Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

1 TRYCHINEB ALAETHUS YN MHWLLHELI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

1 TRYCHINEB ALAETHUS YN MHWLLHELI. 12 WEDI BODDI 7 TRiMOLIAB YN CAEL EI OHIRIO AM BYTHEFNOS. UN AR DDEG o GYRPH WEDI EU CAEL AGOR CRONFA I GYNORTHWYO'R TEULUOEDD. Dydd Llun, o flaen y trengholydd, Dr Hunter Hugnes, cynhaliwyd y trengholiad yn Morannedd, Pwllheli. Y rheithwyr oedd- ynt -Cadben George (blaenor), Cadben- iaid Richards, Humphreys, Willoughby, Griffiths, Mri W. H. Thomas, R. Morris, H. P. Hughes, James Williams, O. Owen, W. Edwards, W. Owen, ac Ensor. Yr oedd y Parch James Salt, Glandinorwig, yn bre- senol. Yr oedd Mr E. R. Davies yn cynorth- wyo'r trengholydd i gymeryd tystiolaeth. Dywedodd y trengholydd eu bod i gyd yn CYDYMDEIMLO YN DDWYS A'R PERTHYNASAU ae yn gofidio fod y fath beth wedi digwydd. Ni byudai iddo ond cymeryd tystiolaeth ffurliot heddyw, a gomrio y trengholiad am bymthegnos. Owen Parry oedd y tyst cyntaf. Dywed- ai ei fod yn I>Yw yn Caellwyngrydd, Llan- Ilechid, ac yr oedd yn dad i Ellen Thomas. Yr oedd hi yn wraig Owen Thomas, chwar- elwr, Tynyfawnog, Oii-iorwig; ac yr oedd yn 27 mlwydd oed. Adnabu William Ed- ward Williams, mab i Ellen Thomas o wr blaenorol. Yr oedd yr ymadawedig yn chwe mlwydd oed. Ad'nabyddai heiyd yr eneth Ellen Thomas, deng mlwydd oed, plentyn Owen Thomas o wraig o'r blaen. i mae Owen Thomas ar goll, a mab arall o'r enw Owen Parry Thomas. Yr adeg yma daeth y newydd fod corph arall wedi ei gael, a gofynodd y trengholydd i'r tyst fyned i edrych y corph. William Thomas Hughes a ddywediodd ei fod yn byw yn Nhanybwlch, Dinorwig. Yr oedd yn adnabod corph Ellen Hughes, chwe mlwydd oed, merch John Hughes, over- looker yn chwarel Llanberis. Y mae yntau ar goll. Adnabu y tyst y tri chorph arall. Nid oedd gyda'r gwibdeithwyr ddydd Sa- dwrn. Yr oedd yn adnabod hefyd gorph Richard Hughes, 15 mlwydd oed, mab Tho- mas William Hughes, chwarelwr. Daeth y trancedig gyda'r excursion o Lanberis ddydd Sadwrn. Nis gallai Richard Hughes nofio. Ni wyddai neb oedd yn y cwch pa fodd i drin y cwch, ac nis gallent nofio. Ond ni wnai ddweyd i sicrwydd nas gallai y dyn- ion nofio.-Y Crwner: A oedd efe yn gallu nofio?—Y Tyst: Nac oedd.-Allasai un o honynt nofio, neu a wyddent rywbeth am gychod ?—Na wyddent, ac nis gallent nofio.- Y Parch. James Salt: A ellwch chwi dyngu nas gallai John Hughes ac Owen Thomas nofio?—Y Tyst: Nis gallaf dyngu am danynt hwy.—Y Crwner: Ond ni wyddent ddim am gychod ?—Y Tyst: Nid wyf y{i credu eu bod, oherwydd chwarelwyr oeddynt.