Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y LLYWODRAETH UNDEBOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y LLYWODRAETH UNDEBOL. Mae ein gwlad yn awr wedi cael ei llywodraethu gan y blaid undebol os tua phedair blynedd a chredwn yn ddiysgog y gwna ei gweithrediadau gystadlu yn wir foddhaol a gweithrediadau unrhyw lywodraeth flaenorol, mown pob cangen o wladlywiaeth, er yr hona ein gwrthwynebwyr mai dyma y Uywodraeth mwyaf sal, pwdr a melltigedig, a welodd Prydain Fawr erioed. Ni wna haer- iadau mor afresymol, anghywir a disail a hyn, byth gymmeradwyo eu hunain i ystyriaeth bwyllog a myfyrgar ein cydwladwyr yn yr oes oleuedig hon. Cyn y bydd iddynt basio dedfryd ar dynged y Uywodraeth bresennol, credwn y gwnant chwilio i fewn a phwyso yr oil o'r cyhuddiadau a ddygir yn ei heibyn, y I ac yr edrychant arni yng ngoleuni ffeithiau In 0 cadarn ac anwadadwy. Mae yr adeg bresennol 0 yn un gyfleus er taflu golwg yn fyr ar yr hyn y mae y Uywodraeth Undebol wedi gyfiawnu yn ystod y blynyddau diweddaf. Yn y lie blaenaf, mae wedi ymddwyn yn hollol flyddlon i egwyddorion yr Undeb, ac y mae wedi cario ym mlaen yn llwyddiannus y gorchwyl tra caled o adferyd awdurdod a goruchafiaeth y gyfraith yn yr Iwerddon, drwy ba gyfrwng yn unig y gellir sicrhau diogelwch bywydau a n in meddiannal1 yno. Ni wna yr un Gwyddel, pa un by nag ai byddo yn aelod seneddol ai yntau yn ennill ei damaid trwy chwys ei wyneb" yn nyffrynoedd yr Ynys Werdd, wadu nad oes yn awr deimlad o sicrwydd ac o ddiogelwch yn gordaenn y w!ad, wedi ei greu, nid fel y dywed rliai personau, gan y gobeithion hyny agynhyrfir trwy ymwybodol- rwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth cynnygiol y blaid Gladstonaidd, ond yn hytrach gan weitlirediad cadarn a disigl y gyfraith dan nawdd y Uywodraeth bresennol. Yn ei deddfwriaeth mae y Ilywodraeth hefyd wedi profi yn bur llwyddiannus. Nid oes a fynom yn bresennol a'r mesurau lluosog y maent wedi basio, ond dangos yn unig yr egwyddor ar ba un y maent wedi bod, ac yn gweithredu. Delia Mesur y Llywodraeth Leol (1888) ergyd farwol i'r haeriad noeth nad oes gan y Ceidwadwyr ymddiriedaeth hollol yn y bobl, ac eu bod, fel plaid, yn erbyn y cynnygiad fod cynnrychioliad a threthiad i fyned Jaw yn llaw. Mae eu hym- drechion II wyddiannus mewn perthynas ag addysg is ac uwch-raddolwedi ennill iddi barch ac edmygedd y wlad. Addefa ein llyngeswyr protiadol fod anghenion mawr a chymhelliadol ein llynges wedi ei cyflenwi, ac ei bod yn awr mewn eyflwr cryt a bodd- haol—ei bod, yn wir, mor rymus ac y gellir byth ei gwneyd. Mae'n wir nad yw ein byddin liawii mor dda, ond dywedodd Arglwydd Wolseley ychydig amser yn ôl, ei bod yn awr yn well nac y bu erioed. Nid yw'r gwelliant yma heb ei draul, ond y mae Mr Goschen wedi bod mor ddigyffelyb lwyddiannus gyda chyllid y Deyrnas fel a, y mae yn alluog i leihau ein Dyled t, Genedlaethol o Y,1,800,000 y flwyddyn, yr hyn mewn ychydig amser drwy ei gynllun 11 y ef, a ychwanegir i achubiad o Y,3,600,000 yn flynyddol i drethi sin gwlad Mor uehel, hefyd, y saif eyfi-ifiad ein gwlad yn bresennol yn y byd arianol, fel y gall ar unwaith, os angenrheidiol, godi L200,000,000,-flyntioiiell o gryfder a gyflenwa y moddion hyny nad oes modd cario ym mlaen ryfel nac ennill buddugoliaeth hebddynt. Nid oes, er hyny, yn swn y darpariadau yma yr un perygl o ryfel gan fod Arglwydd Salisbury wedi llywio ein gorchwylion trammor mewn modd deheuig ac heddychlawn. Nid oes genym hanes yn y ZD ystod ei holl weinyddiaeth, am un ymosodiad gwirioneddol ar ei weithredoedd, hyd yr adeg bresennol, pan y mae rhywrai annheilwng yn ymdrechu ei drin yn arw yng nghylch y fargen a'r Almaen. Pa fodd yntau y saif y llywodraeth bresennol mewn cymhariaeth a llywodraeth Mr Gladstone, mewn cyssylltiad a chyllid y wlad? Nid oes eisieu iddi ofni nac osgoi cymhariaeth yma chwaith. Os gwnaeth pum mlyncdd o wladlywiaeth Mr Gladstone csgor ar dditiyg cyfrifol o dros L14,000,000, luae pedair blynedd o lywodraeth Arglwydd Salisbury wedi esgor ar weddill o dros naw miliwn o bunnau. Os aeth treuliadau Cenedl- aethol ein gwlad i fyny o 81 miliwn y flwyddyn i 99 miliwn dan Mr Gladstone, y maent dan Arglwydd Salisbury eisoes wedi dyfod i lawr i 86 miliwn. Os ychwanegwyd ardreth ymherodrol o tua 7 miliwn gan Mr Gladstone, lleihawyd yr un ardreth gan Arglwydd Salisbury o dros saith miliwn a hanner o bunnau. Os lleihawyd y Ddyled Genedlacthol dan Mr Gladstone o 26 miliwn o bunnau mewn pum mlynedd, lleihawyd hon yn ystod pedair blynedd dan Arglwydd Salisbury o dros 29 miliwn. Os cynnygiodd Mr Gladstone leihau y Ddyled hon mewn modd sefydlog a pharhaol, a methu, mae Mr Goschen wedi llwyddo fel yr ydym wedi awgrymu uchod. Os ychwanegwyd yr income tax o rhyw ddwy filiwn y flwyddyn ganddo, mae y llywodraeth bresennol wedi ei ostwng o bedair miliwn o bunnau yn flynyddol. Os "wariodd llywodraeth Mr Gladstone bedair- miliwn-ar-ddeg o bunnau ar i-yfeloedd yn ystod ei wladlywiaeth ef, nid yw llywodraeth Arglwydd Salisbury wedi costio yr un geiniog i'r wlad yn y cyfeiriad yma. Gallasem ychwanegu dan y pen hwn, ond teimlwn fod yr uchod yn ddigon o dystiolaeth i orchestion di ail y Llywodraeth Undebol, a chredwn yn ddiysgog pan y daw i wneyd appel i'r wlad, y bydd iddi gael ei ailsefydlu mewn awdurdod n gyda mwyafrif teilwng o'i hegwyddorion, a theilwng o'i dyfalwch a'i awyddfryd am wneuthur daioni.

TREF, GWLAD, A TI IRA MOR.

PEGGY LEWIS.

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG…

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

CLOSYGRAIG.