Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
RHAGOLYGON EIN IIAMAETHWYR.
RHAGOLYGON EIN IIAMAETHWYR. Nid oes dim ammheuaeth na ddechreuodcl gwellhad sylwadwy gymmeryd lie yn arngylch- iadau ein hamaethwyr, yr hwn sydd o hyd yn parhau, er pan ymddiried wyd awenau y llywodraeth a buddiannau y deyrnas i ofal y Weinyddiaeth bresennol. Yr oedd y wlad yn flaenorol wedi disgyn i'r cyflwr iselaf, yn drafnidiol ac amaethyddol. Taflwyd ffermydd a gweithfeydd mawrion i fyny, a'r llafurwyr a gweithwyr allan o waith. Yr oedd masnach yn farwaidd; tlodi, cynhwrf a throseddau o ganlyniad yn ffynu mewn ararywiol barthau o'r deyrnas—yn y trefydd mawrion yn ogystal ag yn yr adaloedd gwledig. Y mae yn wit, 0 1, Z5 fod hyn yn gymhwys i wledydd ereill; ond y mae yn rhaid cofio, pan fydd amgylchiadau y wlad hon yn isel neu yn nchel, yn farwaidd neu yn fywiol, fod hyny yn effeithio yn fuan ac uniongyrchol ar yr holl fyd trafnidawl, i raddau mwy neu lai, yn ol y cyssylltiadau'; o herwydd y mae y deyrnas gyfunol fawr hon wedi arfer bod yn ganolbwynt a main spring holl symmudiadau a buddiannau y byd. Priodolir, yn gyflawn, yr agwedd gyfyng ar t5 11 n bethau ag oedd wedi ein goddiweddu i sefyllfa 0 gynhyrfus yn lwerddon-y wlad fwyaf ifrwythlawn yn y byd. Yr oedd y tiroedd bras hyn wedi eu gadael i syrthio i anniwyll- iant a gwastraff, o herwydd ei bod yn am- mhosibl eu gwrteithio o achos ymyraeth y cynhyrfwyr diegwyddor. Bu y golled o'r cynnyrch i'r wladwriaeth a'r trigolion yn ammhrisiadwy ac o dan y Weinyddiath ag oedd mewn awdurdod y cyfnod hwnw, yr oedd pothau yn parhau myned o ddrwg i waeth. Yr oedd cynhyrfiadaiijjbrawychiadau, creulon- derau, poenydiau, llofruddiaetliau a throseddau ysgeler o bob math yn myned fwy-fwy ar gynnydd yn feunyddiol; a'r llywodraeth yn analluog i'w cyfaifod a'u gwrthrechu ac felly yr oedd ymddiried y byd arianawl a masnachawl ynddi wedi ei golli, ac antur- iaethau masnachawl a gweithfiiawl, gan hyny, yn farw gloedig. Yn y diwedd, er yn araf, agorwyd llygaid craft y cyhoedd a dad- ymchwelodd yr etholwyr yn ddifloesgni weinyddiaeth y gweinidog galluog, ond ansefydlog ac hunangeisiol, ac a osodasant y llywodraeth benderfynol bresennol i fyny mewn awdurdod yn ei He gyda mwyafrif anorchfygol. Nid cynted y cychwynodd Mr Balfour i osod ei droed i lawr ar warau y cynhyrfwyr, a, dangos ei fod yn benderfynol i adferu diogelwch i bersonau a llwyddiant i arngylchiadau yr Iwerddon, nag y crewyd ymddiried yn y wlad fod ei buddiannau, ei chyllid, ei thai a'i thiroedd, yn ddiogel o afael yr ysbeihvyr, ac fe ddechreuodd arngylchiadau cyfyngedig yr amaethwyr a'r llafurwyr yn n zn gyffredinol i ymsionci, ac yn raddol i ymfyw- hau dros y deyrnas, hyd nes erbyn hyn y mae ffermydd a thyddyuod, oeddynt gynt wedi eu taflu i fyny, ac wedi myned allan o wrteithiad, yn cael yntofyn am danynt; prynir a gwerthir tai a thiroedd, nwyfau, eiddo a phriodoleddau o bob desgrifiad gyda rhagor o 11 In 0 rwyddineb, ac ymddiried y ca y prynwr a'i blant eu mwynhau. Mewn gwirionedd, y mae yn ddiau, fel y dywedwyd at y dechreu, fod amaethydiaeth masnach ac arngylchiadau y deyrnas wedi gwella a chynnyddu yn sylweddol oflwyddyn i flwyddyn er pan y mae y Weinyddiaeth bresennol mewn audurdod ac y mae y cynnydd hwn wedi effeithio yn ddirfawr hefyd, am y rheswm a roddwyd, ar wledydd tramor, ac yr ydym yn awr mewn heddwch anrhydeddus a phob cenedl, yr hyn ni ellir dyweyd am ein sefyllfa yn flaenorol. Y mae yr ystyriaethau yng lighylch ein Z5 zn hamgylchiadau amaethyddol yn y gorphenol a t3 ac yn y presennol yn ein harvvain i ymholi beth yw ein rhagolygon am y dyfodol. Y mae y tal am lafur a thraul yr am- aethwr, pris ei yd yn neillduol, wedi gostwng braidd yn ddinystriol, a'i gydmaru a'r hyn oedd uwch deugain mlynedd yn ol. Ni raid myned ym mbell i ymofyn am yr achos, canys cydnebydd pob ffermwr fod y cyfryw brisiau isel i'w priodoli i fasnach rydd, ac ymgystadleuaeth a ui, er ys blynvddau lawer, ar ran yr America. Y mae'r talaethau yn gorlanw masnachoedd yr hen wlad --ydar gweddill sydd ganddynt i'w hehgor o'u gwenith a'u cydfwydydd Y mae hyn wedi profi yn niweidiol a thorcalonus i'n flermwyr, gan fod yn achos i gadw y prisiau i lawr, a gwrteithio y tir yn anfuddiannus. Y mae yn ymddangos yn bur eglur felly pe y byddai i'r wlad hon gau ei phorthladdoedd er rhwystro dwyn i mewn y nwyfau hyn yn rhydd, fel y mae y llywodraeth hono yn cau yn erbyn pob math o nwyfau a anfonir yno oddiyno, y byddai hyny yn tanteisiol i'n amaethwyr. Cawsent brisiau priodol am eu llafur a'u da, ac felly gallent flot-ddio i wrteithio a diwyllio c y y miliwnau cyfeiriau o dir sydd yn awr yn segur, a diffaeth, ac yn galw am amaethiad yn neillduol yn yr Iwerddon. Y canlyniad o hyny fyddai gwellhad amgylchiadau, a chynnydd a llwyddiant mewn gradd cyfartal pob dosparth yn y deyrnas, i lawer i'r iselaf. Nid oes dim dadl o'r peth. Y mae ein gwladweinwyr felly wedi gwled yn dda i wrthod aniddiflyn ein buddiannau ein hunain, ac i amgeleddu a rhoddi pob manteision i'n cydgystadlwyr tramor. Yr ydys hyd y nod wedi gwrthod mabwysiadu masnach deg (f(ti?