Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

26 erthygl ar y dudalen hon

MEYFUS

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MEYFUS Y PRAWF CYHOEDDUS WEDI AIL DDECHREU. TYSTICOX YN ERBYN Y CAR CHAROR. CEISIO LLADD DADLEUYDD Y GARCHAROR. Dau Ddyn mewn Dalfa ar Ambenaetb. FFRAINC YN BERWI gan DEIMLAD IUCHEL. Yr cedcl y llys yn agored i'r Qyhoedd ddydd Sadwrn, pryd y rhoddwyd tystiolaeth gan M. Casimer Perrier, cyn-Lywydd y Weriniaeth, a'r Cadfridog Mercier. Eglurodd y diweddaf ei resymau dros gredu fod Dreyfus yn euog, ac ychwanegodd fod Ffrainc yn 1894 o fewn dim i fyned i ryfel a Germani. Ar un llaw yr oedd gan- ddynt eu safle wleidydclol i'w hystyried— yr oedd Ffrainc yn anmharod am ryfel- ac ar y Haw arall yr oedd ganddynt lythyrau yr oedd o bwys i lys mihvrol Dreyfus eu gweled. Rhoddodd M. Calmer Perrier arwyddion ei fod yn gofidio oherwydd yr ystori hon, ac ar y terfyn gofynodd am ganiatad i roddi tystiolaeth i'r gwrthwyneb. Ar un adeg yn ystod y gwrandawiad bu golygfa gynhyrfus. Dywedodd y Cadfridog Mercier pe buasai yn ei feddwl yr amheu- aeth leiaf o berthynas i euogrwydd Dreyfus y buasai y cyntaf i addef hyny. Yehwan- egodd hefvd, gan droi at Dreyfus, y buasai yn dweyd yr un modd wrth y carcharor ei fod wedi camgymeryd. Cynhyrfodd hyn Dreyfus yn ddirfawr. Cododd pi Bydyn, a'i wyneb yn welw, ac ymddangosai fel pe bai am ddisgyn ar y tyst. Ga.n godi ei ddwrn dywedodd, "Dyna ddylech ddweyd" (cymeradwyaeth). Yodid bynag, cymerodd swyddog milwrol ofael yn Dreyfus, a dododd ef i eisteuil. Fel yr elai y Cadfridcg Mercier o'r neu- add hisiVlyd ef. 8AETHU DADLEUYDD DREU uS. Achoswyd eyffro anghyffredin yn y Llys boreu ddydd Llun pan ail-agorwyd prawf Dreyfus. Cododd Me. Demange (prif ddad- lenydd y cybuddedig) ar ei draed a hysbys- odd y Llys fod ei gyfaill Me. Labcri wedi ei eaethu wrth ymyl y bont sy'n croesi'r afon. Gollyngodd y dyhirod dair o ergydion, a chymerodd dwy ohonynt. effaith. Cafodd Me. Labori ei saethu y ei wyneb, ac y mae yn gorwedd mewn ys-tad bervglus. Wedi cyflawni eu budrwaith diangodd y dyhirod. Wedi gwrando ar Me. Demange, gohiriwyd y Llys yn nighanol y cyffro mwyaf. Yr oedd M. Labori ar y pryd y saethwyd ef yn nghwinni y Milwriad Picquart a'i frawd—yn-nghyfraith. Gyda bod y tri yn ymyl y bont, neidiocld y dyhiryn o'i gudd- le, a cliyda llawddryll saethodd M. Labori yn ei gefn. Rhedodd y dyhiryn ymaith. Yr oedd gan M. Labcri ar y pryd yn ei law, yn cynwys papyrau yn perthyn i'r prawf. Cafodd y bag yma ei ladrata gan ddau ddyn oedd yn hongian o gwmpas. Aeth y belen o'r llawddryll rhwng dwy ys- gwydd Labori. CYFFRO MAWR. Creodd y dyhirwaith y cyffro mwyaf drwy bob rhan o'r wlad. Brysiwyd i alw y Wein- yddiaeth yn nghyd yn Paris, ac ofnid i wrthryfel dori allan. Pan wnaed yn hys- bys y weithred yn y llys yn Rennes, rhuthrodd gohebwyr newyddiaduron, bar- gyfreithwyr, a milwyr allan i fangre yr olygfa. Deallwyd fod personau yn ymlid y carcharor, ac yr oedd desgrifiadau wedi eu rhoddi ohono. Barna rhai o newyddiadur- on Ffrainc nad yw hyn ond rhan o gynllun eang i lofruddio per^cujau adnabyddus yn nglyn a phrawf Dreyfus. Y me y Wasg yn gyffredinol yn condemnio yr anfadwaith. "Nid yw hyn," meddir, "ond engraifft o'r dinystr ilr hivn y mae y wlad yn rhuthro iddo." DAL Y DYHIRYN. Daeth y tiewydd o Le Mans prydnawn dydd Llun fod peirianydd llyngesol