Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

------CALAN HEN YN LLANDYSSUL.

DARKEST WALES.

*' N O DI A D A U.

ERLID YR EGLWYS. i ^1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ERLID YR EGLWYS. i 1 Fel y sylwasom o'r blaen, fod yr Iesu wedi cael ei erlid yn greulawn pan ydoedd yma ar y ddaiar; cyrhaeddodd erlidigaeth ei uchafbwynt yn ei amser Ef torodd holl argaeau digofaint y gelyn- ion duodd wybrenau eu hymddygiadau yn y fath fodd, fel nad oedd cymmaint a phelydryn dosturi yn ymddangos drwy y caddug ac er gofid rhaid dweyd na ddarfyddodd yr ystormydd hyd heddyw ni chiliodd y cymylau pygddu fu ( yn tywyllu cylchoedd moesoldeb ni attaliwyd y gwlawogydd, ni thawelodd rhuadau cornwynt- oedd llid a brad yr ymosodwyr m ddystawodd y taranau brochus; ni ddiffoddodd mellt eu cynddaredd ni lonyddodd y rhyferthwy ofnadwy fu yn ymchwyddo gynt, ac ni chliriodd yr awyr- gylch eto na. y mae yr arwyddion mor erchyll yn awr mewn llawer o ystyriaethau y mae dialedd yn fyw, ac erlidigaeth ar y maes a'i lygaid eryraidd yn cynniweirio i bob cilfach, yn chwilio am bob gronyn o ddaioni er mwyn ei gael yn ysglyfaeth i'w wane erchyll anniwalladwy, yn llamu ar y maes fel bwystfil anferthol, a'i ruadau yn ddychryn i bob cymdeithas bur a daionus ac wedi colli prif wrthddrych ei ymoaodiadau, a phrif nod ei saethau, sef yr Arglwydd Iesu, rhaid iddo gyfeirio ei gamrau ar ol ei Eglwys ond na, nid teg yw galw hon yn Eglwys o ran hyny, o blegid, medd yr Ymneillduwyr, nid teilwng ei galw felly. Ymddengys i mi fod rhai o'r bJaid hon yn ystyried nad oes un eglwys wirioneddol ar y ddaiar, ond y rhai hyny a gredant mewn Ymneillduaeth. Galwantyr Eglwys yn 'Estrones,' Yr Hen Fam,' a llawer iawn o enwau ereill, yn arddangos yr un ysbryd cul a thrahiius. Pa ham y gelwir hi yn nis gwn. Os ydyw yn Estrones, fel y mynant hwy ein dysgu, pa ham na fyddent yn dangos tipyn o garedigrwydd hyd yn nod wrth 'estron,' a gadael i'r cyfryw i gael chwareu teg i gyfiawnu ei hamcanion daionus, ac mewn gwirionedd, yr ydym yn methu yn lan a chanfod yr ystyr lleiaf yn y gair fel y mae yn cael ei briodoli i'r sefydliad anrhydeddus hwn yn ein plith ond y mae hyn, fel amryw o bethau ereill yn y byd, yn dyoddef llawer o gamdriniaeth y gelyn. Hefyd, nis gwn beth a olygir wrth yr ymadrodd Yr Hen Fam nis gwn oddi wrtho yn sicr ond gallem feddwl ei fod yn awgrymu fod yr Eglwys yn jam i rywun. Ai tybed eu bod am ein dysgu mai hi ydyw 'mam'yr enwadau ereill, a gynnrychiolir gan gynnulleidfaoedd a ymgynnullant i'r gwahanol gapelau Ymneill- duol 1 ac yn wir, credaf fod mwy o briodoldeb yn hyn nag yn yr blaenorol (pe yn enw hefyd). Os felly, ystyriaf fod eu hymddygiadau yn eithafol greulawn at berthynas mor agos ond i beth yr ymresymwn mewn cyssylltiad a hyn ? Onid yw y Gair Dwyfol yn dweyd yn eglur a phendant, mewn hrawddegau cryfion a diamwys, y bydd i'r ferch gyfodi yn erbyn ei mam, &c ? Felly, nid yw yr hyn o gymmer le yn ein gwlad y dyddiau hyn ond darlun ar len yr oes o ystranciau y gwrthwynebwyr. Eto, ym mhellach, gallwn gym- meryd y tri gair hwn, sef Yr Hen Fam,' fel gwawdiaeth ddifloesgni, yr hyn yw yr amcan yn ddiammheu. Dywed y broffwydoliaeth sanctaidd y bydd yr Eglwys ryw adeg yn 'llawen fam plant.' A ydyw yr Ymneillduwyr cenfigenllyd yn ofni fod yr Eglwys yn gwneyd mwy o waith na'r capelau sydd yn britho y wlad 1 a