Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
47 erthygl ar y dudalen hon
Neidr yn y Glaswellt.
Neidr yn y Glaswellt. Nid oes gan Weriniaeth Ffrainc waeth gelyn iia'r babaeth, wedi y cwbl. Gwir fod y Pab yn awr yn proffesu cyfeillgarwch ati; ond y mae mwyafrif o'r offeir.aid trwy y wlad yn elynion juighymodlawn iddi. Bren- hiniaethwyr ac Y mherodrolwyr ydynt yn eu cyfangorph. Pa obaith a welant hwy am ddymchwelia'd trefn bresenol pethau, nid ydyw yn hawd'J gwybod.
IYn Myd y Gweithiwr.
Yn Myd y Gweithiwr. Y mae perchenogion glofeydd rhanbarth orllewinol yn Neheudir Cymru wedi rhoddi rhybndd yr ataliant waith oni bydd i'r dyn- ion gydymffurfio a'u hamodau. Bydd i hyn eifeithio ar o wyth i ddeng mil o bobl. Prydnawn dydd Sul cynhaliwyd cyfarfod o weision y siopau yn Hyde Park, Llundain o dai lyw.cdiaeth Mr W. C. Steadman, A.S. Pasiwyd penderfyniadau o blaid y gweision. j Y mae cwmni gweithfeydd haiarn a dur wedi ei ffurfio yn Efrog Newydd. Y mae y cyfalaf yn ddeng miliwn ar hugain o ddol- eri. Yn nglyn a'r sefyll allan yn mysg y cêr- 0 bydwyr yn Cleveland, fe chwythwyd cerbyd i fyny gyda dynamite nos Wener.
,Prinder Gwlaw.
Prinder Gwlaw. Pryder mawr sydd yn ffynu trwy barthau eang o'r India yn y dyddiau hyn am fed y gwynt cofnodol, a adwaenir wrth yr enw monsoon, wedi profi yn fethiant mewn rhan i ddwyn gwlaw gydag ef. Er fod Gorphenaf yn arfer bod y mis mwyaf gwlyb trwy yr holl liwytAlyn, nodedig o sych yw efe .wedi bod eleni mewn llawer o fanau. Mewn ychydig leoedd, ar y llaw arall, y maent wedi caei gormod o wiaw.
Y Gwres yn Lladd.
Y Gwres yn Lladd. Tra yn gwersyllu yn Minehead, bu idau o aelodau Gwirfoddolwyr Catrawd y Severn farw, tra yn cael eu harolygu gan y Cadfrid- og Syr George White. Bu un arall farw drwy ddrylliad llestr rrwaed, yn cael ei achosi gan wres a lludded; tra y disgynodd y pedwerydd i lawr yn farw ar daith. Prydnawn d I M Llun, fel yr oedd labrwr o'r enw Richard Hart, Pall Mall, Chorley, yn helpu i lwytho trol yn yr heol, gwelwyd ef yn syrthio i lawr yn farw, gan y gwres. Tybir mai dydd LInn oedd un o ddyddiau poethaf yr haf. Bu hen ddyn o'r enw Thomas Philips, South road, Wimble lion, farw drwy effeith- iau y gwres. Y mae haid o mosquitoes yn blino preswj'l- wyr Sutton Coldfield, ger Birmingham. Caf- odd amryw o bersonau eu brathu gan y pryf- aid yma.
Boddiadau.
Boddiadau. Aeth dau ddyn o'r enw William Fox a Frederick Wilson, allan mewn cwch ddyldd Llun. Pan y tuallan i Graig Neyland, pwys- odd Fox ar ochr y ewch, a disgynodd i'r dwfr. Cododd i'r wyneb ryw bellder, ond nis gallai Wilson drin y cwch, a bu Cox fcVldi. Darfu i longwr o'r enw Woodgates, yr hwn oedd wedi bod yn vfed yn lied drwm yn ddi- weddar, gynyg gyda dyn arall i nofio ar draws porthla(ld Poole, am alwyn o gwrw. Syrthiodd ei gap i'r dwfr, ac aeth ar ei ol a bu foddi cyn y gallai ei rymdeithion ei waredu. Cafwyd corph dyn o ymddangosiad parch us yn yr afon Tafwys, ger Charing Cross, pryd- nawn dyjld Llun. Bu Henry Couldrey, naw mlwydd oed, Greenwich, foddi ddydd Llun wrth ym- drochi yn yr afon Tafwys. Tra yn ymdrochi yn y Lea, ar Forfa Hack- ney, bu foddi Ralph Jenkins, deujldeng mlwydd oed, Eve's Buildings, Shepherd's Row, Homerton. Yr oedd yna lif peryglus ar y pryd, ac y mae nifer o fechgyn yn boddi y-no bob blwyddyn. Bu bachgen i argraffydd, o'r enw Arthur Eastlake, Nevill's Court, Fetter Lane, Llun- lain, foddi yn Queenhithe, wrth ymdrochi.
Oes Celwydd. -
Oes Celwydd. "Dyma fel y dywed Drych America Geilw Esgob Morrison j r oes hon yn oes y celwydd a'r anwiredd. Ni cheir neb, ebe efe, i ddwpyd y gwir odnigerth fod byny yn talu yn well iddo. Gcsodir celwydd ac an- wiredd a pbob math o ffug a thwyll i fyny yn sypynau i'w gwerthu trawpgludir hwy mewn barilau i bob rhan o'r wind; hongir hwy i fyoy ar facban, ac y maent ar weled- iad ac ar werth ar hyd a lied y byd. Mae pob cyfundrefn ac anturiaeth yn rhwyd- dyllog gan anwiredd; ac ariangarweh yw yr achos sydd wrth wraidd hyn oil Syn- wyrolach o lawer yw priodoli twyll ac an- rnestiwydd i wreiddyn pob drwg, nag Galfiniaeth, fel y gwna Rheithor Fflint.
Mellten yn Difa Ysgubor.
Mellten yn Difa Ysgubor. Bore Mercher. Gorphenaf 12f d, am I o'r gloch, yn ;) skd yr ystorm fawr a basiodd dros ddinss Utica, tarawold mellten ys- gubor ar Lloyd Farm," tua milldir i'r de o'r Savage reservoir. Linystriwyd bi gyda'i cbJnwys mewn byr amser. Llosgwyd pedwar o geffylau, cau o honynt a gyfrifid yn werth 400 dolir, a dau arall yn 200 nolar. Cynyjsai yr ysgubor, hefyd, fcedair tunell o wair, bacer dwsin o loianifero offer a pbeirianou amaethu, y rhai oil a losgwyd, oddigerth un wagen. Y deiliad presenol yw Ellis Owens, diweddar o Deer- field. Yr oedd peth-yswiri mt ar yr eiddo.
DYDDLYFR ZABULON DAFYDD.