- track'.), ond yn hytrach caniatau masnach rydd i bawb yn mhobpeth. Ymddengys, beth bynag, fod meddyginiaeth Z5 in n i'r cwyn ar ddyfod o gyfeiriad arall hollol annibynol ar y ddeddfwriaeth i-yddf rydol a radicalaidd sydd wedi nodweddu ein senedd y rhan fwyaf o'r hanner canrif aeth heibio. Y mae deddfau natur sef trefn Rhagluniaeth yn unbenaeth fwyaf ddiochrog, hunanddibynol {autocratic), yn anfeidrol fwy gormesol a didroi yn ol na deddfau y Mediaid a'r Persiaid y mae y dynged-rod yn troi yn sicr a diogel, gan daflu ei barnedigaethau a'i n 0 n bendithion, ei gwobrau a'i dirwyon, allan o radd i radd, fel y tro pob gris o'r olwynion yn gydreddol—a'r genedl y mae yn cytfwrdd a hi. Y mae dysgawdwyr cymhwys, y rhai sydd yn ^wncyd deddfau trefniant economical latos yn amcan eu hymchwil, yn meiddio treiddio i mewn a deall cylclidrodau y rhod yn fwy o perffaith o oes i oes ac wedi dyfod yn alluog i ragweled gydag eglurder rhyfeddol, amrywiol ddygwyddiadau, ae arngylchiadau a sefyllfa gwledydd yn y dyfodol. 0 Yn y cyssylltiad hwn y mae ein sylw wedi cael ei ddwyn at gyfres o ysgrifau mwyaf galluog sydd yn ymddangos yn tisol yn y 0 Z5 n C, cylchgrawn newydd rhagorol y Revieio of Revi(}U;, ac yii neillduol ysgrif yn y rhifyn diweddaf; yn yr hwn y mae yr awdwr yn adolygu erthyglau doniol Mr Wood Davies yn y Forum Americanaidd am y misoedd blaenorol. Y mae'1' erthyglau yn ymdrafod yn alluog a'r sicrwydd y bydd nid yn unig terfyn ar y di walliad o yd a chig o'r America i'r wlad hon mewn ychydig iawn o flynyddau, ond y bydd yn rhaid dwyn cyflenwad o'r cyfryw i mewn i'r Talaethau er cynnaliaeth y trigolion. Ymddengys fod cynnydd naturioll y boblogaeth yn y wlad hono yn rhagflaenu c Z!1 cynnydd yr acerau nen y cyfeiriau o dir a ddygir o dan feithriniad yn gyfiym iawn. Yn ystod y pedair blynedd ar ddeg diweddaf, cafodd gan gymmaint o dir ei roddi dan gnwd ag oedd yn cyfateb yn 1884 i 3,51 (1) o aceri y pen o'r boblogaeth. Yr oedd hyny yn fwy o chwarteracer nag oedd yn angenrheidiol tuag at eu traul eu hunain. Cynnyrch y cyfryw weddill o chwarter cyfer mewn blawd a chig America fu yn dylifo'n tnarchnadoedd cartrefol; ac yn dirwasgu ar ein amaethwyr. Ond sylwer erbyn y flwyddyn 1888, yr oedd cyfartaledd y pen o'r bobl o aceri o dir dan gnwd wedi cwympo o 3,51 i 3,30. Yn ol y graddau hyn, gan ystyried cynnydd naturiol y boblogaeth a chyfartalcdd blynyddol y lluosogiad gan y mudwyr i'r wlad, ni fydd erbyn 1894, ond tri chy-fer gyferbyn a phob person. I gadw ym mlaen fel ag i fod yn gyfartal a chynnydd naturiol y bobl, ac i fod ,y y yn alluog i feithrin y 31 cyfer angenrheidiol o t, 4 ZD dir y pen, bydd yn ofyuol ychwanegu 6,000,000 (chwech miliwn) o aceri yn flynyddol at ei thir aredig, pan am amryw flynyddau aeth heibio ni ennillwyd hanner y eyfryw ychwanegiad. Y canlyniad diammheuol yw, y bydd gofynion y boblogaeth gartrefol t' 0 znl America cyn pen pum mlynedd pellach, yn llyncu yr holl gyunyrch o gnydau yd tatws a gwair, ac ni fydd gan y wlad ddim i'w hebgor ond tobacco, cotton, ac anifeiliaid a bydd y cyfanswm o'r nwyfau hyny hefyd yn myned yn llai bob blwyddyn fel y bydd traul a rhifedi y trigolion yn cynnyddn. Yn y cyfamser, bydd y prisiau yn codi a'r flermwyr yn llwyddo yno. Y mae y dystiolaeth uchod yn ddiymwad— y mae yn sylfaenedig ar ffeithiau a ffigyrau n zY sefydlog; y rhai sydd wedi cael eu harchwilio a u profi gan y Review of -Reviewers, gyda tliraul a thrafferth, cyn eu cyflwyno i sylw ac ystyriaeth trigolion y deyrnas hon. Gwelir ar unwaith eu bod o'r pwys mwyaf i ni. Y mae ymgystadiiad yr America yn ein marchnadoedd wedi chwyldroi ammodau amaethyddiaeth yng Ngliymru, Lloegr a'r Iwerddon ond y mae y rhagolwg a rydd y ffeithiau uchod yn un o ollyngdod buan i'n ffermwyr oddi wrth bwysau gorlethol marchnadoedd wedi eu gorlifo gan n Z7, Z3 gynnyrch gweddillion prairies yr America; ac yn dangos fod llwyddiant a helaethder yn eu haros y bydd ein hadnoddau ein hunain yn cael eu dadblygu, ein tiroedd diymgeledd yn cael eu gwrteithio, ac angenion y boblogaeth yn cael eu diwallti gan gynnyrch ein gwlad, a'n nwyfau ein hunain er budd a ffyniant pob dosparth o'r trigolion. Rhynged bodd Rhagluniaeth mai llywod- raeth ddoeth a sefydlog fydd yn rheoleiddio ein buddiannau, er lies a llwyddiant yr holl deyrnas; ac yn neillduol fel ag i adferu llonyddwch, ffyniant, a chyflawnder i'n brodyr cyff'rogar ac anwadal, yn y chwaer ynys; y rhai sydd yn cael eu camarwain mor ystryw- gar gan gynhyrfwyr diegwyddor ac hunan- n tn Z5 0 geisiol, i wrthod y manteision raawr a gynnygir iddynt gan y Weinyddiaeth bresennol yr hon sydd yn ceisio drwy bob modd eu denu yn nes ac unol tuag atom, yn lie eu gadael i fyned Z3 Z5 o'r neilldu i ynidrybaeddu yn ddiymgeledd yn bleidiau ymrysongar a gelyniaethus; ac i syrthio yn ysglyfaeth i'r ysbeilwyr sydd yn n manteisio ar eu hamgylchiadau a'u tymherau oy nwyd-wyllt.
