Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
-------AGORIAD EGLWYS NEWYDD…
AGORIAD EGLWYS NEWYDD GYM- REIG YNG NGHAERFYRDDIN. Boreu dydd Mawrtli diweddaf, cyssegrwyd Eglwys newydd Sant loan gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi. Eglwys dlos yw yr un uchod, ac y mae clod uchel yn ddy- ledus i'r architect a'r contractors am en gwaith ysblenydd. Y mae eisteddleoedd ynddi i 350 o addolwyr, ac y mae y pwyllgor adeiladu wedi bod yn ffortunus iawn i gael rhoddion. Y mae'r ddarllenfa (neu y lectern) yn un hardd dros ben, a rhodd plant y diweddar Mr Spurrell ydyw er coffadwriaeth am eu tad. Y mae y geiriau canlynol yn gerfiedig arni "Er gogoniant i Dduw, ac mewn serchus goffadwriaeth am William Spurrell. Ganed Gorphenaf 30fed, 1813; bu farw Llun Pasc, Ebrill 22fed, 1889." Deallwn fod Mr. T. Thomas, y Tanyard, wedi roddi Beibl hardd i'w osod arni. Cafodd y bedyddfaen (font) ei roddi gan Mrs. Edwards, priod Esgob Llan- elwy a'r bedyddfaen-trochyddol gan Mr Tom Jones, Heol Mansel. Fe welir y gellir taen- ellu yn ogystal a throchi yn yr Eglwys uchod. Y mac y Parch. T. J. Bowen, ficer Llangat- tack (gynt curad y plwyf), wedi gosod ffenestr hardd yn y rhan ddwyreiniol o'r EgIwys er Goffadwriaeth am ei ddiweddar dad. Yn ddiddadl, yr oedd eisieu Eglwys new- ydd ar Eglwyswyr y rhan ddwyreiniol o'r dref, ac i Esgob Llanelwy yn benaf y maent i ddiolch n y am hyn. Efe oedd (pan yn ficer Eglwys Sant Pedr) a Haw flaenaf yn y matter, ac yr oedd yn cael ei gefnogi yn yr anturiaeth gan Ddr. Rowlands, Mr. W. M. Griffiths, ac ereill. Gwir fod yr Ysgoldy Cenedlaethol (lie y cyn- nelid y gwasanaethau er ys blynyddau bellach) yn adeilad hardd, ond nid oedd dim addas- rwydd ynddo i addoli Duw fel y chwennychai yr aelodau. Hefyd, yr oedd yr adeilad yn cael ei gorlenwi yn anghyfleus ar nos Suliau. Yug nglyn ag agoriad yr Eglwys newydd, 0 Z3 ZD pregethodd Esgob Ty Ddewi yn Eglwys Sant Pedr boreu dydd Sul; a nos Lun, yn yr un Eglwys, gan Canon Gauntlett, Abertawe. Cafwyd casgliadau da yn y gwasauaethau hyn tuag at drysorfa yr Eglwys newydd. Yn y boreu crybwylledig, cyfarfu yr offeir- iaid, y pwyllgor adeiladu, &c., yn EgIwys Sant Pedr, lie yr aethpwyd yn orymdaith i'r Eglwys newydd. Aethpwyd yn y drefn gan- lynol:—Aelodau pwyllgor adeiladu yr Eglwys newydd, aelodau y corau, o ddeutu trigain o offeiriaid, ac Esgobion Ty Ddewi a Llan- elwy. Yr oedd yr heolydd wedi eu haddurno a baneri hardd, ac yr oedd yr olygfa yn rhyw- beth tu hwnt i'r cyffredin. Ni welwyd erioed y fath dorf yn Heol y Prior. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn o addolwyr. Cafodd y cyssegriad ei gyflawnu gan Esgob Ty Ddewi, yn cael ei gynnorthwyo gan Archddiacon ny James y Parch. J. Lloyd, Ficer Sant Pedr y Parch. D. Pugh Evans, Rheithor LIanbedr Felfrey; a'r Pareli. S. Jones, Ficer Llan- gynnor. Wedi i waith y cyssegriad der- fynu, cynnaliwyd gwasauaeth yn yr Eglwys, a phregethwyd (yn Gymraeg)gan Esgob Llan- 11 1-11 0 elwy oddi ar y gel i-ia it, Eithr chwychwi ydyw corfl* Crist, ac aelodau o un rhan"(l Cor. xii. 27). Yr oedd yn bregeth llleistroJgar; ac i arferyd geiriau Dr. Rowlands yn y rhag- bryd, yr oedd yn bregeth ardderchog, hyawdl, a theyrngarol (grand, eloquent, and patriotic). Yr oedd canu y corau undebol yn soniarus dros ben, ac y mae clod yn ddyledus i Mr. C. Videon Harding a Miss Effie Spurrell am eu hyradrechion. Yr ym wedi mynegu o'r blaen yn ein colofnau am y canu da sydd yn perthyn i'r Eglwys Gymreig yn Heol y Prior. Ar ol pregeth yr Esgob, casglwyd dros S54 tnag at y drysorfa adeiladu, a gweinyddwyd Swper yr Arglwydd. Yn y prydnawn, am ddau o'r gloch, yr oedd rhagbryd (luncheon) yn yr Ivy Bush Royal Hotel, Mr. James Rowlands, F.R.C.S., yn llywyddu. Yr oedd dros gant a hanner o foueddigion a boneddigesau wedi dyfod yng nghyd. Ym mhlith ereill oedd yn wyddfodol, yr oedd Esgob Ty Ddewi a Mrs. Basil Jones Esgob Llanelwy a Mrs. Edwards; Archddi- acon James, Abergwili; Mrs. a Miss Saun- ders, Cwrt Henri; y Parch. J. Lloyd, Ficer Sant Pedr, ac Mrs. Lloyd. Cafwyd anerch- iadau gan y cadeirydd Mr. J. Lewis Pliilipps, Bolahaul; Esgobion Ty Ddewi a Llanelwy; Mr. Tom Jones, Heol Mansel, ac ereill. Yn yr hwyr, am saith o'r gloch, cynnaliwyd gwasanaeth yn yr Eglwys, pryd yr oedd yr adeilad yn orlawn o addolwyr, a methodd ugeiniau os nad cannoedd a chael lie. Y pregethwr appwyntiedig oedd Canon Evans, Rymni, un o gewri yr Eglwys a golygydd y n 1!5 zn Cyfaill Egl-wysig. Cymmerodd y Canon ei destyn oddi wrth y geiriau—" Pan weddioch, dywedwch, Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd," a phregethodd yn ei ddull meistrolgar arferol. Casglwyd dros wyth punt yn y gwasanaeth hwn. Nos Fercher a nos Iau, pregethwyd gan y 0 el Parchedigion J. M. Griffiths, Ficer Llanfi- ban get-getieu'r--lyii, ac' Anthony Britten, ficer Meidrym, i gynnulliadau mawrion, a gwnaeth- z,Y e5 pwyd casgliadau ym mhob un o'r oedfaon. Nid ym yn abi yn y rhifyn hWll i hysbysu ein darllenwyr pa sut y saif y ddyled, ond y mae wedi sisial i ni na fydd rhyw lawer ar ol (os peth o gwbl). Mae y Parch. J. Lloyd a'i briod hawddgar, y curadiad, a'r pwyllgor yn gytfredinol, wedi gweithio yn egniol dros yr Eglwys "estronol" Gymreig newydd ym mhlwyf Sant Pedr, Caerfyrddin.