DYDDLYFR ZABULON DAFYDD. Gorphenaf 13eg.—Myned i gapel heddyw mewn tref na ddyweclaf yn mlia le, He y rhoddodd y pregethwr yr emyn canlynol allan:- "Diolch Iddo, Yr ydoedd yno saith yn digwydd bod yn bresenol, a phan y rhoddwyd allan y ddwy line'll olaf, sef "Diolch Iddo, &c., Byth am gofio llwch y llawr," gofynodd y Sais i eneth a eisteddai yn ei ymyl beth ydoedd ystyr y geiriau a genid i pryd y ceisiodd yr eneth druan roddi y cyfieithiad llythyrenol iddo, sef fel y can- lyn: "Tanciw, tanciw, For remember dust of floor." Well done*, fy mechan i. Nis gallwn roddi gwell cyfieithiad fy hun, er fy mod wedi cael dwyn fy hunan i fyny yn Ngholeg Abersoch. Pe buasai genyf geiniog a dimai yn fy llogell buaswn yn rhoddi gwobr iddi. Cyng- horwn i'r eneth hon ymgeisio am wobr yn Eisteddfod Lerpwl, os y bydd yno gyfieit Il- iad. '17eg.-Dyfod i'r pende'rfyniad heddyw, os v bydd Eisteddfod Caerdydd yn ffaeledd, fod" y bai yn hollol wrth ddrws y pwyllgor, sef dyfod a rhyw gelfi o dramorwyr iddi l siarad ffwlbri nad oedd dim un o filiwn yn deall yr un frawddeg, os ydoedd yno un. Dyna y tro gwirionaf glywais i son am dano ericed. Yr hen Eisteddfod Gymreig wedi ei gwneyd yn lobscows o Eisteddfod, rhyw gymysgfa o jam,'sgyfarnogod,cig moch,blawd ceirch, French stew, German sausages, wn- ions Ffrainc, &c., &c. Yn wir, beth ddaw o'r hen sefydliad yn y diwedd, tybed ? Tai- haiarn yn llygad-dyst o'r Eisteddfod hon! Collfarnai y fath beth. Mewn pwyll- gorau sydd yn dal cysylltiad a'r Eisteddfod y dyddiau hyn Saesneg a siaredir, a hyny yn arr-1 gan rai nas gallant siarad brawddcg yn ramadegol. Os Eisteddfod Gymreig, siaredwn yn Gymraeg. Dyna yr Eistedd- fod nesaf yn Lerpwl; mi wnaf lw het mai yn yr iaith Saesneg y bydd haner y pwyllgor yn siarad. Cymerwch fy awgrym, boys, fel y byddai Mynyddog yn canu, "Gwnewcu bobpeth yn Gymraeg." 18fed.-Peth hynod o hyll ydyw gweled merched yn sefyll yn nrysau eu tai o'r boreu gwyn tan nos, a'u gwynebau mor ddued a'r simddau, ac yn gwneyd syl\v;.}:lau isel ar bawb fydd yn digwydd myned heibio. Yn gyffredin gwelir dwy wraig briod yn byw y ty nesaf i'w gilydd, dwy slebog ddiog, bron yn rhy iddiog i spario amser i fwyta, gan mor bwysig fydd eu sgwrs isel am eu cymyd- ogion. Pe y digwydd i chwi fyned o'r tu fewn i dai y rhai hyn, ni welsoch y fath drefn ar dai yn eich bywyd,—y llestri heb eu golchi, y lludw heb ei ysgubo, y plant heb olchi eu gwynebau; a dyma y giwaid sydd yn gweled bai ar bobl ereill. Ffei ohonynt! 1ge9.-Pan ar fy ffoildd heddyw o Aber- soch i Aberdaron cefais fraw nes yr oeddwn yn teimlo fy nghalon yn disgyn i flaen b >v,d fy nhroed. Dychmygwn weled dwsin o angylion yn dyfod i'm cyfarfod, y cyfan mewn gwisgoedd gwynion. Fel mai byw fi, meddyliais fod diwedd y byd wedi dytod, a fy mod yn gorfod myn'd fel yr oeddwn, ond wedi dyfod yn nes atynt canfyddais nad cecid ganddynt yr un asgell, ac mai merched yn gwisgo blowsus oeddynt. Diolch am y war- edigaeth. 20fed.-Derbyn llythyr o Lanerchymedd, octJiwrth hen ferch yn cynyg ei hun fel ym- geledd gymwys i mi Y mae hon yn canmol ei holl rinweddau. Fel y canlyn y rhed ei llythyr:—"Anwyl Zabulon Dafydd,—Yr yd- wyf yn anfon hyn o linellau atoch, ac yr ydwyf yn gobeithio y bydd iddynt eich cael vn iach a chysurus, fel ag y maent yn fy ngadael innau; diolch i Dduw. Wel, at y pwynt ar unwaith. Yr ydwyf yn deall oddi- wrth yr hysbysiad yn eich llythyr eich bod mewn angen gwraig. A dyweyd y gwir yn onest, .yr ydwyf finau yn yr un picil mewn angen gwr; felly yr ydym ein dau yn cael ein blino gan yr un dolur, a'r unig feddygin- iaeth ydyw i ni gyplysu. Wei, yr ydwyf yn berchenog ar bob rbinwedd angen- rheidiol i wneyd gwraig dda, ffeind, gofalus, a glan. Yr ydwyf hefyd wedi cael fy magu yn nghanol moch (nid yn y cyt gobeithio), yr hyn na fedr pob hen ferch ddyweyd. Gallaf brynu a g\verthu moch. Felly tasach chi yn cael eich cym- yn sal, mi allwn neyd yn eich lie yn y ffeiriau. Mi allaf olchi, smwddio, starch- io, gwiiio; mewn gair, gwneyd pob peth a ddylai nWrth fod yn abl i'w wneyd. Hefyd y mae gen i ddanedd gosod newydd wedi eu gwarantu am ugain mlynedd, felly ni fydd raid i chwi ddim prynu rhai i mi am flynyddau lawer. Eto, y mae genyf ddigon o ddillad am fy oes, ac mi fetiaf fotwm corn nad oes yr un ddynes all ym- ffrostio a dyweyd yr un peth. Wel yn awr yr ydwyf am fod yn blaen hefo chi. Yr ydwyf yn disgwyl yr atebweh y llythyr yma ar unwaith', neu byddwch yn rhy ddiwedd- ar, achos y mae rhyw haner dwsin o rai ereill yn ceisio sythu ataf, ond yr ydych chwi yn cael y cynyg cyntaf. Yr ydwyf yn cofio atoch yn gariadus.—Yr eiddoch yn gariad- us, GEINI JONES. Pentre'r Bais," O.Y.-O, ie, y mae arnoch eisiau car- ictor, onid oes? Wel, dyma fo: -Tan y Grisiau, Sir Fon,Hyn sydd i hysbysu fod Geini Jones, Pentre'r bais, yn ddynes dda, cnest, lan, dwt, sbriws, hen ferch hyd y earn, ac yr wyf yn ei gwarantu fel deunydd gwraig i unrhyw ddyn. SHONAD HUWS." Nv el, mi gysudrwn dipyn, ac yna caiff Geini Jones wybod erbyn y "Werin" nesaf. 21ain.—Derbyn llythyr cwta heddyw oddi- wrth wraig weddw ifaaic yn cynyg ei hunan fel gwraig i mi, a dyma fo :—"Mr Zabulon Dafydd,—Anwyl Syr,—Os ydych heb eich siwtio hefo gwraig hyd yn hyn, yr wyf yn meiitro cynyg fy hun fel un suitable i chwi. Yr ydwyf yn byw mewn tyddyn bychan twt, wedi ei ddodrefnu yn dda gan fy ngwr cyntaf, yr hwn a ymadawodd a'r fuchedd hon oddeutu chwe blynedd yn ol. Heddwch i'w lwchi. Yr oedd o yn ddyn da, cariadus, a ffeind; ac os byddwch chitha yn llanw y pethau a enwais am dano, mi fyddwn ein dau yn gysurus holl ddyddiau ein bywyd. Os y byddwch yn cydsynio i fy nghymeryd "er gwell ac er gwaeth," mi ellwch ddyfod i fyw yma, neu mi ddof fi i fyw i Abersoch. Am fanylion pellach yn nghylch fy nghym- eriad, ysgrifenwch at flaenoriaid y capel yr wyf yn aelod dichlynaidd o hono yn Bwlan, s- F • Atebiad buan os gwelwch yn dda.—Yr eiddoch, hyd byth, gobeithio, DEBORAH IFANS, Tyddyn Saeson, Llan- rhos." 22ain.—Astudio esboniad "Gurnal" hedd- yw er chwilio allan pwy wnaeth het wellt gwraig Lot, gael i mi fod yn barod i ateb yn yr ysgol yforu. 23ain.—Dim goleuni ar bwy wnaeth yr het, ond fe ddywed "Herod Dafis" y bydd iddo setlo y pwnc y Sul nesaf. Felly, look out, medd ZABULON DAFYDD. Abersoch. 1 Offis, Y Genedl Gymreig," Caernarfon.
