Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
36 erthygl ar y dudalen hon
YMA Ag ACW. .----1
YMA Ag ACW. Y mae yr Archdderwydd Hwfa yn par- atoi i gyhoeddi llyfr yn dwyn yr enw "Darn- au Byrion." Wrth bregethu yn Mynachlog West- minster, ddydd Sul, gwnaeth y Canon Gore gyfeiriad at brawf Dreyfus a helynt y Trans- vaal. Y mae llawer o ymwelwyr yn dyfod i Gaer- narfon bob dydd, ond dros dro-rhyw dair awr ar yr eithaf-yr arhosant. Paham? Bu farw pedwerydd Iarll Mexborough yn 90 mlwydd oed. Yr oedd yn wr goiudog ac yn ysgolor gwych. Dydd Gwener, bu ein Grasusaf Frenhines yn gwrando ar lais Ymherawdwr Menelik o Abyssinia drwy'r sain gludydd. Y mae dros ugain o fyfyrwyr eisces wedi anfon eu henwau i fyned o dan y cwrs byr o addysg gerddorol roddir yn Ngholeg Aber- ystwyth. Hysbysir mai y Parch Cynwyd Thomas, Caerdydd, ydoedd "Hallam," sef y "goreu" ar destvn Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Mae yr larlles Telfner, boneddiges Idal- aidd, ai meibion, wedi cymeryd itliiw Al- dog, sir Feirionydd, am fisoedd yr haf, ac yn proswylio yno. Dei byniodd Mr Evan Evans, Llanvbj7 Jde", yr alwad i fyned yn weinidcg ar ckj 01 11 1 1 Annibynol Llanegryn a Nazareth, ger Towyn, Meirionydd. Llacklwyd dyn ieuanc o'r enw John Phillips, Seaside, Llanelli, gan y gwres tra yr oedd yn hel cccos ar draeth Llanelli ddydd Mercher. Sut ddyn yw Dreyfus? Dyma fel yr etyb Dr Max Nordan yn y "Daily Mail:"— Yn gorphorol, y mae yn ddrylliau; yn ys- brydol, cawr diymadferth. Bydd i'r Anrhyd. Daphne Rendel, trydedd fercn Arglwydd Rendel, briodi a Cadben Martin Dunne, Gattery Park, swydd Here- ford, yn Llundain, yn mis Hydref. Yn ol y trefniadau presenol, gedy y Fren- hines Ynys Wyth am yr Ucheldiroedd ar yr 31ain cyfisol. Pa, bryd y ceir palas bren- kinol yn Nghymru? Y mis nesaf, bydd i Anibynwyr sir Feir- ionydd goffa dau can' mlwyddiant marwol- aeth Hugh Owen, Bronyclydwr, y diwygiwr Cymreig, gladdwyd yn Llanegryn. Yn y Friog, mae pafilion newydd ei godi yn cynwys lie i 250 o bersonau. Cynhelir yno wasanaethcrefyddol ar y Sul, gan yr Annibynwyr foreu a hwyr, a chan y Meth- odistiaid yn y prydnawn. Dydd Sadwrn yr oedd pont y rheilffordd sydd yn croesi yr Hafren yn Kilkewick, rhwng Trallwm ac Aberystwyth, ar dan. Llwyddwyd i ddiffodd y fflamau, oedd yn lledu gyda chyflymdra ofnadwy. Sibrydir fod trigolion Dyffryn Nantlle yn siarad am wneyd anrheg o "beie" "camara" i Jack y Llongwr, er 1:1 fyned o gwmpas y wlad i gael W" Wel, mi gant hwy farnft j,J"i' Adroddir fod y Parch Rice Owen, Fern- dale, cadeirydd Talaeth Wesleyaid Deheu- dir Cymru, yr hwn a gymerwyd yn glaf yn nghyfarfod y Gynhadledd Brydeinig, lie yr oedd fel un o gynrychiolwyr Cymru, yn gwella yn ffafriol. Cyrheddodd y bleserlong "Shamrock" i Efrog Newydd boreu ddydd Gwener. Croes- odd y Werydd mewn pymtheng niwrnod. Yr amcan yw ei rhedeg mewn ymdrechfa hwylio yn erbyn y bleserlong Americanaidd "Col- umbia; Enillwyd y wobr yn Eisteddfod Corwen am yr ymson oreu ar "Ing y Groes," gan heddwas o'r enw R. A. Thomas, o Feirion- ydd, yr hwn sydd ers blynyddau wedi cyf- lwyno y menyg gwynion i Farnwyr ei Mawrhydi. Yn Mwrdd Ysgol y Wyddgrug, ar gyn- tt,' ygiad v Parch E. Bithel, CoedlLai, ac eiliad y Parch T. Jones-Humphreys, penderfyn- wyd ceisio gan lywodraethwyr yr Ysgol Sir- 01 i fabwysiadu Cymraeg fel testyn i'w ef- rydu yn yr Ysgolion Sirol. Mae Miss Hughes, Cheadle Hulme (rtfetrli y diweddar Barch D. Hughes, Trede, wedi anrhegu Capel Bethel, ger Caernarfon, a darlun hardd o'i thad er cof am ei gys- \12tiad a'r eglwys, lie y dechreuodd bre- getbu. Un o hynod bethau yr Arddangosfa yn Paris, Ffrainc, fydd gwlawlen fawr digon amgylchog i gysgodi 30,000 o bob!. Digou tebyg na fydd ei heisieu yn ystod yr Ardd- angosfa; ond purion peth fyddai i Gymru ei phrynu lie y mae yn gwlawio y rhan fwy- af o'r ilwyddyn. Mae dau ar bymtheg o'r pethau anfon- wyd gan Ddosbarth ,Celfol Ysgol Mvna.cn- dy Pantasaph i Arddangosfa Caerdydd wedi eu dewis i'w hanfon i Arddangosfa. Paris 115 o weithiau dysgyblion Ysgol Genedl- I aethol St. Marc, Connah's Quay; a rhai o Ysgol Sirol Treffynon. Dengys adroddiad Mr Bircham, arolyg- ydd Bwrdd y Llywodraeth Leol dros Gym- ru, mai 57,231 ydoedd cyfanrif y tlodion yn Nghymru y llynedd, gyferbyn a 57,248 y flwyddyn cynt. Gwnai hyn y llynedd gyf- artaledd o 3.1 o'r boblogaeth, a'r gost o'u oadw 4s 8-te y pen o'r boblogaeth. Dengys adroddiad Coleg Coffadwriaethoi Aberhonddu, yr hwn sydd newydd gael ei gyhoedldi, fod yna gymunrodd o 1058p 4s 10c wedi cael ei adael i'r sefydliad o dan ewyllys y diweddar Barch John Jones, Maesteg, tuagat ffurfio un neu ychwaneg o ysgoloriaethau o lOp yr un i'r myfyriwr mwy- y, af teilwng pan yn myned i'r coleg. Dydd Llun, yn Nghastell Fflint, yn ngwvdd cynulliad ffasiynol, chwareuwyd dramod Shakespeare, Kmg Richard II." gan gwmni Mr Benson. Codasid y llwyfan yn yr awvr agored. mostynglad Rhisiart i Boliugbroke, yn N ghasteill Fflint, ar yr 21ain o Awst, 1399, a awgrymodd i Faer a Chorphoraeth Fflint y priodoldeb o gael chwareu'r ddramod fel hyn. Mae pobl yn myned i Lanwrtyd-i chwareu croci! Campwr ar y chwareu, meddir, yw Dyfed. Dyma fel yr ebychws rhyw fardd iddo: Mae pawb a gwrddir ar y ground, Wrth fyned yn round i gerdded, Yn d'weyd na ddaeth un dyn, ers tro, I'r fro all guro Dyfed. Merch Trebor Mai yw Miss Gwladys Wil- Y ams, Gwrecsam, enillydd yr unawd soprano Eisteddfod Corwen. Am dani hi y dywed- odd Trebor, "Fy Ngwludys fy angel ydyw."
