Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

PENCADER.

LLANYBYTHER.

At Olygydd Y JOURNAL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Dymunaf arnoch ganiatau i mi ycbydig o'ch gofod y waeth hon eto er ateb nodiadau eich gohebwyr, D.O." a Llanc a'r Ffon," pa rai a dystiant bod eu dywediadau blaenorol yn wir. Buddiol oedd i D.O." ymffurfio barn arnaf, yn hytrdch na rhoddi y maes i fyny, pan yn dywedyd y byddai yn well i mi beidio ymsangu ychwaneg ar y budreddu. Dywedir bod Duw yn gwlawio ar y cytiawn fel yr anghyfiawa;" ac ar y telerau hyny y gosodais fy hun yn un o wrth- ddrychau ei sarhad, ac nid trwy euogrwydd, fel y dysgrifia efe fy mod. Cyfaddefa ar g'oedd gwlad iddo lawer gwaith ddinoethi ei freic.iiau, ac arfer tlynen i bysgota heb drwydded, pan yn direidi." Hyderaf y bydd efe behach mor gydwybodol a pheidio ymhelaethu ar derfynau ei drwydded, a I pheidied ystyried eihun yn gyffelyb yn olynol, os codir ei phris. Diammheu nad oedd trwyddcd ganddo yn flaenorol, onid e buasai wedi cyhoeddi y drygedd yng nghynt. Hefyd, amlwg yw ei fod yn hoff o'r dyfroedd, ac yn bysgotwr mawr, cyn y gallasai ganfod effaith y gwenwyn dinystriol mewn gwahanol gornentydd eleni eto a chyn y meddiannwyd ef gan anfoddlonrwydd ac eiddigedd— achosion ei ysgrif gyntefig; felly naturiol oedd iddo osod y drwg allan yn y lliw gwaethaf ac i eithafion. Cyn rhoddi y gorchwyl i fyny, bwriadaf ychydig nodiadau i Llanc a'r Ffon," yr hwn trwy gynnorthwyo ei frawd lenor "D.O." i bardduo nodweddiad yr ardal, sydd yn dyfnbau ein syndod. Y mae yn eglur bod y pelenau a roddwyd i D.O." wedi effeithio ar ei gorff yntau, gan beri mawr wewyr, cyn y byddai yn selio y dywediadau eithatol a chyntetig; ond nid rhyfedd iddo ef ddyfod i'r maes i gyhoeddi drygedd y personau mor awdurdodol ac eofn, yng ngwyneb gwlad, canys y mae ef dan iau drom eisoes trwy gael ei ddirwyo am bysgota yn anghyfreithlawn. Gresyn iddo fod feI ei gydlenor H D.O." mor anhyddysg, a bod yn eiddo i'r llythyren fachog V, fel ac y mae wedi aralygu ei hun trwy ei ffugenw adnabyddus,—yn achos o syndod, ac yn wrthddrych cywilydd i'w gymmydogion. Bydded hysbys iddo i mi gydsynio a D.O." i raddau helaeth, ond nis gellir priodoli y drygedd i'r maenseiri yn gyfan gwbl, nad bydd yr anffawd yn cythryblu eu meddyliau, nac yn deffro eu cydwybodau chwaith. Tystiolaetba efe fod y pysg i'w canfod with y cannoedd yn gelaneddan yn drygsawru y dwfr; felly naturiol i'w credu bod effaith bwriadau y ddau droseddwr y sonia am danynt yn gyffelyb; a pha fodd y canfyddir bod yr holl bysg i'w cael yn y cornentydd bychain hyn. Priodol i'w credu bod gwyrthiau o heigiad wedi eu cyflawnu yn gyntaf; ac onis cymmerodd hyny Ie, daliaf yn ammheuol tra dalio'r dydd nad oedd yr effaith mor eithafol a hynyna. Nid ydyw ein cornentydd ond rhai bychain, ac y maent er ys amser gan argaeau wedi eu rhwystro i lifo trwy eu gwelyau cyn eu harllwysiad i Dei6, mewn modd nas gall pysg ymnotio i fyny, a pha fodd y gellir credu desgritiad D.O." am danynt 1 Hefyd, y mae gormod o bysgotwyr o'u cyffelyb hwy yn rhy ami ar eu glennydd, fel nas bydd ond ychydig i'w aberthu gan galch.—Yr eiddoch, DIDYMUS.

CYMMANFA Y PLANT YN FELINDRE.

ESGOB NEWYDD ABERTAWE.

[No title]

MISCELLANEOUS.

FARM AND GARDEN.

-----REVIEW OF THE BRITISH…

MARKET S.

[No title]

Advertising