[No title]
Dywedir fod y Pwyllgor Dewisol o Dy'r Cyffredin wedi bod yn eistedd am bum' awr ddydd Mercher yn ystyried pwnc blwydd- dal i'r hen. Cytunasant ar gynllun, ond ni wneir yn hysbys yn awr ei ddarpariadau a'i fanylion. Addawodd yr aelodau gadw hyn yn gyfrinachol hyd nes y dodir y cynlluu o flaen y Ty-
Anffyddiwr Pennaf y Byd!
Anffyddiwr Pennaf y Byd! Mae'n debyg mai lngersoll, sydd newydd farw, oedd antfyddiwr penaf y byd! Mab i weinidog Annibynol oedd, a ganwyd ef yn 1833 yn Dresden, New York. Bu yn dylorrti Ilawer yn ei ddydd ar y grefydd Gristio.iogol. Dadleuodd Dr Talmage lawer ag ef. Gweddiai yn ami ar Mother Nature, yn en- wedig uwch ben bedd rhyw anffyddwyr y cymerai ran yn eu hangla,dd. Bellach mae wedi myned i wlad lie ca weled ai iawn ai cyfeiliornus ei anffyddiaeth.
Cana Lleddf yn Nolgellau.
Cana Lleddf yn Nolgellau. Un no-on yr wythnos o'r blaen, yr oedd person pert hyn ol i Eglwys Loegr yn arcs yn Nolgellau, ac aeth i gyfeillach yr Annibyn- wyr. Dj-wedai na ehafoud y fath fwynhad yn ei fywyd. Yr oedd yno ganu na chlyw- odd erioed ei debyg; ond yr hyn a'i synai vn fawr Gedd mai- yn y lleddf yr oedd yr oil o'r canu. Ni ddeallai yr un gair o'r hyn elai yn mlaen yno; ond yr oedd yn berffaith sicr fod rhai o'r hen frodyr a'r hen chwiorydd oedd yn dyweyd eu profiad yn rhagorc!; a chyn diwedd y seiat, meddai ef, yr oedd gwrando arnynt welli ei godi yntau i ysbryd addoli, a buasai yn dda ganddo gael dweyd gair o'i brofiad.
Yr Arlywydd Kruger
Yr Arlywydd Kruger Y rhai sydd wedi bod yn dyweyd y pethau cliwerwaf am yr Arlywydd Kruger sydd, yn y dyddiau hyn, yn ymddangos lei yn gefidio mwyaf oherwydd y perygl, neu, y tebygol- rwydd, o'i ymddiswyddiad. Dywedant y bydd yn mron yn anmhosibl cadw yr hedd- wch os aiff efe oddi wrth y IIyw. Paham: y gwnaethant hwy eu goreu 1'w yru o'i swydd ? Da genym gael ar ddealI I;ad' ydyw yr hen Oom Paul am roddi yr awenau o'i law-am dymor, o leiaf.
Yn Eisleu: Barnwyr Cymreig.
Yn Eisleu: Barnwyr Cymreig. Y mae Mr William Jones, A.S., wedi ym- afael mewn gwaith ag y b) dd pob Cymro iaithgarol yn teimlo yn ddiolchgar idid'o. Ymddengy-s fod yn mwriad y Llywodraeth benodi Barnwr yn ychwanegol i'r Chancery. Tybia rhai aelodau fod hyn yn gyfle rhagorol i'w ddwyn gerbron yr angenrheidrwydd 0 be nodi Barnwr yn medru deall a siarad Cymraeg i'r brawdlysoedd. BwTiada Mr Jones alw sylw at y mater yn Nhy'r Cyffredin ddydd Mawrth nesaf.
John Kensit liroi cael elladd
John Kensit liroi cael elladd Ymddengys fed mab i Mr John Kensit, arwr mawr Protestaniaeth yn Eglwys Loegr yn y dyddiau hyn, ar daith bregethv.rol yn Cumberland gyda chyfaill. Derbynia'i anghroesawgar iawn a. roddir i'r ddau, debygid. Dydd Llun, hwy a ddaethant i Whitehaven. Buont bron cael eu Hadd. Ymosodwyd arnynt yn y brif heol, a chur- w) d' a baeddwyd hwy yn dost. Y mae yr j awdurdodau wedi galw am c'iwaneg o hedd- geidwaid i'r dref.
iyled y Sais I Gymru.
iyled y Sais I Gymru. Yr wythnos o'r blaen, cynhaliwyd bazaar a gwyl yn Mharc Minydon, Colwyn, er budd yr Eglwys Seisnig sydd newydd ei sef- ydlu yn y lie. Dydd Sadwrn, agorwyd y gweithrediadau gan Mrs Edwards, gwraig Esgob Llanelwy. Wrth gydnabod y diolch iddo ef a'i wraig, cyfeiriodd yr Esgob at rai o'r pethau y mae y Sais yn ddyledus i Gymru am danynt. Yr oedd yn cyyledus i Gymru am gryn lawer o'i iaith a'i lenyddiaeth. Deuai i Gymru am dri o'r pethau mwyaf angenrheidiol i wareiddiad a bywyd, sef tan, dwfr, ac awyr. Os oedd am gael y glo goreu deuai i Gymrn, pan oedd angen dwfr arno hefyd deuai yno, a phan wedi blino ar awyr iach. Nid oedd, felly, vn ormod iddo gy- northwyo i dalu am yr eglwysi adeiladid yn Nghymru at ei waaeth.
Y Chwarelwyr a'r Undeb. -
Y Chwarelwyr a'r Undeb. Drwg genym ddeall mai lied ddifraw yw y chwarelwyr mewn ymaflyd yn eu hundeb a'i wneyd yn effeithiol. Pan fydd y farchnad yn arafu a'r cyflogau yn myned i lawr, bydd galw am undeb, ond pan fydd y byd yn dda gadewir iddo fyned i lawr. Ni ddaw by€n nerth ynddo fel hyn, ac ni bydd ei ddylan- wad ond bychan ar y meistriaid heb fod ei aelodau yn lluosogr a chyfalaf da wrth gefn. Dylai y chwarelwyr ddysgu oddiwrth y mor- grugyn, yn darparu yr haf ar gyfer y gauaf.
GWYLIAU HAF
GWYLIAU HAF "I lan y mor yr awn Px hyntn I gwmni'r gwynt a'r tonau A.j yno yn ei ddyfroedd glan Y dyddan nofiwn ninnau." Ymwelir a glanau y mor, ac a'r ffynonau a manau ereill gan filoedd o'n cenedl yn ystod misoedd yr haf. Mae Ilawer yn myn'd i geisio pleser ac adloniant yn unig yn ystod eu gwyliau, end mae y mwyafrif mawr yn myned er mwyn cael adfywiad vs- bryd ac adferiad icchyd a nerth, y rhai sydd wedi eu hamharu gan lafur, gofalon a pbryder, yn cael eu hachosi gan helbulcn bywyd neu gan ystormydd y tymhorau blaencrol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd eu hamcan i sicrhau adfer- iad iechyd a nerth yw newid awyr a golyg- feydd a chwmpeini, ymdrochi yn y mor. ac yfed dyfroedd meddygol v ffynonau, gan fod y pethau hyn oil yn effeithio yn llesol ar y cyfansoddiad. Ond mewn trefn i sicrhau y daioni a'r lies mwyaf oddiwrth y cyfnewid- iad, dylai yr ymwelwyr a'r glanau, ac a'r ffynonau wneyd defnydd o feddyg'yn ad- gryfhaol ac effeithiol fel Quinine Bitters Gwilym Evans,—y meddyglvn enwocaf a mwyaf effeithiol er cydweithio a newid awyr er cynorthwyo natur i ymryddhau oddiwrth nychdod, ac i nerthu y cylla, cryfhau v gewynau a'r holl gyfansoddiad, a bwrwill-ii bob anihuredd o'r cyfansoddiad. Dyblir v lies a geir o'r gwyliau os gwneir defnydd pr;o(lol ,rs Gwilym Evans pan yn newid fnw Gwerthir gan fferyllwyr yn nhob man mewn noteli Ts 9c a 4s 6c yr un, neu anforllr ef drv y v ).K)st am y prisiau hyn yn union- liN,rcbG-cliwrth y perchenogion: Quinine Bitters fq ef u ring Co., Limited. LInn- elly, South Wales.