Marwolaeth Ynad Hedewch o…
Marwolaeth Ynad Hedewch o Fon Derbyniwyd y newydd o farwolaeth sydyn Mr Robert Jones, Y.H., Llanfaethlu, Mon, yn Harrogate.
"Gwr y Bolan."
"Gwr y Bolan." "'Daniel Owen succeeded in portraying ad- mirably the religious life of a Welsh village. Mr Williams has been quite as successful in portraying the social life. Moreover, per- haps for this cause, his book is not dull and sparkles with wit and drollery on every page."—"Welsh Gazette." "We do not know of anything more dis- tinctively Welsh in tone and character than this volume. In our opinion, it is more faithfully a reflect of Welsh life than even 'Rhys Lewis,' 'Gwen Tomas,' or any of the racy writings of 'Gwilym Hiraethog' in the 'Amserau' many years ago. Mr Williams is a delightful story-teller, and the Towyside vernacular invests his anec- dotes with a charm and point simply irresis- tible."—"Western Mail." "A series of delightful sketches of Car- marthenshire life which one is disposed to rank with the best efforts of Hiraethog and Daniel Owen. The delicate touches of pathos and humour that mark the sketches, which are instinct with life and movement, invest the volume with a special charm."—
GLYNYWEDDW.
GLYNYWEDDW. Yr oedd yr bin yn hafaidd iawn ddydd Sadwrn, a daeth yma lawer o bobl i wrando ar SeinJorf Arian Nentlle yn chwareu yn eu dull meistrolaidd eu hnnain. Arweinid gan Mr B. Z. Jones. Yn bwyrach yn y dydd chwaraent yn recreation grounds Mr Solomon Andrew?, yn y West End. Dydd Iau nebaf, bydd y band yn chwareu eto yn y recreation grounds, pryd y rhoddant y Tarnau a eniUasact arnyrt yn Eisteddfod Caeidydd. Y mae Mr Daniel Tegid Evans, Bala, y cerddor a'r dadganydd Cymreig dall, yn chwareu a chanu yn Nglynyweddw y dycidiau byn, ao yn tynu sylw mawr. Dydd Iau agorwyd eglwys goffadwriaethol
[No title]
i Edward Richard, yr ysgolor Cymreig, yn Ystrad Meurig. Dygwvd brawdlys sir Forganwg i derfvn- iad prydnawn ddydd Mawrth; a chan fod eu harglwyddi wedi cyrhaedd y dref mor bell yn ol a Gorphenaf 27ain, gellir ystyried y frawdlys 3n un a barhaodd hwyaf erioed yn Abertawe. Ar agoriad y gweithred- iadau, darfu i'r Barnwr Bruce, ar gais ei gydfarnwyr, roddi rhybudd difrifol i Gynghor Abertawe. Os oedd y llysoedd i gael eu parhau yn v dref, fod yn rhaid darparu llysoed4 newydd, ond wedi eistedd am bythefnos, ymddengys iddo ddweyd yn breifat fod ei brofiad o'r llY8 yn gyfryw nad oedd Af ya gweled fod yn angenrheidiol gwario swm mawrion o arian ar lysoedd newydd. CADBURY'S Cocoa, on the testimony of highest purity." It is entirely free from all foreign eubstances, sue as kola, malt, hops, &c., nor is alkali used to darken the colour (and so deceive the1 eve). Dr Andrew Wil- son, in a recent article in the "Illustrated London News," writes: "Cocoa is in itself a perfect food, and requires no addition of drugs whatever." CADBURY'S Cocoa is absolutley pure, and should be taken by old and young, at all times and in all seasons; for children it is an Seal beverage, promot- ing healthy growth and developments in a remarkable degree. Insist on having CAD- iURY'S as other Cocoas are often substi- tuted for the sake of extra profit. Sold only '0 PacVeta and Ti-s.
Erbyn yr Etholiad Nesaf.
Erbyn yr Etholiad Nesaf. Gwelwn fod amryw o etholaethau Rhydd- frydol yn parotoi ar gyfer y frwydr nesaf. Da y gwneir. Dylai fed gan y Rhyddfryd- wyr ymgeiswyr yn mhob man, a'r rhai hyny yn wyr profedig o ran eu ffydd wleidyddol. Argymhellwyd Mr T. Mackinnon Wood fel ymgeisydd y Rhyddfrydwyr yn Glasgow, rhanbarth St. Rollox. "Daily Chronicle," yw dewis-ddyn Rhydd- Mr A. E. Fletcher, cyti-olygydd y frydwyr rhanbarth Calmachie, Glasgow. Y sgrifenodd Mr C. E. Hobhouse i ddweyd ei fod yn barod1 i ddyfod allan fel ymgeisydd Rhyddfrydol dros Ddwyraill Bristol.
Gwenwyno Tri o Bersonau.
Gwenwyno Tri o Bersonau. Digwyddodd cyflafan ryfedd mewn pen- tref bychan o'r enw Gillmorton, gerllaw Edinburgh. Y gwrthrychau ydynt gweddw o'r enw Mrs Milligan, 48 mlwydd oed, a dau o bersonau a letyent gyda hi. Torwyd i mewn i'r ty boreu Sadwrn, a chafwyd Mrs Milligan yn gorwedd ar wely yn y gegin, yn farw. Ac mewn ystafell arall cafwyd hen wrig, o'r enw'Mrs Shaw, 80 mlwydd oed, ar fin marw, a dlyn gwael, 27 nilwydd oed, a'r anadl wedi darfod. Bu yr oil o honynt farw drwy wenwyn. Credir fod Mrs Milligan o dan ddylanwad diod pan gyf- lawnodd yr erchyllwaith.
Berw'r Transvaal.
Berw'r Transvaal. Oni buasai am brawf Dreyfus, yr hwn sydd yn parhau i lyncu pobpeth iddo ei hun buasai berw'r Transvaal yn hawlio ychwaneg o sylw. Anodd gwybod pa le y mae v gwirionedd yn (yr achos. Gwreiddyni yr helynt pw chwenychiad gwinllan y Boer- iaid gan aur-gloddwyr goludog y Transvaal. Hugan i guddio'r trachwant vw cwestiwn yr etholfraint. Nis gellir gwadu na bu ac nad yw y Boeriaid wedi ymddwyn yn annoeth iawn wrth fwrw anfri a blino'r Saeson. Y mae argoelion y dyddiau hyn fed yr Arlyw- ydd ar fedr caniatau etholfraint pum' mlyn- edd, rhydd oddiwrth bob atalfa; yn nghyda'r bedwaredd ran yn nghynrychiol- aeth y Ddeddfwriaeth. Os felly, mae heddwch ar y trothwy. Ond metliir a deall y c;.d-ddarparu helaeth sydd yn myned fm inLaen er's wMt.bnosau. Deallir ;fod Llywodraeth y Boeriaid yn rheoli'r pellebyr y rid iau hyn gyda llaw gadarn. Ni odd- elir i ddim newyddion fyned i'r nac o'r wlad ond sydd yn rhyngu eu bodd. Am hyny rh: dysgu disgwyl eto.