bod argoelion o Iwydd- iant helaethach, cryfach, a llwyrach i ddilyn ei hymdrechion crefyddol ar hyd ein hardaloedd ? Ië, a bod gobaith y gwelir lluosawgrwydd y bob- loedd yn tyru i'w phyrth cyssegredig yn y dyddiau sydd yn dyfod. Os ydyw yr Eglwys yn foddion yn llaw Duw i wella'r byd, i buro moesol- deb, i led&enu egwyddorion y nefoedd ym mhlith y saint, i ddyrchafu dynoliaeth o'i chyflwr darostyngol i dir uwch, i oleuni y nefoedd a swn caniadau yr angylion, a chwmni y rhai a ber- ffeithiwyd, pa ham na chaiff lonydd i fyned rhag ei blaen yng ngoleu Duw'r lluoedd i ddiwygio y byd anystyriol, ac i helaethu terfynau y deyrnas,' yn lie crochfloeddio yn ddi-daw, I lawr Eglwys rhodder ffordd agoredi ddadgyssylltiad a dadwaddoliad i gymmeryd a llawer o ym- adroddion cyffelyb, sydd fel hunllef arnom yn barhaus neu megys brathiadau gwenwynig yn gweithio drwom, gan ddulurio pub teimlad ystyriol, ac achosi anesmwythyd ynom beunydd. Neu, os nad ydyw yr Eglwys yn bur yn eu golwg, nac yn cyflawnu ei gwaith yn deilwng, ai nid doethach fuasai cynnyg rhyw gynllun er mwyn ei pherffeithio 1 Onid yw y blaid Rhyddfrydig yn honi ei bod am wella'r byd, a lledaenu egwydd orion uniondeb a gonestrwydd ym mysg y werin ? Os felly, beth yw y rheswm na fuasai yn gwneyd cynnyg at wella'r sefydliad hwn, yn lie ceisio taflu llwch a llaid i'w lygaid yn barhaus, a'i bardduo a, phob math o eiriau cas a digllawn ? Ah mi welaf mai dyma ei gwaith, ac nid fel y myn broffesu ei bod yn amcanu lledaenu union- deb ac hyrwyddo eyfiawnder; lladd yr Eglwys a'i chladdu o'r golwg am byth i'w ei hamcan rhaid cael hon o'r ffordd, ac wedyn, pwy a wyr, wedi iddynt lwyddo i gael pen y gymdeithas efengylaidd hon i lawr, na fyddant yn ymosod ar y Gwirionedd ei hun mewn canlyniad ? Y mae amcanion y drygionus yn cyrhaedd ymmhell, hyd y drydedd a'r bedwaredd g-enedlaeth, ac yn llawer ym mhellach. Felly gwelwn mai y drwg yw yr unig achosydd i'r gwaith aflan ac annuwiol hwn sydd yn cael ei gario ym mlaen ar hyd ein gwlad. Yn awr, ymofynwn am fanylion y gweithred- iadau hynod hyn, a cheisiwn olrhain symmudiad- au yr erlidwyr dilynwn y gelynion er mwyn gweled eu dichellion. Pwy ydynt ? ac 0 ba Ie y daethant 1 Gweinidogion Efengyl, diaconiaid y capelau Ymneillduol, athrawon yr Ysgol Sul, arweinwyr canu y cyssegr, aelodau crefyddol, aelodau y Cynghor Sirol, amaethwyr a thafarn- j wyr Dyna y rhai sydd yn y fyddin wrthddeg- ymol. Y mae yn syn genym weled rhai yn meddu safle mor bwysig, yn troi mewn cylchoedd mor 1 anrhydeddus, yn ymddarostwng i gyfiawnu y 1 fath chwareuon plentynaidd. Onid yw yn an- j noethineb mawr mewn rhai a elwir yn'weini- dogion yr Efengyl,' sydd yn proffesu eu bod yn < amcanu diwygio ybyd, puro eymdeithas, dyrehaiu ( moesoldeb, amddiffyn rhinwedd, a lledaenu 1 athrawiaethau Cristionogol ar hyd y wlad, ie, j y rhai sydd yn honi eu bod yn pleidio crefydd yr Arglwydd lesu, yn disgyn i lawr i barthau isaf' 8 yniddygiadau yr oes, i gydgerdded a'r meddwon, I y cablwyr, y tyngwyr, a phob cymmeriad aflan ac a annuwiol, sydd yn ymdeithio yn fintai gref i ddiddymu v degwm, i ddileu yr Eglwys dan fantell rhagrith a chenfigen ? Credwn y byddai yn r ddoethach i'r tipyn pregethwyr hyny i aros g gartref yn eu capelau, i geisio dysgu eu gwran- t dawyr yn athrawiaeth yr Arglwydd, ac ymdrechu J. dangos truenusrwydd cyflwr eu haelodau