—Y Parch. James Salt: Y mae amryw chwarelwyr, Mr. Trengholydd, allant nofio yn dda,Y Tyst: Nid wyf fi yn gallu dweyd fod un o'r rhai oedd yn y cwch yn gallu nofio, ac nis gallaf dyngu na wyddent rywbeth am gychod. CAEL CORPH ARALL. Fel yr oedd y trengholiad yn myned yn mlaen, daeth cenad i ddyweyd fod corph arall wedi ei gael. Deuwyd ag ef i'r ty, a gwelwyd mai corph Owen Thomas ydoedd. Griffith Robert Thomas, Lhdiart-y-Glo, Dinorwic, a dystiodd ei fod wedi gweled y corph ddygwyd i mewn ychydig fynydau yn flaenorol. Owen Thomas, brawd y tyst,oedd, 33 mlwydd oed. Efe oedd gwr Ellen Thomas, a gweithiai fel chwarelwr. Yr oedd yn hollol iacb yn gadael cartref boreu Sadwrn. Ni ddaeth y tyst gyda'r bleserdaith. Ni wyddai y tranceqig ddim am gychod, a chredai y tyst na fu erioed ar y mor o'r blaen, ac nis gallai nofio.-Y Crwner: A oes genych rywbeth aral I i'w ddweyd-P-Y Tyst: Nae oes; dim ond fy mod yn teimlo yn ddiolchgar iawn i bawb aID-, yna torodd y tyst allan i wylo yn hidl. Dywedodd y trengholydd nad oedd angen myned yn m.,bellach gyda'r ymehwiliad ar hyn a bryd. Byddai iddo yn awr ohino y trengholiad am bythefnos, ac yn y cyf- amser caent ddigon o amser i adferyd y cyrph ereill, os deuid o hyd iddynt yn yr ardal yma. Os darganfyddid rhai, cymerai arno ei hun i'w gweled yn mhresenoldeb dau neu dri o reithwyr, a phan adnabyddid hwy, rhoddiai archeb i'w claddu. Gallesid yn y trengholiad gohiriedig gael tystiolaeth yn nghylch C, Y CWCH A'R MOR; yn y cyfamser efallai yr ymwelai y rheithwyr a'r fan lie yr aeth y cwch allan, ac yr aent i weled y cwch yn mha un y dygwyd y truein- iaid allan, gweled ei hyd a'i led, ac felly yn mlaen, ac ystyried a oedd vn cwch diogel i'w gymeryd allan ar ddiwrnod fel dydd Sadwrn. Caent dvstiolaeth hefyd yn nghylch cyflwr y mor a'r llanw, yn nghylch y dyn oedd yn go- falu am y cwbl, ac os gallai y dynion oedd yn y cwch ei gynorthwyo i reoli y ewch. Safai y trengholiad yn awr yn ohiriedig hyd foreu dydd Llun, Gorphenaf ,17eg, am un ar ddeg o'r gloch, yn yr orsaf heddgeidwadol. DAU GORFF ARALL WEDI EU CAEI. Rhwng deuddeg ac un o'r gloch deuwyd a dau gorph eto i'r lan, sef cyrph Owen Parry Thomas, tua chwech oed, a Thomas Hughes, sef brawd i'r un gaed y boreu. Y PYSGOTWYR YN GWEITHIO YN GALED. Yn ystod prydnawn ddoe gweithiwyd yn galed gan y pysgotwyr yn y bau; a bu eu hymdrechion yn llwyddianus dros ben. Ym- gasglodd tyrfa fawr o bobl ar y traeth i wvl- io y gwaith. Erbyn tri o'r gyoch y prydnawn, yr oedd chwech o gyrph wedi eu codi yn y drefn ganlynol: —Richard Hughes, Owen Thomas, T. Hughes, O. P. Thomas, Charles Davies, a John Hughes. Nid oedd felly vr adeg hono ond dau gorph ar ol yn y mor, sef, Cassie Hughes a John R. Hughes, plant byehain John Hughes. GKOLYGFAl GALONRWYGOL. Fel y dygid corph ar ol corph i'r lan. ac y ffurfid gorymdaith ar ol gorymdaith o'r traeth i'r ty lie y gorweddai y cyrph. gall- esid gweled gwragedd a phlant yn wylo, a chlywed dynion yn ocheneidio mewn cydym- deimlad. Yr oedd yr olygfa yn dorcalonus i'r eithaf. CLUDO'R CYRFF GARTREF. Oddieutu tri o'r gloch yn y prydnawn, daeth oerbyd i'r lie o Ebenezer i gludo y purn' corph cyntaf a gafwyd i'w .cartrefi. Amgylchynwyd cerbyd gan y dorf, a chlud- wyd yr eirch iddi. Yr oedd trimminsrs duon gyda'r goirinu "Tragwvddoldeb" "3 "A rlfar- weldeb" ar eirch y rhai mewn oed, a thrim- mings gwynion ar eirch y