi gan y gwres mawr), yn mynwent eglwys Fair, yn mhresenoldeb llu mawr o alarwyr. Y mae hen ddyn o'r enw Ishmael Williams, 83 mlwydd oed, wedi manv yn ddisyfyd oddiwrth sunstroke.
Damwain Ddifrifol mewn Gwaith…
Damwain Ddifrifol mewn Gwaith Gaivanaidd. Brydnawn ddydd Gwener, digwyddodd damwain erchyll mewn gwaith galvanaidd yn Bradley, swydd Stafford. Drwy ryw fodd nas gellir roddi cyfrif am dano, syrthiodd oddeutu ugain tunell o sheets galvanaidd ar dri o ddynion. Lladdwyd un ohonynt yn y fan, ac anafwyd y ddau arall am eu hoes, mae'n debyg. Arolygydd y gwaith oedd y dyn a laddwyd, a'i enw Arthur Horton, 22 mlwydd oed. Darfu i rai o'r sheets wrth ddisgyn agor ei ben.
Ffactriwr o'r Garn a'i Was.
Ffactriwr o'r Garn a'i Was. Yn Llys Manddyledion Porthmadog, ddydd Mawrth, Robert Williams, FfacMj., Garn, a wysiodd David Thomas Edwards, am ymadael o'i wasanaeth ef heb rybu-id. Mr William George oedd dros Williams. Cyf- logwyd y givis am 9p y tymhor. Gwrthod- odd efe wnevd ei waith, a thranoeth aeth i ffwrdd. Y diffynydd a ddywedodd nad oedd efe wedi cael ei gyflogi i cfalu am y ceffyl. Un arall oedd i wneyd hyny. Yr oedd efe yn cael lOp 10s yn ei le n ?wy,ld. Ffactrwr oedd efe, .ac ni chyflogodd i ofalu am y ceffyl. Robert Williams a ddywedodd ei fod ef wedi cyflogi tri o ddynion i v»novd pob peth ofynid iddynt hwy. CadarnhaoJd Mrs Williams dystiolaeth ei gwr. Dyfani- iad yn ffafr y diffynydd parthed yr hawl am 2p o iawn, ac yn ffafr Williams am 3s 9, a dalasai.
Trychineb ar y Mor.
Trychineb ar y Mor. UGAIN 0 FYWYDAU WEDI EU COLLI. Tra ar ei mordaith o Serphos i Glasgow, fe suddodd yr agerlong "Minerva," o Genoa, oddeutu pump o'r gloch prydnawn y dydd cyntaf o'r mis hwn. Fel yr oedd yr ager- long "Alsatian," o Lerpwl, yn myned o Val- encia, ac yn myned heibio Cape Paloe, odd- eutu deg o'r glocb y noson hono, clybuwyd llefau, a gwelwyd darnau o ddrylliau yn nofio. Rhoddes y cadben orchymyn i'r cwch gael ei ollwng i lawr, yn ngofal y prif swyddog. Er fod y mor yn uchel ar y pryd, llwyddwyd i achub Cadben Antonio Sabattine, mewn cyflwr egwan iawn, gan ei fod wedi bod yn y dwfr am bum awr. Bu yr "Alsatian" yn morio o amgylch, ac achubwyd Angelo Boero, ail beirianydd y "Minerva," yr hwn a gaed yn nofio ar ddrws, wedi bod yn y dwfr am chwe awr. Fe arosodd yr "Alsatian" yno hyd ddau o'r gloch yn y boreu, ond ni welwyd neb yn ychwaneg. Y mae ugain o ddynion argoll. Yr oedd llwytb o fwnau yn y "Minerva," a suddodd mor gyflym fel na chafodd y dwylo amser i ollwng y badau. Perthynai yr ager- long gynt i Mri Lamport a Holt, a gelwid hi y pryd hyny "Handel."
Cael lawn am Anafu el Law.
Cael lawn am Anafu el Law. Yn llys sirol Westminster, ddydd Llun, o flaen y Barnwr Lumley Smith, gwnaeth gof o'r enw Lloyd gais am iawn am niwed a dderbyniodd tra yn ngwasanaSeth y Mri Sugg. Yr oedd Lloyd yn dal erfyn er mwyn i fachgen ei daro a morthwyl; neidiodd gwreichionen i lygaid y bachgen, a methodd ei ergyd ond tarawyd llaw y gof yn erbyn yr engan, gan dori rhai esgyrn. Taflwyd Lloyd allan o waith yn mhen deuddydd. Ar ran y meistri dadleuid na thorwyd esgyrn Lloyd; ei fod yn dioddef oddiwrth y gowt, a'i fod wedi ei dalflu allan am waith drwg. Y Barnwr a ddywedai fod y meisiradoedd yn gyfrifol am logi dyn i'w gwasanaeth ag yntau yn dioddef oddiwrth y gowt yn ei gorff ac os achosid. y gowt gan ryw niwed, yna yr oedd v meistradoedd yn gyfrifol. Rhoddir pymtheg swllt yn yr wythnos i Lloyd hyd rybudd pellach, o dan Deddf lawn W eithwyr.
Cwmwl wedi Tori.
