Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

------CALAN HEN YN LLANDYSSUL.

DARKEST WALES.

*' N O DI A D A U.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

N O DI A D A U. GWEINIDOGION YR YMNEILLDUWYA AC YMUNIAD A'R EGLWYS. Dywed y Times mewn byr erthygl fod dau weinidog yn perthyn yu ddiweddar gyda'r Meth- ) odistiaid Calfinaidd Cymreig wedi newydd gaeleu hordeinio yn uffeiriaid yn Eglwys Loegr, sef y Parch. Josiah Thomas, gynt o Llandaf, gan Esgob Llandaf, ae wedi ei drwyddedu i giwradiaeth y Bettws, Bridgend a'r Parch. J. H. Parry, gynt o Aberdare, a mab i'r diweddar gymmedrolwr y gymmanfa gyffredinol a ordeiniwyd yn offeiriad gan Esgob Llanelwy. Yn y cyssylltiad yma, dywed y Times hefyd fod cnwau deg o weinidog- ion yn sir Fynwy yn absennol o'r gwrthdystiad arbenig a ddarparwyd gan yr Henaduraeth yn erbyn yr haeriad a wnaed gan Esgob Llandaf, fod nifer o weinidogion yr enwad wedi bod yn ym- ofyn ag ef am dderbyniad i urddau o fewn yr Eglwys. MARWOLAETH MRS EDWARDS, BALA. Bydd yn ddrwg gan bawb o'n darllenwyr glywed am farwolaeth Mrs Jane Edwards, gweddw y diweddar Dr. Lewis dwards, Prif- athraw, ac hefyd aylfaenydd Coleg nodedig y Bala. Yr hyn sydd yn gwneyd yr amgylchiad yn darawiadol ydyw fod y foneddiges ymadawedig yn wyres i'r enwog Thomas Charles, sef Charles y Bala,' sylfaenydd yr enwad Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru. Ganwyd Mrs Jane Edwards ar y 9fed o Ch .\efror, 1814, ac felly yr oedd yn 78 mlwydd oed, neu yn myned ar hyny. Cymmerodd yr angladd Ie dydd Mercher y 6fed yn Eglwys Llanycil, lie y gorphwys gweddillion llawer iawn o'r hen deidiau lVIethodistaidd- parch i'w coffa dywedwn ni, a gwyn fyd pe bae eu canlynwyr yn rhodio yn eu hen lwybrau tangnefeddus. Hi a ymbriododd a Dr. Lewis Edwards, Rhagfyr 31, 1836, ac fe fu yn gyf- nerthiad o'r mwyaf iddo drwy ei oes yn y sefyllfa arbenig ag yr oedd yn ddal yn y cyfundeb, ac yn ein gwlad. Cawsant naw o blant, ond bu tair merch farw yn ieuanc y gorfucheddwyr ydynt y Parch. Dr. Thomas Charles Edwards, Prif- athraw Coleg yBala; y Parch Llewellyn Edwards, Aberystwyth Parch. D. C. Edwards, Merthyr Dr. James Edwards, Lerpwl; Mrs Dickens Lewis, gwraig Mr D. Lewis, Amwythig, a Mrs Evans, gwraig y Parch. W. R. Evans, Gwrecsam, lie yr oedd Mrs Edwards yn aros pan fu farw. Hi a aeth yno ym mis Hydref ar ymweliad, pan y cymmerwyd hi yn afiach. Yr oedd yn gwella yn bur dda hyd nes yr ymddangosodd arwyddion mwy peryglus, y rhai a derfynodd yn ei marwol- aeth ar y dydd Sadwrn canlynol oddi wrth yr anwydwst. Claddwyd hi yn yr un bedd a'r fynwent ag sydd yn cynnwys gweddillion Thomas Charles, ei wraig, a'r diweddar Dr. Lewis Edwards. Yr oedd Mrs Edwards yn foneddiges fwyaf haelionus tuag at y tlawd, a charedig a chyd-deimladol tuag at y elaf, a phawb mewn cyfyngder fel y mae pawb tua'r Bala lie y bu yn byw dros ei bywyd yn gwybod. GOLYGFA OFNADWY AR ACHLYSUR DIENYDDIAD. Cymmerodd dienyddiad Ie yn ninas Mexico dydd Iau