Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

DYSGYBLAETH Y CORFF. !

PENCADER.

LLANYBYTHER.

TREGROES.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREGROES. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Caniatewch i mi ychydig le yn eich newyddiadur clodwiw er ymdrechu rhoddi ychydig hanes y pentref din6d hwn. Yr oeddwn yn dysgwyl gweled hanes y wledd a gymmerodd le yma ychydig ddyddiau yn ol 0 Z5 yng ngholofnau y JOURNAL. Yr oedd yn siomedigaeth fawr i mi a llawer ereill na fuasai un o'r ddau offeiriad oedd yn bresennol yn anfon tipyn o'r hanes i'r JOURNAL. Pe buasai rhyw foneddwr neu foneddiges uchel wedi rhoddi y wledd i ysgol St. Ffraid's, fe fyddai hanes go dda yn cael ei anfon i ryw bapyr neu gilydd. Yr ydym wedi cael esiampl o hyn droion yn y plwyf hwn. Ond am wledd flynyddol Tregroes, nid oes neb yn ysgrifenu gair. Gan hyny cymmeraf fy ysgribin mewn .n In Haw i ysgrifenu atoch am y tro cyntaf, a gobeithiaf y gwna darllenwyr lluosog y 11 Z5 C5 JOURNAL faddeu i mi am fy ammherffeith- rwydd. Yr oedd yn arferol cynnal y wledd hon yn ysgoldy y Bwrdd, Tregroes, bob blwyddyn, a chynnelid cyfarfod llenyddol a chystadleuol ar ol hyny. Penderfynwyd ei chynnal eleni ar ben bryn cyfagos ar dir Dyff'rynllwynod, lie yr oedd hen gapel St. Fraid wedi bod. Darparwyd yn helaeth ar gyfer y wledd gan Mrs Davies, Beili; Mrs Evan?, Cwm; Mrs Lewis, Tregroes a Miss Margaret Lewis, Plasnewydd. Fe gafwyd gwledd ardderchog o de a bara brith a n 0 melusion bethau ereill. Yna cafwyd ychydig sports mewn cae cyfagos, pryd y rhoddwyd gwobrau i fechgyn a merched am redeg, itc. I ZIY "I Treuliwyd yma eto amser hynod ddifyrus. Yr oedd llawer o'r gymmydogaeth wedi dyfod yng nghyd. Gwelsom Mr a Mrs Jones, Gilfach-ddafydd Mr Thomas Jones, Llain; Mr John Davies, Dyffryn; Mrs Griffiths, Mr Thomas Evans ein hysgolfeistr, &c., yn eu hwyliau goreu. Teimlai pawb yn edifar fod L Mr Charles Lloyd, Waunifor, wedi methu d'od o herwydd absenoldeb oddi cartref. Terfynwyd trwy roddi diolchgarwch i'r boneddigesau a'r boneddigion oeddynt wedi 0 Z5 gweini ar y byrddau ar gynnygion ein parchus 5 my r, ticer a'n curad doniol ac ar ol canu Hen wlad fy Nhadau," aethom oil gartref yn lion, Z5 hoeuus a diolchgar. UN OEDD YNO.

EISTEDDFOD LLANYMDDYFRI.

LL A N FIH ANG E L-U WC H-G…

HAVERFORDWEST QUARTER SESSIONS.

[No title]

IMPORTANT SALE OF FREEHOLD…

CARMARTHEN BOROUGH POLICE…

[No title]

---------HOME AND FOREIGN…

__--TRADE REPORT.

------'_-----------COMMERCIAL…

Advertising