Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Y LLYWODRAETH UNDEBOL.
Y LLYWODRAETH UNDEBOL. Mae ein gwlad yn awr wedi cael ei llywodraethu gan y blaid undebol os tua phedair blynedd a chredwn yn ddiysgog y gwna ei gweithrediadau gystadlu yn wir foddhaol a gweithrediadau unrhyw lywodraeth flaenorol, mown pob cangen o wladlywiaeth, er yr hona ein gwrthwynebwyr mai dyma y Uywodraeth mwyaf sal, pwdr a melltigedig, a welodd Prydain Fawr erioed. Ni wna haer- iadau mor afresymol, anghywir a disail a hyn, byth gymmeradwyo eu hunain i ystyriaeth bwyllog a myfyrgar ein cydwladwyr yn yr oes oleuedig hon. Cyn y bydd iddynt basio dedfryd ar dynged y Uywodraeth bresennol, credwn y gwnant chwilio i fewn a phwyso yr oil o'r cyhuddiadau a ddygir yn ei heibyn, y I ac yr edrychant arni yng ngoleuni ffeithiau In 0 cadarn ac anwadadwy. Mae yr adeg bresennol 0 yn un gyfleus er taflu golwg yn fyr ar yr hyn y mae y Uywodraeth Undebol wedi gyfiawnu yn ystod y blynyddau diweddaf. Yn y lie blaenaf, mae wedi ymddwyn yn hollol flyddlon i egwyddorion yr Undeb, ac y mae wedi cario ym mlaen yn llwyddiannus y gorchwyl tra caled o adferyd awdurdod a goruchafiaeth y gyfraith yn yr Iwerddon, drwy ba gyfrwng yn unig y gellir sicrhau diogelwch bywydau a n in meddiannal1 yno. Ni wna yr un Gwyddel, pa un by nag ai byddo yn aelod seneddol ai yntau yn ennill ei damaid trwy chwys ei wyneb" yn nyffrynoedd yr Ynys Werdd, wadu nad oes yn awr deimlad o sicrwydd ac o ddiogelwch yn gordaenn y w!ad, wedi ei greu, nid fel y dywed rliai personau, gan y gobeithion hyny agynhyrfir trwy ymwybodol- rwydd o gydymdeimlad a chefnogaeth cynnygiol y blaid Gladstonaidd, ond yn hytrach gan weitlirediad cadarn a disigl y gyfraith dan nawdd y Uywodraeth bresennol. Yn ei deddfwriaeth mae y Ilywodraeth hefyd wedi profi yn bur llwyddiannus. Nid oes a fynom yn bresennol a'r mesurau lluosog y maent wedi basio, ond dangos yn unig yr egwyddor ar ba un y maent wedi bod, ac yn gweithredu. Delia Mesur y Llywodraeth Leol (1888) ergyd farwol i'r haeriad noeth nad oes gan y Ceidwadwyr ymddiriedaeth hollol yn y bobl, ac eu bod, fel plaid, yn erbyn y cynnygiad fod cynnrychioliad a threthiad i fyned Jaw yn llaw. Mae eu hym- drechion II wyddiannus mewn perthynas ag addysg is ac uwch-raddolwedi ennill iddi barch ac edmygedd y wlad. Addefa ein llyngeswyr protiadol fod anghenion mawr a chymhelliadol ein llynges wedi ei cyflenwi, ac ei bod yn awr mewn eyflwr cryt a bodd- haol—ei bod, yn wir, mor rymus ac y gellir byth ei gwneyd. Mae'n wir nad yw ein byddin liawii mor dda, ond dywedodd Arglwydd Wolseley ychydig amser yn ôl, ei bod yn awr yn well nac y bu erioed. Nid yw'r gwelliant yma heb ei draul, ond y mae Mr Goschen wedi bod mor ddigyffelyb lwyddiannus gyda chyllid y Deyrnas fel a, y mae yn alluog i leihau ein Dyled t, Genedlaethol o Y,1,800,000 y flwyddyn, yr hyn mewn ychydig amser drwy ei gynllun 11 y ef, a ychwanegir i achubiad o Y,3,600,000 yn flynyddol i drethi sin gwlad Mor uehel, hefyd, y saif eyfi-ifiad ein gwlad yn bresennol yn y byd arianol, fel y gall ar unwaith, os angenrheidiol, godi L200,000,000,-flyntioiiell o gryfder a gyflenwa y moddion hyny nad oes modd cario ym mlaen ryfel nac ennill buddugoliaeth hebddynt. Nid oes, er hyny, yn swn y darpariadau yma yr un perygl o ryfel gan fod Arglwydd Salisbury wedi llywio ein gorchwylion trammor mewn modd deheuig ac heddychlawn. Nid oes genym hanes yn y ZD ystod ei holl weinyddiaeth, am un ymosodiad gwirioneddol ar ei weithredoedd, hyd yr adeg bresennol, pan y mae rhywrai annheilwng yn ymdrechu ei drin yn arw yng nghylch y fargen a'r Almaen. Pa fodd yntau y saif y llywodraeth bresennol mewn cymhariaeth a llywodraeth Mr Gladstone, mewn cyssylltiad a chyllid y wlad? Nid oes eisieu iddi ofni nac osgoi cymhariaeth yma chwaith. Os gwnaeth pum mlyncdd o wladlywiaeth Mr Gladstone csgor ar dditiyg cyfrifol o dros L14,000,000, luae pedair blynedd o lywodraeth Arglwydd Salisbury wedi esgor ar weddill o dros naw miliwn o bunnau. Os aeth treuliadau Cenedl- aethol ein gwlad i fyny o 81 miliwn y flwyddyn i 99 miliwn dan Mr Gladstone, y maent dan Arglwydd Salisbury eisoes wedi dyfod i lawr i 86 miliwn. Os ychwanegwyd ardreth ymherodrol o tua 7 miliwn gan Mr Gladstone, lleihawyd yr un ardreth gan Arglwydd Salisbury o dros saith miliwn a hanner o bunnau. Os lleihawyd y Ddyled Genedlacthol dan Mr Gladstone o 26 miliwn o bunnau mewn pum mlynedd, lleihawyd hon yn ystod pedair blynedd dan Arglwydd Salisbury o dros 29 miliwn. Os cynnygiodd Mr Gladstone leihau y Ddyled hon mewn modd sefydlog a pharhaol, a methu, mae Mr Goschen wedi llwyddo fel yr ydym wedi awgrymu uchod. Os ychwanegwyd yr income tax o rhyw ddwy filiwn y flwyddyn ganddo, mae y llywodraeth bresennol wedi ei ostwng o bedair miliwn o bunnau yn flynyddol. Os "wariodd llywodraeth Mr Gladstone bedair- miliwn-ar-ddeg o bunnau ar i-yfeloedd yn ystod ei wladlywiaeth ef, nid yw llywodraeth Arglwydd Salisbury wedi costio yr un geiniog i'r wlad yn y cyfeiriad yma. Gallasem ychwanegu dan y pen hwn, ond teimlwn fod yr uchod yn ddigon o dystiolaeth i orchestion di ail y Llywodraeth Undebol, a chredwn yn ddiysgog pan y daw i wneyd appel i'r wlad, y bydd iddi gael ei ailsefydlu mewn awdurdod n gyda mwyafrif teilwng o'i hegwyddorion, a theilwng o'i dyfalwch a'i awyddfryd am wneuthur daioni.
