Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

34 erthygl ar y dudalen hon

I;-1 9%.0, DREYFUS AR EI AIL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I; 1 9% .0, DREYFUS AR EI AIL BRAWF. Y CYHUDDEDIG YN GAEL EI HOLl. AC YN DAL I DDYWEYD EI JbuD YN DDIEUOG. GWADU YR HOLL GYHUDDIADAU. CYFIEITHIAD O'R "BORDEREAU." HANES YR HELYNT. Y mae llygaid a chlustiau y byd yn canol- bwyntio y dyddiau hyn ar brawf Cadben Dreyfus, yn Rennes. Dechreuodd y prawf am chwech o'r gloch boreu dydd Llun. Daeth llu o gadfridogion byddin Ffrainc yn nghyd. Y mae teimlad y rhai hyn yn ofn- adwy—yn gynddeiriog yn erbyn Dreyfus. Amddiffynir ef gan Maitre Demange a Maitre Labori. Y mae y ddau fargyfreith- iwr dysgedig a galluog hyn yn credu yn angherddol yn niniweidrwydd Dreyfus. Er- lynir ar ran y Llywodraeth gan Major Car- riere. Llywydd y Llys yw y Milwriad Jouaust, o'r Peirianwyr; dyn yn ymddangos uwchlaw dealltwriaeth gyffredm ei gyd- swyddogion. Nid oedd Esterhazy yn bre- senol; y mae ar hyn o bryd yn Llundain. HANES YR ACHOS. Yn y Ïlwyddyn 1895--ar y 5ed o Iol-awr- gwyd ar Cadben Alfred Dreyfus, swyddog yn nghatrawd y magnelwyr, i fyned dan gosbedigaeth gwaeth, yn ngolwg mififr, na marwolaeth. Cyhuddwyd ef o fod wwfradffr i'w wlad, tynwyd ei wisg filwrol oddiam dano, o flaen torf wedi ymgynddeiriogi, torwyd ei gleddyf yn ei haner, ac alltudiwyd ef i Ynys y Diafol. Saif y lie hwnw yn Cayenne, yn ngogleddi America Ddieheuol, ar lan Cyfanfor Gogledd y Werydd. Iuddew oedd Dreyfus, a chodtdd hyny ddygasedd y Ffrancod ato fel swyddog yn y fyddin. Y cyhuddiad yn ei erbyn oedd datguddio a bradychu dirgel- ion milwrol i Allu tramor. Bu ei brawf yn un dirgel, a honai y Ilys ei fod yn euog, ac alltudiwyd ef. I ychwanegu at ei gosb, trodd ceidwaid ei garchar ato gyda'r creu- londer mwyaf. Dirdynasant ei GNAWD GYDA HAIARN. Cauasant y carcharor druan ac unig mewn cell lie nas gwelsai na mor nac awvr. l mae y creuIonderau a ddangcswyd tuagato yn anhygoel. Ond drwy'r holl amser tyst- ici ei fod yn ddieuog. Credai'r byd hefyd ei fod yn ddiniwed. Ac mor w:r yw geir- iau'r bardd,— "Though the mills of God grind slowly, Yet they grind exceeding small." (Melinau Duw sy'n malu n nr, Malu wnant er hyny'n fan). Daliodd y Milwriad Picquart, er gwg a charchar i ddatgan yn groew fod Dreyfus yn ddiniwed. O'r ochr arall, chwareuodd Es- terhazy a'r Milwriad lienry ran anfadwyr. Ond yr oedd y gwirionedd a chyfiawnder yn mynu ymwthio i'r golwg, ar waethaf pawb a phobpeth. Daeth Zola, y nofeiydd Ffrengig, ar y chwareufwrdd: cynhyrfwyd y byd, gorchfygwyd Ffrainc nes rhoddi cyfle i'r carcharor o Ynys y Diafol i brofi mai nid efe, eithr rhywun arall oedd awdwr y brad. Y rhywun hwnw, yn dcrau, oedd y Milwriad Henry, y twyllwr, yr hwn a gaed wedi TORI EI WDDF yn nghell y carchar. Ac yn awr yn ystod y prawf sydd yn myned yn mlaen, gellir dis- gwyl y dadleniadau mwyaf cyffrous Yr oedd y llys, ddydd Lun, yn nodedig yn yr achos yma. Wedi i'r Llywydd ddatgan fod y Ilys wedi ei agor, dygwyd Dreyfus yn miaen. Cerddai yn syth ac fel milwr. Yr oedd ei wallt bron yn wyn, a'i gorff i raddau wedi curio. Gofynodd y Llywydd, "Beth yw eich enw P"—"Alfred Dreyfus." "Beth yw eich oedran?'