Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
GAIR YN EI BRYD.
GAIR YN EI BRYD. Nis gall dim fod yn fwy amserol ac at y pwynt nag ymadroddion Arglwydd Randolph Churchill yr wythnos hon yn Walsall. Y maent yn deilwng e sylw Ceidwadwyr ar bob pryd, ac yn neillduol felly yr adeg bresennol. Un o brif amcanion ei Arglwyddiaeth yw gwneyd egwyddorion Ceidwadol yn dderbyniol gan y Werin, ac y mae yn llwyddo yn ei aracan. Ymddengys fod cryn ragfarn mewn blynyddau sydd wedi bod ym meddyliau y lluaws yn erbyn Ceidwadaeth. Tybient mai credo wleidyddol i'r mawrion a'r cyfoeth- ogion, ac yn neillduol y tirfeddianwyr, ydocdd. Y mae Arglwydd Churchill yr wythnos hon (a llawer gwaith o'r blaen, yn wit.) wedi dangos fod y dyb hono yn gyfeiliornus, ac y gall y bobl gyffredin dderbyn egwyddorion Ceidwadol a bod yn Uawn mor ddedwydd a llwyddiannus, a mwy felly, na phe byddent oil yn Radical- iaid. Dyma ei eiriau ef ei linn Yr wyf wedi arfer meddwl fod Ceidwadaeth pan ddeallir hi yn drwyadl gan y lluaws, yn sicr o roddi prawf iddynt ei bod yn anbebgorol i lwyddiant a daioni y wlad, ac yn gysson a'r rhyddid mwyaf a ellir fwynhau. Nid oes genym ddim i gywilyddio o'i blegid mewn my Ceidwadaeth nid oes genym ddim i'w gudtlio; yr hyn oil a ddymunwn ei wneuthur yw egluro athrawiaethau Ceidwadol yn drwyadl i'r ethol- wyr ym mhob man." Nid oes dadl am dani nad yw y Ceidwadwyr wedi esgeuluso addysgu y bobl a bod y gelyn- ddyn" Radicalaidd wedi dyfod i mewn i'r maes ac hau efrau ynddo tra yr oeddent hwy yn cysgu. Gan liyny y mae pob rheswm yn a y galw atnynt i ddihuno at en gwaith, a chydio ynddo o ddifrif-nid fel rhai yn hanner ammheu pa un a ydyw Ceidwadaeth yn iawn ai peidio, ond fel rhai yn credu mai yr ochr hono i wleidyddiaeth y wlad hon yw yr oreu yn bossibl. Dylai pob Ceidwadwr, ac yn neillduol pob un sydd a dim cyfrifoldeb swyddogol ym mhlaid y Ceidwadwyr arno; deimlo yu llwyr argyhoeddedig ei fod yn gwneyd gwaith da. Y mae ammheuaeth yn cynnyrchu clauarineb, a cblauarineb ddiofal- wch, a diofalwch fethiant. Tebyg na chawn etholiad cyfFredinol am oddeutu tair blynedd, ond nis gallwn deimlo yn sicr. Fel y dywedai ei Arglwyddiaeth Y mae bywyd Parliament fel bywyd dyn yn ansicr. Nis gall neb ddweyd wedi i Barlia- ment barhau am dair blynedd pa bryd y daw I ei ddiwedd. A chwi a ddylech gofio y rhaid i'r dynion mawr galluog ydynt yn gofalu am fuddiannau eich plaid yn Llundain fod ar eu gwyliadwriaeth ).arliatis pa bryd y daw yr amser goreu a mwyaf cyfleus i gael etholiad cyfFredinol ac appelio at lais y wlad." Dywedai ym mhellach mai diffyg gofal a diwydrwydd sydd wedi anafn y Ceidwadwyr yn benaf hyd yn hyn, a chyfeiriai at rai o'r peryglon sydd ar ei ffordd yn y cyfnod presen- nol. Gallant dybied fod eu wrthwynebwyr yn wanach nag ydynt. Gallant gymmeryd yn ganiattaol fod eu sefyllfa ymranedig yn ormod o rwystr ar eu ffordd i ymuniawnu mwy. Ond ni ddylai dim felly beri i'r Ceidwadwyr hepian a huno. Mae Mr Gladstone yn llu ynddo ei hunan. Y mae gafael gref ganddo ar y wlad ac yn gyfarwydd a phob math a'r ddull gwleidyddol o ryfela. Nid am ddim y mae wedi treulio banner can mlynedd o fywyd seneddol. Trwy ymdrechion diflno i oleuo yr etbolwyr a ddadleu gwahanol bwyntiau ammheus a hwynt, er symmud eu rhagfarn yn erbyn y Weinyddiaeth bresennol, y gall y Ceidwadwyr orchfygu pan y daw yn frwydr-brwydr a sefydla dynged yr Ymherodraeth hon. Y mae hyn oil yn cyfeirio sylw Ceidwadwyr at un ddyledswydd arbenig, yr hon ni ddylid er dim ei hesgeuluso, a dyma hi- COFRESTRER COFRESTRER 0 hyn i ben wythnos fe welir ar ddrws pob Eglwys a Chapel yn y wlad restr yn cynnwys enwau yr etholwyr. Y mae y rhestr hon o'r pwys mwyaf. Nid yw bob amser yn gywir. Gwyddom am engreifftiau o enwau yn cael eu gadael allan—nid yn fwriadol, ond o herwydd esgeulusdod neu ddiffyg gofal. Os na bydd enw yr etholwr ar y rhestr ni bydd ganddo hawl i bleidleisio yn yr etholiad nesaf. Amcan ei chyhoeddi fel yma wrth ddrysau tai cyhoeddus fel eglwysydd a chapeli ydyw rhoddi cyneustrar i'r etholwr wybod a ydyw ei enw fel etholwr ar lyfr y cofrestrydd ai peidio, gan hyny y mae yn ddyledswydd ar bob etholwr i fynu gweled a ydyw ei enw i mewn. Nid digon fod ya hen etholwr ac nad oes cyfnewidiad wedi bod yn ei Ie-fe eill fod ei enw allan, a gwell iddo weled a ydyw. Os nad ydyw dylai fyned i swyddfa y Gymdeithas Geidwadol yn ei gymmydogaeth, a gosod ei gwyn a'i hawl i mewn yno. Mae o bwys hefyd i'r rhai sydd heb bleid- lais, ond yn meddu hawl gyfreithlon i'w chael, fynu gweled ar unwaith y bydd i'w henwau fod ar restr y pleidleiswyr nesaf. Mae cannoedd o'r dosparth yna i'w cael yn y wlad a chollir llawer o honynt bob etholiad. Ni ddylai neb ddysgwyl i'r goruchwyliwr Ceid- wadol mwyaf bywiog a Uygadog yn un o'r 8iroedd wneyd pobpeth dros yr etholwyr. Rhaid iddynt hwy wneuthur amryw fan bethau drostynt eu hunain. O'r hyn lleiaf dylent weled pa un a yw eu henwau ar y llyfr, ac os nad yw mynu gweled y bydd yno erbyn y tro nesaf.