TREF, GWLAD, A TI IRA MOR.
TREF, GWLAD, A TI IRA MOR. Gwelwyd fFwl lawer gwaith cyn hyn mcwn pwlpud, ond ychydig amser yn ol gwelwyd dyn lloerig ym mhwlpud Westminster Abbey. Tybiai mai Moses ydoedd, a'i fod wedi ei ddanfon yn* i gyhoeddi y ddeddf wrth y Llundeinwyr. Credai yr heddgeidwad yn wahanol, ac hebryngwyd y dyn gwallgof o flaen ei well, ac oddi yno danfonwyd ef i'w le ci hun—y gwallgofdy. Cafodd. darlun o Kilsby ei hongian i fyny yr wythnos ddiweddaf yng N gholeg Cofladwr- iaethol Aberhonddu. Tynwyd y darlun gan Ap Caledfryn Williams, a dywedir fod y rrwaith yn gredyd i'r gweithiwr. Ein cred ni yw mai yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyr- ildin y dylesid rhoddi y darlun, yn ogymmaint n ag niai yn y coleg hwnw y parotowyd Kilsby i'r weinidogaeth. Ond nid ydym yn gweled a llygaid ein gilydd. 0 C) Dydd Iau (Mehefin 26fed) ymgyfarfyddodd aelodau Cyindeithas Ceidwadol Bwrdeisdreti Arfon, yng Nghaernarfon, pryd y darllenwyd llythyr oddi wrth Syr John Puleston, A.S., yn yr hwn y dadganodd ei barodrwydd i ddyfod allan fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Mae y Radicaliaid yn bwriadu dyfod allan eto a Mr D. Lloyd George, yr aelod presennol. Yr ym yn credu pe gwnai y Ceidwadwyr a'r Undebwyr ymdrech egniol, yr y In adennillent y sedd eto yn ol, am mai ond 20 oedd y mwyafrif yn yr etholiad diweddaf. Bydded i'r Ceidwadwyr i gadw y powdwr yn sych, ac i gynnal cyfarfodydd yn awr ac yn y man. Deallwn y caiff Syr John gynnorthwy a dylanwad Mr Ellis-Nanney, yr hwn sydd un o foneddigion mwyaf caredig sir Gaernarfon. Z5 ZD Dymunwn bob llwyddiant i Syr John, a dywedwn wrth y Ceidwadwyr yn ogystal a'r r3 Undebwyr, Arfogwch, arfogwch mewn pryd. # # Mae bywioliaethau Llanybyther a Llan- wenog wedi eu cynnyg ac wedi eu derbyn gan y Parch. B. Parry Griffiths, A.C., Caerfyr- ddin, ysgrifenydd trcfnyddol y Gymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegr dros Esgobaeth Ty Ddewi. Dyruunwn bob llwyddiant i Mr. Griffiths yn ei faes newydd. # Yr wythnos ddiweddaf, yn Nhy y Cyffredin, gwnaeth Mr W. S. Caine (Undebwr) yn hysbys ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel aelod dros Barrow, a'i reswm dros hyny oedd, am ei fod yn methu cydweled a'r Llywodraeth ar y cwestiwn o roddi iawn-dal (compensation) i'r tafarnwyr hyny ag oedd yn colli eu trwyddedau heb unrhyw achos anghyfreith- lawn o'u heiddo; ac hefyd, meddai, i gael barn ei etholwyr ar ei waith yn gwrthwynebu ZD y Llywodraeth ar y pwnc pwysig hwn. Mae Mr Caine wedi gwneyd appel am y Cltiltern Hundreds, a chymmerodd yr etholiad le dydd Mercher. Nid yw Mr Caine wedi newid dim ar ei farn ar Ymreolaeth; a rhwng fod y Llywodraeth wedi taflu y Mesur y Trwydd- edau o'r neilldu am y tymmor hwn, a Mr Caine hyd ei asgwrn am gadw yr Undeb yn Z3 t5 ddiwahanedig, dysgwylir y bydd yn etholiad boeth. 0 herwydd fod Mr Caine yn dal yn gyndyn yn erbyn Home Rule i Iwerddon, y mae y Gladstoniaid wedi dyfod allan a Radical poeth ym mherson Mr J. Duncan, a bu dirprwyaefch i Lundain i ymgynghori ag arweinwyr y Gladstoniaid. Y mae y blaid mewn penbleth nid ydynt yn abl i wneuthur dim. Yr oedd Mr Gladstone a Syr Wilfrid Lawson yn bwriadn myned i Barrow i roddi help Haw i Mr Caine ond yn awr, am fod Gladstoniad ar y maes, y maent yn methu cyffro traed neu ddwylaw. 0 herwydd iaith gref Mr Caine yn y senedd y dyddiau diweddaf y bu yn aelod-sef y gwua ei oreu i ddryllio y blaid Undebol yn ganddryll—y mae Arglwydd Hartington (arweinydd y blaid Undebol yn Nhy y Cyffredin) wedi ysgrifenu at etholwyr Undebol yn Barrow, i geisio ganddynt i bleidleisio dros Mr H. H. Wain- wright, yr ymgeisydd Ceidwadol. Os aiff y n ZD tri i'r pol, dcallwn y saif Mr Wainwright siawns ardderchog. Y mae Cardinal Manning wedi ysgrifenu o blaid Mr Caine. Gan ein bod ar fwriad myned i'r wasg, ni a rhoddwn ond y ffigyrau yn unig yr wythnos hon, a manylion z,Y zn mwy helaeth yn ein rhifyn nesaf. Fel y canlyn y mae y ffigyrau :— Ily Mr Duncan (Gladstonian) 1994 Mr Wainwright (Ceidwadwr) 1862 Mr Caine (Undebwr) 1280 Mwyafrif i'r Gladstonian 132 Yn gymmaint a bod appwyntiad csgob z,Y n cynnorthwyol Abertawe yn amgylchiad newydd a dyddorol yn hanes yr Eglwys yng 0 ZD Nghymru, ac yn un sydd yn debyg o brofi yn fendith a lies i waith eglwysig yn esgobaeth c Z5 fawr Ty Ddewi, gwyddom y derbynia ein darllenwyr air ym mhellach yng nglyn a'r 0 Z5 appwyntiad hwnw. Ac nid ydym yn credu y gallwn wneyd dim yn well nag ail-adrodd yr hyn a ymddangosodd mewn newyddiadur Seisnig parch us a phoblogaidd yr wythnos ddiweddaf. Meddai y newyddiadur :—Pan y mae Ynineillduwyr Cymru, rhifedi y rhai a aift o hyd yn llai, yn rhoddi prawf ymarferol o'r anonestrwydd ydynt yn barod i'w ddangos drwy yspeilio yr ofFeiriaid o'u heiddo, ac ymosod yn farbaraidd ar amddiffynwyr cyfraith a threfn. Y mae yr Eglwys yn rhoddi ateb i'w bygyfchion a'u diystyrwch drwy z,Y ddwyn er bron esgob newydd, nid mewn n ZD ysbryd herfeiddiol, ond yn unig fel ymgais t, Z5 bellach yng nghyfeiriad heddwch a thawelwch, enghraifft newydd o orchfygu drygioni drwy ddaioni. Amcan yr Eglwys yw ymddwyn tuag at yr ymosodwyr hyn, a'r rhai a fynent, ei dinystrio felly, fel pe nas gwyddent yr boll ddrwg sydd yn gorwedd yn yr hyn a wna ym- t, Z5 drechi gyflawnu; ac ymdrechu drwy gare- digrwydd ac heddychol, i'w hennill at well gwaith, a chyflawnu y rhwyg a wnawd ganddynt drwy eu gofynion annoeth. Y mae tu hwnt i bob ammbeuaeth gan nad pa beth a fu llwyddiant Y mneillduaeth Gymreig oes neu ddwy yn ol, ei bod yn colli tir yn awr. Cafodd yr Eglwys nawdd a chartref ym mynyddoedd a dyflrynoedd Cymru am ddeg cant o flynyddau cyn geni Ymneillduaeth, am gyfnod, a hyny yn benaf, o herwydd ei bai ei hun, ymddieitlnioau ei phlant oddi wrthi, ond y mae wedi cyfodi i'r lan eto, ac yn awr y mae eu haelodau a fuant unwaith ar grwydr, yn dychwelyd i'w chorlan, nid yn bob yn ddau a thri, ond wrth y cannoedd a'r miloedd. Hynyma sydd yn creu gwaith newydd, ac yn 0 y galw am wasallaeth csgob newydd. Pe na n 0 byddai yr Eglwys yn ad-ennill gafael ar y n t) boblogaeth, fe allai taw ychydig mewn cym- mhaiiaetb, o waith a fyddai i'r esgobion i'w n gyfiawnu. Gallasai hyd yn nod esgobaeth y 0 helaeth ac ymdrechol Ty Ddewi aros yn dawel o dan arolygiaeth ei phen-bugail gorweithgar a chydwybodol presennol. Ond y mae tyfiant beunyddiol yr Eglwys yn yr esgobaeth hon yn hawlio arolygiaeth tu hwnt i allu yr un dyn yn unig, ac felly fe gyssegrwyd esgob i Abertawe. Nid oes eisieu i neb deimlo yn anfoddlawn i'r Eglwys gael yr elfen newydd hon o gryfder. Nid oes yr un geiniog o arian y cyhoedd yn myned tuag at ei gynual. Nid oes neb yn colli dim drwy yr appwyntiad, tra yr ennilla miloedd drwyddo mewn llawer ffordd. Y mae yn foddhaus meddwl fod y ddau esgob Cymreig newydd yn ddynion tra chymmhwys i'w- swydd. Y maent yn ddau Gymro, ac yn siarad Cymraeg, fel nac gall yr hen a ihvi yniadau ar y tir hwnw gael eu gwneyd yn h wy. Nis gellir ond dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu /;) lleoodd gwahauol, a gobeithio y gallant gyfiawnhau eu happwyntiad trwy gyfiawnu gwaith mawr ac ardderchog ym mhlith eu cydwladwyr. Nis gallwn ddymuno dim yn well i bobl Cymru nag i C, ofynion cynnyddol yr Eglwys Gymreig ei I I gwneyd yn ddymunol i ychwanegu eto ym mhcllach nifer yr esgobion. Ef allai na bydd pawb yn diolch i ni am hyn, ond yr ydym yn edrych i'r dyfodol. # # Yn ddiweddar chwareuwyd dwy opera, wedi eu cyfansoddi gan Dr. Parry, y cerddor Cymreig, mewn chwareudy yng Nghnerdydd. Cynhyrfodd hyn eiddigedd duwiol rhyw dduwinydd o bregetlnvr yn y dref bono, a tbaranfolltiodd yn ofnadwy yn erbyn peth mor ysgymmun a'r chwareudy. Buasai cystal i'r 11 y gwr parchedig gadw o fewn ei derfynau c 11 priodol, o herwydd nid yw ei zel wedi dwyn unrhyw anrhydedd nac iddo ef ei hun nac i achos crefydd. Y gwir am dani yw, mae y 6 genym ni yng Nghymru ormod o ragfarn yn t> 0 n Z5 erbyn y chwareudy, a'r rhagfarn hwnw yn cyfodi mewn rhan oddi ar anwybodaeth ac mewn rhan o'n Puritaniaeth, Yr ydys