Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Helynt Dreyjis.
Helynt Dreyjis. Dydd Sadwrn cyhoesJdodd un o fcapyrau Ffrainc bellebyr y dywedid lod Czar wedi ei anfon i'r Tywysog Louis Napoleon ar ben ei ttwydd, yn ei longyfaroh ac yn dymuno i bob biwyddyn ei ddwyn yn nes i r satle uohel y cerid ei wel'd ynddi gan ei gyfeillion. Ys- tyria rhai o'r papyrau yn y wlad. mai ffug yw y pellebyr ao nad yw ond ystryw o du yr "Imperialists" yn ffafr y Tywysog Nap- oleon, ac fod yn mryd y tywysog gvhoeddi ''manifesto" yn oyhoeddi ei hun yn bleidiwr i Dreyfus er ceisio enill rhai o'r gwerinwyr. Mae prawf Dreyfus yn nesu, ac eir yn miaen gyda"r parotoadau ar ei gyfer. Dywed rhai o'r papyrau ddiwedd yr wythnos fod y 7fed o'r mis hwn wedi ei benu i agor gweithred- iadau y Court Martial yn Renaes, ac y cymer ddeng niwrnod o leiaf i'w ddwyn i derfyniad. Bu M. Quesnay de Beaurepaure o flaen llywydd y llys am ychydig fynydau cllydd Sadwrn. Fe gofir am waith y gwr yma yn taflu ei swydd i fyny ar ganol prawf Dreyfus o flaen y Llys Apel, am fod rhai o'r barnwyr, meddai ef, yn dangos ffafrau i rai oedd yn ffafriol i Dreyfus. Meth'odd ei ystryw y pryd hwnw, ond wedi y dyfamiad yn gofyn am ail brawf, mae wedi bel] yn crochlefain ac yn honi fod ganddo brawfion diymwad o euogrwydd Dreyfus. Ar sail hyn y rhoddwyd iddo gyfle i roddi ei dystiol- aeth am sylw gan y Ilys sydd i eisttdd y mis hwn, on nid oes erbyn hyn yn rhoddi dim coel ar ddim a ddywed.
Y Sefyllfa yn Nebendlr Affrica
Y Sefyllfa yn Nebendlr Affrica Bygythiol o hyd yw y sefyllfa yn Neheu- dir Affrica. Ceir fod y teimiad brodorol yn troi yn ffafr mesur newydd etholfraint Kruger. Gwrthodwyd gohirio yr yscyriaeth ohono nes i'w fawrhy'di o Birminjrhara gael hamdden i astudio ei ddarbodion. Parheir i ddanfon galluoedd milwrol o'r wlad hen i Ddeheudir Affrica. I ba ddyben? T mae yn llawn bryd codi y cwestiwn yn y Sonedd. Yn sicr, nid oes achos tynu y cledd yn mhlaid yr ymsefydlwyr Prydeinig ym y Transvaal. Nid g!an yw dwylaw y wlad hon eisoes yn ei pherthynas a'r Werininea yno. Dylid bod yn hyddysg mewn hanes- iaeth mor ddiweddar fel na feudal pfrygl rhutbro i drybini buan yn y cyfeiriad hwnw 3tO.
Pwysig I Weithwyr.
Pwysig I Weithwyr. Yn llys sirol Treffynon, ddydd Sadwrn, o flaen y Barnwr Lloyd, yr oedd gan lowr, a'i enw Isaac Hughes, gynghaws yn erbyn Mr S. W. Higginbottom, perchenog glofeydd Bettisfield, Bagillt, am y swm o lp 13s, sef cvflog chwe' diwrnod vn ol 5s 6c v dydd. Mr Wynile Evans, Gwrecsam, a ymddangosai dros yr hawlydd, a Mr T. W. Hughes, Fflint, dros yr amddiffynydd.-Yr oedd y Barnwr o'r farn fod gan yr hawlydd hawl i weithio allan ei rybudd ar yr hen delerau, ac am hyny rhoddai ei ddyfarniad iddo am y swm o un bunt6
Chwerthiu am ei Phen.
Chwerthiu am ei Phen. Gwelsom 3Ii6 Gertrude Jenner gyda'i blwch casglu yn erfyn cytraniadau tLLarat ei gwaith aiudercnog yii mysg niercuelt .syrth- iwdig a thlawd. Jiae ,¡)..L.s.<; Jenner wedi gwneyd gwaith teilwng iawn t:r s rnyw iianer can niiyneci'd urc/o y dusoartn digar- tret yn rhai o dreh y Deneuuir. tiyderwn iddi gael cefnogaeth galonogol gan nioedd mynyenwyr yr Jiiisteduroa. iMj gallwn lai na cnrybwyll un peth gymerodd 1e yn un o ystaienoeud gorsui Caeruyd,a un o uuydiiiau yr Eisteddtod..Daeth Auss Jenner i fewn, ac estyuodd ei blwch casgiu i ryw bedair o wragedd trwsiadus yr olwg. :ar';d Saeaneg yr oedjdynt a'u gnydd. Ni wnaeth un o nonynt estyn cymaint a dimeu iddi, ond wrth iddi droi ei chefn darfu iddynt chwertn- in yn wawdlyd am ei phen. irodd hithau yn ol ac efdrychodd yn uosturiol arnynt, ond ni ddywedoud yr un gair. Ond ni chafodd y gwragedd anystyrioi ddianc heo air o ger- yad. irod,d brawd Canol oed o weintdog pedd yn dyst o'r ymddygiad atynt, a dywed- odd, "Remember she works for the fallen" (Cofiwcli ei bod yn grteitluo dros y syrth- ltidig). Fe ailai y bydd yn wers iddynt yn y dyfodol. Mor anystyriol-chwiorydú o chwaer!
Y C)iLrj a'r Ellayn
Y C)iLrj a'r Ellayn Amlwg yw, i'r sylwedydd arwvnebol hyd yn nod fod gwahaniaeth greddfol rhwng y Cymro a'r Ellmyn. Nid ydym yn cymeryd i ystyriaeth "o,dreuon" y ddwy genedl, ob- legid y mae y Cymry i'w ciel tebyg iawn i Ellmyniaid mown ymddangosiad allanol yn ogystal a dyheadau mewnol; ac y mae cy- moriadau eyffredinol o'r fath fel dolenau cydiol yn cysylltu yr holl genhedloedd a'u gilyd,d, a gwasanaethant fel ymresymiad er profi mai un yw y ddynoliaeth. Ond, er hyny, y mae i bob cenedl ei nodwedd greddf arbenig a gwahanol, ac am hyny y gelwir y naill yn Gymry a'r lleill yn Ellmyniaid. Mae yna wahaniaeth banfodol rhwng crefydd Ymneillduaeth Cymru a chrefydd Luther- iaeth yr Ellmyniaid. Mae yr olaf yn llawer bydolach a masweddolach na'r gyntaf; mae gradd uchel o ysbrydolrwydd yn y naill, a graddau o gnawdolrwydd yn y Hall, fel y dengys y cyfatebiaeth a ganlyn Yn ddiweddar gwnaed ymgais yn Nghaer- dydd gan bwyllgor yr Eisteddfod Genedl- aethol gynelir yno ar fyr i gael modydd meddwol yn gyfleus i fynychwyr yr Wyl fel angenrheidiau bywyd am yr adeg, ond daeth i'r golwg yn bur fuan mai amryfusedd fu y fath benderfyniad, ablegid cododd gwrth- lamiad v teimlad cyhoeddus, vr hyn a orfu i'r pwyllgor gyfrif ei ddyddiau a dwyn ei galon i ddoethineb. Ymddengvs mai Ell- mvnaidd o natur oedd y penderfyniad cyn- taf. ond, vn ddiweddarach, cvfodcldd y teim- lad sobr Cymreig ac a ymffurfiodd yn well- iant ac yn ddiddymiad ar y trefniant Ell- mynaidd. Credwn fod ysbryd gwir grefydd yn Nghymru yn gweithio am sobrwydd, a than wldefiad y gwneir dim a diodydd medd- wol a thafarnau. Ambell i Gymro feiddiai ofyn ben'dith Duw ar oruchwyliaeth y daf- am, er y cyfrifa vr Ellmyn y dafarn yn rhan o'r gyfundrefn Gristionogel. I'r Ellmyn, y mae y ddiod a'r tobaco yn agos a bod yn foddion gras. Ymddibynwn ar y reddf Gvmreig i gadw yr Eisteddfod rhag ymddi- rywio ac ymddiraddio i Saencrerfest. Ond i arddangos y reddf Ellmynaidd yn oelurach, nodwn ymgais Ellmyn v 'dydd o'r blaen yn America i gael trwydded jran y pwylleor a drefnai gynadledd yr Ymarech- wvr Cristionogol ar gffnrfcd yno i werthu diod n sigeir yn gvfleus i'r baben. Ni fedd- yliai Cymro byth am y fath both ond i reddf yr Ellmyn, ymddingo-ai gwydriad o lager a rholen o dybaco ar 01 pob cyfarfod o bre- gethu, anerch a chanu emvnau efengylaidd vn beth eithaf angenrheidiol a gweddus. Er fod y Cymro yn yswil i gymysgu ei gref- ydd a'i gwrw. vn sicr, ni p-etriin. i yr Ellmyn geisio trwvdrled i gvchwyn tafam yn nghanol gwladfa o angylion.