COD NEWYDD ADDYSG.
COD NEWYDD ADDYSG. Cynnaliwyd cyfarfod pwysig yng Nghaer- dydd yr wythnos ddiweddaf, i ymdrin a'r cyfnewidiadau a ddygwyd i mewn i'r Cod Newydd. Mr C. T. Whitmell, un o arolygwyr y llywodraeth oedd y prif siaradwr; a chan fod ei sylwadau yn ddyddorol a gwerthfawr, ni a'u gosodwn ger bron ein darllenwyr. n Z3 Wedi crybwyll y rhesymau dros alw y cyfarfod yng nghyd, dywedodd Mr Whitmell y byddai yn fanteisiol i ysgolfeistriaid gynnal cynnadledd er mwyn dod o hyd i bob cynnor- thwy agwybodaeth ag a allent gael i'w cyfeirio Z3 Z3 1:1 yn ystod y flwyddyn ddyfodol. Gofynai y Cod Newydd i reolwyr ysgolion gyflawnu llawer o bethau na cheid yn yr hen God, ac un peth newy(ld pwysig a geid ynddo oedd y 0 ZD ddarpariaeth a gynnwysai tuag at sefydlu cyfundrefn o athrawon cylchdeithiol. Gellid defnyddio athraw cylchdeithiol i ddysgu y fath bethau a choginiaeth ymarferol, golchi Z!1 Z5 smwddio, ymarferiadau milwrol, ac felly yn y blaen. Cyfrifai y chwareuai yr athraw cyleh- deithiol ran bwysig yn yr amser a ddaw. Galluogai hyn i nifer o ysgolion bychain i 0 Z3 gydymuno tuag at gyrhaedd addysg ymarferol in, L, yn !y canghenau neillduol, ac yn y flaith fe addefid y syniad o addysgiaeth ganolog yn cael ei chyfranu gan athraw yn meddu ZD gwybodaeth a'r canghenau neillduol hyny. 5 Z!1 Crybwyllid arluniaeth fel pwnc gorfodol ar C5 gyfer y bechgyn, a sonid am dano eilwaith fel mater o ddewisiad i'r plant ieuangaf yn lie Z5 gwnio, ac yr oedd efe (Mr Whitmell) yn cyd- weled a'r awgrymiad. Ym mhlith y canghenau neillduol oeddent i'w dysgu fe geid Cymraeg, Almaeneg, cadw cyfrifon, a llaw-fer, a golchi a smwddio i ferched. Rhoddai y cyfryw gyf- newidiadau ryddid mawr i ysgolfeistriaid a rheolwyr ysgolion, a helaethder o bynciau i'w dysgu. 0 barthed i'r rheolau a gynnwysai y Cod ar gyfer is-athrawon, dywedodd Mr Whitmell fod un man ynddo yn crybwyll am y nifer lleiaf a'r nifer mwyaf o oriau gweithio y dydd gan is athrawon, a thvbiai y gwelai ynddo y syniad o ganiatau i'r is-athraw ryw 0 gyiuniaint o amser i fyfyrio yn ystod oriau yr ysgol. Hyn a'i hadweiniai i grybwyll am 11 Z!1 gyfundrefn y dospeirth canolog- er mwyn addysgu is-athrawon ac yr oedd y trefniad yn cyfeirio at ddiwygiad yn y flordd hono. Da oedd ganddo weled fod y gyfundrefn wedi C, zn ei mabwysiadu gan Fwrdd Ysgol Caerdydd, a dysgwyliai bethau mawr oddi wrthi. Gobeithiai weled dospeirth canolog yn cael eu sefydlu yng Nghasnewydd a manau ereill. Ilyderent weled athrawon yr vsgolion gwir- foddol yn ymnno ag athrawon y byrddau 0 ysgol, ag y deilliai lies oddi wrth hyny i'r n n naill fel y Hall. Cynnwysai y crld lawer o gyfnewidiadau pwysig yng ngJyn ag is- athrawon, ac un o honynt oedd peri iddynt basio arholiad i fewn i goleg Nornialaidd, yn lie yr un ar ben en pedair blwydd fel is- athrawon. Os cai yr is-athrawon barotoad dyladwy yn ystod y tair blynedd gyntaf, ni byddai nn anhawsder ar eu ffordd i basio yr arholiad am fynediad i mewn i'r coleg, ond tueddai y rheolau newydd i gau y drws yn erbyn ymgeiswyr anghymmwys. Pwnc pwysig arall oedd yr un wrthodai ganiatad i is-athraw fyned yn y blaen a'i waith os methai ba-sio ei arholiad ddwywaith yn olynol. Cyn- nelid yr arholiadau i mewn i'r coleg yn y colegau Normalaidd fel y gwncir yn awr, ac hefyd mewn manau canolog a chyfleus ereill. Yr is-athrawon yn y dyfodol a fyddent y rhai hyny a basient yr arholiad am fynediad imewn i'r colegau Normalaidd. Byddai yr arholiad hwnw yn ago red hefyd i'r cyfryw ag na fuasent yn is-athrawon. Hyny oedd, y caniateid i rai wedi derbyn graddal1 mewn prif ysgolion i gyflawnu swydd athrawon mewn Z5 Z5 ysgolion elfenol. Da fyddai ganddo ef (Mr Whitmell) eu croesawi, o herwydd byddai eu diwylliant a'r ymarferiad meddyliol a fyddent yn dra dymunol, ac ni byddai achos i ddrwg- deimlad neu eiddigedd fodoli rhwng y naill ddosparth o athrawon a'r llall. Yr oedd hyn yn newyddbeth pwysig, ac yn un a allai ac a ddylai brofi yn fantais ^fawr iawn. Gosodid pwys mawr yn y C«d ar addysgiaeth is- athrawon, o herwydd yr oeddys wedi gwcled mai cyfundrefn yr is-athrawon oedd un o fanau gweinion yr holl seem, ac yr Ot dd yn un o'r pethau na ellid gyfnewid yn helaeth heb wario cryn lawer o arian yn ei gylch. 