yn sicr y gwnai chwareudy iachus ym mhob tref yn y wlad lawn cymmaint o ddaioni i foesoltleb, ac felly i achos crefydd, ac a wna nnrhyw gapel yno yn bresennol. Oddi ar ein gwybodaeth o Lundain, gallwn ddweyd fod dylanwad moesol y chwareudy ar boblog- aeth enfawr y ddinas hono yn anti lirtetliol, ac yr elai yn ddiwrnod du iawn ar y Brifddinas pe ceuid drws pob chwareudy ac ystafell gerddorol o'i mewn. Mae llawcr o bcthau cynnneradwy iawn mewn Puritaniaeth, ond y mae ei gormod zel yn anoddefadwy i bob dyn o synwyr cyfFredin ac o syniadau ihydd- frydeg a goleuedig. • ii- Gwelwn fod Ceredigion yn dechreu rhwbio n ei llygaid bellach uwch ben pwnc addysg uwchraddol. Cynnaliwyd cyfarfod i ystyric(l y cwestiwn mewn perthynas a'r sir yr wythnos ddiweddaf yn Aberystwyth. Wrth reswm fe ymdrechir cael ysgol uwchraddol yn y dref hono, os gellir. Gwelwn fod Aber- ayron a Llanbedr yn dihuno yn yr un cyfeiriad. Mae Bwrdd y Coleg yn foddlawn trosglwyddo adeiladau ysgol y coleg at wasanaeth ysgol, y n n yn yr hon y cyfrenir addysg uwchraddol. Un o'r nodweddion mwyaf dymunol a berthyn i Goleg Llanbedr yn y blynyddau diweddaf yw yr awydd a ddengys y Bwrdd i gyfarfod angenion yr oes a chyfaddasu y coleg, a phob n zn, peth yng nglyn ag ef,at ofynion amgylchiadau. Wedi'r cyfan, nid ydym yn gallu gweled pa ryw elw mawr i'r wlad a ddeillia oddi wrth Ddeddf Addysg Uwchraddol. Hyd yn hyn, cafodd addysg ragbarotoawl i'r coleg ei C) ID chyfranu mewn ysgolion preifat, neu gan ysgolion grammadegol y wlad, ac arnynt hwy eto y dibyna y baich yn benaf, heb law fod y Llywodraeth yn eu diddymu, yr hyn nid yw yn debyg. Nid yw Mr David Pugh, A.S., yn bwriadu sefyll dros Ranbarth Dwyreiniol sir Gacrfyrddin yn yr etholiad nesaf. Mae y Radicaliaid yn anadlu yn rbyddach o lawer wedi clywed y newydd. Mr Gwilym Evans, mae yn debyg, a fydd eu dewis-ddyn fel yiai- geisydd y tro nesaf. Mae Mr Evans wedi llwyddo yn fawr gyda'i Quinine Bitters, ac yr ydym yn meddwl y gwnai yn well drwy gyfyngu ei sylw a'i amser a'i fyfyrdodau yn y ,y cyfeiriad hwnw yn hytrach na gwneyd a seneddol o hono ei hun. Ym mhlith y miloedd pobl a deimlent eu hunain mewn perygl yn amser y ddaiargryn a gymmerth le yn y Riviera yn 1887, yr oedd un boneddiges a Loegr—Seisnes o waed, ond yn byw wedi ei phriodas yn Itali. Gwaredwyd hi o'i pherygl gan ddyn ieuanc o Sais, yr hwn oedd yn dechreu dyfod yn adnabyddus fel chwareuydd mewn theatre, ac yn frawd i nwyfelyddpoblogaidd. Ni cbafodd y boneddwr le i edifarhau am ei garedigrwydd, o herwydd fel dangoseg o'i diolchgarwch, mae y fonedd- iges wedi ei fabwysiadu fel ei mab, ac wedi ei waddoli a rhyw £ 50,000 gyda'i unig am mod iddo gymmeryd ei henw a tbrigo am dymhor byr bob blwyddyn yn yr Ital. # Cyrhaeddodd newydd torcalonus iawn o Melbourne (Awstralia) yn ddiweddar. Yn y dref hono yr oedd Ysgotiad o'r enw Richard Christie, got alcan wrth ei alwedigaeth, yn byw. Daethai yno o ddeutu chwech wythnos yn flaenorol o Zealand Newydd, ac yr oedd wedi bod yn yfed yn drwm am beth amser. Un noson gwelwyd bod ei dy ar dan. Adeilad 0 goed yn benaf oedd, ac amwisgwyd ef mewn byr amser gan y fflamau. Gwelwyd Christie oddi fewn yng nghanol y tan, a'i ben yn orchuddiedig mewn blanced. Gwnaeth un o'r enw Taylor ymgais o fyned i mewn drwy y ffenestr er achub y dyn truenus. Gyrwyd Taylor, modd bynag, yn ei ol gan y mwg a'r tan, ac wrth ymdrechu dyfod allan, Christie a syrthiodd i'r llawr. Yna y dyrfa o'i- tu allan a ymdrechasant ryddhau peth o ddefnyddiau yr adeilad yng nghefn y ty, er mwyn cael y truan i maes, ond pan wrth y gwaith, syrthiodd y t6 i mewn. Yna fe welwyd fod y dyn annbdus yn cael ei rostio yn fyw oddi fewn, heb neb yn gallu estyn dim cynnorthwy iddo. Wedi i'r tan losgi ei hun i maes, daethpwyd o hyd i gorff golosgedig Christie. Yr oedd yn 35 mlwydd oed, a chanddo wraig a dau o blant yn byw yn swydd Fife. • iii' Ymadrodd a glywir yn bur fynycli y dydd- iau hyn yw myn'd i lan y mor ac "aros sir lan y m6r." Yno y cyfatfyddir fL Thomas Jones, y