Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
EIN TREFEDIGAETHAU.
EIN TREFEDIGAETHAU. Mawr ydyw y swn, y golygiedigaeth, a'r feirniadaeth yn bresennol yni mysg ein gwleid- yddwyr, yn y wasg, ac yn ein gwahanol gym- deithasau, yng nghylch y fargen mae ein Prif- weinidog galluog a chraffus bron ar gwblhau c t5 rhwn" y wlad yma a'r Almaen. Gallasem feddwl fod y cytundeb crybwylledig rhyng- ddynt mor hynod syml ac mor ddiammheuol bwys a budd i Loegr, fel yr hawliau nid yn unig gadarnhad, ond hefyd gyfan foddloniad a diolcbgarwch y wlad yn gyffredinol. Ond nid hyn-yna yw egwyddor neu lywodraethyddiaeth ein cyfeillion Gladstonaidd. Nis byddant yn cydnabod yr un parodrwydd na'r un gallu, na'r un bwriad prysur byth ar ran y Ceidwadwyr i wneuthur yr unrhyw ddaioni i'w gwlad. A dyna yr achos y maent heddyw mor ddrwg- dybus ac ammheuol yng nghylch gweithred n "I Z5 ddiweddaf Arglwydd Salisbury. Ond beth tD am y fargen ? Mae ein Prifweinidog, trwy C, t, drefniad, ar unwaith yn llawn doethineb a glewder, wedi sicrhau i Brydain Fawr fudd- ugoliaeth benigamp yn Nwyreinbarth Affrica. Yr allwedd i'r sefyllfa yma ydyw yr ynys a elwir Zanzibar. Unrhyw arfordir a yniarfer arglwyddiaeth dros yr ynys hon tua 400,000 o erwau—gyda'u phorthladdoedd ardderchog, ei hafonydd a'i thir ffrwythlawn, braidd o angenrheidrwydd a ddaw y galln penaf dros goror dwyreiniol y Cyfandir Du. Mae y manteision anfeidrol a ddeilliaw o sefyllfa yr ynys hon wedi en cydnabod er ys blynyddau bellach, ac y maent wedi eu chwennycbu gan y wlad yma a gwledydd ereill ond yr oeddynt yn yrnddangos fel yn hollol anghaffaeladwy. Poblogaeth yr ynys ydyw tua 350,000, ac y mae ei masnach a'r wlad hon yn awr yn agos i L2,000,000 y flwyddyn. Trosglwyddir trwy y cytundeb presennol hefyd ynys cyfagos i Zanzibar o'r enw Pemba yng nghyd a than o'r cyfandir ei hun yn 0 ZD cynnwys rhyw 650,000 o filltiroedd ysgwar, y rhan fwyaf o'r olaf (yn ol Mr Stanley) sydd eisoes yn barod i'w drefiannu. Gellir dyweyd fod tiriogaeth Prydain Fawr yn Affrica yn awr yn cyrhaedd o Benrhyn Gobaith Da, hyd lyn Nyassa, ac hyd gyftiniau talaeth y Congo. Ceir hefyd awdurdod ar rai o brif ffyrdd calon y cyfandir, yn cynnwys yn eu mysg ffordd Stevenson, yng nghydag hawl i dramwyo o'r 0 0 y deheu drwy y talaethau hyny ym mha rai y mae dylanwad ac awdurdod yr Almaen yn benaf. Cydnabyddir awdurdod Lloegr yn Z5 Uganda ac yn y wlad oddi amgylch y Victoria z,Y Nyanza—m6r mawr Canolbarth Affrica. Fel hyn mae Arglwydd Salisbury wedi llwyddo i drefnu cytundeb rhwng yr Almaen a Lloegr, 6 el yr hwn a rwyma y ddwy wlad wrth eu gilydd yn Affrica, gan adael i ni law rydd i ymledu o'r cyhydedd i'r gogledd, a'n breinio a hawl, na pherthyn i neb ei gwadu, llywodraeth ar canolbarth deheudir Affrica, talaeth mor eang ag sydd yn alluog i gynnal a bwyda holl drigolion Prydain Fawr. Mewn cyfnewidiad am yr ynysoedd ar diriogaeth anferth yma, rhoddwyd i'r Almaen ynys fechan yn y Mor Gogleddoi — Heligoland wrth eneu yr afon Elbe yn ngos i goror Almaen. Ni chynnwys ar yr eithaf fwy na tri chwarter milltir ysgwar, ac nid oes ynddi yr un cyn- nyrch ond ychydig datws. Ni pherthyn iddi yr un ffordd, yr un anifail gwaitli, na'r un cerbyd, ond yn unig ychydig fadau. Pres- wylia tua 2,000 o bobl ynddi perthynol i'r Almaen, yn dilyn yr alwedigaeth o bysgota. Wrth ganmol y cytundeb, dywed Mr. Stanley fod ynys Pemba ei hun yn llawn tal am Heligoland, heb son am Zanzibar ar dalaeth ar y Cyfandir, a dywed hefyd y dylasai y wlad fod yn ddiolchgar i Arglwydd Salisbury am In ZD ennill iddynt y fath diriogaeth helaeth a gobeithiol. Mae gan ein gwlad yn awr sail gadarn yng nghanolbarth y Cyfandir hwn, a gall weithio ym mlaen ei marchnadoedd yn fwy llwyddiannus ac yn fwy effeithiol nag y bu yn bosibl iddi wneyd yno yn yr hyn a aeth heibio.
DYSGYBLAETH Y CORFF.