plant. Aeth rhai <j berthynasan y rhai a foddwyd gyda'r cer- byd. Yr oedd Mr Salt eisoes wedi cychwyn am Lanberis, gyda rhai ereill o'r perthyn- asau, i baratoi ar gyfer eu derbyniad. Oddeutu wyth o'r gloch nos Lun, cafwyd 'hyd i GORPH ARALL, sef Cassie Hughes (Catherine Ann' merch fechan John Hughes. CYDYMDEIMLAD YN MHWLLHELI. Cychwynodd y cerbyd yn cynwys y cyrff o lan y mor, ac ar gais yr Arolygydd Jones, ffurfiodd y cannoedd pobl oedd yn bresenol yn orymdaith, a gosgorddasallt y cyrph drwy heolvdd y dref. Yn eu plith gwelsom Mr E. R. Davies (y clerc trefol) ac amryw wyr cyhoeddus. Dangoswyd y parch a'r cydym- deimlad mwyaf gan drigolion Pwllheli, a gor- chuddiwyd ffenestri amryw o'r siopau, sef- ydliadau cyhoeddus, a'r tai yn yr ystryd- oedd trwv ba rai yr aeth yr orymdaith. Y RHAI GAWSANT Y CYRPH. Yn canlyn y mae enwau y rhai a fuont yn chwilio am y cyrph Richard Roberts a gaf- ddau gorph, Charlie Smith un corph, Benjamin Jones ddau gorph, Ellis Wright un corph, Edward Jones un corph, Owen Jones tri chorph, a William Jones Roberts un corph. CHWILIO AM Y COLLEDIG. Bu wyth o gychod wrthi a'u holl egni ddydd Mawrth eto, gyda lines hirion am oriau lawer, yn ceisio dod o hyd i'r corph diweddaf-sef un Johnnie Hughes, mab John Hughes, Dinorwig, corph yr hwn a ddygwyd i'r lan ddydd Llun. Y CYCHWR YN DECHREU GWELLA. Yr oedd yr holl gyrphyn agos i'w gilydd. Yr oedd Robert Thomas, y cychwr, wedi gwella digon i fyned i lan y mor ddydd Mawrth i weled y cychod allan yn chwilio am y corph colledig. Cafodd Mr. R. Davies, tad Charles Dav- ies, ymddiddan hefo Robert Thomas yn nghylch y ddamwain, a dywedodd sut y dig- wyddodd. Siaradodd ereill hefyd gydag ef, Yr oedd Owen Jones, yr hwn a fu o'r fath wasanaeth ddydd Sadwrn, a'r hwn a fu yn wlyb am oriau ddydd Mawrth, yn bur wael a gwan. EGLURHAD Y CYCHWYR. Gan fod adroddiad wedi cael ei gyhoeddi a thuedd ynddo i wneyd niwaid i enw da y cychwyr ac ereill, dymunir arnom gyhoeddi y mynegiad canlynol a wnaed gan William Jones Roberts. Dywedodd ei fod yn sefyll ar lan y mor tua chanol dydd, ddydd Sad- wrn, yn agos i beiriant ymdrochi. Yr oedd bachgen John Hughes yn ymdrochi ar y pryd. Daeth John Hughes yno, a phan yn pasio Roberts gofynodd yr olaf iddo a oedd arno eisieu cwch. Atebodd Hughes nad oedd. Yr oedd cwch perthynol i'r Cadben Rees Williams ar yr ochr arall i'r peiriant ymdrochi. Yr oedd Robert Thomas yn y cwch ar y pryd. Clywodd Roberts Robert Owen, yr hwn oedd yn gofalu am y cychod perthynol i'r Cadben Williams, yn gofyn i Mrs Thomas pa faint oedd yno ohonynt. Dywedodd Mrs Thomas mai tri mewn oed a chwe phlentyn. Yna dodwyd y plant i fewn. Gadawodd Mrs. Thomas, Owen Tho- mas, a John Hughes, y cwch, ac aethant at eneth fechan ar lan y mor oedd yn crio ac yn gwrthod myned i'r cwch. Darfu i Hughes ei chario i'r cwch. Fe aeth wedyn i nol dau fachgen bychan, y rhai hefyd a wrthwynebasant fyned i'r cwch, ac fe'u car- iodd hwy iddo, ac allan a'r cwch i'r mor. Pan tua haner milltir