[No title]
Enillodd un o geffylau Due o Westminster ddeng mil o bunnau beth amser yn ol yn y rasus mawr Seisnig, a elwir yr "Eclipse Stakes." Y mae yn awr wedi rhoddi yr arian yn anrheg i Ysbytty Rhyl. Nid yw rasus ceffylau yn ddrwg i gydl
Gwrtiiwynelm'r Cymru Fyddion.…
Gwrtiiwynelm'r Cymru Fyddion. Y mae cais Cymdeithas Cymru Fydd at v Cynghrair Cenedlaethol Cymreig wedi gyru HhyddfrydwjT claiar Caerdydd yn eithafol o w yllt, a gallesid meddwl oddiwrth ymddyg- iad rhai o'r aelodau fod cenedlaetholdeb Gymreig ar drengu. Beth oedd y cais a wnaed gan y Gymdeithas Lundeinig ? Gofyn ar i'r Cynghrair Cene<liaethol roddi gwybod a ydyw yn bosibl, ac ar ba delerau y gall, Cyradeithas Cymru Fydd Llundain ymuno a'r Cynghrair. Mewn atebiad i hyn pas- iodd y pwyllgor gweithiol fod cais y Cymru Fyddion i gael ei ystyried ac fod i'r is- bwyllgor edrych i fewn i gyfansoddiad y Cynghrair, a gwneyd cyfnewidiadau angen- rheidiol i ganiatau y cais, ac yna dwyn yr oil i'r cyfarfod mawr a gynhelir yn Abertawe i'w dderbyn neu ei wrthod yn ol fel y barnont oreu. Nid oedd dim allan o le yn hyn, gallem feddwl, ac 'roedd' y cyfan a wnaed yn berffaith reolaidd, eto i gyd wele haid o bobl a broffesant fod yn Rhyddfrydol ac yn genedlgarol yn codi eu gwrych ac yn addaw gwneyd eu goreu i atal y gymdeithas hon gael na Ilais na rhan yn ngweithrediadau gwleidyddol y genedl. Ar ba dir y gwrth- wynebant nid yw eto yn eglur, ohenvydd y mae yn hysbys fod caniatad eisoes wedi ei roddi i gynwys Cymdeithas Rhyddfrydol Meii-cliedCymru, ac os YWlrhai hyny yn alluog i ffurfio barn ar gwestiynau Cymreig, yr ydym yn credu gyda phob dyledus barch y gall rhai o aelodau y Cymru Fyddion ddy- weyd rhywbeth ar rai o honynt. Ond nid gwrthwynebiad wedi ei seilio ar dir rheswm sydd gan y bobl hyn, eithr eu pengamrwydd hunanol sydd gyfrifol am yr helynt presenol. Pan ddaw y pwnc ger bron yr oil o'r aelodau nid ydym yn credu am foment y gwrandewir ar ebychiadau pobl Caerdydd, eithr y bydd i'r holl Ryddfryd- wyr gonest wneyd eu goreu i gyfanu y rhengoedd a dwyn cadernid i fewn i'r gwer- syll o bob cyfeiriad, ac yn sicr nis gellir cael gwell tyrfa mewn un tre'f yn Nghymru nag a geir ar hyn o bryd yn mysg aelodau y Cymru Fyddion. Nid trwy gyfyngu ei L, gweithredoedd y mae y blaid Ryddfrydol i enill tir j'n Nghymru, eithr drwy eangu ei chylch a dwyn i fewn bob ballu, ac os cauir allan y gymdeithas hon,bydd Rhyddfrydiaeth Cymru yn sicr o fod ar ei cholled yn y pen draw.
IYr Highland Fling a'r Eisteddfod…
Yr Highland Fling a'r Eisteddfod Mae y digwyddiad uchod wedi creu cynwrf yn ngwersyll yr Eisteddfod Genedlaethol. Dadleuir parthed i gymwysder y "fling" ar esgynlawr sefydliad mor bwysig. Rhai yn dueddol i gyfiawnhau y weithred, tra. eraill yn condemnio gyda'r penderfyniad mwvaf. Rhaid cyfaddef fod yr "Highland Fling" yn ncwydd-deb, ond eto, nid allan o le, o angen- rheidrwydd, oherwydd hyny. Nid yr un drefn sydd gan genedloedd i gynul sefydl- iadau mawrion a phwysig. Yn Nghymru, yn nglyn a'r Eisteddfod, edrychir ar Orsedd y Beirdd, y display wrth gadeirio a chwar- eu'r delyn, fel pethau cysegredig, ac nas gellir hebgor y cyfryw bethau yn yr Eis- teddfod. Meddyiwch pe bai rhyw un yn condemnio y rhai hyn, byddai y beirdd a Mabon yn codi lief am yr uwchaf yn wrth- wynebol i'r fath feiddgarwch enllibus. Yn awr, ynte, beth am yr Highland Fling ? Y mae'r Sword Dance gyda'r Piper yn ym- arferiad cenedlaethol yn yr Alban, ac nis gellir he'bgor y cyfryw ymarferion yn bre- senol. Edrychant arno gydag edmygedd, ac fel rhywbeth cysegredig. Edrychir ar y dawnsiwr goreu yn yr Ysgotland, yn union yr un fath a'r bardd cadeiriol gyda ni. Yn Caerdydd, rhoddwyd croesawiau i'r High- lander i'r Eisteddfod, ac yr oedd pawb yn falch ei weled. Er mwyn hwylysu ychydig ar waith yr Eisteddfod, yn absenoldeb y oadeirio, cynygiodd ei wasanaeth a derbyn- iwyd y eyfryw, a gwaeddodd Watcyn Wyn Cadair wag, wel, ewch a hi Oddi ar y ffordd, gael lie i ni I gael Highland jig am dro, Rhywbeth felly a wna'r tro. Dawnsiodd yr Highlanders fel y dywed y Sais, "to his heart's delight;" ac yn udi- ameu, aeth trwy y cyfan gydag ymdeimlad gonest, fel yr arferai wneyd gartref; yr un fath yn union a phe bai dwsin o feirdd yn cadeirio yn Ysgotland. Beth fu y can- lyniad? Condemnio a gvmwdio. Gwaeddi am gysondeb, cyfartaledd a rhyddid. Yn wir, mae y Cymro yn amddifad o'r ysbryd rhyddfrydig gyda phobpeth bron. Gweiir hyn hyd yn nod yn mysg crefvddwyr. 0!' fel y mae pob un yn glynu wrth ei grelo fach ei hun, gall gondemnio pob credo arall. Nid dyna yr ysbryd crefyddol. Nid ydwyf yn gweled fod angen gwneyd cymaint o sylw o'r Highland Fling gyda'r fath ysbryd con- demniol. Os nad ydyw yr arferiad gyda ni fel Cymry, nid ydyw hyny yu profi fod yna ddim o le i gael jig am dro. Cymeradwyir y ddawns yn y Beibl. Darllenwch y canlyn- ol Psalm cxliv. 3 Jer. xxxi. 13 Llyfr y Preget-hwr, iii. 4; n. Sam. ii. 14; 1. Sam., xviii. 6, etc. Felly, nid oes dim o le mewn dawns ond cael cymedroldeb. Na choll- farnwn y Fling ynte gyda'r fath ysbryd rhag- farnllyd, ond os daw cyfleusdra eto, rhodd- wn wahoddiad i'r Highlander a'i jig i'r Eis- teddfod, neu peidiwn a'i wahodd o gwbl. Meddyliwch fod gweinidog Ymneillduol yn talu ymweliad ag Eglwys Lloegr, ac yn ab- senoldeb yr offeiriad yn cynyg ei wasanaeth, ac fod yr" Eglwyswyr yn derbyn y cyfryw: a fyddai yn deg i gondemnio a èweyd ni clivmer hyn le eto? Na: byddem fel Ym- neillduwyr yn barod i wrthwynebu—. Dyna fel mae Ilawcr o Gymry wedi ymddwyn tuag at vr Highlanders, oherwydd v jig. "Gwnawn i eraill fel y dyniunem i eraill wneyd i niiiau." EISTEDDFODWR.
