Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

34 erthygl ar y dudalen hon

I;-1 9%.0, DREYFUS AR EI AIL…

Y Lleygwyr ar yr an tir a'r…

Y Gwrthryfel yn Sisrra jLeane

Advertising

BAHWEIKIAD OFNADNY YN AMERICA

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BAHWEIKIAD OFNADNY YN AMERICA Haner Cant o Fywydaa Wedi Colli Boreu dydd Lun dychrynwyd y wlad gan adroddiadau am ddwy ddamwain ofnadwy a gymerasant le, pryd y collodd ugain o bersonau eu bywydiau mewn un ddamwain, a thua deg ar hugain mewn damwain arall. Digwyddodd y trychinebau hyn yn Nhal- aethau Maine a Connecticut, yn yr America. Yma yr oedd caerfa gref Piwritaniaeth, a chedwid y Sabboth yn ofalus yno. Ond tyfodd syniadau eangach yn y blynyddoedd diweddaf; a cheir pleserdeithwyr yn myned AR Y SABBOTH gyda'r cledrffyrdd a'r cychod, tra v mae nifer mawr o bobl yn myned am y dydd gyda'r gerbydau trydanol, ac y mae llinell- au y cerbydau hyn yn myned yn mhell ar hyd rhanau prydferth o'r wlad. Yr oedd Rheilffordd Ganolog Maine yn rhedeg pleserdeithiau ar ddydd Sul i Borthiadd Bar, lie pur boblogaidd yn yr haf. Aeth cerbydres fawr, deuddeg o gerbydau, o orsaf Bangor, ac ynddi yr* oedd canoedd o bobl o Mount Desert Ferry, lie y cyfnew- idir y gerbydres i fyned mewn cwch am wyth milldir i Borthiadd Bar. Yr oedd y dyrfa yn ymwthio ar eu ffordd o'r berth i'r agerlong, ac yr oeddynt i gerdded ar hyd plane coed, deugain troedtedd o hyd, a troedfedd o led. Yn sydyn rhoddodd y planc ffordd yn ei ganol, a thaflwyd UGEINIAU 0 BOBL I'R DWFR. Gan fod y lie rhwng y berth a'r agerlong yn fychau, yr oedd y gwaith o waredu y bobl yn anhawdd. Neidiodd rhai dynion i'r dwfr, ond gwaith anhawdd a pheryglus ydoedd, gan fod y rhai oeddynt ar foddi yn yn gafael a'u holi nerth ynddynt. O'r di- wedd, llwyddodd dau ddyn cymhwys i drefnu nifer o ddynion ereill: gollyngasant ysgolion a rhaifau, a thynwyd i fyny nifer o'r rhai oedd yn ymdrechu yn y dwfr. Dal- iai dau ddyn ysgol, ac i fyny ar hyd hon y dringodd triugain o bersonau. Mor fawr oeou y draul ar gyrph y ddau fel y maent yn gorwedd. A-uroddir am lawer hanesyn gwrol. Llwyddodd bachgen o'r enw Mat- tox i hudo bachgen mud a byddar o'r Gillie, i ddyfod gyda'r bleserdaith, heb yn wybod i'w fam. Suddodd y mud a'r byddar druan, ond gwaredwyd Mattox. Brathwyd ef yn ei gydwybod am hyd-ddenu y bachgen, a neidiodd Mattox i'r dwfr; ac wedi ymdrech galed dygwyd Gillie i'r Ian. p dawelodd1 pethau ychydig, cafwyd fod ugain o bersonau wedi colli eu bywydau. Yr oedd MWY 0 GOLLI BYWYD yn nhrychineb Connecticut. Yr oedd llinell newydd o "trolley cars" yn cael ei hagor yr wythnos ddiweddaf rhwng Dinas Bridgeport a thref Shelton, rai milldiroedd i'r gogledd. Dydd Sul oedd y Sabboth cyntaf iddi redeg, ac aeth llawer o bobl gyda hi ar bleserdaith. Cynwysai y cerbyd o'r ddinas oddeutu deugain o deithwyr, ac aeth oddiar y rheiliau ar lyn melin, oedd yn wag, gan syrthio pymtheg ar hugain o droed- fedcli i'r dwfr, a. throi drosodd wrth ddymch- v. rl. Darfu i'r tryciau trymion a'r motor, yu pwyso rhai tunelli, wthio gwaelod y cer- byd tt yn erbyn y top, gan wasgu y bobl cyd- rhy iigddyub. Digwyddodd y ddamwain mor gyflym fel na allodd ond tri neu bedwar o bobl neidio allan. Diangodd un o'r rhai hyn heb niweidiau drwy neidio i'r mwd. Lladdwyd ereill yn y fan neu cawsant eu hanafu yn dost. Y mae nifer y rhai a ladd- wyd yn naw ar hugain. Adroddir am lawer digwyddiad teimladol. Deuwyd o hyd i gorph difywyd baban yn mreichiau dyn, yr hwn oedd yntau yn farw. Canfyddwyd dynes o dan y sedd, a baban yn ei mynwes. Cymerwyd y baban ymaith yn fyw, ond erbyn dyfod yn ol yr oedd y fam wedi marw. Bydd i'r teimlad cyhoeddus fynu YMCHWILIAD LLAWN i'r trychinebau hyn,. Yn ol yr adroddiad cyntaf, digwyddasant drwy ddiofalwch an- esgusodol, gan nad oedd y plane coed wedi ei brpfi cyn rhoddi llwyth trwm arno; ac hefyd drwy redeg y cerbyd yn rhy gyflym yn namwain Connecticut. Gellid bod yn sicr y bydd i rai selog dros gadwraeth y Sabboth edrych ar hyn fel bys Rhaglun- iaeth," yn arwyddo anghymeradwyaeth y Nefoedd o waith pobl yn ymbleseru ar y Dydd Sanctaidd.

II Chymer el Ghwipio Iwy.…

Rhagolygon Difrifol;'l n yr…

Dau Ldarlnn: Sant a !

Rhyfel Newjdd America. i

Merched fel Meddygon.

Dirywiad Gwybailasth am Lysiau

Dynes o Fanyor mewn Helbul

Damwain AngauoI yn Ngorsaf…

Darlun y Frenhines.

G WYLIAU HAF,

Lnnchio mewn Camsynied.

Mam Greulon.

Dynes Gyfrwys

.Cael Corph Dyn mewn Pwll.

Y Gynddaredd.

--Lladron Sardinia.

Jabez Balfour yn Cann yn y…

Y Glowyr.

Athrontaeth Llythrenau."

[No title]

Al Armagedon?

Eglwys Gyfoethog Dlawd (?)

Tan mewn Glofa yn Abercanaid.

Yr Oracl a Lefarws.

[No title]

0 BEN Y TWR.

Advertising

Sheidoniaeth1 m --

[No title]