0 barthed i'r grant y llywodraeth yn awr a wrthodai yr oil o hono i ysgol ar ol dau arholiad anffafriol, a thybiai yr annelai hyn at yr ysgolion gwael a diles, ac yr oedd rhai o'r cyfryw genym eto. Yr oedd gan ddipartment addysg liawl hefyd mewn trhai arngylchiadau, i gadw yn ol ranau o'r grant. Fe geid grant Z5 Z5 mawr o 14s. neu 12s. yn awr-y swm olaf oedd y grant lleiaf a geid—a byddai hyn yn rhwyddineb mawr i reolwyr ysgolion, o herwydd ni byddai raid ymorphwys bellach ar hyn a hyn o arian a geid yn ol y cant. Telid hyn a hyn o arian a geid yn ol y cant. Telid sylw arbenig i don gyffredinol a threfn yr ysgol, ac yr oedd arolygwyr i weled nad oedd athrawon i wasgu gormod ar blant o feddvliau araf a gweinion, a darperid hefyd y byddai'r gwaith yn gyfryw ag a ellid yn deg ei gyflawnu n 0 yn ystod oriau yr ysgol ac nid mewn amser uwchlaw hyny. Dymunai alw sylw arbenig at ddysgn coginiaetb, ond yr oedd eithriad i hyny. Darperid ar gyfer dysgu golchi a m 1 Z5 smwddio am y waith gyntaf erioed yn y Cod. Cynnwysai hefyd ddarpariaeth i roddi grant ychwanegol o ddeg punt i ysgolion bychain mewn manau a'u pobiogaeth o dan bum cant. 0 barthed i ysgolion nos yr oedd darpariaeth newydd o werth mawr. Ni byddai yn l angenrheidiol i unrhyw blentyn a fynychai ysgot nos, ac a aethai yn llwyddiannus drwy y pummed Standard, fyned dan arholiad ym mhynciau y Cod," yr hyn a roddai gyfleustra 1 fechgyn a merched i fyned yn eu blaen gyd?: phethau mwy dyddorol yn yr ysgol nos. Fe genfydd ein darllenwyr fod y cyfnewid- iadau ag y sonir am danynt uchod o'r pwys mwyaf i'r wlad. A dysgwyliwn yr esgorant ar ganlyniadau cyfatebol mewn gwerth i'w pwysigrwydd. Yr oedd yn dra ami wg mai yn fethiant hollol y troisai y ddeddf addysg allan fel yr oedd o'r blaen ac yr oedd athrawon, rheolwyr ysgolion, a plilaiit yr holl wlad yn gwrymu o dan y caledwch a orfodai arnynt. Bellach, yr ydym yn anadlu yn fwy rhydd ac ar ben y flbrdd i gyrhaedd mantais a lies cenedlaethol.
DREFACH, LLANGELER, A'R GYMMYDOGAETH.
DREFACH, LLANGELER, A'R GYM- MYDOGAETH. Nid oes ardal fwy blodeuog a llwyddiannus, In ef allai, i'w chael yng Nghymru ar hyn o bryd na'r un i ba un y mae Drefach yn ganol- bwynt. Ynddi fe welir bywyd llaw-weithfaol yn ei lawn waith. Hynodir ei preswylwyr gan ysbryd cyhoeddus ac anturiaetbus, fel y prawf y nifer o law-weithfaoedd gwlaneni a gynnwysa. Fel mewn llawer, ac yn wir y rhan fwyaf o enghreifltiau yng Nghymru, ni foddlonai gwyr blaenllaw yr ardal hon i'r afon —-y Bargod—redeg heibio yn dragywydd gydag ond yn unig dyfrhau a disychedu ei glenydd, eithr hwy a'i gwnaethant yn wasan- aethgar i droi eu llaw-weithfaoedd er lies a llwydd a chyfoeth iddynt hwy ac i'r trigolion creill. Mae llaw-weithfaoedd Meiros a'r Dyffryn, y Babell, a Phantybavcud yn glod i'r ardal, o herwydd rhyngddynt rhoddant WijitJi rheolaidd i ugeiuiau o ddwylaw. Hynodir trigolion yr ardal hon gan amryw C5 t5 rinweddau a'u gosodant yn esiamplau teihvng i'w hefelychu gan ddosbarthiadau gvveithiol Cymru. Ni cheir en gwell o barthed diwyd- rwydd, sobrwydd; glanweithra, cynnikleb, darbodaeth, ymgais at hunan-ddiwylliant, crefyddolder, a hunan-barch yn un cwr o'r Dywysogaeth. Nid yw chwarelwyr sir Gaer- narfon un gronyn yn well na gwehyddion Penboyr a Llangeler. Mae'r chwaielwr. ef; allai, gyda'i fanteision uwch ac amlach, yn fwy gwybodus, yn drymach dyn, fel y dywedir, eithr nid yw un mymryn yn well dyn, yn rhagorach dinesydd, ac yn gywirach ac union- ach aelod o gymdeithas na'r gwehydd am yr hwn yr ydys yn son. Anhawdd coleddu syn- iad llawn a chywir am dano cyn ei adnabod. Nid y lleiaf ym mhlith ei nodau da yw y dy- muniad sydd ynddo am fyw, a rhoi chwareu teg i ereill fyw hefyd. Hyd yn hyn nid yw ei fanteision i ddiwyllio ei hun, ac i ddifyru ei bun, wedi bod yn lluosog iawn. Da genym, fodd by nag, weled fod mudiad ar draed i'w gynysgaeddu ag un fantais cyn bo'n hir, ac yr ydyrn yn gobeithio y deil y gwehydd a'i gym- C) t5 t, mydogion ereill, afael ami. Yr ydyin yt, cy- ZD feirio at y Ddarllenfa newydd sydd yn awr yn cael ei hadeiladu o ddeutu hanner y fiordd rhwng y Jbelindre a'r Drerach, yr non a fydd yn fath o ddoleu gydiol, ac yn bwynt cyd- gyfarfyddiad rhwng preswylwyr y ddau le. Ein cred ni yw, y dylai perclienogion llaw- weithfaoedd y gyrumydogaeth ymarfer yr ys- bryd anturiaethus a feddant trwy ddwyn ychwaneg o gyfleusterau hunan-ddiwylliant corfl* a meddw], a difyrwch diniwaid ac iachus, i gyrhaedd y rhai hyny a ymddibynant arnynt yn uniongyrchol neu anuniongyrchol. Troi hyny, ni a gredwn, er )iiantais i'r percii(,, ii ()("ion eu hunain yn y pen draw, o herwydd byddai yn foddion i asio y gweithiwr wrth y maistr yn nes ac yn dynach, ac felly ni byddai ond gobaith gwan gan ysbryd anghydfed ac anghydwelediad i yra cy i rliyngddynt, megys 0 11 ag y gwnaeth yn y guiaf diweddaf. Nid ym heb wybod am y swn sydd ym inrig y morwydd 0 tua Narberth obry, a bod rhyw gyfeillion yno ar y rhai y mae ysfa am lesoli eu cyd-ddynion, ond ni a gryf obeithiwn na ddaw ond y da i bob oclir