JACK I LLOAWWR
JACK I LLOAWWR Trwy fod rhyw ddosbarth o bobol yn credu yn siwr fy mod i yn rhyw hen foy clyfar anghyffredin, ac yn scolar digymhar, mae n hw wedi dwad i'r penderfyniad fod y lein ryfauu nono a ymddangosodd yn un or penillion yn y "Werin" ddweutha i Tabor Jones, yn meddu ar ryw ystyr cyfrin tra phwysig. Mae nnw wedi bod yn troi a throsi y lein, yn rhoi y llythyrena' bob sut, ac wedi methu dwad o hyd i'r sboniad. Y canlyniad ydi 'u bod liuw wedi penderfynu anton y lein i golag yn L^jncain, lie y sbonir pob iaith dan y nef. Tydi'r bobol ryfadd yma ddim am gredu mai mistec yn y printio oedd y linell: mae'n hw yn siwr mai rhyw feddwl dyfn, ysgoilsiugaidd oedd gen 'i yn y lein. 'Doedd dim iws i mi geisio perswadio rhai o honyn hw mai d 1 y wasg oedd wedi cyboli petha'. Fynan hw udim credu hyny o gwbwl. 'Doedd d-l y wasg ddim hanar I ddigon clyfar i 'lleyd y fath beth. 'Does gen '1 ddim i 'neyd ond gadael petha' fel y mien hw, gan tod pobol yn mynu credu fy mod i yn gallu sgtnu iaitn nad oes neb yn Ngcgledd Cyniru yn gwbod dim by(i am dani. AEFYN A PHORTHDINLLEYN. Buom ar dramp y ffordd hyn yn ddiweddar, a tharewais ar hen shipmet a elwid Will Gwynt Teg. Buom yn hir cyn dwad a photi'au yn sgwar ac i gofio am ein gilydd ya iawn. 'Roedd locsus a gwallt fy nghyf- aill wedi colli 'u farnish a'u paent i gyd. Gwyn i gyd oeddan hw. Rosais i yn y Sportsman, Nefyu, am y noson, er mWYll cyiH-usdra. Bora dranoeth codais fy nhop- sitil a gwnaethum am Porthdinlleyu. Cyn pen ychydig o fynydau dyma ddyn mewn cerbyd yn gofyn i mi a gym'rwn i lifft, a deydais ina' Thanciw, ac i mewn a mi. Clewiais i fyny fy nhopsail, fel pe mewn to. Off a ni. Dechreuodd y dreifar ofyn am- bail i gwestiwn i mi, ac yn y man dyma fi yn dwad i ddeall mai Rowland Davies, bro- dor o Bwllheli, a hen shipmet i mi, oedd o. Bui jingo, 'ro'n i reit falch i welad o. Mae boys y moi yn britho Lleyn yma, naill a'i fel droj»ars, neu berchenogion lodgin houses, gv- cithfeydd brics, shipowners, flfarmwrs, retired captains, &c. Stiward fyddai Row- land 'stalwm. Llawar scram geis i gyno fo. Cafodd angorfa serch yn Nefyn, ac yno y 02opiodd o'i angor. Wrth fynad yn ml a en gwelsom hten lane yn ceisio dysgu smot io. Meddyliasom y tro cyntaf mai to gwedt ty bychan yn ymyl oedd wedi-mynd ar dan, ond mistec oedd hyny. Onidydi'r aTferiad yma o smocio yn beth gwirion! Dyo yn sugno mwg i'w geg, ac 'i chwythu fo all-in wedyn- Beth feddyliech chi am ddyn, pan isio diod, yn llenwi 'i geg hefo dwr, neu gwrw, neu ginger beer, neu lemon- ed, neu bop, ac yna yn 'i boeri o allan wedyn ? Onid fasa' chi yn deyd fod crac mawr yn rhJwla? Siwr iawn. Neu be' fcddylicch chi am ddyn, wrth geisio bwyta pwdm, yn taflu y pwdin o'i geg y fomant y fcydda lo wedi 'i gael o i'w geg o, ac yna yn pceri lies g'neyd pob man yn fochynaidd o'i gwmpas ? Meddwl iiasach'i fod lot o ifgriws ar goll tuag at i fyny, onite ? Gwelsom Thomas Griffith, Tynymur. Mae o mor ffvddliiwn i'r ffordd fawr a chareg lilltir, ae yr oedd cystal gin i 'i welad o a gwelad carag filltir. Yn ymyl yr hen hoilus gyfaill yr oedd Evan Jones, Pantyr- orsld. Cyrhaeddasom ben y foyads yn saft. G; n fy mod yn ymyl Edeyrn, aeth- 14:11 "n. am yenydig, a galwais yn nhy'r capal. Cefais gopi o'r "Genedl" a'r "Wer- .Y);- a ehyfarfyudais ag amryw o betha' reit «l<!yJ(it.roi, ond gadewais fy mhocad yn nhy cyfaill i mi yu Edeyrn, hefo fy nodiada' ynddi hi. Bydd gin i toe lot i ddeyd am waith brics y gymydogaeth, y pier yn Mhorthdmlleyn, a'r steamar, &c. RHOSHIRWAEN. Mae yma, grochan a mcrwyn wedi dwad i enwogrvvydd ers pan y buom i yma ddweu- tha. Dnlanodd y crochan i rywla rhyw ddwy awr cyn cinio. Gorfu i'r torwyn ferwi y tatws yn y tecell. Safai hi a boss y lie wrth y tan i wyliad sut y gwnai y tecell ferwi y tatws. Roedd y boss yn stwffio flore gam drwy big y tecell i gael gw'bod sut yr oedd y tatws yn dwad yn mlaen dan athrawiaeth y dwr berwedig. Mae pechod gwreiddiol y rhyw fenywaidd yn dwad i'r golwg yn y l!e hwn,-sef ymgasglu at 'u gilydd i yfad te ac i ddeyd straeon am bobol, vu enwedig am bobol ifanc. Wir, mae y merehad hyn braidd yn waeth na'u cyd- bechaduresau, trwy nas gallant aros dan y prydnawn i gael te,—rhaid iddynt gael cyf- arfod un ar ddeg yn y bora yn brompt. PENRHY NDE UDRAETH. 'Does dim gwell lie yn y sir nag yma am gasgln arian at anfon cenliadon i fynad a'r niengyl i dai y paganiaid yn India a manau ereill. Mae'r cenadon yn anfon hanesion difrifol am achosion yn y gwledydd hyny. Ond y diwrnod o'r blaen fe ddaeth Indiad a Pardee i Benrhyndeudraeth, ac ysgrifen- edd hanas sefyllfa foesol a chirefyddol y trig- olion, ac anfonodd o i'r India. Fel hyn y dvwedodd: Y mae yn y lie hwn tua saitn o. wahulIol enwadau, a mwy na hyny o add- oldai. Dywedir yr addolir yr un Duw, ond v mae anhawdd genyf fi gredu hyny, oher- wydd yr anfoesoldeb dyoryd a ddadlenir yma o bryd i bryd. Darganfyddwyd ty yn ddiweddar ag ynddo SAITH 0 BLANT ORDDERCH. Yr oedd sefyllfa pethau yn gyfryw fel nad oes modd i mi gyfeirio at ddim tebyg yn hanes India. Erfyniaf arnoch beidio llaesu eich dwylaw i weithio yn egniol dros ddyfod a goleuni a egwyddoricu purdeb o India i k fel hwn. Boneddigion dieithr a fuont yn foddion i ddwyn yr aehosion i sylw gyda'r am can o gael gwellhad, ac nid y bobol hyny sydd yn proffesu edrych ar ol moosau a chrefydd y wlad. LL AN AELH AIARN. Tydi cathod Llanaelhaiarn ddim yn wa- hanol i gafrhod lleoedd er'ill, fel y profwyd y noson o'r blaen. Aeth tri o lancia' ifanc i geisio boddi catb ag oedd wedi cael ei 11 chondeBmio. Noson dywell oedd y noson, a Yd-oeq yn Llanaelhaiarn, fel 'rydach'i yn gw'bod, ddim lampa' fel sy'n Lerpwl, Llun- dain, a rhyw lefydd bychain felly. Y lleu- ad vdi prif lamp Llanaelhaiarn, ond fydd hono duim yn handi bob amsar. 