DYSGYBLAETH Y CORFF. Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf y mae llawn ddigon wedi ei ddweyd o barthed i sancteiddrwydd y corff ac y mae y gwrth- dystiad yn erbyn y dybiaeth hynod ein bod yn anrbydeddu a lhyngu bodd y Duw byw drwy dylodi, poeni, ac anurddo prydferthwch y peth a wnaeth Efe mor rhyfedd," wedi gyru yn ynfyd. Rhai dynion doeth a gyhoeddasant rvfel vn erbyn seintiolrwydd gwanychu y corff a'i feichio a phoen a baw a chyn bo'n hir, ail-adroddid eu dysgeidiaeth iachus yn ddidaw o gwr i gwr o'r wlad; gwnaeth yr Efengyl newydd ei ffordd i lu aneirif o bregethau a darlithiau, ac i golofnau pob papyr wythnosol a chyhoeddiad misol poblog- aidd. Mawr oedd nifer y pregethwyr. Daeth y twba ymolchi yn foddion o ras, a chroen glan yn ffordd ddiammheuol i gael calon bur. Anerchid catrodau o wirfoddolwyr fel pe baent urddau crefyddol wedi myned allan i adeni bywyd moesol y genedl. Yr oedd criced, rhwyfo, rhedeg, a neidio i wneyd gwell gwaith o z5 ar ddynion na gweddio; ac yr oedd yr hyfforddwr i gyflawnu gwaith yr ymdrech- 1-1 y asai y pregethwr a'r athronydd yn ofer ei wneyd. Gwych o beth, yn ddiau, yw i ddyn allu cerdded deugain milltir y dydd, ond nid yw hyny yn ei wneyd yn sant. Nid oes dim rhinwedd mewn bod yn glafaidd, ac, hyd y gwelaf fi, nid priodoledd uwchaf duwioldeb yw meddu treuliad estrys neu ysgyfaint ceffyl hela. Gwelwyd llawer ffwl yn berchen gewynau o haiarn a giau o ddur; a thybiaf ei bod hyd yn nod yn bosibl i fod yn aelod o'r clwb Alpaidd, a thoii yr holl orchymmynion ar yr un pryd. Er hyny, dilys yw y sieryd yr Ysgrythyrau Iuddewig, yn ogystal a'r rhai Cristionogol, yn C, In t, barchus am y corff. Nid ydynt byth yn son am y corff fel gwaith rhyw dduwdod israddol, neu ef allai gelynus, yr Invn a'i gwnaeth yn y fath fodd fel ag i'w temtio yn barhaus i bechod. Gwaith dwylaw Duw ei hun ydyw, wedi ei wneyd yn "rhyfedd ac ofnadwy." Teml weledig yr Ysbryd Glan ydyw-yr unig deml weledig yn yr hon y mae DlW wedi preswylio er pan ymadawodd y gogoniant o'r sancteidd- iolaf yn Jerusalem. 0 Ni bydd angeu yn ddinyatr iddo. Wedi ei hau .iewn llygre- digaeth, efe a gyfodir mewn anllygredigaeth wedi ei hau mewn gwendid, efe a gyfodir mewn nerth. Mae yr ymgnawdoliad a'i adgyfodiad wedi ei waredu am byth rhag el diystyrweh. Fod Duw wedi ymddangos yn y y n cnawd yw gwirionedd sylfaenol credo'r Cristion a phan y clywn y geiriau cwynfanus, "lludw i'r lludw, a phridd i'r pridd," ni a gadarn gredwn y daw yr amser pan y ca Z5 pawb sydd yn eu beddau glywed llais Mab Duw a dyfod allan; ac nadyn y ffurf brydferth a'r gwyneb serchog wedi diflanu am byth yn y m y bedd ac yr adymddengys y corff, nid yr un corff a gwaed yn wir, er hyny y corff oedd yn hyfrydwch i ni edrych arno ar y llawr, ym mhlith gogoniannau claer y nef. Nid yw'r corff, gan hyny, gyda'i oeddfan a'i eisieu i'w drin fel gelyn y corff, ond fel ei gyfaill-cyfaill is ei radd, ond cyfaill er hyny. Mae arno eisieu cynhesrwydd a dillad, ac ymborth a chysgod, ac esmytbder a gorphwys- dra ar ol Ilafur caled; a dylai eu cael i gyd. Dyweded pobl a fynont am ddylanwadau nefol angen bwyd, pa un ai gwirfoddol neu anwirfoddol, mae yn anbawdd gweled fod angen bwyd yn annog i'r un ddynol rinwedd neu Gristionogol ras. 0 barthed i fywyd llym a chaled, fel rheol fe ddichon ei fod mor niweidiol i'r pen a'r galon, fel ag yn sicr y mae i iechyd y corff a'i brydferth wch. Pan yw'r apostolion yn rhybuddio yn erbyn chwantau cnawdol," nid oes lie i dybio y mynant i bobl arwain bywyd o anghysur ac Z3 angenoctyd. Ond ei bod yn angenrheidiol, os mynwn fyw bywyd pur a defosiynol, i ni ffrwyno yn dyn ein greddfau israddol a'n nwydau, a gredwyd gan dduwiolion ym mhob oes ac ef allai taw difaterwch yng nglyn a, dysgyblu y corff yw'r gwir achos fod llawer o Gristionogion yn byw bywyd mor wael. Ni feddant syniad clir a a chryf am Dduw, na rhagdeimlad bywiog o fythol wynfyd a phurdeb. Mae eu cariad at Grist fel marwor tan wedi banner ei ddiffodd- heb oleuni, bob wres, heb rym. Chwantau cnawdol" heb eu darostwng yw'r gwir esboniad am eu gwendid moesol a'u musgrellni ysbrydol. Ynddynt hwy mae'r corff yn feistr ar yr ysbryd. Holed ambell un ef ei hun pa un a fyddai yn well dyn pe byddai yn yfed llai. Nid dynion sydd yn yfed nes y meddwont yn unig sydd yn euog o anghymmedroldeb. Mac llawer i'w cael, ef allai, a wnant yn waefcli na hyny. Dywed meddygon o fri wrthym y derby nia corff, yr hwn sydd yn feddw unwaith y mis, lai o niwaid anian- yddol, na'r hwn nad yw byth yn colli llywodraeth arno ei hun, ond sydd yn arferol o yfed mwy nag a ddylai. Pa un o'r ddau a dderbynia y niwaid moesol fwyaf sydd yn anhawdd dweyd. Yn anffodus, edrychir ar yfed nad yw yn terfynu mewn eithaf meddw- dod fel peth diniwaid. Teimlai rhai dynion sydd yn euog