[No title]
Byddid yn arferol, yn yr oesau a aeohant heibio, pan fyddai un farw, i dori ei enw a i cedran ar gauad yr arch, ac nid ar blat, fel yn awr. Byddai gwneyd hyny yn rhan o waith y saer; ac yr oedd saer, unwaith, mewn cwr gwledig o'r wlad, yn gwneyd arch i un a fu farw yn wyth ar hugain ottl, ond nis gwyddai v ffordd i dbri 28. "Ond," meddai wrtho ei hun, "tri saith wna un ar hugain, a saith drachefn wna wyth ar hug- ain a thorodd bedwar 7 ar y cauad (7777). Pan aed a'r arch i'r eglwys ddiwrnod y gladdedigaeth, digwyddodd i'r person ed- rych arno, a eofynodd mewn syndod i'r gynulleidfa: "Yn roha le yr oedd hwn yn Uechu yn amser y diluw, tybed ?'
Pilat a Herod yn Gyfeillion
Pilat a Herod yn Gyfeillion Wedi bod mewn rhyfel fawr a'u gilydd, ychydig flynyddoedd yn ol, y mae China a Japan, yn y adyddiau hyn, os ydys i goelio I hysbysrwydd o Pekin, yn prysur ymgyfath- rachu a'u gilydd, er gwneyd cynghrair di- ffynol ac ymosodol. Os oes gwir yn yr hys- J bysiad hwn, ni a anturiwn ddyweyd mai er ei hanfantais ei hun yr a Japan i mewn i unrhyw "rwymyn undeb" o'r fath.
America a Chanada
America a Chanada Nid yw America a Canada yn nes at eu -gilydd ar gwestiwn niau talaeth Alaska er yr holl ymgynghori a'r dadleu. Traddododd Syr Wilirid Laurier araeth yn Senedd Can- ada-araeth a gwreichion rhyfel ynddi. Aeth mellten arswyd dros galon y gwledjdd. "Cyf- lafareddia.d neu ryfel sydd yn aros, ebe fe, "ond yr wyf yn sicr nad oes neb yn meddwl am ryfel." Traddododd arweinydd y blaid Doriaidd araeth gref gefnogol i wladlywiaeth y Llywodraeth. Awgrymwyd defnyddio moddion masnachol dialgar gan wasg y Tal- aethau; ond synwyr a orfu, ac y mae yr awyr yn goleuo unwaith eto. Bargeinwyr caled yw plant y byd newydd.
Y Roftljdd Saesnig a'i Lety…
Y Roftljdd Saesnig a'i Lety Yn llys sirol y Rhyl, ddydd Gwener, o flaen y Barnwr Syr Horatio Lloyd, gwran- dawyd cynghaws a ddygid gan Emma Wade, Glan y Don, Pensarn,, Abergeie, yn erbyn Mr D. Christie Murray, y nofelydd Seisnig. Ceisiai yr erlynes gael y swm o 20p, yn cael eu gwneyd i fyny o ddau swm o lOp yr un. Ar y dechreu cododd y cwestiwn a oedd y wys wedi ei gweinyddu yn briodol ar y di- ffynydd ond dywedwyd ei bod wedi ei gweinyddu yn briodol arno. Eglurodd yr erlynes fod y diffynydd wedi cymeryd ty am naw mis, a hawliai hi weddill arian am rent ac iawn am niweidio ei dodrefn.—Ei am naw mis, a hawliai hi weddill arian am rent ac iawn am niweidio ei dodrefn.—Ei Anrhydedd: Mae yn debyg na wiiaed y niwed1 drwy eu defnyddio yn rhesymol ? Naddo.—Beth am y 35 o latneni o garped Kidderminster yr ydych yn hawlio 5p 5s am dano? Sut y cafodd hwn ei niweidio? Yr oedd mor ddrwg wedi iddynt fyned ymaiai fel y bu raid i mi ei roddi i ffwrdd. Ceisiais ei lanhau. Bu raid i mi geisio un newydd. -Beth am y deng llath o oilcloth, yn ol 10s ? Cafodd ei gicio yn ddarnau.—Ei gicio yn ddarnau, neu gwisgo allan? Ei gicio yn ddarnau (chwerthin).—Y mae yma ddau o gwiltiau eiderdown, a gofynir os 6c yr un am danynt. Gwneir, ac yr oedd y fcnedd- iges yn dweyd fod y plant yn chwareu ceff- ylau gyda hwynt (chwerthin).—Tebyg i beth oeddynt? Yr oedd yr eiderdown ar hyd yr holl le (chwerthin). Yr ydych yn gofyn iawn am lestri a dorwyd ? Ydwyf; dywedodd y foneddiges fod yn ddrwg ganddi, ac y talai am y cwbl.- Y mae yma ddwyn screen, a gofynid 5s 6c am .dan- ynt. Beth wnaed iddynt ? Eu cicio yn 1 ddarnau.Oeddych chwi yno? Nac oedd- wn.—Felly sut y gwyddoch chwi iddynt gael eu cicio yn ddarnau ? Y hi ddywedodd hyny. ] Y ddau fachgen a wnaeth y weithred.—Yr ydych yn codi 9s am drwsio cadeiriau. Yd- wyf, yr oedd y coesau a'r cefn wedi eu ni- weidio.—Gan bwy? Gan y plant, meddent hwy.—Fath blant oeddynt ? Yr oeddynt yn ] blant drwg iawn, meddai pobl (chwerthin). —Eglurodd yr hawlyddes fod y niwaid yn costio deuddeg punt, ond mai deg punt ocu- hi yn ofyn.—Ysgrifenodd Mr Murray i ddatgan ei ofid oherwydd y niweidiau, a'i ] fod yn barod f dalu yr arian.—Rhoudwyd dedfryd o blaid yr hawlyddes. (
-Rbyddfrydwyr Cymreig mewn…
Rbyddfrydwyr Cymreig mewn Cyngor- CYFaRFODYDD YN NGHAERDYDD. Cynhaliodd pwyllgor gweithio-l Cynghrair Rhyddfrydol Delieudir Cymru gyfarfod yn Nghaerdydd ddydd Ian, o dan lywyddiaeth yr Henadur Thomas Williams. Pender- fynwyd peidio gwneyd dim, ond rhoi cyfle i'r Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol new- ydd. Pasiodd V pwyllgor benderfyniad yn datgaa ei barodrwydd i gydweithredu a'r Cynghor Cenedlaethtol ar sylfaeni o Gyng- hor Cenedlaetkol gyda phedwar o bwyllgor- au rhanbarthol. Yn hwyrach cynhaliwyd cyfarfod o'r Cyng- hor Cenedlaethol, o dan lywyddiaeth yr Henadur Thomas Williams. Yr oedd yn bresenol Mri Alfred Thomas, Lloyd George, A. Spicer, D. A. Thomas, ac eraill. Mr D. A. Thomas a gyflwynodd bender- fyniad pwyllgot y Cynghrair, gan sylwi eu bod yn rhoddi pob cyfle i'r Cynghor, ond hawlio rhyddid i adnewyddu y Cynghrair os y methent. Credai y byddai raid iddynt adnewyddu y Cynghrair yn mhen ychydig o fisoedd. Bu dadl ar waith y pwyllgor dibenion cyff- redinol yn galw am Gynghor Cenedlaethol, ac yn galw am gynrychiolaethi o gymdeith- asau Cymru Fydd yn Llundain, Lerpwl, a manau ereill. Eglurid fod hyn wedi ei wneyd oherwydd fod y cymdeithasau hyn wedi cyf- ranu arian i ledaenu egwyddorion Rhydd- frydiaeth yn Nghymru. Mr Lloyd George a obeithiai, os cauid cymdeithasau allanol o'r Gyuhadledd, na wneid ceisiadau atynt am roddion. Penderfynodd y Cyngor y byddai i Gyn- hadledd gael ei chynal yn Nghaerdydd ar yr 28ain o Fedi, neu ar y 26ain, ac fod y cwestiwn o safle cymdeithasau allan yn nglyn a, Chynadleddau Cenedlaethol i'w ystyried yn y Cyngor nesaf a gynhelir yn y Rhyl. Cafwyd tipyti o "olygfa" rhiwng Mr D. A. Thomas a Mr Spicer. Dywedai MrSpi- cer mai dymuniad y Cyngor Cenedlaethol oedd rhoddi bywyd newydd yn yr ethol- aethau. Ond atebodd Mr Thomas eu bod wedi ceisio gwneyd hyny yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, ond collasant bump o seddau.