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN!…
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. Cadwgan—Mi welaf fod Radicaliaid sir Aberteifi yn penderfynu, trwy'r tew a'r teneu, i a berth n Major Lewis, pen-cwnstabl y sir, a'i rwystro i gael ei wobr-dal, i'r hon y bydd ganddo hawl ym mhen ychydig fisoedd. A zn ydyw y fath weithred yn deg a boneddigaidd, heb son am G ristionogaeth ? Gmh/m—Nid oes ddynoliaeth na Christion- ogaetli mewn gweithred sydd yn gwneyd cam a dyn, a'i amddifadu 01 iawnderau cyfreith- lawn. Ifor—Cafodd y pen-cwnstabl ei ddiswyddo gau y mwyafrif o'r pwyllgor; beth fynwch chwi yn ychwaneg 1 Dylasai Major Lewis fod yn fwy gostyngedig i aelodau y pwyllgor. Gnifydd—Dim o'r fath beth. Cafodd y penderfyniad i'w ddiswyddo a'r gwelliant ei gario trwy i'r cadeirydd roddi ei casting vole. n Mae yn afresymol fod un dyn yr gallu taflu un swyddog cyhoeddus allan o'i swydd am na fuasai iddo blygu a llyfu llwch o flaen adran o'r pwyllgor. Ni fydd swydd un dyn yn werth tleuddeg aur o bryniad os bydd yn rhaid 0 iddo ymostwng hyd y llawr i bob un sydd ar y cynghor sirol. Hywel—Mae genyf bob parch i nifer o aelodau y cynghorau sirol; ond y mae y rhan fwyaf o'r personau sydd yn cyfansoddi y cynghorau Cymreig yn gul, yn fain, a rhag- farnllyd, ac wedi eu trwytho hyd eu dannedd mewn stew Gladstonaidd. Dygant eu Radi- caliaeth a'u sectyddiaeth i'r cynghorau sirol. Iwan—Yr achos dy fod di a'th ergyd ar y cynghorau sirol, a'u haelodau yw, am fod yr aelodau am i'r degwm fyned at achosion cenedlaethol, fel y cafodd ei fwriadu ar y dechreu. Pwy sydd yn fwy addas i drafod addysg canolraddol na'r cynghorau sirol 1 Cadwgan-Ni wyr llawer o'r cynghorwyr mwy am hanes y degwm, a'r pwrpas y catodd ei adael, na wyr Peggi Lewis am ddaiar-fesuriaeth. Gwilym—Yr wyt yn llygad dy le, Cadwgan. Y cynghorau sirol yn wir yn addas i reoleiddio addysg ganolraddol yng Nghymru, a hwythau heb gael addysg elfenol! Cofiwch nid wyf yn in n cyfeirio at neb rhyw berson neu bersonau; ond yr wyf yn siarad am danynt yn gyd- grynocdig, o Gaergybi i Gasgwent. Eithation 3 0 haerllugrwydd yw i un dyn byw, bedyddiol ac anfedyddiol, i gymmeryd arno ei hun i roddi hanes y degwm, ac yntau heb ddarllen hanes- yddiaeth. Nid yw y ffaith fod dyn yn cael ei ethol yn aelod o gynghor sirol yn un prawf ei ,y fod yn addas i drafod addysg y genedl. Nid oes llawei o amser er pan gynnygiodd un bwrdd ysgol i newid orgraff yr iaith Seisoneg. Iwan—I r Ymneillduwyr Rhyddfrydol mae Cymru yn ddyledtis am ddarbod addysg i'r genedl yn gyntaf. Darllenais mewn hen fisolyn am y cyfarfodydd mawrion a gynnal- iwyd yn Llanymddyfri i gychwyn y Coleg Normalaidd Aberhonddu er diwallu Cymru ag ysgolfeistri. Cadwgan—Yr wyf yn cofio darllen yr hanes ar y pryd, ac i'r pregethwyr dyngliedu na chyffyrddwch a grants y llywodraeth a gefail gof. Yr oedd yr egwyddor wirfoddol yn ddigon cefnog i addysgu y genedl. Agor- 0 0 el c wyd y Coleg Normalaidd yn Aberhonddu ac anfonwyd cynlluniau ysgoldai i'r gwahanol Z5 0 blwyfi yn Nyffryn Teifi; ond cymmerodd darfodedigaeth afael yng nghyfansoddiad n gwanaidd y coleg. Gwrthododd qyr Voluntary, trwyfodd neu anfodd, ddwyn yr yd i'r felin. Symmudwyd y Coleg Normalaidd i awyr y mot- yn Abertawe ond nid oedd yn ticio trengodd heb gic. Y Parch. Dafydd Rees, Capel Als, Llanelli, oedd y cyntaf i fyned a'i het yn ei law i guro wrth ddrysau My Lords am grants, er cymmaint oedd ef yn ell gwrthwynebu. -ifor-Atolwcr, beth wnaeth yr EgI wys n 0 Wladol a'r offeiriaid dros addysgu y werin Z5 Gynii-eig I Ilywel-Agorwyd Coleg HyfTorddiadoI yr Z!1 Z5 Eglwys, Caerfyrddin, yn 1848. Y coleg hwn ddiwallodd Cymru ag ysgolfeistriaid a'r myfyrwyr a aeth allan oddi yno oedd byddin gloddwyr addysgaeth yng Nghymru hwy a dtlyoddefodd pwys a gwres y dydd, a gwnaeth yr offeiriaid aberthau mawrion er addysgu y to oedd yn codi. Cyfranodd y tirfeddian- wyr yn haelionus at