o lan y mor cafwyd awel wrthwynebus o wynt a chawod drom o wlaw, nes cynhyrfu y mor. Yr oedd Roberts allan erbyn hyn mewn canoe, a gwelodd W. Peters yn sefyll ar ei draed mewn cwch. Gan dybio fod rhywbeth allan o'i le cych- wynodd Roberts at y lan. Yr oedd Johnie Jones a Robert Owen yn union ar yr adeg yna yn gwthio cwch i'r dwfr. Gofynodd Roberts beth oedd yn bod, a'r atebiad oedd fod, cwch pobl yr excursion wedi troi. Cy- merodd Roberts gwch arall ar unwaith, ac allan ag ef. Pasiodd Peters ef ary ffordd yn brysio at y lan hefo dau deithiwr a Robert Thomas, v cychwr,yr hwn a achubasid gan Peters. Gofynodd Roberts beth oedd yn bod; a gwaeddodd Robert Thomas, yr hwn oedd wedi cyffroi'n ddirfawr, ac yn afreolus yn y cwch, fod ei gwch wedi troi. Yna darfu i Roberts, ar ol iddo gyrhaedd y lie y digwyddodd y ddamwain, ganfod clust- ogau, rhwyfau, hetiau, &c., yn nofio ar y wyneb, Yr oedd Owen Jones hefyd yno. Cymerodd afael mewn tri chorph. Gwel- sant fachgenyn yn dyfod tuag atynt yn y dwfr, a gafaelodd Jones ynddo gan ei dynu i fewn. Yna daeth tri o gyrph ereill i fyny. Cymerodd Roberts afael yn Mrs Thomas, yr hon oedd WEDI BODDI. Gwnaed pob ymdrech i'w chodi i'r cweh, ond methodd Roberts a gwneyd hyn hyd nes y daeth Robert Owen yno, pryd y llwyddasant i gael y corph i mewn. Cymerwyd y ecrph i'r lan gan Roberts, a, dodwyd ef yn ngofal Mr Hughes, Manor, a, Mr Thomas Thomas, Anchorage. Gadawyd) Robert Owen ar ol i chwilio am y cyrph eraill. Erbyn hyn yr oedd cwch Roberts wedi Ilenwi a dwfr. Ar ol cael help i'w waghau, aeth allan drachefn, a chydag ef Capten Rees Williams, per- cheuog y cwch a ddym:|hwelodd. Buont yn chwilio am hir amser, ond ni welsant yr un corph. Gwelodd O. Jones rai. Canfu Roberts a Williams y cwch a drodd yn drifftio yn nghyfeiriad Careg yr Imbill; a chan dyb- ied y gallasai un o'r cyrph fod dano, aethant yno gydag eraill i chwilio, ond ni welsant ddim. Bu Aubrey Davies, Owen Hughes, Johnnie Wright, a Willie Wright wrthi eu goreu yn chwilio am y cyrph. Nid ydyw yn wir i rai wrthod rhoddi help, ond gwnaeth pawb ei oreu1. Fe wneir y datganiad yma mewn trefn i WRTHBROFI Y CYHUDDIAD ddarfod i rai pobl ar y lan wrthod rhoddi cynorthwy. I'r gwrthwyneb, fe wnaeth pob un y cwbl oedd yn ei allu i estyn help. Ys- grifenwyd y mynegiad yma, gan ein gclheb- ydd, a darllenwyd ef drosedd ganddo i Ro- berts, yn nghlyw amryw gychwyr a pherson- au eraill ar y lan ddydd Mawrhh. Y TEIMLAD YN DINORWIG. Byth er nos Sadwrn y mae trigolion y lie hwn wedi eu syfrdanu gan y newydd calon- rwygol a thrychinebus, a siarad am y newydd pruddaidd a glywir ar bob llaw, a gwelw v wynebau a welir yn myned a dyfod drwy y fro, a gellir dweyd mai trom yw calon y cymydogion. Amlvgir y cydym- deimlad dyfnaf a'r teuluoedd galarus yn yr amgylchiad sydd wedi gordoi yr ardal a chy- ,imv mylau o dristwch. AGOR CRONFA GYNORTHWYOL. Y mae y Maer (Mr Anthony) wedi asor cronf i gasglu arian er cynorthwyo teulu- oedd y rhai a gollasant eu