!FRIENDS OLD AND NEW.
FRIENDS OLD AND NEW. Brown Poison's "Patent" Corn tflour, an old friend of forty years' standing, is unequalled for light and delicate puddings blanc-manges, custards, jellies, sponges, and a host of other tempting and delicious dishes. But if the best results are to be obtained, every precaution must be taken to ensure that only B. & P.'s is delivered- or osmething vastly inferior may be sent instead. Brown & Poison's Paisley Flour, is a new friend cf equal pro- mise. By its aid dainty and temp- ting tea cakes and scones are easily made, and the elights of the tea-table thus gratly increased. Not only are all kinds of home-baking assisted and simplified, but everything is made light and digestable. "Even a tyro need never fail in baking if Paisley Flour is used." Sole Makers- Brown & Poison. .¡,
Marw yn Ngharchar Caernarfon
Marw yn Ngharchar Caernarfon Bu William Hughes, 60 mlwydd oed, yr hwn a euogfarnwyd yn Mrawdlys Chwefror o drosedd anuaturiol yn Mangor, farw foreu Mawrth yn N gharchar Caemarfon, lie yr oedd i fynd dan gosp am 14 mis. Yr oedd y trancedig yn dioddef oddiwrth ddolur y galon.
Lladd el wraig yn Wigan. i
Lladd el wraig yn Wigan. i Yn mrawdlys. Lerpwl, ddydd Mawrth, o flaen y Barnwr Wills,, cafwyd Martin Tighe, 54 mlwydd oed, yn euog o ladd ei wraig, Margaret Tighe, yn Wigan, ar y iOfed o'r mis diweddaf. Gwnaeth y rheith- wyr argymhelliad am drugaredd i'r carchar- or. Traddododd y Barnwr ddedfryd mar- wolaeth.
Y Niwl yn Llandudno.
Y Niwl yn Llandudno. Yr oedd niwl trwchus yn Llandudno nos Lun, yr hyn a effeithiodd ar yr agerlongau, ac a achosodd beth pryder. Yr oedd y "Columbus," o Rhyl, i'w chlywed yn nghym. ydogaeth Pen y Gogarth Bach yn chwythu ei niwlgorn, a saethwyd ohoni. Cyrhaedd- odd y llestr ar ol hir oediad. Gwylid cyr- haeddiad y "Snowdon" gan gannoedd. Bu yr agerlong yma o amgylch sir Fon, ac yr oedd tri chant o deithwvr ar ei bwrdd. Yr oedd i gyrhaedd Llaiidulino am haner awr wedi pump, ond pasiodd tair awr cyn iddi wneyd ei hymddangosiad. Tipyn wedi naw o'r gloch clywyd niwlgorn o'r Gogarth 1 9 Mawr. Saethwyd1 oddiar y pier a chanwyd cloch, a mawr oedd Ilawenydd y caniioedd weled yr agerlong yn dyfod i mewn yn ddiogel.
Cyhuddiad difrIol yn erbyn…
Cyhuddiad difrIol yn erbyn Postfeistr Llanelwy. Yn Llys yr Ynadon, Llanelwy, ddydd Mawrth, cyhuddwyd Charles Tom- kinson, postfeistr, Llanelwy, o ddarn-gelu 18p a dderbyniwyd ar ran y Postfeistr Cyff- redinol. Amddiffynai Mr Joseph Lloyd. Dywedodd Mr Edward M'Donald, clerc o'r Llythyrdy Cyffredinol, Llundain, ei fod wedi oael ei gyfarwyddo gan Ysgrifenydd y Llyth- yrdy i archvilio y cyfrifon yn llythyrdy Llanelwy, a chafodd allan nad oedd 18p yn cael rhoi cyfrif am danynt i'r Postfeistr Cyffredinol, y rhai a dderbyniasid gan y carcharor drwy gynorthwywr. Cyhuddodd y carcharor o ladrata y 18p tra yn was cy- hoeddus. Gofynai am i'r achos gael ei ohir- io am nad oedd ganddo y ,tystion angen- rheidiol yno y- diwrnod yna. Gwnaeth Mr J. Lloyd gais am feichniaeth; ac ar ol ys- tyriaeth dywedodd yr ynadon y derbynid y carcharor i feichniaeth, ei hunan mewn lOOp, a dau sicrwydd o 50p yr un.
Blwydd-dal i'r Hen.
Blwydd-dal i'r Hen. Cafodd adrodfdiad v Pwyllgor Dewisol ar y Tlawd Hen Haeddianol ei gyhoeddi bcreu dydd Mawrth. Y mae yr awgrymiadau can- lynol yn cael eu rhoddi gyda golwg ar pwy sydji i dderbyn b!wydd-dal: — Unrhyw berson a foddlona awdurdodau y blwrydd-dal 1. Ei fed yn ddeiliad Prydeinig 2. Ei fod yn bum' mlwj-dd a thriugain, ootd; 3. Na chafwyd ef yn ystod yr ugain mlyn- edd diweddaf yn eucg o drosedd a'i dded- frydu i benyd waaanaeth neu garchar, heb gyfle i dalu dirwy. 4. Na chafodd gymhorth plwyfol heMaw meddyg y plwyf, oddigerth dan amgylch- iadau hynod o eithriadol, yn vstod yr ugain mlynedd diweddaf cyn gwneyd yr apel am flwyjdd-dal; 5. iiii fod yn drigianydd o fewn dosbarth awdurdod y blwydd-dal; 6. Nad oes ganddo arian vn dyfod id:do o unrhyw le mwy na deg swllt yn yr wyth- nos 7. Iddo wneyd ei oreu drwy aelodaeth 0 gymdeithas gynortha-vol iiii gyfnod o amser, neu drwy ymdrechu i dilarparu ar gyfer ei hun drwy gynilo neu roddi ei arian er cael Ilog, neu ryw ffordd arall. Fod y gair "person" yn golygu dyn neu ddynes.
[No title]
At dostur yn codi oddiwrth chwareuon. tvwvdd poeth, llosg yr haul, brathiadau. a phigiadau pryfaid, envuiadau, ymgrafu, ehwys drvssawru^, a phob peth arall nerth- ynol i iechyd, nid oes dim mor effeithiol a churol a baddon evda Sebon Cuticura. Y Sebon mwvaf effeithiol at y croen yn y bvd. a'r Sebon pereiddiaf at vmolchi, y baddon, a'r nursery. Yn vr ochosion gwaethaf rhwbier yn ysacafn Enaint Cuti- cura, y goreu a'r puraf at iachau y croen. Yn Llandudno, nos Fawrth, liw 110s, darfu i vmwelvdd a'i enw Frederic Bell, Stockport, svrthio i lawr hyd un o'r llethrau creigiog ar Fvnydd v Gogarth. ger yr Hanpv Valley. Yr tJedd: yn gwaedu yn enbyd oddiwrth ?robollion ar y gwyneb jer pen.