BIL Y DEGWM.
BIL Y DEGWM. Wrth siarad ar Fil y Degwm ar ei ail-ddar- lleniad desgrifiodd Mr Herbert Gardner y Mesur (mewn cydgordiad Ilawn a'r golygiadau Radicalaidd diweddar) fel Bil Gorfodaeth i Gymru." Ymddengys y teimla rhai Gwydd- elod a Chymry wrthwynebiad greddfol i dalu eu dyledion. Y mae hyny yn erbyn argy- hoeddiodau gwleidyddol y naill ac argyhoedd- iadau crefyddol y llall. Ac, yn iaith newydd y Blaid Ryddfrydol, y mae y dyn y gelwir arno i dalu ei ddyledion yn syrthio yn aberth i orfodaeth. Y mae pobl Lloegr wedi ufudd- hau mor hir i'r fath ffurf ddiraddiol o orfodi, fel na theimlant ddim o'i anghyfiawnder. Ond ni bydd i'r lefain fod yn hir cyn gwneyd ei waith, ac os caniateir i'r bobl ryddid i ym- wrthod a'u gofynion, y rhai a gymmerasant arnynt o'u gwirfodd, yng Nghymru, fel y caniatawyd yn rhy hir yn y Werddon, fe fydd yn rhaid ei ganiatau cyn bo yn faith yn Lloegr hefyd. Gwna gwrthwynebwyr y Bil eu goreu i'w rwystro i ddyfod i dir er mwyn iddo foddi gyda'r cyfryw a ddarllenir ym mhen chwe mis."
TREULIAU ADDYSG.
TREULIAU ADDYSG. Cynnyddu bob blwyddyn a wna y swm a delir at addysg elfenol yn y deyrnas hon a chyrhaedda yn agos i naw miliwn o bunnan erbyn hyn. Treulia Oyruru a Lloegr saith miliwn ac Ysgotland ychydig dros filiwn, a Gwerddon ryw gymmaint o dan filiwn. Yn ol mynegiad diweddaf yr Adran Addysg dyma fel y safai y treuliau ar gyfer Cymru a Ltoegr Rhoddion y Llywodraeth £ 2,966,875 Trethi £ 1,194,900 Ceiniogau y plant LI,833,985 ,Ct Cyfraniadau gwirfoddol, gwaddoliadau, &c £ 986,879 Y symiau blynyddol ar gyfer pob pen yng ngwahanol ranau y deyrnas a safant fel yma:- Lloegr a Chymru—Arian y plant, 10s. 7d.; Arian y Llywodraeth, 17s. 5d. Ysgotland— a Arian y plant, lis. 10d.; Arian y Llywod- raeth, 18s. 61d. Gwerddon—Arian y plant, 4 4s. 3d. Arian y Llywodraeth, 28s Od.
MR. PARNELL YN EDINBURGH.
MR. PARNELL YN EDINBURGH. Yr wythnos cyn y diweddaf anrhegwyd Mr Parnell a dinasfraint Edinburgh. Lleiba anrhydedd o'r fath hwn yn fawr yn ei werth a'i ystyr os estynir ef yn ami o dan gyffelyb amgylchiadau. Yr oedd gwrthwynebiad cryf iddo gael ei gyflwyno i Mr Parnell ym mhlith y dinasyddion yn ogystal a'r cynghor. Darfu i'r Beili Walcot, wrth roesawi Mr Parnell, wneuthur y sylw nas gallasai perffaith gyd- welediad fodoli ar y fath gwestiwn. Onidyw hyny yn rheswm na ddylid tynu y dinaswyr i mewn yn ddianghenraid i gytnmeradwyo rhyw ochr neillduol o'r pwnc ar ba un y croeswelant mor fawr? Y rhanan mwyaf dyddorol o areithiau Mr Parnell o flaen ac ar ol y seremoni oedd y rhai a gyffyrddent a'r Werddon, ac yn y rhai yr ymresymai, os byth y dymunai y Werddon niweidio buddiannau yr Ymherodraeth, y meddai Lloegr yr unpwerau i ddarostwng gwrthryfel y pryd hwnw agafedda yn awr, ac y meddai hawl well i'w defnyddio. Cyll Mr Parnell olwg ar yr ystyriaeth pa un ai ni byddai yn rhaid iddi ddefnyddio y pwerau hyny yn amlach a'i peidio.
PWNC YR ORGRAFF.