o hono yn ddigllawn ped yn unig yr awgrymid yr ant i ormodedd. Tybiant eu bod yn byw yn rhydd a llawen, ond eu bod yn ddifai. Daw eu cyfeillion yn gynnefin a'u harferion dywed y rhai nad adwaenant ond ychydig o honynt nad ydynt yn fywiog iawn neu gyflym, ond ni ddygant yr un bai i'w herbyn; caiff eu cydwybodau eu hunain eu meddygu i gysgu; ond yn ddiau fy ymedy pob ardderchawgrwydd moesol, a phob duwiol- frydedd uchcl o'u cymmeriadau. Nid yw yn iawn siarad am yfed i ormodedd fel drwg yn bodoli yni mhlith yr isol radd yn unig. Ni wna na safle na dysg ein rhyddhau o'r perygl. Dywed meddygon wrthym yn fynych, fynych mai meddwdod mewn gwirionedd yw yr achos o lawer afiechyd anesboniadwy mewn teiau nas meddylid byth am danynt. Yn awr ac yn y man ni a gyfarfyddwn a benywod-benywod o ddysg a diwylliant, ac o deuluoedd da-yn euog o hono. Mae amgylchiadau yn bod a wnant y demtasiwn i'r drwg hwn, yn un o fawr berygl i fenywod nad oes raid iddynt ennill eu bara beunyddiol. Dyna ferch ieuanc, cartref yr hon cyn priodi oedd yn llawn o lawenydd a dedwyddweh amgylchid hi gan frodyr a chwiorydd a llu o gyfeillion; dygid ei bryd gan gerddoriaetb, arluniadaeth, a darllen llyfrau; am ddwy neu dair gwaith y flwyddyn ai ar ymweliad hir a pherthynasau ym mhell o ffordd; yr oedd mor rhydd o ofal a'r lili, yr hon nid yw yn hau nac yn nyddu, neu adar y nefoedd, a wnant y gwanwyn yn Hon a'u caniadau; yr oedd ei bywyd yn un llinyn o lawenydd, ararywiaeth, a bywiogrwydd. Ar 01 priodi rhaid iddi dreulio y rhan fwyaf o ym mron bob dydd gartref ac wrthi ei hun. Ym- edy ei gwr oddi wrthi yn union ar ol ei foreufwyd, ac ni ddychwel hyd yr hwyr. Rhaid iddi edrych ar ol y morwynion a'i chartref; ond gwaith yn fynych sydd yn lladd ysbryd merch o feddwl bywiog a galluog yw gwarchod gartref. Bob yn dipyn fe ddaw'r plant, ef allai, ond ni rydd cymdeithas plant iddi y symbyliad meddyliol a'r cynhyrfiad y mae hi wedi ymarfer ag ef. Diffygia ei chalon 0 ZD o'i mLwn. Hi a flina o dan yr wybren lwyd a throm a groga drosti, a syrtbia yn ddiarwybod iddi i arferiad o gymmeryd symbylyddion fel ag i beri i'w gwaed redeg yn gynt a'i hysbryd ymhoewi o'i mewn. Os nad ymryddha oddi wrthi ar unwaith, dynes golledig ydyw. Gwnaed yr hyn oil yn ddiniwaid fel ag i osgoi ei thynged. Dychweled eto at ei harluniadaeth neu ei cherddoriaeth trenliai ei hamser yn addurno ei chorff yn ddestlus, neu mewn hel-chwedleuon a drinir mor gyffredin ar achlysuron o alw yn y boreu yn well byth- os y medr—ymrodded gyda bIas i ddilyn rhyw waith crefyddol caredig er lies y tylawd. Cafted rywffordd, ryw gynhyrfiad rbyw liw, rhyw yni i'w bywyd oddi wrth bethau diniwaid, neu bydd wedi ei dinystrio am byth os na fedr gael cynhyrfiad iachus yn rhywle, fe brawf unrhywiaeth tawel diysbryd ei bywyd yn ddinystr iddi. Y mae drwg arall i'r hwn y mae pobl y I wlad hon yn dra thueddol. Gesyd ein hinsawdd angenrhaid arnom i gymmeryd llawer iawn o fwyd sylweddol, ac am na feddwn athrylith i wneyd yn well yr ydytn yn bwyta yn fras. Nid oes dim ammheuaeth ynom yng ngylch hyny yr ydym yn drachwantus o newynog, ac ni theimlwn yr un cywilydd o blegid hyny. Tueddir dyn i feddwl y gwnai coginiaeth dda lawn cymmaint o leiaf ag ymarfer corfforol i foesoli y byd. Bwytewch giniaw yn Pavis lie y cewch bedwar cwrs ar ddeg, a chwi a deimlwch yn ysgafnach a goleuach eicli pen wedi gorphen na chyn dechreu Gwnewch gyfiawnder," fel y cerdda'r yniadrodd yn awr, a chiniaw dda o'r hen ffasiwn yn y wlad hon, ac os na chewch gynnorthwy digonedd gwin ceirios, a siampaen, yr ydych yn rhy bendew i ddim ond i siarad am wleidyddiaeth leol a chyflwr y cnydau. Ni ddaw gwinoedd Ffrainc byth yn boblogaidd yn y wlad hon hyd nes y cawn gogyddion o -'fraine..l\fae'r addysg y 11 mewn einiawa yn gangen a esgeulusir mewn moeseg, a dylid ar frys ei ehymmeryd i fyny. Y n y cyfamser, cotied pawb fod dyfolgi bwyd C, [ yn llawn mor atgas a dyfolgi diod, er, ef allai, Z5 0 yn llai yn y golwg, ac o'r ddau, mwy o niwaid 0 yn fynych i harddwch, mawredd a thynerwch yr enaid a wna y glwth na'r dyn meddw. (I'w barium.)
"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG
"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG (GAN CEREDIG.) Mae gan y Seison eu rhedegfeydd ceffylau a'u chwareudai i'w difyru, a chan y Cymry eu heisteddfodau. Mae gan Eglwyswyr eu cynghres eglwysig, lle'r ymdt-iiail a. phynciau crefyddol y dydd eu gwyliau corawl, i'r dyben o wella ar gerddoriaeth y Cyssegr a'r genad- ?-I tn aeth blwyfol, i ddyfnhau y bywyd crefyddol yn yr Eglwysi. Mae gan yr Ymnei'lduwyr eu cymmanfaoedd, lie ymdrinir a phynciau perth- ynol i'r enwad, ac, fel y mae gwaetha'r modd, a phynciau gwleidyddol hefyd, fel nas gellir gwahaniaethu rhyngddynt a chyfarfodydd politicaidd; ac wedi pasio'r penderfyniadau gan y brodyr, y mae ganddynt eu cyfarfodydd n 0 pregethu, er mwyn syrnbylu y bywyd crefyddol yn y gwahanol gapeli, debygwn, a hyrwyddo llwyddiant yr achos yn gyffredinol. Ar y cy- farfodydd pregethu yma y dymunaf draethu fy lien yn yr ysgrif hon. Fel y bu'r hap, yr oeddwn ar fy ngwyliau yng ngwlad fy ngenedigaeth—newydd ddyfod i lawr o'r Btifddinas-a chefais gyfleusdra i 0 fyned i Gymmanfa'r Bedyddwyr yn Waen- clyndaf, ym mhlwyf LIansadwrn, sir Gaerfyr- ddin, ar yr lleg o Fehefin. Ar fy flot-dd i fwynhau fy hun ar hen fryniau Ceredigion, arosais am ychydig ddiwrnodau gyda cliyfaill i mi yn nyffryn ffrwythlon Tywi, i fwynhau awelon balmaidd a golygfeydd swynol sir Gaerfyrddin. Bedyddiwr selog yw fy nghy- faill, ac edrychai ym mlaen am wythnosau gyda dysgwyHadau dwys am y gymmanfa. Yr oedd i fod yn gymmanfa fawr, yn cyn- nrychioli tair sir—Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro. Yr oedd genym rai milltiroedd o ffordd, a chyrhaeddom yno ganol dydd, erbyn yr oedfa dau o'r gloch. Pentref bach tlws, hynod lanwaidd, ar ael y bryn, yw Llansadwrn, a meddyliais, wrth fyned trwyddo, fod y tri- golion yn orgrefyddol, fel pobl Athen gynt, t5 n gan fod yno hen Eglwys y plwyf, capel y Methodistiaid, capel yr Annibynwyr, ac ychydig allan o'r pentref capel y Bedyddwyr. Dylai pobl Llansadwrn fod yn bobl da. Dy- wedir fod yn byw yno offeiriad, bugail y Methodistiaid, gweinidog yr Annibynwyr, a 0 9 gweinidog y Bedyddwyr. Go dda, onid e, mewn plwyf gwledig 1 Y fath wastraff ar Z5 allu a chyfoeth! Ond rhaid myned aty pwnc dan sylw, neu bydd y rhagymadrodd yn fwy CIY na'r bregeth, fel twr Eglwys Gorseinon yn fwy na'r corft. Y PREGETHWYR A'R PREGETHAU. Eisteddai Iluaws o bregethwyr ar yr esgyn- lawr, a gwelais lawer yma a thraw yn y gyn- nulleidfa, a thri neu bedwar hwnt ac acw ar y macs yn ymgommio yn ddifyr, ac am bell i un ar y ffordd gyfagos yn mwynhau ei chwiff Z3 Z5 brydnawnol o'i getyn cwtta. Dysgwyliwn glywed hen gewri'r|enwad yn traddodi'r gen- adwri; ond yn ofer y chwiliwn am danynt ar yr esgynlawr pregethwyr ieuainc oedd yno, Z5 t5 gydag un eithriad. Gobeithiwn yn erbyn gobaith y deuai rhai o'r hen batriarch i'r golwg, ond cefais fy siomi. Ac yn y man cy- fododd gwr ieuanc i fyny-dyn trwsiadus cryf a heini, yn sefyll yn syth ag un llaw yn llogell ei fritis cadwodd hi yno o ddechreu hyd ddi- wedd y bregeth, a synwn ni fawr nad yw hi yno y fynyd hon. Darllenodd ei destyn yn araf a dystaw, rhag ofn y buasai'r gynnull- eidfa yn ei glywed, gallwn feddwl; ond fel yr elai ym mlaen, poethai at y gwaitli; dechreuai gerdded yn ol a blaen codai ei law ddeheu i fyny at ei ben, gan gribo a brwsio ei wallt bob yn ail. Yr oedd y Haw arall yn y llogell yn barhaus siglai yn ol ac ym mlaen ar yr esgyn- lawr, fel yr ymddangosai yn union fel deryn- brith-yr-oged. Gweled un tebyg i hwn yn ddiau a barodd i Spurgeon alw y pregethwyr sydd yn ymddwyn felly yn wxgtails. Pregeth ddwfn athrawiaethol oedd ganddo; ac wrth wrando arno, methais yn oleu deg ddirnad pa effaith y dysgwyliai iddi gael ar y gynnull- 0 Z5 eidfa. Yr oedd y genadwri yn cael ei thaflu i'r cysgod gan fawredd y traddodwr. Yr wyf wedi bod yn gwrando ar Ganon Liddon, a chewri ereill yn y Brifddinas, ac yr oeddwn yn gallu dilyn llinyn eu rhesymeg yn weddol dda; ond yn fy myw nis gallaf gofio pregeth y gwr hwn. Yr unig beth sydd ar fy nghof heddyw 0 y yw yr byn a ddywedodd am dano ei hun—y man y ganwyd ef, ac felly yn y blaen. Ar ei ol, cododd hen wr parchus yr olwg, a phregeth- odd yn weddol ymarferol, ond ychydig yn rhy ysgafn i wneyd un lies parhaol. Ei brif bwnc oedd Crist fel Meichniydd ac ymddangosai dipyn yn anghysson wi-tfi ddyweyd fod cariad Crist gymmaint nes iddo roddi ei fywyd dros ereill, ac eto yn cynghori ei wrandawyr i beidio er dim meichnio neb, fel pe bai y perygl o golli ychydig o fndr-elw yn fwy pwysig na bywyd y Gwaredwr! Ond ni ddywedaf ddim ym mhellach am yr hen wr, gan fy mod, er yn foreu, wedi fy nysgu i barchu fy henafgwyr. Terfynodd yr hen wr yn gynt nag y dymunai, er mwyn dal y tren, meddai ef. Pa ham, Mr. Gol., y mae pob pregethwr mor ofalus i ddy- 0 y weyd o'r pwlpud gymmaint o'u helynt en hun- ain 1 Beth gwell yw'r bobl o glywed lie y ganwyd y pregethwr; lie y mae yn gwein- idogaethu lie y treuliodd y noson o'r blaen y rheswm ei fod yn pregethu o flaen neu ar ol hwn a bwn ? Gallwn feddwl fod yma berygl i ddyrchafu eu hunain ar draul darostwng Crist. Gallwn feddwl y dylai pregethwr guddio ei bersonoldeb ei hun yn y genadwri. Ond ymddangosai y pregethwyr hyn i mi, mai n y rheol ganddynt hwy yw, Myfi yn gyntaf, a'r genadwri wed'yn Y casgliad naturiol yw, tD mai en prif amcan ydyw dangos pwy yw y gwr goreu a mwyaf enwog yng ngolwg y gynnull- I m Z3 n Z5 I'll eidfa—race am y goreu ydyw'r gymmanfa