adeiladu ysgoldai, heb law rhoddi y tir. Cafodd y rhan fwyaf o benau teuluoedd presennol Cymru eu haddysgu gan yr Eglwys, ac yn eu hysgolion y cafodd llawer o bregeth wyr Ymneillduedig Cymru eu I haddysgu. Morus—Yr oeddynt yr amser hwnw yn eu haddysgu am iddynt fyned i'r Eglwysi. Dewi- Y l' wyf yn cofio yr amser pan yr oedd yr offeiriaid yn gorfodi y plant i ddysgu catecism yr Eglwys, yn groes i ddymuniadau Z3 in ac archiadau eu ihieni. Dysgais y catecism fy hunan. Grvffydd—A wyt ti yn waeth er i ti ei ddysgu ? Deivi-Nac ydwyf, y mae yn rhaid i mi addef. Gwilyrn- Nid oedd gan rieni plant ddim gwrtlnvynebiad iddynt ddysgu y catecism. Nid oedd yr anhawsdra cyn cael y conscience clause, ond bwgan o saerniaeth y pregethwyr oedd yn ofni i'r plant gicio dros dresi caethion yr enwad. Darllenais am un pre- geth wr yn sir Benfro a ddywedodd y buasai yn well ganddo weled y plant yn myned i uffern na'u gweled yn myned i'r Eglwys! Iwan-Ni fydd i'r Eglwys ein blino yn liir, canys mae ei chwymp yn yr ymyl. Cadwgttn-Clywsom hyny lawer gwaith o'r blaen am ei dadymchweliad er holl guro fu arni goroesoedd yr ymosodwyr. Y dad- gyssylltwr cyntaf yng Nghymru oedd y diweddar Mr. Watcyn Williams. Morus—Mae arnom eisieu cael gwared o'r Weinyddiaeth Undebol yma; ni cheir dim daioni nes daw hyny i ben.. Ll'lw(tj'clt-Gwnaeth y Llywodraeth Un- debol fwy o les i'r wladwriaeth yn y pedair blynedd y bu hi mewn swydd na wnaeth un weinyddiaeth arall mewn ugain mlynedd. Dewi—Mr. Gladstone yw y dyn. A glyw- soch am yr holl dyrfaoedd aeth i'w weled ef wythnos y Sulgwyn 1 Gruffudd—Do, aeth llawer i weled yr hen foneddwr, mae yn wir. Cadwgan—Nid oes genyf amynedd efo dyn- addolvvyr. Y mae gormod o addoliad yn cael ei dalu i'r creadur meidrol a ffaeledig, a rhy fach i'r Creawdwr Anfeidrol.
PLWYF LLANFIH A NGEL-AR-ARTH…
PLWYF LLANFIH A NGEL-AR-ARTH A'R DIODYDD MEDDWOL. Y mae y fasnach feddwol, yn ei holl gys- sylltiadau, yn niweidiol a drwg, ac yn sylfaenedig ar bechod. Mewn nwyddau i gynnyrchu blys a chwant y mae y fasnach hon yn delio. "Cbwant wedi ymddwyn a esgor ar bechod." Drwg yw y drwg, gosoder y lliw a fyner arno. Dywedir y dinystria y fasnach hon eu miloedd lawer o eneidiau yn ein teyrnas yn flynyddol, ac y mae un enaid yn fwy ei werth na'r byd eto y mae holl eglwysi plwyf Llanfihangel-ar-arth yn medru bod yu hollol dawel yng ngwyneb y ffaith mor bwysig. Pobt yn cysgu ydym, ac heb ystyried ein sefyllfa a'n cyfrifoldeb fel bodau rhesymol. Syniad a ddygir ym mlaen yn ami iawn gan wahanol bersonau yn ein plwyf ni, (ac y mae yr hen argument wedi ei dysgu yn dda o genedlaeth i genedlaeth), yn erbyn ardystio yw, Eu bod hwy yn ddigon o ddynion heb roddi gofal i neb arall," ac y medrant yfed glasied, a rhoddi fyny ar hyny; ond nid felly y mae, a bod yn enhyd iddynt hwy gaethiwo ca hunain er mwyn pobl ereill;" pob un drosto ei hun yw i fod yn ein plwyf ni. Nid ydyw y dosbarth hwn wedi synied am ddyn fel creadur cyfrifol edrychant arno ar yr un level a'r aiiifail a (I(Iifetixii-, -an ytiiresytiiu, Pa reswm llyffetheirio creadur llonydd o achos drygau anifail barus a drwg 1 Nid anifail yw dyn. Pe gwelai anifail ei gyd-anifail yn y ffos, ni byddai at no bechod am ei adael yno ond pe gwelai dyn ei gyd-ddyn yn y cyfryw le, I pechod fyddai iddo ei adael yno heb dreio rhyw foddion i'w waredu. Y mae dyn yn gyfrifol am ei ymddygiadau yn y byd, a n gofynir hunanymwadiad oddi ar ei law er'mwyn ereill. Oddi ar yr egwyddor hon y daeth ein Gwaredwr o'r gogoniant i'r gwarth "yr Hwn, ac Efe yn gyfoethog, a ddaeth er eich ?I In mwyn chwi yn dlawd," &c. Nid oes son am ddirwest yn ein cyfeillachau o un flwyddyn i'r Hall, na'r un llyfr ardystiad yn ein capelau na'n heglwysi, tra y dylent fod mor amlwg a chael yr un lie cyssegredig a'r llyfr casglu ei hun. Nid yw yr egwyddor ddirwestol yn cael ei dysgu i'n plant. Y mae y ddyledswydd arnom i godi ein llais yn ein heglwysi, a dweyd, "Na ehaiff lleb aelodaeth yn yr un o honynt heb Iwyr ymwrthod, a phob math o ddiodydd meddwol." Byddai hyn yn ddiwygiad mawr ac yn welliant pwysig yn yr eglwys. Y mae yn llawn bryd caithu ymaith fudreddi Jerusalem. Yn brescnnol, nid oes nemawr wahaniaeth rhwng byd ac eglwys. Y mae y byd yn meddwi, y mae yr eglwys yn uieddwi. Y mae ceisio cael y byd at VVaredwr cyn sobreiddio yr eglwys yn ffaeledd o'r mwyaf. Yr ydym wedi sylwi rai gweithiau mewn arwerthiadau yn ein plwyf ar grefyddwyr blaciillaw yi-i i-litinu y ddiod, a byddant j'n daer-gymhell ar eu cyd-ddynion fyddant wedi yfed yn helaeth yn barod, i gymmeryd o'u Haw hwy; ac os na chymmerent, y