Cwmwl wedi Tori. GALANASTRA MAWR AR DREFI. Newyddion o Austin, Texas, America, a edrydd i gwmwl dori yno ddydd Iau. Lied brin yw y manylion, ond gwyddys fod amryw bersonau wedi myned yn ebyrth i'r dinystr. Hyd yn hyn y mae y rhif yn bump ar hng- ain. Yn ol adroddiad o San Saba a Man- ardville, tua chan milldir o Austin, y mae y ddau le wedi eu hysgubo ymaith gan y diluw. Yn San Saba bu "wyth o bersonau farw. Y mae yr holl dref dan ddwfr, ac ofnir y ddi- nystrir yr holl wlad, ac y gwneir niweid i'r gwahanol gnydau. Y mae y newyddion o Manardville yn fwy difrifol. Bu foddi yno ddau ar bymtheg o bersonau, a digon tebyg fod y rhif yn fwy. Lhvyr ddinystriwyd y dref. Ofnir y cyfyd yr afon Austin dros bump a deugain o droedfoddi. Y mae y ffermydd islaw y ddinas o dan ddwfr. Yn ol newyddion diweddarach, y mae yr holl afonydd yn y cylchoedd wedi eu gorlifo, ac ysgubir ymaith bob peth eddiar eu glan- au
Ystorm Genllysg Ofnadwy yn…
Ystorm Genllysg Ofnadwy yn Yspaen. | Dywed newyddion o Madrid ddarfod i ystorm genllysg ofnadwy ymweled a'r lie dydd Gwener. Fe barhaodd am chwarter awr. Yr oedd y cenllysg gymaint a wyau iar. Niweidiwyd amryw o bersonau ac eiddo. Dydd Sadwrn dywedid fod nifer y personau a laddwyd yn fwy nag y tybid ar y cyntaf. Ymwelwyd a San Pedro, yn nbadaeth Val- ladolid, gan ystorm ddychrynllyd. Niweid- iwyd cant a haner o dai a chollwyd amryw fywydau. Llwyddwyd i ddwyn allan deg o gyrff o'r malurion. Digwyddodd cyffelyb ystorm yn Toledo. Gwnaed niwed mawr i adeiladau yno, ac y mae y rhan isaf o'r dref dan ddwfr. Ni ddy- wedir fod pei'scnau v.edi eu nivreidio. r
Tir yn Cwympo.
Tir yn Cwympo. Y mae newyddion credadwy yn ein cyr- haedd ddarfod i ddarn mawr o dir gwympo, nos Iau, yn y Little Rock. Ofnir fod tua wyth ar hugain o bersonau o dan y ewymp- iad, a'u bod wedi ei lladd.
Tan Mawr yn Newcastle
Tan Mawr yn Newcastle Foreu Sul fe dorodd tan allan yn ngweith- fa Elswick yn Newcastle-on Tyne. Fe losg- wyd tri o adeiladau, a dywedir fod y golled yn 200,0U0p. Teflir allan o waith rhwng dwy a thair mil o ddynion.
Yr Agerlong "Paris."
Yr Agerlong "Paris." Hysbysir nad oes obaith y daw yr ager- long yn rhydd. Y mae eu ber- wedyddion wedi symud, ac nis gall soddwyr weithio arni mwyach. Yr oedd v swyddog- ion i'w gadael ddydd Sadwrn.
Dreyfus i Ddyoliwslyd.
Dreyfus i Ddyoliwslyd. Yn ol y newyddion o Efrog Newydd, dy- wedir fod y llong ryfel "Sfax" wedi gadael Cayenne, ac yr oedd Cadben Dreyfus ar ei bwrdd. Y mae y cadben i gael ei ail brofi.
Ty ag Y sbrydion ynddo.
Ty ag Y sbrydion ynddo. Y mae Ardalydd Bute ar fedr cyho<?ddi llvfr a ddylai fod o ddyddcrdeb i John Ken- sit a'i ganlynwyr. Cynwysa y llyfr banes ty fu yn cael ei breswylio gan "ysbrydion" er mawr bryder i'w breswylwyr dynol. Pen- derfynwyd o'r diwedd, gynhal "mass" yn yr ystafello-edd lie y clvwyd fwyaf o swn yn- ddynt; a rhaid mai Prct.e.,taniaid oedd yr ysbrydion, oblegid y maent wedi diflanu byth oddiar hyny.
YMYLON Y FFORDD.
EFENGYL DWFR GLAN. Byddai yn dda i bawb sydd yn llafurio yn galed ar hin boeth gredu fod ar ei law i wneyd trugaredd werthfawr iawn ag ef ei hun drwy gymhwyso at ei gcrff helaethrwydd o ddwfr glan. Efengvl g!endid yw yr unig feddyginiaoth at anrhaith chwys a lav eh. Ymddongys fod ireddtgon yn cael trarferth a blinder dirfawr gyda dcsbarth o bobl am na. fynant olchi eu holl gorff yn rheolaidd, o leiaf ddwy waith neu dair yn yr wythnos. Hawdd llithro yn gaet-hwas i fiulreildi eorii- orol megis y meddyliol. Y mae awyr ein haddoldai ar y Sul a'n hysgclion ar udydd gwaith yn llefain yn hyawdl fod efensrvl dwfr glan yn ) ymharol ddieithr i grwyn a dillad llu o bobl. A wna gwragedd a mamau gredu hyn yn ddiymdroi ? Galwyd meddyg at. er- chwyn gwelv gweithiwr dyfal dro yn ol. Dal- iesid ef gan fethinnt. er yn nghanol blynydd- oedd ei nerth. Wedi ei archwilio yn ofalus, ebe'r meddyg, "Efengvl dwfr glan yn unig fedr eich mendio." Dygwyd padellaid i'r ystafell, a. chymwvswyd ef yn effeithiol at bob rhan o gorff y truan llosgwyd dillad y gwely, ac arelnvvd rhai newydd o'r siop; rhoddwyd dwy ddynes ar waith i sgwrio'r ystafell, chafodd yr awyr lan ffordd rydd i ddyfcd i mewn a myned allan drwy y simdde a'r ff on- estr. Cyn pen yr wythnos yr cedd y gweith- iwr hwnw yn fwy hoenus nag y bu er's blyn- yddau. Ie, efengyl dwfr glan yn unig aeth y cyfnewidiad. '1")