hon ydyw Derby Day y pregethwyr. Sain- Join" y Derby Day hwn oedd y gwr ieuauc a ddilynodd yr hen wr (yr oedd tri pregethwr yn yr oedfa hon !) Gwr tal llathraidd, hir ei goes, hir ei wallt, a gwelw ei wyneb oedd hwn. Wrth ei glywed yn dechreu, meddyliais mai un o'r treacle jyreachers oedd. Yr oedd hwn yn waeth pechadnr na'r cyntaf yng nghylch rhoddi ei ddwylaw yn ei logellau. n zn Cadwodd y ddwy law yn hold fitst yn ei logellau bron hyd y diwedd piti garw na fuasai car- Z5 iadon y gwyr ieuainc hyn yn dangos iddynt In anfoneddigeiddrwydd yr arferiad gwrthun hwn. Dywedodd ei fod dan anhawsder mawr i sefyll ger bron y gynnulleidfa. ar ol y cewri ag oedd wedi ei ragflaenu yn yr exhibition; 0 Z5 ond addawodd wneyd ei oreu. Cyn diwedd y bregeth, yr hon a harhaodd am ryw chwarter awr, dangosodd mai nid treacle i gyd ydoedd, ond fod yna rhyw gymmaint o brimstone wedi ei gymmysgu ag ef. Siaradai yn hollol ddi- daro am uffern a'i fflamiau, a'i ddwylaw yn gysurus yn ddwfn yn ei logellau ond y man cerddodd yn araf yn ei ol ar vr esgynlawr, nes y pwysai ei gefn ar y mur, tynodd ei ddwylaw allan, cododd hwynt i fyny fel yn barod i redeg gyrfa. Meddyliais ei fod yn bwriadu neidio dros y bwrdd ag oedd ar yr esgynlawr, ond n oy meddyliais wedyn nad oedd yn angenrheidiol iddo gymmeryd cymmaint o hedfa. i gyflawnu hyny o gamp. Dywedodd ei fod am dalu com- pliment i Ymneillduwyr Cymru, a gwaeddodd nerth asgwrn ei en, a'i ddwylaw yn chwiiio uwch ei ben, Beth sydd wedi gwneyd y Cymry mor grefyddol ? Beth sydd wedi cadw ?I crefydd yn fyw trwy yr oesau 1 Ai cyssyllt- iad crefydd a'r wladwriaeth 1 Nag e Ai y prif-ysgolion i addysgu dynion i bregethu yr In Z5 C, Efengyl1 Nag e Wel, beth ynte ? Pre- OY gethwyr a'u calonau wedi eu tanio gan sel dros achos y G wared wr, a cliat-iad tcag at eneidian dynion "-fel efe! Yna gofynodd am fendith yr Ysbryd ar y gymmanfa, a ther- fynodd yr oedfa brydnawnol. Hwn aeth a'r belt o ddigon er fod pedwar i bregethu yn yr hwyr, dywedir mai hwn aeth a hi; ac felly efe yw arwr y Derby am 1890. Dywedir fod pethau amgylchynol (environment) yn dylan- ny wadu ar y cymmeriad; a gallwn feddwl fod y pregethwr hwn wedi cael ei ser ferwedig oddi wrth y ffaith ei fod yn byw yn nyffryn Teifi, hyny yw, rhwng preswylfod "Bob Jeffreys" ac anneddle "Peggi Benwen," dau arwr y gwrth-ddegymwyr. Yn awr, beth yw dyben y cyfarfodydd pre- gethu yma ? Sefydlwyd hwynt ar y cyntaf, yn ddiau, er mwyn deffroi pechaduriaid o'u cwsg ysbrydol. Clywais lawer gwaith gan yr hen bobl fod y gwrandawyr yn hongian megys t5 Z5 n wrth wefusau yr hen bregethwyr Cymreig, ac vn cael eu gwefreiddio gan en hyawdledd duwiolfrydig a'u difrifoldeb, ac fod yr Efengyl yn allu y pryd hwnw i gadw llawer pechadur. Ond yn sicr, nid yw y pregethau yma yn cael yr un dylanwad yn awr. Ymddengys y pre- gethwyr yn rhy ddidaro, difraw, ac ysgafn, ac o ganlyniad nid yw y gwrandawyr yn gwran- daw yn astud o gwbl, gan ddysgwyllles i'w heneidiau; ond er mwyn eu difyru gan chwaeth iselwael y pregethwyr. Clywir hwy yn siarad a'u gilydd yn uchel; yn wincio y naill ar y llall, ac yn ymddwyn yn anwedd- aidd. Entertainment ydyw nid oes gwahan- iaetli rhwng y gymmanfa a'r eisteddfod cys- tadleuaeth pregethwyr ydyw. Tueddir fi i feddwl fod Y mneillduaeth ar dranc—fod yr eneiniad wedi ymadael; ac y mae yn rhaid cael rhywbeth gwell na'r cyfarfodydd pre- gethu yma i ail ennyn y tan sanctaidd. Gwelir "Ichabod" yn ysgrifenedig ar gapeli Cymru. Ymneillduaeth yn wir Beth pe gofynid i'r hurtyn coegfalch hwnw ag oedd am dalu com- pliment i Ymneillduwyr Cymru, Pwy blanodd Cristionogaeth ym Mbrydain? Pwy a'i cad- wodd yn fyw yn yr oesau tywyll 1 Pwy rodd-1 odd y Beibl i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain? Pwy ond hen Eglwys eu tadau Eglwys yr 0 Z5 Apostolion, Eglwys y merthyri. Eglwyswyr, gwerthfawrogweh eich breintiau gwnewch yn fawr o'r moddion y mae hi yn ddarparu. Y mae hi wedi goroesi llawer ystorm y mae Z!5 wedi pregethu yr Efengyl yn ei phurdeb cyn n n geni Ymneillduaeth; y mae yn gweithio hedd- yw yn ddystaw, nes yn y man y lefeinia yr holl does. Daw ei phlant eto yn ol i'w myn- wes megir llawer o feibion a merched eto o'i mewn i lanw conglau y nefoedd. Bydd yr ben Eglwys Gatholig byw tra bo amser; mae ei sail ar y mynyddoedd sanctaidd, a Christ yw ei Phen congl-faen. Eglwyswyr Cymru, byddwch yn blant ffyddlon iddi, a chwi a gewcli wobr ffyddiondeb-cot-oii y bywyd.