byddent yn digio wrthynt. Gwrandewch beth a ddywed y Beibl ar y cwestiwn—" Gwae a roddo ddiod i'w gymmydog, yr hwn wyt yn rhoddi iddo y ZD n gostrel, ac yn ei feddwi hefyd." Y rhai a gefnogant feddwdod ydynt dan wae. Yr 0 ydym yn tywys ein cyd-ddynion i wae, ochain, cynhen, tlodi, eisieu, gwatwar, anlladrwydd, cenfigen, ac i anystyriaeth o Dduw a'ijddaion i hyn y mae y ddiod yn ein harwain yn naturiol. Yr oedd y gosb am feddwi, itc dan yr hen oruchwyIiaeth yn fawr. "A dywed- ant wrth henuriaid ei ddiuas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein. ,,y llais; glwth a meddwyn yw efe. Yna holl ddynion ei ddinas a'i liabyddiant ef it m ini fel y byddo farw. Felly yn tynu y d, w ymaith o'th fysg." Ond yn ein dyddiau Ili- yn yr oes oleu hon—y mae yn betfi respectable. Y mae yn cael ei oddef yn yr eglwys. Edrycher ar y crefyddwr o'r plwyf hwn yn dychwelyd o farchnad Caertyrddin ddydd Sadwrn. Gwir ei fod yn gallu cerdded heb syrthio, ond y mae gwahaniaeth yn ei gerdd- ediad, a gwahaniaeth mawr yn ei siarad; ac os na ellir dweyd ei fod yn feddw yn yr ystyr eithaf, y mae mewn sefyllfa ag sydd yn gofyn rhybudd a cherydd llym yr eglwys y I r, perthyna iddi. Ond er ein cywilydd, y mae yn ffaith anwadadwy fod y dosbarth hwn yn hollol ddisylw, ac yn cael perffaith lonydd, heb na chynghor na cherydd genym o'r naill flwyddyn i'r Hall i fyned ym mlaen yn y cyflwr hwn. Pell yw yr eglwys o fod "yn halen y ddaiar ac yn oleuni y byd yn ein plwyf ni. Eto, y mae yma rai ffyddloniaid sydd wedi ymdrechu yn galed i gael yr oruch- aflaeth ar y gelyn cadarn hwn, ac wedi ennill buddugoliaeth fawr a phwysig ar y gelyn eu hunan, ac yn gwneyd eu goreu i ddylanwadu ar ereill i roddi ffarwel bythol iddo ond bychan yw eu nifer. Gobeithio y gwelir eglwysi plwyf Llanfi- hangel-ar-arth yn codi o ddifrif at eu gwaith gyda dirwest, ac nid yn aros, fel y maent, yn anffyddlon i'r gwirionedd. Rhoddwn bob cefnogaeth i'r rhai sydd yn ymdrechu, onid e 1 Y mae lie i ofni y bydd i'r Arglwydd ein ceryddu trwy guddio ei wyneb, a pheri marweidd-dra crefyddol cyffredinol, yr hyn sydd, i raddau helaeth, wedi ein meddianu eisoes. Ef allai mai dyma y gwyn sydd ganddo yn ein herbyn. Wel, 11 Peidiwn oedi dim yn hwy," ond codi at ein gwaith.—SYLWEDYDD.
CWMAMMAN.
CWMAMMAN. Nos Wener diweddaf, cyfarfyddodd aelodau y-ddwy ddarllenfa yn Festri Bethel Newydd, i ymdrin a'r mater penodedig-" Ymreolaeth i Gymru." Y mae yn fiin genym fod y sefydliad hwn yn cael mor lleied o gefnogaeth gan yr aelodau (yn enwedig aelodau darllenfa'r Garnant), yr hyn sydd yn lledawgrymu nad oes ganddynt lygaid i weled na chalon i deimlo yr hyn sydd yn fuddiol ac adeiladol. Agorwyd y cyfarfod drwy ddarllen cofnodion y gorphenol gan y Parch. J. Towyn Jones, ac yna gal wyd ar Mr. W. G. Jones i ddarllen ei bapyr ar Ymreolaeth i Gymru, yr hyn a wnaeth gyda chryn dipyn o ddeheurwydd. Siaradodd am o ddeutu hanner awr ar fanteision Ymreolaeth yn hyawdl a gwresog, a bu bron a'u hargyhoeddi i gytuno ag ef parthed priodoldeb a tbeilyngdod y cwestiwn. Wedi i'r siaradwr cyntaf derfynu, galwyd ar Mr. Evan Davies i ddarHen ei bapyr yn erbyn Ymreolaeth, a da oedd genym ei glywed yn amddiffyn undeb a nerth y llywodraeth mor rhagorol, yr hyn sydd yn sicr o fod yn cael ei dori gan Ymreolaeth. Dilynwyd yn frwd- frydig o blaid y cwestiwn gan Mri. Mitchell, yr Ysgol Rammadegol, John M. Jones, a'r Parch. J. Oliver; a'r ochr arall yn erbyn, gan Mri. David Jones a Thomas Jones, ac yna rl)anwyd y ty, a chafodd y Radicaliaid y mwy- afrif o un. Gyda Ilaw, dywedwn air yng y C, nghylch cyssylltiad y Radicaliaid ag Ym- reolaeth, yr hyn sydd yn peri llawer iawn o chwerthin drwy yr holl wlad y dyddiau hyn. Gallem feddwi nad oes eisieu ond un hergwd neu ddau, cyn cael maen Home Rule i'r mur Cymreig; ond pan y rhoddwn fynyd o t, y ystyriaeth i ysmaldod a gwrthuni y peth, j gwelvvn y mil blynyddoedd," fel rhyw gyfandireang dibendraw, yn gorwedd rhyngom Z3 n n b ag ef. Mae adsain Ymreolaeth yn cynniwair, o dafod i dafod, drwy holl wersyll- oedd y Radicaliaid Cymreig; ac ofnwyf, os na ddaw rhyw gyfnewidiad sydyn ar eu gwaethaf, y byddant wedi colli eu hanadl ym mhen tipyn. Y maent yn tybied pe byddent ond cael "Ymreolaeth i Gymru, a chael gweithredu yn ol cynghor eu mympwyon dall 0 eu hunain, y byddai wedi dyfod yn "baradwys" eilwaith ar y ddaiar. Pe byddent ond cael Ymreolaeth heddyw, yr ydym yn beiddio dweyd y byddai yr holl Dywysogaeth wedi myned yn un gymmysgfa benboeth cyn diwedd y flwyddyn, a hwythau o un galon yn cydwaeddi am i'r hen lywodraeth gael ei ail sefydlu.—BKODOR.
--_---------! STREIC Y MYFYRWYR…
STREIC Y MYFYRWYR YN NGHAER- FYRDDIN. Pa un ai yn erbyn talu y degwm, neu ynte am yr eight hours' system a mwy o gyflog, yw'r 1-1 r, achos o'r streic yng Ngholeg Presbyteraidd I n -1 1 Caerfyrddin ym ml-.lith y myfyrwyr, nis Caerfyrddin vm ml-.lith v myfyrwyr, nis gwyddom ond hyn a wyddom, eu bod wedi streico, a bod y drysau yn gau pun yr vm yn ysgrifenu y llinellau hyn. Gallem feddwi bod myfyrwyr y coleg yn drachtio yn helaeth o syniadau Burns a Ben Til let t, canys nid oes rhyw amser maith er pan fu streic yn y coleg o'r blaen, fel ag y -orfo(lvy(I un or proffes- wyr (y Parch. D. L. Evans, o Lanybyther) i roddi fyny ei swydd fel athraw clasurol. Truenus yw meddwl fod myfyrwyr, ag sydd yn parotoi i'r weinidogaeth, yn methu dyfod i ryw gytundeb heb streico. Os mai y degwm oedd yn eu blino, pa ham na anfonent am Peggi Lewis? Sicr yw y byddai Bob" yn ei dwyn ar ei gefn gyda'r parodrwydd mwyaf. Ni ddylai pwnc y degwm i flino myfyrwyr Coleg- Presbyteraidd Caerfyrddin, am y r ym ?I y y yn adwaen un yno ag sydd wedigwneyd hwnyn bwnc myfyrdod, fel y gwelwyd mewn llythyr o'i eiddo mewn newyddiadur lleol yehydig amser yn ol. Yr ym wedi elywed fod y Prif- athraw wedi ysgrifenu at y Bsvrdd yn Llundain am ymddygiad y myfyrwyr, ac yr ydym yn gobeithio y settlir y mater heb rhyw lawer o anhyfrydweh—each party to pay its own costs. Nis gallwn hysbysu ein darllenwyr ym mha le y gorwedd y bai-pa un ai yn yr athrawon, neu ynte yn y myfyrwyr ond hyn a ddywedwn, fod streic mewn coleg sydd yn parotoi dynion ieuainc at y weinidogaeth, yn rhywbeth gwarthus, isel, ac anweddaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. YSBHYD BRUTUS.
CAERFYRDDIN.
CAERFYRDDIN. B()nu dydd Sul diweddaf, yn Eglwys Dewi Sant, preguthodd y Parch. Llewellyn Rees ei luvgeth ymadawol fel curad y lie. (Mae Mr. Rees wedi ei appwyntio i fywoliaeth Llan- gynMgi a bwiiida dechreu yno dydd Sul nesal) Cymmerodd y gwr parchedig ei ii oddi wrth y geiriau, "Ti yr Hwn a wrandewi weddi, atcit Ti y daw pob cnawd 1:11 iw. Yr oedd yn amI wg i'w weled f,) I hiiacth mawr ar Mr. Rees i yitiadael a lill, er mai ond pymtheg mis y bu Z, ym i. — Sul, yn Eglwys Crist (sef Eglwys Soisn y plwyf), traddododd ei bregeth ym- a la vol yma hefyd, oddi ar yr un geiriau ag yn Eglwys Dewi Sant. Mae Mr. Rees wedi gwneyd lluaws o gyfeillion er pan y mae yn y dref, a theimlir hiraeth mawr ar ei 01.
LLANGELER.
LLANGELER. CAPEL MAIII.—Gan fod cylchrediad eich newyddiadur yn helaeth yn y parth hwn o'r wlad, cefais yr anrhydedd o ddarllen ychydig o hanes Capel Mair ynddo, hen fanre fy I ngenedigaeth, a chartreile yr hen ddu wiolion y gvinmydogaeth yn y gorphenol. Yr wyf yn fawr ddiolchgar i "Ymweiydd" am roddi bras-ddarluniad o fy hen frodyr, a'r hen fan cyssegredig yn eich newyddiadur clodwiw, gan ei fod yn creu meddylddrych o hunan- rodiad a phwysigrvvydd eu dylanwadan ar y bobl ieuainc sydd yn trigo yn y gymmydogaeth yn bresennol. Cafodd y darluniad bvwgraff- yddol o fy hen frodyr y fath d lylanwad arnaf nes yr anghofiais fy nyledswyddau tymmorol yn hollol wrth feddwl am yr amser dedwydd a dreuliais yn eu cwmpeini pan dan ofal tad a mam. Yn yr oes bresennol dywed rhai dynion nad yw y ddysgeidiaeth hanesyddol o'r un lies i'r plant yn yr ysgolion dyâdiü1; ond nid wyf yn cydsynied a'r cyfryw, ond iddi gael ei haddysgu yn y fath fodd fel y gallo y meddwi gwanaf gael syniad iawn am dani, o biegid y mae dylanwadau ac e.samplau ein cyn- deidau yn cael effaith ar bob dosbarth o ddynion i raddau. Felly gyda golwg ar hanes- yddiaeth ylle h-.vn mae yn ddiammheu y bydd yna rywrai o'r bobl ieuainc yn ceisio efelychu dylanwadau ac esamplau eu lien dadau trwy gyfrwng eich newyddiadur; ac hyd yn nod yr hen bobl yn taflu golwg yn ol tuag amser eu babandod, a byw yn fwy perffaith a duwiol y rhan sydd yn ol o'u g^fa ar y ddaiar. Nid af i ddarlunio dullwedd a brwdfrydig- rwydd yr hen dadau tuag at yr hen fan cyssegredig, gan fod yna un cymhwys a tharawiadol wedi cymmeryd y g'waith mewn Haw, sef "Ymweiydd," ond yn hytrach ceisiaf gan y bobl ieuainc sydd yn mynychu y lie i roddi mwy o'u bryd a/u hawyddfryd at achos Duw, gan ddilyn ol fy hen ffryndiau, y rhai y crybwylla "Ymweiydd" am danynt. Y chydig flynyddoedd yn ol, buais yn talu ymweliad a'r hen adeilad, pan ydoedd offeiriad y plwyf yn traddodi y genadwri fawr o angeu'r Groes i'w bobl; ac yn ystod y gwasanaeth, ni chlywais ond dau neu dri o'r holl gynnulleidfa yn adrodd Gweddi yr Arglwydd, fel pe buasent yn ymwrthod ac yn ymwadu a hwy eu hunain i heidio