Y Pla yn Portugal.
Y Pla yn Portugal. Rhagddywedwyd er's tro nas gellid atal pla y Dwyrain rhag croesi o India i Ewrob. Y mae lie i ofni erbyn hyn ei fod wedi tirio yn Portugal. Haint arswydus ydyw. Cyr- haeddodd borthladd Oporo ddeufis yn ol, ond syrthiodd yr awdurdodau lleol i'r am- ryfusedd cadara o gelu a gwadu ei ddyfod- iad, yn hytrach na rhybuddio gwledydd ereill ac ymroddi at ladd yr ymwelidd. Ofnir fod cosb drom yn eu haros. Ymled- odd yr haint i Lisbon, a phan gofir am yistadl farbaraidd carthffo-ydd llawer o ddinasoedd y deyrnas hono, gall y canlyn- iadau fod yn erchyll i'r eithaf. Yn eu han- wybod aeth 60,000 o Hispaeniaid ar eu gwyliau i ardal gerllaw Oporto, a mawr yw dychryn Llywodraeth Spaen rhag i rai o'r triugfiin mil ddychwelyd a'r haint gydag ef. Cymerodd Bwrdd Llywodraeth Leol gam- rau pendant a diymaros er gwylio holl borthladdoedd y deyrnas—Prydain. Rhaid wrth wyliadwriaeth lem, ac er hyny gall dirio. Glanweithdra dyfal yw e:n n odd fa.
Costaa y Milwyr adeg y Streic
Costaa y Milwyr adeg y Streic Y mae Llys yr Apel wedi rhoddi dedfryd yn erbyn y gofynwyr-pedwar o fasuach- wyr, yn eu hawliad o 2500p am gadw y mil- wyr yn ystod ade-g y sefyll allan, a phen- derfynodd yr ynadon alw milwyr o swydd Dyfneint i lawr i Aberdar, Aberaman, a Mountain Ash. Cytunwyd a'r pedwar gof- ynydd i gyfleuwi y milwyr hyn ag ymborth, &c., yn ol swm neillduol yr un. Yn y cyf- amser, penodwyd is-bwyligor i ystyried y swm a ofynid, a thynwyd llawer arno i lawr; ond gwrthododd y pedwar gofvnydd yr arian heb gael y swm yn llawn, a chawsant orfodwys (mandamus) yn galw am i'r Cyng- hor Sirol dalu y swm yn llawn. Wedi hyny tled a'r mater i'r Uchel Lys, a dyfarnwyd yno nad oedd hawl gyfreithlcn i'r orfodwys fyned allan. Yna codwyd yr &chos i Lys Apel, ac yno dyfarnwyd nad oedd y Cynghor Sirolyii gyfrifol i dalu yr arian. Yr oedd yr ynadon wedi eu penodi o dan ySel Fawr i gadw heddwch yn eu sir eu hunain: os esgeulusent yr oeddynt yn agored i gael eu cosbi os profid esgeulusdod o'r fath ar eu rhan. Daeth y milwyr i'r sir trwy i'r yn- adon eu galw, a phwy oedd i dalu eu costau ? Yr oedd y llys yn cael iddynt ddod o dan arfau ac yn eu gwisgoedd milwrol, ac felly yr ymadawsant; yna nid oedd y Cynghor Sirol yn gyfrifol i. dalu i'r masnachwyr roddasant ymborth! iddynt. Teflid yr ipel allan gyd'r costau. ————.—————. i At gosfeydd ar fabanod, tarddiaritau yn
- Gofyniad
Gofyniad (At Olygydd y "Werin"). Syr,—\ mae yr ystori ganlynol weai cael lledaeniad mawr tua. chan' mljnedd yn ol, ac ar ol hyny, sef fed John Robert Lewis, yr Almanaciwr, wedi cael e: gynorthwyo gan Die Aberdaron i gyfieithu yr hwn a el- wir Geiriadur Cnarle. Pwy aJ eguio yr ystori hon ? GITTO COLLWYN,
Advertising
^EATING'S POWDER. KEATING'S POWDER. KEATItfG'S POWDEE. KlUf rtaM, Bttfi, Moiha. Bwtl* I.U18 Pleu. BUKI, Moths, Beeile80 KUU FICM, Bugs, Moths, B—U—■ Kill* FtoM, Bugs, Moths. BMtlML XJKTRIVALLED KILLER OF 0NRIVALLED KILLER OF UNRIVALLED KILLER OF « F1«M. Bug«t Moth»,.B»«0>> (Harmtou to eTerjvnng but In»eeU.) "Sold only In tins, 3d., M., »nA la. Only be sura you do get Keating PLEAS, BEETLES, MOTHS, BUGS, FLEAS, BEETLES, MOTHS, BUGS. piSBAS, BEETLES, MOTHS, BTJG8, RHYBUDD PWYSIG. 0 llYN AILAN CYIIOEDDIR ADROBDLYFR Y PLANT C, AN BEREN, Can v Percbenogipn, Cwmni'r Wasg Genedliethol Gymreig (Cyf.), a dylai pob archebion an d&no gael eu danfon yn union- gyrchol i SWYDDA'R' GENEDL GYMREIG, Caernarfon. PRIS: 6J, DRWY'R posr 7o. "ARWEINYDD I IECHYD" DR. COFFIN. LLYFR ADNABYDDUS AR LYSIEUEG. Pris, 3s 6c. Hefyd Holwyddoregau Byrion pris Ie yr un-or Hanes Iesu Grist, Dafydd, Daniel, Abraham, &c., &c. Cvhoeddir yn Swyddfa'r "Genedl," Caernarfon.
I NEWTDDiON CTFFR £ SINOL.
NEWTDDiON CTFFR £ SINOL. Cafodd Fitzharris (Skin the Goat), a Hanlon-dau o'r dynion galwyd yn euog o fod yn gyfraiilogion yn Jiofruddia^thau Phoenix tark, Dublin, tlynyddau yn ol, eu rhyddhau o'r carchar nos Fawrth. Nos Lun, ar yr afon Wy, yn agos i Ab- batty Tintern, bu foddi Mr Charles Craw- ley a'i wraig a'i chwaer, mewn canlyniati i'r cwch rhwyto yr oeddynt ynddo droi. Y mae Cymdeithas y Peirianwyr wedi eu diarddel o Gyngor y Trades Union am ddwy fiynedd. Y trosedd wnaethant oedd i rai o'u haelodau gymeryd gwaith gofaint oedd- ynt allan ar streic. Yn Lerpwl, ddydd Mawrth, llofruddiodd dynes o'r enw Bridget Boyle ei phlentyn bychan.—Dygn dlodi, mae'n ymddangos, barodd iddi gyflawni yr erchyllwaith. ) Pan gyrhaeddodd cerbydres o Gaer i Lerpwl nos Fawrth, cafwyd corph dyn o'r enw George William Cornwall a'i wddf wedi ei dori mewn un o'r cerbydau. Adroddir fod tref Victor, yn Colorado, I wedi ei dinystrio drwy dan. Mae'r golled oddeutu dwy filiwn o ddoleri. Dydd Mawrth, yn y Trallwm, cynhal- iwyd trengholiad ar gorph Mary Rogers, yr hon oedd wedi cymeryd dogn o wenwyn-—dair gwaith digon i ladd unrhyw berson. Dygwyd rheithfarn o Wallgof- rwydd ar y pryd." Oherwydd terfysg a dorodd allan, fe gy- hoeddwyd y gyfraith filwrol yn Amsterdam ddydd Mawrth. Y mae Ardalydd But-e yn gorwedd yn beryglus glaf yn Mount Stewart House, yn I ynys Bute. I Nos Lun bu farw unig frawd Esgob L!an- I elwy—y Parch W. J. Edwards, yn Rheithor- dy Llandow, yn esgobaeth Lla'ndaf. Gedy weddw ac un mab--ficer presenol St. Tho- mas, Hyde, sir Gaer. Yn Ilys yr ynadon, Bangor, ddydd Mawrth, gorchymynwyd i Hugh Smith Thomas, Garth road, Bangor, i dalu 3s 6c yn yr wythnos tuagat faga plentyn Jenny Morris, geneth ieuanc Ysgotig, ac hefyd talu i'r meddyg, y fyd-wraig, a'r maethesua.
