Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
YR EISTEDDIAD SENEDDOL.
YR EISTEDDIAD SENEDDOL. Yr ydym gan bwyll yn tynu at derfyn Eisteddiad y Parliament. O'r dechren i'r I diwedd y mae wedi bod yn gyfnod o lwyddiant cysson i'r Llywodraeth. Gwir i'r nestir a amcanai y Weinyddiaeth brysuro ym mlaen yr wythnos ddiweddaf—Mesur y Degwm— gael ei dafln dros y bwrdd, ond y mae byd yn nod hyny yn fwy o fenditli na dim arall, o herwydd dangosodd yr ymdrafodaetli, fel y cawn weled, pwy yw y blaid Radicalaidd a phwy y blaid Genedlaethol. Yn y lie cyntaf nid yw Gwerddon wedi cau y ffordd i fyny. Am dair blynedd dyma a fu esgus mynych Mr Gladstone dros fyned ar hyd ac ar draws y wlad. Yn union y daeth y Ceidwadwyr i swydd, fe ddwedodd fel pe ar ei lw mai y cwestiwn Gwyddelig oedd uwchaf ar feddwl y bobl ac mai eystal fyddai peidio cynnyg unrhyw fesurau air gyfer Cymru, Lloegr, ac Yagotland. Nid oes dwywaith na cheisiodd Mr Gladstone ei oreu i osod y cwestiwn Gwyddelig yn uwchaf, ond methodd, a'r methiant hwnw o'i du sydd wedi bod yn brif achos dirywiad a gwanychiad y blaid n fedyddiwyd ar ei enw. Y llyriedd fe basiwyd cyfraith Llywodraeth Leol ar gyfer Lloegr a Chytnru, ac eleni un ar gyfer Ysgotland. Cafodd niesurau eraill eu pasio yn ogystal, ac y mae gwladlywiaeth y Weinyddiaeth bresen- nol wedi bod yn hynod lwyd,diannus gartref ac oddicartref. Yr ydym yn awr ar derfyn y pedtfcrjdd eiste(ldiad a dyddorol sylwi ar agwedd jpethau mewu perthynas a'r gwahanol Meidiatt gwleidyddol. Y Ceidwadwyr, wrth reswm, a ffurfia gorpli mawt yr Undebwyr. Maent yn un fyddin gryno ar bob cwestiwn yn dal cyssylltiad a'r Undeb. Yn awr ac yn y man, fel ar bwnc y Degwm, fe ddaw eu hannibyniaeth barn i'r golwg, ac ennillant yn fwy na cliolli yng ngolwg yr etholwyr agynnrychiolant. Y mae yr Undebwyr Rhyddfrydol wedi llosgi eu Z5 eychod i bob pwrpas ymarferol. Am y tait- blynedd diweddaf y maent wedi llithro ym mhellach, bellach, oddiwrth y Radicaliaid newydd, ac os ydynt wcdi ymdrefuu ar ffni-fiau newyddion y nment eto yn barod i ymladd fel inngwr wrth ochry Ceidwadwyr ar bob cwestiwn o bwys. Mae Mr Chamberlain wedi rhoddi ei lw drosodd a throsodd yr ymladda hyd y earn yn erbyn dadfachu Gwerddon oddiwrth lywod- raeth Prydain Fawr, a dengys effeitbiau ei anerchiadau fod ei ddylanwad, yn hytrach na lleihau, yn cynnyddu yn fwy nag erioed. Y mae y Gladstoniaid wedi ymrwygo eisoes yn ddwy blaid. Mae y naill, yn cael ei har- gain gan Mr Gladstone ac yn cynnwys y Rhyddfrydwyr swyddogol, megys Arglwydd Rosebery, Arglwydd Granville, Mr Shaw- Lefevre, a Mr Mundella, y rhai ydynt yn gyfarwydd a bod mewn swydd ac yn meddwl dychwelyd i swydd os gallant mewn rhyw fodd wneyd. Ymddangosodd yr ail blaid ar y maes agored ar bwnc y Rhoddion Breiniol, pan yr ymflagurodd Mr Labouchere yn flaenor plaid a gynnwysa ryw gant oaelodau wedi eu "chwipio" yng nghyd gan Mr Jacoby. Dibyna yn hollol ar a-mgylchitidttii pauli ai ag adran Mr Glad- stone neu ag adran Mr Labouchere yr ymuna Syr William Harcourt. Eistedda fel arfer ar ben y clawdd, a daw i lawr ar yr ochr a wel efe yn debyg o gymmeryd y flaenoriaeth. Dyna eilwaith y Blaid Seneddol Wyddelig gyda'i phedwar ugain a chwech o aelodau, y rhai yma a ddilynant Mr Gladstone, ac acw a dynant ar ol Mr Labouchere. Pleidiasant gyda'r Rhyddfrydwyr swyddogol ar bwnc y Rhoddion Breiniol, ond methasant alw eu nerthoedd yng nghyd ar Fesur y Degwm i roddi byddugoliaeth hollol i blaid Mr Laboncliere. Y canlyniad yw, fel ag y gallesid yn rhwydd ddysgwyl, fod plaid Mr Gladstone ben-yng-nghad a'u gilydd. Mae y Rhyddfryd- wyr cymmedrol allan o'u cof am fod plaid newydd wedi cyfodi i'r golwg islaw y gangwe." Hawliant y bleidlais Wyddelig fel eu hetifeddiaeth, gan gredu i Mr Parnell 1 werthu eiallu pleidleisio, gorpn ac enaia, livjlu Gladstone am ddylanwad a nerth enw mawr y Cyn-brifweinidog. Ar y llaw arall taera y Jacobyniaid i'r Parnelliaid eu bradychn hwynt ac, ar yr un pryd, eu hargyhoeddiadau Demo- cratitidd, ect hnnain, drwy bleidleisio yn ffafr y Rhoddion Breiniol, ac y mae rhyfel bapyr boeth