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. C<idwj(an—Beth yw y mater, Iwan ? Beth sydd yn dy flino di ? Mae golwg wasgodig, n n ni surllyd, a gwepsur arnat ti lieno. Iwan—Cefais i, fel llawer ereill, fy siomi yn enfawr yn yr hyn a gymmerodd le ychydig ddyddiau yn ol yn y giniaw fawreddog a roddwyd i aelodau seneddol Cymru 0 yn Llundain. Yr oedd dysgwyliad mawr y buasai iddynt ddylanwadu ar Mr. Gladstone i ddyfod i'r maes fel dadgyssylltwr, ac ysgubo yr n C5 Eirlwys ymaith i ddiddymiant ac i ebanjoliant bythol ond cawsom ein siomi; nid oedtl ef yn myned i estyn ei law allan yn ei herbyn. Gwilym-Nid ag us y delir hen adar ac n nid ag us y dadgyssylltiad a mwnws ysgrag- 0 e, lywiaeth Cymru Fydd y delir yr hen law o Benarlag. Dywedodd yn blaen nad oeddynt yn myned i'w orfodi i ddinystrio yr Eglwys a'i magodd. Z5 orus--Yr oeddym yn crcdn ei fod ef of wedi newid ei farn. Mae yn llawn bryd i'r Cymry daflu ei iau ymaith, a gwrthryfela yn ei erbyn. Hymel-Nill yw rhuadau dyrnaid o bie- gethwyr petipanelaidd, sydd yn arfer cwrdd i wyntyllu en golygiadau a baldorddi mewn Z5 tref ddinod, yn effeithio dim arno. Gall hyfforddio chwerthin pan maent hwy yn malu ewin acyn ymgynddeiriogi. Gi-yr yn eithaf da ny ei fod yn dal Radicaliaid Cymru ar gledr ei law ac mae ef yn eu deall i drwch y blewin. Nid yw ef wedi cyfnewid ei olygiadau am yr Eglwys yng Nghymru. Dywedodd fod yn ammhosibl i dynu yr Eglwys yng Nghymru i lawr heb ddadyruchwelyd yr Eglwys yn Lloegr, am eu bod yn tin, a bod Cymru dan dalaeth Caergaint, ac mae ef yn dal yr un syniadau heddyw. Y mae y Radicaliaid yn resynus o dylawd mewn galluoedd, onid e ni fnasai achos ganddynt i hudo Eglwyswr i fod yn arweinydd iddynt i ysbeilio a dinystrio yr Eglwys yr oedd ef yn arfer amddiffyn itior wrol acliyda'r fath nerth ac hyawdledd. Yn ol ei addefiad, y mae rhwystrau ac unhaws- derau enfawr ar y ffordd i ddadymchwelyd yr Eglwys Gymreig. Pwy ellir goelio—Mr. Gladstone neu ei fan-leuadau, sydd yn ei ganlyn fel gweision llew 1 Llywarch—Mae yr holl fsrw diddiwedd a dibaid yma am ddadgyssylltiad ac am ryfel y degwm, sydd i'w glywed yn ein capeli-Sul, gwyl, a gwaitli-yil ddigon i surffedu dynion. Er mwyn y nefoedd, ymddygwch fel Cristion- ogion. Mae digon o waith gan bob en wad Z5 Z3 t) crefyddol i ddysgu crefydd a moesoldeb i'r werin, sydd yn awr yn ymlygru yn gyflym. Yr wyf yn synu ac yn rhyfeddu fod dynion, sydd yn proflesu Cristionogaeth, yn gallu cytuno ar bob pwile-yii gallu iiiasiiaeliu a'u Z> gilydd, prynu a gwerthu i'w gilydd, heb gweryla ond ymrafaeliant, cwerylant, ac yn am] maent yn barod i gystwyo eu gilydd am bethau crefyddol. Y mae yn alarus meddwl fod crefyddolion Cymru wedi myned i'r fath iselder. Gruffydd—Dyna y Methodistiaid ni fynent eu galw yn Ddissenters ychydig tlynyddoedd yn ol. Yr ym yn cael yr un enwad yn Llyn- lleifiad y diwrnod o'r blaen fel corff yn pasio penderfyniad fel enwad o blaid dadgyssylltiad, yn barod i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gydag anffyddwyr i ddadymchwelyd yr Eglwys a'u creodd, Ac o'i herthyglau y 0 1 Z!1 ffurfiwyd eu Cyffes Ffydd. Ni feddyliodd Howel Harris erioed rwygo yr Eglwys ac ni feddyliodd Jones Llangan i rwygo yr Eglwys, ond yr oedd y lefain wedi lefeinio yr holl does, a therfynodd mewn rhwyg. I for—Gadawodd y Methodistiaid yr Eg- 0 lwys am nad oeddynt yn cytuno a'i hathraw- iaethau a'i threfniadau. Yr oedd hyny yn ddigon o reswm dros eu hymneillduaeth. Cadtv!fait-Na ddo; paid camsynied paid cymmeryd dy gamarwain. Yr oedd llawer o'r llefarwyr lleygol yn ddynion mawr, cyfuwch a'r hen offeiriaid a'u dygodd allan ar y llwyfan, ac nid oeddynt yn foddlon i gael eu galw yn "llefarwyr" mwyach. Yr oeddynt am gaol eu gosod ar yr un safon a'r offeiriaid. Dewi-Ond cawsant eu ffurfio yn Gorff," Gioilym Yr oeddynt yn arddelwi eu hunain yn aelodau o'r Eglwys Gatholig hyd 1811, pan actliant allan yn Sassiwn Llandeilo- fawr nid oeddynt yn galw eu hunain yn Fethodistaid cyn hyny. Fel hyn yr ysgrifen- odd awdwr enwog am y rhwyg Cawsant eu gwneuthur yn sect trwy ofterynoliaeth a gweinyddiad Mr. Thomas Charles o'r Bala. Cymmerasant eu gwneyd yn fath o glwb 1 Z5 crefyddol." Yr ydwyf yn credu, ac yn gobeithio y goreu, am Mr. Charles o'r Bala ond gwnaeth weinidogion ar yr un egwyddor ag y gwnaeth leroboam fab Nebat hwynt, ac i ateb yr unrhyw ddybenion, sef split. Mae genyf bob parch i enw a choffadwriaeth Mr. Charles; ond rhaid dywedyd y gwir. Nid wyf yn credu i Mr. Charles ragoli split, ond yr oedd y forces wedi dyfod yn rhy gryf. Cyn hyny, nid oedd y Methodistiaid yn derbyn y Cymmun Bendigaid o ddwylaw neb ond offeiriaid, ac hyd yn oed o fewn cof, yr oedd gan yr hen bobl barch mawr i'r Eglwys; nid oeddynt un amser yn cynnal eu gwasan- aeth ar yr un awr a gwasanaeth yr Eglwys. Yr wyf yn cofio yr amser pan y byddai yr hen bobl yn myned i'r Eglwys yn Llanddewi- breti bob Sul, er eu bod yn Fethodistiaid. Hoi-us-A wyt ti am i ni grcdu na wnaeth y Corff ddim daioni yng Nghymru? IIywcl-Nid oes neb yn ainmlieu hyny dangos achos o'r rhwyg wnaeth Gwilym. Nid oes dim un dadl na wnaeth hen dadau y Methodistiaid lea mawr; ond