Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

GWRTHDYSTIAD YN ERBYN DEFODAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWRTHDYSTIAD YN ERBYN DEFOD- AETH. Dydd Mercher cynhaliwyd un o'r cyfar- fodydd pwysicaf a Uuosocaf a fu enoed yn Nghymru. Yr ydym yn oyfeirio at y cyfar- fod Protestanaidd yn Nghaerdydd. Yr oedd pabelll fawr yr Eisteddfod wedi cael ei gorlemri: bernir fod yn bresenol o leiaf dd«ng mil o bobl, a meddienid pawb gan yr un ysbryd, sef awydd am gadw y grefydd Brotestanaidd yn brif allu yn y deyrnas. Dywedai ydd Winbourne fod y cyfar- fod yn rhagori yn mhob modd-mewn rhif yn gystal ag mewn brwdfrydedd-itr y cyf- arfod mawr a fu yn yr Albert Hall, yn Llun- dain. Y cadeirydd oedd Arglwydd Wim- boine ei hun; ac yr oedd Cor Meibion Tre- orci ar y llwyfan yn canu eu dewis ddarnau. Siaradwyd yn alluog gan y Caddirydd pen- defigaidd, y Canon Fleming, y Bamwr Mel- lor, ac erarfl; ond yn ddiau yr Arglwyddes Wimborne gafodd y gwrandawiad goreu, a hi a siaradodd fwyaf effeithiol. Pan y dar- luniai fel yr oedd cyffesu i'r offeiriad yn creu awyrgylch o ddrwgdybiaeth yn y teulu, ac yn myn'd rhwng gwr a gwraig, rhwng brawd a chwaer, yr oedd ei geiriau yn myned adref i galon pawb. Credwn fod y cyfarfod hwn yn ddatguddiad i'r clerigwyr defodol: nid oeddent yn deall o'r blaen fod y bobt gymaint o ddifrif. Yr ydym wedi clywed yr wrthddadl hon yn erbyn gwaith yr Ymneillduwyr ey- meryd rhan yn y cyffro yn erbyn Defod- aeth —"Pa hawl sydd getaych chwi i ymyr- aeth? Yr ydych chwi yn cael addoli yn y dulliau a'r modd yr ydych yn dewis; nid oes neb yn eich gwahardd i gymeryd eich ffordd eich hun r ac os yw yr offeiriaid yn yr Eglwys Sefydledig yn dewis cael oanwyllau wedi eu goleuo ar yr allor, a chael abetthu yr offeren yn lie y cymun bendigaid, pahatn y rhaid i chwi gynhyrfu ? Paham na chan- iatewch iddynt hwy y rhyddid yr ydych yn hawlio i chwi eich hunain Gwrthddadl arwynebol iawn ydyw honyna. Nid yw yn cymeryd i ystyria<Jth fod yr Eglwys yn hawlio bod yn Eglwys y Wlndwriaeth, ei bod yn cael ei chynal gan y Wladwriaeth, ac felly fod gan bob un o honom hawl gyfiawn i ymyraeth yn ei materion. Dim ond i'r clerigwyr ddeall y sefydliad, a throi eu cefnau ar y degwm a'r tal, cant addoli ya ▼ 'ffurf a fynont o'n rhan ni: cant wisgo addurniadau merchedaidd, ac ymgrymu wrth ben y groes, a thaeru fod y bara vn troi yn wir gorff ein Harglwydd. Ond tra y byddont mewn cysylltiad a sefydliad gwlad- wriaethol, rhaid i ni barhau i wrthdystio ( yn erbyn eu gwaith yn tori llw eu hordein- iad ac yn ceisio troi y wlad yn Babaidd.

[No title]

Advertising

Prydain a'r Dum-iiura Bullet.

Gantores Newydd.

[No title]

PROFTAD.

Advertising

SERCH-GANIG.

Gwjrthlau.

Dialtjarwcli Merch.

Gyrfa Ramantiis. -I

Yr Achos o Benmaenmawr

GET WHAT YOU WANT.

Advertising