Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--------------PA HAM Y DYLAI…

W" ;NODIADAU.

DARKEST WALES. ; »

LLANDYSSUL.

Advertising

-------------PENCADER.

DYFFRYN CLETTWR FACH. ; t---

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y CYNGHOR SIROL.-RHANBARTH CAIO A LLANWRDA. At Olygydd Y JOURNAL. Syit,- Tuedd gyffredinol i bawb meddylgar ar derfyn blwyddyn ydyw adolygu gweithrediadau yr hen flwyddyn; a buddiol iawn fyddai pe gwneid hyn gan bawb, sef mantoliad cywir a diragfarn o brif symmudiadau ein sir a'r personau hyny sydd yn cymmeryd rhan ynddynt. Deuid felly i ddyfarniad lied IInol o barthed i gymhwysderau a theilyngdod y rhai sydd yn ein cynnrychioli fel gwladwyr yng nghyngor sirol sir Gaerfyrddin. Ond y mae a fyno ni fel plwyfolion Caio a Llan- wrda ag edrych i fewn fath gynnrychiolwyr sydd genym yn y Cynghor Sirol. Nid oes angen i mi eu henwi, gan fod eu henwau yn eithaf adna- bybddtis. O'r braidd hefyd y mae yn briodol i mi ddefnyddio y rhif lluosog cynnrychiolwyr,' gan mai henadur ydyw Syr James Hills-Johnes, K.C.B.,V.C., ac nid cynghorwr etholedig rhan- barth, fel Mr Lewis Davies, Y. H. Fel y gwyr pawb, ni ystyrir ac ni ddysgwylir fod henadur yn gynnrychiolydd un ardal mwy na'i gilydd, ond nid felly y mae y gwron twymngalon o Dolau- cothi wedi ymddwyn, canys y mae wedi, ac yn cymmeryd y dyddordeb dyfnaf yn ein buddiannau (interests), a thrwy ei ffyddlondeb a'i egni wedi llwyddo i wneyd yr hyn sydd er lies cyffredinol pawb; er enghraifft, dwyn ym mlaen yn y Cynghor Sirol cwyn pohl Llanwrda o berthynas i'r heol sydd yn arwain i'r station. Fel y gwyddus y mae wedi llwyddo i roddi eu dymuniad i bobl Llan- wrda, o blegid pasiodd y cynghor fod yr heol ragddywededig i gael ei hadgyweirio. Cwyn ar gwyn a wnaed am y peth yn y papyr hwn gan y gwr da hwnw, sef Mr Gwrda Thomas, ond i ddim pwrpas, nes y gwnaeth y Cadfridog Syr James Hills-Johnes sylw o'r peth. Pa ham yr apeliodd pobl Llanwrda at y boneddwr yna, ac nid at y 'cynghorwr etholedig,' sef Mr Lewis Davies, Y. H. ? Y mae yr ateb yn eithaf parod. 0 blegid y gwyddent fod y cyntaf, sef Syr James Hills- Johnes yn un a llesiant gwlad yn agos at ei galon, yn foneddwr o ddylanwad aruthrol, ac yn un a fyddai yn sicr o gario eu dymuniad allan, tra nad yw y boneddwr olaf o'r ddau ond megya Hythyren farw yn y Cynghor Sirol. Anaml iawn y mae ynddo, a phan fydd, ni chlywyd ei lais erioed yn rhoddi mynegiant i'n cwyn a'n hangen- ion ni sydd yn y rhanbarth y mae yn cymmeryd arno ei chynnrychioli er pan etholwyd ef er ya tair blynedd yn ol. Y mae yn chwerthinllyd cofio rhai o broffwydoliaethau pleidwyr Mr Davies o barthed i'r gweithredoedd grymus a'r diwygiadau fyddai yn caulyn ei ddychweliad i'r Cynghor Sirol. Dywedent yn amser yr etholiad er hud- ddenu yr anwybodus y gwnai Mr Davies ostwng y trethi, rhoddi pontydd yn ylleoedd nad oeddynt, rhyddid i bawb i bysgota yn ddi drwydded, &c. Clywais yr adeg hono un hen frawd yn dweyd, 'Mae nant yn rhedeg trwy fy ngardd, ac nid oes genyf yn awr ryddid i godi brithyll o honi, ond bydd yn wahanol 'nol cael Dafis Gelly i fewn Purion peth fyddai i'r gau-broffwydi hyn gael eu hadgofio gan lleied wnaeth eu dyn drostynt yn ystod y tair blynedd sydd ar dd'od i ben. Gellir symio i fyny yr hyn y mae wedi wneyd mewn gair tair llythyren-dim. Cydnebydd pawb sydd yn darllen adroddiadau y Cyngor Sirol mai gwir wyf yn draethu. Nid fy ysgrifell i sydd yn dyrchafu nac yn darostwng y naill foneddwr na'r llall, ond ffeithiau anwadadwy a wnant hyny mewn cyssylltiad a gwerth y ddau yn y Cynghor Sirol. Facts are stubborn things,' ac erbyn hyn mae llu o'r rhai bleidleisiodd yn erbyn y gwron o Uolaucothy yn rhwydd gyfaddef mai camsynied. dybryd ^wnaethant, Wel, ynte, bydded i'r cyfaill siriol Gwrda, a Mr Davies, slate merchant, ac ereill o blwyf Llanwrda, ymfywiociiu i ffurfio deputation oddi yno i fyned i Dolaucothy i geisio gan y Cadfridog Syr J. Hills-Johnes, K.C. B., i dd'od allan yn yr etholiad nesaf dros rhanbarth Caio a Llanwrda. Mae y eyfeillion ym mhlwyf Caio yn barod i wneyd hyny. Felly os cydsynia i dd'od allan fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf, bydd cyfle i'r personau hyny sydd wedi derbyn cymmaint ganddo ac a bleidleisiasant yn ei erbyn yn yr etholiad gywiro y cam a wnaethant. Gwyr pawb nad dyn plaid ydyw Syr James, ond pleidiwr pob eyfiawnder a daioni. Mae trigolion pentref Caio yn ddiweddar wedi gweled enghraifft o'i haelfrydedd yn rhoddi y fath gymhorth syl- weddol i Tom Thomas i ymfudo i Affrica gwnai yr un peth i bawb yn y cyfryw amgylchiadau, canys nid yn ol ffafriaeth y mae Syr James yn gweithredu. Un enghraifft ydyw hona o lawer ellid groniclo. Mae Syr James yn deall ansawdd y wlad' yn dda, fel y dywedir, ac yn gwybod ein angenion, ac yn medru cydymdeimlo a ni yn fwy na neb arall. Ato ef y rhed pawb am gais a chynghor, yr hyn a roddir yn siriol. Mae hefyd yng nghanol y rhanbarth, tra nad yw Mr Davies ond yn y cwr pellaf o'r plwyf, lie cymmer daith diwrnod neu ddau i'r mwyafrif o'r etholwyr gyr haedd ato. Pa ham y gwnawn ynte fyned dros afon,i ymofynjdw'r' pan y mae genym yn byw yn ein plith foneddwr cymhwys i'n cynnrychioli ? Felly, bydded i ni fel etholwyr ddeffro, a myned o ddeutu i ddewis dynion cymhwys i fyned yn deputation i Dolacothy i fynegi ein dymuniad ar i Syr James dd'od allan fel ymgeisydd drosom yn yr etholiad nesaf. Gan obeithio y cymmer fy nghyfaill Gwrda sylw o'r peth ym mhellach.— Ydwyf, &c., BRODOR O'R FFINIAU. I'

CAN 0 GLOD

Advertising