PWNC YR ORGRAFF. Da genym weled y bwriedir trin y pwnc o sillebu Cymraeg yng nghyfarfodydd y Cym- mrodorion yn yr Eisteddfod agoshaol a fwriedir gynnal yn Aberhonddu. Y mae yn gywilydd i ni fel cenedl nad ydym wedi mabwysiadu rhyw ddull untfurf o ysgrifenu yr iaith. Anhawdd gwybod wrth ddrws pwy y gorphwys y bai. Dichon fod a fyno sectyddiaeth a'r mater, ac fe all coeg ysgolheigdod ysgrifenwyr a golyfjyddion Cynireig fod a fyno ag ef. Nid oes odid un dau newyddiadur Cymraeg yn sillebu yn yr un ffordd. Y mae hyny yn peri petrusder mawr a gofid yn ami i gyssodyddion. Mewn gwirionedd hwynthwy yw y rhai a ddioddefant fwyaf oddiwrtho. Nid ydym yn gweled un ffordd well allan o'r dyryswch nag i'r Eisteddfod ymgynghori a pherchenogion a golygwyr y gwahanol newydd- iaduron Cymraeg, ac os gallant ddyfod i gyd- J ddealltwriaethfefyddypwncgystaI a phe buasai wedi ei benderfynu. Heb y cyd-ddealltwriaeth hwn, ofer i'r Cymmrodorion na neb arall geisio ei benderfynu. Nid oes eisieu colli amser i gyd-gyfarfod mewn unrhyw fan a dadleu y pwnc—ni ddaeth nemawr o ddaioni oddiwrth hyny hyd yn hyn, yn neillduol felly yng Nghymru—fe ellir argraffu a cbylchdaenu nifer o ofyniadau er deall meddwl y gwabanol rai y gyrir attynt ar y mater, a gwybod ar ba dir y byddent yn foddlawn cydweithredu. Os nad ydym yn camgymmeryd, y mae yr hen ysgol" yn ennill yn hytiach na cholli tir yng Nghymru. 0 ID Yr ydym yn meddwl bod y Faner, er engraiffb, yn dyblu mwy o'r cydseiuiaid nag oedd. Mae ganddi betli lie i wella eto. Mewn rhai geiriau y mae yn gogwyddo gormod i'r cyfeir- iad hwnw. Hyd y gwelwn nid oes unrhyw nodwedd neillduol yn perthyn i orgraff papyrau y Gogledd mwy nag i eiddo y Delieudir, ac fe rwyddha hyny y gorchwyl anhawdd ond anghenrheidiol o benderfynu orgraff y Gymraeg unwaith am byth.
FFERMWYR ANGHYMMEN.
FFERMWYR ANGHYMMEN. Nid oes ond ychydig o leoedd i'w cael yn awr nad yw y cynhauaf gwair drosodd ynddynt, ac y mae symiau mawrion o ogr wedi ei osod yn yr ydlan. Os cawn dywydd sych am ychydig ym mhellach fe fydd pob gweiryn hyd yn nod yn y lleoedd diwedd- araf wedi ei gasglu i ddiddosrwydd, ar ol cynbauafaeth ragorol. Wrth fyned at dy fferm yn yr haf yr ydym yn barod i fesur cymmhwysder y ffermwr wrth yr olwg a welir o gylch yr ydlan a'r clos. Yn herwydd fod cymmaint o dyfiant porfa a phethau eraill yn yr haf, fe aiff golwg anniben ar bethau yn union os na ofelir eu cadw i lawr, a gwaith digon rhwydd yw esgeuluso gwneyd hyny. Y llynedd yr oedd faint a fynid o wellt i'w gael, ac fel rheol, pan fo llawer o hwnw yn aros heb ei ddefnyddio o'r naill flwyddyn i'r llall wedi ei ddyrnu, yn y gwanwyn fe'u clymir yn feichiau a gwneir tasau o hono, y rhai a adewir i ymdaro dros- tynt eu hunain goreu y medront. Yn y modd hwn fe geir llawer o wellt rhydd yn gorwedd yma a thraw, yr hwn sydd yn myned yn hollol ofer. Yn fynych nid yw y tasau gwellt yma yn cael eu toi os na byddant wedi eu codi yn gryno, a daw y gwlaw i wneyd hafog buan arnynt. Ni threulid llawer o amser i roddi rhyw do ysgafn arnynt, ac osgoi y golled hon. Nid ymddengys ond mater dibwys, ond pan adewir i'r gwellt sarnu yn y modd hwn o flwyddyn i flwyddyn, y mae yn myned yn gryn swm. Mae genym gnwd rhagorol o wair a thymmer ardderchog arno ym mhob man. Lie mae hwn wedi ei osod yn drefnua ar ben ei gilydd, fe geidw am flynyddau heb fod flewyn yn waeth; ond lie bo wedi ei weithio yn das neu ric anghymmen, fe waethyga bob yn dipyn. Lie byddo digonedd o hono ceir pobl yn llawer llai gofalus yn ei gylcb. Yn awr pan y mae y cynhauaf gwair wedi ei gael o dan do, cadwer yr ydlanau mor gymmhen a chryno nes y bo yn bleser i'w gweled. Fe ddylid tori y boi-fa a glanhau y chwyn a thrwsio y cloddiau a'r cleisiau, a threfnu y ffyrdd a'r llwybrau, a chadwant felly hyd ddiwedd tymmhor y cynhauaf.
PRIODAS MISS E. BEATRICE JONES-PARRY,…
PRIODAS MISS E. BEATRICE JONES- PARRY, TYLLWYD, CEREDIGION. Yn gymmaint a bod nifer mawr o gyfeillion a chyfeillesau Miss E. Jones-Parry yn Gymry, ac yn teimlo dyddordeb neillduol yn ei phriodas, ni a gyhoeddwn ychydig o'r hanes yn Gymraeg. Y mae ein hadroddiad Seisnig a lawer yn llawnach. Dyma fel y dywed un newyddiadur gydag ychydig o ychwanegiad :— Z5 Z5 Prydnawn Sadwrn diweddaf yn Eglwys Sant James, Paddington, Llundain, unwyd y ddeu-ddyn a ganlyn mewn glan briodas-Mr Henry James Theodore Wood, Llundain, a Miss Ellen Beatrice Jones-Parry, Tyllwyd. Unig fab y diweddar Mr James Templeton Wood o Lundain yw y priodfab, a'r briod- ferch yn ail ferch i'r Capten S. H. Jones- Parry, Tyllwyd, sir Aberteifi, Yr oedd y gwasanaeth yn un cwbl gorawl. Cyflawnwyd y defodau priodasol gan y Parch. E. J. H. Smith, M.A., o Goleg Penfro, Rhydychen. Rhodd wyd y briodasferch gan ei thad. Gyda'r mab ieuanc yr oedd Mr B. A. Streatfield fel ei ddeiliwr. Yn dysgwyl dyfodiad y briodas- ferch yr oedd pedair o law-forwynion, sef Miss Blanche Jones-Parry, Miss Gwladys Jones- Parry, Miss Beauchamp, a Miss Bourne, a phob un o honynt yn edrych am yr harddaf mewn gwisgoedd "laned a goleuni'r wawr." Yr oedd gwisg briodas y ferch ieuanc yn Hodedig am ei thegwch a'i thlysni, a rhai o'r addurniadau a'r tlysau o wisgai wedi dyfod eddiwrth ei mam-fedydd—Mrs Meredydd- eraill oddiwrth ei thad-y Capt. Jones-Parry ac eraill drachefn oddiwrth ddeiliaid ei thad yn sir Gaerfyrddin. Yr oedd anrheg y deiliaid yn cael sylw mawr, ac yn ddiau fe fydd mewn cof a chadw am oesau yn y teulu. Cymmerodd y croesaw le yn Gloucester Place yn agos i Hyde Park yn Llundain, a daeth llawer yng nghyd i longyfarch y gwr a'r wraig ieuanc. Yn y prydnawn ymadawodd Mr a Mrs H. J. Theodore Wood am hen ddinas Caergaint ar eu ffordd i'r Cyfandir i dreulio eu mis gwyn. Bwriadant ymweled a gwlad y Mynydd Gwyn —Switzerland—y Tyrol, a Gogleddbarth yr Ital cyn dyfod yn eu hoJ.
ENWAU.
ENWAU. Gwnaeth gohebydd un newyddiadur Seisneg yn ddiweddar yr hyn a wnaed lawer gwaith o'r blaen, sef turio i fewn i hynodion llyfrau cofrestrol Somerset House, a rhywbeth yn debyg i hyn yw ei brofiad. Mae llawer o rieni o'r dosparth canol yn cael pleser mawr wrth roddi lluosawgrwydd o enwau i'w plant. Mae un clerc o'r enw Brown mewn swyddfa dan y Llywodraeth wedi bedyddio ei ferch yn Sarah Jane Mary Ann Emma Catherine Matilda Evelyn Margaret Rosamond. Mae y llinyn hwn yn ddigon hydiog yn enw pob rheswm, ond y mae Sarah Brown ym mhell ar ol o'i chymmharu a merch Arthur Pepper, yr hon sydd yn meddu chwech ar hugain o enwau. Etallai mai ei heiddo hi yw yr hwyaf mewn bod. Wedi ei estyn yn ei lawn hyd fe red fel y catilyn-Ann Bertha Cecilia Diana Emily Fanny Gertrude Hypatia Inez Jane Kate Louise Maud Nora Ophelia, Patience Quince Rebecca Starkey Terez Ulysis (sic) Venus Winifred Xenophon Yetty Zeus. Mae ganddi enw yn dechreu gyda phob un o lythyrenau y Wyddor Seisnig, ac y mae ei henwau yn rhedeg yn ol trefn hono.
YMGOM.
YMGOM. MR. GOL.Cyn i fy Ymgom o'r blaen gael ei chyhoeddi, fe gyfododd rhyw awydd dysymwth ar Pegi i fyned i ymweled a'i pherthynasau tua'r Gogledd, a cban fy mod yn arferol o fyned efo hi ar ymweliadau, nid aethum i fod yn wahanol y tro hwn eto; ac oddiar hyny hyd yn awr yr ydym wedi cael mwynhad rhagorol. Geiriau olaf yr hen wraig wrth gychwyn oeddynt, Cofia di, Mari, gadw y JOURNALS yn ddiogel erbyn y byddwn yn dychwelyd." Un gynnil iawn ar y forwyn ydyw yr hen wraig, yn enwedig os bydd yn myned am dipyn o dro ac y mae yn sicr o gofio'igorchymynion hefydaroldychwelyd. "O'r goreu," ebai Mari, fe fydda'n siwr o wneyd;" a'r peth cyntaf a welais ar ol dyfod i dre nos Wener, ydoedd Mari a bwndel mawr o'r JOURNALS yn croesawi yr hen wreigan wrth y drws. A wyt ti, Pegi, yn meddwl darllen yr holl bapyrau yna heno cyn gorphwys?" "Bid siwr hyny, yn wir. Yr wyf wedi cael fy am- ddifadu o'r JOURNAL yn ddigon hir," meddai; a dichon fod rhywbeth yn rhai o honynt yn erbyn ein Hymgom." Ac wele hi yn ym- aflyd yn ei gwydrau, ac yn decbreu ar y JOUR- NAL am Mehetin y 14eg. "Pwy newydd, Pegi y gofynais. 0, y mae dy Ymgom wedi ym- L% ddangos, ac y mae un arall gan ryw Jonathan ar ei hol, yn dy gondemnio yn ofnadwy. Tybed 1 oes 'n tad." A dyma hi yn dangos i mi ryw ysgiif hit faith a choegaidd-cyhyd, gallaswn feddwl, ag ambell i fil got yn amser fy nhadcu. Ac ar ol i mi i'w darllen, mi welais yn y fan fy mod o dan rwymau i ofyn maddeuant Pegi am ddyweyd ei bod yn hoff o redeg yn erbyn y gofid;" ac yr wyf o'r farn y buasai yn ddoeth ar ran Jonathan a'i gwmni hefyd i wneyd yr un peth i Pegi a finnau am ddyweyd ein bod yn 11 blentynaidd." Ond y mae un peth yn ei ysgrif ag sydd yn rhoddi calondid nid bychan i'r hen wraig a finnau, sef ei fod yn addef i ni ein dau fach fod unwaith yn ddynion." Nid braint fechan, cofied, ydyw cael bod unwaith yn ddyn." Nid pawb, y mae yn ofid srenyf ddvwevd. sydd yn ardal Pencader heddyw yn deilwng o'r enw dynion." Taw, ffwlbri," meddai rhywun, "dim dynion yn ardal Pencader! Dyna benchwibandod eto!" Dwli neu beidio, y mae yn eithaf gwir, yn enwedig am y rhai hyny ag ydynt erioed wedi gorfod ymrestru ar lyfr mawr Titotaliaeth. Y mae yma lawer wedi cyrhaedd oedran mawr, mae yn wir, ond y maent wedi aros drwy eu hoes gyda'r plant bach, o ran eu cynneddfau a'u galluoedd. Y mae'r ffaith eu bod wedi gorfod tori eu henwau yn profi mai rhyw epil wan-gynneddf ydyw y bobl hyn-yn cymmeryd eu troi gan bob awel. Ac y mae auwybodaeth Jonathan o'r Seisoneg ac o'r Bibl yn dangos yn eglur fod ei allu meddyliol yn hollol o dan len. Nid wyf yn meddwl y buasai i un o'r plant bach roddi gofynnod (t) ar ol Pa'm nad wyf yn credu yn yr Un Mawr?" Ac felly, nisgallaf lai na galw yr uchod yn gamgymmeriad Hlbiaidd, a gosod Jonathan bach yn yr un man a'r babiod i gyd, sef yn y cryd, a'i sio i gysgu, rhag iddo fyned allan a syrthio dros y stepan a chael niwed. Fel y gwyr ein darllenwyr, y mae rhyw duedd mewn babanod i gael llyfrau yn eu dwylo ym mhell cyn y byddont yn medru eu deall, yn enwedig os bydd pictwrau ynddynt; a dichon fod pictwrau peiriannau gwnio, gwennoliaid, a rhodau nyddu, &c., yn llyfr Annie Besant yn denu Jonathan bach i syllu arno, er nad ydyw yn deall hyd yn oed yr wyneb-ddalen." Ond cynghoraf gefnog- wyr Jonathan i'w gadw draw, pan ddihuna nesaf, oddi wrth bamphledau a llyfrau ag sydd a thuedd ynddynt i filwtio yn erbyn geirwir- edd ac ysbrydoliaeth y Gyfrol