cymmeryd un ran yn achos Duw Rhyfedd y gwahan- iaeth oedd yn bodoli yna a'r amser pan oedd yr hen bereriuion a'u Ileisiau peraidd, megys angylaidd gor, yn anfon eu deisynadau a'u ,,Y ?3 y cwynion i fyny at y Tad nefol; yr aiiisei- hwnw sydd megys wedi ei gertio ar dudalenau fy meddwl a'm cof, a'r hwn sydd yn rhoddi mawr gyssuri mi mewn llawer ystorom arw yn nhaith by wyd. Beth am y cyfryw ddynion ? A ydynt yn werth i'r bobl ieuainc y gym- mydogaeth i'w hefelychu, neu ynte rhyw Phariseaid hunanol ydynt Dywedaf yn ddi- floesgni fod eu cymmeriadau yn ddysglaer, ac yn werth i'r sawl a ewyllysia rodio yn ffordd yr Arglwydd, eu mabwysiadu. Gyfeillion, pa le mae yr hen dadau erbyn heddyw 1 Pa fudd sydd i ni ein bod wedi cael cyuodeithasu a hwyut am ychydig ? Eu cvrff sydd yn nhir angof, a'n hysbrydoedd wedi ehedeg at yr Hwn a'i rlious eu hcsamplau a'u dylanwadau sydd yn argraffedig ar feddyliau llawcroedd, ac felly y bydd hyd ddiwedd amser. Bobl ieuainc y gymmydogaeth, bydd eich n zn esamplau a'ch dylanwadau chwithau yn ganfyddadwy i'r oes nesaf a'r oes pi-esennol ac felly, na fyddwcli yn ddifater ac yn annys- tyriol o'r hen fan cyssegredig, a'r achos daionus sydd yn cael ei gaiio ym mlaen yn y lie, o biegid y mae yn ddiammheu y bydd eich enwau chwithau yn argraffedig ar dudal- enau rhyw newyddiadur yn v dyfodol, fel eich tadau duwiol a llafurus. At eich gwaith o ddifrif, frodyr, o biegid v mil.: y gelyn wrth y drws, ac yn barod i l drailyncu y neb a allo, tra y byddoch yn hepiau.—HENAFSWR.
--_----------_----------_--PANTGLAS,…
PANTGLAS, PENBOYR. At Olygydd Y JOURNAL. Syii,C,an fod eich colofnau at wasanaeth eich gohebwyr, erfyniaf am gael ychydig ofod yn eich newyddiadur clodwiw i roddi hants cyfarfod gweithwyr Panrglas, a gymmerodd le nos Sadwrn diweddaf. Mae cyfarfod arferol yn cael ei gynuai yn y gweithdy yma bob tri mis, i ystyried pa newyddiaduron sydd i gael en derbyn am y tri mis dyfodol, o bn. rai y mae y JOURNAL yn un o'r cychwyniad. Pan ddaeth yr awr pen- odedig i ben, wele y gweithwyr (deg mewn 0 Z3 n nifer) yn dyfod yng nghyd, ac yn eistedd yn ring ar rails y gwydd. Yna cynnygiodd Ebenezer Jones, Felindre, fod David Jones, Heather Hill, i fod yn gadeirydd. Eiliwyd y cynnygiad gan Thomas Davies, y Fron. Gwrthwynebodd Mr. Jones y cynnygiad ar v sail fod ereill yn fwy hyddysg ac addas nag ef i lanw y fath swydd ond trwy gymhellion cryf, efe a esgynodd i'r lan ar y fron-garfan ac a anerchodd y cyfarfod, gan ddywedyd — Barchus gydweithwyr, Gwyddoch fod yn arferiad yma i gadw cyfarfod i ystyried pa newyddiaduron sydd i gael eu derbyn genym i'r gweithdy am y tri mis dyfodol. Yr wyf finnau, am y tro cyntaf, wedi cymmeryd y gadair, a gobeithio y gwnaf reoli y cyfarfod heb ddigio neb (clywch, clywch). Rhag bod yn faith ar fy araith, nesawn at weithrediadau y cyfarfod. laf. A oes yma rhywun yn gwrthwynebu y newyddiaduron sydd eisoes yn dyfod i law? Cyfodolld George Williams, Pantglas, ar ei draed, a dywedodd nad oedd ef yn ystyried yn deg fod dau newyddiadnr Ceidwadol yn dyfod i'r gweithdy, a dim ond un Rhyddfrydol, a'i fod ef yn cynnyg fod dan newyddiadur Rhyddfrydol yn dyfod i'r gweithdy o hyn allan. Eiliwyd ef gan Enoch Thomas, Lon Fawr. Yna cyfododd y cadeirydd ar ei draed, a gosododd y cynnygiad ger bron y cyfarfod, pan gafwyd dros y cynnygiad chwech, yn ei erbyn pedwar. Gofynodd y cadeirydd pwy newyddiaduron oedd i fod. Cynnygiod(I George Williams Tarian y n Z5 Gioeithiwr, m eiliwyd ef gan Thomas Davies, y Fron. Cynnygiodd David James, Plygyrhiw, y eiliwyd ef gan D. S. Evans, Lanwater. Cynnygiodd Edward Jones, Cwm, fod y JOURNAL i barhau eto yr un modd, ac eiliwyd ef gan David Davies, Abercych. Yna y cadeirydd a ddywedodd fod digon wedi eu henwi, gan mai tri oedd yn arferot o ddyfod i'r gweithdy, a gosododd y tri ger bron y cyfarfod, pan gafwyd dros y JOURNAL, pedwar; dros y Tarian, bedwar, a thros y Faner, dan. Yna gofynodd y cadeirydd i'r ysgrifenydd am y bill am y tri mis diweddaf, a dywedodd yr ysgrifenydd nad oedd y bill wedi dyfod i law eto. Rhoddodd y cadeirydd siars i'r ysgrif- enydd am ofalu fod y bill mewn llaw cyn y eyfarfod nesaf, ac hefyd i anfon am y tri newyddiadur a basiwyd yn y cyfarfod hwn. Yna cynnygiodd Thomas Davies fod y diolcli- garweh gwresocaf yn cael ei dalu i'r cadeirydd, r, Z!1 y mewn araith rymus; eiliwyd ef gan Ebenezer Jones, Felindre. Yna terfynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau," dan arweiniad y cadeirydd. Ar ol gorphen y gan, ymadawodd pawb i'w cartrefieoedd.—Yr eiddoch, IIIRAETHOG.
