Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EIN TREFEDIGAETHAU.

DYSGYBLAETH Y CORFF.

"DERBY DAY" Y BEDYDDWYR CYMREIG

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. C<idwj(an—Beth yw y mater, Iwan ? Beth sydd yn dy flino di ? Mae golwg wasgodig, n n ni surllyd, a gwepsur arnat ti lieno. Iwan—Cefais i, fel llawer ereill, fy siomi yn enfawr yn yr hyn a gymmerodd le ychydig ddyddiau yn ol yn y giniaw fawreddog a roddwyd i aelodau seneddol Cymru 0 yn Llundain. Yr oedd dysgwyliad mawr y buasai iddynt ddylanwadu ar Mr. Gladstone i ddyfod i'r maes fel dadgyssylltwr, ac ysgubo yr n C5 Eirlwys ymaith i ddiddymiant ac i ebanjoliant bythol ond cawsom ein siomi; nid oedtl ef yn myned i estyn ei law allan yn ei herbyn. Gwilym-Nid ag us y delir hen adar ac n nid ag us y dadgyssylltiad a mwnws ysgrag- 0 e, lywiaeth Cymru Fydd y delir yr hen law o Benarlag. Dywedodd yn blaen nad oeddynt yn myned i'w orfodi i ddinystrio yr Eglwys a'i magodd. Z5 orus--Yr oeddym yn crcdn ei fod ef of wedi newid ei farn. Mae yn llawn bryd i'r Cymry daflu ei iau ymaith, a gwrthryfela yn ei erbyn. Hymel-Nill yw rhuadau dyrnaid o bie- gethwyr petipanelaidd, sydd yn arfer cwrdd i wyntyllu en golygiadau a baldorddi mewn Z5 tref ddinod, yn effeithio dim arno. Gall hyfforddio chwerthin pan maent hwy yn malu ewin acyn ymgynddeiriogi. Gi-yr yn eithaf da ny ei fod yn dal Radicaliaid Cymru ar gledr ei law ac mae ef yn eu deall i drwch y blewin. Nid yw ef wedi cyfnewid ei olygiadau am yr Eglwys yng Nghymru. Dywedodd fod yn ammhosibl i dynu yr Eglwys yng Nghymru i lawr heb ddadyruchwelyd yr Eglwys yn Lloegr, am eu bod yn tin, a bod Cymru dan dalaeth Caergaint, ac mae ef yn dal yr un syniadau heddyw. Y mae y Radicaliaid yn resynus o dylawd mewn galluoedd, onid e ni fnasai achos ganddynt i hudo Eglwyswr i fod yn arweinydd iddynt i ysbeilio a dinystrio yr Eglwys yr oedd ef yn arfer amddiffyn itior wrol acliyda'r fath nerth ac hyawdledd. Yn ol ei addefiad, y mae rhwystrau ac unhaws- derau enfawr ar y ffordd i ddadymchwelyd yr Eglwys Gymreig. Pwy ellir goelio—Mr. Gladstone neu ei fan-leuadau, sydd yn ei ganlyn fel gweision llew 1 Llywarch—Mae yr holl fsrw diddiwedd a dibaid yma am ddadgyssylltiad ac am ryfel y degwm, sydd i'w glywed yn ein capeli-Sul, gwyl, a gwaitli-yil ddigon i surffedu dynion. Er mwyn y nefoedd, ymddygwch fel Cristion- ogion. Mae digon o waith gan bob en wad Z5 Z3 t) crefyddol i ddysgu crefydd a moesoldeb i'r werin, sydd yn awr yn ymlygru yn gyflym. Yr wyf yn synu ac yn rhyfeddu fod dynion, sydd yn proflesu Cristionogaeth, yn gallu cytuno ar bob pwile-yii gallu iiiasiiaeliu a'u Z> gilydd, prynu a gwerthu i'w gilydd, heb gweryla ond ymrafaeliant, cwerylant, ac yn am] maent yn barod i gystwyo eu gilydd am bethau crefyddol. Y mae yn alarus meddwl fod crefyddolion Cymru wedi myned i'r fath iselder. Gruffydd—Dyna y Methodistiaid ni fynent eu galw yn Ddissenters ychydig tlynyddoedd yn ol. Yr ym yn cael yr un enwad yn Llyn- lleifiad y diwrnod o'r blaen fel corff yn pasio penderfyniad fel enwad o blaid dadgyssylltiad, yn barod i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gydag anffyddwyr i ddadymchwelyd yr Eglwys a'u creodd, Ac o'i herthyglau y 0 1 Z!1 ffurfiwyd eu Cyffes Ffydd. Ni feddyliodd Howel Harris erioed rwygo yr Eglwys ac ni feddyliodd Jones Llangan i rwygo yr Eglwys, ond yr oedd y lefain wedi lefeinio yr holl does, a therfynodd mewn rhwyg. I for—Gadawodd y Methodistiaid yr Eg- 0 lwys am nad oeddynt yn cytuno a'i hathraw- iaethau a'i threfniadau. Yr oedd