yn cael ei dwyn ym mlaen ar y mater yn y Wasg Radicalaidd yn Llundain. Yn y Werddon eilwaith y mae y pleidiau Gwyddelig yn ymranedig. Mae y Freeman's Journal wedi bod yn ysgyrnygu dannedd ar ly adran Mr Parnell am beidio bod yn eu lie yn y.Senedd yn ystod y ddadl ar Fesur y Degwm. Dywed yr aelodau seneddol dyhir o'r ochr arall fod ganddynt eu gorchwylion eu hnnain i'w cyflnwnu, ac nad oes raid iddynt dalu sylw i faterion Seisnig. Mae cynhyrfwyr ieuangach yn ymwthio i'r golwg ac yn awyddns i gicio hen ganlynwyr diffygiol Mr Parnell dros y trothwy. Pasiwyd y pendet-fyniad canlynol gan itn gangen o'r Cynghrair Cenedlaethol yn Dublin:—"Ei bod, yng nghyfrif y gangen hon, 6 Z5 yn ddyledswydd rwymedig ar bob aelod o'r Blaid Seneddol Wyddelig i fod yn en llecedd yn gysson yn Nhy y Cyffredin, heblaw eu bod ya eogneodol gan eu hetholwyr neu flaenor eu plaid; ac yr ydym yn condemnio esgeultisdod a diofalwch yr aelodau hyny y rhai, drwy eu habsennoldeb diweddar oddiwrth eu dyled- awyddau seneddol, a achubasant Lywodraefch Gorfodaeth rhag gorchfygiad sicr ac fe ddichon dymchweliad llwyr." Gwir i Mr Parnell geisio clogyno gwrthgiliad ei blaid, ac y mae wedi addaw cau drws yr ystabl wedi i'r ceffyl ddianc. Nid oes eisieu dweyd na rydd y sicrwydd hwn foddlonrwydd i'r Blaid Radicalaidd yn Lloegr, ac y mae yn amlwg fod Mr Parnell ar "lyfrau duon" eu ganlynwyr. Amlwg yw oddiwrth yr hyn a ysgnfenwyd fod v Blaid Wrthwynebol mewn penbleth diobaith. Yn y cyfamser cynnyddu a wna llwyddiant y Werddon. Myneg., cwiuin ui y rheilffyi-dd am gynnydd masnachol, a dywed adroddiadau y Bwrdd Carchaiau Gwyddelig am leihad yn nifer troseddau ysgeler, ffrwyth diammheuol gweinyddiaeth efFeithiol Mr Balfour. Pe na buasai am y safle a gyui- merodd y Blaid Wrthwynebol yn yr Eisteddiad hwn cawsai mesurau pellach eu pasio, y rhai a roddasent derfyn ar bob ymryson ym mron yn y Werddon ond y mae Mr Storey a'i yralyn- wyr wedi cwmpasu dinystr Mesur y Carth- ffosydd, ac ar waethaf dannedd yr Wrthblaid y daw Mesur y Rheilffyrdd Ysgeifn yn ddiangol. Nid ydym yn dysgwyl rhyw lawer o ofid yn ystod y gwyliau yn y Werddon. Addawa y cynhauaf yno fod gyda'r goreu er ys blynyddau, ac nid yw yr ymdrech a wueir er galfaneiddio cynhwrf i ail fywyd drwy Gynghrair y Tenantiaid yn dehyg o lwyddo. Mae y Gwyddelod Americanaidd wedi ymhollti yn ddeuddarnj tie fe ddioddefa llogell y cyn- hyrfwyr yn fawr o'r herwydd. Pan gyhoedda Mr Balfour pa ryw fesurau a fwriedir ar gyfer y Werddon y flwyddyn nesaf teimla y Gwyddelod yn ddiau mai gwell derbyn cyn- nygion y Llywodraeth na gyru ar gefn unrhyw gynlluniau gwrthryfelgar newyddion. Mae haul y blaenoriaid Gwyddelig ar y goriwaered yn y wlad, ac y mae tuhwnt i bossiblrwydd dynol i rwystro cyfnewidiad mawr yn opiniwn y cyhoedd, hyd yn nod yn y Werddon, ar ol deg mlynedd o gynhwrf a therfysg. Nid oes dim i'w ofni gan Blaid Trefn a Cliyfraith a theimlwn yn dra sicr na bydd i fethiant Bil y Degwm gael unrhyw effaith hir ar dyngedion yr Undebwyr.
7 YR AELODAU CYMREIG A MESUR…
7 YR AELODAU CYMREIG A MESUR Y DEGWM. Mae yr un yspryd wedi meddiannu y Fatter ag a ddangoswycl g.an y ganghen hono o'r 0 Z5 Cynghrair Cenedlaethol yn Dublin-yspi-yd boycottio yr "aelodau absennol ar y ddadl ar Fesnr y Degwm yn y Ty. Yr oedd mwy na hanner yr aelodau Cymreig hefyd yn absennol ac y mae y Faner yn en "henwi." Nid a ym mhellach y tro hwn na'u galw yn IFydd Ionia id ac "nnffyddloniaid. Gwell i'r olaf edrych atti neu i abred wleidyddol Mr Gee y cant en gyru bob copa. Dyma y ffyddloniaid oeddynt yn eu Ileoedd:-Mri. Dillwyn, D. Randell, J. Lloyd Morgan, Wm. Abraham, Arthur J. Williams, Thomas E. Ellis, David R. Thomas, Stuart Rendel, Alfred Thomas, David Pugh, Samuel Smith, William Rathbone, a G. Osborne Morgan. Wele eto yr anffyddloniuid :—Mri. William Davies, W. Fuller Maitland, C. M. Warraington, F. Hanbury Tracy, Syr Hussey Vivian, Syr E. J. Reed, C. R. M. TAl hot, W. Bowcn Row- lands, J. Bryn Roberts, John Roberts, W. Pritchard Morgan, Thomas P. Lewis, T. P. Price, a W. Cornwallis West.
GWREIDDYN CYNHWRF Y DEGWM.