bywydau. YR AIL DRENGHOLIAD. Cvnhaliwyd yr ail drengholiad boreu ddvdd Mawrth, o flae'n Dr Hunter Hughes, Ni chvnierwyd ond tystiolaeth ffurfiol o adnabyddiaeth o gyrff John Hughes, Hughes, Cassie Hushes, a Charles Davies. Richard Davies, Bron Elidir, Dinorwig, a ddvwedodd ei fod yn adnibcd corff ei fab. Charlie Davies, yr hwn oedd yn 13 mlwydd cted. Gadawodd y bachge'n bach eartref am haner awr wedi chwech boreu Sadwrn, i fyned gyda'r bleseTdaith. Dvwedodd y Crwner wrth Mr Davies fod y trengholiad yn cael ei ohirio am bythef- nos. Mr Davies a atebo^ fed vna rai pethau y CARAI EU GWYBOD. Mr Humphrey Evans, ysgolfeistr. Tyn- vtrpdivs, Dinorwie;, a ddywedodd nad" cedd gyda'r bleserdaith, ond yr oedd yn adwaen cyrff. John Hughes a'i ferch, CassieHughefe. YTr oedfl John Hughes yn 36 mlwydd eèd. Yr oedd hefyd yn max^iine ins, yn Chwarelau Dinorwig. Un miwydd ar ddeg oed oedd Cassie Hughes. Adnabyddai y tyst y cyrff ereill a ddangoswyd iddo, sef Owen Thomas, Owen Parry Thomas (ei fab) Thomas Hughes (mab Thomas Hughes,Tan- ybwlch), a Charles Davies. Gwelodd yr oil o'r plant ddydd Gwener yn yr ysgol. EU "CLADDU YN YR UN MYNWENT. Dywedodd Mr Davies wrth ein gc- hebydd y dygid y cyrff mewn cerbydau i Dinorwig, ac y cleddid hwy yn yr un fyn- went. TEIMLAD 0 DDIGLLONEDD. Ffyna teimlad o ddigllonedd yn mysg y bobl yn Mhwllheli oherwydd yr hyn a ddy- wedodd William Peters, yr hwn a achubodd y cychwr. Dywedodd Peters i'r perwyl pan ddaeth i'r lan nas gallai gael neb i fyn- ed allan gydag ef i achub y truein- iaid. Y ffaith am dani yw ddarfodi bob un a glybu am y trychineb wneyd ei oreu yn mhob modd i estyn gwaredigaeth i rai oedd mewn ymdrechfa am fywyd yn y ton- au. TEIMLO YN DDIOLCHGAR. Dywedodd Mr Davies fod y cydymdeim- lad dyfnaf wedi cael ei arddangos trwy y dref ac yn y capelau a'r eglwysi tuag at y teuluoedd trallodus, a theimlant yn hynod ddiolchgar am y teimladau Crisjtionogol hyn. CYDNABOD EU GWASANAETH. Y mae Mr Fred. E. Young yn trefnu i gynal cyngherdd i gydnabod gwasanaeth y pysgotwyr ac ereill fu yn chwilio am y cyrff CVnhelir y cynglit-rdd yn Neuadd Gynullol yn y Wc!st End. nos Iau. (ncs yfory). Gwas- anaethir ynddo gan y minstrel troupe a'r seindorf linyn, yr hyn yn garedig a ganiateir iddynt gan y Mcistri Solomon Andrews a'i Feibion. Rhwng 7 ac 8 o'r gloch nos Fawrth cymer- wyd chwech o eirch o weithdy Mrs Roberts, High street, mewn lurry, i Moranedd, gan gael eu dilyn gan luaws o bobl. Dechreu- wyd ar y gwaith o rodui y chwefch corff yn yr eirch, gan Mr R. Roberts, foreman Mrs Roberts, ac ereill. Yr cedd tyrfa o bobl y tu allan i'r adeilad. Darfu i'r heddgeidwaid gasglu yr holl ddmadau a ddarganfyddwyd, a'u rhoddi mewn box mawr, a'u hanfon i Dinorwig. Ar ol i'r cychod hwyliau (trawlers) fod wrthi o yn gynar boreu ddydd Mawrth hyd yn hwyr, dechreuodd cychod rhwyfau chwilio am yr unig gorph oedd heb ei ddar- ganfod, sef un Johnnie Hughes. Yr oedd y gwynt wedi codi erbyn hyn, ond yr oedd y tywydd yn sych. Gdlir