oddi wrth en hymgynghoriadau. INIae yn wir fod peth lies a daioni wedi deilliaw oddi wrth y brwydrau a gymmerasant le rhwng cyfalaf a llafur, ond ennillwyd hwy, 0 1 cofier, drwy aberthu llawer iawn o (Iti y gweithiwr, ae ilid y peth lleiaf a goll wyd mewn llawer enghraifft yw yr hyder a'r ymddiried- aeth a fodolai unwaith rhwng y ddwy blaid. Y mae genym obaith cryf y try anturiaeth y Ddarllenfa yn fantais fawr i'r trigolion yn y lie. Dymunem roddi un awgrym i'r [)\vyllgor sydd wrth lyw y synimudiad. Oni fyddai yn ddymunol o beth iddynt geisio gwasanaeth rhai o brofiad a gallu yn y gymmydogaeth Z5 ZD hon, a chymmydogaethall ereill hefyd, o bryd i bryd, i draddodi araith ar ryw destynau dydd- orol ac ymarferol ? Gellid gwneyd hyny un- waith y niis o leiaf. Ni fynem i'r areithiau hyny gosti dim, ond iddynt fod yn rliad. Nid ydym yn meddwl fod gormod o waith gan offeiriaid a phregetiiwyr ac ysgolfeistriaid, a chyflogwyr llafui-, ac amryw o amaethwyr a chrefl'twyr a gweithwyr y cymmydogaethau hyn fel nad allent ymgynimeryd a thraddodi araith fer ar ryw destyn a gwyddant hwv lawer yn ei gylch. Neu gelli(I cael dwy neu dair araith o hyd cymmedrol yr un noson. Pa ham dwy neu dair o areithiau yn fwy na dwy neu dair o bregethau yn yr un cyfarfod ? Credwn y byddai cwrs o areithiau felly yn attyniadol a llesol mewn lie o'r faih hwn. Nid ydym ond yn taflu allan yr awgrym. gan obeithio y gwel y pwyllgor yn dda yn eu doethineb a'u gwybodaeth i'w rhoi mewn gweithrediad o hyn i'r gauaf nesaf. Wrth 11 el derfynu, dymnnem hefyd annog yr ardalwyr i undeb a chydweithrediad. Gwelwyd dro yn ol un o'r corau canu mwyaf blodeuog yn y Dywysogaeth yn y lie hwn, ond y mae wedi ymwasgaru, a'i aalodau heb ddim asbri ac yni a zel ynddynt ar hyn o bryd. Pa hyd y pery pethau i fod felly, nis gwyddom, ond gobeithio y daw yn dro cyn hir. Mae yn dda genym weled nad yw yr ysbryd plaid a sect mor uchel ei ben yn yr ardaloedd hyn ag mewn llawer o fanau ereill y gwyddom am danynt. Mae yma. Eglwyswyr, Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Annibynwyr, ac Undodiaid, ond nid yw y cloddiau flin sydd rhyngddynt yn uchel iawn. Mae hyny yn faintais fawr, o herwydd lie mae ysbryd plaid a sect yn uchel iawn, mae rhagfarn a cliulni ac anwybodaeth yn gyfatebol uebel. Rhy an- hawdd i gymmydogaeth a nawseiddiwyd gan ysbryd Dr. Griffiths, Llandeilo (Llangeler gynt), ae a roddes fod i Dr. Harris Jones, ac a wlithwyd gan ddoniau tyner Myfyr Endyn am flynyddau, goleddu llawer o gulni a rhag- farn. Hir, hir y parhao i fod yn rhydd- frydig felly, tneddwn.—IMEIROS.
BUGEILIAID Y MYNYDD DU.
BUGEILIAID Y MYNYDD DU. Toraas—Wei, fechgyn, yr ydych wedi cael I digon o amser bellach i gnoi eich cul ar farnau y dynion dysgedig o wahanol saflau a daliadau gwleidyddol a osodwyd o'n blaen mor gryno gan Howel y tro diweddaf mewn perthynas i waddol yr Eglwys, ac ni fyddai allan o le i ni gael eicli barn chwi ar y pwnc pwysig hwn heddyw. Daniel—Yr wyf fi bron bod o'r nn teimlad a'r pregethwr hwnw oedd yn ceisio llefaru j dipyn ar ol pregethwr arall wedi pregethu yn hynod ddylanwadol ac awdurdodol o'i flaen, ac fe fyddai yn llawer gwell ganddo ef i fod yn ddystaw ar hyny o bryd. Dyna fy nheini- lad innau yn hollol yn bresennol. Po fwyaf feddyliaf ar y pethau ysgrifenodd dynion mawr Howel, lleiaf i gyd yw'r awydd ynof i ddweyd dim yn rhagor yn erbyn gwaddol yr Eglwys, canys y mae genyf tinnau dipyn o broperty, ac, with reswtii, yr wyf am ei gadw i mi fy hun, ac i'r plant ar fy ol. Peth per- yglus iotwit i'w chwareu ag eiddo o'r fath hyn. Jacob-Os na ellir cyft'wrdd a gwaddol yr EgI wys heb beryglu gwaddol y capeli a n Z5 gwaddol personau ereill, gwell gadael yr Eg- n 13 113 lwys a'i gwaddol yn lIollydd; ond yr oeddwn o'r farn y gallasai Parliament basio cyfraith i dtefnu gwaddol yr Eglwys heb gyflwrdd ag un gwaddol arall o gwbl ac os na wnant gario allan fesurau o'r fath a garwn ni, beth fyddwn ni yn well o Barliament ? Tomas-Fe elli di, Jacob, benderfynu, os pasir cyfraith i ysbeilio'r Eglwys a'i gwaddol, y bydd pob gwaddol arall o dan awdurdod y gyfraith hono, canys ni fyddai yn deg i wneyd un cyfraith i'r Eglwys a cliyfraith arall i'r C- capel, ond dylai pob cyfraith fod er lies c-yifrc- din holl ddeiliaid y deyrnas heb un gwahan- iaeth, a dyna beth ydym ni wedi bod yn waeddi am dano am flynyddau, ac eto, dyna ti, Jacob, yn myn'd vn hollol groes i dJymun- iad pob Rhyddfrydwr egwyddorol. Toriaeth penboeth fyddaf yn ystyried pob dyfais an- onest o'r fath a grybwyllaist. Jim—Y mae dynion mawr ereill o'r farn y dylai gwaddol yr Eglwys fyned at addysg i'r do ieuainc sydd yn codi, a