Sanctaidd. Y mae fod rhai wedi myned i eithafoedd wrth ymdrin a phynciau dyrys wedi bod yn foddion i fagu llawer o heresiau cyn hyn a phwy a wyr na wna cefnogwyr Titotaliaeth, tra yn cefnu ar y Bibl a phinio eu hunain yn hollol wrth eu hobi, syrthio i gyfeiliornad ? Gellir casglu o'i ysgrif fod llyfrau o'r natur uchod wedi ei siglo yn ei broffes eisoes. Dywed mai gwastraff ar ofod fyddai ceisio pi-ofi na chrewyd y ddiod feddwol yn ei ffurf bresennol." Tebyg na ddo, gyfaill anwyl, neu buasai'r casgeni wedi pydru a'r ddiod wedi suro erbyn hyn. Gyda'r un priodoldeb y gallasai ddy- weyd na chrewyd bara, &c., yn ei ffurf bresen- nol, onide buasai yn sicr o fod wedi llwydo erbyn heddyw. Fel y dywedais o'r blaen, os oes rhywrai o'r pethau o ba rai y gwneir v ddiod wedi eu ercu gan arall na'r Un a'u creodd, ac nad ydynt erioed wedi eu bwriadu er cynnaliaeth dyn, ond yn hytrach yn ffrwythau gwaharddedig, byddaf gyda phob parodrwydd yn canmol Jonathan am ym- wrthod a hwynt; heb law hyn, nis gallaf fi na Phegi fyth ymuno a'i blaid. Dywed ym mhellach nad ydyw dwyfol ysbrydoliaeth yn gorchymmyn i ddyn yfed diodydd meddwol. Onid oedd Paul, gofynaf, o dan ddwyfol ys- brydoliaeth pan yn gorchymmyn i Timotheus i ymarfer ychydig win er mwyn ei gylla ? A pheth am y geiriau hyny, "Yfed efe fel yr anghoBo ei dylodi?" Piti fod neb, wrth geisio cadarnhau ei fympwy ei hun, yn myned mor eithafol a gwadu ysbrydoliaeth y Beibl! Ood cyn terfynu ei ysgrif, cawn ef drachefn yn dyfod ag Ysgrythyr (meddai ef) i brofi ei bwnc. "Dnw wedi cyhoeddi gwae uwch ben y cwpan meddwol mewn cyssylltiad a meddw- dod Lot." Nid yw yr uchod yn yr un copi o'r Bibl sydd genyf fi, gan nad b'le y darfu i Jonathan ei weled, anhawdd gwybod. Ond y mae Pegi yn dyweyd y cawn setlo pethau fel yna wrth fyned i Lanfair-tref-helygen; ac os bydd iddi hi i gael dyfod efo ni, y mae yn dyweyd y bydd yn sicr o brynu tegnn i Jonathan bach neu ein treto a photelaid o'r coniac goreu.—DAFYDD. [Prin iawn yw ein gofod i ymgomiau hir fel hyn. Amlach a byrach yw ein harwyddeiriau o barthed i'n gohebwyr. A fydd rhai o honynt mor garedig ag ysgrifenu ambell i bwtyn doniol yn iaith llafar gwlad unrhyw gymmydogaeth yn Nyfed ? Fe gaiff Jonathan ddweyd gair o'i ochr yntau os dewisa. Bydded mor finiog ag y medr, ond nid yn bersonol.—Y GOL.]
[No title]
CKDWOH y neb nad yw yn hoffi bara, cerddoriaeth, a chwerthiniad plentyn bach, dair llatfe o leiaf oddiwrthych. GOFBJ^CH AM Y tStfPHdD.—Cyhoeddwyd rhybudd i berchenogion cathod gan Y Gym- deithas er Attal Creulondeb at Anifeiliaid yn ddiweddar. Bydd pobi yn fynych, wrth fyned i lan y mor neu rywle arall, yn arfer troi eu cathod dros y drws, gan ymddiried i'w gallu i ymdaro drostynt eu hunain, neu i'r naw bywyd" diarebol y dywedir sydd ganddynt, ond y mae yn ffaith fod Ilawer o gathod yn cael eu newynu i farwolaeth bob haf. Y mae y Gymdeithas yn penderfynu cospi o hyn allan bawb a driniant eu cathod felly. Gobeithio y bydd i'r rhybudd bwn wneyd pobl yn fwy gofalus am eu "hoff" bethau byw o hyn i maes. PA FODD I NABOD GWYDD.—"Mam! mam meddai bran fach, wrth ddychwelyd yn frysiog o'i thaith gyntaf, "yr wyf wedi cael eyiiimaiiit o ofn, yr wyf wedi gweled y fath olygfa « Beth welaisfc ti, fy merch ?" meddai yr hen fran. 0, rhyw greaduriaid gwynion—yn ysgrechain, a rhedeg, ac estyn eu gyddfau, ac yn dal eu penau mor uchel. Dyco nhw, mam, yn myned y ffordd draw." U Gwyddau, fy merch, dim ond gwyddau," meddai y fani yn dawel, gan edrych ar y cae lle'r oeddynt. "Drwy dy oes, fy mhlentyn, dal sylw pan gyfarryddi a rhywun yn cadw swn mawr am dano ei hunan, ac yn ceisio codi ei ben yn uwch nag eraill o'i gydgreaduriaid, fe elli gyfrif ar unwaith mai gwydd ydyw hwnw." BEDYDDIO GBFEILLIAID.- Un o'r ofergoelion dychrynllyd sydd yn blino Affrica yw y gred taw anghenfilod yw gefeilliaid, a pheth cyffredin yw lladd y fam a'r rhai byebain- weithiau claddu y rhai bychain yn fyw. Gwnaeth yr Archddiacon Crowther ryw ddeg mlynedd yn ol ymdrech benderfynol i achub dau efell newydd-eni mewn lie o'r enw Onitsba. Bu cynhwrf enbyd mewn canlyniad, a therfysg ym mha un y lladdwyd dau ddyn. Bu farw un o'r babanod, modd by nag, cyn i'r ddedfryd gael ei gweinyddu arnynt, a bu farw y llall hefyd, er iddo gael ei ddwyn mewn ewch i le o ddyogelwch. Y mae yn hyfryd gan hyny i glywed mewn llythyr yn ddiweddar oddiwrth yr Archddiacon Johnson fod gefeilliaid wedi eu bedyddio yn Onitsha ac nad oes dim swn wedi bod yng nghylch y mater. Mae y tawelwch hwn yn ddyledus mewn rhan i waith y cenhadwr, ac mewn rhan i waith Cwmni y Royal Niger yn ddiweddar yn ceisio attal aberthau dynol rhag cael eu ffwnevd vn Onitsha. 