crefydd- ol twyllodrus. i Pe buasai rhai o genadon (?) y Goruchaf yn j defnyddio yr amser a dreuliallt gyda 4 Rhyfel y I DeiiWm i ddiwyllio eu meddyliau, i goethi eu t syniadau, i efrydu Gair Duw, i fyfyrio meddyliau yr Anfeidrol, a myned i fewn i cyssegr sanct- eiddiolaf gwybodaeth, yn lie cerdded meusydd r Belial a'i hiliogaeth, credwn y byddai yn fantaiB j t mnhraethol i lawer 0 honynt dichon y deuent rn fwy cymhwys i'r gwaith a gymmerant arnynt i gyfiawnu wedyn ac ef allai y caem ganddynt 'ywbeth tebycach i bregethau nag a roddant yn jyffrediu rhywbeth mwy sylweddol, mwy iaehus I buddiol. Condemnir yr Eglwys yu ei gwaith 711 defnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin, &c. Yn licr credaf fod yr arferiad hono yn llawer iawn nwy iachus a phur nag arferiad rhai o'r crach- iregethwyr Ymneillduol yn y dyddiau hyn. Nid iregethu a wnant, ond siarad Jawer pryd idrodd ystoriau yn gymmysg ag ambell i adnod jentyru geiriau hirwyntog, gweigion, adisylwedd, fdynt yn dystion o ddiffyg synwyr, neu ddiffyg nyfyrdod y mae y naill a'r llall mor anghym- neradwy gilydd. Y mae clywed rhai o'r bodau urddasol (?) hyn awer pryd yn ddolur calon i ni. Pa reswm sydd 'w roddi dros arferiad rhai o honynt wrth jregethu yr Efengyl yn llusgo ymadroddion 3nllibas am yr Eglwys i fewn i'w cyfansoddiadau pregethwrol, megys y rhai byny a glywais gan un Vr cyfryw er ys tro yn ol o un o'r pwlpudau Y mneillduol, pan y dyferai allan dros ei wefusau y fath fliloreth a hyn :—" Y mae y degwm fel maen tramgwydd yn y wlad ar ffordd crefydd- wyr." Y mae yr Eglwys fel hen dlotty, lie matt pob dyn afiach yn y ffydd yn cael rhedeg iddo." "Dymchweler y degwm, a bydd heddweh yn eyrnasu." Tyner Babilon i lawr y mae yn iros fel darn o adfeilion un o adeiladau yr oes- jedd tywyll," &c. Dyma rai o'r pethau sydd a. myn'd ynddynt yr adg bresennol, yn ol barn rhywrai. Ai ni ellir cymhwyso yr ymadroddion jchod at amryw o gymmeriadau y crefyddwyr a fegir yn y capelau ? Jredaf y gellir gyda phriod- Jldeb mawr. Y mae'r degwm yn faen tramgwydd rywrai, o blegid clywais fod llawer un wedi cael 5wympiadau erchyll wrth frwydro yn Rhyfel y Degwm. Nid oes angen dywedyd pa fodd, canys :e wyr y mwyafrif o ddarllenwyr y JOURNAL mai myned yn rhy agos at yr hen faril' a wnant yn rynych, ac nis gallwn gredu yn wahanol i'r brawd nwnw a ddywedai wrthym fod y rhan luosocaf mynychu y cynnulliad gwrthddegymol er nwyn y bol; 'duwiau y rhai yw eu bol, a'u jogoniant yn eu cywilydd.' 08 ydynt yn ystyried vr Eglwys fel hen lie mae pob dyn yn y ffydd yn cael rhedeg iddo, onid yw hyny yn awgryrru fod gyda'r enwadau Ymneill- iuol ddynion afiach yn y ffydd ? Oe felly, y maent yn ffol iawn i dynu yr hen dlotty' i lawr. [ ba le yr aiff clefion y capelau am noddfa wedyn ? Ha y mae gan yr enwadau Ymneillduol bobl ifiach yn sicr, a gwn am ran luosog o'r cleifion wedi cael eu hanafu yn dost yn Rhyfeloedd y Degwm ac eto, eu harwain i'r ymgyrch wrth- ddegymol yw gwaith eu gweinidogion yn barhaus. o fugeiliaid anffyddlawn ac angharedig, yn t.ywys y praidd ar lwybrau dinystr, yn eu gyru i'r anialwch i ganol y dreigiau a bleiddiaid uffernol, yn derbyn cyflogau mawrion ganddynt, am eu camarwain i ddistryw, ie, yn gwledda ar frasder eu eyfraniadau, Be eto yn newynn eu heneidiau hwy yn wastadol! !—LLYWARCH LLWYD,

DR. SAUNDERS AC EGLWYS LOEGR.

n, ATEIN GOHEBWYR.