DYFFRYN CETTWR,
DYFFRYN CETTWR, MR. GOL. SIR,—-Digon tebyg eich bod yn llwyr argyhoeddedig erbyn hyn fod pobl dda Dyffryn Cletwr yn golygu peidio gwneuthyr un sylw o ddifriaeth isel wal y JOURNAL o bryd i bryd a phe byaswn innau wedi bod yn nod i saethau bychain Lilipwtaidd eich man ohebwyr talentog (1) or ardal hon, ni chawsech y fraint o glywed oddiwrthyf am y tro hwn yn un-ing. A ddarfu i chwi am eiliad, Mr. Gol., dybied y byddai yn gredit i mi dderbyu canmoliaeth gan y JOURNAL 1 y byasai olew syrllyd ac atiach y JOURNAL yn gwellau archolliou a briwiau Jiwmbailijfl! Bydded hysbys i chwi, sir, nacharwn i ddim gael ymddangos yn y JOURNAL 0 hyn allan a fyddo yn tyeddu i geisio'm iselhau yngolwg fy 0 Z5 "71 nghyd-ryddfrydwyr. Bycld wch ddaed a gadel i'r uchod gael ymddangos fel ag y mae yn eich n In rhifyn nesaf h.y., nid oes eisiau i chwi fyned i'r drafferth i gywyro ei wallau na'i feiau.— Ydwyf, ifcc., WILLIAM JONES, Gelliaur Factory, Mehefin 9, 1S90. [Fel y gwel ein darllenwyr, yr ydym wedi cydsynio a dymuniad ein goliebydd.—GOL.] LLITH YR HEBOG. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Mae Mr. D. Pugh, A.S., wedi gwneyd yn Ilygad ei le a phenderfyniadau y gymdeithas Radicalaidd sydd wedi ei ffurfio yn y rhan uchaf o sir Gaerfyrddin. Dangosodd y boneddwr caredig o Manorafon nad oedd ef yn myned i ymgrymu i'w delwauhwy; ac nad ydyw, yn ol yr hanes, yn meddwi gofyn am gynnrychioli y rhan uchaf o'r sir yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf; ac nad ydyw yn ymostwng i sia-rad a'r ddirprwyaeth appwynt- iedig gan y Radicaliaid ar ei ddyledswyddau In zn I seneddol. Mae Mr. Pngft yn rhy heddychol a thangnefeddus iddynt hwy, o herwydd dywedai gweinidog y dydd o'r blaen, Mae yn rhaid i ni gael ymladdwr; felly, ni wna Mr. Pugh mo'r tro." "Clywch, clywch," meddai y gwran- dawyr. Ie, Air. Gal., a "clywch, clywch," meddwn ninnau yn yr awyr yma, fbd gwein- idog yr Efengyl yn dweyd y fath beth un a broffesst ei fod yn pregethu "DUW'l' heddweh a Thywysog tangnefedd" i'w gyn- nulleidfa ar y Sabbath, a'r dyddiau dilynol yn myned i'r maes i gyhoeddi rhyfei 0 anghys- sondeb, onid e ? Gwir y dy wediad er hyn i gyd, Os cregin fydd yn v cwd, cregin ddaw allan." Dygwyddodd tro hynod ddigrif y dydd o'r blaen i un o'r dosbarth pregcthwrol hyn, yr hwn a ystyriai ei hun uwch law y cyffredin, er nad oedd wedi bod mown ysgol na choleg eriocd. Cyfarfu ofleiriad y pI wyf ag 11 y n ef ryw ddiwrnod ar y ffordd fawr, ac ebai'r anllythyrenog, wedi siarad ychydig eiriau, Chwi a fuoch yn y coleg, syr, yr wyf yn tybio ? otitii-i;tld. "Wei. yr wyf li yn ddiolchgar/ obe y Hall, fod yr Arglwydd wedi fy i heb ddim dysg." "Cymmerodd peth cyffelyb le vn n amser Balaam," ebe yr offeiriad, ac fel y mae gwaethaf y modd, y mae y cyfrvw ddygwydd- iadau yn dyfod yn bethau cyffredin ym mhlith dywediadau Anghydflurfwyr y dyddiau presennol." Felly y gallwn ddweyd am'siarad mawr a phcndei fyniadau pwysig y gymmanfa 1 Radicalaidd. Yr oeddynt yng ngolwg Mr. j Pugh, A.S., fel udiadau y creaduriaid hir- glustiog sydd ar hyd a lied y wlad. Ei ben- derfyniad yw, mae yn debyg, canu yn iach iddynt dyfod o'u canol hwynt ac ymddidoli. Dydd Sadwrn cyn y diweddaf yr oedd y pentref prydferth Santa Clara fel twmpath o forgrug, yn fywyd trwyddo i gyd. Yr achos o'r bywiogrwydd oedd, claddedigaeth gwr ieuanc o'r lie ym mynwentyr Eglwys. Tybiwyd gan rai y buasai gwrtlnvynebiad gan ficer parchus y lie i hyn gymmeryd lie ond dim o'r fath yr oedd pyrth y fynwent o led y pen. Yr oedd y rliybuddion gofynol, yn ol y gyfraith, wedi el t5 eu rhoddi, a chafodd y Parch. R. Morgan (A.) a'r Parch. R. H. Jones (B.) fyned trwy eu gwaith yn ddirwystr. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y cyntaf, ac offrymwyd gweddi gan yr olaf; ac ymadawodd y dorf mewn tawelwch. Ychydig amser yn ol bu y Parch. L. Price yn claddu un o'i aelodau ym mynwent yr Annibynwyr, y Tabernacl, Llandeilo; aeth Mr. Price trwy ffurf a gwasanaeth yr Eglwys fel y buasai gartref yn gywir. Yr oedd amryw o bregethwyr yn bresennol; ond gommeddwyd siarad. Pe bai blaenoriaid y bobl o'r un ysbryd a hyn, byddent yn myned yn y blaen law yn Haw i dir y bywyd draw, ac nid ymrafaelio yn y niwl.—Yr eiddoch, Yn HEBOG.
LLANYBYTHER.