Tarw yn Ymosod ar Ddau Weiildog.
Tarw yn Ymosod ar Ddau Weiildog. Mae y Parch M. H. Edwards, Llanelli, a'r Parch James Lamb, Fishguard, newydd gyfarfod ag amgylchiad digwyddfawr yn Fishguard. Ymddengys fod y ddau fon- eddwr parchedig yn cerdded yn hamddenol ar hyd Ion gul, pan yr ymosodwyd arnynt yn sydyn gan darw wedi gwylltio, yr hwn oedd wedi ei droi o arddangosfa gwartheg Fishguard fel anifail peryglus ac anhydrin. Yn y rhedegfa gyffrous a gymerodd le darfu i Mr Lamb, gyda phresenoldeb meddwl can- moladwy, neidio i ffos pan oedd y tarw yn rhuthro arno. Yn ffortunus, methodd cyrn yr anifail a tharo pen Mr Lamb, ond aeth- ant drwy ei het silk, yr hon a lynodd wrth- ynt tra yr ymlidiodd efe ar ol Mr Edwards. Diangfa gyfyng gafodd y boneddwr hwn hefyd. Pan oedd y tarw o fewn pum' 11ath iddo efe a neidiodd i'r gwrilch oedd o'i flaen. Llawll sylweddolodd y ddau folieddwr eu sefyllfa enbydus, ac yn Iwcus hwy a ddiang- asant yn lied ddianaf—Mr Edwards gydag ychvdig ysgryffiniau a phigiadau, a Mr Lamb gydag ychydig friw ar ei benglin.
IMi uddio ei Wraig. -
IMi uddio ei Wraig. Nos Sadwrn, darfu i cliwarelwr o'r enw Michael Dowdle, 40 mlwydd oed, yn byw yn Whitworth, ger Rochdale, ladd ei wraig, Ellen Dowdlo. Y ddiod a ddygodd ang- hysur i'r cartref, ac a brofodd yn angeuol i'r wraig. Yr oedd y gwr wedi ymollwng i ymyfed, ond yr oedd hi yn ddynes ddiwyd a gweithgar. Yr oedd iddynt bump o blant. Torwyd ei gwddf gyda chyllell fara, ciciwyd hi ar lawr; yna aeth y creadur anfad allan o'r ty, cusanodd un o'i blant, a rhoddes ei hun i fyny i'r heddgeidwaid. Dywedir i'r anfadwaitb gael ei wneyd tra yr oedd y cym- ydogion yn edrych, ond yr oedd arnynt ofn ymyryd hen filwr ydoedd,
[No title]
llcsgi, mae Cuticura Resolvent mor bur, glanwaith, a llesol fel y gall pawb o oob oedran ei gymeryd gyda phleser. Ei eff- eithiau ydynt i oeri a glanhau y gwaed mewn achosion o ecsema, a mathau eraill o darddiantau arteithiol ac anurddol, a bydd i faddon cynhes gyda. Sebon Cuticura lanhau y croen o gramenod a chen, ac iro yn ysgafn gyda Enaint Cuticura i esmwythau a chau T briwiau ymgrafu, croen llosgedig, felly ceir iachad buan, parhaol, a chyflawn, a hyny ^;n rhad. Y set, 6s; Sebon7 Is Enaint, 2s 6c; Resolvent, 25 6c, gen fferyllwyr, neu oddiwrth F. Newbury and Sons, London, E.C. Rbifa selodati Cvm^eitbas Ymdrech Gre-
[No title]
fyddol y Gwyr Ieuainc yn awr yn siteli i dair miliwo a haner; ac y mae dros 35 000 o gymdeithasan lleol wedi eu sefydlu. Gwneir gwaith da gan y cymdeithasau hyr, a gresyn na buasai mwy o honynt wedi en sefydlu yn Nghymru. Bydd y gynhadledd gyffredinol^gyntaf yn cael ei chynal yn Llundain y :flwyddyn ',nt,I; a disltwylir lkwerVfiloedd o'gynrvchiolwyr o bob rhan o'rlbyd gwareiddiedig. Sicrbeir yr holl neoaddau (mwyaf yn y. brifddinas at wasan- aeth gwabanol gyfarfodydd y gynhadledd, ac edrychir yn ml&en am gyfarfodydd llewyrchns a brwdfrydig. Un o gas bethau y Barnwr Day ydyw ysmosio.
Anrhydeddu Brcdjr o Gaernarfon…
Anrhydeddu Brcdjr o Gaernarfon Y mae Syr W. H. Preece, y gwyddonydd trydanol enwog, i gael ei anrhydeddu gan ei dref enedigol. Anrhegir ef a dinasfraint y fwTdeisdref fel arwydd o* edmygedd. Cymer hyn le yn mhen tref y sir ar Medi 21ain. Cynhelir gwledd ar yr achlysur yn Neuadd y Dref.
Gwella ar Natr.r.
Gwella ar Natr.r. Cynhaliwyd trengholiad ar gorph baban yn Battersea, ddydd Gwener, a chaed allan y ffaith o ffyniant arferiad peryglus. Yn ei thystiolaeth dywedodd y faethes fisol y byddai yn arfer "a gwasgu yeblydig i wneyd penau babanod yn neis ac yn grwn." Dy- wedodd y meddyg fod yr arferiad yn un cytf- redin ond peryglus.
Marw ar Fedd ei Wraig.
Marw ar Fedd ei Wraig. Wedi blino ar helbul einioes aeth cer- bydwr o Leeds o'r enw John Lamb Moor- house, 42 mlwydd oed, at fedd ei wraig yn mynwent Lofthouse, ger Wakefield. Carwyd ef wedi marw boreu ddydd Gwener, ac yn ei ymyl botelaid o wenwyn. Tybir iddo ladd ei hun. Yr oedd yn wael ei iechyd ers tro. Bu yn dilyn amryw alwedigaethau, ac ar un amser bu yn is-athraw yn Ysgol Genedlaethol Lofthouse.
Cyflafan yc y Soadan.