GWREIDDYN CYNHWRF Y DEGWM. Dyma fel y dywed newyddiadur Radicalaidd a gyhoeddir yng Nghaerdydd, a chyd-dery ei el ddysgeidiaeth ag eiddo y ddan newyddiadur o'r un Iliw a gyhoeddir yn Niubych :—" Os gadewir i'r degwm, cyn belled ago y mae a fyno y deiliad ag ef, i fyned i golli yn y rhent—a dyna yr hyn a fyna y Weinyddiaeth yn eu symmudiad diweddaf wneuthur—bydd yn galll pellach oddiwrth genedlaetholdeb. Siarad plaen sydd oreu a ni a all id a ddweyd yn blaen,fod y degwm yn offer yn hwylus i ddym- chioelyd y Llywodraeth, ac y mae yn rhaid i'r bobl ddal gafael yn yr offer yn hionw." Felly, fe welir mai un o'r amcanion sydd i'r cynnhwif presennol yng nghylch y degwm ydyw dwyn etholiad oddi amgylch, mewn gobaitb y troir y Ceidwadwyr o swydd ac yr a'r Radicaliaid i mewn yn eu lie. Pa egwyddor yw rhyw be th fel hyn ? Ond o ran hyny y mae Dr. Pan wedi dweyd er ys llawer dydd nad oes y gronyn lleiaf o egwyddor yn yr holl Z5 I gynnhwrf. Ei ddamcaniaeth ef yw mai mater o Y, s. d. yw yr holl. Yr un peth mewn ystyr ydyw hyny a sychedu am swydd. Gan hyny y mae gwreiddyn cynnhwrf y degwm yr un a Z5 gwreiddyn pob drwg arall-ariangarwcb. 0 Z5
TREULIAU YR HEDDGEIDWAID YN…
TREULIAU YR HEDDGEIDWAID YN Y WERDDON. Yn y siarad a gafwyd yn ddiweddar ar dreuliau y Polis Gwyddelig, rhoddwyd pwys mawr gan Mr H. H. Fowler ac eraill ar gym- maint yn fwy o gost sydd yn myned i gadw yr heddgeidwaid yn y Werddon nag yn Lloegr. Y gwir am dani yw y mae 2,000 yn llai o heddgeidwaid yn yr Ynys Werdd ar hyn o bryd na't' nifer a dybiai Mr Gladstone yn augenrbeidiol i'w cyflogi yn 1882, Ac mewn nerthvnas i'r cost ychwanecol nid oes eisieu gwell awdurdod na Syr George Trevelyan, yr hwn, wrth siarad yn Nhy y Cyffredin ar yr 2fed « Awst yn 1884, a ddywedodd :—" Yr wyt yn gweled mai cyfanswrii yr arian a delir yn y wlad hon (Lloegr a Chymru) i gynnal y polis ydyw L3,264,000. O'r swm hwn fe delir gan yr awdurdodau Ileol Lli.985,000, hyny yw, fe delir deunaw ceiniog y pen gan bobl Lloegr a Chymru tuag at gynnal a chadw eu heddgeidwaid. Yn Ysgotland cyrhaedda treuliati y polis i'r swni o Y,331,000 a £ 197,000, hyny yw fe gyfrana y siroedd dair ceiniog ar ddeg y pen tuag at eu heddgeidwaid. Yn y Werddon cyrhaeddai holl dreuliau y polis yn 1882 i'r swm o £ 1,452,000. Y swm a dalwyd gan y bobl oedd LI.24,000, neu chwecheiniog y pen. Oddiar yr amser hwnw y mae treuliau y polis wedi codi peth, ac yn ol pob tebyg fe delir gan y boblogaeth yn awr (1884) ryw saith ceiniog y pen at eu heddgeidwaid. Nid wyf yn meddwl fod hyny yn daugos y fath gyflwr ar bethau a., a gynhyrfai ddigofaint pobl Lloegr a Chymru. Dim ond mewn un achos, yn ninas Dublin, y cyrhaedda treth y polis yng Ngwerddon i rywbeth yn debyg i'r hyn ydyw Y11 Lloegr, yno y mae yn odebyg i'r hyn y ceir hi mewn rhyw sir neu dref yn y wlad hon." Gan hyny i ffwrdd a'r brawl diystyr fod treuliau yr heddgeidwaid mor uchel fel ag eu bod yn gwaghau y wlad o arian. Un o'r celwyddau hyny a ddefnyddir gan y Wasg Radicalaidd fel offeryn i daflu y Weinyddiaeth bresennol a'i thraed i fyny ydyw, ac y mae eisieu i Geidwadwyr ei droi yn ol pa bryd bynag y caffont gyfleustra.
DICHELL RADICALAIDD.
DICHELL RADICALAIDD. Wrth siarad yn Nhy y Cyffredin ar yr 17fed o fis Mehefin diweddaf dywedodd Mr Labouchere, A.S. Ei fod yn ystyried gan nad pa mor dlawd y gallai araith ar yr Amcan- gyfrifon neu unrhyw fater arall fod, y cai yr amser ei ddefnyddio i bwrpas, oherwydd yr oedd traddodi araith wael yn taflu rhwystr ar ffordd y Llywodraeth i ddwyn ym mlaen faterion a ystyrient yn bwysig i'r wlad." A ydym i gasglu fod pob gwreichionen o wlad- garwch wedi ei gyru o galonau dynion fel Mr Labouchere ac mai hunangarweh a phlaid- o-arweh yw dau begwn mawr en byd gwleid- yddol
CEI NEWYDD.
CEI NEWYDD. Mae y sewner Blue Jacket o Aberystwyth yn suddo yn ayflym ar draeth y lie hwn. Y mae yn barod yn llawn dwfr. Llechi yw ei llwyth a thedai o Aberystwyth i Portsmouth. Arbedwyd yr holl ddwylaw.—DYDD MAWRTH.
Y FFERMWR CYMREIG.