Crecian Esgyrn Tlodion!
Crecian Esgyrn Tlodion! "Dim chwaneg o grecian esgrrn tlodion" yn Mlienbedw! Beth yw hyny ? Eglurwn mewn un gair. Y'11 nghyfarfod diweddaf Undeb Gwarcheidwaid Birkenhead, ddydd Mawrth, penderfynwyd rhoddi india rubber am olwynion y cerbyd yn mha un v cludir tlodion i weithdy yr Undeb. "Dim chwaneg o grecian esgyrn wrth fyned dros y Ceryg," ebai gwarcheidwad doniol, pan basiwyd y penderfyniad hwn.
A Ddylesid ei Ddiriwvo1
A Ddylesid ei Ddiriwvo1 Yn heddlys diweddaf Birkenhead, cy- huddid un o feddygon y dref, a'r hwn sydd, hefyd, yn un o aelodau ei Chyngor, o farch- cgaeth ei fisycl ar hyd y llwybr troed y Sab- bath o'r blaen, nes peri i ddau ddyn crfod symud oddi ar y palmant o'i ffcrud. Nid aeth y meddyg i geisio gwadu y cyhuddiad ond, mewn amddiffjniad iddo ei hun, dy- wedodd ei fod wedi ei alw ar neges oedd yn tater o fywyd neu angeu, ac mai 6rys i gyr- haedd y claf a barodd iddo "reidio" y pal- mant. Dan yr amgylchiadau, swllt cedd yr unig ddirwy a godwyd arno. Ei ollwng yn rhydd heb ddirwy o gwbl a ddylesid.
Mr Bryn Roberts a'r Transvaal
Mr Bryn Roberts a'r Transvaal Y mae v "Cape Times" am Gorpheuaf 12fed yn cynwys llythyr agored eddiwrth y Cape Cambrian Society at Mr Bryn Roberts, A.S. Baich y llythyr ydyw cwyuo oherwydd saHe yr aelc.'d aiirhvdeddus gyda golwg ar gwestiwn y Tramvaal. Dywed fod y Cymry yn y Cape yn dra gofidus oherwydd ym- ddygiad Mr Bryn Roberts. Dadleua v llythyr nad yw bywyd ac eiddo yn 'ddiogsl yn y Transvaal; gwaherddir cyfurfodydd cyhoed'dus; y mae y llysoedd uwchaf yn y tir yn ddarostyngedig i ewyllys nifer o ddyn ion sydd yn gwbl aualluog i weinvddu cyfiawnder hyd yn oed i'r Kafirs, liawer llai y Prydeinwyr.
Llong Hyfforddladol ar Ban.
Llong Hyfforddladol ar Ban. Am bedwar o'r glcch boreu Mawrth tor- odd tan allan ar fwrdd y llong "Clarence." yn y Mersey, Lerpwl. Llong hyfforddiadol perthynol i Eglwys Rufain ydyw. Gwelwyd nad oedd modd cadw v llestr, gan fod y tan wedi ymlapio am dam. Holltodd cyn hir, a suddodd. Hen long ryfel ydoedd y "Clar- ence," ac vn adnabyddus yn y llynges fel v "Royal William." Achubwyd y swyddog- ion a'r bechgyn oedd ar ei bwrdd. Rhifai v bechgyn tua 230. Bu i'r gwres oddiwrth v "Clarence" bron tanio 40 tunell o dyna- mite ar fwrdd yr agerlong "Angola" oedd yn angori gerllaw. Gorfuwyd ei symud ar frvs.
Gorliflad Llyn Llanberis.
Gorliflad Llyn Llanberis. Yn nghyfarfod misol Cyngor Dosbarth Gwyrfai, ddydd Sadwrn, dan lywyddiaeth Mr T. Jones (cadeirydd), adroddwyd fod Pwyllgor Unedig Plwyf Llanrag, Llac. ddeiniolen, a Llanberis, wedi bod yn ffodus a cbael gan Fwrdd y Llywodraeth Leol (os gwneid cais atynt gan y Cyngor Dosbarth), i addaw cynal ymchwiliad i'r gwyn fod codiad y dwfr o'r Llyn yn peri niwed i iechyd y rhai a drigiana ar ei ymyl, a hefyd i'r moddion a gymerid i wella hyn. Pender- fynwyd gwneyd cais ar i'r Bwrdd gynal yr yrtchwiliad. w
LLADRAD YN RHOSDDU, GER GWRECSAM.
LLADRAD YN RHOSDDU, GER GWRECSAM. Prydnawn ddydd Sadwrn, darganfydd- wyd fod lladrad wedi cymeryd lie yn Ilety y Parch Richard Owen, curad Rhos- ddu. Bu Mr Owen am ei wyliau, ac felly hefyd ei letywraig; a dychrynwyd ef trwy weled fod yn y ty olion lladrad. Yr oeda yn amlwg fod dau leidr wedi tori i mewn, a hyny drwy y seler. Buont yn cysgu yn ngwely Mr Owen, a chymerasant ei grysau a'i hosanau, gan tdael eu rhai eu hunain yn eu lie. Cymerasant hefyd lestri cymundeb perthynol i Mr Owen. Llad- ratawyd oriaduron, modrwyau, a gemau perthynol i'r foneddiges; y bu y lladron yn ymfwynbau yn yfed wisgi a gawsant yn y ty. Rhaid fod y lladron yn swels," oblegid gadawsaut ar eu holau grysau gwynion.
ADDYSG GANOLRADD YN SIR CAERNARFON.…
ADDYSG GANOLRADD YN SIR CAERNARFON. Ysgolion Bethesda a Llanberis. Mewn cyfarfbd o Fwrdd Llywodraeth ol Ysgolion Cauolradd Sir Gaernarfon. ddydd Iau, dan lywyddiaeth Mr D. P. Williams, gwnaeth Dr Llo- d Williams gais ar ran llywodraethwyr Ileol LIanb ris am fenthyg l,000p tuagat adeiladu ysgol ganolradd yn y lie. Cyfansffm y tender ydoedd 3,000p, ac yr oedd dwy ran o dair wedi eu casglu. -Gwrthwynebai Mr W. A. Darbishire ganiatau benthyciad o'r fath heb ymchwil- isd a oedd yr adeiladau yn werth yr hyn y cynrychiolid eu bod. Yr oedd efe wedi ei siomi gyda'r adeiladau ym Methesda, ac anturiai ddweyd nad oeddynt yn werth y 5,600 a wariwyd arnynt.—-Dywedodd Dr Lloyd Williams fed bwrdd llywodraethwyr llcol "Bethesda wedi arfer y gofal mwyaf i ddethol y cynllun goreu.—Pasiwyd i gan- iatau y benthypiad. Mr Darbishire oedd yr unig un a wrthwynebai.
TANAU.
TANAU. YN HULL. Nos Sadwrn, torodd tan allan yn iard goad y Mri Boynson, Jameson, a'u Cwnmi, yn y Victoria Dock Estate, Hull. Gan fod y gwynt yn lied gryf ar y pryd, buan yr ymledodd y fflamau: yn wir, yn mhen chwarter a*r ar ol i'r tan dori allan yr oedd oddeutu chwe acer yn un oddaitb. Ni chollwyd bywyd. Bernir fod y golled ar eiddo dros gan mil o bunau. YN SWYDD ABERDEEN. Boreu dydd Sadwrn torodd tan allan yn Ngwallgofdy Clack, swydd Aberdeen. Yr oedd yno ar y pryd oddeutu dau gant o bobl ond ni niweidiwyd neb. Y mae y golled tua haner can mil o bunnau. GER NORTHWICH. Nos Sul, fe losgwyd ystablau a llofft wair mewn cysylltiad a melinau yd y Mr Hesketb, Lostock, Northwich, sir Gaeri Llwyddwyd i waredu chwech o anifeiliaiu gwerthfawr. YN FINSBURY. Oddeutu wyth o'r gloch foreu Sadwrn tO-odd tan allan mewn siop ddodrefu yn Jildon street, Finsbury. Wrth gymeryd y peirianau tan yno, fe ddigwyddodd dam- wain, pryd yr anafwyd dau o'r tan beirim wyi.