'Doedd hi ddim yn handi y noson dan sylw. Rhodd- ivyd pwsi mewn bwcad. Pan ddaethpwyd yn agos at yr afon, rhywsut naiU ai fe rodd- odd y gath rhyw ysgytwad ofnadwy, neu mi dripiodd y bachgan a gariai y bwcad, i lawr ag ef, y bwcad a'r aath ac i'r afon! Aeth y gomoshion cynddeiriog yn y lie, nid rhag i'r gath golli ei bywyd, ond rhag i'r boy a blaniodd sut i'w boddi hi golli 'i fywyd. Rhoddwyd screch ar ol screch, nes oedd screchiada' yn adseinio yn nghreigia' Gallt y Derw. Neidiodd y ddau fachgan arall i'r af6n i achub y bachgan a'r bwcad, a llwyddasant. 'Doedd neb yn hidio dim am y gath y pryd hyny. Ond gofalodd y gath am dani 'i hun yn ol reit. Bu y ddamwain yn foddion bywyd iddi hi. Mae pwsi wedi taro ar le respectabl yrwan, ac erbyn hyn y mae y blew a gollodd hi, wedi cael ei dilyn gan flew splendid o'r newydd. Y ERCH A'I GUARD WADSH. 'Ro'n i yn clywad merch ifanc yn ddi- WQ:1di\r tteim Temperance yn deyd wrth fechgyn sut y bu iddihi gael guard wadsh. Daethlai dau lane ifanc o Lanaelhaiarn i lodgio un nos Sadwm. Dyma y byraf o honyn ,hw jrn deyd fod y guard oedd gan y ferch ifanc braidd' yn gomon, a ddim yn 'i Yu 90 W. wcbi, dyma fo yn rhoi pres iddi hifynd i brynu guard wadsh new- ydd. Cariad y ferch ifanc oedd o. Teimlai hi.jra ffetab.o hono fo, ac jr oadd hi isio So ddwad yno yn amlach o lawar. Peryglus ydi rhyw fusnes fel hyn. Thai hi ddim i dalu am guard wadsh bob tro yr aiff rhyw- un i Demperance a ffausio merch ifanc. Broliai un ferch ifanc y diwrnod o'r blaen fod llanc ifanc wedi cario 'i basged hi adra tua'r PENTRA POETH, a'i fod o yn fachgan neis a chlen anghyff- redin. 'Doedd hi fawr o feddwl 'i fod o yn d'digon hen i fod yn dad iddi hi. LLANLLYFNI. Helynt blin fu helynt y streicio y noson o'r blaen. Pan oedd y ddau ffwl-ddyn yn mynad trwy y job, pwy ddaeth ar 'u traws nhw ond y plisman. Rhag iddyn hw gael eu cym'ryd i fyny fel burglars neu rhywbath felly, cymerasant v goes gym'int fyth. Daeth y ddau i le i ymguddio, ond yn anffodus svrthiodd un o honvn hw i'r afon dros i ben! Gwaeddodd am 'i hoedl, ac oerodd i gariad at y ferch, yn oerni anisgwyliadwy y dwr. Cafodd gynorthwy i ddyfod i dir sych unwaith yn rtogor. CILGWYjN. Yr ydw'i wedi methu cael hamdden i lynu allan y cwbwl sy' gin i yn fy locar am y lie hwn. Yr ydw'i yn edmygu y iam he no vn troi hen drowsus i'w bachgan, lddo fo 'i wisgo fo yn lie prynu clos pen glin, tra y bydd o yn dysgu reidio y beic sy' gyno fo. Mae y bachgan wedi prynu sana beic, ac edrych yn ddoniol yn y sana' hyny ac yn y darn trowsu-s. DisgwTliaf yn y man ddeyd lot go lew o'r hyn a welais ac a glyw- ais vn y CBgg- t ,xrallt. Y gwair ydi prif bwnc yr ardal hon. Da y gwnaeth fy hen gyfaill tfyddlawn Robert Prichard, Taldrwst, gredu y gwirionedd yn vmarferol, nad da ydi bod dyn 'i hunan. Mae o wedi bod yn gefn i'r Hen Gorff ar hyd y blynyddoedd, ac wedi rhoddi benthyg 'i sgnbor i'r gvmdeithas lenyddol gael lie i gael swper. Gerddi bach sy'n m"n'd a hi yn Nhanyrallt. Mae John Roberts wedi cael gwell liwyl na nhw i gyd hefo trimio i ardd. Gwyr o am goed Pwllheli yn iawn. Mae y swels yn dal yn 'u gogoniant o hyd. Bwriada rhai C) honyn hw gymeryd preisu-i yn Shou Llanllyfni. J GROESLON. Lie iawn ydi'r Groeslon am weledigaeth- au, yn ol fy marn i a barn gwr Cefn Rhos. Pan yn pasio un lie yno gwelais lot, o lanc- ia' yn siarad ac yn sbonio ar rhyw ddau aaiiad. 'Roedd y cariadlanc wedi mynd cym'int dros 'i ben mewn cariad a swyn serch, fel y tynodd o 'i hun photograph o'i anwylyd, er mwyn iddo fo gael 'i gwelad hi o hyd, bob awr, bob munud, bob eiliad. Peth ofnadwy ydi dylanwad cariad cynta Dwn i ddim wir ydi dyn i'w drustio bob annar pan bydd alcohol serch wedi mvnad i'w fenydd O. Heblaw hyny, mi aiff yn gostus iawn i brynu cap newydd bob wsnos, trwy fod y cap yn gwisgo trwy gael i dynu a'i ro'i mor ami wrth fowio. BETHESDA A LLYN OGWEN. Clywch beth ddywed un o fy hen gyfeill- ion o Bethesda wrth Boss y w enn Er- fyniaf arnoch ganiatau i mi, fel arferol, ys- grifenu gair neu ddau at y cyfaill syn- wyrol, Jack y Llongwr 'K^ld yn dda iawn genyf glywed fod fy ng^faill Richard Roberts, Braicbmelyn, wedi dod yn fuddug- 01 yn Eisteddfod Caerdydd eleni, fel dat- ganwr gyda'r tanau. 'Does fawr ers pan enillodd o yn Ffestiniog. Yn sicr y mae o yn fachgen sydd a dyfodol disglaer o'i flaen. Y mae wedi gweithio ei hun i fyny arwy anhawsderau lawer. Engraifft yw efe o aiil.iwsder,tu yn foddion i wthio dyn yn mlaen. Tueddiad sydd mewn rhai pobi i sarnu ar ddyn talentog fel R. R. Ond y mae pawb teg a gonest yn llawenhau wrth ei weled yn llwyddo. Llongyfarchaf ef ar ei lwvdd Bydded iddo fyned rhagddo eto. Yna a fy nghyfaill yn mlaen i draethu ar "Yr Olymaeth Ddwyfol ar Olyn- iaeth Ddynol"-Yr ydym ni fel cyfundeb o Fethodistiaid yn ymffrostio ein bod yn olynwyr yr Apostolion. Wel, ymffrostiwn faint a fvnom. Ond pafem yr ymffrostir ? Onid Crist yw gwrthddrych addoliad i fod. Onid Ei olynwyr Ef ddylem ni fod. Onid ynfvdrwydd ydyw addoli dynion yn hytrach na Duw ? A chaniatau fod yr Apostolion wedi bod yn foddion i gyflawni gwyrthiau, nid yw ^yny yn rheswm dros i ni eu dilyn liwynt. Mwy anrhydeddus yw yr olyn- iaeth Ddwyfol. Dilyn camrau yr Iesu ddylem, ac nid camrau neb arall. Rhaid cael llai o'r dynol a mwy o'r Dwyfol yn em Holvniaeth. Crist oedd yr Apostol di- Holyniaeth. Crist oedd yr Apostol di- bechod, a neb arall. Nis gallai neb gy- huddo neu argyhoeddi Crist o bechod, ond aellid g\vneyd hyny i bob un o'r Apostol- fon ereill.