Y FFERMWR CYMREIG. A chymmeryd pobpeth at ystyriaeth y mae y flwyddyn hon wedi bod yn un hynod ffafriol i'r amaethwr Cymreig. Syrthiodd mwy o wlaw yn y gwanwyn nag arferol, yn neillduol ym mis Mai, yr hwn gan amlaf sydd yn sych 0 y iawn, a'r gwynt yn oer o'r dwyrain, a chafodd y cnydau amser da i wreiddio ac egino.* Syrthiodd cawodydd maethlawn hefyd yn ystod banner cyntaf Mehefin, ac yna fe ddaeth oddentu mis o haf ardderchog—dyddiau clir a heulog, a nosweithiau tyner, y rhai a wnaent y wlad yn hyfryd i fyw ynddi, a'r cynhauaf gwair yn fwy o bleser na dim arall. Ni chafwyd erioed well cynhauaf gwair. Yn herwydd y myn'd da sydd ar bethau yn y gweithfeydd yr oedd yn lied anhawdd yn fynych i gael digon o ddwylaw i gael y enwd i mewn, ac nid oedd yr ychydig a adawyd yn weddill yn ddall i'r cyfleustra. Yr oeddynt* hwythau yn cynhauafu eu gwair pan oedd yr haul yn tywynu. Ag ystyried fod y cynhauaf wedi dechreu oddeutu mis yn gynnarach na llynedd, a phythefnos nag arferol, yr oedd y cnwd" agltfwyd yn hynod o dda. Nid yw y cynhauaf medi ond wedi prin ddechreu mewn rhai manau, ac ni bydd wedi dechreu am wythnos neu ragor ar leoedd uchel. Pa le bynag y mae dyfnder daear, a thriniaeth weddol wedi bod, y mae y cnydau yn addawol iawn o ran grawn a gwellt. Ós wedi ei osod yn ddiweddar, neu os yw y tir yn fas ac ysgafn, hydd y gwelltyn yn fyr ittwil a'r brig yn dylawd. Ar lechweddau bas yn wynebu ar y de, bu y cnydau ym mron a cliael eu llosgi yn ystod y gwres mawr a gafwyd yn ystod hanner olaf Mehefin, a'r wytbnos gyntif yng Ngorphenaf, a dechreuai y tywysenau 1 Z5 ynrfFiirfio pan nad oedd y gorsen eto ond rhyw chwech neu ddeuddeg modfedd o daldra. Mewn tir da mae y cnydau gwyrddion yn I cdrych yn rhagorol. Nid ydym yn cofio am olwg mor llewyrchus arnynt ag eleni. Mae bylchau garw i'w gweled ynddynt modd bynag mewn daear fas ac ysgafn. Ymddengys y ceir cnwd da o bytatws ym mhob man, ac nid oes dim argoel bod y clefyd wedi dechreu mewn unman hyd eto. Mae y da wedi dod yn ol ryw gymmaint fel y mae yn dygwydd fynychaf yr adeg hon o'r flwyddyn. Maent yn debyg o gerdded yn well ar ol y cynhauaf. Yr oedd prisiau da ar y ceftylau yn y ffeiriau diweddaf, ac nis gall neb sydd a clieffyl da ganddo lai na chael pris da am dano.—TWMI TYDDYNGLAS.
YN Y CAE LLAFUR.
YN Y CAE LLAFUR. tx Gwenith ydyw y brenin hyd eto yng nghynauaf y wlad hon. Mae blynyddau hirion o iselder masnachol a phrisiau isel wedi metltu ei ddiorseddu, ac yn ein holl amcan-gyfrifon a'n Biarad am ragolygon y cynhauaf, gwenith sydd yn cael y lie blaenaf. Mae rhai i'w caej a ddywedant y parheir byth i godi gwenith 1.(1 yr Ynys hon, ac na bydd i unrhyw leihad yo ei werth, gan nad pa mor fawr y byddo, i yru o'n plith yr ydyn a fu gynfc ym mlaenaf peth yn ein hallforion. Mae yn y tir yn hwy na'r un o'n cnydau gwynion ac, o ddyddiau yr Hydref llwydgoch yn y naill flwyddyn hyd gyfodiad lloergan yr heliwr yn y llall, y ni4e r, P5 fyth ar ein meddwl, ac edrychir yn barhaus am hyspysrwydd yng nghylch ei Iwyddiant fel mesur i farnu cyflwr a rhagolygon cnydau eraill wrtho. Cymmaint a byna am y gwenith, a gall yr amaethwr Prydeinig gredu ar unwaith nad oes un wlad arall o dan yr haul lie y deallir yn well pa ffordd i godi gwenith, ac nad oes L un wlad arall lie cynnyrcha yr erw (yn y manau goreu o'r Ynys) fwy ofwsieli o'r euraidd rawn. Mae hyn yn ffaith ag y byddai yn burion i'r rhai hyny a geryddant anwybodaeth pin ffermwyr ei deall, Llyfr agored yw cae llafur yr hwn a all y neb a redo ei ddarlien. Y mae yn llawn addysg drwy gydol y flwyddyn. o'r amser y parotoir y tir i dderbyn yr had,, i'r amser pan, ysgatfydd, y bwrir had triffwyl ar y sofi. O'r dydd yr ymddengys y llinellau gweinion gwyrddion a'r egin yn y rhychau i'r Invyr yn yr Hydref p-tn ddaw y llwyth olaf i'r ydlan, a'r medelwyr blinedig yn dilyn, a'u gwaith cynhauaf wedi ei orphen, y mae o wertli talu ymweliadau mynych a'r cae gwenith. Cymmerwch well ten. Edrychwch ar y bibell gelfydd, gron, ffurf yr hon a ychwanega at ei chryfder, sylwch ar y gloewder caled allanol yr hwn a geidw i maes y gwlaw, a gwelwch y "Human" hongiedig }Tr hwn sydd C, wedi marw er mwyn i'r grawn gael byw. Y mae anystwythder y gwelltyn mor anhebgorol a'i sythni i lwyddiant y dy wysen lwythog. Fe gwyd llafur ei liunan wedi ei fwrw i lawr gan ystormydd byd at ryw gyfnod neilldnol yn ei lianes, ond ar ol hyny ar ei orwedd y parha i fod. Dibyna hyny ar fywyd y gwellt, neu yn hytrach ei wywiant, o herwydd pan ddechfeua y gwellt ymwaghau o'i elfenau maethol er porthi y grawn addfedol, gorphena fod yn rhan fywydol o'r plannigyn gwenith, a'i unig swydd yw bod yn ffynnonell gelfyddydol i gadw maeth a ymddarfydda yn raddol. Nid yw gweUt neu gorsenau y gwenith, ac yd yn gylfredin, yn I wag o'r naill ben i'r llall, fe geir yma se, scw gymmalau y rhai ydync yn fwy trwohus na'r gweddill. Tra y byddo y gorsen gau a bywyd ynddi nis gwelir dim gwahaniaeth yn allanol ynddi, ond