o'r enw Gallet wedi ei gymeryd i fyny ar y cyhudd- iad o ymosod ar M. Labori, a dywedir ei fod yn tebygu yn hollol i'r desgrifiad o'r ymoscdydd. Tybir ei fod yn un o naid o ddynion sydd a'u bryd ar ddiny-trio. Pan geisiai y bobl ddal yr ymosodydd, dyna ddywedodd, "Yr wyf wedi saethu Dreyfus." HYSBYSU Y LLYS. Pan gvfa.rfu v llys boreu Llun, gofynodd Maitre Demange, cyd-d'dadleuydd Labori drcs Dreyfus, i'r Llywydd am ganiatad i ohirio'r Llys er mwyn ei alluogi i gael gwybod am sefyllfa ei gymrodyr, Maitrc Labori, yr hwn oedd wedi ei saetnu ar y ffordd i'r lIys. Y Llywydd Y mae hyn yn dra gofidus. Cyfarfu y llys eilwaiih ar ol y gohiriad. Ail-alwyd ar y Cadfridog Mercier, yr hwn a ddvwedodd drachefn nad oedd pi eredl] mai Est.erhazy, er yr oil a ddywedai ei hun, oedd awdwr y "bordereau." Er i Ester- hazy ddweyd mai efe oedd awdwr y papyr, eto creda y Cadfridog Mercier fed byn yn 'j?,slwyddog. Ac er mai nid Uawysgrifen Dreyfus oedd ar v papyr, credai er hyny mai efe a gyfarwyddodd iddo gael ei ysgrjf- ellU. Y CADFRIDOG BILLOT. cedd y nesaf i gael ei holi. Bu yn Wein- idog Rhyfel. Rhoddes hanes yr achos cyn ibelled ag yr oedd a fynai efe ag ef. Mewn atebiad i ofyniad yn nghylch ei amheuaeth un amser o euogrwydd Dreyfus, dywedodd y Cadfridog Billot iddo gael ei arwain i'r grediniaeth hono gan yr hyn a ddywedwyd wrtho gan y Milwriad Picquart. Ond yn awr, fell Lj-Lag, yr oedd yn axgyhoeddedig -6h" fod Dreyfus yn euog (cyffro yn y llys). Yr oedd wedi synu at dwyll Henry. Yna cyf- eiriodd y Cadfridog at ffaith newydd yn yr wchoi. Fe'i hysbyswyd gan .fasnachwr o Lyons, o'r enw M. nis Yilloii;, iddo glywed dau swyddog tramor yn siarad hefo eu gilydd. Ebai un ohonynt, "Y mae yn beth gwarthus, yr un pryd, fod swyddogion Ffrengig yn gwerthu eu gwlad." A'r llall a ddywedodd, "Y mne yn fendith i ni. Darin i Dreyfus, er engraifft, ddatguddio dirgelion y fyddin. a Cododd y carcharor i fyny, a dj-wedodd fod hyn oil yn gelwydd. M. CAAIGNAC. oedd y nesaf i roddi tystiolaeth. Bu yntau yn Weinidog Rhyfel. Y mae efe yn credu yn gryf fod DreyfGs yn euog. Aeth dros yr hanes a'i resymau dros ei gred, ac o o honynt oedd fod y carcharor wedi addef ei fod yn euog. Yna trodd i sylwi ar dwyll Henry, a dywedai fod y pipyrau twyllodrus hyn wedi eu dwyn yn mlaen fel rheswm dros ail-ymchwiliad, ond ni ddarfu i'r Llys Apel gyfeirio atynt. Dywedodd y carcharor ei fod yn synu fod y Cadfridog, oedd wedi dyfod yn mlaen yn y Tribune of Chamber- lain gyda phapyrau twyllodrus Henry, yn sefydlu ei hun ar weithrediadau at y rhai y gwnaed cyfiawnder gan y Llys Apel (cyffro hirfaith). Y CADFRIDOG ZURLINDER oedd y tyst nesaf. Bu yntau yn Weinidog Rhj-fel, a cliredai yn gryf fod Dreyfus yn euog o'r hyn y cyhuddid ef. Yn ystod. ei dystiolaeth daliai i gredu yn gadarn yn euogrwydd Dreyfus. Gyda golwg ar gael yr holl wir yn nglyn a'r bordereau, yr oedd yn angenrlieidiol iddynt gael o'u blaen y pedwar nodyn y sonir am danynt ynddo. Y Carcharor a ddywedbdd Yr wyf yn cytuno a'r geiriau yna, Filwriad. Yr wyf finau, hefyd, yn awyddus am y gwir. Nid wyf yn gofyn ond am y gwir (cyffro yn y Ilys). Y CADFRIDOG CHANOINE fu hefyd yn Weinidog Rhyfel, ac a roddodd ei dystiolaeth yn yr achos hwn. Credai fod y oarcharor yn euog. Dywedodd eto fod gwyliadwriaeth wedi ei chadw ar rai swyddogion neillduol, ac yn y diwedd canol- bwyntiwyd1 ar Dreyfus. Nid