—Diweddai fy nghyfaill trwy udweyd, "Gadewch i'r ysgrif gael ymddang- os, a chofiwch fi at y cyfaill piaen, Jack y Llongwr." Buom yn treidroidio besseicl o Ty'nymaes at Lyn Ogwen ddoe, hefo Bila.. Peth rhyfadd, onite. Gallat sefyll ar ddec Hong, pa mor fawr bviiaga-r ysgydwir hi gan y tonau; ond, bei jingo, methwn yn lan a sefyll ar y beisicl. Trwy i mi helpu Bila, a thrwy i Bila fy hetu ina', daethom at Lyn Ogwen. A phwy a welsom wrth y llyn, yn cael lynshion, ond v pcblcgaidd Mr D. G. Davics a'i briod hoff, Mrs Davies, Mrs Dr Lloyd, Bethesda (hi oedd wedi dwad a'r "gryu" hefo hi), a dwy ferch ifanc neis. Faswn i yn barnu oddiwrth y dull o ddefn- yddio eu dwylaw wrth siarad, mai dwy sgwl- lnistras oedd y ddwy foneddiges ifanc. Darfu hw enjoyio 'u hunain yn iawn. Awgrym- odd Bila i mi fynad atynt, trwy fy mod yn 'nabod Mr a Mrs Davies, er mwyn cael siar yn y gryb, ond gwell oedd gin i beidio. Parti oeddan 'hw. CARMEL. Clefyd yr ymlwybro o dy i dy sydd ar rai o'r merchad yn y lie hwn. Deydir am un ddyn,as li- bod hi 'n cadw pwysa' i bwyso pawb ond 'i hunan. Y farn gyffredin am dani ydi nad oes dim pwysa ynddi hi ond pwysa gwynt a geiria'. Pan y bydd hanas Toman Moel Tryfan yn y "Werin" bydd rhai pobol yn chwilio am y "Werin" ar ddydd Sul. Mae gwaith rhai pobol ar ol yr oedfa nos Sul mor sal fel na fydd gynyn hw ddim i neyd ond ceisio speitio gwell pobol na hwynt hwy 'u hunain o lawer. ffa.a' rhywun fel fi yn disgwyl gwell man- nars oddiwrth rai wedi bod mewn gwiad bell. Mae pobol yn llyncu mulod yn yr ardal hon fel mewn ardaloedd er'ill. 'Rwy'n meddwl am gysylltu fy nheliphon a'r fan lie yr ymdyra y bobol i siarad ar ferlynod, ceffvlau, adar, &c., ar nos Sul. Biti na f'asen nh'w yn siarad am fulod. Ond efall- ai y basa hyny yn mynad yn rhy bersonol. 'Does dim terfyn ar bethau rhyfadd yn Ngharmel fel mewn lleoedd ereill. Gwelwvd llanc yn dwad o Gnarfon gyda'r tren bora Su!, hefo esgid goch am un troed ac esgid ddu am y llall. Petaswn i yn nes ato fo b'aswn wedi rhoi brwshiad o gol tar ar yr esgid goch yn siwr. Lie yr oedd y drwg fod peth fel hyn wedi digwydd. Yn y par ynte yn y traed ? Mae'r hen lancia' wedi cael braw mawr wrtn welad eu hanas gan Jack y Llongwr. Maent bron o'r ua'gred a phobol Llanllyfni, ei fod o fel ysbryd yn gwelad a chlywad pob peth, ond neb yn 'i welad o. Pan aiff v cynhauaf drosodd, byddaf yn amlach tua" Chiarmel yma. 'Rydw'i wedi leicio v lie. NANTLLE A'R ARDALOEDD. Cyn i'r sison fynad drosodd mi 'rydw'i am roi tac hefo Bila i ben y Wyddfa. Mae I cryn amsar ers pan y buom i yno. Caf bass yn.ngherbyd fy hen gymrawd caredig, Evan P. Jones, y bwdishiar, i Rhyd-ddu, mae'n debyg. 'Ro'n i yn gw'bod yn baxod mai Band Nantlle ai a hi yn Ngbaerdydd. Mae hen longwrs rhywsut yn deall arwyddion pith'a' ar y lan bron fel ar y mor. Fel hyn y byddwn i yn deud ar y mor am y tywydd Red in the morning, Sailor's warning; Red at night, 0' Sailor's delight. Coch yn y boreu Rhydd rybudd i'r morwr; Coch yn y nos Rydd fwyniant i'r morwr. Wei, wrth studio Band Nantile, arwydd- ion llwyddiant welwn i o'u cwmpas nhw, a llwyddianus fuo nhw hefyd. Band Nant- He ydi Band Coronog Cymru. Wel dun, Mr B. H. Joi-ic- am ddysgu y Band. Bach- gan o chwarelwr wedi 'i fagu yn Nantile vdio, ac yn fab i Z. Jones. Dof a phresant iddo fo y foyads nesa gymerai. Rhaid i mi ganmol pob un o'r aeloda' hefyd. Chwythasoch yn iawn, mor iawn nes chwythu y Bands ereill yn ddigon pell oddi- wrth y brif wobr. Rhaid i mi gael canmol y Cor Merched hefyd. Da iawn, yn wir. Mae Mr J. Jones Owen yn haeddu clod yn siwr am fod yn gadben mor dda ar y. cor. Gwylied vnta hefyd toe. Caiff bresant neis gin i. Amball i siop codwr canu 'does yno ddim tiwn ar gyfar pob emyn yn v llvfr tona'. Mae arna i flys a thyrn tw l neyd rhyw gant o honyn hw, a'u hanfon yn stoc i'r codwr canu. Drwg genyf welad fod yr hen chwaer, y Gyind.;ichas Lenyddol, yn dechreu tynu 'i hegla' i'r gwely i farw. Wel, wel! Llawar ddnru'r aeloda' fy nhrin i. Dyma fi heb gicio y bwcad eto, a'r Gymdeithas druan yn prysur dynu ei chwythad ola'. Mae gin i farwnad yn barod iddi. Yn ardal y Bedd y buo'r Gymdeithas am newid aer ddi weddaf. F alla fod arcgl y Bedd wedi dal ami. 0 bosibl y bydd gin i hanas y briodas yn ÙUB, y lluchio reis, ac un o'r Biwtis yn cael benthyg ffedog i fynad i welad y bri- odas A glywsoch chi am y ddwy ddynas hyny a froliest 'u bod nhw wedi bod yn malu chaff i rhyw shiopwr, a chael coed tan gyno fo am neya? Hen arferiad yn yr ardal- oedd hyn, f1 mewn ardaloedd erill ydi i ferchad fynd i siopa' i specian er mwyn cael gwelad beth y mae pobol yn brynu. Fasa yn eitha peth i'r giang yma rwbio dipyn ar y lloria' hefo'r cadach llawr, a gneyd rhyw jobs felly yn amal, yn lie diogi a chega a specian. Drwg iawn gen i ddeyd fod ffol owt wedi cymeryd lie rhwng y Biwtis a'u gilydd. Torodd ystorom fawr o fellt a tharanau alllan rhjjngddynt. O'u llygada nhw y dcuai y mellt, ac o'u cega' y taranau. Lladd- wyd neb eto beth bynag, ond y mae rhai wedi mynad yn reit sal.
Mesur y Degwm
Mesur y Degwm Trwy rym y Cloadur y cariwyd Mesur y Degwm yn y Ty Cyffredin. Ymddengys fod y Weinyddiaeth yn teimlo mai goreu pa gyntaf iddynt gael yr atgas-beth o'r ffordd. Dyma fesur nad ocu- gan odid neb air da iddo. Yr oedd bloesgni ar dafod pob un a gynygiai ei amddiffyn. Ymddiriedwyd ef i ofal Mr Walter Long, a bernir ei fod wedi selio tynged hwnw, er nad yw efe, druan, mor gyfritol am dano ag ydyw aelodau eraill y Weinyddiaeth-yn enwedig rhai o aelodau pwysicaf y cyfrin-gyaghor. Ond y fath yw trefn y Senedd a hanes y Ty Cyffredin pan fyddo Mesur anghymeradwy ger ei fron fod y neb a ofalo am dano yn cytranogi o'r un condemniad a'r Mesur ei hun. Mr Balfour a alwai am wasanaet- y Cloadur, ac yn sicr, nid yw efe yn ysbaid yr wythnosau diwedd- af wedi ychwanegu dimi at ei glod. Gwell iddo yntau fuasai bod heb FEiur y Degwm, a mil gwell fuasai iddo fod yn llai gormesol yn ngoruolr.vyhaeth y Coadur. Y mae math o wyddiant sydd yn fethiant pwysig. Medr- usrwydd a dewrder yr Aelodau Cymreig oedd yn poeni y Gormeswr. Hwy, mae yn debyg, a wnaetu y Cloadur yn angenrheid- iol. *Yr oedd nifer mawr o'r gwelliantau yn eu henwau hwy; ac er i'r Llefarydd a'r Cadeirydd ddefnyddio eu hawdurdod i groesi llawer allan, eto diangoau digon o weddill i sicrhau maes brwydr ardderchog ddydd ar ol dydd, a nos ar ol nos. Cafwyd un eisteddiad drwy y nos, yr hyn a adgofiai y dyddiau gynt. Mr Lloyd George, Mr S. T. Evans, Mr D. A. Thomas, a Mn Herbert Roberts a Herbert Lewis, oeddynt amlycaf. Profodd y tri blaenaf eu bod yn mhlith pnf alluoedd Ty mewn dyfais a dadl. Nid yw v Cymro yn ol i neb o honynt mwyach. Yn chwanegol atynt hwy, yr oedd yr hen ryfel- w rcadarn, Syr W. Harcourt, ar ei eithaf, ac wrth ei ochr Syr H. Campbell-Banner- man. Dengys Harcourt ysbryd rhagorol tuag at ei hen gyd-awyddogion. Nid jes cysgod siomedigaeth na chwerwder ynddo. Prif wasanaeth Mesur y Degwm ydyw uno yr holl blaid Ryddfrydig. Nid yw Har- court yn cyfyngu ar Bannerman, ac ni chen- figena Bannerman wrth Harcourt. Cyd- dringant a chyd-weithiant yn gampus, a hyny er mawr ofid i'r rhai a eisteddant ar eu cyfer. Yno y mae cenfigen a chas yn ysu ifawer, ac ni ellir cuddio y sefyllfa anne'd- wydd. Gwena amryw o honynt yn fodd- haus pan welant Mr Chamberlain yn magi y Transvaal ac atdalu yntau yn weledig a dialgar wrth weled trybini y frawdoliaeth Doriaidd yn nglyn a Mesur y Degwm. Nid yw Ty yr Arglwyddi yohwaith mor wasaidd ac ufudd ag yr arferai fod. Wele. fe aeth y drwg hyd yno. Y mae yPrif Weinidog wedi ei orchfygu dd .vywaith yno yn ymyl eu gilvdd. Digon posibl yr hoffai efe yn fawr weled diwedd y cwbl vn fuan. Nid yw efe mor uchelgeisiol ag i garu swydd gan nad beth a fyddo y draul i'w henill a'i chadw.
rjTlTFHEWrH Y CIFANSUIDDIAD.
rjTlTFHEWrH Y CIFANSUIDDIAD. .lN,.ee pawb yn barod i werthfawrogi a chroesawu yr awelon tyner a balmaidd ddis- gwyliwn yn naturio] eu mwynhau yr wyth- nosau dyfodol, ar ol lleithder ac afiachus- rwydd y tymhor sydd wedi myned heibio. 1 ystod misoedd aiweddaf mae lluaws wedi bod yn dyoddef dan yr aoiwvdwst ac anbwvlderau ereill, ac ete yn dihoeni mewn gwendid a llesgedd tra yn ymdrechu adeltill y nertb a'r iechyd a gollwyd. I alluagi y cyfryw i gael adferiad i'w hiechyd cynefin ac i fwynhau itchyd da y tymhor dyfodol, dy- lent gymeryd rhyw feddyginiaeth adgrvfhaol a symuda ymaith effeithiau niweidiol yr afiechyd ac a grvfha v cyfanscddiad i wrth- sefyll yn llwyddianus ymosodiadau dyfodol. Meddyglvn o'r fath, a'r goreu sydd eto wedi ei ddarganfod, yw Bitters Gwilym Evans. Gwelir hyn ar unwaith os ystyriwn am foment yr effeithiau y mae yn gael ar y cyfansoddiad. Dyma rai o honynt -)Iae Bitters Gwilym Evans yn cynorthwyo, a hwylusu gweithrediadau natur, trwy gyn- orthwyo bwyd dreuliad, a chryfhau y cyfan- soddiad a thrwy hyn wella a hwylusu cvlch- rediad y gwaed, &c. Mae v Quinine Bitters hyn hefyd yn cryfhau y (tiau a'r cyhyrau, yn puro a ffrwythloni y gwaed. yn bywiocau yr ysbryd, yn adloni y meddwl, ac yn symud ymaith rwystrau ac atalfeydd yn yr ermigau bywydol. rawf o effeithiolrwydd Bitters Gwilvra Evans yw fod pawb sydd wedi ei ddefnyddifl unwaith yn ei gymeradwyo i'w cyfeillion. fel y mae yr alwad am dano yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, a lluaws o clelychiadau gwael o hono yn cael eu cynyg i'r cyhoedd. Gocheler y rhai hyn trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r hotel. Pris Poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. 'I'w cael can wrchol, oddiwrth y perchenogion -Quir- ine Bitters Manufacturing Co., Limi^od, liatielley, fb.U. Waleir ■ ■■>
Y mae yn rhaid I ni aros Gartref.
Y mae yn rhaid I ni aros Gartref. Ysgrifenir y llinellau hyn ar ddiwrnod oer a gerwin yn Mawrth. Y mae y gwynt yn oordeddu y coedydd yn yr ardd, ac yn ysgwyd y ffenestri a'r drysau, fel hen dir- feddianwr digllawn mewn brys am ei rent. Yr wyf fi yn parhau i brocio y tan bob rhyw ychydig fynudau; ond er hyny, yr wyf yn teimlo oddi wrth ryndod yn cerdded i lawr fy meingefn, ao i fyny fy nghoesau, fel pe byddent yn fy mharotoi i ymweliad o'r an- wydwst neu yr ysgyfeiriwst. Y mae yr wybren o'r un lliw a ohot Crynwr, ac y mae awelon disymwth o eira yn chwyrnellu trwy yr awyr, fel pe baent yn chwilota am bobl sydd heb drwydded, neu gob fawr. Mewn dau air, y mae yn dywydd llym a gerwin; a phe cawswn i fy fforud, buaswn yn pasio fy nghod mewn munud, ac yn myned i ffwrdd i'r rhan isaf o'r Eidal gyda'r tren heno, ac ni wnaethwn fy ymddangos- iad yn Lloegr drachefn cyn canol mis Mai. Ond, dyna lie y mae he. Nis gallaf fyned. Yr wyf yn hollol glymedig yma. Y mae yn rhaid i mi weithio. Fel y dywed St. Paul- "AngenrheidrWydd ci osodwyd arnaf"—^yr angenrheidrwydd i enill y P. s. c. i gyfarfod a'r treuliau parhaus. Y mae y personau hyny sydd ganddynt ddigon o arian yn y bane yn rhydd i fyned! ymaith i Nice, Men- tone, neu Affrica, a phobi eu hunain o dan belydrau yr haul, ond yr wyf fi wedi fy rhestru i aros gartref, i brocio y tan, ac i ymladd a'r tywydd. Yr anwyl fawr! gy- maint esmwythach y llithrai bywyd yn mlaen pe caem ond ein ffordd ein hunain. Yn yr achos hwnw, er esiampl, gallasai Mrs Lambourne, o Eynsham, fyw i ochel y drafferth a'i gwnaeth hi yn aberth iddo yn Mehefin, 1891. Nid yr hin oedd ya gor- wedd wrth ei wraidd, ond y miloedd o bethau sydd yn cyfansoddi bodolaeth y dyrfa fawr ohonom—llafur, blinder, cyfrifoldeb, ac unffurfiaeth yn eu mysg. Pe gallasai hi gael ymwared o'r rhai hyn pan yn ieuanc, a chadw yn glir oddi wrthynt—ond i beth y siaradwn ? Yr ydym oil yn gwybod sut y mae hi. Darfu i'r wraig hon, fel miliynau o rai ffyddlawn heblaw hi, yru yn mlaen, a gwneyd ei dyledswydd, nes y torodd i lawr. Cil- iodd nerth, a ohymerodd gwendid ei le. Yr oedd yn isel ao yn llesg. Gwnai yr ymeg- niad lleiaf iddi chwysu fel pe buasai hi wedi bod allan yn y gwlaw. Yr oedd ei llygaid a'i gwyneb yn myned yn felyn, a phwysid hi i lawr gan ymdeimlad dychrynllyd o wendid. Yr oedd yna gen trwchus ar ei thafod; yr oedd yna archwaeth annymunol yn ei genau, a phoerai rhyw hylif sur yn barhaus. Nis gallai fwyta-yr oedd hyd yn oed ychvdig dameidiau yn rhoddi poen iddi yn ei ciiyda, ei brest; as, mewn gwirionedd, dros haner ei chorph. Yr oedd rhidiad yr elwlen mewn sefyllfa ddychrynllyd, yn ymylu ar fed yn ddu, ac wedi ei atal, yn mron. Fel y chwysai y foneddiges, druan! yn y nos, hefyd. Gallasech wasgu dwfr allan o'i gwisg isaf. Edrychai yn debyg i ddarfodedigaeth, ond, yn ffodus, nid hyny ydoedd. Aeth mor wan fel yr oedd yn dal gafael yn y dodrefn wrth fyned ar draws yr ystafell. Ac yn "nerfus!" Beth, blinid fi gan diciad yr awrlais. Dywedai y meddyg mai ei hafu ydoedd yr achos; ac, mewn rhan, modd bynag, yr oedd yn iawn. Ond methodd a'i chynorthwyo hi. Yn Medi, 1891, dechreuodd fynychu Ys- bytty Rhydychain, fel un o'r cleifion allan; a pharhaodd felly am chwech wythnos. Ond nid oedd dim yn dyfod allan o hyny. Yn Ionawr, 1892, cafodd yr anwydwst, yr hwn a'i gadawodd hi mor wan fel yr oedd yn meddwl ei bod yn myned i farw. Yr oedd f yn rhaid iddi ymladd am ei hariadl, ac yr oedd ei phuls" yn euro fel pe am dori y croen. 0 fod yn wraig fawr, dew, yr oedd wedi myned mor egwan fel y gallasech ei chodi yn eich breiohiau fel baban. "Dyma y cyflwr yr oeddwn ynddo gwyliau y Sulgwyn, 1893," meddai. "Yna, daeth boneddiges oedd ar ymweliad a'n pentref i'm gweled. Gan gymeryd sylw (a phwy a allasai beidio?) mor ddrwg yr oeddwn, dy- wedodd ei bod yn gwybod am feddyginiaeth a wnai les i mi; sef, Mother Seigel's Syrup. Ar hyn dywedodd y fath ryfeddodau oedd wedi ei wneyd ar ereill oedd yn cael eu blino fel yr oeddwn inau. Mewn gair, darfu iddi lwyddo i roddi gobaith a ffydd o'm mewn. Yn wir, gwnaeth fwy; aeth ei hun at y Meist-ri Sawers a'i Feibion, chwegnwyddwyr, a phrynodd botel i mi. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oeddwn yn well; gallwn fwyta ychydig o fwyd a'i dreulio. A bod yn fyr, darfu i Mother Seigel's Syrup lwyddo yn fuan i'm cael o'm gwely,; mewn ychydig am- ser gwnaeth fi yn iach a dedwydd. Diolch i Dduw am y feddyginiaeth hon, a'r gen- hades dda a anfonodd ef i'w gwneyd yn hys- bys i mi. Y mae genyf eisieu dweyd wrth ereill yn ei gylch; a dyna paham yr wyf yn ysgrifenu y llythyr hwn; ac yr wyf yn fodd- lawn iddo gael ei gyhoeddi. (Arwyddwyd) (Mrs) Ann Lambourne, Newland street, Eynsham, Rhydychain. Ai nid ydyw hynyna yn ddarlleniad da. Mewn gwirionedd, y mae darllen i'n calon- au ni ydyw. Nis gallwn oil gael ein ffordd ein hunain; a rhedeg pan y mae y gwynt- oedd cryfion yn chwythu, ac afiechydon yn ymosod. Ond gallwn aros lie yr ydym, a dyfod yn iach—yr hyn sydd weithiau yn well. Rhoddwch brawf ar Mother Seigel's Syrup.
[No title]
Yn ol y ddysgeidiaoth newydd, cawn fod y bacyll yn heigio yn mhob man ac yn mhob petli; a hysbysir ni, bellach ers talm eu bod yn nghwpan y Cymun, ac y mae cryn ddyfeisio, y dyddiau hyn, i'w cadw oddi- yno. I gyfarfod a hyn, parotoir cwpanau bychain gwahanedig, fel yr yfo pob un o'i gwpan ei hun, a thrwy hyny atal y bacyll i orymdeithio y gynulleidfa, a thrwy hyny gael cylchrediad a derbyniad gan bawb. Cyn bo hir, bydd yn berygl bywyd i ddyn yfed a bwyta dim I
YMA AC ACW.
YMA AC ACW. Y mae y ddawns roddodd y pibwyr Ys- gotaidd ar lwyfan yr Eisteddfod wedi %chosi twrw mawr mewn rhai cylchoedd. Dydd Mercher cyuhelir cyfarfod mawr o Brotestaniaid yn mhabell yr Eisteddfod, Caerdydd. Boreu dydd Ian, tra yn ymdrochi yn yr afon Wy, boddodd William Davies, 27 oed, dyn priod, a Thomas Nash, 17 oed. Ymddengys fod glowyr Durham newydd gael codiad o 2! y cant yn eu cyflogau. Cafodd amryw aiopwyr yir y Rhondda eu cospi yr wythnos ddiweddaf am gadw merched ieuainc dan yr oed i weithio yn hwjr. Yn llys y Pentre, dydd Llun, cafodd Charles Davies, gwestywr y Llewelyn Arms Hotel, dalu dirwy o lp am werthu cwrw mewn aleevers." Nos laD, tuag 11 c'r gloch, syrtbiodd Owen Roberts, coedwr, 29 oed, i lawr i bwll y Naval, Penygraig, a chafodd ei ladd yn y fan. Y mae y si ar led fod y Tad Ignatius i gael ei wneyd yn archesgob. Boreu dydd Mawrth, cafodd Charles Maidment, 22 oed, labrwr, ei ddienydJio yn ngharchar Winchester, am aaethu ei gariad i farwolaeth )n mis Ebrill. Yn ngorsaf Merthyr (G W.R.) dydd Mercher, cyfarfyddodd William Jewal, lampman, a dam wain, trwy yr hon y cafodd niweidiau difrifol. Tra yr oedd merch fach 6 oed, o'r enw Elizabeth Cribb, yn myned i'r yagol yn y Misoip, Mountain Ash, dydd Mercher, Ayrtihodd y gloch o'r twr i lawr ami, gan ei lladd yn y fan. Drwy ei geffyl, Flying Fox, yr wythnos ddiweddaf, enillodd y Dnc o Westminster 10,000p, a rheddodd hwynt oil yn anrheg i Glafdy Alexandra, Rhyl. Yn San Francisco, y mae oyfraith wedi ei phasio sydd yn gwahardd taflu hen esgidiau a rice mewn priodasau. Hysbysir fod bywiogrwydd neillduol yn y fasnach haiarn yn Auierica ar hyn o bryd. Dywedir fod agerlongau o 8t. Michaels, Alaska, yn ddiweddar, wedi dwyn gwerth tair miliwn o ddoleri o lwch aur o'r Klon- dike. Y mae yr heddgeidwaid yn Llucdain wedi hysbysu drwy'r wasg fod amryw ber- sonau ar hyd y wlad yn awr yn ceisio cael gwared arian drwg-yn benaf ocranau, haner ooronau, darnau dau swllt, &c. t,q A Yn ngynadledd lawr y gwragedd, neu feailai yn fwy priodol, yr ben ferched, yn Lluodain, yn ddiweddaa, dywedwyd pethau go arw am y gwyr a'r bechgyn. Yn lied wanobeithiol y siaradai Susan B. Anthoni am y brodyr; ond ymddengys na fydd perygl ymrwygiad difrifol rhyngddynt cyhyd ag y ce:r y gwyr yn dadau y merched a'r gwragedd yn famau y beengyn. Cwynir yn awr mewn rhanau o Dalaeth Pennsylvania o herwydd prysurdeb yr amserau. Gan fod y gweithfeydd mor tywiog ao yn cyflogi pob math o lafurwyr a dwylaw ganddynt, anhawdd yw cael neb i weithio gyda'r cynhauaf. Cafodd chwech a deugain o dunelli o byta- tws eu dinystrio yn ghaerdydd ddyud Mawrth, drwy orchymyn y Cyngor Trefol. Yr oeddynt yn anghymwys i'w bwyta. Llwyth