0" GALLU GREDDF.—Beth ydyw greddf, a pha beth a'i achosa ? Gofynwyd y cwestiwn lawer gwaith, ond ni chafwyd attebiad boddhaol iddo hyd eto. Pa fodd y medr y gwennoliaid ragfynegu ystorm 1 Pwy a ddysg yr afanc i adeilio argae. Fe ellid gweled ychydig amser yn ol mewn newyddiadur tramor hanes afanc dof yn ceisio adeilio argae o laid a gwrysg yn groes i lawr cegin ei berchenog, a gwnaeth hyny fwy nag unwaith er mawr ddifyrwch ac anhwylusdod y teulu. Y mae ci defaid heb ddeadell yn teimlo nad oes ganddo ddim gwaith i'w wneyd, yn enwedig os bydd wedi ei ddysgn i fugeilia defaid. Nid oes llawer o amser oddiar pan y gyrwyd preswylwyr un pentref i ofn mawr. Yr oedd pob plentyn wedi myned ar goll. Ar ol ymchwil hir dyma'r floedd allan. Fe gafwyd o hyd i holl blant bychain y lie mewn hen yard nad oedd yn cael ei defnyddio, a chi defaid yn eu bugeilia. Gan deimlo nad oedd ganddo ddefaid i ofalu am danynt yr oedd wedi dilyn ei reddf drwy gasglu plant y pentref i'r un gorlan ac, wedi eu crynhoi yno, nid oedd yn foddlawn iddynt fyned ymaith.
BYRION.
BYRION. DALIWYD aderyn y to o liw perffaith wyn yn Markinch yn swydd Fife. DYSGWYLIR Madame Patti yn ol o'r America oddeutu y 10fed o'r mis hwn. DYWEDIR y gwna Saxoni fwy dros ei phobl ddeillion nag un wlad arall yn Ewrop. Y MAE poblogaeth Dinas Efrog Newydd yn awr yn cyrhaedd 1,755,110. TORODD tan allan yn Su Chow yn China, a llosgwyd 1,200 o ddynion, a gwnaed 170,000 yn ddigartref. Bu farw Mr Savin, Croesoswallt, un o hyrwyddwyr blaenaf y rheilflyrdd yug Nghymru, y mis diweddaf. TALODD Rheilffordd Rhymni a Rheilffordd Cwm Taf 10 y cant i'w cyfranddalwyr y tymmhor diweddaf. MAE Mr a Mrs Gladstone wedi byw hanner can mlynedd gyda'u gilydd oddiar y mis diweddaf. DYWEDIR fod y gemau yr anrhegwyd y Dywysoges Louise a hwynt ar yr achlysur o'i phriodas yn werth can mil o bunnau. CODWYD pris y cAn gan Gymdeithas Melin- yddion Leeds dri a chwech y sach y mis diweddaf. CEIR 450 o offeiriaid yn dwyn yr enw Jones, a 318 yr enw Smith-yn ol Rhestr y Clerigwyr. PRIS y ceffylau ar gyfartaledd y llynedd yn y wlad hon oedd L66 yr un—-mwy o L7 y pen nag yn 1889. YR oedd y Post-feistr CyfFredinol, yr Anrhyd. H. C. Raikes, yn aros yr wythnos hon yn ninas Llandaf. ATTALIWYD y dwfr yn Abertawe y Linn a'r Mawrth diweddaf er mawr anhwylusdod y trigolion. Bu farw Mr Owen L. Hughes, un o'r Rheil- ffyrddwyr blaenaf yn yr Unol Dalaethau, y mis diweddaf. Cymro o sir Fon ydoedd. MAE yr afon Felen yn China wedi gorlifo eu glenydd unwaith yn rhagor, a'i dolydd yn i orchuddiedig gan 12 troedfedd o ddwfr. BWRIADA Mr Balfour, Prif Y sgrifenydd y Werddon, fyned i Edinburgh i draddodi araith wleidyddol ym mis Tachwedd. COSTIODD Etholiadau y Cynghorau Sirol yn Lloegr a Chymru y swm o £131,818 16s. lid. < o logellau y siroedd. DYWEDAI Iarll Granville wrth siarad yn gyhoeddus y dydd o'r blaen ei bod yn annichon aduno y Blaid Ryddfrydol ar hyn o bryd. DANFONWYD yr hynod Dr. Tanner i garchar am fis am ymosod ar arolygwr heddgeidwaid vn TiDDerarv. f r jr j • Y MAE swm y gwenith a gynnyrchir yn Ewrop y leni lawer yn uwch na'r cyfartaledd o 1880 y leni lawer yn uwch na'r cyfartaledd o 1880 hyd 1888. MEWN inewest a gynnaliwyd yn ddiweddar yn Battersea yr oedd amryw o'r rheithwyr yn feddw pan gyrhaeddasant i'r lie. GADAWODD y Frenines Osborne (yn Ynys Wyth) ddoe am Ogledd Cymru, a chyrhaedda orsaf Llandderfel bore heddyw (Gwener). MRS GLADSTONE a gyflwynoddygwobrwyon yn ysgol y Merched Cymreig Asbford y Mawrth diweddaf. YR oedd yr Arddangoefa Arddwrol a gyn- naliwyd yn Llanddyfri Mawrth yr wythnos hon yn "flodeuog" mewn rhagor nag un ystyr. AGORWYD Arddangosfa Amaethyddol air Forganwg yr wythnos hon yn Nhreorci. Yr oedd yn fwy llewyrchus a blodeuog nag mewn I blynyddau blaenorol. YN Belgium y mae 150,000 o dafamau, neu un ar gyfer pob 50 o'r boblogaeth. Bwriada y Llywodraeth godi toll drom ar bob tafarn ltewydd a gychwynir. FE fwyteir mwnciod wedi eu rhostio yn ninas Paris. Ymddengys nad yw y Ffrancod, os derbyniwn ddamcaniaeth Darwin, yn rby falch i fyw ar eu rhieni. Nos Sadwrn diweddaf cafwyd corph dyn wedi ei ladd ar y rheilffordd yn ymyl Caer- fyrddin, a'i ben wedi ei doti yn llwyr oddiwrth j ei gorph. PRISIAU yr yd ar gyfartaledd yn y wlad hon yr wythnos ddiweddai Gorph. 