—"Deugain mlwydd." "Lie ganed chwi ?"—"Yn Mulhouse." "Beth yw eich gwaith 'Swyddo, gyda'r gwirfoddo!w^r. Yna galwodd y Llywydd ar Dreyfus i sefyll i fyny, yr hyn a wnaeth ar unwaith. Ebai y Llywydd,— *'Yr ydych yn cael eich cyhuddo o roddi, i swyddog Gallu tramor, bipyrau yn cynwys dirgelion a enwir yn genadwri, gan anog y Gallu hwn i gychwyn rhyfel yn erbyn Ffrainc." Y Carcharcr: Yr wyf yn ateb, Xaddo, fy milwriad. Yr wyf YN DDIEUOG, ac ni pheidiais a chyhoeddi hyny am bedair blynedd. Er mwyn fy mhlant, er mwyn an- rhydedd fy enw, yr wyf yn ddiniwed, ty mil- wriad. (Dywedodd hyn a chryndod yn ei lais). Y Llywydd: Felly yr ydych n gwadu y cy- huddiad P Y Carcharor 0! ydwyf, yn wir, fy milwr- iad. Gofynwyd iddo gwestiynau ereill gan y Llywydd, a chroesholwy9; ef gan Major Car- riere. Daliai Dreyfus i wadu yn bendant bob cyhuddiad a ddygwyd yn ei erbyn. Gyda golwg ar bersonau sydd wedi ymddangosi yn bur gyhoeddus yn y cliwareuad" yma, lei ei gelwir, fe ofynwyd y cwestiynau canlynol: A oeddych yn adnabod Commandant du Paty de Clam ?—Nac oeddwn. A oeddych yn adnabod Commandant Heniy P—N ac oeddwn. A oeddych yn adnabod yr Is-filwriad Pic- quart ?-Nac oeddwn. A oeddych yn adnabod Commandant Es- terhazy?-—Nac ceddwn. Ai ni ddarfu i chwi ysarifenu ato ?—Naddo erioed. 0 Dywedodd Commandant du Paty de Clam fod eich llawysgrifen pan ar "dictation" yn llai sefydlog na chynt pan y rhoes chwi ar brawf y diwrnod y eymcrvvyd chwi i fy;ly Nid oedd yna fawr o wahaniaeth. Yr ydych wedi cyfaddef i Commandant du Paty de Clam?'—Ni chyffesais ddim erioed i Commandant de Clam. Mi ddywedais, "Y mae yn anghyfiawn ynoch i gondemnio dyn dieuog." Ni chyffesais ddim. Yna gosodwyd y "bordereau," sef yr ys- grifau drwy yr hwn, fel yr honir y bradych- odd Dreyfus Ffrainc, o fiaeii ei lygaid a gofynodd y Llywydd a oedd yn ei hadwaen fel ei lawysgrif ef ei hun. Yntau y car- charor, gydag egni, a WADODD MAI EFE OEDD EI HAWDWR. Yn y cyfwng yma, gofynodd yr Erlynydd ar i gynwys y "secret dossier" (wrth yr hyn y meddylir, casgliad mwy neu lai o ysgrifen- iadau personol yn dal cvsylltiad a'r mater, ac nid oes ond un ohonynt, os nad yw Swydd- I fa RhyfeI wedi gwneyd rhai ereill twyllod- rus, yn enwi Dreyfus yn ol ei enw, ac y mae hyn yn hollol gyffredin a diniwed) gael ei drafod gyda'r drysau yn nghauad. Caniata- odd y llys hyn. Am hyny bydd y llys cy- hoeddus yn cael ei olurio am bedwar niwrnod. Yn ystod y prawf, fe gyfeirir yn fynych at son yma y golygir Commandant Paty de "y foneddiges mewn gorchudd," wrth y per- Clam. Wrth y "bordereau" y golygir dalen o bapyr, wedi ei dori yn bedwar darn, y