y mae yn ammheus pa un a ydynt yn gwneyd yr un yn awr. Maent yn awr yn sect wleidyddol; maent yn ymgyplysu yng nghyd a Radical- iaid eithafol; maent yn fraich i'r Moabiaid a'r Hagariaid. Yr ym yn cael bod rhai o'u pregethwyr yn arweinyddion y cynhyrfwyr gwrtli ddegymol ac yn cefnogi y rhai sydd yn anufuddhau i'r awdurdodau goruchel, ac yn cablu urddas ac yn lecsiwnydda ar adeg etholiadau, a'r blacnoriaid yn gosod yr ysgriw mown gweithrediad. Mi wn am un pregethwr parchus a gafodd ei rwystro i fyned i gapel yn Nyffryn Teifi am iddo roddi ei bleidlais i'r ymgeisydd Ceidwadol. Iwan—Ni ddylai un Ymneillduwr bleidio Tori. Gruffjdd—Nid oes dim a fyn gwleidyddiaeth Z5 i chrefydd bur a dihalog. Cadwgan—Os felly, ni ddylai un Eglwyswr bleidio y Radicaliaid. Mae Mr. Gladstone yn Eglwyswr selog; offeiriad oedd Ir, Bowen Rowlands Eglwyswyr yw Mr. Dillwyn a Syr Hussey Vivian, &c. Ni fuasai llaweroedd yn aelodau seneddol heddyw oni buasai pleid- leisinu Eglwyswyr Radicalaidd. Gwilym —Nid oes un cyssylltiad rhwng egwyddorion Radicalaidd ag egwyddorion crefydd; ond mae y sectau wedi gwynio gwleidyddiaeth ffanaticaidd, wallgof, beryglus y dydd a chrefydd y capeli, fel mae yn alarus meddwl. Gruffuydd—Mae genyf barch diffuant i bob pregethwr efengylaidd sydd yn pregethu yr Efengyl, Ond nid oes genyf amynedd gyda y n Z3 Jacks politicaidd sydd a'u bysedd yn wastad ym mhob peth gwleidyddol, ac i'w gweled yn wastad yn nhewder y gwrthryfel gwrth- c ddegymol pan mae arweithiadau yn myned ym mlaen. Pe byddai myfyrwyr colegau Y mneillduol Cymru yn cymmeryd fwy o ddyddordeb yn eu gwersi, yn hytrach na stwmpio'r wlad pan fyddo etholiad yn cym- meryd lie; ac hyd yn oed streico," fel y gwnawd yng Nghaerfyrddin ychydig ddyddiau yn ol, byddai yn fwy anrhydeddns ynddynt.
DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL.
DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL. At Olyyydd Y JOURNAL. SYR,—Dygwyddais, ddechreu yr wythnos cyn y diweddaf glywed gan ryw un fod ffrwyth ymenydd fy nghyfaill 0 Gelli Aur i ymddangos yng ngholofnau eicli newyddiadur y dydd Gwener canlynol. Ceisiais gyda'r siopwr gadw I un JOURNAL i mi, a thelais am dano ym mlaen llaw, er mwyn bod yn siwr o hono, er i mi wrth hyny amddifadu fy hun o fy ngheiniog- werth o ddybacco am yr wythnos. Yr oedd hyny yn gryn aberth i was v myglys i'w wneyd, fel y gwyr pob un sydd a phrofiad gauddo. Bum yn dyfalu am rai noswoitbiau ar fy nghefn yn fy ngwelv, pa fath lythyr fuasai, canys gwydd wn i, fel pawb arall yn yr ardal, t'od ncwvdd-buth ar ddygwydd yn y Dyffryn, peth na freuddwydiodd yr un dewin erioed yn ei gylch, sef fod William Jones, (ielli "71 Aur, yn ysgrifenu i'r ]>;ipyr! Cefais y JOURNAL, a darllenais lythyr fy nghyfaill, a theg i'w dweyd, ni chefais fy siomi mae ci stamp a'i argraff arno; mae y llythyr yn deilwng o'r awdwr ym mhob ystyr, fel y gwyr eich I tD darllenwyr lluosog erbyn hyn. At- ol ei ddarllen drosodd, nid oedd genyf y dychymmyg lleiaf at ba beth y cyfeiriai, a i-liaid i iiii gyfaddef fy mod, pan yn ysgrifenu yr ychydig linellau hyn, yn aros yn y tywyllwch eto o barthed yr hyn a ysgrifena yn ei gylch. Wrth ei ddarllen. daetii geiriau y diweddar Mynyddog yn fyw i'm cof, Os cregyn gwag fydd yn v sach, cregyn ddaw allan. bobol fach Ond gobeithio, syr, fod Mr. Jones ei hun yn ei ddeall. Yn ei linellau agoriadol, cymmer yn ganiataol eich bod chwi tua Chaerfyrddin yna yn gwybod erbyn hyn na wneir yr un sylw o'r JOURNAL yn yr ardal gan y bobol dda." Felly ni pberthyn Mr Jones i'r cyf i-yw ddosbartb, canys y mae ef wedi ymddarostwng i'r fath raddau ag i wneyd sylw o "ddifriaeth isel wal y JOURNAL," fel ei geilw. Os a i'r drafferth o ddarllen fy llythyr a ymddangosodd dair wythnos yn ol, gwel, neu yn hytrach dylasai weled, nad yw yn ei ddifrio o gwbl, neu mae yn rhaid fod galluoedd meddyliol Mr. Jones yn hynod o bwl, nes methu gwahaniaethu rhwng du a gwyn. Credaf, Mr. Gol., na cha haeriad disail y gwr o Gelli Aur o barthed i'r sylw a delir i'r JOURNAL yn y Dyffryn gael llawer o effaith arnoch chwi, fel ag i'ch lluddias i gysgu'r nos. Yn ei ail frawddeg, ysgrifena fel hyn, "A phe baswn innau wedi bod yn nod i saethau bychain Lilipwtaidd eich man ohebwyr talentog (?) o'r ardal hon." Beth feddylia, tybed ? Heriaf yr un athronydd i'w hesbonio nid oes ynddi na synwyr na grammadeg—dau beth ag y mae ei lythyr yn amddifad o honynt. Pa le y cafodd afael yn y gair "Lilipwtaidd 1" Nid yw wedi yfed yn helaeth o wybodaeth Swift yn ei Gulliver's Travels," neu buasai yn alluog i sillebu gair pedair sill. A ydyw Mr. Jones wedi breuddwydio mai efe sydd i fod yn deyrn Dyffryn Clettwr, fel yr oedd Calin Deffar Plune yn deyrn neu ymherawdwr ynys Lilliput? neu pa ham y cyfeiria at Liliput," Os bach o gorffolaeth y trigolion hyny, nid