Cyflafan yc y Soadan. Y mae rhan o'r Soudan yn prrthyn i Ffrainc. Anfonwyd cadymgyrch yno beth aniser yn ol, dan lywyddiaeth y Cadbeniaia l'oulet a C'hanoine. Mewn canlyniad i ryw adrcddiad, gyrwyd cwmni o dan arweiniad y Milwriad Klopp, a chydag ef yr Is-gadben Meunier, ar eu hoi. Pan wnaed yn hysbys neges y cwmni olaf, rhoddodd y Cadben Chanoine orchymyn i'w filwyr saethu. Lladdwyd Klopp a Meunier.
Yn Myd y Gweitbiwr
Yn Myd y Gweitbiwr Me-,v,n cyfadfod o forwyr Caerdydd, y diwrnod o'r blaen, dywedai Mr J. A. Wil- son, A.S., y dylent fel dosbarth gael undeb cenedlaethol. Y mae y fasnach wlan yn Lancashire yn brysurach nag y bu erioed. Yn llys siroi Cheltenham, ddydd Gwener, cafodd Mds Wildsmith iawn o gant a haner o bunnau gan Gwmni Rheilffordd y Canol- dir, oherwydd iddi golli ei gwr ar y llinell drwy ddamwain.
Drwyo Rheithwyr Ahsenol yn…
Drwyo Rheithwyr Ahsenol yn y Rhyl. Yn y Rhyl, ddydd Llun, cafodd Mr R. Bromley, y trengholydd sirol, wrth alw en- wau y rheithwyr, fod un, Mr F. Honen, yn absenol. Dywedodd yr heddgeidwad iddo fethu bod yn bresenol yn y trengholiad di- weddaf. Dywedodd Mr Honen ei fod yn rhy brysur, ac iddo gyrhaedd y tro o'r blaen yn rhy hwyr. Y Trengholyad a ddatganodd ei fwriad i ddirwyo Mr Honen i ddeg swllt, er mai dyma yr achlysur cyntaf iddo wneyd hyny er's pum' mlynedd.
A Anghofio Tad a M am? Gwnant
A Anghofio Tad a M am? Gwnant Yn llys yr heddgeidwaid, Gwrecsam, dydd Llun, cyhuddwyd Thomas Evans, saer pridd- feini, a'i wraig, Sarah Evans, Heol Florence, Rhosddu, o esgeuluso eu pum' plentyn; ac yn mhellach cyhuddid y fam o'n gadael. Y mddengys fod y plant bach wedi eu gadael mewn sefyllfa ofnadwy. Dywedai y fam iddi ddianc ymaith oherwydd i'w gwr ei bygwth. Anfonwyd Hi i garehar am fis gyda llafur caled, a dirwywyd yntau i ddwy bunt a'r costau, neu garchar.
Australia: Atnserosdi Gwell.
Australia: Atnserosdi Gwell. Y dydd o'r blaen, wrth anerch Senedd Victoria ar gwestiwn ffurfiad gweriniaeth Awstralia, sylwodd Arglwydd Brassey fod gobeithion y talaethau hYllY ar fedr cael eu sylweddoli yn ystyr helaethaf y gair. Yn ngoleuni'r gyllidaeth a gyflwynwyd i'r Sen- edd y dydd hwnw y mae sail i gredu fod y gwaethaf drosodd. Rhyw 30,200p o weddill, gwedi cyfarfod taliadau'r flwyddyn, a ddis- gwyliai y Canghellydd; ond er ei syndod tyfodd y gweddill i'r swm e'nwog o 147,700p. Ev gwaethaf colledion anferth y sychder mawr a methiantau masnachol, medroaa y bobl ymuniawni; talasant eu ffordd ac y maent ar y ffordd i lqwrder na phrofwyd ei gyffelyb yno o'r blrc-
Dychymyg a'r Bedd.
Dychymyg a'r Bedd. Dyddorol yw sylwi y modd yr effeithifc y dychymyg ar ein golygiadan. Yn nglyn a'r meirw, parbawn i goelio eu bod yn fyw, ao ymddygwn tuagat en gweddillion fel pe na baent ond huno. Pjiodolir teimlad o ryw fath iddynt., ac yr ydym yn boff o tfalu am eu hesmwythdra a'u cysur. Cawn y meiiw, hefyd, cyn marw yn rhagofalu a rhagdrefnu eu cysur, yr hyn a ragdybia y disgwyliant barhad eu byaawybyddiaeth yn y bedd. Yn Pawling, New York, yn ddiweddar, gwnaeth Mrs George S. Norton gyfamcd a'i theuln i'w chladdu mewn cadair siglo, gan mai yn hono, pan yn fyw, yr ymesmwythai ac yr ymgysurai oreu. Chwe. mis cyn ei marwol- atth ymgytunodd a saer o'r enw Kimlin i wneyd arch ddigon eang i'w cbynwys hi yn eistedd yn ei chadair siglo; a rhoddai fodd- lonrwydd mawr, yn ddiau, iddi hi ddisgwyl y csftai barhau i fwynhau ei chysur p eistedd yn ei chadair. Yr ydym yn ddylsdus am pin cysuron, gan mwyaf, i'n dychymygion.
Llosgi Palas Iarll Powys I'r…
Llosgi Palas Iarll Powys I'r Llawr. Dydd Mercher Uosgwyd Llymystyp Hall, palas Iarll Powys yn Nghaereinion. sir Dre- faldwyr, a chafodd ei Iwyr ddinystrio trwy can. Y tu ol i'r palasdy mae y "grouse moois," ac i'r amcan o saethu ieir y mynydd yr oedd Arglwydd ac Arglwyddes Powys wedi cymeryd eu trigfod yn y lie ddechreu yr wythnos ddiweddaf, ac yr oedd gyda hwy yn y ty barti mawr wedi dyfod yno i saethu. N; does Ewyddta pellebyr yn ddim agosach na deng milldir i'r lie, ac me e yr orsaf rheilffordd a'r dref agosaf o ddim pwys, sef Drefnewydd, yn uga:n milldir oddiyno. Gwysiwyd tan-frieadau y Drefnewydd a Chabtell Powys i'r lie ar ol haner nos, ond ar ol iddynt gyrhaedd ataliwyd en hymdrech ion gan brinder dwfr, fel nad oedd yn bosibl gwaredu y lie. Mae achos y tan yn an- hysbys. Bu gorfod i Arglwydd Powys a'i barti ddychwelyd i Gastell Powys yn ddi- weddarach ar y dydd.
la ith Aflan a'r Canlyniadau.
la ith Aflan a'r Canlyniadau. Mewn llys arbenig yn Ngbaernarfon, ddydd Iau, gerbron Mr Richard Thomas a Mr Wm. Hamer, cyhuddwya un o ddeiliaid y tlotty, o'r enw Margaret Parry, cymeriad adnabyddus yn y dref, o arfer iaith an- weddus tuagat feistr y tlotty pan oedd deil- iaid y lie ar wibdaith i Feddgelert. Anfon- wyd hi i garchar am fis.