rhai y dywedir a gaed yn mysg papyrau wast yn y Llysgenad-dy Germanaidd gan yspiwyr o Swyddfa Rhyfel Ffrainc. Prynodd yr yspi- wyr y papyrau o dan y cochi mai masnach- wvr mewn cadachau oeddynt. Dyma fel yr oedd CYNWYS Y PAPYR: — "Er nad oes genyf yr un newydd yn nghylch fy hun ag y carech fy ngweled, yr wyf, er hyny, syr, yn anfon rhai pethau o ddyddordeb i chwi: 1. Nodyn ar y 'brake hydraulic' 120, a'r modd yr oeddynt yn gweithio pan wnaed yr arbrawfiadau. 2. Nodyn ar y galluoedd i orchuddio (g-.velir rhai cyfnewidiadau yn y daear- leni newydd). 3. Nodyn ar welliantau yn ffurfiadau y magnelwyr. 4. Nodyn yn nghylch Madagascar. 5. Cynllun o lawlyfr ymarferiadau i faccnelwyr y maes. "Y mae yn anhawdd iawn cael y llawlyfr yma, ac ni fydd yn fy meddiant ond am ychydig ddyddiau. Y mae y Gweinidog Rhyfel wedi anfon nifer penodol ohonynt i'r gatrawd, a'r gatrawd hon sydd yn gyfrifol am danynt; y mae pob swyddog i anfon ei un yn ol ar ol yr ymarferiadau. Felly, os dymunwch gymervd ohono beth fydd yn ddy- ddorol i chwi, a'i gadw i mi ar ol hyny, mi a'i cymeraf os na fuasech yn dewis ei gael wedi ei gopio yn llawn, a dim ond anfon oopi ohono i chwi. "Yr wyf ar fyned allan i'r ymarferiadau." Y mae yr oil o'r gwyr cyfarwydd mewn olrhain llaw^grifen ag y mae pwys yn eu barn yn credu nad Dreyfus a ysgrifenodd y llythyr uchod ac y mae y mwyafrif ohonynt yn credu mai Esterhazy a wnaeth. Cyfaddefai Dreyfus ei fod yn adnabod DYNES YN AWSTRIA; oi rl nid ymddygodd yn annoeth. Ni ddywed- odd fod gwyr Alsace (y wlad a gymerwyd oddiar Ffrainc gan Germani adeg y rhyfel rhwng y ddwy wladl yn 1870) yn hapusach fel Germanwyr nag fel Ffrancod. 11 "Ond cadfridog o'r fyddin," ebai'r Llyw- ydd, "sydd yn eich cyhuddo. I beth yr ydych chwi yn priodoli ei deimlad drwg tuag atoch ?-"Fe'i clybuwyd yn dweyd nad oedd arno eisieu Iuddewon yn mysg y swyddog- iOll." "Sut y gwyddoch ?"—"Mi glywais hyny." "Ac yr ydych yn priodoli ei deimlad drwg oherwydd eich crefydd ?"—"Yn sicr felly, fy milwriad." Fe 'd^ywedir fod atebion Dreyfus wedi peri i lais y Llywydd, otidkl ar y dechreu yn arw, leddfu cryn lawer at y diwedd. Y mae nifer luosog o dystion i'w holi ar ran at erlyniad.

Y Lleygwyr ar yr an tir a'r…

Y Gwrthryfel yn Sisrra jLeane

Advertising

BAHWEIKIAD OFNADNY YN AMERICA

II Chymer el Ghwipio Iwy.…

Rhagolygon Difrifol;'l n yr…

Dau Ldarlnn: Sant a !

Rhyfel Newjdd America. i

Merched fel Meddygon.

Dirywiad Gwybailasth am Lysiau

Dynes o Fanyor mewn Helbul

Damwain AngauoI yn Ngorsaf…

Darlun y Frenhines.

G WYLIAU HAF,

Lnnchio mewn Camsynied.

Mam Greulon.

Dynes Gyfrwys

.Cael Corph Dyn mewn Pwll.

Y Gynddaredd.

--Lladron Sardinia.

Jabez Balfour yn Cann yn y…

Y Glowyr.

Athrontaeth Llythrenau."

[No title]

Al Armagedon?

Eglwys Gyfoethog Dlawd (?)

Tan mewn Glofa yn Abercanaid.

Yr Oracl a Lefarws.

[No title]

0 BEN Y TWR.

Advertising

Sheidoniaeth1 m --

[No title]