diweddaf. Y gwrthddrych oedd un Jesus Marhossy, am lofruddio hen wr masnachwr gemau, a'i ysbeilio. Pan ddygir. carcharor allan i'r dienyddle, y mae yn arferiad yn y wlad hono cyn hyrddio y dyn i dragwyddoldeb, iddo gofleidio cadben yr heddlu yn llaw yr hwn y mae y gorchwyl o gyfiawnu y ddedfryd yn gorphwys. Ar yr achlysur hwn pan oedd y charcharor yn cofleidio y dienyddwr ar esgynlawr yng ngwydd torf o edrychwyr, trywanodd ef yn ddirgel dair gwaith. Saethwyd yr adyn yn ddiatreg gan un o'r swyddogion oedd yn bresennol. Cafwyd nad oedd archollion cadben yr heddlu yn farwol fel y bu yn ffodus. Y CONSUL AMERICANAIDD. Amlygir fod y Llywydd Harrison America, wedi penodi Mr Walter Howard, i fod yn neges- ydd Americanaidd droa Gymru yn lie Major Jones yn Caerdydd. Heb law bod yn ymgeisydd am gynnrychiolaeth Caerfyrddin, y mae Major Jones yn bwriadu cyssylltu ei hun a'r Wasg drwy osod ei hun ar restr ysgrifenwyr y "Shipping World." — ■V Y MODD Y LLADDWYD GORDON. Y mae yr adroddiad a roddir gan y carcbaror. ion a ddiangasant o Khartoum yn rhoddi cyfrif mwy manwl yng nghylch llofruddiad Gordon, ac yn cadarnhau yr hyn a amlygwyd genym o'r blaen. Ychwanegant i gorph y gwron ar ol ei ladd, gael ei dori yn ddarnau, ac i'w ben gael ei arddangos am ugain diwrnod ar gopa gwaewffon yn y man yr oedd, yn ol ei ddyddlyfr, yn aroe bob dydd gan ddysgwyl gweled dyfodiad yr adgyf- nerthoedd a ddylai gweinyddiaeth Mr Gladstone anfon i'w ryddhau. Ymddengys fod y carcharorion sydd eto yn aros yn cael eu gwylied yn ofalus, ac ni adewir iddynt adael y dref Ni chaniateir bwyd iddynt, ac y maent yn gorfod ei chwilio a'i drefnu gyatal ag y gallant. Arferai y tad weithio fel gwehydd pan yr oedd y ddwy chwaer yn ennill eu bwyd drwy werthu bara ar yr heol- ydd. Gwariodd yr olfeiriad, sef Monseynor Logan, drwy foddion pa un y diangasant, dri- ugain mil o ffrancod neu sylltau tuag at effeithio y gwaith. Cadarnheir hefyd yn drwyadl gan un o'r chwiorydd y modd y cyfarfu Oliver Pain ei farwolaeth, sef iddo gwympo a niweidio ei hun, ac yna cael ei gladdu yn fyw. Y mae'r adgofion hyn ar ol wyth mlynedd o ddystawrwydd ac anwybodaeth, yn llewyrchu cyfrifoldeb dychryn- 11yd ar yr awdurdodau oeddynt ar y pryd yn gyfrifolyn ein gwlad am y fath drychunebau. *#* Y CYNGHORAU SIROL A DADSEFYDLIAD. Pa beth bynag oedd bwriad llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol pan ddygodd i mewn y mesur er creu y Cynghorau Sirol, ac y llwyddodd i'w gario yn fuddugoliaethns drwy y senedd, y mae'n sicr mai nid un o'i amcanion oedd fod y cyfryw gynghorau i ymyraeth mewn unrhyw fodd yn y byd a chyfansoddiad y deyrnas hon mewn gwlad ac Eglwys. Er hyn i gyd, ymddengys mai dyna a ystyrir gan bwyllgor gweithredol Cynghrair Rhyddfrydol Gogledd Cymru fel prif bwnc a dyben eu creadigaeth. Y mae y Cynghrair hunanol hwn wedi penderfynu nid yn unig fod etholiad y Cynghrair Sirol mis Mawrth nesaf i gael ei benderfynu ar seiliau gwleidyddol, ond fod yn rhaid cyfyngu