dyweyd fed amryw o'r cychod yn South Beach wedi cael eu niweidio yn fawr trwy gael eu defnyddio i chwilio hefo grap- pling irons am y cyrph. Rhoddodd y Doctoriaid Rees, Griffith a Jones bob help i adferu y rhai ymadawedig. Yr oedd naw o'r rhai ymadawedig yn blant dan 15 oed. DERBYNIAD Y NEWYDD YN NGHAERNARFON. Gan mai tref farchnad Dinorwig ydyw Caernarfon ac mai yma yr ymdyra, gwroniaid pybyr y chwareiau ar y Sadyr- nau a dyddiau gwyl, tarawyd y dref a dychryn pan ddedbyniwyd y newydd nos Sadwrn. Eisteddai braw ar wynebau y trigolion, a holai pawb, "Gawson nhw y cyrff ?" Nid oedd odid i gape'l yn y sir ddydd Sul naddyrchefid eirchion tyner at y Nef ar ran y teuluoedd suddwyd i'r fath brofedigaeth ofnadwy. Dydd Llun. rhedid am y newyddiaduron; ond y mae yn debyg fod mwy o ofyn am y "Genedl Gymreig" nag am yr un. Cynwysai adroddiad man- wl a helaeth. (GAN EIN GOHEBYDD 0 LANBERIS). Dydd Mawrth aethum i fyny i Dinorwig, ac yn wir y mae yno le prudd a digalon. Y mae pawb yno wedi eu meddianu a'r difrif- wch mwyaf. Y mae yr ysgol ddyddiol wedi ei chau i fyny oherwydd yr amgylchiad. Ni chynhaliwyd unrhyw wasanaeth yn yr Eg- lwys ddydd Sul, a theneu iawn oedd y cynulliad yn y capelau. Yr oedd pawb wedi eu syfrdanu gan y newydd trwm. Cef- ais ar ddeall fod un dosbarth bychan o Ys- gol Sul yr Eglwys wedi ei chwalu gan y ddamwain alaethus. Un yn unig o'r dos- barth sydd wedi ei adael i gofio am ei gyd- ddisgyblion. Aethum i'r Clogwyn Gwyn, a chefais ymddiddan a Mrs Hughes, gwr yr hon yn nghyda thri o'r plant sydd wedi boddi. Wrth siarad am yr amgylchiad dywedodd Mrs Hughes:—Yr oeddwn wedi clywed sibrwd fod rhai o'r ardal wedi boddi cyn i mi glywed fod fy nheulu yn eu plith; a meddyliais, ai tybed foo fy mhlant bach i wedi boddi P Yn mhen peth amser, dyma gnoe ar y drws, a daeth Mr Richards, y Curate, i mewn. Cyn iddo ddweyd dim, go- fynais iddo a oedd wedi dyfod i ddweyd newydd drwg wrtha i. Fe wyddWn mai dyna oedd ei neges; yr oeddwn yn clywed <swn cyn- hyrfus yn y gnoc ar y drws. Dywedodd: Mr Richards fod yn ddrwg iawn ganddo mai newydd felly oedd ganddo. Dywedodd fod teulu Ty'nyfawnog i gyd wedi boddi, ac fod ei phriod a'i thri plentyn bach hithau. O! meddwn, nid! damwain ydyw %yn, ond trefn ryfedd yr Arglwydd. Dyma fel yr oedd ef wedi trefnu eu diwedd', ond y mae trwy hyn wedi ysgubo fy nhy fi bron yn lan/Yr oedd Mrs Hughes dan deimlad dwys, ac yn wylo yn barhaus, opd y mae yn amlwg fed yr Ar- glwydd yn rhoddi nerth anghyffredin iddi i ddal yn y fath brofedigaeth. Yr oedd corph eu geneth fach Nellie, saith oed, wedi cyr- haedd yno nos Lun, ac aethum i'w gweled yn ei harch. Yr oedd yn edrych mor anwyl ag erioed; ei gwallt melyn prydferth fel mod- rwyau aur o amgylch ei gwyneb tlws. Y tro diweddaf y gwelais hi yn fyw yr oedd mor lion, ac ni allwn lai nag wylo wrth weled y fechan yn fud. Teimlir gofid mawr drwy y fro am nad ydiynt eto wedi cael corph ei hrawd. Yr oedd cannoedd hyd y ffordd nos Lun pan ddaeth y pum