os teflir y llafur i lawr yn isel fel ag i beri i'r cymmalau yn agos i'r gwaelod fod ar eu gorwedd yn hytrach na'u sefyll, fe gymmer ymddangosiad tra hynod le. Y pryd hwnw fe ddechreua y rhan nesaf i'r ddaear o dan y cymmal dyfu, tra nad yw y rhan uchaf yn tyfn dim. Mewn geiriau eraill, trwy luosogi y celloedd sydd hyd eto a bywyd ynddynt rhwng y cymmal a'r ddaear, fe ffurfir cemni tuag allan ar yr ochr isaf, a chan na fydd dim i wrthweithio y cemni hwn ar yr ochr uchaf i'r cymmal, fe ddygir y gwelltyn yn raddol eto i safle syth. Gwelwyd hyn lawer gwaith eleni. Yn hanner olaf Gorphenaf curwyd y llafuriau i lawr gan ystormydd gwylltion o wlaw. Erbyn yr amser hwnw yr oedd celloedd y cymmalau wedi gorphen tyfn, ac felly bu raid i'r yd fod ar y llawr hyd nes y medwyd ef, yr hyn a roddes giyn drafferth i'r medelwr mown rhai manau. I Mae 11 naw bywyd mewn syniadau poblog- aidd, a chymmer amser hir i'r syniad fod cryfder y gwelltyn yn dibynu ar fod llawer o silica yn y tir, cyn darfod o'n plith. Y mae cryfder y gwellt yn ddibynu ar ddadblygiad ffafriol y sylwedd prenaicld sydd ynddo. Mae llawer o wellt brau yn dangos cynhauafaeth wael, ac yn dweyd mai ychydig o "bren" a C) Ilawer o sylwedd y silica neu'r gallestr sydd i'w gael yn y corsenau. Fel pob cllwd at-all y mae gan y gwenith ei elynion, ac nid yn ofer yr edrychir am eu distryw yn amser cynhauaf. Nidyw y manau duon sydd ar y Human neu'r ddalen, ac ar y welltrn, fel y gwyr pawb ddim yn amgen na'r rhwda a achosir gan fath o daiddiant y sylwedd hadog drwy y croeu. Cydia y clefyd ym mhob rhan o'r planhigyn sydd allan o'r tir oddieithr y grawn. Drachefn fe geir math o chwydd ar y gronynau, yr hwn a'u tiy yn fath o sylwedd gweillyd a'i arogl fel arogl cig pysgodyn. Gofod a ballai i ni sylwi ur yr holl elynion, du," gwyn," a "choch," sydd gan yr yd i ymladd yn ei herbyn. Da y gwyr yr amaethwr am danynt, a thywydd ffafriol a gofal a'i gwaredo fyth oddiwrthynt. Geill y darganfyddwr ymchwilgar yn y cae yd weled yn y cnwd sydd o'i flaen pa ry* nifer o ronvnau addfed sydd ym mhob ty wyserj. Gall rwbio tywysen yma ac acw a rhifo niler y gronynau llawnion a'r rhai man. Gall sylwi ar iecbyd, hyd, a chryfder y gwellt, a pha un a -ydyw yn lan ai peidio. Ac os ar ei fferni ei hun, fe amcan-gyfrifa mor agos ag y medr-r a hyny cyn y meda—pa sawl bwsiel yr erw a ddwg y enwd. Fe gofia y rhifedi, a chymmara ef a'r chwedl a adroddir yn ol llaw gan y peiriant dyrnu. Ac felly, o flwyddyn i flwyddyn, fe ddaw ei farn am lafur ar ei draed yn gywirach o hyd, a dysga, fel y rhaid i bawb 0 honom ddysgu, pa mor wahanol y gall caeaid 0 po lafur fod wedi i ni fyned iddo, o'i gymmaru a'r hyn yr ymddengys drwy edrych arno o draw. Eisoes y mae naws yr Hydref yn yr awyr, yr hwn sydd wedi dyfod yn gynt na phryd. Ni obeithiwn modd bynag fod dyddian heul- wenog yn ystor, fel na choller dim o'r hyn sydd wedi bod yn wrthddrych cymmaint o ofal a phryder a thrafferth a thraul i'r amaethwr am y misoodd sydd wodi myned heibio. AMARTHON.
CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU.
CHWARELWYR GOGLEDD CYMRU. Penderfyna chwarelwyr y Gogledd ofyu am godiad yn eu huriau o 17! y cant. Mewn cyfarfod mawr a gynnaliwyd yn Ffestiniog dvwedai y siaradwyr Had oedd y chwarolwyr yn cael digon i fyw yn <rysurus arno, a bod y meistriaid yn cael prisiau da am y llechi er ys blynyddau, ond nad yw cyflogau y gweithwyr wedi pritio dim oddigerth mewn un chwarel. Penderfynwyd gyru dynion i siarad a'r meistri dros y gwoithwyr.
IIIN-FESURYDD HYNOD.
IIIN-FESURYDD HYNOD. Yn ninas St. Louis y mae ganddynt hin- fesurydd byw. Math o lyffan bychan ydyw, yr hwn a deimla ar unwaith unrhyw gyf- newidiad yn y tywydd, ac a geuir i fyny mewn costrel wydr. 0 fewn hono y mae ysgol fechan iildo j'w dlingo, a pban y bo'r awyr yn dechren lleitho, o flaen gwlaw, aiff y crea.dur i fyny i'w phen, a dttw i lawr drachefn o flaen tywydd teg.
GELLIGAER.I
GELLIGAER. Gwella y mae achos addysg grefyddol er y gwrihweithiad a ddaeth i mewn i'w herbyn gyda chreadigaeth y byrddau ysgol. Yn y lie hwn cynnaliwyd cyfarfod o aelodau y bwrdd ysgol, athrawon elfennol ac athrawon yn yr Ysgol Sul. Pwnc y cyfarfod oedd y priodol- deb o gyfianu addysg grefyddol yn yr ysgol ddyddiol. Yr oedd mwyafrif y cyfarfod dros wneyd hyny.
j PONT ARDD U LAIS.
PONT ARDD U LAIS. Y MAE gwythien newydd o lo wedi ei dar- ganfod yn y lie hwn, ac yn debyg o droi allan 0 yn llwyddiannus, CYMMERODD angladd Mr David Davies, Prospect Place, Hendy, le dydd Ian yr wyth- nos ddiweddaf ym mynwent yr hen eglwys. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus yn y He. Yr oedd yn driugain ond un oed. Dyn sengl oedd, ac wedi cael iechyd da hyd o fewrt i bythefnos yn ddiweddar pan y cym- merwyd efyn sal wrth yru allan i Benllergaer. Ym mhen diwrnod neu ddau wedi hyny cafodd lewyg drachefu, aV Sul canlynol bu farw oddeutn pedwar o'r gloch. Math o atieohyd y galon oedd achos ei farwolaeth.