Hong o Jersey oeddynt. Gadawodd Mr A. Trail Jones, Gwrecsam, swm o arian yn ei ewyllys ar gyfer cynal cyngherddau gan seindyrf yn y dref hono. Gwneir ymdreohion gan yr iTmne.uuwyr i gael gan seindorf Ileal i beidio cymeryd man yn y symudiad. Fe ddywedai Mr Henniker Heaton dydd Iau, wrth gael ei anrhydeddu a Rh-iddid Dinas Llundain, nad oedd yr amser yn mhell iawn pan y gellid anfon brysnegesau dros holl Ewrob am geiniog y gair, i'r India neu China am chwecheiniog y gair, ac i Dde Affrioa am swllt y gair. Mae Mr Heaton yn sicr o wneyd ei oreu i ddwyn hyn oddi amgylch hefyd. Mae eisoes wedi bod yn foddion -i gael cludiad llythyrau am gein- iog i'r rhan fwyaf o'r Trefedigaethau Pryd- einig. Y mae Pwyllgor Heddgeidwadol Sir Gaer- narfon wedi penderfynu gwneyd ymchwil- iad trwyadl i ddull yr heddgeidwaid yn gwneyd eu gwaith o'r Prif Gwnstabl i lawr, ac wedi penodi is-bwyllgor i wneyd hyny. Mae Mesur y Degwm geisia ostwng treth y clerigwr cyfoethog a gadael y oiwrad tlawd sydd yn gwneyd y gwaith i fyw ar y gwynt, a chodi trethi trothdalwyr tlodion, wedi agor llygaid llawer. Tybiodd rhai gweithwyr fod yr Undebwyr yn myned i wneyd melin ac eglwys iddynt. Nis gallant lai na bod wedi eu siomi yn ddirfawr erbyn hyn. Soniwyd llawer ganddynt am flwydd- da li'r hen bobl, ond caiff yr hen weithiwr a'r hen filwr farw yn tlotty o ran dim wneir iddynt gan y Toriaid, heblaw siarad am dan. ynt yn amser yr etholiadau. Penderfynodd Cymdeithas yr Orsedd nad oes cyfnewidiad i fod y flwyddyn nesaf gyda golwg ar destyn Cadair Lerpwl. 'Roedd Pwyllgor Lerpwl wedi meddwl gadael y Beirdd yn rhydd i farddoni yn eu ffordd eu hunain. Ond oynygiodd Cadfan, ac eiliodd Bethel, fod Cymdeithas yr Orsedd i ddal yn deyrngar roolau presenol yr Orsedd nes y cyfnewidir y oyfryw mewn ffordd gyfreith- lon. Pleidiwyd hyn gan 14. yn erbyn y tri wyr hyn, Penar, Watcyn Wyn, Hawen. Y canlyniad oedd gwrthod cais Pwyllgor Ler- pwl. Felly rhaid i'r ymgeiswyr am y gad- air y flwyddyn nesaf eto ystwytho eu hun- ain yn rheolau Dafydd ap Edmwnt. Yn y Pavilion, Caernarfon, y cynhelir odfaon y Gymdeithasfa ddyfodol. Bu peth amheuaeth oherwydd fod y cwmni yn gofyn gormod am dano, ond erbyn hyn y maent wedi dyfod i delerau. Bydd pob peth, fe ddisgwylir, yn barod i ddadorchuddio colofn-goffa Mr Gladstone yn irghynteddau y Senedd-dai erbyn agoriad y Senedd-dymor nesaf. Casglwyd 5760p at yr amcan ac y mae 2800p yn weddill mewn llaw i'w defnyddio at ryw amcan arall. Helyntus yw hanes y glowyr y dyddiau hyn. Prawf y cyfarfodydd mawrion sy\.d wedi eu cynal yn ddiweddar fod cryn aflon- yddwch yn eu hysbryd. Dirgel gredwn nad yw yr arweinydd yn rhydd o fod a llaw i achosi peth o'r cythrwfl parhaus hyn. Y mae rhai o'r dynion taledig hyn yn eithafol anJloeth eu geiriau a than y gochl o fod yn devmgarol i'r gweithiwr, y maenf drwy eu geiriau celyd yn cythruddo ysbryd y meistri, a dvnn hi yn myned yn helynt annifyr. Dar- bwyllir glowyr y Deheubarth gan y Saeson i ymuno a'r Federation, ac y maent yn gwneyd hyny wrth y miloedd gan gwbl gredu mai vn hon y gorwedd eu hiachawd- wriaeth. Gobeithiwn mai felly y bydd. Rhydd y "North Wales Chronicle" enwau yr aelodau Seneddol Cymreig a ddeisebasant dros arbed bywyd Mary Ansell, yr hon a grogwyd y dydd o'r blaen am wenwyno ei chwaer drwy y "post," a phriodola hyny i'w Radicaliaeth. Da iawn. Y casgliad yw nad oes dvngarwch o'r fath yn perthyn i Geid- wadaeth. Yr oedd lie cryf i amheu a oecld y druan yn llawn synwyr, a phe buasai y rheithwyr yn tybied y collasid hi, ni buasent yn dwyn rheithfarn o euog yn ei herbyn. Y mae yn debyg y rhaid i ni fyned yn mhell i'r ganrif nesaf cyn y bydd heddwch a ohymydogaeth dda yn sicr ar derfyndir gog- ledd-orllewin yr India. Yr hanes diwetM- araf oddi yno yw fod y Waziristiaid wedi ymosod ar fintai o filwyr Prydeinig pin yn cludo ymborth i'r gwarchodlu mewn rhan o'r wlad. Haner anwariaid ydyw y Wazi- ristiaid hyn, a phob ymdrech i'w gwareiddio yn hollol ofer. Yn Clevehmd, un o ddinasoedd poblog talaeth Ohio, ddydd LIun, gwnaeth y gweith- wyr sydd ar "streic" ymgais i ddinystrio tramffyrdd y dref. A dynameit, hwy a chwythasant un tramgerbyd, a chafodd ped- war o'r ugain teithiwr oedd ynddo eu han- afu. Galwyd y milwyr allan yn ddioed yn eu herbyn, a chliriwyd yr heolydd a blaen y fidig. Y mae yn awr yn y ddinas wyth gant o fihyvr arfog. Yn ddiweddar, bu myfyrwyr Coleg Aber- ystwyth yn derbyn balm i'w meodyliau trwy ganu y penill canlynol: — Ni bydd Lladin yn y nefoedd, Ni bydd Groeg yn nhy fy nhad, Ni bydd Euclid nac Algebra 0 fewn cyrau'r hyfryd wlad • 0! na wawriai Dyc'd alltudio'r rhein i gyd. ILI, Er mwyn bod yn y maes mewn pryd mae Merthyr eisoes wedi dewis prif destynau barddonol yr Eisteddfod a fwriedir gael yno yn 1901. Yr awdl fydd "Llewelyn ein Llyw olaf," a'r bryc.'dest goronog "Tywysog Tang- nefedd." Gweinyddiaeth ryfedd yw yr un bresenol yn mhob ystyr. Dwy nodwedd fawr berth- ynol iddi yw ystryw a diogi. Pan ddirgwyl- iai y wlad am hawddfyd, wele drygfyd a ddaeth. Dywedai Balfour mai anmhosibl oedd myned yn mlaen i ddadleu lluaws o'r mesurau y Senedd-dymor presenol, ac am rai ohonynt, wel, yr oedd yn rhaul bytbol ffarwelio a hwynt. Y mae y Toriaid yn en- wog am wneyd byr-waith ar bob mesur fo a'i duedd i lesoli y werin. Cigyddio yw eu hoff waith. Pa mor hir v goddefir i bethau fyned yn mlaen fel hyn nis gwyddom? Credu yr ydym fod dydd gofwy y blaid ys- trvwgar hon heb fod yn nepell. Cafwvd golygfa 'nad anghofir hi yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Wedi cyhoedd. r gadair yn wag o ddiffyg teilyngdod, wele Principal Edwards, yr arweinydd am y dydd, yn hysbysu fod y ddirprwyaeth Geltaidd o Scotland wedi cael caniatad i ddawnsio y "Scotch reel" ar yr esgynlawr. At y seti pellaf apeliai y ddawns yn effeithiol iawn, a thra vr oeddynt hwy oddidraw yn mwynhau vstumiau y dawnsiwr, gresynai y bobl agosat at vr anghysegriad hwn ar blatform yr Eis- teddfod. Mae'r digwyddiad yn deilwng o r hyn a wyddom am y mwyafrif ar bwyllgor yr Eisteddfod, gan nad pwy sydd yn gytr.tol am dano. Cyffrowyd Mabon gan y digwydd- iad, ac ystyriai y ddawns yn warth arhesol ar yr Eisteddfod. Ond a ydyw Mabon yn sicr fod (dawnsio fel y gwnaeth yr Ysgotiaid yn waeth na chanu penillion mwyaf cyseg- redig Cymru fel y gofynir weithiauirgyn- ulleidfa wneyd mewn Eisteddfod? Mae'r disgyniad o'r Eisteddfod i'r ddawns yn llai na'r'disgyniad o emynau anwylaf Cymru 1 r Eisteddfod.