oes achos iddo ef gwyno yn y cyfeiriad hwn. Na, bydded hysbys iddo, ni fynwn mo hono i deyrnasu arnom. Y Shah fydd ein brenin ni tra y parhao ambell i chwech wyllt yn ei logell. Canlynwn ef yn ffyddlon heb derfysg na gwrthryfel tra fyddo ganddo logell lawn. Amraheua Mr. Jones allu a thalent man ohebwyr yr ardal. Mae yn iawn am unwaith bach ydyw ein talentan, rhaid cyfaddef. Y mae yn peri mawr dristwch i mi yn fynych fy mod mor ddidalent, yn enwedig pan yn ysgrifenu i'r un newyddiadur, a hyny ym mhen wythnos ar ol y gohebydd doniol a galluog o Gelli Aur. Dylasech, Mr. Gol., wythnos o leiaf, cyn y buasai ysgrifenydd mor dalentog yn eich breintio a llith, adael i'r byd wybod ym mlaen Haw, drwy argraffu mewn llythyrenau breision y cyfryw hysbysiad; canys dywed William Jones ei hun fel hyn, Ni chawsech y fraint o glywed oddi wrthyf." Ië, braint fawr ei maint i ni ddarllenwyr cyffredin y JOURNAL, y rhai nad ydym yn gweled yr un newyddiadur arall, ydyw darllen cyfansoddiad mor hynod. Meddyliais unwaith gyfrif gwallau grswnmadegol ei lith, ond wedi 1 0 i mi dallu fy ngolwg drosto, bernais mai 0 gormod o waith hyd yn oed ar hir-ddydd haf oedil eu cyfrif. Newydd-beth i ni yw darllen cyfansoddiad fel hwn. Cynghorem ef i ysgrifenu at Dr. Enoch am gyfran o'r funds ys, i-I M i dalu rhyw un am roi gwersi iddo. Fel un cymhwys at y gwaith, cymmeradwyem Lieutenant Crook-shank o Jinny Bridge i roddi gwersi mewn English as she is wrote; ac Apostol Pegi" o bentref Llandyssil mewn Cymraeg, gyda chaniatad Penwen," with gwrs. Ceir cryn drafferth wrtho, yr wyt yn ofni, am fod Ile i feddwl ei fod wedi pori porfa Gee yn o hir. 0 barthed i'r brawddegau disynwyr sydd yn ei lith, gwell peidio dweyd dim, gan fy mod yn barnu fod y clefyd hwn yn tnf eddy giniae ti iol. Yn nes ym mlaen yn ei lythyr, aiff dipyn yn fwy barddonol; esgyna yn ffroenuchel i ben Parnassus," ac yna diflana. Gofyna, a wnai canmoliaeth y JOURNAL wella archollion a briwiau bwmbailiff?" Na wuaiff, mae yn debyg, neu ni fussai raid i'r bwmbailiff ychydig amser yn ol, ar ol cael addewid am wely dros nos yn Alltyrodyn Arms, ddianc am ei fywyd (heb ei got fawr a nwyfau ereill o'i eiddo). Yn ddamweiniol, aeth i bentref bychan Frondeg, ac yno cadd orwedd yn ei ddillad drwy'r nos ar ysgiw rhyw Samaritan trugarog. Gwell oedd gan hyd yn oed fwm bail iff" ddianc, na dyoddef archollion a briwiau yr haid fradwrus oedd wedi ymgasglu o gwmpas y fan y bwriadau orphwys. Ai at m hyn y cyfeiria, nis gwn. Yn y rhan olaf o'i lythyr, mae'r frawddeg a ganlyn :—" Bydded hysbys i chwi, sir, na charwn ni ddim gael ymddangos yn y JOURNAL 0 hyn allan a fyddo yn tyeddu i geisio'm iselbau yngolwg fy nghyd-ryddfrydwyr." Be ferthyr, mae yn feddwl? Wiiliam Jones, Golli Aur, i ym- ddangos yn v JOURNAL! Ddarllenais i erioed am y fath beth o'r blaen. M'ae fy anwybodaeth a'm prinder o dalent yn d'od i'r golwg eto. Dyn o'i bwysau ef i ymddangos mewn papyr Gwarchod ni Corpws mor fawr mewn p«th mor frau a phapyr Pe dywedasai "gyda'r t,Y JOURNAL," cynnygiwn ar unwaith fod rhyw un i ofyn i Mr. Evans, y Siop, am y box sebon mwyaf sydd gydag ef, a'i bacio ynddo, fel y gwneir ag wyau, ac yna ein bod ninnau fel cymmydogion, ar 'nail, yn myned ag ef i'w ddangos i ddarllenwyr y JOURNAL. Ai hyn a feddylia y frawddeg yn ei lythyr ? Y mae yn ddyn digon glan gellid ef allai gael darlun o bono yn y JOURNAL, gyda'ch caniatad, syr; ond pa un a wnai hyny ychwanegu cylch- rediad eicii papyr, nis gwn mae yn bosibl y buasai gwahanol farnau ar y pwnc. Nid cynllun drwg, yn fy marn i, fuasai myned drwy waliaiiol siroedd Cymru wedi eyplysu AVilliam Jones a'i chwaer wrth- ddegymol Pegi Moelgrove—William dan law" a Pegi yn rhycli," a'i hymddiried i ofal Dr. Enoch, yna pe byddai angen pilsen, neu fod troed un o honynt yn gravelo, buasai'r meddyg medrus wrth law bob amser; ac fel herald o'u blaen i hysbysu eu dyfodiad, y goreu y gwn i am dano fnasal Apostol Pegi wetli ei amgylch-wregysu yn y siol ar gefn I- Z5 Penwen" i ganu mawl i berchen y fuwch yag ngciriau nefolaidd Watcyn Wyn, ar y don Mochyn Du a'r Shah yn ei state carriage ar eu h01 i dderbyn y pres, er ym- drechu cael y gronfa wrth-ddegyinol i fyny i fil o bunnau, yr hyn a fawr chwennychwn ei weled. Yna ni fuasai achos i William Jones ofni yr iselheid ef yng ngolwg ci gyd- Ryddfrydwyr. Gwnai Pegi, ein hen arwres anwyl, dywallt myrdd o fendithion ar ei ben. Cyn sychu fy mhin-ysgrifenu, dadganaf fy marn yn ddiduedd, syr, fy mod yn credu yn gydwybodol mae y rhan fwyaf ddealladwy o lythyr fy nghyfaill yw yr olaf, sef ei enw. Ymddengys mai ysgrifenu ei enw yw ei strongest point. Gan mai hwn yw y tro cyntaf i mi ddanfon cynixyrchion fy j'sgrifell i chwi, gobeithio y ca ymddangos yn eich rhifyn ncsaf.—Ydwyf, yr eiddoch, ic., N EWGATE Boy.