--Cymdeithasfa Chwarterol…
Cymdeithasfa Chwarterol y Methodistiaid Calfinaidd EI CHYNAL YN NGHAERNARFON. Cynhelir cyfarfodydd Cymdeithasfa Chwarterol Methodistiaid Calfinaidd Gog- ledd Cymru yn Nghaernarfon yr wythnos hon. Hyd yn hyn y mae y tywydd o'r fatli dymunolaf. Y Llywydd yw y Parch D. Lloyd Jones, M.A., Llalldinam; yr ysgrif- onydd, y Parch 1*3. James Jones, M.A., Manceinion. Nos Lun pregethwyd yn nghapel y Pres- byteriaid Seisnig y Maes gan y Parch John Hughes, M.A., Lerpwl. Borei* dydd Mawrth, yn nghapel Moriah, cynhaliwyd cyfeisteddfod y Gymdeithasfa. Darllenwyd cenadwriaethau o'r cyfarfodydd Misol. Cafwyd adroddiad cyfeisteddfod drysorfa gynorthwyol cyfeisteddfod y drysorfa gynorthwyol; cyicisteddfod Athrofa y Bala, a phwyilgcr yr Ysgolion Protestanaidd. DIWEDD Y GANRIF. Am ddau o'r glcch, yn nghape! Mcriah, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Gymdeithasfa. Yn mysg pethau ereill; darllenwyd adrodd- iad Pwyllgor Diwedd y Ganrif. Rhoddwn y dyfyniad canlynol ohono •— 1.—Ein bod y amcanu casglu, o leiaf, Gan Mil o Bunnoedd, ac yn gobeithio y gwna yr eglwysi gasglu, trwy gyfraniadau y y gwrandawyr yn ogystal a'r aelodau, bunt ar gyfer pob aelod, fel ag i wneyd y swm yn fwy na chan mil; ac yn mhellach, ein bod yn apelio at ein heglwysi crvfaf i gyfranu yn helaethach er cyfarfod anallu yr eglwysi gwanaf. 2.—Ein bod yn dymu.no gwneuthur y Casgliad hwn yn un Cyfundebol, i gael ei weinyddu gan Bwyllgor unedig o Dde a Gogledd. 3.—Nad yw yr arinn a gesglir i'w budd- soddi yn barhaol; ond eu defnyddio yn ol yr angei tuag at yr amcanion a nodir yn ystod y blyyddoedd nesaf. 4.—Yr amcanion tuag at ba rai y neill- duir yr arian a gesglir drwy yr Offrwm Diolch. Penderfynwyd fod cyfarfodydd chwarter- ol y Sassiwn nesaf i'w cynhal yn Llanidloes, ar y 14eg, 15eg, a'r 16eg o bachwedd, ac yno y dewisir y Cymedrolwr. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoedd- us yn nghapel Moriah. Llywyddwyd gall y Parch Francis Jones, Abergele, yn agsen- oldeb y Parch D. Lloyd Jones, M.A., y Cymedrolwr. Y Cadeirydd a ddywedodd fod' y cyfar- fod yn rhoddi cyfleustra iddynt i olrhain hanes yr enwad yn ystod y bedwaredd gan- rif ar bymtheg, a chredai y byddai hyn yn ddyddorol nid yn unig iddynt hwy fel Metb- odistiaid Calfinaidd, ond i enwadau ereill hefyd. Y Parch John Owen, y Wyddgrug, a an- erchodd y cyfarfod, a'r pwnc yr ymdriniodd ag ef oedd "Sefyllfa yr enwad yn nechreu y ganrif." Y Parch Griffith Ellis, M.A., Bootle, a siaradodd ar "Waith a dadblygiad y cyfun- deb yn ystod y ganrif." Wedi hyn anerchwyd y cyfarfod gan Mr Peter Roberts, Y.H., Llanelwy, ar "Rhag- olygon, dyledswyddau, a chyfrifoldeb y cyf- undeb rhagllaw."
Terfysg yn Paris.
Terfysg yn Paris. TRI CHANT A HANER 0 BERSONAU WEDI EU NIWEIDIO. Nos Sul torodd terfysg allan yn Paris. Niweidiwyd tri chant a haner o oersonau. Cy merwyd cant a haner o'r terfysgwyr i'r ddalfa. Gwna y LIywodraeth bob ymdrech i gadw trefn a heddweh, a gosodwyd milwyr da'u bidogau yn nghymydogaeth Rue de Chabrol. Ymosodwyd ar eglwysi ac ysgol- ion. Gwnaed cryn ddinystr arnynt. un- hawdd yw myned drwy yr heolydd.
Geneth yn Boddi yn Mhenhontarogwy...
Geneth yn Boddi yn Mhenhont- arogwy. Adroddwyd digwyddiad lied anghyffredin ya ynadlys Penbontarogwy tua haner nos ncs Sadwrn. Dyma, mor bell ag y gwyddys, ydyw y ffeithiau: Yr oedd Florrie Knowles, 19 mlwydd oed, merch i Gctorge Knowles, Coity street, Penybont, wedi bod yn treulio yr hwyr nos gyda'i chariad, William Baker, 21 oed, glowr, yr hwn a drig yn Aberkenffig. Yn fuan wedi deg o'r gloch, cychwynasant adref i Benybont, gan fyned heibio yr hyn a adweinir fel yr Hen Dramffordd, wrth ochr yr hon y rhed yr Afon Ogmore. Yn y fan hon cymer y ffordd y ffurf o "incline," wrth odreu pa un y mae liecyn a elwir Pwllcluse. Yma mae y llwybr yn gul iawn, tra mae yr afon yn y pwynt yma rhyw ddeuddeg troed- fedd o ddyfn. Dywed Baker i'r etieth yn y llecyn hwn lithro a chwympo i'r dwfr. Efe a aeth i geisio ei gwaredu ond gan ei fod mor ddwfn a hithau, yn dywyll iawn ar y pryd, methodd a bod o unrhyw help iddi. Rhoddodd hysbysrwydd dioedi o'r peth i'r Rhingyll Evans, Penybont, yr hwn, gyda'r CSvnstabliaid Rees a Pearce-, a aethant i'r llecyn ar unwaith. Wedi "dragio" y llyn, llwyddasant i adfer y corph. Gosodwyd ef ar handcart ac aethpwyd ag ef i gartref yr eneth, lie y datganodd meddyg fed bywyd wedi ymadael. Gweithiai y drancedig fel "packer" yn y Riverside Bakery, Bridgend.
Dychweliad yr Iuddewon i Ganaan.
Dychweliad yr Iuddewon i Ganaan. Cynhaliwyd cynhadledd fawr a phwysig yn Basle dydd Mercher er hyrwyddo mud- iad dychweliad yr Iuidewon i Ganaan. Nid oes dadl bellach i fod nad yw yr luddewon o ddifrif. 0 bedwar Cyfandir derbyniwyd agos i 200 o frysebau yn mynegi ymlyniad tyn wrth raglen Sioniaeth. Yn ei adrodd- iad, dywedai Dr Marmorek nad oedd dim llai na 280 o gymdeithasau Sionaidd wedi eu ffurfio er lledaenu egwyddorion y mudiad a chasglu arian at yr amcan. Casglwyd dros 250,000p er sylfaenu y "Bane Trefedigaeth- ol." Yn ei araeth ddylanwadol, dywedodd Max Nordan, cychwynydd y mudiad, mai ewyllys yr Iuddewon oedd trigo o dan am- odau cvmdeithasol a pholiticaidd cyffelyb i'r gweddill o ddynolryw. Nid1 yw yr Iuddewon h'eb eu ffaeleddau, megis cenhedl- oedd ereill, ond ffaeleddau y Ileiafrif ydynt. Am y mudiad gwrth-Senitaidd nid beirniad- aeth gecrus mo hono, eithr dyngasedd pur. Rhaid oedd dychwelyd er adfeddianu eti- feddiaethlsrael mewn trefn i gyfnewid cyfran a.mlwg o'r amodau traws y mae y genedl yn llafurio odditanynt. Ymddengys nad siarter Dyrcaidd, eithr cael gan y prif Allu- oedd i warantu a chyhoeddus gydnabod eu safiad eyfreithiol-dyna ddyhead arweinwyr Seionia ethl. Ar ol pythefnos o oediad, y mae yr Ar-
[No title]
lywydd Kruger wedi anfon i Syr Alfred Milner ei atebiad i gais Mr Chamberlain. Gofynai Mr Chamberlain am i gyd-bwyllgor -pobl o'r wlad hon a phobl o'r Transvaal- i edrych i mewn i achosion yr holl helynt. Fe ddywedir na bu afon Seiont mor isel o ran eii dwfr ers un mlynedd ar hugain. I, rtli gwrs, y mae hyn yn golled i'r pysgot- wyr, ac vn naturicl n.awr yw eu cwyn.