27fed oeddynt—Gwenith 30s. y chwarterj bar!ys 25s, a cheirch 19s. 10c. MAE Esgob Llanelwy wedi derbyn £ 500 tit amcanion da yn yr esgobaeth oddiwrth fon- eddwr nad yw yn dewis i'r Haw chwith wybod pa beth a wna ei law ddeheu. CAFODD gweddw y diweddar Arolygwr Martin a fwrddrwyd mor greulawn yn Falcarragh (Gwerddon) L4,000 o iawn oddi- wrth yr awdurdodau. CYMRO—Mr T. Jones Parry, Clydach, Brynmawr—sydd i'w ethol yn Uchel Brif Reolwr Urdd y Rechabiaid am y flwyddyn nesaf. Hon yw y swydd uwchaf yn yr Urdd. BYDD Pwyllgor Addysg Ganolraddol yog Nghymru yn cael ei wneyd i fyny o bump aelod-tri i'w dewis gan y Cynghor Sirol, a dau gan Adran Addysg (y Llywodraeth). AMCANA y Dadgyssylltwyr (meddant) fod yn fywiog iawn yn ystod yr hydref a'r gauaf agoshaol. Bwrw eu bara ar wyneb y dyfroedd y maent gan feddwl eu gael yn yr Etholiad Cyffredinol. YM Mrawdlys ddiweddaf Leeds dedfrydwyd menyw o'r enw Elizabeth Shiel i ddeg mlynedd o benyd gwasanaeth am gamdrin a newynu plentyn pum mlwydd oed a roddesid dan ei gofal. ENNILLODD Mr T. Melinddwr Davies, Llansawel, wobr o werth hanner can swllt, a choron arian o'r un gwerth, yn Eisteddfod Callestr a gynnaliwyd yn Bagillt Mehefin y 23ydd a'r 24ydd. MAE boneddiges o sir Aberteifi, yr hon a arfera ysgrifenu i golofnau Y JOURNAL, wedi newydd derbyn £ 125 am un erthygl ar gyfer un o'r misolion blaenaf yn y byd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg." DRINGODD merch fechan 12 oed o'r enw Maggie Thomas i ben Mynydd y Manod yn agos i Ffestiniog, i gasglu syfi gochion; llithrodd ei throed, ac ym mhen ychydig eiliadau, syrthiodd dros ddibyn y mynydd a maluriwyd ei chorph yn yfflon. Y MaE rhai Bedyddwyr haelionus yn yr America. Cynnygiond Mr J. D. Bockfeller o Chicago y swm o L120,000 at adeiladu Coleg yn y ddinas hono ar yr ammod y cesglid L80,000 arall o fewn blwyddyn. Dysgwylir y bydd i'r swm gael ei gasglu cyn ben deufis. MEWN rhai manau yn yr India caniateir i wragedd gwedd won briodi, a gellir rhoddi lodes mewn priodas heb y gost aruthrol yr eir iddi ar y briodas gyntaf. Fe rydd y rhieni eu merch, felly, mewn priodas i swp o flodau y rhai a fwrir i lawr i bydew. Dywedir fod y gwr wed'yn wedi marw, a geill y ferch, fel gweddw, briodi ya gymmhedrol o rad.
llarddoitiactlt.
llarddoitiactlt. AT Y BEIRDD. ENOLTNIOH AR BFIODAS, Ac.—Cant yoddaogos yn ein nesaf. YR YSTOR. AR FOR TIBERIAS.—Gwell faasai dan- fon y dernyn i ryw gyhoeddiad misol. Er hyny fe ga ymddangos wedi newid rbai geiriau a phethau dibwys eraill. Mac gwawr barddoniaeth yn dechren tori ar feddwl yr awdwr. PALAS T DOLAU.-Y mae cryn wahaniaeth rhwng cywreiorwydd celfyddyd y palas ag eiddo yr englynion hyn. LLUN FT NGHARIAD, CEILIOQ Y CORD.-Caiff y rhai hyn ymddangos. Pwy o'r Beirdd a hoffent ganu ar destynan gwleidyddol. Ymddengys i ni fod degaa o destynau i'w cael—rhai newydd spon—bob wythnos, y gellir cann ychydig o bennillion neu englynion arnynt. Mae yn faea i'r dyrlwr, a'r dncbanwr, a'r telynegwr i gana fel y mynont. Cym merer yr awgrym. Y GOLTGTDD. MAN GWYN MAN DRAW. Adwaenwn ddyn unwaith, mae eto yn fyr, Fe wyr am bob ardal, rhyw ddyn rhyfedi yw j Mae mor gyfnewidiol a chawod o wlaw, 0 hyd mae yn gweled rhyw fan gwyn man draw. Pan ydoedd yn ieaano i'r ysgol fe aeth; Dechreuai ar lyfr ond ai hwnw'n rhy gaeth, Un newydd yn anion a geid yn ei law, 0 hyd 'roedd yn gweled rhyw fan gwyn man draw. Dechreuodd yn fran a charu rhyw ferch, Gwnaeth hono am ddeufis sefydlu ei serch Ond 'roswch, un arall biau 'i serch maes o law, 0 hyd 'roedd yn gweled rhyw fan gwyn man draw. Gogwyddodd ei feddwl at grefydd 'rol hyn, Dechrenodd ei yrfa yn Fethodist tyn; Bu'n Faptist a Senter, ond syrtbiodd i'r baw, 0 hyd 'roedd yn gweled rhyw faa gwyn man draw. Cadd Bwm dda o arian ar ol ei dadcu, A'r rhai'n prynodd dyddyn a gwartbeg yn 11a Buwch newydd neu geffyl bob lleaad a ddaw, 0 hyd 'roedd yn gweled rhyw fan gwyn man draw. Fe wertbodd ei dyddyn a phrynodd Tre'rddol, Deallodd ya fuan fod hyny yn ffol; Cynnygiodd a chafodd le arall wrth law, 0 hyd 'roedd yn gweled rhyw fan gwyn man draw. Ond ba! yn y diwedd fe ddaeth yr hen frawd 0 ganol ei gyfoeth yn ddigon tylawd. Heb randdor nn lloches rhag gwyntoedd na gwlaw, Yn awr man go dywyll yw'r man gwyn man draw. Ei weled gawn weithiau yn Nhlotty y Plwy', Heb obaith dod allan ond i'r bedd byth mwy, A'r cynghor difrifol trwy 'i fioesgni a ddaw, Gochelwch eich twylZo a'r man gwyn man draw. TTDAIN. Y DDANNODD. Ow! i b'le'r af rhag cabl a rheg ?—ow! ow 'r Ddannodd wyllt ddiosteg! Byw'r ydwyf trwy'ai ber adeg A phoenau 'nghorph yn 'y ngheg.
