Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

AMLHAU CAPELI. 1

DARKEST WALES.

NODIADAU.

Y TYLAWD A'R CYFOETHOG A GLEDDIR.

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD, LLANDEBIE. Cafwyd cyfarfod te a chyfarfod adroddiadol a chystadleuol yn y lie uchod prydnawn dydd' Nadolig, ac fe ellir dweyd wrth ddechreu, Wele wawr y mil blynyddau,' o herwydd fod gwahanol enwadau y cwmwd wedi cydgwrdd mewn hwyl unfrydol—yn Annibynwyr, Eg- y n lwyswyr, Methodistiaid, a Bedyddwyr ac os ydoedd yma rhyw enwad arall, maddeued na fyddai yn cael ei enwi. "Pawb mewn hwyl heb neb yn tynu'n groes." Dechreuodd y cyfarfod te i aelodau yr ysgol am o ddeutu banner awr wedi tri yn y prydnawn. Merched ieuainc siriol a lion yn arllwys tfrwyth y ddeilen sydd yn lloni ac nid yn meddwi, nes peri i bawb fod wrth eu bodd ac yn ddedwydd y gwragedd hwythan yn trefnu ac yn cario y tost a bara brith a chyfteithiau o waith y ty, nes yr ydym yn meddwi na fu gwell gwledd yn unman llawnder a digon dros ben o'r moethau. Cyfranogodd o gant i chwecli ugain o'r danteithion, a dyna oedd eu hiaith melus, Moes eto,' ac i wella y cyfan, yr oedd basgedaid yn iawn o biscuits a melusion wedi d'od yno i gael eu rhanu rhwng y plant gan 0 zn Mrs Harries, Merdy Farm, ac yn ddoniol a charedig, yn ol ei arfer, rhauodd Mr Harries hwynt rhwng y plant gyda gwen siriol a n Z5 charedig. Hefyd cawsom gwmni siriol Mr a Mrs Lewis, Glandulais hithau a'i rhoddion yn serchog, a Mr Lewis a'i law yn ei boced yn rhoddi yn liael o'i arian i gael rhoddi gwob- rwyon yn y cwrdd cystadleuol, ac y mae yn dda gyda ni ddweyd i ereill, sef amaethwyr, crefftwyr, a gvveithwyr fod vn haelionus yn eu I I liarian a'u rhoddion at y cyfatfod te a'r cyfar- fod cystadleuol. Dechreuodd y cyfarfod am hanner awr wedi pump. I ddechreu, cafwyd araith ddoniol gan Mr Davies, Penybank, a chynnygiodd gadeirydd i lywyddu y cyfarfod, sef Mr Thomas Evans, Pwllaucochion, ac eiliwyd yn eu dull serchog arferol gan Mr Williams, Tycoch, a rhoddwyd cydsyniad unfrydol y cyfarfod i'r un perwyl ynte yn ei ddull doniol arferol, a diolchodd am yr anrhyd- t --u- edd, ac y mae y lie rhwyddaf o lawer iddo ef fnasai y swydd o herwydd fod yno amlder o siaradwyr yn bresennol, ac yna galwodd ar yr arweinydd, sef Mr Harries, Merdy, i alw y program allan. I agor y cyfarfod, cafwyd 0 Z5 'Cwyrnp Llewellyn' gan Wm. Evans yn darawiadol iawn yna galwyd ar y beirniaid i fod yn barod i wrando y gystadleuaeth, sef Mr Win. Williams, Glandulais, a Mr Evans, Goitre. Fel y callIyn y beirniadwyd adroddiad o'r 117 Salm gan amryw. Y goreu E. J. Thomas ail, W. Williams. Rhoddodd Mrs Harries, Merdy, wobr i E. Walters am weled un mor fechan yn cystadlu. Nesaf, deuawd, Mwy i ganlyn, goreu oeddynt Lettuce Williams a E. M. Evans. Nesaf, deuddeg gofyniad ar Jonah lluaws yn cystadlu; goreu, Wm. Evans; ail eto, T. G. Evans. Adroddiad o'r 15fed Salm; amryw yn cystadlu; goreu, Joseph Davies; ail, E. M. Evans. Gwobrwywyd E. Thomas yn drydydd. Chwecli gofynidd ar Noah, goreu Fred Thomas; Z3 t5 ail, M. A. Thomas; drydydd, T. C. Evans. I'r un a gano yn oreu ar y pryd, goreu, Wm. Evans; eto i rai dan loeg oed, E. M. Evans. Amy ddadl oreu ar y pryd, T. C. Evans a F. Thomas ail, Roderick Evans a Wm. Evans. Am yr araith byrfyfr goreu, D. Joshua; ail, Wm. Evans; adroddiadau achanu gan amryw 11 y bartion; cor yr aelwyd o Bwllaucochion. Dadl, Y hunt a'r geiniog canwyd 'Chwifio'r cadach gwyn,' yn rhagorol gan Miss E. A. Thomas, a'r 'Eneth dlawd' gan Miss E. Thomas. Dadl addysgiadol iawn a difyrus gan dri brawd, a lluaws o bethau ereill rhy faith eu henwi. Ar y diwedd cafwyd areithiau hwylus gan Mr Harries, Merdy, Mr Williams, Tycoch Mr Davies, Penbank a Mr Wm. Williams, Glandulais, a therfynwyd trwy dalu y diolcligarwcli gwresocaf i'r merched a'r gwragedd ani eu caredigrwydd, ac hefyd i'r cadeirydd am gad w trefn morddn .-CARWLLWYD.

RHIFO'R BOBL.

LLANDYSSUL.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CAN 0 GLOD I'R YSWAIN BATH…