hyny yn ddigon o reswm dros eu hymneillduaeth. Cadtv!fait-Na ddo; paid camsynied paid cymmeryd dy gamarwain. Yr oedd llawer o'r llefarwyr lleygol yn ddynion mawr, cyfuwch a'r hen offeiriaid a'u dygodd allan ar y llwyfan, ac nid oeddynt yn foddlon i gael eu galw yn "llefarwyr" mwyach. Yr oeddynt am gaol eu gosod ar yr un safon a'r offeiriaid. Dewi-Ond cawsant eu ffurfio yn Gorff," Gioilym Yr oeddynt yn arddelwi eu hunain yn aelodau o'r Eglwys Gatholig hyd 1811, pan actliant allan yn Sassiwn Llandeilo- fawr nid oeddynt yn galw eu hunain yn Fethodistaid cyn hyny. Fel hyn yr ysgrifen- odd awdwr enwog am y rhwyg Cawsant eu gwneuthur yn sect trwy ofterynoliaeth a gweinyddiad Mr. Thomas Charles o'r Bala. Cymmerasant eu gwneyd yn fath o glwb 1 Z5 crefyddol." Yr ydwyf yn credu, ac yn gobeithio y goreu, am Mr. Charles o'r Bala ond gwnaeth weinidogion ar yr un egwyddor ag y gwnaeth leroboam fab Nebat hwynt, ac i ateb yr unrhyw ddybenion, sef split. Mae genyf bob parch i enw a choffadwriaeth Mr. Charles; ond rhaid dywedyd y gwir. Nid wyf yn credu i Mr. Charles ragoli split, ond yr oedd y forces wedi dyfod yn rhy gryf. Cyn hyny, nid oedd y Methodistiaid yn derbyn y Cymmun Bendigaid o ddwylaw neb ond offeiriaid, ac hyd yn oed o fewn cof, yr oedd gan yr hen bobl barch mawr i'r Eglwys; nid oeddynt un amser yn cynnal eu gwasan- aeth ar yr un awr a gwasanaeth yr Eglwys. Yr wyf yn cofio yr amser pan y byddai yr hen bobl yn myned i'r Eglwys yn Llanddewi- breti bob Sul, er eu bod yn Fethodistiaid. Hoi-us-A wyt ti am i ni grcdu na wnaeth y Corff ddim daioni yng Nghymru? IIywcl-Nid oes neb yn ainmlieu hyny dangos achos o'r rhwyg wnaeth Gwilym. Nid oes dim un dadl na wnaeth hen dadau y Methodistiaid lea mawr; ond y mae yn ammheus pa un a ydynt yn gwneyd yr un yn awr. Maent yn awr yn sect wleidyddol; maent yn ymgyplysu yng nghyd a Radical- iaid eithafol; maent yn fraich i'r Moabiaid a'r Hagariaid. Yr ym yn cael bod rhai o'u pregethwyr yn arweinyddion y cynhyrfwyr gwrtli ddegymol ac yn cefnogi y rhai sydd yn anufuddhau i'r awdurdodau goruchel, ac yn cablu urddas ac yn lecsiwnydda ar adeg etholiadau, a'r blacnoriaid yn gosod yr ysgriw mown gweithrediad. Mi wn am un pregethwr parchus a gafodd ei rwystro i fyned i gapel yn Nyffryn Teifi am iddo roddi ei bleidlais i'r ymgeisydd Ceidwadol. Iwan—Ni ddylai un Ymneillduwr bleidio Tori. Gruffjdd—Nid oes dim a fyn gwleidyddiaeth Z5 i chrefydd bur a dihalog. Cadwgan—Os felly, ni ddylai un Eglwyswr bleidio y Radicaliaid. Mae Mr. Gladstone yn Eglwyswr selog; offeiriad oedd Ir, Bowen Rowlands Eglwyswyr yw Mr. Dillwyn a Syr Hussey Vivian, &c. Ni fuasai llaweroedd yn aelodau seneddol heddyw oni buasai pleid- leisinu Eglwyswyr Radicalaidd. Gwilym —Nid oes un cyssylltiad rhwng egwyddorion Radicalaidd ag egwyddorion crefydd; ond mae y sectau wedi gwynio gwleidyddiaeth ffanaticaidd, wallgof, beryglus y dydd a chrefydd y capeli, fel mae yn alarus meddwl. Gruffuydd—Mae genyf barch diffuant i bob pregethwr efengylaidd sydd yn pregethu yr Efengyl, Ond nid oes genyf amynedd gyda y n Z3 Jacks politicaidd sydd a'u bysedd yn wastad ym mhob peth gwleidyddol, ac i'w gweled yn wastad yn nhewder y gwrthryfel gwrth- c ddegymol pan mae arweithiadau yn myned ym mlaen. Pe byddai myfyrwyr colegau Y mneillduol Cymru yn cymmeryd fwy o ddyddordeb yn eu gwersi, yn hytrach na stwmpio'r wlad pan fyddo etholiad yn cym- meryd lie; ac hyd yn oed streico," fel y gwnawd yng Nghaerfyrddin ychydig ddyddiau yn ol, byddai yn fwy anrhydeddns ynddynt.

DYFFRYN CLETTWR, LLANDYSSIL.