hyd y nod gwestiynau politic- aidd mor dyn agsydd bosibl canys rhaid gofyn i bob ymgeisydd i wystlo ei hun o blaid dad- i sefydliad a dadwaddoliad yr Eglwys yng ] Nghymru. Y mae hyn yn amcanu mae'n amlwg fod y capel i ysglyfiaethn yr holl Gynghorau Sirol, eu swyddau, eu galluoedd, a'u breintiau, ac nad yw o un dyben i Eglwyswr ymofyn. Ym ] mhellach, amlygir y bydd yr etholiadau hyn yn ] gyfleusdra arbenig i brofi y peirianwaith Radical- aidd, a'i ddwyn i ffurf uwchradd (first class form) ( gyd-gyfer a'r Etholiad Cyffrednol nesaf i'r senedd f sydd yn agos gerllaw. Yn ddiweddaf, cymhellir ( y pwysigrwydd o weithgarwch cyd-drefnol a £ brwdfrydig tuag at ennill goruchafiaeth, gan na c fyddai dim llai na hyny ond yn niweidiol i'r e amcan mewn golwg yn yr Etholiad Cyffredinol. c Y mae yn waradwydd i Gymru oleuedig fod arweinwyr y bobl wedi en dwyn i'r fath gyflwr c isel o anfoesoldeb ag i gymhell arnynt yn gy- 1 hoeddus drwy y wasg i fabwysiadu y fath s gynllun anonest a'r uchod. Y mae y Cynghorau y Sirol wedi cael eu creu er gofaln dros faterinn e sirol y trethdalwyr, y ffyrdd, y pontydd, yr hedd- J I geidwaid, a llawer o bethau ereill yng nglyn a'u buddiannau ag y mae y ddeddf yn ddarnodi 1 ac fe wyr Pwyllgor Gweithredol Cy nghrair Rhydd- ( frydol Gogledd Cymru hyny yn eithaf da, ac nad oes gan y Cynghor Sirol ddim mwy i wneyd fel y £ cyfryw a materion cenedlaethol, llawer llai a'r s Eglwys nag sydd gan breswylwyr y tlotty. Na ] hidier pa mor gymhwys fydd boneddwr i lanw s swydd cynghorwr sirol drwy ei gyfrifoldeb neu ei t synwyr, yn y materion a ymddiriedir i'r cyfryw I gynghorau gan y llywodraeth os na fydd yn [ ddadsefydlwr, yn ddadwaddolwr, yn ysbeilydd, £ gwrthodir ef a dewiser yn hytrach y penbw] I anwybodus, anghymmwys mwyaf, os bydd yn j ddadwaddolwr. Bydded i les a buddiannau y sÏ1 a llogell y trethdalwyr fyned i Jericho, ond gadawer i ni gael cario ein hamcan, a gwneyd y Cynghor Sirol yn grafanc i'n cynghrair ni tuag at brofi ein peirianwaith Radicalaidd, a'i ddwyn i i ffurf flaenllaw gyferbyn a'r Etholiad Cyffredinol. Y mae hyn yn cael ei addef yn gyhoeddus a ( phendant. Gan hyny, bydded i Eglwyswyr, Ceidwadwyr ac Undebwyr, gymmeryd rhybudd < mewn amser yng nghylch amcanion diegwyddor ac anfoesol y Radicaliaid. Ar ysgwydd y Ceidwadwyr y saif y bai, pan neshaoyr ymgyrch, 1 os na fyddant hwy yn ddigon arfogi'r rhyfel. 'I YR EGLWYS GYMREIG YN LLUNDAIN. Hysbysirfod trefniadau ardroedtuag at gynnal < Gwasanaeth Gymraeg mawreddog yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul ar nos Wyl Dewi nesaf, ar < yr un llinellau a'r un a gawd ddwy flynedd yn ol; yr hwn, cofir, fn mor llwyddiannus, buddiol a ) gwerthfawr ym mhob ystyr. Y mae pwyllgor 1 gweithgar a phrofiadol wedi cael ei ffurfio gyda I chefnogaeth Arglwydd Faer y Brifddinas j a'r ( rhan gerddorol bwysig o'r gwasanaeth wedi ei ym- i ddiried i Mr Dyfed Lewis. ( ]

ERLID YR EGLWYS. i ^1

DR. SAUNDERS AC EGLWYS LOEGR.

n, ATEIN GOHEBWYR.