Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

36 erthygl ar y dudalen hon

YMA Ag ACW. .----1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMA Ag ACW. Y mae yr Archdderwydd Hwfa yn par- atoi i gyhoeddi llyfr yn dwyn yr enw "Darn- au Byrion." Wrth bregethu yn Mynachlog West- minster, ddydd Sul, gwnaeth y Canon Gore gyfeiriad at brawf Dreyfus a helynt y Trans- vaal. Y mae llawer o ymwelwyr yn dyfod i Gaer- narfon bob dydd, ond dros dro-rhyw dair awr ar yr eithaf-yr arhosant. Paham? Bu farw pedwerydd Iarll Mexborough yn 90 mlwydd oed. Yr oedd yn wr goiudog ac yn ysgolor gwych. Dydd Gwener, bu ein Grasusaf Frenhines yn gwrando ar lais Ymherawdwr Menelik o Abyssinia drwy'r sain gludydd. Y mae dros ugain o fyfyrwyr eisces wedi anfon eu henwau i fyned o dan y cwrs byr o addysg gerddorol roddir yn Ngholeg Aber- ystwyth. Hysbysir mai y Parch Cynwyd Thomas, Caerdydd, ydoedd "Hallam," sef y "goreu" ar destvn Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae yr larlles Telfner, boneddiges Idal- aidd, ai meibion, wedi cymeryd itliiw Al- dog, sir Feirionydd, am fisoedd yr haf, ac yn proswylio yno. Dei byniodd Mr Evan Evans, Llanvbj7 Jde", yr alwad i fyned yn weinidcg ar ckj 01 11 1 1 Annibynol Llanegryn a Nazareth, ger Towyn, Meirionydd. Llacklwyd dyn ieuanc o'r enw John Phillips, Seaside, Llanelli, gan y gwres tra yr oedd yn hel cccos ar draeth Llanelli ddydd Mercher. Sut ddyn yw Dreyfus? Dyma fel yr etyb Dr Max Nordan yn y "Daily Mail:"— Yn gorphorol, y mae yn ddrylliau; yn ys- brydol, cawr diymadferth. Bydd i'r Anrhyd. Daphne Rendel, trydedd fercn Arglwydd Rendel, briodi a Cadben Martin Dunne, Gattery Park, swydd Here- ford, yn Llundain, yn mis Hydref. Yn ol y trefniadau presenol, gedy y Fren- hines Ynys Wyth am yr Ucheldiroedd ar yr 31ain cyfisol. Pa, bryd y ceir palas bren- kinol yn Nghymru? Y mis nesaf, bydd i Anibynwyr sir Feir- ionydd goffa dau can' mlwyddiant marwol- aeth Hugh Owen, Bronyclydwr, y diwygiwr Cymreig, gladdwyd yn Llanegryn. Yn y Friog, mae pafilion newydd ei godi yn cynwys lie i 250 o bersonau. Cynhelir yno wasanaethcrefyddol ar y Sul, gan yr Annibynwyr foreu a hwyr, a chan y Meth- odistiaid yn y prydnawn. Dydd Sadwrn yr oedd pont y rheilffordd sydd yn croesi yr Hafren yn Kilkewick, rhwng Trallwm ac Aberystwyth, ar dan. Llwyddwyd i ddiffodd y fflamau, oedd yn lledu gyda chyflymdra ofnadwy. Sibrydir fod trigolion Dyffryn Nantlle yn siarad am wneyd anrheg o "beie" "camara" i Jack y Llongwr, er 1:1 fyned o gwmpas y wlad i gael W" Wel, mi gant hwy farnft j,J"i' Adroddir fod y Parch Rice Owen, Fern- dale, cadeirydd Talaeth Wesleyaid Deheu- dir Cymru, yr hwn a gymerwyd yn glaf yn nghyfarfod y Gynhadledd Brydeinig, lie yr oedd fel un o gynrychiolwyr Cymru, yn gwella yn ffafriol. Cyrheddodd y bleserlong "Shamrock" i Efrog Newydd boreu ddydd Gwener. Croes- odd y Werydd mewn pymtheng niwrnod. Yr amcan yw ei rhedeg mewn ymdrechfa hwylio yn erbyn y bleserlong Americanaidd "Col- umbia; Enillwyd y wobr yn Eisteddfod Corwen am yr ymson oreu ar "Ing y Groes," gan heddwas o'r enw R. A. Thomas, o Feirion- ydd, yr hwn sydd ers blynyddau wedi cyf- lwyno y menyg gwynion i Farnwyr ei Mawrhydi. Yn Mwrdd Ysgol y Wyddgrug, ar gyn- tt,' ygiad v Parch E. Bithel, CoedlLai, ac eiliad y Parch T. Jones-Humphreys, penderfyn- wyd ceisio gan lywodraethwyr yr Ysgol Sir- 01 i fabwysiadu Cymraeg fel testyn i'w ef- rydu yn yr Ysgolion Sirol. Mae Miss Hughes, Cheadle Hulme (rtfetrli y diweddar Barch D. Hughes, Trede, wedi anrhegu Capel Bethel, ger Caernarfon, a darlun hardd o'i thad er cof am ei gys- \12tiad a'r eglwys, lie y dechreuodd bre- getbu. Un o hynod bethau yr Arddangosfa yn Paris, Ffrainc, fydd gwlawlen fawr digon amgylchog i gysgodi 30,000 o bob!. Digou tebyg na fydd ei heisieu yn ystod yr Ardd- angosfa; ond purion peth fyddai i Gymru ei phrynu lie y mae yn gwlawio y rhan fwy- af o'r ilwyddyn. Mae dau ar bymtheg o'r pethau anfon- wyd gan Ddosbarth ,Celfol Ysgol Mvna.cn- dy Pantasaph i Arddangosfa Caerdydd wedi eu dewis i'w hanfon i Arddangosfa. Paris 115 o weithiau dysgyblion Ysgol Genedl- I aethol St. Marc, Connah's Quay; a rhai o Ysgol Sirol Treffynon. Dengys adroddiad Mr Bircham, arolyg- ydd Bwrdd y Llywodraeth Leol dros Gym- ru, mai 57,231 ydoedd cyfanrif y tlodion yn Nghymru y llynedd, gyferbyn a 57,248 y flwyddyn cynt. Gwnai hyn y llynedd gyf- artaledd o 3.1 o'r boblogaeth, a'r gost o'u oadw 4s 8-te y pen o'r boblogaeth. Dengys adroddiad Coleg Coffadwriaethoi Aberhonddu, yr hwn sydd newydd gael ei gyhoedldi, fod yna gymunrodd o 1058p 4s 10c wedi cael ei adael i'r sefydliad o dan ewyllys y diweddar Barch John Jones, Maesteg, tuagat ffurfio un neu ychwaneg o ysgoloriaethau o lOp yr un i'r myfyriwr mwy- y, af teilwng pan yn myned i'r coleg. Dydd Llun, yn Nghastell Fflint, yn ngwvdd cynulliad ffasiynol, chwareuwyd dramod Shakespeare, Kmg Richard II." gan gwmni Mr Benson. Codasid y llwyfan yn yr awvr agored. mostynglad Rhisiart i Boliugbroke, yn N ghasteill Fflint, ar yr 21ain o Awst, 1399, a awgrymodd i Faer a Chorphoraeth Fflint y priodoldeb o gael chwareu'r ddramod fel hyn. Mae pobl yn myned i Lanwrtyd-i chwareu croci! Campwr ar y chwareu, meddir, yw Dyfed. Dyma fel yr ebychws rhyw fardd iddo: Mae pawb a gwrddir ar y ground, Wrth fyned yn round i gerdded, Yn d'weyd na ddaeth un dyn, ers tro, I'r fro all guro Dyfed. Merch Trebor Mai yw Miss Gwladys Wil- Y ams, Gwrecsam, enillydd yr unawd soprano Eisteddfod Corwen. Am dani hi y dywed- odd Trebor, "Fy Ngwludys fy angel ydyw."