I PENLLERGAER5I
PENLLERGAER5I DYDD Sadwrn diweddaf cafodd rhwng 200 a 300 o aelodau Clwb Salisbury, Abei-t;twe, a Thrigfod Beaconsfield o Lig y Friallcn eu ple4ordaitli flynyddol i Benllergaer, palasdy prydferth Mr J. T. D. Llewelyn. Yr oedd y diwrnod yn un rhagorol a mwynhaodd y cwmni eu hunain yn fawr. Dangoswyd caredigrwydd mawr iddynt gan Mr a Mrs Llewelyn ac aelodau eraill o'r teulu. Yn ystod y prydnawn difyrodd yr ym wel wyr eu hunain drwy amryw chwareuon ac ymarferion corphorol. Rhanwyd y gwobrwyon i'r bycldugwyr ar y diwedd gan Mrs Llewelyn. Traddododd Yswain Penllergaer araith wedi hyny yn yr hon y gosododd bwys mawr ar gofrestru.
1:1PONTARDAWE.
1:1 PONTARDAWE. CYFARFUODD un James Thomas yr hwn oedd yn gweithio o dan Gwmni Millbrook, ac yn byw yn Brynhyfryd, Glandwr, a damwain a brofodd yn angeuol y Mercher diweddaf, tra wrth y gorchwyl o wneuthur peiriant newydd yng ngwaith Tin Ynysmeudwy.
LLANELLI.
LLANELLI. Y SUL diweddaf dechreuodd y Parch. Mr Humphreys gynt o Fanceiniou ar ei weinidog- 0 aeth gyda'r Bedyddwyr yng Nghapel Adulam, y Felinfoel. Efe yw olynydd y diweddar Barch. John Jones, y Dadgyssylltwr. ZIY
CYDWELI.
CYDWELI. MAE yr ymgeiswyr wedi eu henwi am seddau ar Fwrdd Ysgol Cydweli. Cymmer yr etholiad le dydd Mawrth y 27fed o'r mis hwn. Saitli aelod sydd ar y Bwrdd, a cheisia pob un oddigerth Mr Thomas Chivers, Penbre, ddychwelyd i'w hen seddau. Os cymmer etholiad le, y waith hon fydd y tro cyntaf.
COGINAN.
COGINAN. Cymmerodd etholiad bwrdd ysgol le yu y lie hwn yr wythnos ddiweddaf. Dyma fel y safai yr ymgeiswyr Ilwyddiannus:-Mr E. H. Bebb (M.), 197; Mr. H. Bonsall (E.), 169; Mr T E James (M.), 157; Mr John Pryse (M.), 142 a Mr Thomas Evans (B.), 140. Safai y ddau ymgeisydd aflwyddiannus fel yma:—Dr. E. Rowlands (E.), 117; Mr. W. T. Hill (E.), 69.
BYRION. —|
BYRION. — YMAE647ofyrddaugwarcheidwaidyn Lloegr a Chymru. FEL rheol, pan yn 40 oed y mae dyn drymaf, a dynes pan oddeutu 56. LLYNCA dyn wrth anadlu oddeutu deunaw peint o awyr bob mynyd. CHIR 30 y cant o fihvyr yn ein rliengau nad ydynt yn Saeson. YN y flwyddyn 1695 y bu cynghaws o'r fath ag sydd yn awr yn erbyn Esgob Lincoln. DEFNYDDIR oddeutu deg miliwn o dunelli o lo y flwyddyn yn y wlad hon at wneuthur gas. MAE pobl ddoeth yr Hen Dygwyn ar Daf wedi llawnodi deiseb er cael Mrs May brick yn rhydd. DYWED y Cambria Daily Leader fod rhy won wedi addaw L10,000 at sefydlu esgobaeth I Abertawe." CYFRIFIR fod oddeutu pymtheg miliwn o Wyddelod i'w cael, a bod y drydedd ran o ( honynt yn y Werddon. ( CYFYNGIR Arglwydd Aberdar i'w wely o herwydd afiecbyd. Anwyd trwm a gafodd ei Arglwyddiaeth ar y dechreu. DEDFRYDWYD Sullivan yr ymladdwr i ddeuddeg mis ogarchariad yn herwydd ymladd a Kilrain ychydig wythnosau yn ol. Y MAE Mr D. Emlyn Evans wedi casglu detholiad o ganeuon Cymreig y rhai a genir o flaen y Freniues yn y Pale yn sir Feirionydd. YM Mexico gellir codi dau gnwd o lafur y flwyddyn, a thyfa ffrwytbau coed a gwyrdd- lysiau drwy gydol y deuddeg mis yno. AGORWYD Yspytty yr hwn sydd yn sefyll ar 100 erw o dir, i greaduriaid mndion yn Bustleton, Pa. (America). Ceffylau a chwn yn benaf a fyddant y cleitien. MAR y dwymyn eisteddfodol wedi cydio yn nhrigolion Pontypridd. Gwnant eu goreu i gael Eisteddfod Genedlaethol 1891 yn y dref hono. PRISIAU yr yd ar gyrartaledd am yr wythnos t a derfynodd yr 17fed o'r mis hwn oedd- Gwenith, 30s. 9c. y chwarter; barlys, 19s. 5c.; ceirch, 19s. 5c. NIODFIEDD o wlaw" yw galwyn o ddwfr wedi ei daenu dros arwynebedd o yn agos i ddwy droedfedd ysgwar, neu ddisgyniad o gan' tunell nr °rw o dir. LLADDWYD naw o ddynion mewn tan an- j ffodus a dorodd allan yng Nghaerefrog Newydd y LIun diweddaf, a niweidiwyd llawer eraill. CAFWYD 0 hyd i gorph teithiwr masnachol o Briton Ferry wedi marw yng ngerddi Ken- sington, Llundain. Bernir mai cymrneryd gormod o chloral a wnaeth. ANRIIEGWYD Maer Castellnedd y dydd o'r blaen a phar o fenyg gwynion gan glerc y dref gan nad oedd unrhyw achosion i'w dwyn o'i flaen ar y fainc ynadol. Ni chafodd Pwyllgor Arddangosfa Meirch Abertawe gymmaint o arian ag a ddylasent gael. Ym mhob ystyr arall yr oedd yr arddangosfa yn lhvyddiant hollol. CYFLAWNODD dyn yng ngharchar Devizes hunanladdiad yr wythnos ddiweddaf drwy osod ei ddillad ar dan, ac felly mygu ei hunan i farwolaeth. YN llys yr heddgeidwaid yng Nghaerdydd y Gwener diweddaf cafwyd ar ddeall nad oes digon o le i'r plant yn yr ysgoldai sydd yn y dref hono. ODDIAR pan y cafodd y dwymyn flynyddau yn ol dioddefa Tywysog Cymru yn fawr ar adegau oddiwrth boen yn ei goes. Dylai gymmeryd hoe hir. OHERWYDD anghydwelediad rhwng y perch- cnog a'r gynnulleidfa yng nghylch telerau y brydles y mae hen gapel Penystryd, sir Feirionydd, wedi eu gau. Y MAE Temlyddiaeth Dda wedi cyrhaedd hyd yn nod i Ynys yr la. Y mae llawer yno am gau pob tafarn" i fyny drwy yr holl