phe bai hyny yn cael ei wneyd, byddai rhyfel y degwm yn darfod o'r tir. Peth crocs iawn i gyd wybod Ynmeillduwr egwyddorol yw talu at gynnal yr Eglwys, ond ni byddai ond peth naturiol iawn i ni dalu at addysg neu ryw achos o'r fath. C) Ilowel-Garw mor dwp wyt ti, Jim. Y mae yn audwg i bawb sydd am weled fod Z5 y gwrthwynebiad cryfach wedi cael ei ddangos mewn nianau i dalu degwm at gynnal ysgol- ion nag i'r Eglwys. Yr wyf fi yn gwybod am bhvyfi wedi talu degwm yr Eglwys yn ddigon diddig, ac eto wedi ymladd ei cbalon n n yn erbyn talu degwm at gynnaliaeth ysgolion tY gwaddoledig. Hefyd, y mae rbai Ymneilldu- Z5 wyr wedi gwrthod talu degwm i Ynmeillduwr, o blegid y mae rhai Ymueillduwyr yn derbyn degwm, a phe bait ti, Jim, yn cael cyfle i wneyd bargen dda wrth brynu degwm, mi fentraf fy nihen bant y prynit ef mewn mynyd, a gwae i'r neb feiddiai agor ei eneu yn erbyn talu degwm. Onid yw yn flaith fod cadeir- ydd Cynghor Sirol Caerfyrddin, yr hwn sydd yn Radical egwyddorol, wedi gorfod rhoi I Radicals diegwyddor yn llaw'r gyfraith cyn 1 Z5 cael dimai goeli o degwlH oddi wrthynt ? Gallesid dYHgwyI y byddai Radicals yn barod i dalu degwru i Radical, beth bynag. Na, na, Jim, nid oes a fyno cydwybod o gwbl a'r cwestiwn y degwm. Ariangarwch a thraeh- want sydd wrth wre' Jdyn y cyfan. Dafydd—Qwiv foi Howel wedi gosod barn- au dynion mawr < n blaen gyda golwg ar bwnc y degwm, ont y mac ein gweinidogion I gall nog ni yn dweyc. fel arall. Yr wyf wedi eu clywed lanver o weitliiau yn dweyd wai perthyn i'r senedd y mae eiddo'r Eglwys, ac y dylid dadwaddoli yr Eglwys er mwyn gwadd- ol i ysgolion uwchraddol yn y wlad. Dynion Z5 dyeithr i mi ytlyw dynion Howel, end am ein gweinidogion parchus, yr wyf yn en hadnabod ZD CD yn drwyadl, ac yr wyf bob amser yn barod i gredu pob gair a ddywedant. Howel—Rhaid dy fod di, Da fydd, yn dech- reu penwanu cyn byth y buaset yn siarad fel yna. Pe bai rhai o'r gweinidogion yna yn ceisio genyt fynd i'r afon a boddi, digon tebyg y byddet yn ddigon parod i ufuddhau, ac yn wir fe fyddai yn well genyf fi daflu fy nihen i'r a foil na bod yn euog o ysbeilio Eglwys y y Duw byw o'i heiddo henafol a chyfreithlawn. Rhaid mai dyn an wastad yn ei holl flyrdd yw y dyn hwnw sydd yn credu pob peth a ddy- wedir gan y gweinidogion politicaidd yna, canys y maent mor gyfnewidiol yn eu dywed- iadan, Fe ddywedodd un o honynt yn rasis Peggy Lewis yng Nghaerdydd pwy ddydd nad oedd yr Eglwys yn ddau cant oed eto, ac y mae rhai o'i phlant yn henach na hyny, a phwy glywodd am un plentyn wedi myned yn henach na'i fam ] Ychydig amser yn ol, mi glywais un gweinidog yn dweyd nad oedd I C, ganddo ef ddim llawer o ffydd yn Mr. Glad- stone, ond bod yn dda ei gael ef fel rhyw gJwtyn llestri; ond mae Mr. Chamberlain oedd ei ddyn ef, ac mai hwn oedd y coming rnxn ond erbyn heddyw y mae Mr. Cham- berlain wedi myned yn is na chlwtyn llestri, a Mr Gladstone wedi myned yn dduw bach yn ei olwg. Hefyd, mi glywais weinidog arall yn dweyd mewn cyfarfod cyhoeddus ei fod ef wedi colli fiydd yn Mr. Chamberlain, a bod Chamberlain wedi myned yn ch—m—b—r- p-t y mac cywilydd arnat fi ei sillebu yn llawn, ond nid oedd dim cywilydd ar y gwein- idog uchod i waeddi'r gair yna yn groch ac yn 0 n n groew, a hyny uwch ben cannoedd o fobl oedd yn gwrando arno Dyna iaith o eneu gwein- idog Efengyl Dir helpo, Dafydd, druan, os yw yn myned i wrando ar gciliogod gwynt o'r fath hyn. Nid oes un cydmhariaeth rhwng y gweinidogion hyn a'r cewri a enwais i y tro diweddaf. Job-Ond rhaid i ni ystyried fod rhai gweinidogion da a phwyllog wedi traethu eu lien ar y pwnc o dan sylw, ac y maent yn hollol o'r farn y dylid dadwoddoli yr Eglwys, ac y byddai hyny o les i'r Eglwys ei hun. Y mae un Doctor mawr pel,thynol i'r hen Corn" wedi bod yn siarad yn gryf iawn dros hyny yn ddiweddar, ac fe ddylai Doctoriaid o'r fath hyn wybod mwy na'r cynredin ar gwestiwn o'r fath. Toiiias--Yi- wyf finnau wedi synu peth am ymddygiad y Doctor a grybwyllwyd, canys yr oedd yn arfer bod mor dawel a'r oen bach hyd yn ddiweddar, ond fe allai fod rhyw reswni dros hyny. A ddarfu i chwi, fechyn, ddim clywed bod eyfaill agos i'r Doctor wedi bod y.n ymgeisydd am swydd neillduol yn yr Eglwys. ond ni lwyddodd i'w chael ? Beth bynag, y mae yn dipyn yn hynod bod y Doctor yna wedi bod yn hollol ddystaw gyda golwg ar y pwnc hwn hyd ddyfodiad yr aflwydd uchod. Y mae dynion yn cymmeryd eu llywodraethu gan amgylchiadau yn fwy na chan egwyddor- ion yn y dydtliau presennol. Nid fel hyn y dylai pethau fod, ac nid fel hyn yr oedd yr hen weinidogion yn yniddwyn. Pregethu yr 11 Z, Efengyl yn ei phurdeb oedd gwaith