mrph yno. Golygfa dorcalonus oedd eu gweled yn myned a chorff Mrs Thomas, a dau o'r plant, i Ty'nyfawnog, yna myned ag un corph i Tanybwlch, wed'yn myned ag un arall i'r Clogwyn Gwyn. Yr oedd amryw hefyd ar y ffordd yn hwyr nos Fawrth, ond deallwyd nad oeddynt yn cy- chwyn a'r gweddill o'r cyrph o Bwllheli hyd ddau o'r gloch foreu Mercher. Drwg iawn oedd genyf ddeall fod chwaer i'r betfhgyn fu foddi o Tanybwlch mewn cyflwr pur ddifrifol. Y mae yr amgylchiad wedi effeithio yn fawr ami, ac y mae yn barhaus vn myned i ed- rych ar gorff ei brawd sydd wedi dyfod i'r ty. Yr oeddwn yn dtall ei bod yn llawer iawn gwell dydd Mawrth nag, mae wedi bod. Teimlai Mr Richard Davies, Elidir View, yn bur anesmwyth ar ol i'w fachgen bach gychwyn o'r ty i fyned gyda'r wib- daith. Daeth Charlie, sef ei fachgen at ei wely i ddyweyd ei fod yn barod i gychwyn. Dywedodd yntnu fod yn well iddo beidio myned, ac yn ddilynol dywedodd wrtho am gofio cymeryd gofal ohono ei hun, a gwylied y bicycles a'r cerbydiau, Ac. Ni feddyliodd unwaith am y mor. Yna aeth y bychan, a disgwyliai ei dad ei weled yn pasio y ffen- estr, gan mai heibio y ffenestr hono y bydd ent yn arfer myned at y ffordd, ond ni welodd ef. Yna cododd yn svdyn ac aeth i'r vegin, P, gofynodd i Mrs Davies a oedd Charlie wedi myu':¡., a pha ffordd yr aeth? Ydyw, meddai hithau, agcrais ddrws y ffrynt iddo. Dywedodd Mr Davies et f6d i codi i'w feddwl ofyn iddo a fuasai yn dyfod gydag ef i Landudno yn lie myned i BVjlheii. Fel yna, yr. oedd rhyw a<nes- mwythdra wedi meddianu Mr Davies o'r boreu cyntaf. ( Wedi gwneyd ymholiad yn nghylch y claddedigaethau cefais y manylion canlyn- ol :—Dydd Iau y bydd y cynhebryngau. Fe gynhelir gwasanaeth wrth y pedwar ty, am ddau o'r gloch, ac yna unir yn un or- ymdaith i lawr drwy Allt y Foel, i fynwent Llandinorwig. Gwasanaethir ar yr ach- lysur gan y Parchn J. Salt (y ficer), W. Richands (curad), Davies; laandd-einiolen, I a Jones, Porthdinorwig. Bu y ddau olaf yn gwasanaethu eglwys Dinorwig cyn dyfod- iad y y Parchn J. Salt a W. Richards. Y mae yr oil o'r beddau wedi eu trefnu yn agos i'w gilydd yn mynwetnt Llandinorwig.. Y mae yn ddiameu y bydd yr angladd mwyaf a welwyd erioed yn yr ardal. Oddeutu chwech o'r gloch boreu heddyw (ddydd Mercher) cyrhaeddodd y oerbyd gyda chwech ereill o'r cyrff. Yr unig un sydd ar ol yn awr ydyw eiddo Johnnie bach Clogwyn Gwyn. Aed ag un o'r cyrff i Tan- ybwlch, a dau i Ty'nyfawnog, yna dau i'r Clogwyn Gwyn, ac un draohefn i Elidir View. Yr oedd eu gweled yn dyfod fel hyn heb y bychan arall yn olygfa drist i'r eithaf

Gwrthdarawlai ar y Rhellffordd

Lladd^yr Armenlaid.

Drejfus wedi Gianio.

Tmlli y slpslwn ymaith.

Cael el Laddyn y Transvaal

Troi Dwfr at Weithio Chwarel…

Liong o, Giernarfon wedi Colli…

Dal Ty Sorwr yn Mhorthmadog

Ystori Rhyfedd!

Gwrthod Addysg i Blant Tlodion.

Gorthrymu Glowyr y De. -

Treuliau Byrddau Ysgol.

[No title]

Advertising

Y TRANSVAAL .-

Yr Haf a'i Beryglon.

"GWEDDI BAPYR."