Ynys. DYWED yr Alliance News fod drus ddennaw mil o ddynion mewn gwallgofdai yn y wlad hon y rhai a gollasant eu synwyrau drwy ymarfer gormod a diodydd alcoholaidd. Y DYDD o'r blaen achubwyd bywyd plentyn wyth ndwydd oed, yr hwn a gwynipodd i'r canilas yn agos i Abercarn, gan grotyn oddeutu 15 yr un oedran. DYWED newyddiadur dyddiol fod inerched glan anghyffredin i'w cael yn y Bala. Fe ddylasai wybod am Forwynion glan Meir- ionydd cyn yn awr. PROFWYD ewyllys. Mrs Jessy Crawshuy, gweddw, yr hon oedd yn byw yn ddiwoddu- yn Danypark, Aberhonddu, ac a fu farw ar y 17fed o Orphenaf, a chyrhaedda yr eiddo personol i £ 88,000". MEWN pentref yn yr Aipht fe welodd teithiwr yn ddiweddar fod llawer o'r preswyl- wyr, yn wrywod a benywod, heb goesan neu 1 Z5 freichiau. Yr oedd eu haelodau wedi eu tori i ffwrdd am eu bod yn berthynasau i rai wedi dianc o'r fyddin wrthryfelgar. CEISIODD boneddiges ieuanc o'r enw Eunis, yn Kiagstown, ladd ei hun yr wythnos ddiweddaf. Aeth i mewn i siop, a chydiodd mewn cyllell oddiar y cownter a thorodd ei gwddf. Cymmerwyd hi i'r yspytty, ac yno y mae yn awr mewn cytlwr peryglus iawn. Tybir ei tod allan o'i phwyll. GLANIODD Madame Patti yn Southampton y Sul diweddaf o'i thaith yn Neheudir America. Cafodd fordaith arw. Bu yn llwyddiannus iawn yn yr America, ond yspeil- iwyd hi a'i gwr-Signor Nicolini—o'u gemau yng nghyd a rhyw bethau gwerthfawr eraill. Daeth y prima donna i Graigynos ddechreu yr wythnos hon. TREULIA Denmarc 55,000 o ddoleri bob blwyddyn tuag at gynnal ysgolion i addysgu C5 C5 0 trin blith. Y canlyniad yw fod gwelliant mawr wedi cymmeryd lie yn ei chaws a'i hymenyn, ac yn lie y 2,100,000 pwys o ymenyn a allforiai ugain mlynedd yn ol, y mae yn awr yn danfon allan 13,000,000 o bwysau yn flynyddoJ. DYWEDIR fod dinas Paris yn anarferol o lawn ar hyn o bryd. Mae ymwelwyr Seisnig yn lluosog iawn, fel ag y gellir casglu oddiwrth y ffaith i bedair mil ar ddeg groesi o Dover yr wythnos ddiweddaf. Y mae llu o reifflwyr Swisaidd wedi cyrhaedd y ddinas befyd. Gellir yn rhwydd eu hadwaen, nid yn unig ar gyfrif eu taldra, ond hefyd wrth groes goch eu gwlad, a sypiau o rosynau Alpaidd ac Edelweiss a wisgant yn eu hetiau. Ceir yno hefyd niferi o Algeria a Roumania, ffasiwn ddillad a phen- wisgoedd y rhai a roddant olwg fyd-ddinesig iawn i Paris. Mae golwg ryfedd ar yr ystryd- oedd yno ar amser ciniaw. Ceir canuoedd o ddynion yn ciniawa wrth fyrddau wedi ei gosod i fyny ar y palmant.
FFARWEL Y BARDD
Yr ydym yn cjhoeddi y pennillion cnolyool yn fwy ar gyfrif yr yspryd tyner a'r teimlad mabol sydd ynddynt na'n gwcrlh awenyddol. Dymuftwa lwyddiant inawr ac adferind iechyd buan i'w hawdwr yog ngwlad ei bercrindod.—Got. i » i » FFARWEL Y BARDD Wrth ymadael a'i wlad am Affrica. f Meddyliau prnddglwyfua sy'n gwan drwy fy aoian, Wrth gofiohen ffryndiau, rhai nnwyl a ]Ion, i Fu gynt yn fy ngwyho pan oeddwn yn fabnn i Rhag derbyn o honof un paeth dan fy mron i Ond bellach fe haaant yn ngwaelod y dyffryo Lie gorphwys plant Adda yn dnwel eu heddj Uwch cyrbaedd pob gofi,l a phechod a dyebryn Maent beddyw yn dawel ym mynwes y head. I Un borea i'r fynwent cyfeiriais fy nghnmran, A gorcbwyllled anhawdd a brofwa wrth br, t Pan ar fy nhro olaf i wel'd y man gorwedd ,v t Fy anwyl rieni yng ngwaelod y glyn, ro 'Rwyn gadael fy wro enedigol yng Ngwaiift y A hwylio dros foroedd i Affrica bell, Heb wybod a welaf y gweryd lle'r bona Fy hoff rai na cheir ei hanwylach na'u gwell. Eneinniais eu beddrod a'm dagran tryloewon Gan wlychu y blodau atnryliw a hardd Ynt yno'n ddangoseg o deinilad y galon j. Feddyliodd eu plannu—8ef eiddo y bardd; Fy nhad a fy man!, d'wed wcb air wrlb eiebplentra Sydd heddyw'n ymadael a'i hoff Walia wen,. Heb wybod a roddir fi'm mhriddell y dyffiryn Yn llwcl- cysegredig hen fynwent AUtwea. i f Ar ol i mi farw, dymunwa gael gorphwys, Yng ngli-tnol Itweli beddrod fy nhad a fy maoif Lie na ddaw croes wyntoedd yr anial i'm Wino Nag unrhyw gas clyn i bcri i'm gam Ond tawel gyd-orphwys ein holaf orphwysfa 1 A Duw yn ein gwylio a'n cadw bob darn, '[ J Rbag myned o rooyn i hollol ddiddymdra Ne8 delo dydd codi ar foran y farn. ) A thitbau, annnwiol, o bydd wyliadwrus Wrth deithio y fynwent alarus a phrudd; Ac na ddiystyra, gan sathru'n ammharohus Hoff feddrod fy rhiaint sydd yma dan gadd. Daw adeg pryd gorfydd i tithau noswylio Is lleni dwys llonydd ym mro oer y bedd, Hyd wawriad y dydd pan gniff pawb eu dihuno I dderbyn eu tynged o wae neu o bedd. Wel, bellach, ffarweliaf a man bach eich beddrod Hyd foreu diwarnod y cwrddwn yng nghyd, Pan ddisgyn y barnwr mewn rhwysg ac awdurdod I farnu hil Adda ar ddiwedd y byd: Pryd hyny cawn godi ar ddelw yr Iesa A byw yn dragywydd mewn byd hwnt i'r lleD- Lie na ddaw anhwyldeb yr anial i'n drygu- Byd gwynach ei fywyd na bro yr AUtwen. G. LLBWBLTN. Atttwen, Pontardawe, Awst 14, 1889.
