Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

PENCADER.

LLANYBYTHER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANYBYTHER. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Wedi cael seibiant am ychydig, crefaf am gyfran o'ch gofod, o herwydd ac am y rheswm fod cyfiawnder megis yn hawlio gwrandawiad. Testyn ein hysgrif y tro hwn eto pysgota," ond cofier nid yn anghyfreith- lawn, er nis gallaf, yn ddiammheu hefyd ryddhau y bardd a'r ysgrifenydd coeth D.O." oddi wrth rodio glanau yr afon, ie, a physgota hefyd yn wahanol i'r hyn a ganiateir trwy yr unrhyw drwydded yn yr oes bresennol, a hyny trwy ddefnyddio cyfryngau (mediums) am- mhriodol, pa rai ni fu, nid ydynt, ac ni fyddant chwaith yn ganiataol i bysgota yn y fath fodd. Gresyn meddwl fod D.O. ac yn neillduol "LIane a'r Ffon yn traethu eu lien ar bwnc ag y maent mor gynnefinol ag ef. Priodol fyddai gweled y ddau ohebwr a nedasom yn ymostwng yn isel gan wneyd apology i'r gyfraith, a dylasent ymlawenhau gan roddi diolchgarwch i fudanrwydd y ddeddf. Beth pe byddai y gyfraith yn medru cynanu ei barn mewn llais hyglyw am ei throseddu j beth fyddai tynged "D.O. a'r LIane a'r Ffon?" Atebed eu cydwybodau cnoedig. Fe fyddai yn 61 gwell i'r ddau frawd i gario eu meddyliau wedi eu selio i fyny a. dystawrwydd, na rhuthro i faes y newyddiadur mewn gwisgoedd defaid, ond oddi fewn bleiddiaid mewn perthynas a'r gyfraith, ond, gwir y geiriau ".Fools rush, where angels fear to tread." Hawdd genyf gredu, Mr. Gol., mai nid amcan D.O. yn y cychwyniad o ysgrifenu oedd argyhoeddi neb dynion, oddi gerth efe ei hunan a'r Llanc," o blegid y mae mor dywyll a'r pagan parthed i'w linellau cyntaf ar y pwnc. Nis gwyr pa beth a ysgrifenodd, neu ni fuasai byth yn hoffi cael gwybod genym yn ol pa ysgrif a feddyliem ? Atebaf, yn ol ysgrif anaddfed, ie, annheilwng ac ammhriodol D.O. Nid oes angen, frawd, i mi i daflu ail olwg dros eich ysgrif, ond yr wyf yn methu deall eto pa ham yr awgrymir am y maen-seiri yn fwy nag ereill sydd yn trigiannu ar lan yr afon 1 Nid yw eich safon gasglyddol, eu bod yn defnyddio calch i wneyd cymmrwd, yn un sail dros drwytho yr afonydd. Er profi hyn yna, carwn eich arwain i'r faelfa (shop). Nid yw yr hwn sydd yn gwerthu moddion yno at saethu grugieir a cheiliog y coed yn un sail na safon i gredu ei fod ef yn cario arf y rhyfel (gun) ar ei ysgwydd. Na, camgymmeriad mawr ydyw. Gan hyny, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun. Ymffrostia ym mhellach y gall olrbain back dates" Araf, frawd. Beth pe byddem yn gweithredu arnat i ddangos y "back datesneu fyned i swyddfa Llan- ybyther 1 Fe fyddai yn llai rhyfeddod genyf i weled yr haul yn cael ei droi yn wreichionen, a'r Wyddfa, yn Pen y Gaer, neu Gwm Rhondda yn ddol wastad, na gweled dy fod di yn medru olrhain back dates." Gwel. fyddai i D.O, i ddweyd back date, er ni chym- merwn lawer am sicrhau ei fod yn feddiannol hyd yn oed ar un back date. Gallaf fyned Haw yn law gyda y rhai sydd ganddynt drwyddedau i'r swyddfa (ond nid swyddfa Llanybyther), a diammbeu y byddai ychydig gloffni ar D.O." i'm dilyn, o blegid ni fuasai y cysgod yn gwneyd y tro yn sylwedd. Mewn perthynas i'm gofyniadau, carwn weled gwell atebion gan lenor mor ymffrostgar. Barned darllenwyr lluosog y JOURNAL os yw wedi eu hateb. Beia ei symlrwydd, ond cotia bob amser i beidio diystyru y "pethau bychain." Os bydd D.O." mor garedig, carwn iddo i atolygu y ddau ofyniad cyntaf eto, er i ni gael y cyfryw yn rheolaidd. Y maent yn gydnaws a'r pwnc. Gan fod symledd yn perthyn iddynt, pa ham y decbreu gyda'r trydydd gofyniad, diraddio y cyntaf ar sail ei fod yn methu ateb yr ail ofyniad. Ac, ar ol eael atebion i'r gofyniadau sydd yn y JOURNAL am Mehefin y 6fed, profafyn fuddug- oliaethus fod "D.O." a'r "LIane a'r Ffon," yn rhoi sen pan yn rhwygo'r ddeddf eu hunain ac fel rheol y rhai mwyaf condemniedig, y rhai hyny sydd barotaf i geryddu. Terfynaf rhag myned a gormod o ofod y tro hwn, yng ngeiriau Tennyson, He that wrongs his friend, wrongs himself more." WILLIAMS (MERTHYR).

At Olygydd Y JOURNAL.

CYMMANFA Y PLANT YN FELINDRE.

ESGOB NEWYDD ABERTAWE.

[No title]

MISCELLANEOUS.

FARM AND GARDEN.

-----REVIEW OF THE BRITISH…

MARKET S.

[No title]

Advertising