Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

Y FRENINES A CHYMRU.

GWLEIDLYWIAETH SEFYDLOG.I

ARAITH MR. CHAMBERLAIN.

YMBLEIDIAU Y BLAID RYDD->…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMBLEIDIAU Y BLAID RYDD- > FRYDOL. Pan orphenodd Mr Gladstone ymdaith yng Ngorllewinbarth LIoegr dro yn ol fe ddecli- renodd y blaid fawr Ryddfrydol (fel y myriant fyth alw,eii hunain) ddeall nad eedd swyn yr I Hen Wr Ardderchog yo berffaith ddigonol i'w dwyn yn ol i Ganaan swydd seneddol. Gwir i bleidiat-u eraill deimlo hyn dro "mawr yn ol, Ond yn herwydd gorJawenydd y Parnelliaid, am iddynt o'r diwedd fachellu Mr Gladstone, gwnaed yr ymdrechion rhyfeddaf, a hyny gyda llwyddiant am beth amser, i gynnal yspryd y Gladstoniaid rhag llwfrhau. Yr oedd y Wasg yn cael ei "gweithio," a'r Senedd yn cael ei gweithio," a'r llwyfan yn cnel ei weithio," a hyny yn y ffordd fwyaf cymmeradwy, ond yn ofer. Ar ddiwedd eu pedwerydd Eisteddiad y mae y Llywodraeth yn gryfach na phan I aethant i swydd a'r gwrthwynebwyr yn fwy ymranedig ac feUy yn wanach. Tra mae yr Undebwyr wedi symmud yn nes at eu gilydd, wedi gwastattau eu gwahaniaethau, y rhai oeddynt yn ddifrifol a phwysig ar droion, ac; wedi perffeithio eu trefn, y mae y Parnelliaid Seisnig a Gwyddelig wedi rhedeg ym mhellach bellach oddiwrth eu gilydd. Y. mae y wlad wedi bod yn gwylio symmudiadau pethau, ac yn gweled yn eglur iawn beth yw y rhesymau. Awyddus i roi clwyf ond eto'n ofni taro." Yn union y daeth yn eglur ar ol y daith yn y Gorllewin fod Mr Gladstone gystal a'i chwareu allan fel gwleidyddwr ar y maes agored, dechreuodd y Blaid Radicalaidd newydd edrych o'u hamgylch am arweinydd newydd. Y mae'r canlyniadau yn galonogol iawn i bawb ond i'r Radicaliaid. Nid ydynt byth wedi gorphen ymladd yng nghylch olynwr i'r Hen Wr Ardderchog. Mae y Parnelliaid am gydip yng nghynffon cotiau arweinwyr y Ffront Opposition cymmedrol. Mae y Sosial- istiaid am gael Mr Labouchere. Gwaedda rhan arall am Mr Morley tra y siaradir am hyd yn nod Mr Parnell ei hun gan y Pall frall Gazette fel yn llawer mwy tebyg i gael ei wneyd yn Brifweinidog Lloegr nac arweinydd Parliament yn y Werddon. Gyda'r amryw- iaeth swynol yma o opiniynau yn eu plitb, a ydyw yn syn bod barn y wlad yn trosglwyddo Y mreolaeth i niwl a phellder y dyfociol1 Y Blaid Ymrwygol eu hunain yw yr esiampl oreu o'u gwleidlywiaeth Wyddelig eu hunain, V) a gwel deuddeg mis eto y fath agwedd ar bethan yn y gwersyll Gladstonaidd agaddvlai roddi gwers a saif wrth asen pob gwleidyddwr mewn ymchwil am bolisi. Dwg dychwelebion amaethyddol Cofrestrydd Cvffredinol y Werddon broHon sylweddol yn- ddynt eu hunain o'r diwygiad mawr sydd wedi cymuieryd lie ar bethau yno. Yr oedd cyn- nyrchion 1887 o dan Lywodraeth "Orfodol," yn rhagori ar eiddo 1886. Yr oedd mwy o dir yn cael ei wrteithio. Codwyd mwy o ddefaid o ryw chwarter miliwn, tra y codwyd ac danfonwyd allan i wledydd eraill fwy o y 0 wahanol greadui-ixid erixill. Gyda'r eithriad o bytatws yr oedd pob cnwd yn 1888 yn rhagori ar 1887 mewn swm ac mewn sylwedd. Dengys ystadegau tuhwnt i bob dadl fod arn- gylchiadan amvtethyddol y Werddon yn gwella, ac yr ydym yn gwybOd mai rfr atnaethyddiaeth yn benaf y dibyna cysur a llwyddiant a bodd- lonrwydd y Gwyddel. Heblaw hyn mae y. bobl yn gogwyddo i gyfeiriad ffermydd mwy eu maint, yr hyn a ddengys safon uwch o gysur,. a'r hyn y teimla pawb sydd yn awyddus i weled y cabanau 11* id yn darfod o'r manau mwyaf poblog yn faleir o hono. Ffeitbiau yw y rhai hyn nad yw cyhyrfwyr Gwyddelig yn hoff o'u cy. farfod, a'r rhai bob amser yr osgoant rhagddynt ar lwyfanau cyhoeddus. Maent wrth reswni yn gwrthwynebu y ddamcaniaeth Barnellaidd a'r yinresymiad fod Gwerddon yn gwaedu i farwolaeth o dan ddwylaw llofruddiog Mr Balfouracnad oes iachawdwriaeth iddi ond Ymreolaeth.

RHEILFFYRDD YSGEIFN.

EIN CBEADURIAID PLUOG. 1--

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1891.

FICER NEWYDD LLANSADWRN A…

[No title]

BYRION.

DADBLYGIAD.

OWN HELA CAPTEN LLOYD,: GLANSEVIN.…

LLANYMLYDYFRI.

BORTH (GER ABERYSTWYTH).

ABERTEIFI.

AT EIN GOHEBWYR.