yr hen y weinidogion pregethu politics yw prif waith y pregethwyr ieuainc yma. Ymdrechu cael n dynion i'r nefoedd oedd amcan yr hen wein- idogion ond cael dynion i'r Parliament, School Boards, a'r County Councils ydyw hobbi y gweinidogiou politicaidd presennol. Yr wyf yn rnethu a deall beth yw'r aflonyddweh sydd arnynt. Y maent yn sicr o dynu rhyw farn ar eu penau eu hunain a'r capeli bob yn dipyn. Howel-Mi ddywedaf wrthot ti, Tomas, beth yw'r achos o'r erlid a'r aflonyddweh yn erbyn yr hen Fam Eglwys-clmfigen ac eidd- igedd. Pc baent ond cael drws agored i weinidogaeth yr Eglwys, fe elent trosodd dan n el ganu. Ac onid yw yn 1iitith gyhoeddus fod crygiau mawrion o applications oddi with y pregethwyr yna gan yr esgobion Cymreig, yn dadganu eu bod yn awyddus iawn i gael der- byniad i weinidogaeth yr Eglwys? Y mae hyna mor wir a bod yr hen fynydd du yn sefyll ar ei sodlau ac ni synwn ni fawr mai y pregethwyr sydd yn gwaeddi uwchaf yn erbyn yr Eglwys sydd wedi bod y mwyaf taer i gael myned i'r Eglwys eu hunain. Y mae t, zn ymddygiadau o'r fath hyn yn ddigon i'm hela i yn grac iawn, ac yr wyf yn awr yn myiul ar ol y defaid er mwyn i'm tyminorau gael amser ddod i'w lie. Da bo chwi hyd y tro nesaf.
Y GELFYDDYD 0 FOICOTIO.
Y GELFYDDYD 0 FOICOTIO. Nid rhyw hanner gwaith a gyflawnant yn y Werddon. Cymmerer y rhybudd boicotio canlynol, yi hwn, wedi ei argraflu ar bapyr gwyrdd, a gvlchdaenwyd yn dra helaeth hyd a lied swydd Tipperary, a'r hwn a dynwyd allan o rifyn diweddar o'r Murray Magazine :—- Boicotiwch Boicotiwch Boicotiwch Smith Barry, Basdardd benaeth y gwir ddiwreiddiol. Horace Townsend, Goruchwyliwr celwyddog, olewaidd, hylithr, cyflogedig y Syndicat; Walter Nolan Y Twrne wrth raid—Duw sy'n gwybod o ba le Pateshall Flewog, Y gweithiwr dichellddrwg, hydwyth, o gefn- dyllau tref Seisnig anadnabyddus Caldwell Gawliog, Offeryn puteilliol y swyddfa Hauraham Gyffcler, Y gwr wrth raid cyftredinol Y Cyn-risglwr Mulqueen, Y pryf newyddion Y Cyn-sowldiwr English, Yr ysbeiliwr cospedig—ysgrabiwr Ty Cooke 0 Z3 Kennedy, A holl dreth-gasglwyr a gweithwyr y flermydd 1-1 0 ZD o ba rai y trowyd allan eu preswylwyr. Pawb a gcfnogant neu a gymdeithasant a gang Smith Barry neu a llofruddion eich cig a gwaed. Byddwch ar wyliadwriaeth. Y ch wancg i ddilyn;
Advertising
Y mae trigain a deg o filoedd o wragedd gweddwon o dan naw mlwydd oed yn India. Y mae yn ddrwg genym glywed fod yr hen fardd, "Hobin Ddu Eryri," ar liewynu. Y mae y Robin cyn hyn wedi canu yn hwylus a melus i'r Cymry, a sicr yw na ddvlem ei anghofio yn ei henaint a'i gystudd. Pa le tybed y mae Rothschilds Dinbych a Sliou Gortl'j
ILLANRHYSTYD.
I LLANRHYSTYD. SYR, Dymunaf arnoch ganiatau i mi ychydig o'ch gofod, am y waith gyntaf, i roddi y mynegiad a ganlyn yn rhyw gougl o'ch i:ewyddiadur clodwiw. Ar y laf a'r ail o'r mis hwn, cynnaliwyd cyfarfod blynyddol yn hen Eglwys lewyrchus ac enwog y plwyf; ac er mawr ymdrech ein parchus ficer, y Parch. T. Evans, llwyddodd i gael rhai o gewri Gwalia iddo. Am hanner awr wedi chwech y nos gyntaf, dechreuwyd trwy gyfran o'r gwas- anaeth yn cael ei ddarllen, ac yna pregethodd y gwyr talentog a grymns, sef y Parchn. H. zn t, Z!5 A. Williams ("Berw") a S. Davies, Ficer Sant 3Iair, Abertawe, oddi ar Bren. xviii. 21. a lIeb, x. 9, yn darawiadol, dylanwadol, ac efleithiol iawn i dorf lluosog o astud wranda- wyr. Am hanner awr wedi deg y dydd can- lynol, dechreuwyd yr un modd a'r noson flaen- orol, a phregethodd "Berw" eto, ac yn olyn- ydd iddo y Parch. E. Thomas, Skewen (fel yr adnabyddit-ef yma er ys blynyddau bellach), oddi ar Matthew xxii. 42, a Pedr ii. 10, 11, yn rymus a nerthol. Yn y prydnawn am hanner awr wedi dau, intoniwyd y Litani gan y Parch. E. J. Evans, Ficer Corawl Llanelwy, a phregethodd y Pat-ch.-Davies, Llanllechyd. Ac yn yr hwyr am chwech, dechreuwyd trwy fyned dros ran o'r Gwasanaeth, ac yna pregethodd y Parchn. Roberts, Brynibo, a S. Davies, Abertawe, oddi ar Matthew xxv. 1, 2, a Diarebion viii. ;3G, yn gysson ac efengylaidd. Barn y gym- y mydogaeth am y cyfarfod yw, ei fod yn un o'r rhai mwyaf rhagorol a fu yma erioed. Hy- derwn fod y dylanwad dwyfol yn cydfyned a gweinidogaeth y moddion efengylaidd. Go- beithiwn, gan hyny, fod llafur y brodyr wedi bod yn fuddiol i ni, a gweddiwn am y fraint o gael gweled protion amI wg fod yr had da a hauwyd ganddynt wedi cael dyfnder daiar mewn llawer calon, ac yn gwreiddio ynddynt, yn ffrwytho er mawl gogoniant y gras sydd Z-13 ZD Z5 yn gwneyd yr euog truenus rhag yr ellyllon ?n Z!1 dialeddol, "yn gymmeradwy yn yr Anwylyd." Bendith lor a'u dilyno, yw dymusiad Ux OEDD YXO,
CWM AMMAN.