Beirniaid Eisteddfod Lerpwl
Beirniaid Eisteddfod Lerpwl Nos Wener cynhaliwyd cyfarfod o Bwyll- gor Cytiredinol Eistsdd^fod Genedlaethol T 19JO. Penodwyd v Parch John Fisher (Rhuthyn) yn feirniad yn lie y Parch Elfed Lewis yn yr adran lenyddol oherwydd fed y diwedckf yn analluog i ymgymeryd a'r gwaith. Dewi-wyd y Parch Abel J. Parry yn lie Mr Morris, a Mr T. J. Williams, Din- bych, hefyd yn leirniad yn yr un adran. Derbyriiuryd cynygiact y Cymric Yccai Union i roddi deg gini yii wobr ar y "choral ballad oreu i gor meibicn. Cynygiai y Pwyllgor Cercldorol y rhai caniynol yn re.rniaid canu :—Signer Ren- degger, Dr Varley Roberts, Dr Jo»?ph Parry, Mr C. r. Lloyd, Mus. Bac., a Air Tom Price (Eglwys Gadtiriol Sf. Paul). Cadarnhawyd y rhai hyn trwy fwyafrif mawr. Galwodd Sir Humphrey Lloyd sylw at y ffaith fod amryw o'r Pwyllgor Cyffreainol heb arwyddo yr ymrwymeb. Yn yr ym- drafodaeth ddilyncdd cvnygiw^cl fod enwau y rhai hyn i'w symud o fysg yr aelodau, ond ni pliasiwyd hyny. Deallid y byddai i'r ys- grifeaydd wneyd un ymgais eto i gael gi,n- adynt arwyddo.
Bwrdd Gwarcbeidwaid Ponrhyndeudraeth.
Bwrdd Gwarcbeidwaid Pon- rhyndeudraeth. DYDD MAWRTH.—Mr John Jcne cad- eirydd. Y TY. Yr oedd 24 yn y ty. Dygasid George Jones, crydd, Nanmor, i'r ty o Beddge!eit, yn wael, trwy archiad y meddyg. Y DROL A'R CEFFYL WEDi MYNED. Robert Lloyd, Pant, Penrhyn, a ofynodd am gynorthwy.—Gofynodd y Cadeirydd lie yr oedd y ceffyl a'r drol ?- R. Lloyd Ma"r cwbl wedi myn'd.—Caniatawyd cynortliwy amserol ARIAN YSWIRIANT. Ystyriwyd achos o Ffestiniog. Yr oedd yr ymadawedig wedi yswirio, ond nid oedd neb yn gallu dyweyd pwy oedd wedi talu yr arian.—Mr Griffith Jones: Efallai fod yr arian wedi cael eu defnyddio at gladdu yr ymadawedig.—Y Cadeirydd Ond nid yw yn iawn i'r Bwrdd dalu at gadw tlawd ac at dalu arian yswiriant, a pheidio cael unrhyw fudd oddiwrth hyny. GWYBOD Y BACH OND NID Y MAWR. Rebecca Morris, Pantcelyn, Tanygrisiau, a erfyniai am ail-gynorthwy. Yr oedd hi wedi tori ei braich, ac nis gallai hi weithio fel o'r blaen. Holwyd hi gan y cadeirydd. Tua chweigian gawsai ei mab un mis. Nis gwyddai hi faint enillodd efe y mis diwedd- af.—Y Cadeirydd: Gallwch wybod y bach ond nis gallwch wybod y mawr.—Yn mhell- ach yn mlaen dywedodd fod y bachgen wedi enill 4p y mis diweddaf. Nid oedd neb ond efe yn byw gyda hi.—Mr Wm. Davies, Cae'rblaidd, a ddywedodd fod dynion fel y mab yn cael 25s yn yr wythnos.—Amheuai Mr Davies, Maentwrog, y galiai y mao enill 25s yr wythnos.—Gwrthodwyd y cais. DYLEDEB. Yn y fan hyn dywedodd y derc ei fod ef wedi derbyn dyledeb am gludo George Jones o Beddgelert i orsaf yr heddgeidwaid Porth- madog, ac oddiyno i'r tlotty, am 15s. Barnai y Cadeirydd nad oedd y dyn ddim yn perthyn i'r undeb hwn.—Y Meistr a dùyweùcdd i'r dyn gael ei ddwyn i'r ty tua 5 o'r gloch boreu Sul yn wael. Dr Jones Morris a ddywedodd iddo ef gael ei alw tua thri o'r glcch boreu Sul at y dyn, yr hwn oedd yn hollol ddiymadferth. Calwyd ef yn ochr y ffordd gan rhyw Sipsiwns. Yr oedd potel rum yn ei logell.—Y Cadeirydd Pwy oedd wedi yfed y gweddill o'r rum oedd yn y hotel ? (chwerthin mawr). -Dr Jones Morris a ddywedodd fod y ddyledeb yn rhesyinol pan ystyrid fod yn rhaid cael am- ryw o bobl i helpu i gludo y dyn.—Pasiwyd i'w thalu. YR H ONANFODDWR. Mr Richard Parry a ddywedodd ei fod ef wedi .gorfod talu costau claddedigaeth Henry Williams, y dyn a foddodd ei hun yn Mhorthmadog, ac hefyd wedi cael allan fod yr ymadawedig wedi yswirio ei hun. Gwnaethai Mr Parry ymchwiliad i'r mater, a rhoddodd efe y ffeithiau gerbron. — Rhoddasai Mr W. Hughes, ucharolygydd Cymdeithas y Prudential, Porthtnadog, bob cynorthwy i Mr Parry yn y mater. Mr Parry a ddywedodd fod costau claddu y dyn yn uwch oherwydd ei fod yn ddieithr-ddyn. Disgwyliai Mr J. Williams, pilot, Borth-y- Gest, 5s am ddarganfed y corph. Nis gall- ai Mr Parry gael neb i helpu heb dalu idd- ynt, oherwydd cyflwr adfeiliedig y corph.— lr Cadeirydd a. ddywedodd os nad ellid cael y costau allan o'r arian yswiriol, rhaid fydd- ai gofyn am danynt gan y Cynghor Sirol.— Dr Morris Rhaid oedd cael dynion o rhyw- le i gario y corph. Cafwyd John Pierce ac ereill. BU CHFRECHI AD. Dr Jones Morris a ddywedodd na fydd yr un plentyn yn ei holl ddosbarth ef, heb ei fuchirechujoddigerth Ue'r oedd afiechyd. Teithiasai efe tua. 1500 o filltiroedd, pryd na theithiasai efe dan yr hen gyfundrefn ond tua 150 o filltiroedd.-Y Cadeirydd a ofynodd i Dr Jones Morris faint a gfawsai efe y llynedd am fuchfrechu a faint eleni.— Dr Morris a ddywedodd mai lOp a; 51p.—Mrs Morris a feirniadodd y cynydd mawr yn y costau. Mr W. Jones a gredai y deuai daioni oddiwrth y dull llwyr presenol o fuchfrechu.—Y Cadeirydd a longyfarchodd Dr Morris ar ei lwyddiant fel buchfrechwr. CYNHADLEDD DEDDFAU TLODION. Penodwyd Mrs Morgan a Mr Roberts (y clerc) i gynrychioli y Bwrdd yn nghynhad- ledd Deddfau'r Tlcdion a gynhelir y mis nesaf. BLWYDD-DAL. Ar gynygiad Mr W. Jones, a chefnogiad y Parch E. B. Thomas, pasiwyd i ganiatau blwvdd-dal (maximum) i Mr Daniel Hum- phreys, y cyTii-swyddog elusenol. CYDNABOD Y CLERC. Mrs Morgan a gynygiodd fed 30p yn cael eu caniatau i'r Clerc am ei lafur fel clerc y pwyllgor trethiantol. Pasiwyd hyny yn unfrydol. AR OL. Enwodd y Clerc y plwyfi cedd ar cl hefo talu y galwadaui.
