Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--------------PA HAM Y DYLAI…

W" ;NODIADAU.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

CAN 0 GLOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAN 0 GLOD I deulu Glandennis am eu haelioni i dlodion Plwyfi Silian, Llanbedr, a Llanfair, Nadolig, 1885. [Buddugol yn Llanfair-clydogau, Mawrth 12fed, dan feirniadaeth Granellian.'] Mesur Siaradwch yn Gymraeg/' 'Glandennis galon dyner Yw eilun serch y wlad, 1 Mae'r gwr a'r wraig bob amser Yn hael eu rhoddion rhad; Mae plwyfi Silian, Llanfair, A Llambed wrth eu dor, Yn derbyn mewn cyfyngder Yn helaeth iawn o'u stor. CYDGAN- Haelionus feI eu tad .LA,v I dlodion plwyfi'i stâd- Glandennis galon dyner > Yw eilun serch ei wlad. "4 Cymylau y Nadolig A ddlient nen rhyw lu, Ar dywallt chwerwder dyblig Ar draws y gwytiau cu Goreurodd ef y cwmwl, Ac ysgafnhaodd eu bron, Anghofiodd pawb eu trwbwl, A chawd Nadolig lion.' Haelionus fel eu tad, &e. j Yr hen, a'i waed ar rewi, II A'r cefn yn oer a chrwm, Y bychain carpiog hyny Ddynodant letty llwm; Y weddw a'r amddifad Sy'n aerod cwr a phoen- Ca'dd pawb ei gydymdeimlad, A gwyliau llawn o hoen. Haelionus fel eu tad, &c. Y glo ar lu aelwydydd 1 A chwarddai'r oerfel ffwrdd, Calonau doddai'u gilydd O'i flaen ar 4 ddydd cydgwrdd.' Y dillad wawdiai'r oerni JhS Fygythiai lawer tlawd, A'r bwyd a'r aur wna'u godi g 3 .<• Uwch law tylodi'u rhawd. i Haelionus fel eu tad, &c. Tangnefedd y Nadolig, Ewyllys da i ddyn,' Yw'r fendith addawedig 1 A'r tymmor hwn sy'n nglyn'; A theulu hael Glandennis "n A'i deall yn ddilai- Tangnefedd yw ewyllys Y teulu at bob rhai. Haelionus fel eu tad, &c. Y teulu yn Glandennis Yw'r haul sy'n nen y stil, Canolbwynt mawr haelionus 0 wres a goleu'n rhad f • 1 Try pawb eu gwyneb ato I ddal pelydrau'i w&n— 'Does neb rhy ddistadl iddo, Rhy ieuanc, na rhy hen. I <. Haelionus fel eu tad, &c. Nid byw yn entrych hawddfyd Uwch teimlo'r gwan yn frawd, Dan gwmwl dirmyg golud O olwg cyni'r tlawd, A wna y teulu anwyl, Ond byw'n roesawgar fry I wahodd pawb i'w breswyI- Y tlawd yw plant y ty. Haelionus fel eu tad, &c. Er golud aur a thiroedd, Er golud rhwysg a dysg, T Ca'r teulu er ei 'filoedd' Well golud yn ein mysg Ca fwyniant lleddfu angen, Ac ingoedd llawer rhawd Ca'r hyn sydd nef i'w phercheo— Caiff fendith y tylawd. Haelionus fel eu tad, &c. Wel, molwn "Jones Glandennis" Yn iaith ei hoff Gymraeg— Boed bywyd hir a hapus I hwn a'i anwyl wraig, I fyw yn serch y lluoedd, 1 A'r ddau mewn serch yng nghyd, Ac arogl flodau'r nefoedd Ar fin eu ffordd drwy'r byd. Haelionus fel eu tad, &c. LAZARUS (I Aeronian.')

Advertising