CWM AMMAN. Y GYMDEITHAS DDADLEUOL. Mae yn ddywenydd genyf fod y gymdeithas deilwng n zn., hon yn parhau yn ei brwdfrydedd a'i dylan- wad, er nas gallwn ddweyd ei bod yn derbyn cefnogaeth y dosbarth ieuanc fel y dylai. Yr ydym wedi cael rhestr o gyfarfodydd oddi ar y evehwyn, ac y mae yn amlwg eu bod wedi effeithio er daioni i nifer mawr o fechgyn ieuainc nad oeddynt yn flaenorol yn abl i godi ar eu traed a siarad yn hyf a medrus ar un- rhyw bwnc. Nos Wener diweddaf, yn y lie arferol, dan lywyddiaeth y Parch. J. Towyn Jones, cyfarfyddodd yr aelodau i ymdrin ar y pwnc, a elwir yn Seisonig, "Capital Punish- ment." Yr oedd ymdriniaeth y nos hon i fod yn Seisoneg bob gair, heb fod bawl gan neb i yngan gair o Gymraeg y tn fewn i'r muriau. Agorwyd y ddadl gan Mr. Tom Jones yn wir alluog yn erbyn y pwnc, ac yna o blaid gan Mr. J. M. Jones. Teg ydyw dweyd fod papyrau y ddau frawd uchod yn deilwng o ganmoliaeth uchel, canys yr oedd eu sylwadau yn deg, yn bwyllog, ac yn nerthol. Siaradwyd yn olynol ar yr un pwnc gan Mri. Mitchell, David Jones, W. G. Jones, W. J. Thomas, Ebenezer Jones, a'r Parch. J. Towyn Jones, a gadawyd y peth yn ago red er cael ymchwiliad pellach i'w gyfriniou pan fydd yr aelodau yn cyfarfud nesaf. Pasiwyd penderfyniad ar y diwedd fod y gymdeithas ddadleuol i ym- neilldl10 o'r niaes am dymmor yr haf, a'i bod eto i ail gychwyn y nos Wener gyntaf o Hydref. CYFARFOD ADLONIADOL. Cynnaliwyd cy- farfod o'r natur yma yn Stepney Hall nos Sadwrn diweddaf er budd y ddarllenfa. Ca- deiriwyd yn fedrus gan Mr. E. M. Williams, Garnant, a beirniadwyd y canu a'i, aiiirywiaetil gan Mri. Tom Rees, G.T.S.C., a David Jones, Glanarmuan. Yr oedd y lie yn llawn, a'r cwbl yn cael ei gario ym mlaen gydag yni a Z!1 zn dyddordeb. Cafwyd caneuon gan y boneddig- ion canlynol:— Mri. D. J. Thomas, Moses Rees, John Jones, Henry Jones, a Thomas Morgan. Cafwyd adroddiadau gan Mri. Morgan Richards a Jacob Jones, yr hyn a dderbynid gan y dorf gyda niwynhad. Y peth mwyaf attyniadol, ef allai, oedd cadeiriad Mr Tom Rees, G.T.S.C., ar ei fuddugoliaeth ym Mrynamman dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, yr hyn a wnaed mewn modd rhwysgfawr gan y beirdd canlynol :—Meistri Thomas Rees, Cwmpedol; Edwin Rees, David Jones, a W. G. Jones. Dim end englyniou D. Jones gawsom i law, a dyma nhw,— Cwnld eirian, byw, cerddorol,—yn awr gawn Efo'r gwenau barddol Z5 Codi arwr cadeiriol Heb un 'staen i bell ei stol. Arweinydd br\d aeth a'r cwdyn,—yn deg A'r llon'd dwrn aur melyn A'r gadair dderw gwedyn, Taiana'i glod trwy ein glyn t, Z5 Yn He gwaeddi Heddwch fel y mae yn arferol wrth gadeirio, gwaeddwyd "Undeb," yr hyn sydd mewn sefyIlfa isel ym mhlith cantorion Cwinamman. Drwg genym fod llawer wedi bod yn euog o ymatal rhag myned gyda'r c6r i Brynannnan, a hyny heb un math o esgus ond mympwy bersonol. Ennillodd y Cur y brif wobr a'r gadair, er nad oedd ei hanner yn yr eisteddfod, a chafodd yr arweinydd ei osod yn ei gadair nos Sadwrn diweddaf, yng nghanol dymuniadau da lluaws o gyfeillion. Cynunerwyd rhan olaf y cyfai fod i gystadlu arganu, areithio, adarllen, ac ennillwyd y llwcli aur a'r ysnodenau gan n Mri Henry Jones, John Jones, Edwin Rees, Rees Jones, a Thoma.s II, Davies, yna daeth- pwyd i'r terfyn.—-BRODOR.
AT EIN GOHEBWYR.
AT EIN GOHEBWYR. Mae prinder gofod yr wythnos hon wedi ein gorfodi i adael allan yr erthygl ar "Bwnc yr Eglwys Sefydledig," yng nghyd ag amryw gynnyrchion ereill. pa rai a gant ymddangos yn ein rhifyn nesaf. LL VXYRYTHKR. — Yr ydym wedi derbyn dau lytliyr o'r lie yma yr wythnos hon eto, er i ni ddweyd na fuasem yn agor ein colofnau i vm- drin a'r pwnc dan sylw ar ol yr wythnos ddi- weddaf. Nid yw ond cyfiawn ac ymarferol rhoddi right of reply i'r hwn a agor ddadl, a chan fod hyn wedi ei wneyd, nid yw yn bosibl caniatau rhagor i ymddangos ar y niater.- UUL.