Esgob Bangor a'i Rwyd
Esgob Bangor a'i Rwyd Mewn cyfarfod o Fwrdd Pysgota y Dyfi, Mawddach, a Giaslyn, ddydd lau, a gynhal- iwyd yn y 'Bermo, darfu i wyliwr yr afon ddweyd fod rhwyd anghyfreiihlon wedi ei gosod gan Esgob Bangor yn yr afon D)fi.- Darllenodd y Clerc lythyr oddiwrth gyf- reithiwr yr Esgob, yn cynwys arian i dalu am drwydded i bysgota bass, gdn ddweyd, er nad oedd yr Esgob yn disgwyl chwe' cheiniog yn y bunt yn ol, ei fod yn disgwyl y cai ei gyfeillion bygota heb waharddiad. Dywedodd y clerc ddarfod iddo ysgrifenu at yr Esgob i'w hysbysu fod y rhwyd yu ang- hffreithlawn oherwydd y daliai eogiaid, cr nad oedd wedi ei bwriadu ond i ddal bass. Penderfynwyd peidio erlyn yr Esgob, ond ei fod i gael ei hysbysu nad oedd y rhwyd yn oyfreithlon; ond os y troseddid eto y byddai i erlyniad gymeryd lie. Datgenid y farn yn gyffredinol nad oedd yr esgob yn gwybod am y deddfau lleol, ac na fwriadai droseddu y gyfraith.
Japan.
Japan. Mae Japan wedi ei dyrchafu i blith gallu- oedd gwareiddiedig. Mae'r Japaniaid yn galw am hyn er's yn agos i ugain mlynedd bellaoh, ond ni welodd Ewrob ei ffordd yn glir i ganiatau ei chais hyd ddechreu yr wythnos ddiweddaf. Pan mae Ewrob yn ystyried gwlad fel yn haner-gwareiddiedig, golyga hyny y bydd i bawb fydd yn myn'd ar ymweliad a'r wlad hono, neu yn masnachu ynddi, yn cael eu rhyddhau oddiwrth ddeddfwriasth y llysoedd lleol, a phan bydd galw bydd y trafncddwr i weitbredu fel barnwr ar eu hachosion. Symud hyn ym- aith olyga y dyrchafiad newydd i Japan. Mae hyn wrth fodd y Japaniaid, a bydd yn agoriad i'r masnachwyr hefyd i gorio eu masnach yn mlaen a chanol y wla,d, yr hyn a waherddid iddynt tra yr oeddynt yn aros dan ddeddfwriaeth v trafnoddwr.
Y Gynhadledd Haddwch.
Y Gynhadledd Haddwch. Daeth y gynhadledd heddweh yn Hague i derfyniad ddydd Sadwrn. Dywedir fo^ prif gynrychiolydd Prydain wedi gadael argraff ;dda ar y gynhadledd drwy ei bwyll, ei graff- der, a'i adoethineb. Nid yw y gwahanol wledydd a anfonasant gynrychiolwyr yn gallu oytuuo ar amryw bynciau ond hyderir y deilha rhyw les o'r cynadleddu, ac y dygir teyruasoedd y ddaear i gredu mai "Segurdod yw clod y cledd, A rhwd yw ei anrhydedd."
Y Catecism tto
Y Catecism tto Mr Gol.Nid gorchwyl hawdd fydd cael y Cateoism allan or Bwrdd isgoi yn Llyn- ileifiad. Mae y Bwrdd fel pe byodai wedi penderfynu ymbriodi a'r Catecism hyd angau. Prin y mae yn deg ei alw yn Gat- cism yr Eglwysi Rhyddion erbyn hyn, oher- wydd y mae wedi ei newid a'i drawsnewid gan y Bwrdd ei hun, neu o leiaf gan twyafrif yr aelodau. Nid wyf yn sicr pa fathT olwg sydd arno yn awr. Pwyllgor a'i gwnaeth. ar y cychwyn, ac nid oedd yr un o aelodau y pwyllgor ar wahan yn ei gretlu, ond fod yr oil o'r aelodau gyda'u gilydd yn bared i'w gy- meradwyo fel y peth goreu ellid gael i fodd- loni pob enwad heb foddloni neb yn iawn; neu mewn geiriau ereill, ei fod yn gynllun rhagorol i fagu neutrals. Tybia y rhai a gred- ant yn gryt mewn Catecisms fel hyn fod angen am fagu dynion na bydd dim pel7g1 iddynt byth son gair am nodau gwahan;aeth- ol yr enwadau. Bydd yn anhawdd argy- hoeddi y Cymry i gredu hyn, ac nid oes llawer o arwyddion hyd yma, fod y Sa2son wedi eu hargyhoeddi, neu pahanT y mae pob enwad yn casglu ar wahan at y Drysorfa Ganmlwyddol. "Actions speak louder than words," ebai y Sais. Nid yw yn deg i wthio ar y plant yn yr ys- golion yr hyn nad yw yr enwadau wedi tyfu i oed yn barod i'w dderbyn. Ond er hyn oil a phob peth arall ellid nodi, y mae mwy- afrif v Bwrdd yn dal yn gryf o blaid y Catecism, a drwg gonyf weled fod y lleiafrif yn lleihau. Pleidleisiodd y tri aelod Pab- aidd ar y cychwyn yn erbyn derbyn y Catecism, ond erbyn y cwrdd diweddaf yr oedd y tri Phabydd wedi troi yn neutrals a'r pedwar Ynmeillduwr wedi eu gadael i ymladd yn erbyn yr wyth Eglwyswr. Gwaeth na'r cyfan, gall y tri Phabydd cyn hir newid o fod yn neutrals i gefnogi y mwyafrif. Y mae yr Eglwyswyr a'r Pabyddion wedi hen arfer cydweithio o blaid yr hyn a alwant yn "Addysg Grefyddol ac Ysgolion Gwirfo ldol." Gwyddom oil pa beth y mae y naill a'r llall yn ei olygu dan lywodraeth Pabyddion ao Uchel Eglwyswyr. L. W. L.
A MOST DEHICIOTTS LEMONADE.
A MOST DEHICIOTTS LEMONADE. Eiffol Tower Lemonade is made from the finest lemons, and the great advantage is that it is partlv manufactured in Italy in he midst of the lemon orchards. The lemons are taken direct from the trees to the factory to commcnce their transformation into Eiffel Tower Lemonade. A 4^d bottle of Eiffel Tower Lemonade makes 2 gallons of delicious Lemonade. If you cannot set it from your Grocer, send 4d to G. Foster Clllrk and Co., 3466, Eiffel Tower Factory, Maidstone, for a bottle. Printed and published by the Welsh Na- tional Press Company (Ltd.), at their office, Balaclava road, Carnarvon.