flarmwr, a Lewis Rees, y lllasiwlI, a John Thomas, y saCI", a David Davies, y gweydd, a'r wraig hon a'r ferch arall, a phawb yn ymofyn iechyd neu bleser, neu am dreulio eu hamscr yn rhywle. Mae gair o gynghor C, zn 0 yn angcnrheidiol i rai o'r bechgyn sydd ar ]an y mor. Ceir llawer yno yn gwneyd gormod o ffyliaid o honynt eu hunain. Maent yn fynych yn ddigon o ffyliaid o ddeutu cartref, ond maent yn ddeg gwaeth ar lan y mor. Teimlant eu bod yn byw yn annibynol ar ddylanwadau en cyssylltiadau teuluol, a bod ganddynt 0 geiniog i'w gsvario. Lleoedd a fynychir yn fawr iawn ganddynt yw y Rope and Anchor, a'r Mariners, Compass a'r Jolly Tar. Yr ydys wedi clywed fod lawer iawn o farilau wedi cyrhaedd glan y m6r eleni o wahanol ferwedd- dai a gorsafoedd y rheilffordd. Wi th reswm at yfed yr amcenir y cyfry w, ond gellir yfed yn gymmedrol heb feddwi a gwneyd ffyliaid o n rD greadusiaid ar lun dynion. 1.<= Drwg genym gofnodi marwolaeth Ar- glwydd Cariiarfuli, yr hyn a gymmercdd le t) prydnawn dydd Sadwrn yn Portman-square, Llundain. Yr oedd wedi bod yn dyoddef oddi with y gymmalwst am rai wythnosau, ond nid oedd un perygl hyd yr ychydig ddydd- iau olaf. Cafodd yr ymadawedig ei eni Mehefin 24ydd, 1831. Bu yn briod ddwy waith, ac o'r wraig gyntaf y mae ganddo un mab a thair merch, ac o'r ail wraig dan fab. Ceidwadwr oedd yr ymadawedig, a bu mewn swydd pan oedd y diweddar Iarll Beaconsfield yn Brifweinidog. # # Mae y Tywysog Albert Victor (yn awr Due Clarence ac Avondale) wedi syrthio mewn cariad a'r Dywysoges Victoria o Teck, a dysgwylir y cymmer y dyweddïad le ym mlien ychydig o amser. Deallwn fod Eglwys newydd Sant loan, Caerfyrddin, yn orlawn o addolwyr pob nos Sabbath, fel y gorfodir cael cadeiriau o'r Ys- 0 gol Genedlaethol sydd ger llaw. Nid yw hyn yn proti, fel y dywedir yn fynych, fod yr Eg- lwys yn marw yng Nghymru, ac mai "estrones" yw hi YOHt,
PEGGY LEWIS.
PEGGY LEWIS. Yr ydym wedi dyfynu y gan ganlynol o'r 0 0 Undebwr Ci/mreiy." Ymddengys iddi gael ,n y ei chyfansoddi gyda'r bwriad i'w danfon i'r gystadleuaeth ddiweddar, pryd y cipiwyd y wobr gan Watcyn Wyn ond ar ol ei Z) hysgrifenu, darfu i'r cyfansoddwr rywsut golli 0 n ei ymddiriedaeth yn y beirniaid. Enw Gladstone fu am amser Yn cynhyrfu gwaed y Celt, Ond mae'i swynion wedi darfod— Peggy Lewis aeth a'r belt! Enw hon yn awr sy'n swyno lioll brydyddion Cymru Jan Dyma destyn hoff myfyrdod Y Jackyddion, fawr a man. Mwy ni sonir byth am Stanley, Darganfyddwr mawr y Nile Collir mewn dinodedd perffaith Enwau Shakespeare a Carlyle Gladstone, Morley, Labouchere, A'r Parneliaid penaf, sydd Wedi'u cloi ym meddrod anghof— Peggy Lewis aeth a'r dydd Enw lion a wna yr hurtyn Mwyaf hirglust yn y byd n I fyrlymu mewn hyawdledd Nes gwefreiddio Cymru i gyd Enw how wna graig i wylo; n 13 Yn ei swn fe fly pob cas; Egyr g'lonau hen gybyddion Gwna i'r aur ddylifo i ma's. Yn y dafarn rhaid yw yfed "pechyd da i Peggy falll; i no .1 Rhaid cynghori yn y seiat Pawb i ddilyn ol ei thra'd Y mae dewrder y meL'thyron, Gostyngeiddvwydd pcna'r byd. A gonestrwydd capelyddol Yn ei symmudiadau i gyd. Gwawria, foreu, pan y gyrir Buddug dirion draw o dre', Ac y gwelir Peggy Lewis 1 0-1 Ar yr orsedd yn ei lie Yna'r Jacks bennodir ganddi Yn gaplaniaid iddi ei bun, A'r dewr feddyg o Landyssil Yn "Physician to the Queen Dan dcyrnasiad Peggy Lewis Gwelir Cymru fechan dlawd," Sydd yn awr dan draed yr estron, Yn gartrefle meibion ffawd Neb yn gweithio—pawb llIcwnlIawnder, Neb yn talu treth na thax Dyna'r pryd byddjowls yn disgyn Yn gawodydd ar y Jacks in Hyd yn hyn nid oedd Trewyddel Ond lie bychan a dinod, A'r preswyhvyr hwythau'n gorwedd Yn y t'w'llwch mwya' erio'd Ond mae Peggy wedi rhoddi Bri a choron ar ei ben Nid Llangeitho mwy na'r Bala- Hwn fydd Mecca Cymru wen. Dyma'r fan y ganwyd Peggy, n In Dyma'r fan y gwelodd ddydd, Dyma'r fan bu yn addoli Ac yn dysgu'i Chyfies Ffydd Dyma'r fan lie yr ennillodd Anfarwoldeb pur, di-ail, Na ddiflana mwy tra'r erys Cader Id ris ar ei sail YSPRYJ) Bhuti S.
PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG…
PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG PA FODD I YMDRIN AG EF. Cyhoeddir y pennodau hyn a'r erthyglau sydd i barhau, trwy ganiatad arbenig yr awdwr, y Parch. Thomas Moore, A.C., o The Established Church Question How to deed with it." Y cynllun a gymmerir ydyw dy- fynu, fel pennawdau i'r gwahanol adranau, ddadleuou (arguments) a ddefnyddir yn erbyn yr Eglwys gan ei gwrthwynebwyr, fel eu dat- genir yn eu bareithiau a'u hysgrifau, o ba rai y mae yr awdwr wedi cymmeryd nodiadau gofalus am amser, gan geisio eu hateb yn y modd byraf, egluraf, a mwyaf uniongyrchol. PEXXOD I. Nid oedd yr Eglwys yn bodoli cyn y I) hoy glad Protestanaidcl,Fel yna y dywed y rhai sydd yn anghyfarwydd a'i liaiies, neu y rhai sydd yn ei chamddarlunio yn fwriadol. Y tfaith yw, mae Eglwys Loegr, fel ag y mae n 0 ZD yn bresennol, mewn bodolaeth barhaus oddi ar gyfnod boreuaf ))ane.siactb Seise nig. Ni n wnaeth y Diwygiad i Hwrdd a'r hen Eglwys, na chreu un newydd. Nid oedd y Diwygiad zn Protestantaidd ond un o gynnifer o ddygwydd- iadau pwysig yn ei hanes a'i tueddai i'w gwneyd yr hyn ydy\ yn awr, y buraf oil o hen Eglwysi Cred. Diddymodd ei hundeb a Rhufain, a dygodd hi i gyssylltiad agosach a'r Wladwriaeth, ond fel banesyddawl Eglwys Loegr, gadawodd hi yn benodol yr un Eg- -n Z5 0 lwys. Nis gcllir dwyn unrhywiaeth (identity) y bresennol Eglwys Loegr a'r un oedd gynt yn n n rhy eglur o flaen meddyliau y werin, ac nis c gellir egluro ei hanes difwlch ym mhob plwyf yn rhy fynych wrth y plwyfolion hyd nes y deallant hyny yn drwyadl. Ei hesgobion, offeriaid plwyfol, a'i ehynnulleidfaoedd a aros- ent yr un. Un o'r ffyrdd mwyaf etfeithiol i e: luro y gwirionedd hwn wrth blwyfolion un- ri yw blwyf, ydyw gweithredu yn ol cyfar- wyddyd Arcliesgob Caergrawnf. Dywed ei "I y A rglwyddiaeth — "Ii a gynghorwn bob ZD I n periglor i fyned i'w gofnollfa. esgobaethoi 0 n Z5 (diocesan registry), a cliojtio yno enwau ac am- seriad yr bull olleiriaid a'i rhagflaenai oddi ar I yr amseroedd b'>rcuaf, ac yna gosod y rhestr hon yn addurnedig i fyny yn ei Eglwys ym y 71 mysg cofarwyddion ereiU fydd ynddi. Gwelais fy hun fuddioldeb y cynllun hwn. Megys y dywedodd Arglwydd Macaulay, gwnai rhestr fel bona begs ardderchog i liongian hanes- C5 In I iaeth wrthynt.' Gwn am ddwy neu dair o Eglwysi lie mae enwau eu hoffeiriaid wedi en gosod i fyny, gan ddechreu cymmerer gyda n 113 David, 1190,' wedyn William o ryw le yn Ffrainc, neu bentref yng Nghymru neu Loegr, 1200 Jolin, 1202,' ac felly yn y blaen, i lawr i'r flwyddyn 1883 ac ar derfyn gwasan- aeth ar ol gwasanaeth, yr wyf wedi gweled y bob1-yn wrywod, menywod, a phlant o am- gylch hon, gan ddarllen yr enwau gyda'r dydd- 0 ZD 0 ordeb mwyaf, a gofyn cwestiynau yn eu cylch. Ni thybiasent erioed fod yna gyfres hollol ddifwlch o weinidogion y Duw Goruchaf wedi bod yn llafurio yn y lie oddi ar pan sylfaen- wyd yr Eglwys hon yna, ac yn hir cyn hyny, ac yn cyflawnu yr unrhyw waith da ag oedd eu bugail hwy yn gyfiawnu y dydd hwnw. Ni 0 by wyr y werin-bobl ddim am egwyddorion syndaf 0 hanesiaeth eglwysig; gan hyny, pe gallem eu llenwi ag ysbrydoliaeth, buddiol fyddai i ni roddi iddynt banes yr Eghvys. ZD PENNOD II. "Mae Eglwys Locg)" yn Eglwys trwy Weithred Seneddol—Mewn un ystyr, mae yr hyn ddywedir uchod yn berftaith wir; mewn ystyr arall mac yn hollol anghywir. Yr ystyr mae yn wirionedd ydyw, fod llawer o weith- redoedd seneddol yn dal perthynas a'r Eglwys. Pa fodd y gall fod fel arall pan ystyriom er ys cymmaint o amser mae Eglwys Loegr mewn perthynas agos a'r Goron a'r Wladwriaeth, ac mae iddi hanes am dros 1000 o flynyddoedd ? Yr ystyr mae yn anghywir ydyw, mor bell ag y mae yn fynegol o'r syniad, fod yr Eglwys wedi ei chreu gan neu yn sylfaenedig ar weithredoedd seneddol. Wrth gwrs, nis gellir gwneyd un sefydliad daionus ynddo ei hun yn well neu waeth trwy gael gweithredoedd seneddol yn ei ftafr ond sieryd Angbydfl'urf- wyr gwleidyddol yn anil am weithredoedd seneddol mewn cyssylltiad a mateiion cre- fyddol fel pe bai rhywbeth yn niweidiol ynddynt. Fel hyn y siaradant rywfodd yn ddirmygus am Eglwys Loegr fel 11 Eglwys 0 ?71 Gweithredoedd Seneddol" (Act of Parliuaent Church)-, am ei Chredoau fel Credoau Gweithredoedd Seneddol am ei Gwasan- aethau fel Gwasanaetbau Gweithredoedd Seneddol. Nid yw y rhai sydd yn dweyd fel yna yn ystyried yn dda beth maent yn siarad yn ei gylcb, o blegid gwneir deddfau arbenig i, a iJieoleiddir Ymneillduaeth, gan weithredoedd seneddol; ca ragorfreintiau oddi wrthynt, ac mae yn ddarostyngedig i, ac o dan eu rheol- aeth yn union fel yr Eglwys; ac i brofi hyn gwneir y statements canlynol, y rhai nis gellir eu (,wi-tlibroa Drwy yr awdurdod roddir iddynt gan weithredoedd senecidol :-], Ca Ynineillduwyr leoedd i'w capelau. 2. Eu sicrhau at addoliad crefyddol a'u cofrestru i weinyddiad priodasau o fewn terfynau pennod- edig. 3. Amddiffynir hwy rliag aflonyddwch yn amser yr addoliad cyhoeddus. 4. Pan wedi en sicrhau at addcliad, mae eu capelau a'u gwaddoliadau yn l'hydd oddi wrth weitli- rediad y "Charitable Trusts .i.ls." 5. Mae eu capelau yn rhydd o drethoedd plwyfol a threthoedd y Goron. 6. Ni chaniateir cynnal cyfarfodydd ynddynt i addoliad crefyddol gyda drysau cauedig. 7. Os rhoddir eu trust deeds mewn ymddiriedaeth, gofynir eu bod yn cael eu cofrestru yn y Court of Chancery. 8. Gall Dirprwywyr yr Elusenau appwyntio ymddir- iedolwyr newydd o dan eu trusts. 9. Mae y senedd, yng nghyd a'r Ilysoedd cyfreithiol, yn meddu ar awdurdod i ddeongli a rhoddi ystyr derfvnol neu benodol i'r athrawiaeth osodir allan yn eu trust deeds. Trwy gyfreithiau seneddol y gweinyddir priodasau ac y gwasanaethir mewn angladdau gan weinidogion Ymneillduol. Hbyddheir hwynt oddi wrth ddyledswyddau swyddi dinesig, nid fel dinasyddion cyfFredin, fel y dywedir wrthym yn fynych, ond yn eu galwed- igaeth fel gweinidogion Ymneillduol. Yng ngwyneb y ffeithiau hyn, pwy a wad fod gweinidogion Ymneillduol, nid yn unig yn eu galwedigaeth fel dinasyddion cyfFredin, ond yn eu galwedigaeth grefyddol a'u cymmeriad fel corfF o weinidogion Ymneillduol, yn cael eu cynnorthwye, eu cyfyngu, a'u rheoli yn eu haddoliad crefyddol a'u swyddau gan gyfreith- iau seneddol ? Heb law hyny, yng nghyd a rhoddi gweithredoedd seneddol neillduol yn eaniatau rhagorfreintiau o'r fath i Ynmeilldu- wyr, mae yn flaith fod pob gweithred seneddol a. basiwyd er niwed Eglwys Loegr mor bell a hyny yn weithred seneddol yn ffafr yr Ym- neillduwyr. Ac hefyd, trwy weithred seneddol y ceisia Ynineillduwyr attal opiniynau cref- yddol Eglwyswyr, eu hamddifadu o'u man- teision crefyddol, a chymmcryd oddi wrthynt eu grasol freintiau etifeddiaethol, ac hyd yn oed i ddinystrio eu Heglwys Genedlaethol, yr ZD hon nis sefydlwyd trwy un weithred seneddol. (I'w barium.) Crugybar. Ankllvoi*.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.
CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI. Gwilym — Nid oes modd cael un blaid wleidyddol yn fwy haerllug a thrahaus na'r Radicaliaid. Maent yn liofF iawn o floeddio rhyddid, rhyddid Ond ar ol y cwbl, y maent yn orlawn o ormes. Rhyddid i ni a dim i neb arall; rhyddid i ddywedyd v pdh a fynant, ac ysgrifenu yr hyn a welont yn dlla duo cymmetiadau a chamddarlunio ereill; ac maent wedi myned mor bell a rhwystro eu haelodau seneddol i farnu fel y gwelont fod yn dda, a phleillleisio fel y gwelont yn oreu yn y senedd ar bynciau cyhoeddus. If or—Yr oeddet ti, Gwilym, yn achwyn fod y Radicaliaid yn camarwain ac yn camddar- Itinio ereill ac yr wyt ti yn euog o gondemnio a chamddarlunio y Radicaliaid dy hun. Yr wyf yn rhoi her i ti broti dy osodiad. Ni wnaitf dwyn cyhuddiadau ar antur ddim o'r tro. Gwilym—Wei, yn awr am dani. Boycot- iwyd Mr T. E., boneddwr parchus ac Y m- lieillduwr cyfrifol, am iddo droi yn Undebwr. Dywcdodd un o flaenoriaid y (jodf, ar adeg etholiad, fod gormod o dyllau yn ei gut i un teiliwr yn ufFern ei hadgyweirio ac onid yw yn flaith ddiymwad ei fod ef a'i deulu wedi cael eu boycottio a'u herlid erpan gymmerodd Dyfynir o araith yr Arcbcsgob o flaen Cym- doithas Auiddillynol yr Eglwytj, Gorpliouaf, lSt)3. yr etholiad diweddaf le? Dytia i ti enghraifft o ryddid Radicalaidd yr ym yn clywed son am dano. Cadwgan-Ffug a lledrith yw yr hyn a brofFesir genych yn enw rhyddid. Baeddodd Gladstoniaid sir Gaer Mr Pugh yn gywilyddus am na fuasai iddo blygu o flaen liaid o ysgrag- lach ac yn y cyfarfod diweddaf, awgrymwyd y dylai pob ymgeisydd a ddaw allan dros rhanbarth orllewinol sir Gaer gael ei orfodi i arwyddo ardystiad y bydd iddo ufuddhau a chyflawnu yr hyn a orchymmynir iddo yng nghyttes flydd y Gwyddelod Cymreig. Os yw yr hanes yn gywir yn y papyrau, ni fydd gan un ymgeisydd hawl i'w farn bersonol ei hun. Ni fydd aelod seneddol ddim ond gwas bach i haid o anwyboduson cul, main, rhagfarnllyd, a hunanol yn y dyfodol yng Nghymru. Pa hawl sydd gan y ceugwd i alw eu hunain yn etholwyr ] Nid yw y ceugwd yn cynnrychioli yr etholwyr, na chyfoeth, dealltwriaeth, nac addysg y wlad. Y mae yn llawn bryd i ni etholwyr, ym mhob sir, i daflu iau orthrymus y ceugwd oddi ar ein gwarau, a dywedyd yn groew a difloesgni, "Dwylaw i flwrdd, fonedd- igion, a meindied pawb ei fusnes ei hun, a gadewch y ffermwyr i ddcwis y sawl a welant yn addas i'w cynnrychioli, ac nid dynion a ddewisir gan bregethwyr, siopwyr, cryddicn a theilwriaid, a phersonau sydd wedi esgyn