LLANYBYTHER. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Caniatewch i mi gongl fechan o'ch newyddiadur i ddweyd gair yng ngwyneb yr n n hyn a ymddangosodd yn eich rhifyn diweddaf gan eich gohebwyr galluog, Williams t, 9 I, Z5, (Merthyr) a" Didymus," mewn perthynas i fy nodyn yn y JOURNAL am Alai 23ain, yng nghylch pysgota yn y gymmydogaeth hon. Eglur yw fod tanbeidrwydd y gwirionedd yn fy nodyn yn rhy lachar i'w llygaid ac yng ngwyneb eu haeriadau disail fy mod wedi edlym yn anghyfiawn, ac y gellid hebgor y fllangell mewn perthynas a physgota yn y gymmydogaeth hon, yr wyf yn beiddio dweyd yng nghylch y pysgota anghyfreithlawn y soniais am dano. "A wadohyn aed a hi, a gwaded i'r haul godi." Yr wyf yn rhyfeddu fod dyn o gyrhaeddiadau pell fel Williams (Merthyr), dyn a chanddo ddigon o ddefnydd- C) y iau Lladinaidd yn mathdy ei feddwi, wedi cael golwg mor dywyll ar fy nodyn. Y man cyntaf wyf yn ei weled yn dyfod i gyflyrddiad a'r testyn yw, dyweyd nas gellir amgyffred fy meddwl neu fy amcan yn fy llith ef allai, meddai ef, mai fy amcan yw tynu gwg ar fy mro enedigol, fel mae amcan llawer Ymneill- duwr ieuanc wrth grochfloeddio, Croeshoelier y degwm (a yw yn fy nghyfrif i yn un o hunynt, nis gwn ), neu yn fympwyol fel Pharisead ymffrostgar, mewn trefn i garu gweled fy enw ar faes llenyddiaeth newydd- iadur, trwy gymylu cymmeriad yr ardal. Na, bydded hysbys i Williams (Merthyr) mai nid dyna yr amcan mewn golwg; pe byddai i mi neu i rywun arall lwyddo i arfer rhyw foddion i hwtio yr hen arferiad gwarthus o drwytho y cornentydd allan dros derfynau yr ardal; byddai ei chymmeriad yn glirach o gymmainta hyny. Gofyna Williams (Merthyr), gan ei bod yn arferiad eleni eto (yn ol yr ysgrif), Pa ham na fuasai rhywun heb law myti wedi gweled y pysgod, yn ol fy nysgrifiad n n Z5 0 hoiiynt ? Iloffem gael gwybod ganddo, yn ol pa ysgrif a fecldylia ? Nid ydyw erioed wedi dyfynu "gan ei bod yn arferiad eleni eto o fy ysgrif i. A oes ganddo rhyw brawf nad oes neb wedi gweled y pysgod, yn ol fy nysgrifiad ? Gofyna, pa ham yr awgrymaf am maen-seiri yn fwy na rhyw ddosbarth arall o ddynion ? Y mae hyny yn ddigon eglur, debygwyf, yn fy 6 0 zn nodyn cyntaf ar y pwnc aildafled ei olwg. A ydyw Williams (Merthyr) yn meddwl nad ydwyf erioed wedi bod yn feddiannol ar drwydded, pan y gofyna os darfu i mi weled rhywun yn mwynhau ei hunan wrth y gorchwyl o bysgota yn anghyfreithlawn (heb drwydded a olyga), a chan gymmeryd yn ganiataol fod y rhywun hwnw yn cyhoeddi y geiriau hyny i fy nghlywedigaeth, Yr hwn sydd yn ddibechod yn y cyfeiria.d o bysgota tailed ataf gareg, a allaswn ymaflyd mewn careg a'i thaflu tuag ato ? Cymmerer hi yn n n araf yn y cyfeiriad hwn. Yr wyf yn addef ar g'oedd gwlad i mi lawer gwaith pan yn hogyn -n o ddireidi, ddynoethi fy mreichiau a defnyddio ffynen mewn ymcliwil am bysgod, heb feddwl am drwydded. Ni theimlwn- un radd o anfoddlonrwydd pe gwelwn bawb trwy'r arddl yn ei wneyd heb drwydded, er fy mod yn meddu trwydded fy hun, a gallaf olhrain back dates o honynt mor belled a fy ngwrtliwyneb- ydd o bosibl ac os oes rhywun wedi fy ngweled erioed yn defnyddio un math o gyf- ryngau gwenwynol, traethed ei len, a chofied y nawfed gorchymmyn. Cyn terfynu ei lith, gosoda ychydig ofyniadau i mi, er iddo ddweyd mai nid amcan ysgrifenu yr ychydig eiriau yw i dd-adleu y pwnc. Hawdd yw canfod, cyn y rhoddai y fath ofyniadau, mai dyn wedi ei orlenwi a rhyw nwyd pwffyddol a chwant ymgecran ydyw. Yng nghylch ei Z5 0 ofyniadau, pedwar mewn nifer, gollyngaf y ddau gyntaf heb sylwi arnynt, o herwydd nad ydynt yn dal perthynas a'r testyn ac os barua Williams (Merthyr) mai fy anwybodaeth a berodd i mi beidio ateb yr oil o'i ofyniadau chwerthinllyd a syml, gwnaed yn fawr o'i ddarganfyddiad. Y tri gofyniad ydyw, A ddarfu i chwi weled effaith y gwenwyn a nodasoch mewn rhagor nag un gornant ar adeg n zi y cyfansoddocheich llith?" Mewn atebiad iddo, ni welais effaith y gwenwyn ond mewn un man ar yr adeg y ovfansoddais fy llith mewn un man y gallaf fod ar yr un adeg. Gwelais ei effaith mewn gwahanol gornentydd er yr amser y daeth tymmor pysgota i fewn eleni. Y pedwerydd gofyniad yw, A oes rhywrai wedi cael allan ddrygsawredd y dwfr 1" Nac oes dim ym mhellach na drygsawredd y celan- eddau ynddo. Os gall Williams (Merthyr) bi-ofi nad ydyw y dwfr yn drygsawru pan byddo celaneddau drygsawrus yn braenu ynddo, bydd y ddau air olaf fy nodyn yn colli eu grym. Y mae ef yn ddiau yn astudio'r dygn: ef allai y gall broff ei bwnc yn fuddugol- iaethus. Cyn sychu yr ysgrifbin, dywedaf air neu ddau mewn cyssylltiad a llith Didynms," yr hwn sydd yn flin ganddo ei fod yn un o wrthddrychau fy sarhad. Peth hynod am dano ef, ei fod yn esog o'r trosedd ei hun, na fyddai yn well ganddo beidio ymsangu ychwaneg ar y budreddu; canys priodol yw credu ei fod, c herwydd nid oes neb yn wrthddrychau fy sarhad ond y cyfryw rai.—Yr eiddoch, D. O. [" Llanc a'r NOll" ar y pwnc uchod yn ein nesaf.- Y GoL.1