[No title]
Nid ydym yn gyfrifol am syniadau ein gohebwyr o dan y penawd hwn. Y GOL.
CEIDWADWYR A'R WASG.
CEIDWADWYR A'R WASG. At Olygydd Y JOURNAL. Syn,-Caniateweli yn garedig i mi alw eich sylw at y testyn uchod—y Ceidwadwyr a'r Wasg. Nid wyf yn meddwl eu bod yn g wneyd y defnydd a ddylent o honi. Fe geir ambell un yma ac acw yn ysgrifenu pwt yn awr ac eilwaith, ond ni wneir dim i bwrpas., Yr wyf o'r farn pe buasai Ceidwadwyr wedi gwneyd yr hyn a ddylasent yn yr amser a aeth heibio i gyfrauu gwybodaeth ar bvneiau gwleidyddol y byddai yn well arnynt nag-y* mae. Y mae y Wasg Radicalaidd yn allu cryf yn y wlad, a gwneir defnydd mawro honi gan y blaid hono. Fe ddylem ninnau gym- meryd gwers oddiwrthynt. Siarad yr wyf am y Wasg Gymraeg, wrth reswm. Da chwi, Mr Gol., dangoswch iddynt eu dyledswydd yw dymuniad, yr eiddoch, SHON CRYDD. [Gallasai "Shon Ciydd ysgrifenu mwy ac ysgrifenu yn llymach o lawer ar y testyn nag y gwna. Y mae Ceidwadwyr, fel y gwyddom, t5 n yn ddiarebol o oer a difater. Y gwir am dani 6 yw, nid ydynt yn ysgrifenu dim er cywilydd iddynt yr ydym yn dywedyd hyn, gan obeithio y bydd iddynt, un yma a'r llall acw, yru cym* maint a modfedd o newyddion neu rywbeth arall. Nid oes waeth ai Saesneg ai Cymraeg y byddo. Teimlwn yn ddiolchgar i Shon Crydd am roddi blaen ei fynawyd "ynddynt," a gob«ithiwn y ceir triiulo ychydig mwy 0 fywyd yn y gwersyll o hyn allat).-Y GOL.]
INDIPENDIA FAWR A'R GYNNAD.…
INDIPENDIA FAWR A'R GYNNAD. LEDD EGLWYSIG. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Fel y gwyr eich darllenwyr, cynnelir y Gynnadledd Eglwysig eleni yng Nghaer- dydd ac er lladd ei dylanwad, y mae amryw o feibion Indipendia yn gwneyd eu goreu i gael yr Undeb Cynnulleidfaol Cymreig am 1890 i Gaerdydd. Ym mhlith y rhesyman penaf a chryfaf dros gael yr Undeb i'r dref hono fe rydd un o ddyddolion Caerdydd yr un a ganlyn 0 herwydd y cynnelir y Gyn- nadledd Eglwysig yn y dref hono eleni, ac er lladd ei dylanwad ar feddyliau y lluaw8 Y mae y fath reswm a hwnyn dra chwerthiullyd, ac yn profi gwendid mawr. Gallasetn feddwl, wrth ddarllen y papyrau Cymraeg, nad oes dim dylanwad gan yr Eglwys "estronoI" yng Nghymru. Ond pa ddyben siarad; os cath fyd-I yn y cwd, cath a ddaw allan. Yr wyf yn awr yn gofyn i chwi, Mr Gol., a ddarllen- asoch y fath flwlbri ei-ioed a hyn 1 Byddai gystal, pan y cynnelit- cyfarfod dirwestol mewn rhyw fan neu gilydd, i dafarnwyr gynnal cyfarfod yn yr nn man er lladd dylanwad y llwyryniattalwyr Gresyn na ddeuai plant Annibynia i Gaerfyrddin, er lladd dylanwad Saint y Dyddiau Diweddaf, y rhai ydynt wedi bod yma y diwrnodau o'r blaen. Siarad am gariad brawdol Nid yw rhywbeth felly ond hud a lledrith a thraddodiad ym mhlith ein brodyr er ys amaer. MYRDDINFAB. [Nid yw yn debyg y bydd i'r Undeb Cyn- nulleidfaol wneyd hafog mawr ar ddylanwad y Gynnadledd Eglwysig yng Nghaerdydd. a Z5 Credwn hefyd y dylanwada ar yr Eglwys yno fel y gwynt ar y barcutan—ei chodi i fyny. Bydd y Gynnadledd yn help mawr iawn i Indipendia tuag at gyrhaedd yr hunan-adna- byddiaeth hwnw sydd mor angenrheidiol i'w llwyddiant.—Y UOL,]
AT EIN DARLLENWYR.
AT EIN DARLLENWYR. Bwriadwn gyhoeddi yn fuan "Lythymu Anna Beynon "-wedi ei hail-ysgrifenu ym mhriod-ddull y gymmydogaeth yr ysgrifenwyd hwy ynddi, a chyboeddi cyfieithad Seisneg o honynt ar yr un pryd. Diau genym fe fyddant o ddyddordeb mawr i'n darllenwyr.—Y GOL.