Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EIN TREFEDIGAETHAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EIN TREFEDIGAETHAU. Mawr ydyw y swn, y golygiedigaeth, a'r feirniadaeth yn bresennol yni mysg ein gwleid- yddwyr, yn y wasg, ac yn ein gwahanol gym- deithasau, yng nghylch y fargen mae ein Prif- weinidog galluog a chraffus bron ar gwblhau c t5 rhwn" y wlad yma a'r Almaen. Gallasem feddwl fod y cytundeb crybwylledig rhyng- ddynt mor hynod syml ac mor ddiammheuol bwys a budd i Loegr, fel yr hawliau nid yn unig gadarnhad, ond hefyd gyfan foddloniad a diolcbgarwch y wlad yn gyffredinol. Ond nid hyn-yna yw egwyddor neu lywodraethyddiaeth ein cyfeillion Gladstonaidd. Nis byddant yn cydnabod yr un parodrwydd na'r un gallu, na'r un bwriad prysur byth ar ran y Ceidwadwyr i wneuthur yr unrhyw ddaioni i'w gwlad. A dyna yr achos y maent heddyw mor ddrwg- dybus ac ammheuol yng nghylch gweithred n "I Z5 ddiweddaf Arglwydd Salisbury. Ond beth tD am y fargen ? Mae ein Prifweinidog, trwy C, t, drefniad, ar unwaith yn llawn doethineb a glewder, wedi sicrhau i Brydain Fawr fudd- ugoliaeth benigamp yn Nwyreinbarth Affrica. Yr allwedd i'r sefyllfa yma ydyw yr ynys a elwir Zanzibar. Unrhyw arfordir a yniarfer arglwyddiaeth dros yr ynys hon tua 400,000 o erwau—gyda'u phorthladdoedd ardderchog, ei hafonydd a'i thir ffrwythlawn, braidd o angenrheidrwydd a ddaw y galln penaf dros goror dwyreiniol y Cyfandir Du. Mae y manteision anfeidrol a ddeilliaw o sefyllfa yr ynys hon wedi en cydnabod er ys blynyddau bellach, ac y maent wedi eu chwennycbu gan y wlad yma a gwledydd ereill ond yr oeddynt yn yrnddangos fel yn hollol anghaffaeladwy. Poblogaeth yr ynys ydyw tua 350,000, ac y mae ei masnach a'r wlad hon yn awr yn agos i L2,000,000 y flwyddyn. Trosglwyddir trwy y cytundeb presennol hefyd ynys cyfagos i Zanzibar o'r enw Pemba yng nghyd a than o'r cyfandir ei hun yn 0 ZD cynnwys rhyw 650,000 o filltiroedd ysgwar, y rhan fwyaf o'r olaf (yn ol Mr Stanley) sydd eisoes yn barod i'w drefiannu. Gellir dyweyd fod tiriogaeth Prydain Fawr yn Affrica yn awr yn cyrhaedd o Benrhyn Gobaith Da, hyd lyn Nyassa, ac hyd gyftiniau talaeth y Congo. Ceir hefyd awdurdod ar rai o brif ffyrdd calon y cyfandir, yn cynnwys yn eu mysg ffordd Stevenson, yng nghydag hawl i dramwyo o'r 0 0 y deheu drwy y talaethau hyny ym mha rai y mae dylanwad ac awdurdod yr Almaen yn benaf. Cydnabyddir awdurdod Lloegr yn Z5 Uganda ac yn y wlad oddi amgylch y Victoria z,Y Nyanza—m6r mawr Canolbarth Affrica. Fel hyn mae Arglwydd Salisbury wedi llwyddo i drefnu cytundeb rhwng yr Almaen a Lloegr, 6 el yr hwn a rwyma y ddwy wlad wrth eu gilydd yn Affrica, gan adael i ni law rydd i ymledu o'r cyhydedd i'r gogledd, a'n breinio a hawl, na pherthyn i neb ei gwadu, llywodraeth ar canolbarth deheudir Affrica, talaeth mor eang ag sydd yn alluog i gynnal a bwyda holl drigolion Prydain Fawr. Mewn cyfnewidiad am yr ynysoedd ar diriogaeth anferth yma, rhoddwyd i'r Almaen ynys fechan yn y Mor Gogleddoi — Heligoland wrth eneu yr afon Elbe yn ngos i goror Almaen. Ni chynnwys ar yr eithaf fwy na tri chwarter milltir ysgwar, ac nid oes ynddi yr un cyn- nyrch ond ychydig datws. Ni pherthyn iddi yr un ffordd, yr un anifail gwaitli, na'r un cerbyd, ond yn unig ychydig fadau. Pres- wylia tua 2,000 o bobl ynddi perthynol i'r Almaen, yn dilyn yr alwedigaeth o bysgota. Wrth ganmol y cytundeb, dywed Mr. Stanley fod ynys Pemba ei hun yn llawn tal am Heligoland, heb son am Zanzibar ar dalaeth ar y Cyfandir, a dywed hefyd y dylasai y wlad fod yn ddiolchgar i Arglwydd Salisbury am In ZD ennill iddynt y fath diriogaeth helaeth a gobeithiol. Mae gan ein gwlad yn awr sail gadarn yng nghanolbarth y Cyfandir hwn, a gall weithio ym mlaen ei marchnadoedd yn fwy llwyddiannus ac yn fwy effeithiol nag y bu yn bosibl iddi wneyd yno yn yr hyn a aeth heibio.

DYSGYBLAETH Y CORFF.

"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL.