Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Y LLYWODRAETH UNDEBOL.

TREF, GWLAD, A TI IRA MOR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREF, GWLAD, A TI IRA MOR. Gwelwyd fFwl lawer gwaith cyn hyn mcwn pwlpud, ond ychydig amser yn ol gwelwyd dyn lloerig ym mhwlpud Westminster Abbey. Tybiai mai Moses ydoedd, a'i fod wedi ei ddanfon yn* i gyhoeddi y ddeddf wrth y Llundeinwyr. Credai yr heddgeidwad yn wahanol, ac hebryngwyd y dyn gwallgof o flaen ei well, ac oddi yno danfonwyd ef i'w le ci hun—y gwallgofdy. Cafodd. darlun o Kilsby ei hongian i fyny yr wythnos ddiweddaf yng N gholeg Cofladwr- iaethol Aberhonddu. Tynwyd y darlun gan Ap Caledfryn Williams, a dywedir fod y rrwaith yn gredyd i'r gweithiwr. Ein cred ni yw mai yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyr- ildin y dylesid rhoddi y darlun, yn ogymmaint n ag niai yn y coleg hwnw y parotowyd Kilsby i'r weinidogaeth. Ond nid ydym yn gweled a llygaid ein gilydd. 0 C) Dydd Iau (Mehefin 26fed) ymgyfarfyddodd aelodau Cyindeithas Ceidwadol Bwrdeisdreti Arfon, yng Nghaernarfon, pryd y darllenwyd llythyr oddi wrth Syr John Puleston, A.S., yn yr hwn y dadganodd ei barodrwydd i ddyfod allan fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Mae y Radicaliaid yn bwriadu dyfod allan eto a Mr D. Lloyd George, yr aelod presennol. Yr ym yn credu pe gwnai y Ceidwadwyr a'r Undebwyr ymdrech egniol, yr y In adennillent y sedd eto yn ol, am mai ond 20 oedd y mwyafrif yn yr etholiad diweddaf. Bydded i'r Ceidwadwyr i gadw y powdwr yn sych, ac i gynnal cyfarfodydd yn awr ac yn y man. Deallwn y caiff Syr John gynnorthwy a dylanwad Mr Ellis-Nanney, yr hwn sydd un o foneddigion mwyaf caredig sir Gaernarfon. Z5 ZD Dymunwn bob llwyddiant i Syr John, a dywedwn wrth y Ceidwadwyr yn ogystal a'r r3 Undebwyr, Arfogwch, arfogwch mewn pryd. # # Mae bywioliaethau Llanybyther a Llan- wenog wedi eu cynnyg ac wedi eu derbyn gan y Parch. B. Parry Griffiths, A.C., Caerfyr- ddin, ysgrifenydd trcfnyddol y Gymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegr dros Esgobaeth Ty Ddewi. Dyruunwn bob llwyddiant i Mr. Griffiths yn ei faes newydd. # Yr wythnos ddiweddaf, yn Nhy y Cyffredin, gwnaeth Mr W. S. Caine (Undebwr) yn hysbys ei fod yn bwriadu ymddiswyddo fel aelod dros Barrow, a'i reswm dros hyny oedd, am ei fod yn methu cydweled a'r Llywodraeth ar y cwestiwn o roddi iawn-dal (compensation) i'r tafarnwyr hyny ag oedd yn colli eu trwyddedau heb unrhyw achos anghyfreith- lawn o'u heiddo; ac hefyd, meddai, i gael barn ei etholwyr ar ei waith yn gwrthwynebu ZD y Llywodraeth ar y pwnc pwysig hwn. Mae Mr Caine wedi gwneyd appel am y Cltiltern Hundreds, a chymmerodd yr etholiad le dydd Mercher. Nid yw Mr Caine wedi newid dim ar ei farn ar Ymreolaeth; a rhwng fod y Llywodraeth wedi taflu y Mesur y Trwydd- edau o'r neilldu am y tymmor hwn, a Mr Caine hyd ei asgwrn am gadw yr Undeb yn Z3 t5 ddiwahanedig, dysgwylir y bydd yn etholiad boeth. 0 herwydd fod Mr Caine yn dal yn gyndyn yn erbyn Home Rule i Iwerddon, y mae y Gladstoniaid wedi dyfod allan a Radical poeth ym mherson Mr J. Duncan, a bu dirprwyaefch i Lundain i ymgynghori ag arweinwyr y Gladstoniaid. Y mae y blaid mewn penbleth nid ydynt yn abl i wneuthur dim. Yr oedd Mr Gladstone a Syr Wilfrid Lawson yn bwriadn myned i Barrow i roddi help Haw i Mr Caine ond yn awr, am fod Gladstoniad ar y maes, y maent yn methu cyffro traed neu ddwylaw. 0 herwydd iaith gref Mr Caine yn y senedd y dyddiau diweddaf y bu yn aelod-sef y gwua ei oreu i ddryllio y blaid Undebol yn ganddryll—y mae Arglwydd Hartington (arweinydd y blaid Undebol yn Nhy y Cyffredin) wedi ysgrifenu at etholwyr Undebol yn Barrow, i geisio ganddynt i bleidleisio dros Mr H. H. Wain- wright, yr ymgeisydd Ceidwadol. Os aiff y n ZD tri i'r pol, dcallwn y saif Mr Wainwright siawns ardderchog. Y mae Cardinal Manning wedi ysgrifenu o blaid Mr Caine. Gan ein bod ar fwriad myned i'r wasg, ni a rhoddwn ond y ffigyrau yn unig yr wythnos hon, a manylion z,Y zn mwy helaeth yn ein rhifyn nesaf. Fel y canlyn y mae y ffigyrau :— Ily Mr Duncan (Gladstonian) 1994 Mr Wainwright (Ceidwadwr) 1862 Mr Caine (Undebwr) 1280 Mwyafrif i'r Gladstonian 132 Yn gymmaint a bod appwyntiad csgob z,Y n cynnorthwyol Abertawe yn amgylchiad newydd a dyddorol yn hanes yr Eglwys yng 0 ZD Nghymru, ac yn un sydd yn debyg o brofi yn fendith a lies i waith eglwysig yn esgobaeth c Z5 fawr Ty Ddewi, gwyddom y derbynia ein darllenwyr air ym mhellach yng nglyn a'r 0 Z5 appwyntiad hwnw. Ac nid ydym yn credu y gallwn wneyd dim yn well nag ail-adrodd yr hyn a ymddangosodd mewn newyddiadur Seisnig parch us a phoblogaidd yr wythnos ddiweddaf. Meddai y newyddiadur :—Pan y mae Ynineillduwyr Cymru, rhifedi y rhai a aift o hyd yn llai, yn rhoddi prawf ymarferol o'r anonestrwydd ydynt yn barod i'w ddangos drwy yspeilio yr ofFeiriaid o'u heiddo, ac ymosod yn farbaraidd ar amddiffynwyr cyfraith a threfn. Y mae yr Eglwys yn rhoddi ateb i'w bygyfchion a'u diystyrwch drwy z,Y ddwyn er bron esgob newydd, nid mewn n ZD ysbryd herfeiddiol, ond yn unig fel ymgais t, Z5 bellach yng nghyfeiriad heddwch a thawelwch, enghraifft newydd o orchfygu drygioni drwy ddaioni. Amcan yr Eglwys yw ymddwyn tuag at yr ymosodwyr hyn, a'r rhai a fynent, ei dinystrio felly, fel pe nas gwyddent yr boll ddrwg sydd yn gorwedd yn yr hyn a wna ym- t, Z5 drechi gyflawnu; ac ymdrechu drwy gare- digrwydd ac heddychol, i'w hennill at well gwaith, a chyflawnu y rhwyg a wnawd ganddynt drwy eu gofynion annoeth. Y mae tu hwnt i bob ammbeuaeth gan nad pa beth a fu llwyddiant Y mneillduaeth Gymreig oes neu ddwy yn ol, ei bod yn colli tir yn awr. Cafodd yr Eglwys nawdd a chartref ym mynyddoedd a dyflrynoedd Cymru am ddeg cant o flynyddau cyn geni Ymneillduaeth, am gyfnod, a hyny yn benaf, o herwydd ei bai ei hun, ymddieitlnioau ei phlant oddi wrthi, ond y mae wedi cyfodi i'r lan eto, ac yn awr y mae eu haelodau a fuant unwaith ar grwydr, yn dychwelyd i'w chorlan, nid yn bob yn ddau a thri, ond wrth y cannoedd a'r miloedd. Hynyma sydd yn creu gwaith newydd, ac yn 0 y galw am wasallaeth csgob newydd. Pe na n 0 byddai yr Eglwys yn ad-ennill gafael ar y n t) boblogaeth, fe allai taw ychydig mewn cym- mhaiiaetb, o waith a fyddai i'r esgobion i'w n gyfiawnu. Gallasai hyd yn nod esgobaeth y 0 helaeth ac ymdrechol Ty Ddewi aros yn dawel o dan arolygiaeth ei phen-bugail gorweithgar a chydwybodol presennol. Ond y mae tyfiant beunyddiol yr Eglwys yn yr esgobaeth hon yn hawlio arolygiaeth tu hwnt i allu yr un dyn yn unig, ac felly fe gyssegrwyd esgob i Abertawe. Nid oes eisieu i neb deimlo yn anfoddlawn i'r Eglwys gael yr elfen newydd hon o gryfder. Nid oes yr un geiniog o arian y cyhoedd yn myned tuag at ei gynual. Nid oes neb yn colli dim drwy yr appwyntiad, tra yr ennilla miloedd drwyddo mewn llawer ffordd. Y mae yn foddhaus meddwl fod y ddau esgob Cymreig newydd yn ddynion tra chymmhwys i'w- swydd. Y maent yn ddau Gymro, ac yn siarad Cymraeg, fel nac gall yr hen a ihvi yniadau ar y tir hwnw gael eu gwneyd yn h wy. Nis gellir ond dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu /;) lleoodd gwahauol, a gobeithio y gallant gyfiawnhau eu happwyntiad trwy gyfiawnu gwaith mawr ac ardderchog ym mhlith eu cydwladwyr. Nis gallwn ddymuno dim yn well i bobl Cymru nag i C, ofynion cynnyddol yr Eglwys Gymreig ei I I gwneyd yn ddymunol i ychwanegu eto ym mhcllach nifer yr esgobion. Ef allai na bydd pawb yn diolch i ni am hyn, ond yr ydym yn edrych i'r dyfodol. # # Yn ddiweddar chwareuwyd dwy opera, wedi eu cyfansoddi gan Dr. Parry, y cerddor Cymreig, mewn chwareudy yng Nghnerdydd. Cynhyrfodd hyn eiddigedd duwiol rhyw dduwinydd o bregetlnvr yn y dref bono, a tbaranfolltiodd yn ofnadwy yn erbyn peth mor ysgymmun a'r chwareudy. Buasai cystal i'r 11 y gwr parchedig gadw o fewn ei derfynau c 11 priodol, o herwydd nid yw ei zel wedi dwyn unrhyw anrhydedd nac iddo ef ei hun nac i achos crefydd. Y gwir am dani yw, mae y 6 genym ni yng Nghymru ormod o ragfarn yn t> 0 n Z5 erbyn y chwareudy, a'r rhagfarn hwnw yn cyfodi mewn rhan oddi ar anwybodaeth ac mewn rhan o'n Puritaniaeth, Yr ydys yn sicr y gwnai chwareudy iachus ym mhob tref yn y wlad lawn cymmaint o ddaioni i foesoltleb, ac felly i achos crefydd, ac a wna nnrhyw gapel yno yn bresennol. Oddi ar ein gwybodaeth o Lundain, gallwn ddweyd fod dylanwad moesol y chwareudy ar boblog- aeth enfawr y ddinas hono yn anti lirtetliol, ac yr elai yn ddiwrnod du iawn ar y Brifddinas pe ceuid drws pob chwareudy ac ystafell gerddorol o'i mewn. Mae llawcr o bcthau cynnneradwy iawn mewn Puritaniaeth, ond y mae ei gormod zel yn anoddefadwy i bob dyn o synwyr cyfFredin ac o syniadau ihydd- frydeg a goleuedig. • ii- Gwelwn fod Ceredigion yn dechreu rhwbio n ei llygaid bellach uwch ben pwnc addysg uwchraddol. Cynnaliwyd cyfarfod i ystyric(l y cwestiwn mewn perthynas a'r sir yr wythnos ddiweddaf yn Aberystwyth. Wrth reswm fe ymdrechir cael ysgol uwchraddol yn y dref hono, os gellir. Gwelwn fod Aber- ayron a Llanbedr yn dihuno yn yr un cyfeiriad. Mae Bwrdd y Coleg yn foddlawn trosglwyddo adeiladau ysgol y coleg at wasanaeth ysgol, y n n yn yr hon y cyfrenir addysg uwchraddol. Un o'r nodweddion mwyaf dymunol a berthyn i Goleg Llanbedr yn y blynyddau diweddaf yw yr awydd a ddengys y Bwrdd i gyfarfod angenion yr oes a chyfaddasu y coleg, a phob n zn, peth yng nglyn ag ef,at ofynion amgylchiadau. Wedi'r cyfan, nid ydym yn gallu gweled pa ryw elw mawr i'r wlad a ddeillia oddi wrth Ddeddf Addysg Uwchraddol. Hyd yn hyn, cafodd addysg ragbarotoawl i'r coleg ei C) ID chyfranu mewn ysgolion preifat, neu gan ysgolion grammadegol y wlad, ac arnynt hwy eto y dibyna y baich yn benaf, heb law fod y Llywodraeth yn eu diddymu, yr hyn nid yw yn debyg. Nid yw Mr David Pugh, A.S., yn bwriadu sefyll dros Ranbarth Dwyreiniol sir Gacrfyrddin yn yr etholiad nesaf. Mae y Radicaliaid yn anadlu yn rbyddach o lawer wedi clywed y newydd. Mr Gwilym Evans, mae yn debyg, a fydd eu dewis-ddyn fel yiai- geisydd y tro nesaf. Mae Mr Evans wedi llwyddo yn fawr gyda'i Quinine Bitters, ac yr ydym yn meddwl y gwnai yn well drwy gyfyngu ei sylw a'i amser a'i fyfyrdodau yn y ,y cyfeiriad hwnw yn hytrach na gwneyd a seneddol o hono ei hun. Ym mhlith y miloedd pobl a deimlent eu hunain mewn perygl yn amser y ddaiargryn a gymmerth le yn y Riviera yn 1887, yr oedd un boneddiges a Loegr—Seisnes o waed, ond yn byw wedi ei phriodas yn Itali. Gwaredwyd hi o'i pherygl gan ddyn ieuanc o Sais, yr hwn oedd yn dechreu dyfod yn adnabyddus fel chwareuydd mewn theatre, ac yn frawd i nwyfelyddpoblogaidd. Ni cbafodd y boneddwr le i edifarhau am ei garedigrwydd, o herwydd fel dangoseg o'i diolchgarwch, mae y fonedd- iges wedi ei fabwysiadu fel ei mab, ac wedi ei waddoli a rhyw £ 50,000 gyda'i unig am mod iddo gymmeryd ei henw a tbrigo am dymhor byr bob blwyddyn yn yr Ital. # Cyrhaeddodd newydd torcalonus iawn o Melbourne (Awstralia) yn ddiweddar. Yn y dref hono yr oedd Ysgotiad o'r enw Richard Christie, got alcan wrth ei alwedigaeth, yn byw. Daethai yno o ddeutu chwech wythnos yn flaenorol o Zealand Newydd, ac yr oedd wedi bod yn yfed yn drwm am beth amser. Un noson gwelwyd bod ei dy ar dan. Adeilad 0 goed yn benaf oedd, ac amwisgwyd ef mewn byr amser gan y fflamau. Gwelwyd Christie oddi fewn yng nghanol y tan, a'i ben yn orchuddiedig mewn blanced. Gwnaeth un o'r enw Taylor ymgais o fyned i mewn drwy y ffenestr er achub y dyn truenus. Gyrwyd Taylor, modd bynag, yn ei ol gan y mwg a'r tan, ac wrth ymdrechu dyfod allan, Christie a syrthiodd i'r llawr. Yna y dyrfa o'i- tu allan a ymdrechasant ryddhau peth o ddefnyddiau yr adeilad yng nghefn y ty, er mwyn cael y truan i maes, ond pan wrth y gwaith, syrthiodd y t6 i mewn. Yna fe welwyd fod y dyn annbdus yn cael ei rostio yn fyw oddi fewn, heb neb yn gallu estyn dim cynnorthwy iddo. Wedi i'r tan losgi ei hun i maes, daethpwyd o hyd i gorff golosgedig Christie. Yr oedd yn 35 mlwydd oed, a chanddo wraig a dau o blant yn byw yn swydd Fife. • iii' Ymadrodd a glywir yn bur fynycli y dydd- iau hyn yw myn'd i lan y mor ac "aros sir lan y m6r." Yno y cyfatfyddir fL Thomas Jones, y flarmwr, a Lewis Rees, y lllasiwlI, a John Thomas, y saCI", a David Davies, y gweydd, a'r wraig hon a'r ferch arall, a phawb yn ymofyn iechyd neu bleser, neu am dreulio eu hamscr yn rhywle. Mae gair o gynghor C, zn 0 yn angcnrheidiol i rai o'r bechgyn sydd ar ]an y mor. Ceir llawer yno yn gwneyd gormod o ffyliaid o honynt eu hunain. Maent yn fynych yn ddigon o ffyliaid o ddeutu cartref, ond maent yn ddeg gwaeth ar lan y mor. Teimlant eu bod yn byw yn annibynol ar ddylanwadau en cyssylltiadau teuluol, a bod ganddynt 0 geiniog i'w gsvario. Lleoedd a fynychir yn fawr iawn ganddynt yw y Rope and Anchor, a'r Mariners, Compass a'r Jolly Tar. Yr ydys wedi clywed fod lawer iawn o farilau wedi cyrhaedd glan y m6r eleni o wahanol ferwedd- dai a gorsafoedd y rheilffordd. Wi th reswm at yfed yr amcenir y cyfry w, ond gellir yfed yn gymmedrol heb feddwi a gwneyd ffyliaid o n rD greadusiaid ar lun dynion. 1.<= Drwg genym gofnodi marwolaeth Ar- glwydd Cariiarfuli, yr hyn a gymmercdd le t) prydnawn dydd Sadwrn yn Portman-square, Llundain. Yr oedd wedi bod yn dyoddef oddi with y gymmalwst am rai wythnosau, ond nid oedd un perygl hyd yr ychydig ddydd- iau olaf. Cafodd yr ymadawedig ei eni Mehefin 24ydd, 1831. Bu yn briod ddwy waith, ac o'r wraig gyntaf y mae ganddo un mab a thair merch, ac o'r ail wraig dan fab. Ceidwadwr oedd yr ymadawedig, a bu mewn swydd pan oedd y diweddar Iarll Beaconsfield yn Brifweinidog. # # Mae y Tywysog Albert Victor (yn awr Due Clarence ac Avondale) wedi syrthio mewn cariad a'r Dywysoges Victoria o Teck, a dysgwylir y cymmer y dyweddïad le ym mlien ychydig o amser. Deallwn fod Eglwys newydd Sant loan, Caerfyrddin, yn orlawn o addolwyr pob nos Sabbath, fel y gorfodir cael cadeiriau o'r Ys- 0 gol Genedlaethol sydd ger llaw. Nid yw hyn yn proti, fel y dywedir yn fynych, fod yr Eg- lwys yn marw yng Nghymru, ac mai "estrones" yw hi YOHt,

PEGGY LEWIS.

PWNC YR EGLWYS SEFYDLEDIG…

CYNNADLEDD FFERMWYR GLAN TEIFI.

CLOSYGRAIG.