^lohcbiactlt.
^lohcbiactlt. Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr o dan y penawd hwn. Y GOL.
LLAFAR GWLAD.
LLAFAR GWLAD. At Olygydd Y JOURNAL. MR GOL.,—A oes ritywrai o'ch darllenwyr a fedr roddi ychwaneg o ymadroddion llafar gwlad eyffelyb i'r rhai canlynol, a rhoddi rhyw gymmaint 0'0 hanes, a'r rheswm pabam yr arferwyd hwy ar y cyntaf ? Am bobl Trelech fe ddwedir :— Crapsach bach Trelech Yn bwyta'r erfin bob yn wheoh." Am Llanwinio fe red y rhigwm Llanwinio yn llawn anwyd, Chydig o dan a digon o fwyd." Mae gryn lawer yn waeth eto yn Llacharn Llwchwrn Lacharn lwyd Lie nid oes bwyd am arian, Na pheth i ferch, na cbeirch i farch, Pwy a roiff barch i Lacharn." Nid yw yr hen wheddel yn siarad yn uchel am glopanau pobl Abernant:— Ffyliaid bach y Byrnan Yn bwrw'r cetyn cosyn i'r afon." Nid wyf yn sicr a ydwyf wedi clywed y text iawn i'r un olaf, a dymunwn i rywun ei gywiro, os medr. Mae ben ddywediadau wedi nodi brodorion Meidrym fel "Lladron Meidrym," ac wedi rhoddi ar breswylwyr Cynwyl y llosgnod yma:— "Cynwyl Elfed— Lladron defed." Nid wyf fi yn cofio ycbwaneg ar hyn o bryd. Mi a garwn i rywun mwy cofus ysgrifenu ar y pwnc ym mhellach.- Y r eiddoch, &c., CARWR LLEN Y WERIN. [Bydd yn bleser mawr genym agoryd gohet- iaeth yn y cyfeiriad hwn—maes dyddorol iawn ydyw a dylesid bod wedi amaethu mwy o hono.—Y GOL.]
YR EGLWYS A'R F ASN ACa FEDDWOL
YR EGLWYS A'R F ASN ACa FEDDWOL At Olygydd Y JOURNAL. MR GOL., Wrth ymdrin a phwnc y "Rhoddion Breiniol," dywed y Gwyli-edydd "heddychlawn," fel y gel wir ef, fod "yr Eglwys yn asgwrn cefn i Unbenaeth ac i'r Fasnach Feddwol." Mae y fath haeriad yn ddisail a chyfeiliornus. Fel aelod o'r Gymdeithas Ddirwestol Eglwysig rhoddaf her i'r ys- grifenydd i'w brofi. Y mae'r Eglwys wedi gwneyd mwy dros wrthsefyll a gwanhau y Fasnach Feddwol na'r holl Sectau gyda'u gilydd. Pa fodd y gellir haeru fod yr Eglwys yn asgwrn cefn i'r Fasnach Feddwol pan y mae dros 7,000 o'i hoffeiriaid yn lIwyr- ymattalwyr? Pa fodd y gellir dweyd fod yr Eglwys yn asgwm cefn i'r Fasnach Feddwol pan y mae dros hanner milhvn o'i hymlynwyr yn llwyr-ymwrthodwyr, heb son am y Bands of Hope sydd yng nglyn a hi ? Pa fodd y gellir dweyd fod yr Eglwys yn asgwrn cefn i'r Fasnach Feddwol pan y gwerir mwy o arian ganddi er lledaenu egwyddorion dirwestcl na'r holl gyrph crefyddol sydd yn y wlad 1 Fe ddosparthwyd gan Undeb Dirwestol yr Eglwys dros ddwy fil o bamphledau I ob dydd y cyn. nelid Rhedegfeydd Newmarket. Pe darllen- asai ysgrifenydd y paragraph y Temperance Chronicle, cawsai weled pa un a yw yr Eglwys ai peidio yn asgwrn cefn i'r Fasnach Feddwol. Nid yw yr Eglwys felly mewn unrhyw ffordd. Nid oes unrhyw gyssylltiad rhyngddynt. Pwy yn fwy blaenllaw gyda Dirwest nag Esgob Llundain, Archddiacon Farrar, a'r Canoniaid j Ellison a Wilberforce, a lluaws o wyr enwog I eraill ? Trueni o'r mwyaf gwneyd haeriad o'r natur yma, ac ail adroddaf fy her i'rysgrifenwr i'w brofi. Os na chaiff chwareuteg gan Y Gwyliedydd yr wyf yn gobeithio Mr Gol. y rhoddwch ddrws agored iddo yn Y JOURNAL tuag at wneyd hyny.—Yr eiddoch yn gywir, DANIEL JONES. Caerfyrddin, Gorph. 30, 1889.