Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

GWYNIONYDD YN EI FEDD!

SHON GORPH MEWN GWEWYR YM…

DARKEST WALES.

GORC HESTION YR OES.

MARWOLAETH Y DUC O CLARENCE.

BWRDD YSGOL LLANEGWAD A BRECHFA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD YSGOL LLANEGWAD A BRECHFA. Syit,-Cynnaliodd y Bwrdd uchod eu cyfarfod misol cyffredinol dydd Gwener diweddaf yn ysgoldy Felingwm, pryd yr oedd yn bresennol y Meistri W. Evans, Monachdy (yn y gadair) J. Griffiths, Cross Inn J. Griffiths, Ffynnon- dwrch J. Jones, Brisken J. Thomas, Troedy- rhiw Charles, Llangathen J. Davies, Lletty'r- gofid; a J. Davies, Waungranod. Derbyniwyd llythyr oddi wrth manage)- ysgol Brechfa yn cym- meradwyo fod cloch i gael ei phwrcasu at wasan- aeth yr ysgolfeistr yno, ar gynnygiad Mr J. Griffiths, Ffynnondwrch, yn cael ei eilio gan Mr Evans. Penderfynwyd fod y mater) n cael ei ymddiried i'r managers yn Brechfa. Daeth cais i law oddi wrth y Parch. D. M. Jones, Rector Brechfa, yn gofyn am fenthyg yr ysgoldy yno i gynnal cyngherdd. Gan nad oedd y cais ond wedi ei arwyddo gan y Rector, penderfynwyd, ar gyn- nygiad Mr J. Griffiths, Ffynnondwrch, yn cael ei eilio gan Mr J. Jones, fod y cais yn cael ei roddi ar dderbyniad nodyn wedi ei arwyddo gan dri boneddwr yn boddloni gwneyd i fyny am unrhyw golled i'r Bwrdd a ddichon gael ei wneyd i'r adeilad, Ar gyntiygiad Mr Griffiths, Ffynnon- dwrch, yn cael ti eilio gan Mr Evans, penderfyn- wyd fod rhyddid yn cael ei roddi i ysgrifenydd y Bwrdd i ganiatau benthyg yr ysgoldai i gynnal cyfarfodydd etholiadau seneddol ar yr un telerau ag a enwyd uchod, sef tri boneddwr yn gyfrifol am unrhyw golled, a hefyd coron o dal am bob cyfarfod, yr ysgrifenydd i fod yn gyfrifol i'r Bwrdd am yr arian. Arwyddwyd cheques yn ffafr trysorydd ysgol Cwrt Henri, a Mr Thomas Thomas swyddog ymweliadol y Bwrdd (attendance officer).- Y r eiddoch, JOHN GRIFFITHS. Ffynnondwrch House, Nantgaredig.

4 DIRAGrFARN.' j ---"7

PAN FO'R HAUL YN MACHLUDO.

CRAIG Y DAREN.

[No title]