--AIL BRAWF
AIL BRAWF DMYFUS ^Vytimes dra chyffrous fu y ddiweddaf yn Ffrainc. Gwr.a y genedl ei hun yn wrth- rych atgas yn ngolwg gwlt'dydd cred. Er- rych atgas yn ngolwg gwkJydd cred. Er- ioed ni bu prawf cyileiyb i brawf Dreyfus mewn unmyw wlad; yn wir, nis gallasai ddigwydd ond yn Pliiiiiie; pobl nwydog, -i rr amheus, amdditad o foesoldeo yn syifaen cymeriad, yn unig allasai roddi bod iddo. Gwedi y pedwar diwrnod o brawf dirgel ail ddechreuodd y prawf cyhoedd dydd Sad- w/n iWythnos diweddtif. Achoscdd y Cadfridog Mercier gyffro mawr dydd Llun drwy gyhoeddi fod iielynt Drevfus yn 1894 wedi dwyn Ffrainc a Germani o fewn "tew deufys" i ryfel. Dilynwyd tf gan y cyn- y brifweinidog Casimir-Perier, yr hwn a wadai chwedl fel vanwiredd noethlymun. Awdurdodwyd un c bapyrau Berlin i wadu'r stori hefyd. Erioed ni bu Dreyfus yn wrth- rych sylw swyddogol awdurdodau Germani. Nid oes dim yn fwy amlwg na phlentyn- eiddweh hygoelus penaeth bytddin Ffrainc. I' Methodd Dreyfus a meddianu ei hun wrth wrandaw ar y dyn yn traethu yn bwyllog ei grediniacth yn euogrwydd y earcharor er nad oedd ganddo ond pentwr o chwedlau di- sail yn syifaen y grediniaeth hono. Yn y llys milwrol ddydd Llun, yn Ren- nes, dywedodd y Cadfridcg Fabrer ei fod yn parhau i gredu fod Dreyfus yn eiiog o'r hyn y cyhuddid ef. Yr oedd yn gas ei olwg gan y milwyr, ac esgeulusai wneyd ei waith. Lieut-Colonel d'Aboville, cyn-Is-Brif swyddog y Fourth Bureau o'r Cacifridcgion, a eglurodd y modd y daethpwyd i'r casgliad mai Dreyfus a ysgrifenodd y papyrau brad- wrus. M. Cochefort, penaeth y Cuda-Swyddog- ion, a dystiodd pa mor anesmwyth yr ym- ddangosai Dreyfus pan fu o dan brawf yn ysgrifenu. 171 Major Lauth' a ddesgrifiodd y modd y daeth y papyrau bradwrus i feddiant yr In- telligence Department ac eilwaith cyhudd- odd y Milwriad Picquart o geisio celu ffeith- iau. Major Junck, cyd-ddisgybl a Dreyfus yn y Coleg Milwrol, a ddywedodd fod y cyhudd- edig yn awyddus iawn i ddysgu manjdion am y fyddin. Captain Dreyfus a ddarllenodd ddatgan- iad maith yn gwrthddywedyd tystiolaeth Major Junck, gan nodi dyddiadau a chyf- eiriadau i ategu yr hyn a. ddywedai. M. LABORI YX Y LLYS. Dydd Mawrth daeth M. Labori, prif ddadleuydd Dreyfus, i'r llys. Llongyfarch- wyd ef gan y barnwyr, ac atebodd yntau mewn araeth fechan, ond hynod o effeithiol. Derbyniodd rhai o'r tystion driniatJth dost oddiar ei law pan yn eu croeshoii, yn neill- duol felly y Cadfridog Mercier. Yr oedd y tystion heddyw i gyd yn erbyn y carcharor, yr hwn, amryw droion, a wrthdystiodd yn erbyn yr hyn a dystiolaethid. Dydd Llun derbyniodd M. Labori ddau liecyn drwy y llythyrdy. Amheuwyd fod nwydd ffrwydrol ynddynt, a rhoddwyd hwy i'r heddgeidwaid. Yn nghwrs dadblygiad y prawf cymerwyd Paul Deroulede a. bagad o wyr eraill i fyny ar y cyhuddiad o deyrnfradwriaetb. Cod- wyd gwarciiae ar ddau eraill mewn swyddfa newychliadurol gan yr heddgeidwaid. Y mae wythnos bellach wedi myned heibio gyda'r chwareu hwnw, ond hyd yma gomedd- odd y Bohapartiaid a rhoddi eu hunain i fyny. Ond coron y cyffro mawr fu saethu M. Labori, prif ddadleuydd Dreyfus, tra ar pi ffordd i'r llys, boreii Llun wythnos i ddoe. Yn ffodus, ymgartrefodd y fwlet yn ngiau y cefn. Dyoddefodd y gwr enwog yn ddir- fawr, ond y mae ei fywyd yn ddycge] er nad yw y fwled wedi ei chael allan i fyny i'r adeg vr ydym yn ysgrifenu. Tra ar ei hyd ar yr heol yn ei waed gwnaeth eraill-o elynion Dreyfus ymgais deg at ladrata papurau y gwr archolledig. Diangodd y llofrudd, methwyd cael hyd iddo i fyny er adeg yr vdvm yn ysgrifenu. Cafodd Dreyfus am- ddiffvnwyr godidog yn areithiau a thystiol- aethau v Cvrno! Picqufurt a'r Barnwr o Baris. Gwadwyd amryw o brif osodiadau cyhuddwyr Dreyfus gan dri o sw-yddogion. llysgenhadol Ital, Germani, ac Awstria. Ni ddvgwyd cymaint ag; un ffaith newydd i'r prawf, ac er nas gellir dweyd fod rhagolygon Dreyfus vn ddisglaerach y mae yn sicr fod haeriadau ei erlynwyr wedi eu rhidyllu yn chwilfriw. .t _ø.