oodd gan y carcharor ddim i'w ddweyd ar y dystiolaeth yma. M. HANOTAUX a fu yn Weinidog Tramor yn Ngweinydd- iaeth Dupuy yn 1894, ac a roddodd dystiol- aeth rywbryd i'r un perwyl ag a roddodd o flaen y Llys Apel. Gohiriwyd y llys hyd foreu Mercher. YR YMGAIS I LOFRTJDDIO. Yn Berlin, prifddinas Germani, y mae yr ymgais i lofruddio M. Labori wedi creu cyffro anghyffredin, ac yn dangos mor uchel y mae tonau nwydwylltedd yn rhedeg yn Ffrainc. Pan ddaeth gwraig M. Labori ato, pan oedd yn-gorwedd ar ochr y ffordd, a'i law yn cynal ei ben oedd yn gorwedd ar y bag lie yr oedd ei bapyrau, dywedodd wrthi, "Mae yn dda genyf eich bod yma, yn awr." Aeth gohebydd ato, a gofynodd iddo, "A ydych mewn poen mawr ?" Atebodd yntau, "Ydwyf, mewn poen mawr. Y mae genyf belen yn fy nghefn. Ah! y dyhirod." Daeth dau feddyg yno, ac ebai Labori wrth Dr Brissaud, ei gyfaill, gan wasgu ei law, "Yr wyf yn falch eich bod yma." "Peidiwch bod yn bryderus. Nid yw yn ddim. Ceisiwch symud eich coesau. Wedi ei arcbwilio, dywedodd un o'r meddygon, pan ofynwyd a oedd yr achos yn un difrifol, "Yn wir, nid wyf yn meddwl hyny. Ni bu yn poeri gwaed. Y mae yn gallu symud ei goesau; yn rhwydd. Yr wyf yn gobeithio nad yw v belen wedi suddo yn ddvfnach na'r gewynau." Cludwyd Labori i Hotel Mualler gan y milwyr. Yr oedd gwraig Labori yn myned gydag ef i'r Llys ond ar ei ffordd yno cofiodd nad oedd tocyn mynediad i mewn gyda hi. Troos yn ol i'w geisio. Erbyn dychwelyd canfu ei gwr yn gorwedd ar lawr. Ni bu yn ab- senol ond ychydig fynydau. Bu Labori yn gorwedd ar lawr am ddeng mynud ar hug- rtiii heb neb yn gweini arno, ac meddai, "Dywedwch wrth fy ngwraig fod fy holl feddyliau gyda hi." CYDYMDEIMLAD A LABORi. Bu y Cadfridog Mercier a'r Milwriad Jouaust yn ymweled a. Labori. Y mae pellebron a Ilythyrau yn ymdywallt yn cydymdeimlo a'r dadleuydd dysgedig. Y WRAIG YN SAESNES. Y mae gwraig Labori yn Saesges o waed, ac yn adnabyddus yn y byd cerddorol fel Miss Maggie Okey, a bu yn chwareu yn y Covent Garden Promenade Concerts yn 1882. Yr oedd ar y pryd yn ddisgyybles yn Athrofa Gerddorol Llundain; ac ystyrid hi yn fedrus i chwareu ar y berdoneg. Bu ar daith drwy Awstria. a Germani. Yno cyfarfyddodd a'r perdonegwr, M. de Pach- mann, gyda'r hwn y priodcdd. Annedwydd fu yr ieuad; ac ysgarwyd y ddau, ar gais y wraig. Fel Madame de Pachmann, fodd bynag, bu y foneddiges yn chwareu yn y cyngherddau goreu-Popular, Crystal Palace, Philharmonic, ac ereill. Aeth i Paris, ac yno y cyfarfyddodd a'r bargyf- reitbiwr gobeithiol, Maitre Labori. Priod- ag ef, ond nid yw yn ymddiangos yn gy- hoeddus. Y mae y rhai a'i clywsant hi gar- tref yn Paris yn dweyd ei bod yn parhau i gadw i fyny yr arferiad o chwareu y ber- doneg, a'i bod yn chwareu mor swynol yn awr ag erioed.

NEWYDDION DIWEDDARAF.

Damwain Angeuol yn Connah'sI…

Y Cynghor Plwyf a Mesur y…

Lladd Gyriedydd.

"Llaw Dyn yn Llyw Danl." p.…

Yr lanci yn Llefam. »

46 yn Cael eu Lladd.

Anghoflo'l Enw. --

III AC ACW.

Gwlaw a Chenllysg.

A Geir Amgueddfa 1 Gymru ?

CRYFBAIR LLYSIETJOL GWERTHFAWR.

Diangfa o'r Grogbren

Eisteddfod Ceerdjdd.

Hela Byfrgwn yn Lleyn.

Deddf newydd Prlodl.

Ergydio ar y Babaeth.

Y TRANSVAAL

[No title]

Dinystrio Pymtheg o Longau.

IGorsedd Rwsla. -

Rbellffordd Ysgafn i Ebenezer.…

Claddedigaeth yr Henadur 0…

Rhyw Helynt hefo'r Eglwys…

Beth sydd ar Bersanlald Sir…