Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

AMLHAU CAPELI. 1

DARKEST WALES.

NODIADAU.

Y TYLAWD A'R CYFOETHOG A GLEDDIR.

WHITE SQUARE, CWMCAWLLWYD,…

RHIFO'R BOBL.

LLANDYSSUL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANDYSSUL. At Olygydd Y JOURNAL. SYR,—Yr wyf yn ddiolchgar i Twm o'r Nant' am ei lythyr byr, prydlawn, ac i'r pwrpas, yn y JOURNAL am y 18fed o'r mis hwn. Yr wyf yn ddiolchgar i chwithau hefyd am hebgor ychydig o'ch gofod gwerthfawr i Radical mor bybyr. Wn i yn y byd a fyddwch mor garedig i'w frawd, sef awdwr y llinellau hyn. Amser a ddengys. Bum am flynyddau yn aelod o'r hen Gymdei- thas Ryddfrydol ym mhlwyf Llandyssul, ond yr wyf erbyn heddyw wedi troi fy nghefn arni, gan ysgwyd ei llwch oddi wrth fy nhraed. Yr wyf yn gweled fod Radicaliaeth yn caelc am dirfawr ar law aelodau yr hen gymdeithas, y rhai ydynt heddyw yn fwy o Geidwadwyr na dim arall. Y mae Twm fy mrawd a minnau yn cyd-amcanu, ond nid wyf yn hollol gytuno ag ef ym mhob peth a ddywed. Dywed Twm fod aelodau yr hen gymdeithas dipyn yn fwy gostyngedig ac hunanymwadol nag arferol, yn awr pan y mae etholiad y Cyngor Sirol yn agoshau. Nid wyf fi yn eu cael felly. Y maent mor ffroenuchel ac hyderus ag y gwelais hwynt erioed. Credant eu bod mor sicr o fuddug- oliaeth mis Mawrth nesaf a phe byddent wedi ei hennill eisoes. Mae eisieu eu darostwng a'u dwyn i adnabod en hunain, ac y mae yn dda genyf fod gwroniaid fel Twm fy mrawd, Gweithiwr, Dudoch, ae ereill wedi dyfod allan i'w dynoethi os nid i'w difetha yn y newyddiaduron. Mae eu tynged wedi ei selio nid oes ond gwarth, ac ar ol hyny, ebargofiant yn eu haros. Yr wyf yn cytuno a, Twm yn hyn o beth, sef na ddylai Radicaliaid o rywogaeth bur, ddiledach, wneuthur un sylw o aelodau basdarddol yr hen gymdeithas, nac yn Alltyrodyn Arms, nac yn yr Eglwys nac yn y capel. Ymgadwer ym mhell oddi wrthynt fel oddi wrth rai gwahanglwyfus. Nid wyf yn foddlon fod Twm fy mrawd yn ei lythyr yn anerch aeledau yr hen gymdeithas gan eu galw yn bendefigion, fel pe na byddai neb pendefigion yn ein plith ni. Onid yw Twm yn cofio am y rhai a ddyrchafwyd allan o rengoedd y cyffredinwyr i f blith yr arglwyddi er ys rhyw flwyddyn yn ol yn y plwyf hwn ? Bu eiddigedd a dadwrdd nid bychan yng nghweryl hyn. Mae gcnym ni ein my Lords, diolch am danynt, ac y maent yn an- rhydedd i'n cymdeithas ni ac i Radicaliaid y sir. Paid son mwy, Twm, am bendefigion yr hen gymdeithas. Nid oes yr un o honynt yn ffit i fpd yn Shon segur i'n blaenoriaid ni. Corynod ydynt yn ochr Capten William Davies, Mri Edward Thomas, Thomas a William Lewis ei frawd, T. C. Davies o Crimea renown, heb help yr hwn ni ddygwyd rhyfel y Crimea i derfyniad. Cafodd y gwr boneddig hwn sedd ar Fwrdd Ysgol y plwyf yn ddiwrthwynebiad ac y mae yno yn eistedd, nid gyda'i gydraddolion ond gyda'i is- raddolion, o'i ysgwydd i fyny yn uwch na'r aelodau ereill, fel Saul gynt ym mhlith y bobl. Yn ddiammheu fod ei wasanaeth ar y Bwrdd yn dra manteisiol i'r ysgolion. Yr ydys yn bwriadu ei gael allan i wrthwynebu Dr. Enoch Davies, yn yr hwn yr ydym wedi cael ein siomi yn ddirfawr, a bydd ei sedd ar y Cynghor Sirol mor sicr iddo a phe byddai yn eistedd arni yn awr. Y mae yn wleidyddwr a siaradwr penigamp, ac ni bydd yn ail i neb yn y Cynghor. Y mae genym foneddwr arall, gwybodus a galluog, yn barod i ddyfod i'r maes i daflu yr aelod arall oddi ar ei fainc, a cheir gweled y Parch. T. Thomas yn diwadnu gyda chyflymder ci a, delbren dranoeth y pol. Y mae yr aelod hwn wedi ennyn ein digllonedd o herwydd iddo siarad yn ammharchus am y poachers yn Llanbedr ys dyddiau. Caiff ef ddy- oddef am hyn. Ni fynwn i'n cynnrychioli yn y Cynghor Sirul neb fyddo yn chwennychu am- ddifadu dosbarth lluosog a pharchus o gyfleus- derau i ddilyn eu galwedigaeth. Yr wyf yn teimlo fy ngwaed yn berwi y fynyd hon, a byddwn yn galw llw nen ddau yn y man hwn oni bai fy mod yn ofni na wnaech chwi, syr, ganiatau y crom- fachau. Yr wyf yn uchel gymmeradwyo Twm fy mrawd pan y dywed, Yr ydym yn benderfynol hwylio yn ein cwch ein hunain, deled a ddel." Rhagorol Wrth yr helm gosoder Cadben W. Davies. Pwy yn fwy cymhwys i'r swydd 1 Heb law'r Cadben bydd amryw o ddynion pwysig ereill yn y eweh a'r perygl mwyaf i'w ofni fydd, iddo soddi cyn hwylio i mewn i'r porthladd. Ond, fel y dywed Twm, deled a ddêl,' ni a anturiwn yn y blaen, a chlywir ni yn canu rhwng y tonau yn uchel ein hysbryd :— Os boddi raid, ni foddwn ,n. Yng ngolwg Salem lan." Rhagfyr 26ain, 1891. TICHBOURNE.

BWRDD YSGOL CEINEWYDD.

CAN 0 GLOD I'R YSWAIN BATH…