[No title]
Dydd Sadwrn, yr oedd dyn o'r enw Charles Houlston a'i wraig, Port Sunlight Soap Works, yn teithio ar linell v Great Western rhwng Caer a Gwrecsam. Bwriad- ent fyned i Groesoswallt, ond cymerwyd y gwr yn wael yn sydyn ar y ffordd, a bu- farw yn mhen ychydig ar ol gadael Caer. Symud- I wyd J cci-ph c'r gerbydres yn Ngvrrecsam.
Fwysig i'r Rhai sy'n Cadw…
Fwysig i'r Rhai sy'n Cadw Gwenyn. Ef 1 ai mai nidaunyddorol, heblaw bod yn foddion i rcddi y rhai a gad want wenyn ar eu gwvliadwriaeth, ydyw yr hyn a ganlyn —Yn Llys Manddyledion Bath, y dydd o'r i laen, gwrandawyd achos yn nglyn ag hawl i gadw gwenyn mewn ardal bob'og. Darfu i un Miss Kerley erlyn pobl y drws nesaf iddi am 80p o iawn am nwei jiad achoswyd iddi gan wenyp. y diffynydd. Cafodi ei ihgo ddwywaith yn erwin, ac) r oedd y gwenyn yn talu ymweliadau mor fynych a'i a, dd fel y bu raid id, i adael yr ardd heb ei tbriu. Dyfarnwyd iddi lOp o iawn, a c-hnniataodd y barnwr archeb am wahardd- ;ad a chostau ar y scale uchaf. Fe welir mai anturiaeth lied gostus ydyw cadw gwenyn mewn manau fel yr uchod.
Aii-Gysegrn Eglwys yn Llandudno.…
Aii-Gysegrn Eglwys yn Llan- dudno. FFWLBRI OFFEIRIADOL. Dydd Iau bu Esgob Bangor, gyda Chof- Testrydi yr Esgobaeth, Mr R. Hughes Pritchard, yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno, yn cyhoeddi brawddeg o ym- l eddychiad yr adeilai a'r amgylchoedd ar ol y darostyr gOad a achoswyd drwy hunan. laddiad yno ar yr 20fed o Orphenaf. Aed drwy'r holl wssinbeth, ac yr oeddyn tebygu yn yr oil i wasanaeth cysegru eglwys. Cyfarfyddwyd yr Esgob yn y drws gor- 1 ewinol gan yr effeiriaid yn ea gynau, a gosgorddwyd ef i fyny y siansel, He yr aed firwy ffurf o wasanaeth; ac ar foment benodol darilenodd y Cofrestrydd y frawddeg o ymheddychiad," ac a roddwyd ar weithred y cysegriad gwreiddiol, a'r hwn, ar ol cyhoeddi y ffaith i'r adeiihd gail ei wneyd yn aflin drwy dywnllt gwaed, a ddy- wedodd fod Watkin Herbert, drwy ganiatad dwyfol Esgob Bangor, drwy ei orcbymyn yn rhyddh-iu yr eglwys hon oddiwrth bob rhwystr cinonaidd, ac odciwrth bob aflendid yn cael ti gollwng yn rhydd." Dyma yr aeblysur cyntaf o ail-gysegriad a gymerodd le yn e-gobacth Bangor, byd y gwyddys.
Y Gynhadledd Heddwch yn Hague.…
Y Gynhadledd Heddwch yn Hague. D) m ranau o araeth M. de Staal, y cadeirydd, yn nghyfarfod terfynol y Gyn- badleid Heddwch yn Hague ddydd Sad- wrn Foreddigion,-Y:- ydym wedi cyrhaedd terfyn ein llafur. Cyn ymwahanu ac ys- gwyd Haw am y tro olaf yn y Ty prydferth yma yn y Coed, gofynaf i chwi ymuno a mi i adnewyddu ein teyrnged o ddiolch i'r Rasusaf Foneddiges y Netherlands am y llt-tygarwch a estynodd i ni. Yr oedd dymuniadsn Ei Mawrbydi, y rhai a ddat- ganwyd ganddi yn ddiweddar, mewn llais mor swynol a chadarn, yn argoeli yn dda am lwyddiant ein Cvnhadledd. Bydded i Dduw dywaUt Ei ffdfrau ar deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenbines er daioni y wlad ardderchog sydd dan ei llywodrattb Y mae y cam cyntaf (at heddweb) wedi ei gymeryd. Gadeweh i ni uno ein hymdrech- ion a manteiaio drwy brofiad. Y mae yr had da wedi ei hau, bydded i'r cychauaf ddyfod. Am danaf fi fy hun, y fl. yr hwn sydd wedi cyrbatdd terfyn fy ngyifa, ac yn myLed Er oriwared bywyd. yr wyf yn ei ystyiied yn foddhad mawr iawn i weled dechreu rbagoJygon newydd er daioni dynol- r) Vi, ac i aim tafiu fy llygaid i ddisgltirder y dyfodol."
Masnach Yd yr Wythnos.
Masnach Yd yr Wythnos. Fffaith y tymheredd ucbel yr wythnos ddiweddaf ydoedd peri i'r gwenitR addfedu gyda chyflymder mawr. Anaml y gwelwyd wy thnos iuor hynod yn Mbrydain. Y mae y cynhauaf eisoes wedi dechrtju yn Mr Caer- grawut; ac yn Ynys Thanet a deheubarth swydd Sussex, y mae rhai o'r meusydd mwyaf cynarol yn barod wedi eu cynhauafu. Dywed bron yr oil o'r barnwyr gorea y bydd y cnwd tua pbedwar chwarter j'f erw, ond. y mae y gweJltyn yn eithriadol ofyr. Mae'r malldod yn lias eleci ua'r llyuedd. Ffa a ystyrir yn gnwd rhagorol, gwell ca dim a gafwyd er's liawer o amser. N, d yw y pys cystal it'r ffa. Erhyny, disgwylir y gyfartaledd y bSynyadoedd di- weddaf gael ei gadw. Amharwyd cryn lawer ar y ceirch; ac erbyn hyn, y mae ti weoi myned yn rhy ddiweddar i ddisgwyl en-vd llawn, hyd yn otd yn y Gogledd. Am mai enwd bychan sydd yno, nis gellir disgwyl i RoumaLia, Bess-arabia, a Tran- sylvaLia, anfon cymaint ag arfer o wenith drosodd ond, yu Rwsia, y jiuae y rhag- olwg yn gwella, am fod y tair wythnos di- weddaf wedi bod yn nedeJig o ffafriol i wenith yT g\\ a-v/yn. Prin y cyft: tiedd a gyrhatdla haidd hyd yn oed yn y I tvedd goreu ac mewn liawer o far au, ni bydi j n ddwy r«n o dair o'r enwd aiierol.
[No title]
Cadbury's Cocoa has a world-wide reputa- tion fts a delicious strengthening beverage and a valuable nutritive food. "The Lan- cet" says it represents the "standard of high- est purity." Always insist on having Cad- bury's sold only in packets and tins as other Cocoas are oiteu kuhwututed for the sake of extra prr £ i» Prepared under Jkledical Instruction.
Advertising
FERRU-COCOA ENRICHES THE BLOOD. FREE SAMPLES SENT TO ALL On Application (mentioning thou Paper) to the FERRU-COCOA MANUFACTURING CO. LTD. S-29, GOSWBLL ROAD, LONDON. E.G. I 008WELL RDSD. LON"N.