Marwolaeth Ynad Hedewch o…

"Gwr y Bolan."

GLYNYWEDDW.

[No title]

Erbyn yr Etholiad Nesaf.

Gwenwyno Tri o Bersonau.

Berw'r Transvaal.

Y Pla yn Portugal.

Costaa y Milwyr adeg y Streic

- Gofyniad

Advertising

I NEWTDDiON CTFFR £ SINOL.

Tarw yn Ymosod ar Ddau Weiildog.

IMi uddio ei Wraig. -

[No title]

[No title]

Anrhydeddu Brcdjr o Gaernarfon…

Gwella ar Natr.r.

Marw ar Fedd ei Wraig.

Cyflafan yc y Soadan.

Yn Myd y Gweitbiwr

Drwyo Rheithwyr Ahsenol yn…

A Anghofio Tad a M am? Gwnant

Australia: Atnserosdi Gwell.

Dychymyg a'r Bedd.

Llosgi Palas Iarll Powys I'r…

la ith Aflan a'r Canlyniadau.

--Cymdeithasfa Chwarterol…

Terfysg yn Paris.

Geneth yn Boddi yn Mhenhontarogwy...

Dychweliad yr Iuddewon i Ganaan.

[No title]

Beirniaid Eisteddfod Lerpwl

Bwrdd Gwarcbeidwaid Ponrhyndeudraeth.

--AIL BRAWF