i bwlpudau, am eu bod yn caru segeryrd yn lie canlyn yr aradr, neu eistedd ar iainc y crydd." livaii-A wyt ti am i ni gredu nad oedd y boncddigion a enwyd yn addas i fod yn aelodau seneddol ? Gi-it (1(1--Betii sydd eisieu arnom yw cynnrychiolwyr a wnaiff gymmeryd dyddordeb mewn amaethwyr ac amaethyddiaeth. Dylai y fFermwyr anfon i'r senedd un sydd yn dal neu berchen tiroedd, canys y mae Hes y nieistr a lies y deiliaid yn gydblethedig. ZD Z5, Mo rus—Dywedir mai Mr Gwilym Evans, Llanelli, fydd yr ymgeisydd, ac nid oes un ammbeuaeth na wnaifF ef aelod seneddol da. llywel—Nid wyf yn gwybod dim am Mr Evans yn bersonol; ond mae ef yn enwog fel cyfferiwr; ond yr wyf gyda phob dyledus barch yn dywedyd nad eyfferïwr yw y dyn goreu i gynnrychioli adran amaethyddol a gweithfaol. Boneddigion fel y Milwriad Davies-Evans, Highmead, ac Arglwydd Emlyn, Syr John Dillwyn Llewelyn, Pen- llergaer, yw dynion yr amaethwyr, ac nid siopwyr, pregethwyr, neu gyfreithwyr ond 7 zn mat yr un peth i ddyn chwareu crwth a thelyn i neidr fyddar, neu ddangos electric light i'r wadd, a cheisio goleuo am bell i ffermwr pen- galed, sydd a'i lygaid yn llawn o lwch rhagfarn. Gwilym Dyledswydd y Ceidwadwyr a'r Undebwyr yw dysgu yr etholwyr, a'u goleuo ar bynciau cyhoeddus y dydd, megys cadwraeth yr Undeb a Dadgyssylltiad ond nid oes dim wedi, nac yn cael, ei wneyd mown Ilawer lie i addysgu y bobl mewn gwleidyddiaeth. lJewi-Nid oes eisieu rhagor o addysg gwleidyddol ariioiii ac mae genym ddigon o 11 0 t5 ddysgawdwyr yn ein plith, ac nid oes un perygl gael ein denu drosodd at yr Undebwyr. Y mae Rhyddfrydiaeth yn reddfol yn y Cyiiii-o ni fyn ef Doriaeth ar un pris. Cadwgan—Ni fu un genedl erioed mor Geidwadol a'r Cymry. Cadwasant i fyny eu hen arferion, eu hen sefydliadau—yr eistedd- fodau fel esaniplau. Dangosant yn amser Cromwel eu hymlyniad wrth yr allor a'r orsedd tywalItasant waed eu calonau o blaid y brenin Siarls I. Cochwyd yr afon Lai o LaiisantfFagan i Benarth, saith milltir o fFordd, a gwaed y lladdedigion. Gruffydd—Mae cynhyrfwyr aflonydd yn heigio Cymru, ac yn arwain y Cymry i ddinystr. Morns—-Beth yw eicli barn chwi am sefyllfa grefyddol Cymru y dyddiau yma? Arwydd drwg yw gweled crefyddwyr yn myned i chwareudai, &-c. Cadwgan- Yr Ymneillduwyr ddylai yr olaf o bawb i achwyn fod pobl yn myned i'r chwareudy ac yn actio, am iddynt droi capeli yn chwareudai flynyddoedd yn ol. Ni futn erioed mewn chwareudy ond yr wyf yn credu fod llai o niwed a llai o bcchod i ddyn ion fyned i chwerthin, bloeddio, curo traed a dwylaw mewn chwareudai nag mewn capeli. Ni fuasai ganddynt un gwrthwyneb- iad i opera Dr. Parry gael ei chwareu mewn capel er talu y ddyled oedd arno. Mae lie i ofni fod cyrddau politicaidd mewn addoldai yn gwneyd mwy o niweid i grefydd yng Nghymru na'r chwareudai. Ifor—Mae llawer o anfoesoldeb yn myned ym mlaen mewn cyssylltiad a'r chwareudai. Cadwgan—Nid wyf yn amtnlieu hyny am foment; ond mae yn rhaid i ni gotio fod llawer o anfoesoldeb yn myned ym mlaen mewn cyssylltiad a chyrddau te a'r cyrddau nosawl, y cyngherddau, ifcc. Beth sydd yn fwy anweddaidd na'r chwareuon sydd yn cymmeryd lie ar ol cyrddau to—" kiss in the ring," "BoMy Bingo," a phcthau o'r fath ? Gwelsoni fechgyn a metched allan am ddeg tY or gloch o'r nos ond mae y pwlpudau yn ddystaw am yr halogedigaethau hyn, sydd mewn arferiad yn ein dyddiau ni, hyd yn oed yng ngwyliau yr Ysgolion Sul. Mae pharisc- aetli rhonc yn rhythu yn y farn gondemniol a roddir ar Dr. Parry a'i opera.
CLOSYGRAIG.
CLOSYGRAIG. Prydnawn dydd Sadwrn (Mehefin 28ain) ymgyfarfu Ysgol Sul y lie uchod, piyd y lFurtiwyd yn orymdaith i fyncd drwy Drefelin, Cwinpengraig, Felindre, a Threfach, yn cael eu blacnori gan seindorf hres Llysnewydd, a chytlawnodd ei gwaith yn ganmoladwy. Ar cu dychweliad yn ol i'r capel, cafwyd gwledd o de a bara brith. Teilynga Mr. II. Jones, Penbanc, glod a pharch am ei baelioni a'i waith yn ymgymmeryd, ar ei draul ei hun yn hollol, a darparu y fath wledd. Cyfranogwyd o'r danteithion gan ryw 250. Gofidiai Mr. Jones fod y deiseu wedi darfod mor llwyr, fel na allasai gyfranu dim i'r hen, yr afiacb, a'r methitdig perthynol i'r ysgol a'r capol yn y !le, yn eu cartrefloedd; ond taflai y bai hwn ar benau ei gynghorwyr, pwy bynag oeddynt. Hhag dygwydd peth a fyddo gwaeth, cynglior- em Mr. Jones i beidio cyfyngu ei ymgynghor- iadau rbag llaw i gylch bychan o ddewisolion ammhrofiadol. Hefyd, mae yma wers yn hyn i'r Closygraigiaid yn gyfFredinol i feddwi nnvy am y bwyd a bery nag am y hwyd a dderfydd. Ond cafodd pawb ddaeth yng nghyd eu cyllawn ddigon. Aed trwy y gweithrediadau yn rhag- n 9 orol; ac ymwahanwyd wedi treulio rhai o oriau mwyaJ difyr ;t dreuliasom erioed.—Un oedd YNU.